28.3.19

Antur Stiniog: Llawer mwy ‘na llwybrau beics

Ychydig o hanes a gobeithion yr Antur at y dyfodol, wedi'i addasu erthygl yn rhifyn Chwefror 2019.

Mae Antur Stiniog wedi hen sefydlu ei hun yn ardal Blaenau Ffestiniog ers dros ddegawd bellach a priodol fyddai atgoffa’n hunain a’r ardal ychydig o’n hanes, rhai o’n cynlluniau a gwahodd syniadau i gyd-weithio wrth edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol.

Llun Adrian Bradley

Sefydlwyd Antur Stiniog fel menter gymdeithasol yn 2007. Fe’i sefydlwyd i feithrin uchelgais, ysbrydoli a chreu cyfleoedd i bobl leol fentro a llwyddo yn yr ardal. Gweithgareddau Awyr Agored oedd y sbardun gwreiddiol. Ar noson Goleuo ‘Stiniog  yn ôl yn 2007 fe dderbyniodd y fenter 2000 o addunedau o gefnogaeth gan drigolion y Fro oedd yn rhannu’r un weledigaeth:
“Datblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol”.
Ers hynny mae’r Antur wedi tyfu o fod yn llwyr ddibynnol ar grantiau oedd yn cytundebu gweithiwr hunan cyflogedig rhan amser, ac un Swyddog Datblygu rhan amser drwy gynllun Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw.

Erbyn heddiw mae 11 aelod o’r gymuned leol (Cyfarwyddwyr Gwirfoddol) yn llywio a goruchwylio’r gwaith, ac rydym yn cyflogi oddeutu 20 o drigolion efo trosiant yn agos at £400,000 yn flynyddol (2017) gyda 90% o’r incwm yma yn cael ei gynhyrchu o ganlyniad i weithgareddau economaidd ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ôl adroddiad  a wnaed ar y cyd gyda rhwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog mae’r Antur yn llwyddo i gyfrannu 33% o’n trosiant i’r economi leol.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae’r fenter wedi cyflawni nifer o amcanion oedd yn unol â’i weledigaeth wreiddiol. Ymhlith ein llwyddiannau mae agor llwybrau beicio mynydd ar lethrau'r Cribau ger Ceudyllau Llechwedd, ac yn dilyn cau Canolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol yng nghanol y stryd fawr, bu i ni brynu a sicrhau perchnogaeth gymunedol o’r unedau gwag ac agor siop a chaffi yn gwerthu nwyddau a chrefftau lleol, offer awyr agored, yn ogystal â chynnig gwasanaeth canolfan wybodaeth i ymwelwyr a thrigolion lleol.

Y nod wrth symud ymlaen ydi cryfhau a datblygu'r cynnig yn ymestyn o ddatblygiadau pellach o ran llwybrau beicio mynydd, datblygu'r elfen hyfforddiant awyr agored, prentisiaethau i bobl leol a chyd- weithio efo chymdeithasau megis y Gymdeithas Hanes leol. Rydym am gefnogi a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog a chydweithio pan fo cyfle gyda rhwydwaith o fusnesau preifat y Fro sydd wedi gwreiddio yn, ac yn gweithredu er mwyn ein cymuned.

Mae 2019 yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous. Yn ystod mis Mawrth cychwynwyd y gwaith o adeiladau llwybrau beicio newydd fydd yn addas i ddechreuwyr a rhai sydd am fentro i hyfforddi, ynghyd a datblygiadau pellach yn y ganolfan feicio. Bydd y datblygiadau yn tanlinellu ein statws fel un o ganolfannau beicio lawr allt gorau’r wlad.

Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio ac ail edrych ar botensial datblygu llwybr beicio a cherdded Llyn Tanygrisiau a datblygu'r hen reilffordd rhwng y Blaenau a Thrawsfynydd er lles y gymuned.

Y Cribau a chaffi'r ganolfan feicio. Llun- Paul W
Rydym am greu cyfleoedd a mentrau o’r newydd drwy gefnogi a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog a chydweithio pan’ fo cyfle efo asiantaethau a busnesau preifat y Fro sydd yn gweithredu ac wedi gwreiddio yn ein cymuned.

Yn ddiweddar mae’r Antur wedi derbyn trosglwyddiad eiddo gan Gwmni Cymunedol Adwy ac felly mae gwerth yr asedau y mae Antur ‘Stiniog wedi llwyddo trosglwyddo i berchnogaeth gymunedol oddeutu £1.4m. Rydym wedi cynhyrfu efo potensial i ddefnydd cymunedol o’r adeiladau yma ac yn awyddus i rannu syniadau ar ddatblygu'r eiddo er lles yr ardal. Sut y cawn ni eu gwarchod yn llwyddiannus ar gyfer y dyfodol tra ar yr un pryd cael y gwerth cymdeithasol gorau o’u defnyddio heddiw? Rydym am wrando ac ymateb i ddeheuad a gofynion ein cymuned.

Bellach mae’r sector cyhoeddus yn crebachu, buddsoddiad cyfalaf preifat allanol yn cilio a bydd datblygu diwydiant trwm a’r cryfder economaidd cymharol a ddaeth i’r Blaenau a’r fro yn ei sgil yn anodd yw ail-greu i’r dyfodol. Mae’n holl bwysig felly ein bod ni yn unigolion, yn fentrau a busnesau'r dref yn gweithredu ar y cyd. Beth am gefnogi ein gilydd wrth feithrin ysbryd o fentergarwch cymunedol a datblygu cynlluniau o fudd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol?
Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n hieuenctid a’n bro.

Bellach mae sawl galwad o gyfeiriadau gwahanol am strategaeth datblygu economaidd ystyrlon ar gyfer gogledd orllewin Cymru. Bu ffocws y drefn sydd ohoni ar ddenu cwmnïau cyfalaf mawr i’r rhanbarth ond erbyn hyn mae cydnabyddiaeth yn tyfu fod angen cynllun newydd i sicrhau ffyniant ein cymunedau a datblygu ymateb lleol i’r heriau. Mae methiannau datblygu economaidd y gorffennol wedi gadael ein cymuned ymysg y tlotaf yn economaidd yn Ewrop a hynny er bod yr ardal wedi, ac yn dal i greu cyfoeth anferthol ym meysydd megis ynni a thwristiaeth.

Teg gofyn y cwestiwn; Lle mae’r holl gyfoeth yma’n mynd?

Rydym wedi hen arfer dechrau wrth ein traed yma, ac mae nifer yn edrych eto tuag at y fro i rannu gwersi ac am ysbrydoliaeth ym maes datblygu mentrau cymunedol. Rydym eisoes mewn trafodaethau efo cymunedau Nantlle ac Ogwen i ddysgu oddiwrth ein gilydd a rhannu syniadau ac ymarfer da.

Yng nghanol yr holl lymder, mae arwyddion calonogol wrth i rwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog rhyddhau astudiaeth yn ddiweddar yn nodi bod mentrau a busnesau cymunedol y Fro bellach yn cyflogi dros 150 o drigolion lleol ac yn cyfrannu dros £1.5miliwn i’r economi leol. Credwn fod modd adeiladau ar y llwyddiant yma efo cyd-weithio a chefnogaeth briodol gan yr Awdurdod Lleol a’r Llywodraeth.

Wrth weithio efo’n gilydd mae atebion gwahanol yn bosib ac mae angen i ni gyd-weithio a rhoi mynegiant i hyn.
Mae’r atebion gennym ni bobl Bro Ffestiniog.
Rhaid chwalu’r ffiniau anweledig sy’n ein rhwystro ni rhag ymddiried yn llawn yn ein gilydd.

Dim ond un cynhwysyn ym mara brith Bro Ffestiniog ydi menter Antur Stiniog. Heddiw yn fwy nag erioed, mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni ac mae yma gyfle i gyd-greu dyfodol gwell. Credwn yn gryf mai dim ond drwy gyd-weithio a rhannu’r un weledigaeth, partneriaethau a chefnogi ein gilydd mi fyddwn i’n llwyddo.

Os am wybod fwy am ein gwaith, rhannu syniadau  yna dewch draw Siop am banad, ffoniwch 01766 832 214 neu e-bost elin@anturstiniog.com



24.3.19

Trafod Tictacs -Ceri Roberts

Colofn newydd yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog, gan gychwyn efo Ceri Roberts, rheolwr/hyfforddwr tîm pêl-droed Amaturiaid y Blaenau.

Llongyfarchiadau mawr ar eich llwyddiant hyd yn hyn y tymor yma. Er gwaetha’r enw, does ‘na ddim byd yn amaturaidd am drefniadau ac agwedd y tîm ar hyn o bryd: Be ydi’r gyfrinach?
Yn gynta’ diolch o galon i chi, Llafar Bro, am eich cefnogaeth ffyddlon ers y diwrnod cyntaf un. Dim cyfrinach rîli! Trefn, cysondeb a thrio gwneud pob dim mor broffesiynol ac sy’n bosib dwi’n credu sydd wedi bod yn allweddol. Ychwanegu gwaith caled at y 3 peth yna, a dwi’n credu gall llwyddiant ddilyn yn naturiol.

Ceri. Llun- Alwyn Jones
Pan ti ddim yn hyfforddi a chwarae, be ti’n wneud o ddydd i ddydd? Rho ychydig o dy hanes peldroedio hyd yma hefyd.
Er bod yna rhan o bob dydd yn mynd tuag at ddatblygu’r clwb mewn un ffordd neu’r llall, athro Addysg Gorfforol a Diffoddwr Tân rhan amser, yma ym Mlaenau ydw i’n gwneud am fywoliaeth o ddydd i ddydd. O ran yr ochr pêl-droed, rwyf yn dod o deulu pêl-droedio (Bolton Cafe), a dwi wedi llwyddo i ennill sawl tlws efo’r Amaturiaid fel chwaraewr yn y gorffennol, yn cynnwys curo’r ‘dwbwl’ ddwywaith. Mae cyn glybiau eraill yn cynnwys Wolverhampton Wanderers, Porthmadog, Llanrwst a’r Bermo.



Be ydi’r uchafbwyntiau’r tymor hyd yma; oes yna gêm neu gôl neu ddigwyddiad yn sefyll allan?
Mae hi’n anodd dewis un uchafbwynt neu ddigwyddiad - ond yr un sydd yn sefyll allan yw’r fuddugoliaeth oddi-cartref i dîm Mochdre Sports, nôl ym mis Awst. Roedd y sgôr yn 3-2 i Fochdre gyda munudau yn weddill, ond llwyddodd yr ‘ogia i ddod oddi ar y cae gyda’r tri phwynt. Dwi’n credu bod y fuddugoliaeth honno wedi rhoi hyder i gredu bod hi’n bosib curo unrhyw dîm y tymor hwn.

Ar ôl treulio llawer o’r tymor ar frig adran 2 Cynghrair Undebol y gogledd, sut mae cadw traed pawb ar y ddaear wrth baratoi at weddill y tymor?
Gêm ar y tro!! Dyna’r neges ers y gêm gyntaf un tymor yma! Trin pob gêm fel ffeinal, a chwarae teg i’r hogia’ maen nhw wedi gwneud hynny.

Roedd y record cartra’ wedi bod yn ddi-guro ers Ebrill y llynedd cyn colli adra yn erbyn Bae Cinmel ganol Ionawr, sut oedd yr ysbryd yn y ‘stafall newid wedyn?
Wrth gwrs roedd yr hogia’n siomedig, ond beth sydd yn dda tymor yma ydi pob tro rydym wedi colli gêm yn y gynghrair rydym wedi llwyddo i ymateb yn y ffordd gywir, a choelio yn ein gallu ein hunain pob tro.

Wythnos wedyn –mewn gêm gwpan yn erbyn Llangefni, arweinwyr adran 1-  roedd perfformiad y Blaenau yn arbennig.  Er colli (ar ôl amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn),  oeddech chi’n rhannu barn y cefnogwyr  nad oes angen ofni neb yn adran 1 os caiff yr Amaturiaid ddyrchafiad tymor nesa’?
O safbwynt personol, roedd y teimlad o fynd a Llangefni’r holl ffordd i giciau o’r smotyn yn deimlad o falchder enfawr. Canlyniad a pherfformiad sy’n profi pa mor bell rydym wedi dod mewn cyfnod byr. Gallwn nawr 'mond datblygu’n bellach, sydd yn profi fod nad oes angen ofni unrhyw wrthwynebwyr, boed yn y gynghrair yma neu’n uwch!

Mae’r cae yn edrych yn ardderchog ar hyn o bryd, a Cae Clyd ymysg lleoliadau pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru efo’r Moelwynion a Manod Bach yn gefndir, pa gaeau eraill ydych chi wrth eich boddau’n ymweld â nhw?
Does dim ond un dyn i ddiolch am safon y cae - a Bynsan ydi hwnnw! Mae’r oriau o lafur, ym mhob tywydd ar fwy neu lai budget o geiniogau yn anhygoel!! Mae o’n un o fil - ac fel clwb byddwn am byth mewn dyled iddo am ei holl lafur a’i garedigrwydd. O safbwynt personol, roeddwn wrth fy modd yn chwarae ar Y Traeth, yn enwedig pan roedd hi’n gêm rhwng yr Amaturiaid a Porthmadog.

Cae Clyd. Llun- Paul W
Mae wedi bod yn bleser gwylio’r gemau ar Gae Clyd, a’r dorf wedi cynyddu wrthi’r tîm fynd o nerth i nerth. Mae Blaenau’n denu mwy o gefnogwyr na phawb arall yn yr adran (a’r rhan fwya’ o’r timau yn adran 1 o ran hynny!) Sut beth ydi cael cefnogaeth dda, a faint o hwb ydi o i berfformiad yr hogia?
Mae’n deimlad braf iawn gweld pobl ‘Stiniog yn disgyn yn ôl mewn cariad gyda phêl-droed lleol. Mae hi wedi bod yn amser hir iawn ers i ni weld cefnogaeth o’r fath yma ym Mlaenau, ac nid yn unig yn ystod gemau cartref ond y nifer sydd yn teithio i gemau oddi-cartref hefyd. Y cefnogwyr yn aml sydd yn rhoi’r hwb sydd ei angen arnom i guro gêm, felly rydym yn werthfawrogol iawn o’ch cefnogaeth!

Dwi’n cofio dilyn tîm llwyddianus y Blaenau yn yr 80au, ond ychydig iawn o’r chwaraewyr oedd yn lleol. Mae gwylio criw o hogia lleol, Cymraeg,  yn brafiach o lawer. Pa mor bwysig ydi datblygu pêl-droed ar bob lefal yn y gymuned?
Mae datblygu a chodi safon pêl-droed yma yn y Blaenau yn holl bwysig i ddyfodol y clwb. Bellach mae yna gyfle i blant o’r oedran 6 oed i fyny at oedolion (ar wahân i grŵp oedran dan 14)  i chwarae a hyfforddi’n wythnosol yma. Rydym yn cael ein adnabod fel ardal sydd yn cynhyrchu pêl-droedwyr o’r safon uchaf yma yn ‘Stiniog, ond y nod nawr yw cadw’r talentau hyn  i gynhyrchiol ein clwb ni, yn hytrach nag arwyddo i glybiau ein cymdogion.

Dwi’n siwr bod timau eraill yn gwylio llond dwrn o chwaraewyr yr Amaturiaid ar hyn o bryd, ac mae’n amhosib gweld bai ar chwaraewyr talentog sydd isio mynd ymlaen i chwarae ar y lefal ucha’ posib,  ond sut mae cadw’r sêr ar y llyfrau?
Mynd yn ôl i’r cwestiwn diwethaf, mae cadw talent leol yn flaenoriaeth bellach. Y gobaith yw cael ddyrchafiad i Adran 1 tymor nesa, felly drwy chwarae ar safon uwch y gobaith yw bod y temtasiwn i chwaraewyr symud i glybiau yn lleihau, ond petai yna gyfle i un ohonynt chwarae ar safon uwch ac i ddatblygu eu gêm, ni fuaswn yn gwrthod y cyfle yna i unrhyw un ohonynt.

Pwy yn y byd pêl-droed –yn chwaraewyr neu’n hyfforddwyr- ydi dy arwyr di?
Alex Ferguson, Gwilym ‘Penial’ (Taid!)  a Ronaldo (Brasil!)

Mae ambell beth fel gwerthu Tocyn Tymor a chael cwmniau lleol a chefnogwyr i noddi chwaraewyr wedi llwyddo i godi pres yn tymhorau diweddar; oes yna gynlluniau eraill ar y gweill? Sut fedr bobl gyfrannu?
Rydym yn werthfawrogol iawn i’r holl bobl, cwmnïau a chefnogwyr sydd wedi cyfrannu hyd yma. Mae rhedeg clwb pêl-droed yn fusnes drud iawn, sydd efallai yn newyddion i rai. Un o flaenoriaethau'r clwb rwan i’r dyfodol agos yw datblygu cyfleusterau Cae Clyd, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau sydd angen i chwarae yn nhrydedd adran pêl-droed Cymru, erbyn diwedd tymor nesa’.  Felly, y cyfraniad orau gallwn ei ofyn amdano gan y cefnogwyr a’r cwmnïau lleol yw i plîs parhau i gefnogi ni a choelio yn ein prosiect yma ym Mlaenau, sef i ddatblygu’r clwb a’i symud ymlaen.

Diolch yn fawr a phob lwc am weddill y tymor. “Rhowch hél iddyn nhw!”
PW
--------------------------

Ymddangosodd fersiwn fyrrach o'r uchod yn rhifyn Chwefror 2012.



20.3.19

Adeiladau iechyd: adeiladau cymunedol?

O’r Pwyllgor Amddiffyn
Fydd neb yn synnu, bellach, bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhoi’r hen ganolfan iechyd ar werth, yn ogystal â’r cyn clinig ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn, y naill ar bris o £80,000 a’r llall am £60,000, a hynny er gwaethaf gwadu eu bwriad fwy nag unwaith yn y gorffennol.

Cyn belled ag y mae’r ganolfan iechyd yn y cwestiwn, yna efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio erthygl yn rhifyn Tachwedd 2013 yn adrodd:
Y cynllun fydd datblygu adeilad yr ysbyty ac adeilad y Ganolfan Iechyd, gan gynnwys darn y feddygfa. Un gwasanaeth o dan ddau do. Does yna ddim bwriad yn y byd i’w werthu’.















Lluniau GVJ




Ond dŵr o dan y bont ydi peth felly erbyn hyn, wrth gwrs. Pwysicach rŵan ydi dyfodol y clinig ar Ffordd Tywyn, o gofio bod hwn hefyd, fel yr Ysbyty gynt, yn Adeilad Coffa a gafodd ei adeiladu ‘i gadw mewn cof a pharch bob bachgen o’n bro a gollodd ei fywyd yn Rhyfel 1939-45’.
Mae’n ymddangos mai £60,000 ydi gwerth y ‘cof a’r parch’ hwnnw erbyn heddiw, gyfeillion.
         
Bydd yn ddiddorol gweld a fydd y Lleng Brydeinig a’r Ffiwsilwyr Cymreig yn datgan mwy o ddiddordeb y tro yma nag a wnaethon nhw ynglŷn â dyfodol yr Ysbyty Coffa gynt. Siawns bod ‘Cofio’r Hogiau’ yn golygu llawer mwy na saliwtio a gosod torch o’r pabi coch unwaith y flwyddyn?

Ond dyma gwestiwn i bawb ohonom feddwl yn ei gylch:
O ystyried mai pobol Stiniog a gasglodd yr arian i godi’r adeilad yn y lle cyntaf, yna onid y peth lleiaf y dylai’r Betsi, neu’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ei wneud rŵan ydi’r cyflwyno’r adeilad yn ôl i’r gymuned, yn rhad ac am ddim, at ddefnydd y gymdeithas? Byddai’n ddelfrydol fel amgueddfa neu Ystafell Gyfarfod.
Os ydych yn cytuno, yna lleisiwch eich barn cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Waeth heb â chodi pais pan fydd hi’n rhy hwyr.
GVJ

-----------------------


Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Chwefror 2019. Erbyn hyn, mae'r Pwyllgor Amddiffyn a Chyngor Tref Ffestiniog wedi bod wrthi'n trafod dyfodol yr adeilad efo'r bwrdd iechyd ac wedi llythyru efo cymdeithasau a grwpiau lleol. Meddai llythyr gan y cyngor tref:

"Mae pryder mawr yn y gymuned bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bwriadu gwerthu’r hen glinig ffisiotherapi ar Heol Towyn. Adeiladwyd yr adeilad hwn er cof am y 54 o ddynion ifanc o'r ardal a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd trwy gasglu arian gan drigolion lleol, y mwyafrif ohonynt yn chwarelwyr ar gyflogau isel iawn.

Mae'r Pwyllgor Amddiffyn a'r Cyngor Tref bellach wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch dyfodol yr adeilad ac wedi cael gwybod bod y Bwrdd Iechyd yn barod i roi tri mis i ni ddod i fyny gyda defnydd arall ar gyfer yr adeilad er budd y gymuned. Yna byddent yn trafod y syniad gan y gymuned ac yn penderfynu a fyddant yn rhoi chwe mis arall i ni baratoi cynllun ar gyfer dyfodol yr adeilad.

Mae'r Cyngor Tref, mewn cydweithrediad â'r Pwyllgor Amddiffyn, yn awyddus i gwrdd â chymdeithasau a grwpiau lleol i drafod dyfodol yr adeilad ac i geisio cael syniadau ar gyfer defnydd arall o’r adeilad."
------------------------------------

Cafwyd ambell i ymateb diddorol wrth i Llafar Bro holi ar y stryd, er enghraifft:

     * Dwi ddim yn ymddiried o gwbwl yn y bwrdd iechyd i gadw eu gair, o ystyried hanes yr Ysbyty;

     * Mae angen gofal cyn cymryd cyfrifoldeb o'r adeilad gan fod nifer o adeiladau eraill yn brwydro am arian a defnydd yn y dref, fel y Ganolfan Gymdeithasol;

     * Byswn i'n licio gweld amgueddfa fach yno;

     * Bysa fo'n well gwerthu'r lle er mwyn prynu a datblygu hen siop Lewis neu Neuadd y Farchnad...

Be ydych chi'n feddwl? Gyrrwch air!


16.3.19

RALI a RHEW- blwyddyn gyffrous Brei

DIWEDD DA I'R TYMOR RALÏO
Derbyniodd Brian Roberts, (Brei Bach), Blaenau Ffestiniog, dlws ‘Gyrrwr y Flwyddyn’ wedi tymor llwyddiannus yn cystadlu yn y ‘Classic VW Cup’, y llynedd.  Aeth Brei draw i Westy’r Hilton yn Watford ar Ragfyr y 3ydd i dderbyn y gwpan ar y Noson Wobrwyo, diwedd tymor.

Dechrau digon cymysglyd a gafodd wrth iddo fethu’r ras gyntaf ac felly wastad yn trio dal i fyny.  Er hyn, llwyddodd i wneud argraff yn gyson. Gorffennodd yn 10fed yn Brands Hatch ar ôl gorfod cychwyn yng nghefn y grid.  Methodd rhagbrofion weithiau am resymau technegol gyda’r car, ond dal i lwyddo i gael ei enwi fel ‘Gyrrwr Gorau’r Dydd’.

Y gallu i gael canlyniadau da, wrth orffen yn gyson yn y chwech uchaf, a alluogodd Brei i guro’r gwpan.  Y gobaith am y gorffennol iddo yw cystadlu eto yn y gystadleuaeth hon a hefyd ym Mhencampwriaeth Cymru.  Gobeithia’i hefyd rasio mewn un neu ddau o rasus ‘endurance’ o 3 neu 6 awr fel rhan o dîm. 

Mae’r car ym Mryste ar hyn o bryd yn cael ei drwsio yn dilyn damwain yn Caldwell Park ond disgwylir iddo fod yn barod erbyn y tymor newydd.  Cofiwch brynu Llafar Bro i gael y canlyniadau!
 
Cyn hynny, mae amser cyffrous iawn o flaen Brei wedi iddo dderbyn gwahoddiad i fynd i Norwy i gystadlu fel gyrrwr bobsled tîm Prydain yn y 2019 IBSF Para Bobsleigh World Cup

BREI'N EI BOBSLED
Llwyddod Brei ymuno â thîm para-bobsled Prydain ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd eleni, cystadlu mewn dwy ras.  Er nad oedd erioed wedi eistedd mewn bobsled o’r blaen, mae’n llwyddo i wneud argraff ar y llwyfan fwyaf.

Rydym oll yn yr ardal yn ymwybodol fod Brei wedi colli defnydd ei goesau ers blynyddoedd bellach yn dilyn damwain beic modur dychrynllyd ond gan ei fod rŵan yn rasio ceir, mae ei gorff wedi hen arfer gyda’r straen mae bobsled yn ei greu ar y corff.

Brei a'r Ddraig Goch ar ei helmed. (Hawlfraint llun IBSF)
Ar gwrs Olympaidd Lillehammer yn Norwy oedd ei ras gyntaf ble gorffennodd yn safle 14 ar y Sadwrn a 13 ar y Sul. Mae’r cystadlu’n parhau am ddau ddiwrnod gyda dau dro arni pob dydd.  Cyfuniad yr amseroedd sy’n penderfynu eich safle ar ddiwedd y dydd. 

Nid aeth popeth fel y gobeithiwyd chwaith gan fod ei helmed wedi bod yn stemio’i fyny wrth rasio.  “Roedd hyn yn niwsans”, meddai, “mae’r corneli’n cyrraedd mewn fflach ac mae angen llygaid barcud arnoch”.  Doedd hyn heb ddigwydd iddo ynghynt ond roedd hi’n oerach yma na ble buon yn ymarfer yn flaenorol. Er hyn, gorffennodd yn 15fed ar ôl y rhediad cyntaf.  Ni chafwyd gymaint o drafferth gyda’r stemio ar yr ail rediad a llwyddodd i orffen yn 11eg.  Roedd cyfuniad ei amseroedd yn golygu ei fod wedi gorffen yn 13eg allan o 22, ymdrech dda iawn ar ei ddiwrnod cyntaf.

Roeddwn yn amau bysa’r sled yn gallu mynd ynghynt felly bu’m yn gweithio’n galed yn sandio’r llafnau at y dydd Sul yn dilyn namau a gafwyd arnynt ar rew caled y Sadwrn”.

Gwnaeth hyn wahaniaeth pendant wrth iddo fod y 7fed cyflymaf ar rediad cyntaf y Sul.  Yn anffodus bu ei helmed yn stemio’i fyny eto erbyn corneli gwaelod ei ail rediad a gorffennodd yn 14eg.  Cyfuniad yr amseroedd yn ei osod yn y 12fed safle.  Ymdrech dda iawn wir ac roedd Brei wedi ei blesio gyda hyn.

Ymlaen wedyn i’r ras nesaf yn Oberhof yn yr Almaen.  Cwrs anodd iawn meddai Brei ac roedd y gyrwyr eraill i gyd wedi cystadlu arno o’r blaen. 

Siomedig iawn oedd y cyntaf ond llwyddais i orffen yn 11eg ar yr ail”.  Cyfuniad amseroedd yn ei roi yn yr 15fed safle.  “Dwi’n hapus iawn efo’n natblygiad hyd yma”, meddai, “roedd y cwrs yn un anodd a llwyddodd i ddal allan ambell ddreifar mwy profiadol na mi.  Dwi ‘di dysgu lot fawr yma”.

Daeth tymor cyntaf pencampwriaeth Cwpan y Byd i ben yn St. Moritz-Celerina yn y Swistir ganol Chwefror. Bu perfformiad cadarn arall ganddo wrth iddo orffen yn 12fed wedi rhediad y Sadwrn a 13eg ar y Sul.


Nid yw’r tîm yn cael ei  ariannu felly mae’n rhaid i Brei dalu costau ei hun.  Llwyddodd i dderbyn ychydig o gymorth noddedig tuag at St. Moritz ond mae’r costau yn aruthrol ac yn anffodus nid oedd yn bosib cystadlu yn Lake Placid yn yr Unol Daleithiau

Y gobaith rwan ydi parhau i gynilo fel y gallai rasio eto'r tymor nesa.

Dymunai'r Llafar bob llwyddiant iddo. Cofiwch fynd i'w dudalen gweplyfr/facebook i gael yr hanes i gyd a sut gallwch wneud cyfraniad. 

----------------------------------------

Addaswyd yr uchod o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Ionawr, Chwefror, a Mawrth 2019. 


11.3.19

Atgofion Pant Llwyd

Pennod olaf cyfres Laura Davies.

Cefais dipyn o hanes diddorol gan Laura Jones, Harlech (nee Edwards, un o dyaid o blant y diweddar Tryphena a William Edwards, Mur Lwyd). Nith i Esther ac a dreuliodd ei phlentndod ym Mhant Llwyd.

Sonia am Jini Owen (cariad Hedd Wyn) a arferai fyw tua rhif 8 neu 9 – dynas dlws iawn a dwy foch goch ganddi – ac fel y byddai yn ei chofleidio, “sut wyt ti Lora Bach,” gyda’i dwy law ar ei bochau.

Pant Llwyd. Llun- Paul W
Tua rhif 10 oedd cartef ei Modryb Gwen, a aeth i Lundain i fyw ar ôl colli ei phlentyn, Gwendoline. Dwynai ar gof fel roeddent fel plant ofn wrth glywed swn cenfaint (gyr) o ferlod mynydd llwydion yn rhedeg i lawr Allt Bwlch ‘Wfa. Symudwyd y merlod o’r mynydd i borfeydd y dyffrynoedd yn yr hydref.

Ar ochr ffordd Cae Swch clywodd y Sipsiwn yn canu fin nos wrth y tân. Cofia fynd i Ysgol Llan a chofia ei athrawon: Mrs Capten Roberts, Miss Huws a Miss Lisi Jos, ac un o’i cyd-ddisgyblion – Beti Wyn, Siop Isa’. Soniai am y grât, ym mhen pella’r Capel Bach, ac fel y gofalai Miss Naomi Jos fod yna danllwyth o dân bob amser i gadw ni’r plant yn gynnas mewn rhwy gyfarfodydd.

Wrth son am y merlod, rwyf yn cofio Mam yn adrodd fel y byddai’n forwyn yn Nhyddyn Gwyn Mawr efo’i modryb, Sera Williams, tua 1915 yn dod a merlod o’r mynydd – Y Migneint – i lawr i Felen Rhyd Fawr i bori ac i’w gwerthu i fynyd i byllau glo y De.

Byddai’n gorfod rhedeg o flaen y merlod i gau y llidiardau. Roedd wedi llwyr flino ac yn gorfod cerdded adref i Dyddyn Gwyn Mawr wedyn.

Diolch o galon i Sali Ellis, Pant Llwyd, Esther Owen, Califfornia, a Lora Jones Harlech am ragor o hanes diddorol am Bant Llwyd.
---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 1998 (heb y llun).

3.3.19

Cysylltiadau Dalgylch ‘Llafar Bro’ ac America

Rhan o gyfres W. Arvon Roberts, o rifyn Ionawr 2019.

Apêl y Tabernacl
Y Tabernacl (MC), Blaenau Ffestiniog, oedd un o’r capeli mwyaf oedd yn perthyn i Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, ac ynddo y cyfarfu'r gynulleidfa fwyaf a’r eglwys luosocaf rhwng blynyddoedd 1870 ac 1890. Agorwyd y capel a ffurfiwyd yr achos Chwefror 14, 1864. Yr oedd yn mesur 63 troedfedd wrth 51 troedfedd oddi mewn. Cynlluniwyd gan Ellis Williams, Porthmadog. Costiodd y tir, y capel a’r tai, dros £3,700. Ychwanegwyd oriel yn 1869 yn costio £550. Codwyd tŷ ar gyfer y gweinidog yn 1894 ac ail-adeiladwyd y capel yn 1902 ar draul o £1,200. Cafodd y capel ei ddymchwel cyn 1987 ond y mae'r tŷ capel a’r ysgoldy oedd y tu ôl i’r adeilad yn aros fel tŷ annedd.

Llun o dudalen FB Blaenau Ffestiniog, diolch i Evans Ycart


Yn ‘Y Drych’ -papur mwyaf llwyddiannus Cymry America- yn 1916, daeth yna apêl gan John Morris Edwards (1876-1963), 1114 Park Avenue, Utica, ac R. Morris Williams (1884-1950), Wall Street, Utica, yn gofyn am gyfraniadau ariannol ymysg dynion a merched oedd a chysylltiad â Ffestiniog, oedd erbyn hynny wedi gosod eu gwreiddiau yn y Taleithiau, tuag at glirio dyled drom oedd yn llethu Capel Tabernacl yn y flwyddyn honno.

Brodor o Faenofferen oedd J.M. Edwards, yn fab i Morris R. a Mary Edwards. Chwarelwr oedd ei dad, ac yntau hefyd, cyn iddo ymfudo i’r America yn 1907. Ar ôl hynny gwasanaethodd fel clerc stoc mewn banc, yn borthor yng Nghapel Cymraeg Moriah, Utica, ac yna yn argraffydd. Yr oedd yn briod ac Annie (1876-1940), merch i Thomas a Laura Edwards, Dolawel, Ffestiniog. Graddiodd Annie yn athrawes yng Ngholeg Bangor cyn priodi. Yr oeddynt yn rieni i Nesta M. Powell (1908-2002).

Un o Ffestiniog oedd R. Morris Williams hefyd. Bu yn un o olygyddion ‘Y Drych’ o 1912 i 1918. Cyn hynny bu’n ohebydd i’r ‘Scranton Republic’ ar ôl iddo ymfudo i Scranton, Pennsylfania, o Danygrisiau yn 1908. Gadawodd ‘Y Drych’ i ffurfio cwmni argraffu ei hun yn Utica, Efrog Newydd. Yr oedd yn briod a Sarah J. (g.1883) ac yn dad i John P. William (g.1913).

Yr oedd dirwasgiad masnachol y cyfnod wedi dal y Taberncal pan oedd baich trwm o ddyled arni, ac er gwneuthur ymdrechion rhagorol i’w glirio yn 1913, aed i gyfyngder mawr. Felly, yn y sefyllfa, anfonwyd cais am gymorth at David Davies (1818-1890), aelod seneddol Llandinam, ac ymatebodd gydag addewid odidog o £1,000 os casglai'r capel fil arall atynt o fewn tair blynedd.

Ond daeth y Rhyfel Mawr a’i ofynion a’i wasgfeuon, a galwyd y gwŷr ifanc i’r gad, fel mai gorchwyl anodd ydoedd codi £1,000 er yr holl ymdrechion.  Yr oedd yn y Taleithiau lu o garedigion y Tabernacl a’i gweinidog, y Parch. R.R. Morris (1852-1935) a mawr disgwyliwyd y byddai ymateb brwd ganddynt i’w cynorthwyo.

Bu Richard Robert Morris yn weinidog gyda’r Methodistiaid yn Seilo, Caernarfon (1881-93) a Tabernacl, Ffestiniog (1893-1924). Yr oedd yn briod â Catherine Morris ers 1882, ganwyd iddynt bedwar o blant. Daeth i amlygrwydd fel bardd ac emynydd, ei emyn mwyaf poblogaidd oedd ‘Ysbryd byw y deffroadau’. Bu farw ym Metws Garmon, Awst 24, 1935. (Ymysg y 74 o eitemau amrywiol sydd ar gadw yn Archifdy Prifysgol Bangor, y mae ei lyfr casglu at glirio'r ddyled yn y Tabernacl).

Am bob doler a gyfrannwyd tuag at yr apel yr oedd addewid David Davies, Llandinam, yn golygu y byddai yn chwyddo cymaint ddwywaith. Er enghraifft, pe byddai'r Cymry yn America yn anfon $100 o’r America buasai $100 yn dod o Landinam. Meddai dau ohebydd ‘Y Drych’ o Ffestiniog:

Blant Ffestiniog mae yr achos yn deilwng. Mae’r amser yn brin. Nid oes ond rhyw fis neu ddau hyd nes y bydd tymor yr addewid i ben. Rhaid gweithredu ar unwaith.

-----------------------------------
I'w barhau...