24.6.22

Rhod y Rhigymwr -deilio Mai

Pob mis mae Iwan Morgan yn gosod tasg i'r rhigymwyr, a mis Mai symbylodd y dasg ar gyfer rhifyn Mai:

Mai sydd yn persawru’r blodau,
Mai yw teiliwr y petalau ...
Roedd un o’r cwpledi ddaeth i law -gan GWENLLIAN- yn cydio mor grefftus y sefyllfa yn yr Wcráin wrth linell yr hen fardd, Dafydd Nanmor, o’r 15fed ganrif:
Ond â’r rhyfel fel rhyferthwy
‘A ddylai Mai ddeilio mwy?’
Mae hyn wedi fy nhywys innau i edrych ar hen nodiadau coleg a luniais dros hanner canrif yn ôl. Fel yr awgryma’i enw barddol, un o gyffiniau Nanmor, Beddgelert oedd Dafydd. Yn ôl y gwybodusion, fe’i hanfonwyd o’i ardal enedigol gan ddeuddeg o reithwyr, a hynny am iddo ganu cywyddau i wraig briod o’r un gymdogaeth. ‘Gwen o’r Ddôl’ [Dolfriog] oedd y wraig honno. Cawn y bardd wedi hynny yn Neheudir Cymru, yn derbyn nawdd gan yr uchelwr, Rhys ap Meredudd o’r Tywyn, gerllaw aber Afon Teifi.

Fel Dafydd ap Gwilym ac eraill o feirdd yr uchelwyr, ystyriwyd Dafydd Nanmor yn gywyddwr o fri. Dyma ran o’r cywydd gwych a gyfansoddodd ar ôl i’w gariad farw – ‘Marwnad Merch.’ Does dim dwywaith nad hwn ydy’r cyfeiriad tristaf a mwyaf dirdynnol sy’n bod at fis Mai:
Caru merch ifanc hirwen,
a marw wnaeth morwyn wen.
Gweddw am hon yn y bronydd
yw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd.
Os marw hon yn Is Conwy -
ni ddylai Mai ddeilio mwy!
Gwywon yw'r bedw a'r gwiail
ac weithian ni ddygan' ddail.
Och un awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd...

Cywydd enwog arall a gyfansoddwyd dan amgylchiadau tebyg oedd un Llywelyn Goch ap Meurig Hen, oedd yn byw rai blynyddoedd cyn Dafydd Nanmor. Roedd yn gysylltiedig â theulu Nannau, plwyf Llanfachreth, Dolgellau. 

Canu marwnad i Lleucu Llwyd o Ddolgelynnen, sydd ar lan Afon Dyfi rhwng Machynlleth a Phennal wnaeth Llewelyn. Dyma’n sicr un o’r cerddi dwysaf o’i bath yn yr Iaith Gymraeg. Dros y canrifoedd, tyfodd cylch o draddodiadau am garwriaeth Llywelyn a Lleucu.

Dyfynnaf ddarnau o’r cywydd angerddol hwnnw:

Llyma haf llwm i hoywfardd,
a llyma fyd llwm i fardd...
Nid oes yng Ngwynedd heddiw
na lloer, na llewych, na lliw,
er pan rodded, trwydded trwch,
dan lawr dygn dyn loer degwch.

Y ferch wen o'r dderw brennol,
arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
cyd bych o fewn caead bedd.

Gwae fi fod arch i'th warchae!
A thŷ main rhof a thi mae;
Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
breuddwyd dig briddo dy dâl!

Clo dur derw, galarchwerw gael,
a daear, deg dy dwyael,
a chlyd fur, a chlo dur du,
a chlicied; yn iach, Leucu!

- - - - - - - - -

Addasiad o erthygl yn rhifyn Mai 2022



20.6.22

Tymor anodd chwaraeon Bro Stiniog

MAE DYDDIAU GWELL I DDOD I’R AMATURIAID

Daeth tymor CPD Amaturiaid y Blaenau i ben ar y nawfed o Ebrill, a hynny i ffwrdd yn erbyn Brickfield Rangers yn Wrecsam. Colli’n drwm oedd yr hanes, fel oedd hanes y rhan fwyaf o’r tymor. Doedd hynny ddim oherwydd diffyg ymroddiad gan y chwaraewyr a’r staff, nac oherwydd diffyg ysbryd ymysg y garfan, chwaith. Mi fu’r hogia’n brwydro’u gorau glas bob penwythnos a phob gêm ganol wythnos pan oedd angen, a gan amlaf roedd Blaenau yn rhoi hanner gyntaf galed i’w gwrthwynebwyr cyn i’r goliau (a’r llifddorau) agor. Rhaid cofio hefyd, er gwaethau ein gwendidau, ein bod ni wedi cael lwc anffodus iawn mewn sawl gêm, heb sôn am ambell i reffarî oedd angen mynd i sbecsêfars – a’r reffarî hwnnw sydd nid yn unig yn cael trafferth dweud y gwahaniaeth rhwng coeden a pholyn lamp, ond hefyd yn casâu yr Amaturiaid ac wrth ei fodd yn ein cosbi yn gwbl anheg.  

Roedd camu i fyny i’r gynghrair newydd (Ardal Gogledd-Orllewin, Tier 3 pyramid cenedlaethol Cymru) ar ôl cael dyrchafiad fel ail yng nghynghrair y Welsh Alliance wedi bod yn gam anodd i’r hogia. Ond roeddan ni – y tîm, staff a pwyllgor – yn edrych ymlaen am yr her, a phan addawodd saith o chwaraewyr profiadol i arwyddo i’r Amaturiaid (rhai ohonynt wedi chwarae i Blaenau o’r blaen) roedd pethau’n edrych yn dda ar gyfer gallu cystadlu yn y gynghrair newydd. Ond yn anffodus, gohirwyd y tymor pêl-droed oherwydd y pandemig Covid, ac erbyn i’r tymor newydd ddechrau roedd y saith wedi newid eu meddyliau ac wedi dychwelyd i le’r oeddyn nhw gynt.

Felly dyna ni yn chwarae efo cnewyllyn bychan o chwaraewyr profiadol, a’r gweddill o’r garfan yn hogia ifanc iawn, ac ambell un mor ifanc â 16 oed. Y garfan hon oedd yn gweithio’u gorau bob gêm, yn gorfod herio timau cryf o ardaloedd Wrecsam ac ardal y ffîn efo Lloegr. Ia, Cynghrair Ardal Gogledd-Orllewin â’r rhan fwyaf o’r gynghrair yn dod o’r gogledd-ddwyrain! A’r timau hyn yn llawn o chwaraewyr mawr, profiadol a chorfforol (ac yn cael eu talu) a’n hogia ifanc ni yn eu herio nhw heb unrhyw ofn o gwbl. Wna i ddim mynd ymhellach, ond roedd ymddygiad ac agwedd rhai o’r timau yma o’r “gogledd-orllewin newydd” yn warthus. 

Rhaid canmol yr hogia a Geraint y rheolwr am frwydro yr holl ffordd. Mi ddalion ni rai o dimau mawr y gynghrair am hanner awr, neu hyd at funud olaf yr hanner gyntaf – ac ambell gêm pan safodd ein amddiffyn yn gadarn, dim ond i gael ein chwalu yn y munudau olaf. Roedd y tymor yn addysg i’n hogia ni, ac wedi rhoi profiad i’r hogia ifanc. Chwarae pêl-droed maen nhw’n licio wneud, a hynny i’w tîm lleol. Pob parch iddyn nhw.

Rhaid rhoi canmoliaeth hefyd i’r cefnogwyr fu’n cefnogi’r tîm, gan greu awyrgylch gwych yng Nghae Clyd. Cawsom dorfeydd go fawr, yn cael tua 200 yn rheolaidd, ac weithiau yn cael rhwng 300 – 400 pan oedd tîmau mawr yn dod draw i Gae Clyd, gan gynnwys y darbi yn erbyn Porthmadog. Roedd hi’n fraint i groesawu timau Cymraeg lleol fel Llanuwchllyn, Llanrwst, Nantlle Vale, y Felinheli a.y.b. a’r awyrgylch yn gyfeillgar a llawn hiwmor a hwyl. Roedd y rhan fwyaf o gefnogwyr pob tîm wrth eu boddau yn dod i Gae Clyd, ac yn canmol y cae a’r croeso, a’r golygfeydd anhygoel. 

Roedd unigolion yn dod o bob rhan o Brydain i weld Cae Clyd. Wedi’r cwbl, roedd y cylchgrawn FourFourTwo wedi cynnwys Cae Clyd yn 43ydd yn rhestr o’r 100 stadiwm gorau ym Mhrydain. Dim ond 4 cae o Gymru oedd yn y rhestr. 

Cae Clyd a'r Moelwynion. Llun Paul W

I gloi, rhaid diolch i’r chwaraewyr, a’r staff, a Geraint Owen y rheolwr. Diolch i bawb fu’n helpu ar ddydd Sadwrn, aelodau pwyllgor ac ati, a diolch arbennig iawn i Dafydd Williams (Bynsan) am ei waith anhygoel yn trin a chynnal y cae ar gyfer pob penwythnos – y cae gorau yng Nghymru, cae sy’n cael ei ganmol gan y timau sy’n dod yma i Gae Clyd. A rhaid canmol Rhian am redeg y cantîn, a phawb fu yn ei helpu. A diolch mawr i’n noddwyr.

Tymor cymysg, felly. Ond rhaid cadw’n bositif. Bydd yr Amaturiaid i lawr yn Tier 4 yn y tymor nesaf. Byddwn yn ôl mewn cynghrair sy’n llawn o dimau sydd o’r run safon a ni, ac o’r run brethyn ac agwedd â ni. Bydd dim cymaint o ofynion a gorchmynion yn dod oddi wrth y Gymdeithas Bêl-droed, a’r gobaith ydi y cawn ni dymor adeiladol i’r tim ifanc hwn, a gallu croesawu ambell i wyneb profiadol i ymuno efo’r garfan. Mae un peth yn sicr, mi fydd CPD Amaturiaid y Blaenau yma o hyd!
Dewi Prysor

 

Clwb Rygbi  Bro Ffestiniog
Bu’n dymor heriol iawn i glybiau pêl-droed a rygbi yr ardal. Ar y cae rygbi, doedd Cynghrair 1 y gogledd ddim yn ffurfiol gystadleuol y tro hwn oherwydd trafferthion covid a’r angen i gadw pellter cymdeithasol dal mewn lle ar ddechrau'r tymor. 

Ond yr her o annog digon o chwaraewyr i droi i fyny oedd anhawster mwyaf Bro Ffestiniog. Rhaid oedd dibynnu’n helaeth ar gymwynas clybiau Port a Dolgellau i fedru rhoi tîm ar y cae yn eu dwy gêm olaf, pan gollwyd yn drwm yn erbyn Nant Conwy ddechrau Ebrill, a Cobra (Caereinion) bythefnos wedyn. 

Noson galad arall i Bro, Ebrill 2022. Llun Paul W

Doedd Undeb Rygbi Cymru ddim yn trefnu unrhyw symudiadau rhwng y cynghreiriau eleni oherwydd yr amgylchiadau anarferol, ond mae rhai o’r farn y byddai’n fuddiol i dîm Bro ystyried disgyn yn wirfoddol i adran 2* er mwyn ail-adeiladu. Cawn weld be ddaw. Yn sicr, mae dyfodol disglair iawn ymysg y timau ieuenctid ar hyn o bryd. 

*Diweddariad: yn ôl yr Undeb Rygbi, doedd dim lle yn yr Ail Adran, felly bu'n rhaid i Bro dderbyn lle yn Adran 3. Cawn edrych ymlaen rwan i ail-adeiladu carfan gref i gystadlu ar lefel uwch.

- - - - - - -  

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2022

16.6.22

Neuadd y Farchnad

Ym mis Ebrill eleni cyhoeddodd CADW eu bod wedi rhestru Neuadd y Farchnad fel adeilad gradd II, oherwydd:

“ei diddordeb pensaernïol a hanesyddol fel neuadd farchnad fawr a nodweddiadol a oedd yn ymgorffori uchelgeisiau masnachol Blaenau Ffestiniog wrth iddi ddod i amlygrwydd fel un o drefi diwydiannol pwysicaf Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg”.

Adeiladwyd y Neuadd ym 1861; wedi ei chynllunio gan Owen Morris, daeth yn ganolfan ddemocratiaeth ac adloniant yn ogystal â busnes. Ar un cyfnod gwasanaethodd yr adeilad hefyd fel Neuadd y Dref ac roedd ei llawr uchaf yn theatr gyda bwa proseniwm.

Llun gan CADW

Yno, fel gŵr ifanc, y gwnaeth Dafydd Lloyd-George ei areithiau cyntaf wrth ymgyrchu yn Etholiad Cyffredinol 1885. Yn yr ugeinfed ganrif dirywiodd y neuadd ynghyd â’r diwydiant llechi, a defnyddiwyd hi fel ffatri am gyfnod, wedyn yn depo cyngor, cyn ei rhoi heibio bron yn gyfan gwbl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf ymdrech deg gan Fenter y Moelwyn a Chyfeillion Neuadd y Farchnad, i roi dyfodol cyhoeddus newydd i’r adeilad.

 

Aflwyddianus oedd ymdrechion y perchennog diweddaraf i adfywio’r lle, a deallwn fod y neuadd ar werth unwaith eto ar hyn o bryd. Dyma obeithio y daw rhyw fath o lewyrch newydd i’r hen le rwan fod Stiniog yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd..!

 

Cofiwch am lyfryn Steffan ab Owain: Neuadd y Farchnad, Cipdrem ar ei Hanes (1995, Gwasg Carreg Gwalch).
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2022


12.6.22

Stolpia -enwau a chyflog

Dyma ran olaf fy atgofion am Chwarel Llechwedd yn yr 1960au gan obeithio y bydd o ddiddordeb i un neu ddau ohonoch. Fel y crybwyllais, deuthum i adnabod amryw o leoedd yno wrth eu henwau gwreiddiol. Yn ddiamau, y mae y mwyafrif o’r lleoedd hyn bellach yn hollol ddieithr i’r to presennol. 

Y mae’n rhaid crybwyll hefyd y deuthum i adnabod amryw o weithwyr dawnus a gwybodus yno, megis fy mos, Emrys Williams, Robin George Griffiths, y gof, Glyn Griffiths, Reuben Williams, Robin Williams, (Cocoa), fforddoliwr, Bleddyn ac Arthur Williams (Conglog), Dafydd Roberts, Gwalia, Gwilym J. (Bells), a sawl un arall.

Gydag Emrys y dysgais am yr enwau lleoedd yno. Dyma rai eraill a ddaw i’m cof: 

Ffridd Blaen Llechwedd y tu uchaf i’r chwarel; 

Caban Garreg Wen (Llawr 7); 

Dyfn Jac Bach (Llawr A); 

Ponc Ganol, Barics Bach, Lefel Fawr, Lefel Tai’r Frest. 

Llwnc y Ddaear, sef y man lle mae’r Afon Barlwyd yn llifo i geg y lefel hir sy’n dod allan uwchlaw Ceunant Llechwedd. 

Ymhlith yr enwau Seisnig eraill yno ceid ‘Woolworth’, am un o agorydd y Sinc Fawr, a ‘Dartmoor’ oedd yr enw ar un o rannau pellaf y gwaith ar y mynydd.

Swyddfa’r chwarel (blaen), a’r Felin Isaf a thai Llechwedd yn y cefndir

Gŵr diddorol oedd Glyn Griffiths, Tŷ Capel Ebeneser (W) a weithiai yn y pwerdŷ. Roedd yn arbenigwr ar drychfilod, a byddai’n cael wyau gwyfynod o leoedd mor bell a Burma, ac roedd ganddo ‘wyfyn Atlas’, sef un a fesurai tua 9 modfedd o flaen un adain i’r llall. Byddai gan Reuben straeon diddorol am bysgota yn Llyn Dyrnogydd a llynnoedd eraill yr ardal. Bum yn gwrando ar Bleddyn sawl tro yn adrodd hanesion difyr am ei amser yn byw yng Nghwmorthin.

Cofiaf glywed hanes gwroldeb un hen fachgen a oedd yn ffitar yn y chwarel lawer blwyddyn yn ôl a phan ddigwyddodd i un o’r pympiau a oedd ar waith i lawr yn Sinc Mynydd ballu a stopio pwmpio. O ganlyniad, ymgasglodd y dŵr oddi amgylch nes yr oedd oddeutu 12 troedfedd o ddyfnder yn y diwedd. Daethpwyd i’r casgliad mai carreg a oedd wedi syrthio ar ran o’r pwmp, ac wedi taro lifer y falf a’i throi i ffwrdd. Ceisiodd y dynion fachu’r beipen a thynnu’r pwmp i fyny, ond methiant llwyr a fu hynny gan fod cryn bwysau arno. Penderfynodd yr hen ffitar, a oedd wedi bod yn forwr ar un adeg o’i fywyd nad oedd dim byd amdani hi ond tynnu ei ddillad uchaf oddi amdano a neidio i mewn i’r dŵr iasoer yn ei drôns hir, ac i lawr at y pwmp a cheisio ei gael i weithio. O fewn munud neu ddau, roedd i fyny o’r dŵr, ac wedi llwyddo i gael y pwmp i weithio. Bu’n dipyn o arwr gan y criw ar ôl ei wrhydri y diwrnod hwnnw. Byddai’n ddiddorol cael clywed pwy oedd y ffitar dewr hwn?

TÂL

Roedd y drefn o dalu yn 1969 braidd yn hen ffasiwn. Byddid yn cael syb (sef blaen dâl) am y tri Dydd Gwener cyntaf yn y mis, ac yna y Tâl Mawr ar Ddydd Gwener olaf y mis. Nid ei fod yn dâl mawr imi fel ffitar, chwaith! Ar y diwrnod talu roedd yn rhaid inni aros wrth un o ffenestri’r swyddfa tan yr agorid hi am 4:00 y prynhawn i dderbyn ein cyflog. Yna, gelwid eich enw ac estynnid blwch pren i’ch llaw gyda’r arian cyflog yn rhydd ynddo. 

Fy nghyflog yr adeg honno oedd £9-15s o syb, a rhyw £11. 10s o dâl. Gyda llaw, cofier bod papurau chweugain, sef 10 swllt, a phapurau punt a phum punt hefyd yn y blwch, ac os byddai’n chwythu, neu’n bwrw glaw yn arw, roedd yn rhaid bod yn ofalus rhag i’r arian papur fynd efo’r gwynt i ebargofiant. Dyna beth oedd chwysu am eich cyflog!

Mewn blwch fel hwn y telid fy nghyflog yn 1969

D.S.  Bydd colofn Stolpia yn cael saib am y misoedd nesaf. Gwn bod rhai ohonoch wedi cael blas ar yr atgofion a diolchaf yn fawr i chi am eich diddordeb.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2022


8.6.22

Rhod y Rhigymwr -gwyn ein byd

Pan godais ar fore dydd Iau’r 30ain o Fawrth, ac agor y llenni, gwelwn ei bod yn wyn y tu allan. Nid yn unig roedd eira’n gorchuddio copaon y Moelwynion, ond roedd yr ardd dros ffordd i Dŷ’n Ffridd acw’n gwbwl wyn hefyd. 

Wythnos ynghynt, fe fanteisiais ar y tywydd gwanwynol, cynnes gawsom i baratoi’r ardd ar gyfer plannu. Bum yn ddigon mentrus i roi tatws cynnar yn y pridd, ond ceisiais wneud yn siŵr mod i’n eu rhoi’n ddigon dwfn gan fod y gwybodusion wedi rhybuddio y bydden ni’n talu am y tywydd tesog yn fuan.

Ydi, mae edrych ar lendid eira drwy’r ffenest yn dlws. Ac mi rydan ninna’, uwchben Llan Ffestiniog yn cael ein siâr ohono pan fydd o gwmpas. Rhwng y pentre a phen yr allt lle rydan ni’n byw, mae yna linell eira, neu ‘snow-line’ fel y gelwir hi gan yr hinsoddwyr. Cofiaf gerdded i fyny mewn lluwch un tro, a’r eira’n cael ei chwipio o’r caeau uwchben y ffordd fawr nes ei chau. Am brofiad oedd cael y crisialau oer, gwyn yn fy nallu. 

Dyma fel y disgrifiais hynny mewn englyn:

Dwyreinwynt a drywana - fy wyneb,
Yn finiog chwistrella
I’m mêr storom o eira  
O ddur ei nodwyddau iâ.

Sawl gwaith hefyd y buon ni’n edrych ar yr olygfa o storm eira drwy ffenest y llofft, a gweld yr A470 yn prysur ddiflannu ‘dan luwchion oerion eira’ chwedl yr hen gân.

Rydw i’n cofio’n dda, pan oeddwn i’n brif athro yng Nghefn Coch orfod ffonio i mewn i ddweud nad oedd hi’n bosib i mi gyrraedd yr ysgol gan na allwn gael y car allan o’r buarth oherwydd eira. Yr ateb gawswn i’n ddi-ffael oedd nad oedd pluen eira  i lawr yn y Penrhyn! Doedd gen i ddim car gyriant pedair olwyn yr adeg honno, a chofiaf mai cael a chael fu hi unwaith neu ddwy i mi fedru cyrraedd adref heb fynd yn sownd mewn lluwchfeydd eira ar yr Allt Goch, Dreif yr Oakeley a Rhiw Cefn Pannwl.

Cerdd a wnaeth argraff arnaf flynyddoedd yn ôl oedd un gan fy nhiwtor addysg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, Aneurin Jenkins-Jones, a gyhoeddwyd yn ‘Blodeugerdd y Plant’ ym 1971. Hwyrach fod rhai ohonoch chi’n cofio i Arwel, Myrddin ac Elwyn - ‘Hogia’r Wyddfa’ - ddewis hon i’w chyflwyno ar gân ... 

GWYN

Rwy’n caru popeth, popeth sydd yn wyn;
Y sêr liw nos a’u lampau bach ynghyn;
Y lleuad gron yn rhedeg ras o hyd
Yn erbyn holl gymylau’r nos i gyd.

Rwy’n caru glendid cnu oen bach ar fryn
A’r llwyni drain yn drwm dan flodau gwyn;
Llygad-y-dydd yn siriol syllu’n hy
I lygad llosg yr haul ar hafddydd cu.

Yr ewyn ar y don fel ruban les;
Iâr-fach-yr-haf yn llathru yn y tes;
Lili-wen-fach a Lili Mai, bid siŵr,
A Lili’r Grog a hithau Lili’r Dŵr.

Y bwthyn gwyngalch o dan gapan cawn
A’r briodasferch gyda’i gŵn fel gwawn;
Barrug y bore bach fel briwsion bara-can
Yn addo eira’n wrthban yn y man.

Rwy’n caru’r alarch yn ei goegni syn
Yn dotio arno’i hun yn nrych y llyn.
Hwyliau gan wynt yn llawn, a lliain main,
A’r gwynder annwyl hwnnw sydd yng ngwallt fy nain.

Rwy’n hollol siŵr taw gwyn, o’r lliwiau i gyd,
Yw’r lliw sy’n hoff gan Dduw; O! Gwyn ein byd.

Fe ges i fanteisio ar y cyfle droeon i drafod y gerdd gyda phlant, a’u cael i werthfawrogi’r rhestr o ddisgrifiadau sydd ynddi ac i fwynhau sŵn mydr ac odl.

 

Cyn cloi, mae SIMON am ein tywys i dangnefedd ein bro ein hunain. Hoffais y defnydd a wnaeth o ddisgrifiad Gwyn Thomas o’r ‘Blaenau’ yn llinell agoriadol ei englyn:


Dantaith y Mynyddoedd

Rhyw achlust gefais o freichled o dref
      mor driw ac agored.
Saig o’r graig wnaeth fwydo’r gred
a’r Blaenau, gorau’r blaned.

- - - - - - - - 

Rhan o erthygl yng nghyfres Iwan Morgan; ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2022



4.6.22

Sgotwrs Stiniog- Y gog lwydlas a sewin

Erthygl o'r archif:

Diolch i MJ, Cwm Cynfal, am ymateb i’m ymholiad ynglyn â’r gog, sef pryd y cafodd ei glywed gynharaf yn ein hardal.  Roeddwn i wedi ei glywed yn galw ar y 30ain o Ebrill yn ardal y Manod, ond clywodd Mrs J a'i merch, y gog yng Nghwm Cynfal ar y 24ain o Ebrill.

Yn ei draethawd ‘Llên-Gwerin Meirion’, a fu’n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog yn 1898, mae William Davies yn nodi y coelion a oedd yn bod ynglyn a chlywed y gog am y tro cyntaf.  Meddai -

Mae clywed y gog yn canu am y tro cyntaf heb arian yn y boced yn arwydd o flwyddyn lom a thlawd.  Os glywid y gog ac arian yn y boced yna roedd angen troi yr arian er mwyn sicrhau blwyddyn lwyddiannus.

Os byddai i rywun glywed y gog am y tro cyntaf ac yn digwydd bod yn sefyll ar dir glâs, arwyddai hynny lawnder a chysur a byd da.  Os y digwyddid a’i chlywed yn agos i’r ty, byddai hynny yn arwydd y ceid newydd da yn fuan.

Os y gog a ganai cyn Calan Mai, yna byddai yr enllyn (caws, menyn, ayb) yn rhad; ond os y byddai’n canu yn gynnar, yna drud a fyddai’r enllyn.

Gwcw Calanmai -  Cosyn dimai.          
Gwcw Gwyl Fair -  Cosyn tair.       

Dyma graff yn dangos ‘dyddiadau cyntaf’ clywed y gog o 1788 i’r presennol o amrywiol gofnodion (Cymreig gan mwyaf) -ni ymddangosodd hwn efo'r erthygl wreiddiol. Delwedd o dudalen Wicipedia Cymraeg, gan Duncan Brown. Defnyddir trwy drwydded Comin Creadigol, CC BY-SA 4.0


 

Pysgota’r Sewin
At ddiwedd tymor y brithyll mae’r diddordeb a’r pwyslais yn symud oddi wrth y llynnoedd a’r brithyll cyffredin, ac ar y sewin -y brithyll ymfudol- ac i’r afonydd. 

Wrth gwrs nid pob sgotwr sydd â diddordeb mewn mynd i chwilio am sewin - neu gwyniedin fel mae eraill yn ei adnabod, yn rhai o’r afonydd sydd o fewn cyrraedd.  Ond gall wneud hynny fod yn brofiad newydd a gwahanol, ac hefyd yn brofiad diddorol.

‘Onid her yw galwad hon?  
Rhyfedd yw tynfa’r afon’  
- meddai D. Gwyn Evans mewn cywydd, - ac mae mynd ar ôl y sewin yn dipyn o ‘her’.

Yn ddiweddar bum yn pori rywfaint yn llyfr Gaeam Harris a Moc Morgan ar bysgota y pysgodyn enigmatig yma, - sef ‘Successful Sea Trout Fishing’.  Mae yn llyfr sy’n llawn o awgrymiadau ac o gyfarwyddyd ar sut i fynd ati i ddenu y sewin i’r gawell.  Mae’n ddarllen diddorol.
Pennod y bum i’n aros uwch ei phen am beth amser yw’r un am y plu sy’n cael eu defnyddio, ac am ei hamrywiol batrymau.  Mae dewis pur eang ohonynt.

Un peth y mae’r awduron yn ei bwysleisio yw pwysigrwydd y lliw du sydd ym mhatrymau amryw o’r plu.  (Er mae Kingsmill Moore, awdur y clasur o lyfr ar bysgota’r sewin yn Iwerddon, sef ‘A Man May Fish’, yn dweud mai nid lliw ydi ‘du’ ond absenoldeb lliw).

Pa’r un bynnag am hynny, mae ‘du’ yn amlwg yng nghawiad sawl pluen sydd yn llyfr Harris a Morgan, - un ai yn y corff, y traed, neu yn yr adain.  A chyda’r du mae arian neu wyn yn mynd law-yn-llaw, fel petae.

Ymhlith y plu a ddisgrifir gan y ddau awdur y mae dwy bluen, sydd yn engreifftiau da o hyn, sef y rhai a elwir yn ‘Moc’s Cert’, a ‘Blackie’.  Mae y ddwy yma’n ddu drostynt gydag arian yn gylchau am y corff, a dwy bluen wen oddi ar war ceiliog y gwyllt wedi eu rhoi wrth lygad y bach.  Yn wahanol i sawl pluen sewin arall does dim cynffon gan y naill na’r llall o’r ddwy bluen.

Dyma batrwm y bluen ‘Moc’s Cert’ yn llawn, rhag ofn y bydd o ddiddordeb i rai sy’n mynd ar ôl y sewin ac am roi cynnig arni.
Bach         Maint 4 i 10
Corff        Hanner ôl o arian; hanner flaen o arian llydan amdano
Traed        Ceiliog du
Adain       Blewyn wiwer du, gyda phlu cynffon paun gwyrdd (‘sword’) dros y blewyn wiwer
Bochau     Ceiliog y gwyllt - pluen fechan wen

- - - - - - - -

Addaswyd o bennod yng nghyfres hirhoedlog y diweddar Emrys Evans.

Erthygl arall: Y gwcw a choel gwlad