Y diweddaraf o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Goffa.
(O rifyn Ionawr 2015)

Bydd llawer ohonoch yn cofio gweld datganiad Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, yn y wasg ar Ragfyr 17eg yn cyfeirio at gynlluniau’r Betsi ar gyfer adeilad yr Ysbyty Coffa. Rhag ichi gael eich twyllo, cyfeirio at yr
un cynlluniau yn union oedd o ag a gafodd eu llunio gan y Bwrdd Prosiect ddwy flynedd yn ôl.
Felly, pam deud yr un peth eto ond mewn geiriau gwahanol, fel petai’n rhoi rhyw anrheg Nadolig hael inni? A pham gneud y datganiad hwnnw ddiwrnod yn unig cyn i’r Senedd gau dros y gwyliau, sef yr adeg y mae gwleidyddion Llundain yn ei alw yn ‘
graveyard period’? Hen dacteg warthus ac annemocrataidd ydi hon gan weinidogion y Llywodraeth, er mwyn gwarafun cyfle i aelodau etholedig herio eu cynlluniau amhoblogaidd.
Ar Radio Cymru, ychydig cyn y Nadolig, roedd ein haelod ni yn y Cynulliad yn traethu’n huawdl iawn ar ryw fater neu’i gilydd oedd yn bygwth y drefn ddemocrataidd ym Mae Caerdydd. Byddai’n rhaid cynnal refferendwm ar beth felly, meddai, gan mai dyna’r ffordd ddemocrataidd o weithredu. Ac roedd o yn llygad ei le, wrth gwrs! Wedi’r cyfan, onid dyletswydd gwleidyddion o bob plaid ydi cynrychioli llais a lles y rhai sydd wedi eu hethol nhw i’w swyddi yn y lle cyntaf, yn hytrach na dilyn eu mympwyon a’u hamcanion hunanol eu hunain?
Ers iddo gael ei benodi yn 2013 i’w uchel (ac arswydus) swydd, mae Mr Drakeford wedi derbyn 9 o lythyrau maith a manwl oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn yn tynnu ei sylw at broblemau’r ardal hon o ganlyniad i benderfyniadau trychinebus y Betsi. Fe gaed rhyw fath o ymateb oddi wrtho i’r llythyrau hynny, ond dewis anwybyddu’r dadleuon mae o wedi’i neud, dro ar ôl tro, gan guddio tu ôl i’r esgus ‘
Wna i ddim ail-agor materion y cafwyd cytundeb arnynt yn lleol.’ Cytundeb gan bwy yn lleol, felly?
Yn sicr nid gan drwch poblogaeth yr ardal hon!
Fel swyddogion y Betsi, mae yntau hefyd yn dewis troi clust fyddar i lais y werin bobol trwy anwybyddu protestiadau cyhoeddus a ralïau, a chanlyniadau holiaduron, deisebau a dau refferendwm. Mewn geiriau eraill, mae’r Gweinidog Iechyd yn wfftio at y drefn ddemocrataidd y mae Dafydd Elis Thomas (o bawb!) yn dadlau mor gryf o’i phlaid!
Dros y deunaw mis diwethaf, mae Mr Drakeford wedi derbyn cymaint â 5 cais i gyfarfod dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn ond er inni gynnig mynd i lawr i Gaerdydd i’w weld, gwrthod mae o wedi’i neud bob tro. ‘
It would not be appropriate for me to meet the Defence Committee to discuss this matter’, meddai, ond heb byth egluro pam. Sy’n profi bod Dafydd Elis Thomas unwaith eto’n iawn i awgrymu nad ydi rhai gwleidyddion yn gwybod ystyr y gair ‘Democratiaeth’, neu mi fydden nhw’n barotach i roi lles eu hetholwyr o flaen unrhyw amcan personol arall.
.................................
Sawl gwaith sydd raid taro’r post er mwyn i’r pared glywed?
Oherwydd bod nifer y cwynion y cawn ni glywed amdanynt yn cynyddu o wythnos i wythnos, yna mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi penderfynu trefnu cyfle i bawb ohonoch, sy’n dymuno hynny, gael cofnodi unrhyw gŵyn(ion) ar daflen arbennig, ac i ganmol hefyd, wrth gwrs, os mai dyna’ch dymuniad.
Ar Ionawr 18fed, dair blynedd union yn ôl, fe bleidleisiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gau ein Hysbyty Coffa a rhuthro i neud hynny’n syth wedyn er mwyn cael trosglwyddo’r nyrsys a’r staff i gyd i lawr i ysbyty newydd Alltwen, fel ffordd hawdd o ddatrys y problemau staffio dyrys yn fan’no. Ac fel y gŵyr pawb ohonoch, bellach, dyna pryd y cychwynnodd problemau’r ardal hon.
Yn ystod y dair blynedd a aeth heibio,
ydi pethau wedi gwella yn eich barn chi? Er enghraifft, pa mor fodlon ydych chi efo’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y Practis Meddygon ers i’r Betsi gymryd gofal o hwnnw? Beth am hwylustod neu anhwylustod trefnu apwyntiad Pelydr-X yn Alltwen neu dderbyn triniaeth mân anafiadau neu driniaeth ffisiotherapi yn lleol yn Stiniog?
Beth yw’r anawsterau i chi, bobol Dolwyddelan a Llan, ymweld â’r feddygfa yn Blaenau? Beth mae’n ei olygu i rai ohonoch orfod teithio i Alltwen neu Ddolgellau, a hyd yn oed i Bryn Beryl neu Gaernarfon, i ymweld ag anwyliaid sy’n gleifion-tymor-hir yn yr ysbytai hynny?
Os oes gennych gŵyn o unrhyw fath, bach neu fawr, yna, da chi, manteisiwch ar eich cyfle i’w chofnodi hi.
I’r pwrpas hwn, bydd y Pwyllgor Amddiffyn yn trefnu cyfleon ichi lenwi’r ffurflen gŵyn, os mai dyna’ch dymuniad.
Mae’r Mid Wales Health Collaborative Board, sef y Bwrdd sydd, ar hyn o bryd, yn ystyried ffyrdd o ad-drefnu ac o wella’r gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru, yn dangos cryn ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal hon, sef Ucheldir Cymru ac, yn ôl a ddeallwn, maen nhw’n bwriadu cynnal dwy sesiwn eu hunain yn nhre’r Blaenau ar
Chwefror 11eg (pnawn a min nos), er mwyn rhoi cyfle i chi, bobol yr ardal, gael deud eich deud unwaith eto. Felly gwnewch nodyn o’r dyddiad oherwydd, ar yr un diwrnod, bydd y Pwyllgor Amddiffyn yn dosbarthu ffurflenni i bwy bynnag fydd â chŵyn i’w gneud.
Mae’n arwyddocaol bod y Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC) hefyd yn bwriadu anfon cynrychiolwyr i Stiniog ar Chwefror 9fed. Felly, os oes gennych chi deimladau cryfion ynglŷn â’r sefyllfa, yna mae mor bwysig eich bod chi’n manteisio eto ar eich cyfle!
Go brin y bydd cyfle arall ar ôl hwn.
Gyda llaw, nid pawb sy’n prynu nac yn darllen Llafar Bro, felly rydym yn gofyn ichi neud gwaith cenhadu ymysg y bobol hynny, i’w siarsio nhwtha hefyd i fanteisio ar eu cyfle. Diolch o galon.
GVJ