26.12.22

Problem gyrru!

Ychydig yn ôl wrth drafeilio o’r Manod i Llan, fe sylwais fod arwyddion wedi eu gosod ar y ffordd yn dangos cyflymdra i fod yn 40 mya, syniad da. 

Ond y cwestiwn sydd gennyf yw pam nad oes arwyddion yr un fath ar y ffordd o’r Blaenau i Danygrisiau ac i lawr i Dolwen?  Er bod arwyddion ar bolyn yn dweud 40, does fawr o yrrwyr yn cymryd sylw!  


Fel un sydd yn teithio i’r Blaenau ar y ffordd yma yn aml, dwi wedi cael fy siomi faint o yrrwyr sydd ddim yn cadw i’r 40.  

Ychydig yn ôl mi ddigwyddodd damwain ddifrifol ddrwg ar y ffordd ychydig oddiwrth Tŷ’n Cefn.  Y rheswm am y ddamwain oedd fod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar ei gerbyd wrth ddod at y tro, ac wedi gwrthdaro â char arall.

Felly rwyf yn gofyn cwestiwn i gynghorwyr yr ardal: Pam o pam na wnewch chi drefnu i gael arwyddion tebyg i’r rhai sydd ar y ffordd ym Manod, i atgoffa gyrrwyr fod 40mya yn bodoli ar y ffordd?  

Mae angen gwneud rhywbeth yn fuan!  Hefyd does dim arwydd o gwbwl i atgoffa gyrrwyr fod cyflymdra o 30 i fod rhwng Manod a’r Blaenau, ychydig iawn o yrrwyr sydd yn cadw i’r rheolau. 

Hefyd mae angen arwyddion ARAF, SLOW ar lefydd peryglus ar y ffordd.  Ac mae angen arwydd ar y ffordd rhwng Yr Wynnes a’r Eglwys i ddangos fod lle i geir basio ei gilydd yn saff.  Weithiau mae’r sefyllfa ger y safle hwn yn beryglus.  Mae’r Cyngor Sir wedi llwyddo i gael gosod llinellau dwbwl ar y safle er mwyn cael lle i basio’n saff.  Rwyf yn gofyn yn garedig i’n cynghorwyr i weithio gyda’i gilydd i gael rhyw symudiad i wneud ein ffyrdd yn saff.

[Mae'r golygydd yn gwybod pwy yw'r awdur ond gofynodd i gael aros yn ddi-enw]

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2022


22.12.22

Stolpia -Rhiw a Glan-y-pwll

Cyfres boblogaidd Steffan ab Owain yn ôl!

Straeon o ardaloedd Glan-y-pwll a’r Rhiw: Gan fod rhai o aelodau ein Cymdeithas Hanes wedi cael blas ar rai o’r straeon a ddywedais am y ddwy ardal uchod yn y dyddiau gynt, dyma grybwyll ychydig mwy gan obeithio y bydden o ddiddordeb. 

Yr Offis Gron. Llun o gasgliad yr awdur

Hen enwau

Ar ddechrau’r daith soniais am enw un o’r rhesdai a fyddai ar stâd Glan-y-pwll yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef Alma Row, a enwyd, o bosib, yn dilyn clwyfo Cyrnol Francis Haygarth (1820-1911) wrth ymladd yn Rhyfel Crimea yn 1854. Bu’r Cyrnol yn dal yr eiddo am sawl blwyddyn, ond collodd ei hawl arni am ysbaid oherwydd iddo dorri amodau ewyllys Richard Parry, Llwyn Ynn, Llanfair Dyffryn Clwyd, sef ei ewythr, a oedd wedi marw yn ddi-blant, ac wedi ei gadael iddo. O ganlyniad, aeth y stâd i’w frawd, y Canon Henry William Haygarth tan ei farwolaeth yn 1902, ac yna, dychwelodd fel eiddo’r Cyrnol tan 1911. 


Tybed pwy all ddweud wrthym ba resdai oedd hon gyda’r enw hwn arni hi? Mae hi’n bur debyg i’w henw gael ei newid rhywdro yn ddiweddarach. 

Gyda llaw, erys yr enw Haygarth ar un neu ddau o leoedd yng Nglan-y-pwll heddiw. Diddorol oedd darllen hanes y Canon Haygarth yn treulio wyth mlynedd yn yr anialdir yn Awstralia yn ŵr ifanc. 

Ysgrifennodd y gyfrol hon sy’n adrodd ei hanes yno.

 
Difrod Bwriadol

Ym mis Mawrth 1877 bu achos yn erbyn gŵr ifanc o’r enw Richard Evans, oedd yn wreiddiol o dref Trallwng, am achosi difrod bwriadol i eiddo Rheilffordd Ffestiniog. Roedd wedi bod yn yrrwr ar un o’r injans am gyfnod, ond yn dilyn ei ddiswyddiad am fod yn feddw wrth ei waith, penderfynodd ddial ar y cwmni drwy droi pwyntiau'r rheiliau yng Nglan-y-pwll, ac o ganlyniad, daeth yr injan a’r wagenni ‘oddi ar y bariau’, fel y dywedid, ond trwy ryw drugaredd ni anafwyd neb. Mae’n amlwg nad oedd gan y barnwr unrhyw gydymdeimlad ag ef a dedfrydwyd ef i 5 mlynedd o benyd-wasanaeth, sef carchar a llafur caled. 

Offis Gron

Wedi cyrraedd Glanypwll Cottage adroddais hanes Rees Roberts, un o oruchwylwyr Chwarel Holland a breswyliai yno yn ystod rhan o’r 1870au a’r 1880au. Roedd yn ewythr i’r bardd Humphrey Jones, neu ‘Bryfdir’, fel yr adnabyddid ef amlaf, ac yn hanu o Erw Fawr, Llanfrothen. Yn ôl yr hyn a glywais, swyddfa Rees Roberts oedd yr ‘Offis Gron’, fel y’i gelwid, a safai gerllaw Tai Holland a’r baricsod. 

Roedd iddi hi dair ffenest’ a dywedir bod ganddo gadair dro (swivel chair) yno er mwyn iddo fedru troi’n hwylus arni hi ac edrych drwy'r ffenestri i weld os yr oedd ei weithwyr yn torchi eu llewys. Mae'r hen lun uchod o’r swyddfa yn dangos rhai o weithwyr Chwarel Holland wedi ymgynnull o’i blaen.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2022

18.12.22

Y Brythoniaid yn y Brifddinas

Wel dyna benwythnos i'w gofio! 

Bu'r côr yn canu yn Stadiwm y Mileniwm yn Nghaerdydd cyn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Seland Newydd ar ddydd Sadwrn cyntaf Tachwedd.

Teithio i Gaerdydd ar fore dydd Gwener, newid yn sydyn yn yr gwesty cyn cael cyngerdd ardderchog yn Eglwys St Ioan, Treganna gyda Chôr Meibion Taf a Chôr Ieuenctid Taf; yr eglwys yn llawn a'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi. Trefnodd Côr Taf wledd i ni mewn clwb yn Canton wedyn.

Côr y Brythoniaid, Côr Plastaf a Chôr Meibion Taf- llun gan @PenriPentyrch

Ar fore'r gêm fawr, teithiodd 60 aelod o'r Brythoniaid i'r stadiwm a chanu ar y cae gyda Chôr John's Boys o Wrecsam, a Chôr Aberfan. 

Uchafbwynt y daith oedd cael canu Hen Wlad fy Nhadau gyda 70,000 o dorf! Er fod canlyniad y gêm yn siomedig, roedd y penwythnos yn fythgofiadwy.

Dyma ganlyniad tynfa Clwb 200 y côr am fis Tachwedd
£80    Rhif  25 Mr Arwel Williams
£40     Rhif  14   Mr Dwyryd Williams

Diolch am eich cefnogaeth
Mae mwy o rifau ar gael -Cysylltwch ag unrhyw aelod o'r Côr.

NADOLIG LLAWEN a BLWYDDYN NEWYDD DDA I HOLL DDARLLENWYR  LLAFAR BRO!

D.Ll.W.

- - - - - - -

Gydag ymddiheuriadau, roedd yr uchod i fod i ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2022

 

Crwydro -Taith Cambria

Erthygl yn ein cyfres am grwydro llwybrau Bro Stiniog

Mae llwybr Taith Cambria mewn bodolaeth ers dros 50 mlynedd a rŵan mae’n cael ei gynnwys ar fapiau am y tro cyntaf. Dyma lwybr cerdded hiraf Cymru ac mae’n mynd trwy ardal Llafar Bro

Gan ddringo dros rhai o gopaon mwyaf gwyllt a garw’r wlad, mae Taith Cambria yn ymestyn bron i 300 milltir o Gaerdydd i Gonwy, ac yn un o lwybrau anoddaf a mwyaf anghysbell gwledydd Prydain.

Mae gwreiddiau’r daith yn perthyn i’r 1960au ond dim ond rŵan mae’n ymddangos ar fapiau’r Arolwg Ordnans (OS). Cymrodd ychydig o flynyddoedd i sicrhau bod trywydd y llwybr yn gywir a bod y llwybr mewn cyflwr addas. Dydy’r trywydd mynyddig o’r brifddinas i’r gogledd ddim yn un hawdd i’w ddilyn ac mae angen gwneud gwaith paratoi a’r gallu i ddarllen map.

Y Rhinogydd yw'r rhan anoddaf o'r llwybr cyfan, yn bennaf oherwydd y sgrialu garw sydd ei angen. 

Mae'r daith o'r Bermo i Faentwrog tua 22 milltir o bellter ond araf yw'r cynnydd a does dim llety oni bai fod cerddwyr yn arallgyfeirio i bentref Trawsfynydd. 

 

Mae’r llwybr yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Rhinog, yna i lawr heibio Coed y Rhygen ar lan Llyn Traws a thrwy Gwarchodfa Coedydd Maentwrog, cyn dringo’r Moelwyn Mawr ac wedyn drosodd i’r Cnicht trwy chwarel Rhosydd -lle mae'n croesi Llwybr Llechi Eryri- a heibio llyn Cwm Corsiog a Llyn Adar.

Yr olygfa, ar noson braf o haf, o gopa’r Moelwyn Mawr dros gopa’r Cnicht i gyfeiriad Yr Wyddfa a’i chriw. Llun- Erwyn Jones

- - - - - - - 

Addasiad o erthygl ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2022.


14.12.22

Gerddi Stiniog

Dwn i ddim faint ohonoch sydd wedi sylwi ar yr arwydd newydd a osodwyd ar y troad i mewn i’r Fynwent Gyhoeddus yn Llan? 

GERDDI ‘STINIOG! 

O dan arweiniad Joss, arweinydd y tîm sy’n gyfrifol am gynnal a chadw yn Seren a Gwesty Seren, bu’r tîm gerddi’n hynod o brysur eleni. Ar y 10fed o Orffennaf, a hithau’n ddiwrnod crasboeth o ha' hirfelyn, agorwyd y Gerddi’n swyddogol. 

Dwn i ddim faint ohonoch welodd rhaglen ‘PROSIECT PUM MI’ ar S4C ar nos Sul, 9fed o Hydref? Os do, fe gawsoch yr hanes i gyd gan Trystan ac Emma ... sut yr aed ati i gynllunio a chreu, a chlywed am y cyfeillion a’r cwmnïau amrywiol a gyfrannodd mor hael at y campwaith gweledol. 

 

Mae lleoliad y Gerddi mewn man arbennig iawn, a’r olygfa oddi yno ymysg yr harddaf yng Nghymru.
Talwch ymweliad ... dilyn yr arwydd ... a chewch ymlacio yn y prydferthwch ...

Mae’r englyn isod gan Iwan Morgan ar garreg ithfaen Cwmni Cerrig ac yn disgrifio’r olygfa o Erddi Stiniog:


Yws Gwynedd yn diddanu a’r Moelwyn Mawr ac Argae Stwlan yn y cefndir. 


 Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2022

 

10.12.22

Crwydro Rhiw a Thrin Cerrig

Achosodd y Covid broblemau go fawr i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog fel y gwnaeth i bawb arall; fe stopiodd ein cyfarfodydd ym mis Chwefror 2020 ond yr ydym wedi graddol ail-afael ynddi, ond yn ystyrlon o’r ffaith nad yw Covid wedi’n gadael. 

Soniwyd yn Llafar Bro eisoes am ein cyfarfod cyntaf – yn Llys Dorfil, ac mi gafwyd cyfarfod yn yr awyr-agored eto ym mis Medi.

Arweiniodd Steffan ab Owain ni ar daith o gwmpas ei gynefin – sef ardal Glanypwll a’r Rhiw. Rhoddodd hanes datblygiad yr ardal, o fferm fynyddig i un o’r pentrefi a ddaeth wedyn i greu tref Stiniog. Wrth gerdded o gwmpas, tynnodd ein sylw at rai enwau tai sy’n eu clymu yn ôl i’r dyddiau cynnar; mae hyn yn dangos pwysigrwydd cadw yr hen enwau gwreiddiol ar dai. 

Yr oedd llawer o hanesion difyr hefyd am hen drigolion nifer o’r tai ac am y busnesau a oedd yn y rhan hon o’r dref. Yr oedd yn rhyfeddol cymaint o hanes oedd i’w gael mewn ardal mor fechan. 

Wedyn, fe aeth Dafydd Roberts â ni i weld gweithdy David Nash yng Nghapel y Rhiw a daeth y cerflunydd ei hun atom i’n croesawu. Edrychwn ymlaen i fynd yn ôl i ardal y Rhiw ac i ddysgu mwy rywbryd eto.


Braf iawn ydoedd ail-afael yn ein cyfarfodydd arferol ym mis Hydref, ar ôl cyfnod mor faith a da oedd gweld cynifer wedi dod ynghyd – a nifer o aelodau newydd yn eu plith. 

Y siaradwr yng nghyfarfod Hydref oedd Vivian Parry Williams a’i destun oedd ‘Trin Cerrig’. Gyda chymorth lluniau, aeth a ni o gwmpas y fro gan dynnu sylw at rai o’r meini mawrion sydd yn yr ardal. 

Yr oedd rhai ohonynt yn dangos olion rhew-lifoedd ac eraill yn dangos ôl llaw dyn. Yr oedd chwedlau hynafol wedi eu cysylltu â rhai o’r meini ac eraill â chysylltiadau crefyddol. Diddorol oedd clywed enwau rhai o’r meini a sylweddolwyd y pwysigrwydd o gofnodi rhai o’r enwau hyn rhag iddynt fynd yn angof. 

Vivian Parry Williams yn cyflwyno'i sgwrs, a thu cefn iddo llun o’r Garreg Drwsgl sydd ar ochr y llwybr i fyny’r Manod o GwmTeigl, gerllaw Cae Canol Mawr.

Diolchwyd i Vivian gan Dafydd Roberts, llywydd y gymdeithas, a diolchodd hefyd i Aled Williams, prifathro Ysgol Maenofferen am gynnig cartref mor gyfleus i’r gymdeithas. Yr oedd wedi mynd o’i ffordd i drefnu  ystafell fawr ar ein cyfer, ble y teimlai pawb yn ddiogel. 

Rhai o luniau VPW: Cwpan y Rhufeiniaid yng Nghwmbowydd; Carreg Buwch yn amlwg ar y gorwel uwchben Melin Pant yr Ynn -dim ond pan mae niwl tu ôl iddi mae hi mor amlwg a hyn; Carreg Defaid wrth yr ysbyty.

Y siaradwr yng nghyfarfod Tachwedd oedd Gareth Tudor Jones, yn sôn am Streic Fawr y Llechwedd yn 1893. Cawn adroddiad o'r noson honno yn Llafar Bro Rhagfyr.

Cofiwch bod rhifyn 2022 o’r cylchgrawn Rhamant Bro ar gael o’r siopau lleol – cryn fargen am £4 (neu £6 drwy’r post: hanes.stiniog@gmail.com)
Gareth Jones

- - - - - - - - - - -

Addaswyd o erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2022.



7.12.22

Cyfrinach y Brenin -Yr Orau Eto!

Gydol mis Medi, bu Cwmni Opra Cymru yn teithio’r wlad gyda’i cynhyrchiad diweddara’ ... opera newydd i blant a theuluoedd gan y gyfansoddwraig a’r delynores dalentog o Ddyffryn Conwy, Mared Emlyn. Er bod Mared wedi arfer â chyfansoddi ar gyfer offerynnau unawdol, ensemblau, cerddorfa a chôr, dyma’r tro cyntaf iddi roi cynnig ar ysgrifennu opera. 

Ar sail yr hyn glywyd, hyderwn yn fawr mai nid dyma’r tro olaf. Lluniwyd y libretto gan Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig Opra Cymru a’r Cyfarwyddwr Cerdd, Iwan Teifion Davies. 

Seiliwyd Cyfrinach y Brenin ar yr hen chwedl Clustiau’r Brenin March. Fel rhan o’r comisiwn, ymwelodd y cwmni â nifer o ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru, gan gyflwyno byd ysbrydoledig opera i’r disgyblion.

Cyflwynwyd pymtheg perfformiad rhwng y 7fed a’r 25ain o Fedi mewn mannau’n y gogledd, y canolbarth a’r de. Daeth y cyfan i ben ar nos Sadwrn ola’r mis yn Ysgol y Moelwyn.

Cast ac offerynwyr Cyfrinach y Brenin: Daire Roberts, Rhys Meilyr, Mary Hofman, Erin Gwyn Rossington, Beca Davies, Elen Lloyd Roberts, Steffan Lloyd Owen, Mared Emlyn [cyfansoddwraig], Fiona Bassett, Nikki Pearce a Lleucu Parri.

Roedd y cast gymrodd ran yn lleisiau ifanc Cymreig. Serennodd y bariton o Bentre Berw, Ynys Môn, Steffan Lloyd Owen fel Y Brenin. Mae Steffan yn llais adnabyddus ar lwyfan y Brifwyl ... yn gyn-enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts. Mae’r soprano o Lŷn, Elen Lloyd Roberts, wedi ymddangos yng nghynyrchiadau Opra Cymru o’r blaen ac yn llais hynod boblogaidd. Hi gymrodd ran Y Ffŵl. Soprano addawol arall, Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanrwst chwaraeodd ran Y Doctor. Cystadleuydd cyson arall ar lwyfannau cenedlaethol ydy’r tenor o Langefni, Rhys Meilyr, sy’n astudio cwrs meistr yng Ngholeg Brenhinol yr Academi, Llundain ar hyn o bryd. Ef chwaraeodd ran Y Barbwr. Chwaraewyd rhan Meistres y Gegin gan y mezzo-soprano o orllewin Cymru, Beca Davies. Swynwyd y cynulleidfaoedd gan ei llais cyfoethog a’i hactio bywiog hithau. 

Cafwyd cyfeilio arbennig iawn gan bumawd o gerddorion ifanc ... Mary Hofman [ffidil], Daire Roberts [fiola], Nikki Pearce [cello], Lleucu Parri [ffliwt] a Fiona Bassett [corn]. Roedd y set a’r gwisgoedd yn werth i’w gweld ... diolch i Hannah Carey. Y fam a’r ferch, Bridget a Beatrice Wallbank oedd y rheolwyr technegol a llwyfan.

Ym marn llawer a welodd y perfformiadau, doedd ond canmoliaeth uchel i’r cyfan. Mewn operâu’n aml, mae dilyn y libretto’n gallu bod yn anodd ym mha iaith bynnag y cyflwynir hi. Sylw pawb o’r Cymry Cymraeg oedd eu bod wedi deall pob gair gan bob aelod o’r cast. Mae hyn yn rhywbeth hynod galonogol.

Os na fu i chi fanteisio ar y cyfle i weld perfformiad, gallwch ystyried hynny’n golled enfawr.
Edrychwn ymlaen rwan am gynhyrchiad nesa Cwmni Opra Cymru!

TVJ

- - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2023

Gwefan Opra Cymru