24.11.12

Newyddion Ysgol y Moelwyn

Darn o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2012



Merched yn dangos y ffordd
Mae tîm o ferched wrthi yn brysur iawn yn yr ysgol ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth Fformiwla 1 mewn ysgolion.  Mae Gwenno Huws, Branwen Williams, Lili Jones, Llio Jones a Shauna Jones wedi bod wrthi yn cyd-weithio gyda Mrs Gwenllian Roberts, a llawer o gwmnïau lleol er mwyn cynhyrchu car bychan tua maint esgid. Byddant yn mynd â’r car yma i’r  gystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor ble bydd ganddynt gyfle i fynd ymlaen i Lundain neu  Birmingham.   


Pob lwc gyda’r paratoi a’r 
cystadlu genod!


18.11.12

"Llifa amser..."



Darn arall o rifyn Tachwedd:

Bydd teyrnged i’r diwydiant llechi yng Nghymru, y chwarelwyr fu ac sy’n parhau i fod yn rhan greiddiol ohono, yn ganolbwynt teilwng i gynllun adfywio’r dref.

Mae’r gwaith trawiadol yn cynnwys Afon Dwyryd, yr afon a ddefnyddiwyd i gludo’r llechi o Flaenau i’r arfordir cyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog. 

Y bardd Gwyn Thomas sy’n gyfrifol am gyfansoddi darn o farddoniaeth arbennig ar gyfer yr afon lechi.

“Llifa amser yn ei flaen,
 A llifa dŵr:
 Ni lifa bywyd creigiwr.”

12.11.12

Calendr y Cymdeithasau, Tachwedd a Rhagfyr

Llwyth o bethau ymlaen eto...
Dim esgus o gwbl dros bydru o flaen y teledu rhwng rwan a'r Nadolig!
Gyrrwch fanylion atom os hoffech ychwanegu at y rhestr




Tachwedd  
13 –FFAIR LLAN

 16- NEUADD GELLILYDAN– Cwis a lobsgóws

 17 –Lansio llyfr Gwyn Elfyn. PENGWERN

9.11.12

Colofn y Pigwr

Blas o golofn reolaidd Y Pigwr:  dos iach o optimistiaeth y mis hwn! 
Gallwch weld yr erthygl yn llawn yn rhifyn Tachwedd.


Mae'r cynllun adnewyddu yng nghanol tref y Blaenau yn dirwyn tua'r terfyn erbyn hyn, a'r newidiadau i'w gweld yn glir. Mae'r pileri llechi ar safle wal yr hen Bont Cwîns gynt yn drawiadol, ac yn ffocws newydd i Sgwâr Diffwys, fel ag y mae'r palmantu newydd. 

Gyda hyn, mi fydd byrddau dehongli yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr o hanes a daearyddiaeth yr ardal, yn cael eu harddangos mewn amrywiol safleoedd o amgylch y dre'. 

Heb os, mi fydd yn atyniad newydd, gwerth chweil i ymwelwyr i'r dre', ac yn cyfleu agwedd fodern o gefndir diwydiannol prifddinas chwareli'r byd.


 
Mae'r llwybrau beiciau'n brysur ddod yn atyniad fyd-enwog, diolch i weledigaeth rhai o'n pobl ifainc.



 

Ac wrth sôn am weledigaeth pobl ifainc, dim ond gobeithio y gwelwn eni sefydliad newydd yn fuan i gymryd lle Cymunedau'n Gyntaf, sydd wedi dod i ben. Bu'r criw ifainc, hynod weithgar hynny, yn gymorth mawr i nifer o sefydliadau yn y dre', a'n dymuniad, yn wir, yw y bydd pob un ohonynt yn ymwneud ag adfywiad Blaenau Ffestiniog yn fuan eto. 
 
Diolch ichi, o waelod calon am eich ymdrechion drosom, griw annwyl Cymunedau'n Gyntaf!


7.11.12

Rhifyn Tachwedd 2012

Mae rhifyn Tachwedd wedi'i blygu, ac ar ei ffordd i'r siopau ac at y dosbarthwyr lleol.


Mae'n rifyn swmpus eto, yn llawn cyfarchion, erthyglau a newyddion eich milltir sgwar. Dyma flas ar be gewch chi am ddwy geiniog y dudalen; bargen!

Gwarth y Bwrdd Iechyd: y diweddaraf am yr ymgyrch.

                             Colofn y Pigwr: dos iach o optimistiaeth!

Newyddion ysgolion y fro.

                     Stolpia: gwisg Gymreig ar gerdyn post, a chwymp hanesyddol yn y Gloddfa.

Troedio 'nol gyda John Norman: Snwcer yn y Traws.

                                                  Lle maen nhw heddiw? Medwen Roberts

Cofgolofnau a Sul y Cofio.

                      Adloniant y gaeaf

                                  Lluniau

...a llawer iawn mwy!


5.11.12

Diwrnod Golchi!



Hogiau a Genod y Frigâd Dân, tu allan i'w gorsaf, yn golchi ceir i godi arian at Elusen y Gwasanaeth  Tân. 

Ar ddyletswydd oedd Martin Williams, Shane Jones, Kevin Davies, Cari Tucker, Ceri Roberts, Anthony Owen a Neil Tonks.

Cofiwch!
Noson blygu Nos Fercher, am 6.30 yn neuadd y WI.
Ymunwch yn yr hwyl a chyfranwch at y gwaith.
Bydd rhifyn Tachwedd yn y siopau ddydd Iau. 

4.11.12

LLE MAEN NHW?



Llafar Bro yn holi rhai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro i ennill bywoliaeth mewn ardaloedd neu wledydd eraill. Chydig o hanes diddorol Emyr Griffith Davies o Llan a gafwyd yn rhifyn Hydref. Dyma ran o'r erthygl:


Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r wlad ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
Rwy’n dditectif gwnstabl gyda Heddlu Humberside yn Cleethorpes, gogledd ddwyrain Swydd Lincoln.

Beth neu pwy fu’r dylanwad(au) mwyaf arnoch pan oeddech yn ifanc?
Fy rhieni a’m taid a nain oedd y dylanwad mwyaf yn y blynyddoedd cynnar. Dysgodd fy nhaid imi sut i bysgota, yn ogystal â meithrin fy niddordeb mewn Natur ac mewn hanes lleol. Cof arall yw cael teithio am ddim ar ffwtplêt trên bach Stiniog am mai fy ewythr oedd y dreifar.
Y dylanwad mwyaf arnaf yn y cyfnod hwn oedd Mr Bob Morgan. Fo oedd fy athro offerynnol a chyn hir fy arweinydd hefyd pan ymunais â band y Royal Oakeley, ar ôl bod yn aelod efo seindorf y Llan. 

A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimladau, bryd hynny?
Byddaf yn ceisio dod o leiaf unwaith y flwyddyn, pan fydd oriau gwaith yn caniatáu. Dwi bob amser yn ymfalchïo yn fy Nghymreictod, ac yn ein hiaith a’n diwylliant, a byddaf yn aml yn hiraethu am gael byw unwaith eto mewn cymuned glós Gymreig.

1.11.12

Iaith dan draed

Darn gan Tecwyn, golygydd Hydref a Thachwedd, am y dywediadau ym mhalmentydd y Blaenau. (Gallwch ei weld yn llawn yn rhifyn Tachwedd, fydd yn y siopau wythnos i heddiw.)



Un o drysorau cenedl yw iaith wrth gwrs ac fel yr honnodd Emrys ap Iwan,  ‘cenedl heb iaith, cenedl heb galon’. Gellir trosglwyddo hyn i’n hardaloedd wrth gwrs a honni mai tafodiaith yw un o’n trysorau mwyaf ac mae’r ardal hon wedi ei bendithio a thafodiaith a honno ymysg y cyfoethocaf yng Nghymru. 

Priodol iawn felly oedd cynnwys tafodiaith yr ardal yn y datblygiadau sy’n mynd rhagddi yng nghanol y dref ar hyn o bryd. Mae ‘iaith Stiniog’ yw gweld yn ysgrifen ar y llawr ac ar y mur ymhobman o gwmpas canol y dref. Rhywbeth i ymfalchïo ynddo yn sicr ac yn dangos fod y datblygiadau hyn wedi eu hanelu yn gymaint at drigolion Stiniog yn ogystal â’r ymwelwyr bondigrybwyll. 

llun-PW
 Mae mhen wedi troi ar ei echel sawl tro wrth geisio darllen rhai o’r ysgrifau ar eu pen i lawr a symud ymlaen a throi nôl i weld yn union beth a ddywedid ... Yn sicr rwy’n gyfarwydd â’r mwyafrif ond mae amryw yn anghyfarwydd ... mae tafodiaith fel iaith yn newid ac yn addasu yn araf ar hyd yr amser a dyna sy’n ei chadw’n fyw ac yn berthnasol.  A dyna’n sy’n dda yn y rhubanau o lechi ar hyd y palmentydd ... maent yn cynnwys ymadroddion a geiriau cyfoes yn ogystal â’r rheini sydd bellach yn perthyn i oes a fu.

Cyhoeddodd Siambr Fasnach a Thwristiaeth Blaenau Ffestiniog (Blaenau Ffestiniog o’r graig) lyfryn dwyieithog hynod ddiddorol ac mae fel llawlyfr i’r holl brosiect. Ceir llun o’r Stryd Fawr a Heol yr Eglwys a bob un o’r stribynnau wedi eu marcio ac o dan eu rhif gellir cael gafael arnynt yn nhestun y llyfr. Mae’r llyfr am ddim ac yn cael ei ddosbarthu mewn siop a chaffi yn y dref ac mewn sawl lle arall am wn i. O fynd ar safle gwe’r Siambr o dan hanes a diwylliant ceir map Gwgl o’r dref a medrwch glicio ar bob rhif sy’n dynodi'r dywediadau a chael gwybodaeth amdanynt. 

llun-TVJ


Dyma ambell enghraifft:


Croeso i’r Ochr Draw ac yn ôl y llyfryn ystyr hwn yw: Cyn i Gors Mynach, sef Cors Glanypwll, gael ei sychu a’i llenwi efo rwbel chwarel, ‘yr ochr draw’ oedd enw trigolion Rhiwbryfdir a Glanypwll am ran ganolog y dref, a orweddai'r ochr arall i’r gors.

Gan mor gyfnewidiol a thrawiadol y tywydd yn yr ardal hon ac yn destun ymhob sgwrs does ryfedd fod nifer o eiriau a dywediadau cysylltiedig:
Mwrllwch: gair am law mân, neu ryw gymysgedd annymunol o law, niwl, mwg a thywyllwch!

Y Moelwyn yn Gwisgo’i Gap:  ‘Mae’r Moelwyn y gwisgo’i gap does fawr o hap am dywydd’.  Daw i fwrw glaw os daw cymylau dros gopa’r Moelwyn.

BREICHLED O DREF AR ASGWRN Y GRAIG
Llinell enwog o’r gerdd ‘Blaenau’ gan y bardd ac academydd o Danygrisiau, yr Athro Gwyn Thomas, yn disgrifio’r dref i’r dim.