28.3.21

Stolpia -Rhew yn Ffos Cyfiawnder

Atgofion am Chwarel Llechwedd

Dyma barhau ag ychydig o atgofion am yr amser y bum yn gweithio fel ffitar yn Chwarel Llechwedd yn yr 1960au. Y mae gennyf gof o aeaf digon oer yn 1968-69 a bu'n rhaid cael math o declyn taflu fflamau fel rhan o offer y ffitin-siop er mwyn toddi'r rhew yn rhai o'r peipiau haearn a gyflenwai'r dŵr i'r cywasgyddion awyr. Os nad oedd posib cael y dŵr i redeg yn rhwydd i'r cywasgyddion ni fedrid eu rhoi ar waith, ac o ganlyniad, ni fyddai awyr ar gyfer gweithio'r injins tyllu a'r craeniau. 

Gosodid carpiau wedi eu mwydo mewn paraffin o amgylch rhai o'r peipiau a oedd wedi rhewi'n ddrwg, ac wedyn rhoddid y taflydd-fflamau arnynt i ddadmer y rhew ynddynt. Roedd y peipiau yn cynhesu yn dda ond roedd fy nhraed i'n fferru yn yr eira rhewllyd, a'r peth gwaethaf oedd, bu'n rhaid gwneud y gwaith hwn am ddyddiau nes i'r tywydd dyneru.

Gan ei bod yn ofynnol i'r pwerdy ym Mhant yr Afon gael dŵr i gynhyrchu trydan i droi yr holl beiriannau yn y melinau a'r gweithdai, goleuo yr adeiladau, ac ar adegau, troi y rotary convertor a fyddai ar Bonc yr Efail, roedd yn rhaid archwilio'r peipiau mawr a ddeuai i lawr o Lyn Fflags yn rhan uchaf y chwarel, i weld a oedd ambell un yn gollwng dŵr, oherwydd gallai y rheiny rewi hefyd, ac achosi peiriannau'r pwerdy i ffaelu a chreu trafferth fawr i ni'r ffitars, ac i Emrys, a wnai'r gwaith trydanol, hefyd.

Dyma beth a ddigwyddodd i beipiau mawr y chwarel yn ystod gaeaf caled 1947

Credaf mai'r gaeaf hwnnw y bu'n rhaid inni fynd i fyny i Lyn Fflags i racio'r ffosydd a oedd wedi rhewi'n gorn, a thorri'r rhew wrth geg y beipen mewnlif. Pan gyrhaeddasom i fyny yno roedd hi wedi dod yn storm eira ofnadwy ac roedd hi'n anodd iawn cael eich gwynt wrth wynebu'r gwynt a'r eira. Er nad oedd gennym ddillad ar gyfer tywydd arctig, roeddem wedi lapio ein hunain mewn cotiau cynnes, ac roedd gennyf gap gweu a sowester tros hwnnw ar fy mhen a sgarff am fy ngwddw. 

Os cofiaf yn iawn, y criw a oedd i fyny yno yng nghanol y tywydd mawr oedd Emrys fy mos, Robin George Griffiths (y gof), Barry Williams, prentis gof, Ellis Glynllifon, Glyn Roberts (Glyn Caps), a Wil Catleugh. Ar ôl nol y rhaciau, rhawiau a chaib, aeth rhan o'r criw i racio'r ffos a ddeuai o Lyn Barlwyd, ac aeth Emrys, Wil a finnau i geisio torri a llacio'r rhew yn Ffos Cyfiawnder, sef y ffos sy'n rhedeg o gyfeiriad pwerdy Chwarel Maenofferen i'r llyn. Enw da ar ffos, ynte? 

Roedd yn waith digon peryglus, gan ei bod yn llithrig dan draed, ac yn  anodd gweld fawr ddim yn y storm eira. Beth bynnag, bûm wrthi am dipyn wrth y gwaith, ond toc, dyma ni'n clywed bloedd a diawlio, a meddwl yn siŵr bod rhywun wedi llithro i mewn i'r ffos, neu'n waeth, i mewn i'r llyn. Trwy ryw drugaredd, nid hyn'na a oedd wedi digwydd, ond gwynt y storm eira a oedd wedi chwythu helmed Glyn oddi ar ei ben, ac ar hyd rhan go dda o'r llyn fel na fedrai ei chyrraedd. Roedd hi'n dda fod ganddo gap stabal hefyd ar ei ben, neu mi fyddai wedi fferru. Gyda llaw, roedd yr hen Glyn wedi bod yn canmol bod ei ben yn gynnes a sych dan y cap a'r helmed, ond gorfod gadael yr helmed i'r elfennau a fu diwedd y stori y diwrnod hwnnw.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021


24.3.21

Hwb -Sgwrsio ac Adfer

Newyddion o’r HWB Cymunedol

Mi fu'n ddechrau digon rhyfedd i’r flwyddyn newydd gyda’r chyfyngiadau yn ôl mewn grym. Mae’n amser rhwystredig i lawer, ble mae aros adref yn gallu achub bywydau ond ar yr un pryd yn cael effaith negyddol ar yr ysbryd. Mae diffyg gallu gweld teulu, ffrindiau, cymdogion a chyd-weithwyr yn galed a gobeithiwn yn fawr y bydd ein hymdrechion i atal lledaeniad pellach o’r firws y tro hyn yn ddigon i osgoi cyfnod clo arall yn y dyfodol.

HWB - o'r chwith i'r dde- Non, Nina a Lauren

Sgwrs

Er i’r prosiect chwe mis yr oeddem yn ei redeg o fis Gorffennaf 2020 ddod i ben, mae ein cynllun cyfeillio, Sgwrs, yn parhau. Mae’r cynllun yn un gwerthfawr iawn yn sgil yr effeithiau uchod a chroesawn i unrhyw un ymuno fel cyfeilliwr neu fel ffrind. Gall galwad fer wythnosol fod yn gymaint o gysur i rai. Yn ystod y tri mis ers cychwyn y cynllun, gwnaed dros 88 awr o sgwrsio. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch o waelod calon i’r gwirfoddolwyr sydd eisoes wedi cofrestru ac yn gwneud galwadau cyson. Os hoffech chi ymuno â Sgwrs i dderbyn neu i roi galwad, cysylltwch (manylion isod).

Prosiect Adferiad

Rydym bellach yn gweithio ar ein hail brosiect, sef prosiect adferiad, lle byddwn yn defnyddio natur a’r awyr agored fel ffordd naturiol i leddfu rhywfaint ar broblemau cynyddol yr ydym yn eu gweld, fel iselder, pryder ac unigrwydd. Rydym yn eithriadol o lwcus ym Mro Ffestiniog o gael byw mewn ardal mor hardd gyda digonedd o ddewis o lefydd i fynd i ymlacio a denig oddi wrth bopeth. 

Bydd ein cynllun yn cael ei weithredu ar y cyd â gweddill tîm y Dref Werdd gan geisio cynnwys elfennau o’r Pum Ffordd at Les ym mhob cyswllt, sef:

1.    Cysylltu
2.    Bod yn fywiog
3.    Bod yn sylwgar
4.    Dal ati i ddysgu
5.    Rhoi

Ein nod yw gallu cynnig rhywbeth i bawb o bob oed ac rydym yn awyddus iawn i gael eich syniadau chi ar gyfer unrhyw weithgareddau. Ffoniwch neu e-bostiwch (manylion isod).

Rydym hefyd yn gwneud apêl am bobl yn y gymuned fyddai’n hapus i rannu eu sgiliau ag eraill - rydym yn ymwybodol fod ein bro yn llawn o bobl wybodus a thalentog ac yn ystod y cyfnod anodd yma, byddai’n wych pe bai rhai ohonoch yn hapus i wneud sesiynau rhannu sgiliau byr ar-lein, gyda’n cefnogaeth ni wrth gwrs. Gall hyn olygu rhannu straeon am yr ardal, rhannu sgiliau celf a chrefft, unrhyw beth a dweud y gwir!

Cynllun Digidol

Mae ein cynllun digidol hefyd yn parhau felly os nad oes gennych chi declyn ac yr hoffech gael cymorth i fynd ar-lein, cysylltwch.

Os oes gennych ddiddordeb bod yn rhan mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Non ar 07385 783340 neu non@drefwerdd.cymru.
 

Cynllun Gweithredu Amgylcheddol Lleol

Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i Gyngor Gwynedd ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae cynghorau wedi ymrwymo i weithredu er mwyn gostwng eu hallyriadau carbon ac i weithio gyda phartneriaid a chymunedau i daclo’r effaith y mae newid hinsawdd yn ei gael ar ardaloedd lleol. 

Mae’r Dref Werdd am gychwyn gweithio ar Gynllun Gweithredu Amgylcheddol Leol i gael deall beth sy’n bwysig i bobl Bro Ffestiniog a sut i fynd ati i wneud gwahaniaeth. 

 

Os hoffech chi fod yn rhan, cysylltwch â Nina ar 07950 414401 neu e-bostiwch nina@drefwerdd.cymru. Mae croeso i bawb fod yn rhan.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021


20.3.21

Adnewyddu'r Ganolfan

Roedd y Ganolfan Gymunedol yma ym Mlaenau Ffestiniog yn edrych wedi blino ac yn dioddef o flynyddoedd o esgeulustod felly penderfynodd y Pwyllgor (yn cynnwys dim ond 6 aelod) ddefnyddio'r cyfnodau clo i weithio ar yr adeilad.  Mae'r holl waith wedi'i wneud wrth gadw at y rheoliadau cyfyngiadau llym gydag aelodau'r pwyllgor a'r gofalwr yn gweithio ar yr adeilad pan fo'n bosibl o fewn rheolau Covid 19.

Mae'r holl lafur wedi'i wneud yn wirfoddol gan aelodau'r pwyllgor sydd wedi ein galluogi i wneud cymaint o waith.

Erbyn hyn mae'r prif doiledau wedi'u hadnewyddu gyda phaneli wal newydd, lloriau a dodrefn 'stafell molchi newydd - gwnaed hyn yn bosibl drwy'r grantiau hael a dderbyniwyd gan Elusen Freeman Evans a chwmni First Hydro.  


Mae'r brif neuadd wedi'i phlastro, ei phaentio ac mae'r llawr gwreiddiol wedi'i lanhau gan roi golwg hollol wahanol i'r ystafell. Mae ystafelloedd a choridorau eraill hefyd wedi'u haddurno a lloriau newydd wedi'u gosod.
 


Mae'r gwaith yn dal i fynd ymlaen yn yr adeilad a'r gobaith yw y bydd y gwaith ar yr adeilad gwych hwn wedi'i ddarfod a dodrefn newydd wedi'u gosod o fewn wythnosau.
 


Mae’r gwaith ar y Ganolfan yn barod wedi dangos ffrwyth gyda’r bwrdd iechyd yn bwriadu ei defnyddio fel canolfan frechiadau ychwanegol yn ystod yr wythnos nesaf.

I gyd-fynd â'r olwg newydd mae'r pwyllgor wedi newid enw'r ganolfan i Ganolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog. Yn anffodus Ffestiniog Community Association oedd enw swyddogol y ganolfan, a theimlwyd bod yr enw newydd yn adlewyrchu treftadaeth ac iaith yr ardal yn well.

Mae'r Pwyllgor yn edrych ymlaen at groesawu grwpiau a sefydliadau hen a newydd i ddefnyddio'r adeilad yn rheolaidd.  Cofiwch mai ni trigolion yr ardal sydd berchen ar yr adeilad yma gan gynnwys perchnogaeth o’r Ganolfan Hamdden sydd wedi ei brydlesu i Ysgol y Moelwyn ac mae’n haeddu ei barchu a’i ddefnyddio.

AC
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021


17.3.21

Blaen Troed i'r Cynllun Cicio’n Ôl

Ar yr hyn o bryd, mae argyfwng cynyddol yn wynebu pobl ifanc ein cymunedau gyda’n agos i 2,000 o bobl ifanc Gwynedd rhwng 16 a 25 oed yn hawlio credyd cynhwysol neu'n ddi-waith. 

Yn lled diweddar, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi lansio eu cynllun newydd gwerth £2bn sydd yn anelu i greu miloedd o swyddi i bobl ifanc. Ond lle caiff y cyfleon a’r swyddi hyn eu creu? 

Dim ond busnes sy’n cyflogi dros 30 o bobl sy’n gallu ymgeisio am y cynllun yn uniongyrchol! Daw’r lansiad wrth i gwmnïau mawr fel Tesco, Amazon a Surf Snowdonia addo cofrestru. 

OND be am i ni -yn fusnesau, cwmnïau a mentrau cymunedol, dynnu at ein gilydd ac ymgeisio am y gronfa a sicrhau bod talent ac egni ifanc yn aros yn lleol, gan gyfrannu hefyd at economi a bywyd cymdeithasol y fro?


Gweithredu’n lleol.

Mae Cwmni Bro bellach yn cydlynu partneriaeth yn cynnwys Coleg Llandrillo Menai, Cyngor Gwynedd a busnesau a mentrau lleol i blygu a manteisio ar y rhaglen gan greu cyfleon gwaith a gyrfaoedd i bobl ifanc a chyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd y fro yn yr un gwynt. 

Dros yr 18-24 mis nesaf y nod ydi creu rhwng 30-40 o leoliadau gwaith a chyfleon gyrfa newydd i bobl ifanc Bro Ffestiniog o fewn mentrau cymunedol fel CellB, Seren, Antur Stiniog, Y Dref Werdd a busnesau preifat sydd wedi angori yn y gymuned fel Cwmni Original Roofing, Y Gorlan, Edward Jones a’i Fab ac unrhyw fusnes neu fenter leol sydd eisiau cydweithio gyda ni ar y cynllun yma.

Yn ogystal, bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant arbennig yn y gymuned wedi ei lunio gan DOLAN, Cwmni Bro a Grŵp Llandrillo Menai gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar y cynllun.
Cryfder ar y cyd, wrth ymateb i’r her.

Os oes gan eich menter neu fusnes chi leoliad newydd ar gyfer person ifanc, cysylltwch â cwmnibro@cwmnibro.cymru neu ffoniwch 07799 353588 am fwy o wybodaeth. Gadewch i ni weithio efo’n gilydd a rhoi blaen troed cymunedol i raglenni a pholisïau y DU.

* * * * *

Croesawu Staff Newydd
Rydym yn hynod o falch i groesawu a chyflwyno’r criw newydd sy’n ymuno â’r tîm:

Branwen Williams:


Am y flwyddyn nesaf, byddaf yn gweithio gyda Cwmni Bro ar sawl gwahanol prosiect. Mi wnes i raddio o Brifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf, ar ôl dod adref i'r Blaenau ar ddechrau’r pandemig. 

Wedi dychwelyd o’r ddinas, dechreuais werthfawrogi’r teimlad cryf o dreftadaeth a chymuned sydd yma yn yr ardal, ac felly, un o’r prif bethau wnaeth fy nenu at y swydd oedd y cyfle i gael bod yn rhan o’r datblygiadau cymunedol gwych sydd yn digwydd yma. 

Dwi'n edrych ymlaen yn benodol i gael gweithio gyda phrosiect/prosiectau sydd â’r amcan o roi budd i ieuenctid yr ardal leol, gyda phwyslais ar hybu sgiliau a darparu gweithgareddau yn y byd creadigol.


Elfed Jones: 

Fy enw i ydi Elfed Wyn Jones a dwi’n byw yn Nhrawsfynydd. Dwi wedi bod yn gweithio hefo prosiectau gyda Chwmni Bro ers mis Medi, a chyn hynny roeddwn i wedi bod yn rhan o brosiect Byw a Bod gyda’r cwmni. Mae fy ngwaith i gyda’r cwmni yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiect Dolan, sy’n ceisio adeiladu rhwydwaith rhwng cymunedau Dyffryn Ogwen, ardal Penygroes a Bro Ffestiniog a datblygu’r economi sylfaenol ynddynt hefyd. Yn ogystal â Dolan, dwi wedi bod yn gweithio i ddatblygu Ynni Cymunedol Twrog yn helpu rhannu’r neges o’u hamcanion, yn hyrwyddo’r Cynllun Cicio’n Ôl yn paratoi i greu swyddi i bobl ifanc sydd angen gwaith, a hefyd wedi bod yn gwneud dipyn o waith gyda Gwenlli hefo Brocast yn gwneud hysbysebion dros fideo at y Nadolig ac ar gyfer y pantomeim.
 

Pan oeddwn i gyda’r prosiect Byw a Bod, cefais gyfle i ddatblygu syniad roeddwn i’n credu y byddai’n rhoi hwb i’r gymdeithas a’r syniad y canolbwyntiais i arno oedd datblygu cwmni fyddai’n datblygu cynnyrch allan o wlân. Enw’r cwmni dwi’n gobeithio ei ddatblygu ydi Gwlân Gwynedd a Môn, fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar greu compost o’r gwlân gwaethaf a gwlân tocio, a hefyd creu insiwleiddied o’r gwlân da. Rwyf i wedi bod yn ffodus iawn i gael cymorth gan Arloesi Gwynedd Wledig i ddatblygu’r prosiect yma. Dwi’n gobeithio bydd y cwmni yn datblygu i fod yn un llwyddiannus ac yn creu cyfleoedd gwaith i bobl yn yr ardal, a rhoi hwb i ffermwyr sydd wedi bod yn ddioddef oherwydd prisiau sâl gyda gwlân.
---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021



14.3.21

Yr Ysgwrn dan glo

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Ysgwrn deimlo effaith pandemig. 

 

Yn 1918, derbyniwyd newyddion erchyll o Seland Newydd, bod Dafydd, ail fab Yr Ysgwrn wedi marw o Ffliw Sbaen. Ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, mae’r Ysgwrn, fel gweddill Cymru, dan glo yn sgil y pandemig Cofid 19. Â’r drws ar glo ers mis Mawrth y llynedd, namyn wyth wythnos o groesawu ymwelwyr lleol dros yr haf, bu’r flwyddyn diwethaf yn un dra gwahanol i’r Ysgwrn. Ond, diolch i dechnoleg, bu modd cadw’r drws rhithiol ar agor ac mae nifer o brosiectau a digwyddiadau digidol difyr wedi’u cynnal yn llwyddiannus. 

Cynhyrchwyd nifer o ffilmiau anffurfiol o griw Yr Ysgwrn yn rhannu straeon rhai o greiriau llai amlwg y casgliad a thros fisoedd y gaeaf, cynhaliwyd sawl digwyddiad ar-lein drwy zoom a’r cyfryngau cymdeithasol, o noson garolau i sgwrs enwau lleoedd, nosweithiau gwerinol, sesiynau straeon ac yn fwyaf diweddar, prosiect drama gymunedol ‘Hud y Tir’.
 

 


Prosiect ar y cyd â thrigolion Trawsfynydd ydi ‘Hud y Tir’, dan arweiniad creadigol Siwan Llynor a Gai Toms, sef y tîm creadigol a gydlynodd gynhyrchiad perfformiad cymunedol ‘Yr Awen’ yn 2017. 

Mae ‘Hud y Tir’ yn cael ei ddatblygu drwy sesiynau rhithiol gyda gwahanol grwpiau yn y pentref ac rydym wedi cyffroi i weld y cynnyrch gorffenedig erbyn y gwanwyn! Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan ym mhrosiect ‘Hud y Tir’ drwy greu neu berfformio, cysylltwch â Siwan ar siwanllynor@btinternet.com – bydd croeso cynnes i chi!
 

Bydd Yr Ysgwrn yn cynnal amryw o weithgareddau yn ystod y flwyddyn. Rydym yn mawr obeithio bydd o leiaf rhai o’r rhain yn cael eu cynnal ar y safle, ond mae opsiwn rhithiol ar gyfer pob un, felly bydd digon o fwrlwm i’n cadw ni fynd drwy’r misoedd nesaf. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer digwyddiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn Yr Ysgwrn, cofiwch gysylltu!
 

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf o’r Ysgwrn a hei lwc cawn eich croesawu’n ôl yn o fuan. Tan hynny, cadwch yn saff!  

Naomi Jones
-----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021

Gwefan Yr Ysgwrn

10.3.21

Llygad Newydd -Dyma'r Tywydd!

‘Wir i chi mae hi’n braf o hyd...’

Rhwng pob peth –gwynt, glaw, eira, a gofid covid- dwi’n siwr y byddech chi’n cytuno ei bod yn hen bryd i ni gael gwanwyn! Mae’r newyddion a’r rhagolygon tywydd bob nos yn medru bod yn ddigon digalon.

O ystyried bod Stiniog mor enwog am y tywydd, mae’n rhyfedd ‘tydi nad ydi’r lle BYTH yn ymddangos ar y mapiau tywydd. Mae Harlech yn cael lle ar fap tywydd S4C bob nos, a’r Bala sy’n mynd a hi ar ragolygon Saesneg BBC Cymru. Felly mi yrrodd Llafar Bro nodyn bach ar y cyfryngau cymdeithasol, ganol Ionawr, at lawer o bobol tywydd Cymru yn holi pam!

Chwarae teg i Steffan Griffiths, cyflwynydd a chynhyrchydd tywydd S4C; o fewn dyddiau, roedd o wedi gyrru nodyn yn ôl yn dweud “Helo bobol. Rhywle arbennig ar y mapiau tywydd heno...”
A dyma fo, ar ôl bwletinau Nos Wener y 14eg o Ionawr.
  


Ar ben y pleser anarferol o weld ein tref ar y map, roedd o’n gaddo diwrnod sych i ni hefyd! Iawn, dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath, dwi’n deall hynny, ond mae hi wedi bod yn llwm ar rywun am adloniant dros gyfnod y pandemig tydi!

Diolch Steffan am dderbyn yr her yn hwyliog, ac i Chris Jones Tywydd am ymateb (anwybyddu wnaeth y lleill i gyd!). Diolch hefyd i Eirian a Gwilym Dafydd, dau o olygyddion papur bro Y Dinesydd yng Nghaerdydd (ac Eirian yn dod o Stiniog wrth gwrs) am gyfrannu at y drafodaeth.

Mi fedrwch fentro bod Stiniog wedi diflannu o’r map eto drannoeth; mae Harlech a’r Bala yn llai o waith teipio am wn i... Ond os oes gennych chi ddiddordeb yn y tywydd, mae erthygl Dorothy Williams ‘Tywydd y Cyfnod Clo’ yn rhifyn cyfredol Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, yn werth ei darllen. 

Cofiwch hefyd am erthyglau ‘Son am Dywydd Stiniog’ gan Bruce Griffiths o 2020, sydd bellach ar gael ar wefan Llafar Bro. Yno hefyd mae erthygl Steffan ab Owain –Glaw Stiniog- o’i gyfres Stolpia, ym Medi 2012, a llawer mwy o drafod ein tywydd unigryw.

 

Cyn cloi, wyddoch chi fod Bragdy Cybi wedi cynhyrchu cwrw o’r enw Glaw ‘Stiniog yn eu cyfres dymhorol? Blasus oedd o hefyd, gobeithio’u bod yn bwriadu bragu mwy. Mmm, be ga’i heno dwad? 


 

Hwyl bawb; iechyd da!
PW

-------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021


7.3.21

Stolpia -Eistedd ar Ffrwydron

Ychydig Atgofion am Chwarel Llechwedd, gan Steffan ab Owain

Holwyd fi'n ddiweddar gan gyfaill am y cyfnod pan yr oeddwn yn gweithio yn Chwarel Llechwedd yn niwedd yr 1960au. Felly, dyma rannu ychydig o'm hatgofion am yr amser hwnnw pan y’m cyflogwyd fel ffitar cynorthwyol yno gyda'r diweddar Emrys Williams, Trem y Graig, a Derick Westerman Davies sy'n byw tua Llanrwst.

Er fy mod wedi cael profiad yn gweithio fel peiriannwr ifanc mewn ffatrïoedd nid oeddwn yn gyfarwydd â gwaith peiriannau chwarel ac o ganlyniad, bu'n rhaid dysgu am lawer o bethau newydd yn y swydd.

Un o'm gorchwylion oedd cychwyn y cywasgydd awyr (compressor) yn y boreau, a gyda llaw, 'awyr' oedd y gair a ddefnyddid gennym, ac nid aer, na gwynt. Yn ogystal, byddai'n rhaid sicrhau bod y peipiau awyr yn gweithio'n iawn ac nad oeddynt yn gollwng o gwbl. Ceid peipiau haearn a rhai rwber er mwyn cysylltu yr injins tyllu a'r craeniau gydag awyr, ac os y byddai ambell un wedi dechrau gollwng ar ôl damwain, neu draul, gosodid creffyn, neu glamp, dros y twll.

Inclên y Bôn. Llun o gasgliad yr awdur.

Cofiaf un tro imi gael fy ngalw i drwsio peipen i lawr yn y Bôn, sef un o'r rhannau lle gweithid y graig yng ngodre'r inclên â'r un enw. Wedi cyrraedd yno mi es ati hi i'w thrwsio yn weddol handi, ac fel yr oeddwn am ei throi yn ôl am yr inclên, dyma Emyr Jones (Saint) a John, mab Thomas H. Jones, y rheolwr y pryd hynny, yn dweud wrthyf am ddod i ymochel yn y caban cerrig gan eu bod yn saethu'r graig gerllaw, a dyna a wnes. Tra roeddwn yn eistedd yno i aros y glec, dyma fi yn eistedd ar focs pren, a dechrau rwlio sigarét i gael mygyn bach cyn mynd yn ôl i'r ffiting siop ar Bonc yr Efail, (No. 5) ac fel yr oeddwn am danio'r sigarét dyma Emyr yn tynnu fy sylw at fy sedd. 

"Wyt ti wedi edrych ar beth yr wyt ti yn eistedd arno?" meddai. 

"Naddo" oedd fy ateb. 

"Wel, ar gist bowdwr," meddai yntau. 

Brensiach, mi ddychrynais yn iawn, ond nid wyf yn sicr hyd heddiw os yr oedd ffrwydron yn y gist ar y pryd, ynteu ai tynnu fy nghoes yr oedd Emyr. Diolch i'r drefn, dim ond un glec a fu y bore hwnnw, sef yr un a ddaeth o'r graig!

Cofio rhyw dro arall fel y bu'n rhaid i mi helpu Emrys i drwsio un o'r rhodenni pigfain (spear rods)
yn y pwerdy ym Mhant yr Afon. Y diweddar Glyn Griffiths, Tŷ Capel, Ebeneser, a ofalai am y pwerdy yr adeg honno, ac ar ôl inni fod wrthi am sbelan yn ei gosod yn ôl yn ei lle daeth yn amser cinio, a galwodd Glyn arnom fod y tecell wedi berwi. Roedd Emrys a finnau wedi dod â'n tuniau bwyd efo ni i lawr o'r cwt letrig a oedd i fyny ar y bonc, ond roeddwn wedi anghofio dod a'm tun siwgwr. Felly, dyma fi'n gofyn tybed a fuaswn yn cael llwyad gan Glyn, gan nad wyf yn cael blas ar baned heb siwgwr ynddi, ond nid oedd ganddo beth. Yn wir, nid oedd ef nac Emrys yn ei gymryd yn eu te. Dyma Glyn yn awgrymu rhywbeth - tybed a oedd gennyf rywbeth melys yn fy nhun bwyd, ac atebais fy mod â bar siocled Kitkat ynddo. "Wel", meddai, "treia fwyta dy frechdanau heb yfed dy de, ac wedyn pan fyddi di'n dechrau cnoi dy siocled cymera dy de efo fo." Mi wnes innau hynny, ac wrth gwrs, roedd melysrwydd y siocled yn help mawr imi fwynhau fy mhaned. Heb os, mi ddysgais lawer o bethau yng nghwmni yr hen weithwyr, ac roedd hwn yn un ohonynt. 

Efallai y caf sôn am rai o'm profiadau eraill y tro nesaf.

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2021

 

3.3.21

Sgotwrs Stiniog -Llyn Ffridd

Erthygl o'r archif

 Croeso'r gwanwyn tawel cynnar,
Croeso'r gog a'i llawen lafar;
Croeso'r tes i rodio'r gweunydd,
 gair llon, ac awr llawenydd.


A dyna hen bennill telyn yn croesawu'r gwanwyn inni. Ac yn sicr fe fydd sawl sgotwr yn falch o'i groesawu 'â gair llon', ac ar ôldyheu dros y misoedd diwethaf am 'awr llawenydd' unwaith eto o fedru gafael yn yr enwair. Hei lwc mai gwanwyn go iawn fydd o ac nid fel yr un oeraidd a gafwyd yb llynedd.

Ychydig yn ôl yr oeddem yn ofni y byddai Llyn y Ffridd -neu Llyn Ffridd y Bwlch a rhoi ei enw llawn iddo- yn cael ei gladdu o dan dunelli lawer o rwbel y chwarel*. Ond daeth 'gair llon' oddi wrth berchnogion newydd hen chwareli'r Oakely yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw fwriad i'w gladdu o'r golwg.

 

Llyn Ffridd y Bwlch. Llun -Paul W.

Tydi Llyn y Ffridd ddim yn lyn naturiol, ond yn un a gronnwyd rywbryd yng nghanol y ganrif diwethaf i roi dŵr i hen Chwarel y Welsh Slate fel y byddai'n cael ei galw, sef rhan isaf hen chwareli'r Oakeley. Ond ers sawl degawd bellach y mae o wedi dod yn rhan o'n hamgylchfyd, fel y mae rhai llynnoedd eraill a wnaed gan wahanol chwareli yn ystod oes aur y diwydiant llechi yn ein hardal. Rhai fel Llyn Newydd Dubach, Llyn Mawr Barlwyd, a Llyn Newydd Bowydd.

Roedd hi'n dda iawn cael cadarnhad, beth bynnag, nad oes gan y chwarel fwriad i'w gladdu o'r golwg.
- - - - - - - - - - - - - - -
 

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998 (rhifyn 250!) yn rhan o gyfres y diweddar Emrys Evans.

Roedd yr isod wedi ymddangos yn gynharach, mewn erthygl ar dudalen flaen rhifyn Tachwedd 1997, dan y pennawd 'Tomen o Drafferth' yn datgan pryder am y cynlluniau i ymestyn tomennydd yr ardal.

 

* Gwelsom i gyd sut mae'r domen newydd o dan argae Llyn Ffridd wedi tyfu yn ddiweddar, a bwriad y cwmni yw tipio ar hyd glan pellaf y llyn... ac ar draws dwy nant gan eu cuddio am byth -Nant Iwerddon a Nant Jôb Elis- tuag at y ffordd fawr. Mi fydd y llyn i'w weld o'r ffordd o hyd ond mi fydd wedi ei amgylchynu ar dair ochr gan lechi, felly'n cael effaith amlwg ar gwm hyfryd sy'n boblogaidd gan bysgotwyr a cherddwyr...