29.6.15

Peldroed- timau'r ardal

Trydedd ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.
 
Hanes rhai o'r nifer fawr o glwbiau a fu yma dros y blynyddoeddd.  Dan benawd 'Timau'r Ardal', dyma sut y cofnodwyd rhai o'r pytiau difyr rheiny, gan ddechrau gydag Offeren City.  Mae'n debyg bod lluniau i gyd-fynd â'r nodiadau, a da fyddai cael gweld copi o'r lluniau hynny, lle bynnag y maent erbyn heddiw.
"Tîm cynharaf Offeren City:  Tom Morgan, J.Humphrey Jones, Haydn Jones, Charles Griffiths. Richard Jones, ---, J.G.Jones, William Davies, Arthur Williams, Frank Davies, Thos. J.Williams.   Ambulance Richard Pritchard, Johnny Williams, Arthur Cooke Thomas,  Maldwyn Vaughan Jones, Austin Jones."  
Ymysg yr enwau eraill yn ymwneud ag Offeren City mewn "Tîm Arall" oedd  Emrys Thomas, Gwilym (Stonelan?) Jones, J.G.H.Parry, R.Arfon Griffiths, R.G.Davies, Maldwyn V.Jones,  Ifor Jones a Tom Brooke.

Awn ymlaen at y Dixie Kids, ac eto enwau rhai a oedd mewn llun cyfatebol a geir :  Len Owen, Jack Williams, W.H.Reese, Tom Emyr Jones, John Idwal Jones, Maldwyn V.Jones. Ivor Stoddard, Arthur Cooke Thomas. R.G.Jones, Carey Jones.  (Ymddengys yn ôl yr hyn a welir uchod bod chwaraewyr yn symud o glwb i glwb yr adeg hynny)

Cofnodir y canlynol fel chwaraewyr i Ffestiniog Thursdays:  Rd. Evans, Rd.Jarret Jones, Dave Jones (USA), Iddon?Humphreys, Morris J.Williams, Morris Griffiths, Bob---(USA), Owen Parry, Dewi Humphreys, E.Hughes, Elias Jones, R.O.Evans (Canada) D.G.Williams.
 "Tîm Manod (Hen iawn) Blaen: Lewis Humphreys, John David Edwards, Jos W.Morris, John Hughes, Evan Pugh.  Canol: Wm Owen, Ieuan V.Hoskins, Edw Jones Thomas. Ôl: Wm J.Ellis, R.Owen Roberts, John Williams, R.Evans Hughes, J.Owen Jones."

Aiff Ernest ymlaen i drafod enwau rhai oedd yn chwarae i dimau eraill o'r cylch, megis timau Tanygrisiau; Ieuenctid Tanygrisiau; Clwb Tanygrisiau;  Moelwyn Rangers; Rhiw Institute (1920); Moelwyn (1910); Ystradau Celts (1926); Black Stars; Gwynfryn Celts; Manod Villa.  Tua 1928 roedd timau Moelwyn Celts, St David's Guild, Bethania, Blue Boys a Rhiw Corinthians yn eu bri hefyd.

Delwedd oddi ar wefan Stiniog.com -dolen isod


Ymysg yr enwau hynny gwelir enwau Gwilym Brookes a Thomas Dorfil Jones (Rhiw Inst.)  Richard Lewis a John Reynolds (Moelwyn Rangers) a Simeon Jones a F.Bradley o dîm Ieunctid Tanygrisiau.
Gwelir hefyd enwau'r sawl a chwaraeodd i dîm cynharaf  Stiniog, un 1890, sef Bob Mills Roberts, Dick Kerchen, Guto Cribau, Ted Roberts, Dic Bach Shonat, John Elias Morgan, Rolant Hughes, Hugh Gwilym Jones, Bob Pwllheli, Dic Gwilym Bach, Evan Stoddart.

---------------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro gan Vivian Parry Williams. Ymddangosodd y bennod hon yn rhifyn Medi 2004.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod.

[Llun pêl gan Beca Elin]

 Gwefan stiniog dot com (dim cysylltiad efo Llafar Bro)



27.6.15

Mae'r Dref Werdd yn ôl!

Rhan o erthygl am gynlluniau amgylcheddol Y Dref Werdd, o rifyn Mehefin.

Wedi cyfnod o seibiant, mae’r prosiect wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Loteri Fawr am y tair blynedd nesaf dan y cynllun - ‘Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar’

Bydd cyfleoedd i drigolion Bro Ffestiniog gymryd rhan mewn nifer o brosiectau, fel lleihau defnydd o ynni yn y cartref, hyfforddiant sgiliau cefn gwlad, a chyfleoedd i wirfoddoli mewn gwahanol agweddau o’r gwaith.

Bydd y cynllun yn dilyn y llwyddiant a ddeilliodd o waith ‘Y Dref Werdd’ fel prosiect a gychwynodd yn ôl yn 2006. Nod hwnnw oedd sefydlu’r corff ac hefyd, i greu gweithgareddau fyddai’n helpu i wella amgylchedd Bro Ffestiniog, lleddfu tlodi ac adfywio’r ardal. Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu nifer o gynlluniau penodol a oedd yn arloesol ac ymarferol. Datblygwyd llawer o bartneriaethau a oedd yn cynnwys asiantaethau cenedlaethol, mudiadau a grwpiau cymunedol ac unigolion. Bwriad y cynllun ‘Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar’ yw parhau gyda’r partneriaethau a’r gwaith hwnnw.

Cyn i’r prosiect gwreiddiol ddod i ben yn 2013, sefydlwyd dwy brif bartneriaeth a fydd yn parhau i ddatblygu’r gwaith, sef, ‘Partneriaeth Afonydd Bro Ffestiniog’ - a fydd yn ceisio codi safon ecolegol pedair afon benodol - Barlwyd, Bowydd, Dubach a Teigl, yn ogystal â’u cadw’n lân a thaclus. Bydd hefyd sesiynau addysgol am yr afonydd yn cael eu cynnig i ysgolion yr ardal.

Sefydlwyd y ‘Bartneriaeth Rhododendron’ hefyd a'r cam nesaf fydd ymgynghori efo’r gymuned leol a darganfod ffynhonellau ariannol i wneud ceisiadau i gychwyn ar y gwaith o'i reoli.

Bydd cynllun arall yn cyd-weithio â 90 o aelodau’r gymuned i gynnig hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth, a hynny drwy dargedu’r ifanc a'r di-waith, er mwyn eu helpu i sicrhau cyflogaeth yn y maes.

Yn dilyn llwyddiant y ‘Clwb Natur’ i blant ysgolion cynradd yr ardal, bydd y staff rwan yn ei ddatblygu ymhellach, trwy ddilyn yr hyn a ddeilliodd o’r cwrs ‘Cynefin a Chymuned’, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Antur Stiniog ar gyfer oedolion. Bydd cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys hanes, bywyd gwyllt, archeaoleg a threftadaeth ardal Bro Ffestiniog, a derbyn cymhwyster ar ddiwedd y cwrs.

[Bydd darllenwyr Llafar Bro hefyd yn cofio'r golofn fisol ar faterion amgylcheddol -Y Golofn Werdd- a ymddangosodd yn y papur am gyfnod, a'r rhifyn gwyrdd unigryw, yn hyrwyddo Gwyl yr Wythnos Werdd a'r Ffair Werdd. Gol.]


Dros y 3 mlynedd nesa' bydd 100 o deuluoedd yn cael arweiniad i leihau’r defnydd o ynni yn eu cartrefi ac arbed oddeutu £400 y flwyddyn. Bydd y prosiect hefyd yn cydweithio gyda theuluoedd i leihau’r maint o wastraff bwyd y maent yn ei daflu allan.

Cafwyd lawnsiad yn ‘Siop Antur Stiniog’ ar ganol Mehefin 16eg, lle cafodd unigolion, grwpiau cymunedol a mudiadau alw heibio i gael sgwrs ac i drafod y cynllun.

Mae pedwar aelod o staff wedi eu penodi o’r newydd, sef, Gwydion ap Wynn, Rheolwr y Prosiect, Meilyr Tomos, Swyddog Prosiect Ynni / Bwyd, Gwen Alun, Swyddog Prosiect Amgylcheddol a Maia Jones, Swyddog Cyswllt Y Dref Werdd.


25.6.15

Stolpia

Rhan o erthygl Steffan ab Owain, o rifyn Mehefin:

Can mlynedd yn ȏl

“Yr wythnos ddiweddaf yr oedd dau Italiad a oedd yn cadw siop pytatws yn Blaenau Ffestiniog, yn myn'd i ffwrdd i ymladd  dros eu gwlad, a daeth yr adran leol o’r milwyr, y rhai sydd yn rhifo oddeutu 150 i'w danfon i'r orsaf, a chawsant send off rhagorol.”
(‘Y Dydd’ - Mehefin 18, 1915).
Tybed pwy oedd y ddau Eidalwr yma a beth a fu eu tynged ?



Marwolaeth Cadwaladr Roberts - Pencerdd Moelwyn – (Mehefin 1915)
“Cafwyd un o’r cynhebryngau mwyaf a welodd pobl Stiniog yn eu  tref. Roedd trefn ei angladd fel a ganlyn:

Band of Hope’ Capel Carmel yn gyntaf, yna’n ail, Cȏr y Moelwyn - sef y cȏr a arweiniodd yn llwyddiannus am rai blynyddoedd.

Yn drydydd, gweinidogion, blaenoriaid a chynghorwyr. Yn bedwerydd, y corff  a ddilynwyd gan y teulu a’r cerbydau. Ac yna, y dyrfa fawr.

Canodd y Gobeithlu a’r côr ar y ffordd ‘yn bruddfelus a swynol.’ Canodd y Cȏr yr emyn-dôn ‘Trewen’ cyn cychwyn oddi wrth y tŷ ac ‘O mor bêr’ ym mynwent y Llan, a’r dorf yn dyblu a threblu ‘Crugybar’ fel ffarwel ‘i un o feibion ffyddlonaf yr awen gerddorol a welodd y genedl Gymreig.’ Tynnwyd rhai lluniau o’r cynhebrwng yn y Stryd Fawr”.

 --------------------

Darllenwch erthyglau eraill yng nghyfres STOLPIA gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


23.6.15

Adolygiad: Llên Gwerin Meirion

Adolygiad llyfr, o rifyn Mehefin.

Llên Gwerin Meirion. Detholiad o Draethawd Buddugol 1898.  William Davies; Golygydd: Gwyn Thomas.

Y diweddara’ o’r gyfres ddifyr ‘Llyfrau Llafar Gwlad’ ydi’r gyfrol hon. Ac yn wir, mae’r cynnwys hefyd yn hynod ddifyr, yn enwedig i ni sy’n rhan o’r hen Sir Feirionnydd.

Testun ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 oedd hwn yn wreiddiol, a enillodd y wobr gyntaf i’r awdur, William Davies, o Dal-y bont, Ceredigion. Derbyniodd William glod uchel, haeddiannol, gan y beirniad, yr Athro John Rhys, a ddywedodd mai dyma un o’r casgliadau gorau o’i fath a welodd erioed. Er nad yw pob cofnod yn unigryw i Feirion, mae’r gwaith ardderchog a wnaeth William Davies yn haeddu’r ganmoliaeth, yn sicr.

Hyd yma, dim ond yng Nghyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1898 y gellid gweld y casgliad rhyfeddol hwn. Mae copïau o’r Cyfansoddiadau rheiny erbyn hyn, fel y gellir dychmygu, fel aur Meirion o brin.

Ond diolch i weledigaeth un o’n ‘hogia ni’, yr Athro Gwyn Thomas, cawn flasu unwaith eto’r miloedd o ddyfyniadau o lên gwerin y sir, a oeddent mewn peryg’ o ddiflannu o’r iaith Gymraeg. Cawn ddarllen enghreifftiau o ymadroddion llên gwerin, diarhebion y misoedd, arwyddion y tywydd, hen benillion a hwiangerddi'r dyddiau fu.

Er efallai’n codi arswyd ar ambell un, mae’r penodau ar ‘Arwyddion Angau’, ‘Ysbrydion’, ‘Drychiolaethau Nosawl’ yn arbennig o ddifyr, ac yn dod â holl ysbryd y dyfyniadau’n fyw iawn, os maddeuwch y disgrifiad! Mae pytiau am hen arferion carwriaethol a llu o ddarnau eraill darllenadwy iawn hefyd yn y gyfrol.

Yn ddi-os, mae Gwyn Thomas, fel golygydd y gyfrol, wedi gwneud cymwynas fawr â’r sawl sy’n ymddiddori yn llên gwerin ein cenedl, ac yn yr hen straeon hynny, oedd mor boblogaidd y dyddiau fu. Mae wedi sicrhau fod gwaith hynod William Davies ar gael unwaith eto, a hynny am bris rhyfeddol o rad o £6.50.

Diolch yn fawr iti Gwyn, a brysiwch i brynu’r gyfrol arbennig hon ddarllenwyr, cyn iddi werthu allan!

VPW

Llên Gwerin Meirion. Detholiad o Draethawd Buddugol 1898.  William Davies; Golygydd: Gwyn Thomas. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50

[Llun gan Wasg Carreg Gwalch]



21.6.15

Urddo a gwobrwyo

Pytiau o dudalen flaen rhifyn Mehefin. Os na welsoch gopi bellach, ewch allan i brynu un, neu cysylltwch â'r dosbarthwyr i gael y straeon yn llawn, a llawer iawn mwy.

ANRHYDEDDU BRYN TŶ COCH

Daeth Bryn Williams, Tŷ Coch, Cwm Cynfal ar restr fer ‘Pencampwr Cymuned Cymru Wledig’ a noddir gan ‘NFU Cymru’ a Chymdeithas Adeiladu’r ‘Principality’. Derbyniodd dystysgrif a gwobr ariannol o £100 yn yr Ŵyl Wanwyn, a gynhaliwyd ar faes y Sioe yn Llanelwedd yn ddiweddar.
Cyflwynir yr anrhydedd i ffermwyr a wnaeth gyfraniad amlwg i’w cymuned leol.

Disgrifiwyd Bryn fel ‘un sy’n barod i gerdded yr ail filltir er lles ei gyfoedion yn y gymuned’ ac fel un ‘a gyfrannodd yn ddiflino i’r gymuned honno ers degawdau.’

Hanner can mlynedd yn ôl, dechreuodd ddosbarthu wyau yn lleol. Mae’r orchwyl honno’n parhau hyd heddiw. Boed law neu hindda, mae’n parhau i ddosbarthu papurau newydd. Mae’n mynd â’r rhain i Gartref Bryn Blodau’n ddyddiol. Mae’r trigolion yn aros yn eiddgar amdano, ac mae’n canfod amser i gael sgwrs fach gyda nhw.

Mae Bryn yn 81 oed ym mis Gorffennaf, ac wedi hanner ymddeol o ffermio bellach. Mae’n rhentu allan y rhan fwyaf o’i dir. Er hyn, mae’n parhau i fynd o gwmpas y tir hwnnw ar ei feic modur ‘quad’, a phan fydd yng nghyffiniau Ty’n Ffridd, a minnau allan yn piltran o gwmpas yr ardd, bydd yn rhaid aros am sgwrs i roi’r byd yn ei le. Ond mae’r hyn a wna’n y gymuned yn ei gadw i fynd, yn ei gael allan o’r tŷ’n hytrach na bod o dan draed Eurwen, ac yn sicr, yn ei gadw’n ifanc.

Mae’r ardal gyfan yn gwerthfawrogi’r hyn a wna, ac yn dymuno iechyd a hir oes iddo i ddal ati.
Llongyfarchiadau calonnog, Bryn, a diolch am bob cymwynas!   IM

-------------------

CAMP TOMOS HEDDWYN

Daeth Tomos Heddwyn Griffiths, sy’n ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol y Moelwyn â chlod i’r ardal pan ddyfarnwyd iddo’r wobr gyntaf ar yr Unawd i Fechgyn (Blynyddoedd 7 i 9) ym Mhrifwyl yr Urdd, Caerffili.


Swynodd ei gyflwyniad o ‘F’annwyl wyt ti’ [Caro mio ben] gan Giordani y beirniad yn fawr. Llongyfarchiadau gwresog i ti, Tom, a dymuniadau gorau i’r dyfodol.

-------------------

Hefyd, darn o newyddion da a ddaeth o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol:

Fis yn ôl cyhoeddwyd enwau'r rheini o’r gogledd a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau eleni, fore Gwener 7 Awst.

Iwan Morgan
Mae cyfraniad Iwan Morgan, i fywyd diwylliannol y fro yn
sylweddol dros y blynyddoedd, gyda’r cyn-brifathro’n troi’i law at nifer fawr o feysydd gan gynnwys canu corawl, barddoni, beirniadu ac yn fwyaf nodedig ac amlwg, efallai, ei gyfraniad helaeth i gerdd dant, nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol.


Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ers blynyddoedd, mae Iwan hefyd wedi bod yn lladmerydd pwysig i gerdd dant, gan gymryd rhan flaenllaw yng ngwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, yr Ŵyl Gerdd Dant, a llu o sefydliadau a chymdeithasau eraill.

Yn gyn-aelod o dimau Talwrn Ardudwy a’r Moelwyn, bu hefyd yn olygydd papur bro lleol ei ardal, Llafar Bro am flynyddoedd, ac yn gweithredu eto fel cyd-olygydd ers 2008. 

Llongyfarchiadau gwresog i Iwan.

19.6.15

Gwynfyd -gwybedog brith

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro; y tro hwn o rifyn Mehefin 1997:

J648663.
Tydi o ddim yn edrych yn fawr o ddim nac ydi, ond efo rhywfaint o lwc mi fydd y rhif unigryw yma yn ein galluogi i ddilyn hynt a helynt, a dysgu mwy am fywyd un o gywion gwybedog brith diweddaraf y fro. Erbyn i’r Llafar eich cyrraedd, mi fydd y cyw a’i saith brawd a chwaer wedi hen adael y nyth, gan eu bod eisioes tua 12 diwrnod oed pan rhoddwyd modrwy am eu coesau ar y 4ydd o Fehefin. Tydi’r cywion ddim y pethau delia welsoch chi erioed a bod yn onest, ac ni fydd eu plu mor drawiadol a’u rhieni am tua blwyddyn.

Fel bron ymhob achos, y ceiliog yw’r tlysaf gyda phen a chefn du a thalcen, brest a streipen adenydd claerwyn, tra bod yr iar yn frown a gwyn, ond yr un mor amlwg a hawdd i’w ‘nabod.

Ceiliog gwybedog brith- oddi ar Wikimedia Commons

Dwi wedi cael y fraint eleni o fedru dilyn datblygiad y boblogaeth leol o’r aderyn arbennig yma. Gwelais geiliog cyntaf y tymor yn weddol gynnar, a hynny ar y 10fed o Ebrill wrth droed deheuol Cadair Idris; ‘roedd ymysg y cyntaf i gyrraedd mi dybiwn. Mae’r ieir yn dilyn o’r Affrig ychydig wedyn, ac ar yr 2il o Fai mi fu’m ar y cyntaf o hanner dwsin ymweliad â gwarchodfa Coedydd Maentwrog, gyda Wil Jones, Croesor, i wneud arolwg o flychau nythu yno.

Yr oedd sawl nyth wedi ei godi, yn gwpan twt o wair, dail, a mwsog, ag ambell iar wedi dechrau dodwy. Erbyn y drydedd ymweliad roedd dros ddwsin nythiad o saith neu wyth o wyau hyfryd glas, -yr union olygfa a ysgogodd ddiddordeb ym myd natur ynof yn wreiddiol yn fy ieuenctid, wrth fynd efo 'nhad i Bandy Coch, Ysbyty Ifan, gyda cholofnydd natur Yr Odyn, Griff Elis.

Ar yr ymweliad olaf -diwrnod braf gyda theloriaid yn canu uwch ein pennau, a’r gnocell fraith fwyaf yn chwibanu yn ddyfn yn y goedwig- cafwyd bod 18 blwch allan o 50 wedi eu defnyddio gan y gwybedog, a 10 gan ditws, a’r gweddill yn wag, sydd yn debyg iawn i’r patrwm a gafwyd yno ers gosod y blychau ddechrau’r saithdegau.

Coedydd Maentwrog, yn dal i ddenu gwybedogion. Mehefin 2015, llun PW

Tyllau naturiol mewn coed, fel twll cainc neu dwll cnocell yw dewis traddodiadol yr adar yma i godi nyth, ac er mai coedydd derw gorllewin Cymru yw eu cadarnle ar Ynys Prydain, credir i’w niferoedd gynyddu yn ail hanner y ganrif hon oherwydd defnydd eang o flychau nythu. Mae un blwch ar wal cwt ym Mhenygwndwn wedi llwyddo i ddenu pâr i nythu ynddo er enghraifft, cryn bellter o’r coed agosaf.

Rhoddwyd modrwyon ar 68 o gywion gan Dafydd Thomas, modrwywr trwyddedig, ar y 4ydd, a dwy ar ieir oedd yn gori; ‘roedd 28 cyw yn rhy ifanc i’w modrwyo a 23 ŵy eto i ddeor. Amrywia oed y cywion o tua deuddydd i ddeuddeng niwrnod oed. Gadawant y nyth ar ôl bythefnos, ac erbyn yr hydref mi fydd y rhan fwyaf ohonynt yn ddigon cryf i ddychwelyd i wres deheudir Affrica am y gaeaf, cyn dychwelyd i fagu cywion eu hunain.

Efallai y byddaf yn ddigon lwcus i weld J648663 yn gori wyth o wyau prydferth glas yn y flwyddyn 2000 ar ôl hedfan i’r Affrig a dychwelyd i Gymru fach dair gwaith.

Dyna ryfeddod natur.  Dyma wynfyd.

Paul Williams
------------------------------

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Gwynfyd' isod.


17.6.15

O'r Pwyllgor Amddiffyn


Ar ôl i rifyn Mehefin Llafar Bro fynd i'r wasg, daeth y newyddion mawr am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn rheolaeth Bwrdd Iechyd Betsi Dwalad, gan gynnwys ymadawiad Mr Purt y prif weithredwr. Erbyn hyn hefyd, clywn bod yr heddlu'n ymchwilio i elfennau o reolaeth ariannol y bwrdd. Mae colofn y Pwyllgor Amddiffyn yn rhifyn Mehefin yn cynnwys manylion difyr am sut oedd y bwrdd yn gweithredu... 

Ym mis Mai aeth dirprwyaeth o’r pwyllgor i Fangor i gyfarfod yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd. Yno hefyd i’n cyfarfod oedd Dr Peter Higson y cadeirydd a Mr Geoff Lang y Pennaeth Strategaeth. Gan mai’r Athro Purt ei hun oedd wedi awgrymu’r cyfarfod, yna roedd lle i obeithio eu bod nhw, o’r diwedd, yn barod i gydnabod ffaeleddau amlwg y gwasanaeth iechyd yn yr ardal hon. Ond, ar ôl awr a hanner o drafod ac o gyflwyno’n hachos yn y modd cryfaf posib, fe ddaeth yn amlwg iawn nad oedd Mr Purt yn barod i gyfaddawdu ar un dim. Roedd ei agwedd yn ffroenuchel ac yn ymylu ar fod yn sarhaus ac fe ddaethom o’r cyfarfod hwnnw nid yn unig yn siomedig ond yn hynod o ddig.


Go wahanol oedd yr awyrgylch wythnos yn ddiweddarach pan aethom i gyfarfod Ruth Hall a Jack Evershed ym Machynlleth. Nhw ydi cyd-gadeiryddion y pwyllgor newydd, sef y Collaborative, a gafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Iechyd yn ddiweddar i drafod sefyllfa anfoddhaol y gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru. (Fe gofiwch bod rhai ohonoch wedi rhoi tystiolaeth i’r Athro Longley llynedd ac mai ei adroddiad ef a arweiniodd at sefydlu’r Collaborative.) Sut bynnag, fe gafwyd cyfarfod buddiol iawn efo Ms Hall a Mr Evershed a buont yn ein holi yn fanwl iawn am y  sefyllfa sy’n bodoli bellach yn ‘Ucheldir Cymru’, sef Stiniog a’r dalgylch gwledig o’n cwmpas; ardal sy’n ymestyn o Ddolwyddelan yn y gogledd hyd at Trawsfynydd a Bronaber yn y de.

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod ein dadl yn cael cefnogaeth y canlynol i gyd –
Yr Athro Marcus Longley;
Sarah Rochira (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru);
Meri Huws (Comisiynydd Iaith);
Cynghorau Iechyd Cymunedol Gwynedd a Chonwy;
yn ogystal â chyd-gadeiryddion y Collaborative.
Rydym hefyd yn dal i gysylltu efo Pwyllgor Deisebau y Cynulliad yng Nghaerdydd i geisio perswadio’r Gweinidog Iechyd bod gan yr ardal hon yr hawl i’r un ddarpariaeth ag sy’n cael ei rhoi i dref lawer llai fel Tywyn ym mhen arall y sir ac i brofi iddo bod Betsi yn dangos ffafriaeth hiliol yn ein herbyn.

Gallwn enwi hefyd nifer o Aelodau Cynulliad o bob plaid sy’n bleidiol i’n hachos a chaed addewid gan ein haelod seneddol newydd, Liz Saville Roberts, y bydd hithau hefyd yn ein cefnogi. Gresyn na fyddai cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd, heb sôn am ein haelod cynulliad ni ein hunain, yn dangos mwy o diddordeb yn ein hachos!
                                       
GVJ

15.6.15

Trem yn ôl -Yn ôl i'r Gloddfa

Mae’r ysgrif afaelgar, ddarllenadwy yma, gan Rhiannon Jones yn sôn am brofiad un a ddychwelodd i le oedd mor wahanol pan oedd yn blentyn. Cyhoeddwyd hi gyntaf yn rhifyn Gorffennaf 1979.

AIL-YMWELD Â CHWAREL
Bore braf ym mis Mehefin, ac awel ysgafn yn ymdeithio’n hamddenol i fyny’r Llwybr Cam. Mae hi’n dawel iawn yma; neb o gwmpas. Pam tybed?

Llun- Comin Wikimedia
Cyrraedd y copa. Wel, dyma le dieithr. Ble mae’r hen adeiladau wedi mynd; yr hen injan bach, a’r wagenni?

Crwydro i ben y Domen Fawr, syllu ar y dref islaw yn araf-ddeffro, ac yna ymlaen at geg yr ‘agor’. Mae rhyw newid mawr yma hefyd –golau trydan, a – beth yw’r rhain? Dynion bach tegan yn eistedd yn siriol yng nghanol pwll o oleuni. Un arall yn pysgota mewn llyn bychan! Ymlaen mewn syndod ar hyd y lefel. Does neb yn crogi ar y graig; tawelwch ym mhobman, a’r graig wedi’i goleuo i gyd â thrydan, heb unrhyw sôn am gannwyll.

Mae sŵn yn dod o rywle; iaith ddieithr hefyd. Pwy sydd yna tybed?

Ymlwybro’n ôl ar hyd y lefel, a dod at dwr o bobol a phlant yn dotio at yr olygfa danddaearol. Does dim golwg gweithio yn y chwarel ar yr un o rhain!

Mynd allan i’r haul eto, a theithio tua’r Gloddfa Ganol*. Beth sy’n mynd ymlaen yn y felin? Bachgen ifanc yn eistedd ar darw dur mawr, ac yn symud y darnau o’r graig mor rhwydd â bocs matsys. Un arall yn eu codi ar y bwrdd llifio a dim ond rhoi ei fys ar fotwm. Dim ymlafnio a cholli gwynt yma heddiw fel yn y dyddiau gynt. Ymhellach draw mae peiriant newydd arall eto yn grindian yn ôl a blaen ar lechen lefn. Beth wneir â hi tybed? Bwrdd neu sil ffenestr?

Ond dyma un sŵn cyfarwydd, beth bynnag – yr injan naddu, - a llu o bobol ddieithr yma eto’n syllu ar y bachgen yn torri’r llechi. Dacw un arall - ia, wir - yn hollti, ond dim ond dau sydd wrthi. Od iawn! ‘Sgwn i  ble mae’r cei fyddai’n llawn o lechi yn disgwyl am y llwythwr a’i wagenni?

Wel, dyma ryfeddod eto - merched! Ia, merched yn gweithio yn y chwarel! Maent yn trin y nwyddau llechi yn bur gywrain, chwara’ teg. Mae’n rhaid mai dyma’r steil y dyddiau yma, sef gwneud gwaith i bobol ddiarth ei weld a’i brynu.

Beth sydd drwy’r drws mawr yma tybed? Siop? Does bosib – wel, ia wir, ac mae’n llawn o nwyddau a wnaed yn y felin gan y bechgyn a’r merched. Mae yma lawer o bethau tlws eraill, a’r bobol yn gwau drwodd a thro yn ceisio dewis beth i’w brynu.

Allan i’r awyr agored eto, ac erbyn hyn mae ceir ym mhobman ynghyd ag ambell fws; plant yn rhedeg yma ac acw, ond eto, dim sôn am yr hen injan bach. Mae’r bobol yn disgwyl am gael mynd i rywle mewn cerbyd. Rhaid mynd i weld!

Dyma gychwyn i fyny’r llwybr serth ac i Holland*. Beth yn y byd sydd yn y fan honno? Pawb yn dod o gerbyd a hetiau coch ganddyn nhw - i gyd yn llawn golau. I mewn â nhw dan y ddaear i weld yr ‘agorydd’ ac i gael sgwrs ar y dull o weithio ers talwm - yng ngolau cannwyll yn crogi ar y graig.

Mae rhywbeth i’w ddweud am gynnydd, ond does neb i’w weld yn lladd ei hunan yma heddiw nac yn gorfod aros am egwyl i gael ei wynt.

Beth arall sydd yma tybed yn yr hen chwarel ddieithr yma?

Mynd am dro at y bythynnod, - neb yn byw ynddyn nhw rwan, ond maent yn cael eu cadw’n lân a thaclus, diolch am hynny. Y dodrefn yn eu lle fel yn y dyddiau gynt.

Mynd i weld adeilad yn llawn o injans bach - rhai hen, hen a rhai fyddai’n gweithio yma ers talwm. Bechgyn bach yn dringo drostynt ac yn gwirioni wrth gael smalio dreifio.

Mae’r geiniog yn disgyn rwan! Mae rhywrai wedi cymryd yr hen chwarel ddiwerth yma i ddangos i bobol ddiarth beth oedd yn digwydd ers talwm. Dysgu rhywbeth wrth fynd o gwmpas yr amgueddfa, ac edrych ar yr hen greiriau a’r hen luniau. Dyma’r hen William Jôs a Robat Huws. Beth ddyweden nhw pe gwelent y lle yma heddiw?

Clywed corn rhyw chwarel arall yn canu; amser cinio! Mae’r bobol yn ymlwybro am dŷ bwyta crand. Chware teg iddynt - mae pawb yn mwynhau eu hunain yn yr haul braf.

Pe gwelai William Jôs a Robat Huws y plant yma’n gwario mewn bore cymaint â’u henillion hwy mewn wythnos, neu hyd yn oed fis - wel dyna gynnydd mae’n siŵr!

Roedd yn b’nawn tesog ym mis Mehefin, a llithrodd awel ysgafn dros ymyl y Domen Fawr cyn i’r nos gau’n dynn dros y Gloddfa, a’i dychwelyd i’r tawelwch hen a fu. Fe wyddai William a Robat yn iawn am rheiny.

*Enw ar ddwy bonc yn y Chwarel.

-----------------------------
Wrth ail-gyhoeddi'r uchod yn rhifyn Mai 2015, ychwanegodd Iwan Morgan:

Mae’r diweddar J. Ieuan Jones, Talsarnau’n disgrifio menter ‘Llechwedd’ fel hyn mewn awdl a gyfansoddodd tua’r un cyfnod â’r ysgrif:

Heddiw’r chwarel sy’n elwa
Ar farsiant diwydiant ha’,
Chwarae chwarel â delwau
A heidia’r myrdd i’w dramâu;
Creigiwr eiddil wrth biler
A’i gŷn yn ei ddwylo gwêr.

A naddwr ni heneiddia
Wrth ei dwr o lechi da;
Carpedau drwy’r lloriau llaid,
Trostynt cerdda twristiaid;
Mwynhau’r wledd a rhyfeddu
Ennyd awr uwch dwnsiwn du.

(Gol.)


13.6.15

Bwrw Golwg -Richard Lloyd, Vermont

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Darn arall gan W. Arvon Roberts; un a ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mai 2015.
 
Carwn dynnu sylw’r darllenwyr y mis hwn at un arall o fechgyn ‘Stiniog a wnaeth ei farc yn yr America.

Mab i Edward a Jane Lloyd, Tŷ’n Cefn, Blaenau Ffestiniog, oedd Richard E. Lloyd, a anwyd ar y 13eg o Ragfyr 1832. Yr oedd yn ddisgynnydd o ochr ei dad o Lwydiaid Cwm Bychan, yn Ardudwy, a Bleddyn ap Cynfyn, sylfaenydd un o bum llwyth brenhinol Cymru. Cedwir achau’r teulu hwn yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.

Yn 1853, ymfudodd Richard a’i dad, ac aelodau eraill o’r teulu, i Fair Haven, Vermont. Daeth William Lloyd, ei frawd, i’r Unol Daleithiau yn y flwyddyn 1850. Gan iddo ddysgu chwarelydda, ymgymerodd â’r un gwaith am gyfnod yn yr America. Ond oherwydd cyflwr ei iechyd, ymsefydlodd fel masnachwr yn Fair Haven, lle bu’n llwyddiannus iawn.

Yn ddiweddarach, priododd â Miss Margaret Williams. Ganwyd iddynt bump o blant.


Fel y nodwyd, bu R.E. Lloyd yn llwyddiannus iawn fel gŵr busnes, a chwaraeodd ran helaeth yn natblygiad pentref Fair Haven yn ystod y 30 mlynedd y bu’n cadw ‘maelfa sychnwyddau’ yno. Bu’n drysorydd Capel Cymraeg M.C. Fair Haven ar hyd ei oes. Bu am flynyddoedd yn rhan o gwmni

Yn 1890, gwerthodd R.E. Lloyd y fasnach sychnwyddau i un o’r enw J. Dena Culver, ond bu gyda’r fasnach lechi am tua deng mlynedd ar ôl hynny. Oherwydd cyflwr ei iechyd, bu’n rhaid gwerthu’r fasnach lechi wedyn.


Yn dilyn ei farwolaeth, dywedwyd amdano yn un o bapurau newydd Fair Haven:
‘Lloyd, Owens & Co’, - cwmni masnach helaeth a llwyddiannus mewn chwarelyddiaeth, a hynny gyda William ei frawd, a fu farw 8fed Mehefin, 1912, ac Owen Owens, hen flaenor oedd yn aelod yn yr un capel ag ef. Bu Owen Owens farw 2ail Ionawr 1886. Ni fu yr un cwmni llechi’n Vermont yn fwy adnabyddus na Chwmni ‘Lloyd, Owens & Co.’ rhwng 1872 a 1912.
“Mr Lloyd’s interest in the town of his adoption was real and he did more than his share to encourage and promote her varied industries. He may have other monuments, but his best and most enduring memorial today is the handsome brick and marble block on Main Street in which W.F. Parker & Son are doing business. Mr Lloyd was present at the laying of the corner stone of the Welsh Presbyterian Church in 1868. He was one of the constituent members of that church and his interest in it continued up to his death, being at that time one of the oldest members on its rolls. He had the devotion of his race to religion and his faith was unclouded”
Bu farw ym mis Awst 1912.

LLUN ... Eglwys Fair Haven, o gasgliad yr awdur.
----------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Bwrw Golwg' isod.

12.6.15

Calendr Bro

Wrth ddarllen rhifyn Mehefin, daw'n amlwg unwaith eto bod ein bro'n fwrlwm o weithgareddau, efo rhywbeth i ddifyru pawb rhwng rwan a rhifyn Gorffennaf. Cofiwch brynu Llafar Bro i gael y manylion yn llawn.

Dyma flas o'r hyn sydd ar y gweill, gan gychwyn heno:

MEHEFIN-
Nos Wener 12fed : CELL 7yh, Noson Acwstig efo Swnami a Jambyls yn y bar, a gêm
                                                        beldroed Cymru ar y sgrîn fawr.

Nos Wener 12fed : NEUADD TRAWS  7yh, Sioe Ffasiwn. £5, elw at Gylch Meithrin Trawsfynydd.

Dydd Sul 14eg: BETHEL, LLAN. oedfa yng ngofal Rhian Maddocks.

Dydd Sul 14eg: Carnifal Tanygrisiau - dim manylion wedi dod i law.

Nos Sul 14eg: Eglwys Dewi Sant, Cyngerdd: Côr Cymysg ac eraill -dim manylion wedi dod i law.

Dydd Mawrth 16eg: SIOP ANTUR STINIOG/Sgwâr Diffwys 3 tan 7. Ail-lansio'r Dref Werdd.
                            Dweud eich dweud am faterion amgylcheddol y fro. Gweithgareddau plant.

Dydd Mawrth 16eg: Y LLYFRGELL 4 tan 7. Sesiwn dweud eich dweud am wasanaethau'r llyfrgell.

Bob Dydd Mercher: Tai Chi, Age Cymru. Dim manylion wedi dod i law.

Nos Fercher 17eg: Cyfarfod olaf y tymor i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog.
                               Taith i Gapel Salem, Llanbedr.

Dydd Sadwrn 20fed: CLWB RYGBI BRO FFESTINIOG 10yb. Sêr rygbi Cymru gan gynnwys
                       Dafydd Jones a Ken Owens, yn cyfarfod y cefnogwyr ac ateb eich cwestiynau.

 Dydd Sadwrn 20fed: LLYN MORWYNION 10 tan 4. Cystadleuaeth Agored, Cymdeithas
                   Enweiriol y Cambrian.

Dydd Sul 21ain: BETHESDA, MANOD 10yb, oedfa gyda'r Parch Adrian Williams.

Nos Sul 21ain: SGWÂR DIFFWYS 7yh, Cymanfa Ganu Awyr Agored.

Nos Iau 25ain: YSGOL y MOELWYN 6yh, Cyngerdd Blodeuwedd. Penllanw cynllun celf a
     cherddoriaeth ysgolion y fro efo'r artist Catrin Williams a Gai Toms. Elw- ambiwlans awyr.

Dydd Gwener 26ain: DYDDIAD CAU rhifyn Gorffennaf  Llafar Bro.

Dydd Gwener 26ain:  LLYN MORWYNION 10 tan 4. Cystadleuaeth Agored Sgota Nos, Cymdeithas
                                 Enweiriol y Cambrian.

Nos Wener 26ain*: Y PENGWERN 8.30yh, Yws Gwynedd a Jambyls. £6 -dau am bris un!
                  * Sylwer! Wedi newid i nos Wener, yn lle'r Nos Sadwrn.

Nos Wener 26ain: NEUADD TRAWS 7.30yh, Cyngerdd 4 Côr: Lliaws Cain, Meibion Prysor, Ysgol
                                         Bro Hedd Wyn, a Chôr Leelo o Estonia. £5 (am ddim <16)

Dydd Sadwrn 27ain: YSGOL Y MOELWYN 10 tan 2, Miri Mehefin. Cystadlaethau chwaraeon a
                                  gweithgareddau i blant, a stondinau.


Dydd Llun 29ain: BETHEL, LLAN 5.30yh. Cyfarfod efo Edward Morris Jones.


GORFFENNAF-
Nos Iau 2il: YSGOL Y MOELWYN 7, Cyfarfod Cyhoeddus i drafod dyfodol y rheilffordd rhwng
                                   y Blaenau ac atomfa Traws.

Dydd Sadwrn 4ydd: DYDDIAD CAU cystadleuaeth y gerddi, Blaenau Mewn Blodau.

Nos Sadwrn 4ydd: CLWB RYGBI -sioe glybiau Bara Caws. Dim manylion wedi'n cyrraedd.

Nos Fercher 8fed: NEUADD y WI 6.30yh. Plygu Llafar Bro


-----------------------------------

Os oes gennych chi ddigwyddiadau eraill, gadewch inni wybod trwy adael sylw isod, neu yrru neges i'n tudalen Gweplyfr/Facebook, neu ebostio'r gwefeistr (manylion ar y dudalen PWY 'DI PWY? uchod)


11.6.15

Peldroed- y caeau cyntaf

Ail ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'. Y tro hwn, dyfyniadau, air-am-air, o nodiadau Ernest Jones:

Mae hanes am gêm o ryw fath yn 1883, ond ym 1886 y ffurfiwyd tîm y gellid ei ystyried fel tîm trefol.  Yr oedd gemau yn digwydd rhwng y Blaenau a thimau o'r cylchoedd cyfagos yn yr 1880au.

Yna, ym 1890 ffurfiwyd clwb mwy trefnus a chynhelid gemau ar gae a elwid Holland Park, ardal y Rhiw, ar odre Tomen Fawr Chwarel Holland.  Yr oedd Cymdeithas Beldroed Glannau Gogledd Cymru yn cael ei sefydlu yn 1894 a'r awydd am gael clybiau peldroed yn tyfu yn Stiniog fel ymhobman arall.

Bu'r Blaenau ymysg y clybiau cynharaf wrth ffurfio ym 1890 a hynny efallai oherwydd y llwyddiant mawr oedd wedi dod i ran un o fechgyn Stiniog, y Meddyg Robert Mills Roberts, un o dri mab Robert Roberts a ddewisodd meddygaeth fel gyrfa.  Dechreuodd tad Dr Roberts ei yrfa yn y chwarel, ac yna bu'n athro ysgol ac yn rheolwr chwarel ac yr oedd ei fam yn hannu o deulu'r Mills, Llanidloes.

Bu Robert Mills Roberts yn enwog fel peldroediwr pan oedd yn paratoi ar gyfer bod yn feddyg, a bu'n chwarae yn y gôl i Preston North End yn 1888-89.  Chwaraeodd rai gemau i Stiniog ym 1890 gyda Dic Bach Stonal, Guto Cribau, Dic Gwilym Bach ac eraill.

Ym 1898 symudodd Stiniog i chwarae i ardal Conglywal i ddarn o dir a gymerwyd wedyn gan chwarel Ithfaen, dros y ffordd i fynwent Bethesda.  Yr oedd y cae yn Dinas, (Rhiw) yn wlyb ofnadwy a phan symudwyd i'r Manod yr anfantais oedd bod gwylwyr di-egwyddor yn 'cefnogi' oddi ar y llechweddau yn lle talu am fynd i'r cae (cyn hynny buwyd am gyfnod byr yn Nhanygrisiau).

Symudwyd o'r Manod ym 1908 ac yna wedyn cwynai swyddogion Capel Bowydd. Ysgrifennodd y Parch. John Owen, Bowydd ar ran yr eglwys i'r Cyngor Dinesig i gwyno bod y chwarae peldroed o fewn ychydig lathenni i'r capel yn creu niwsans. Penderfynodd y Cyngor i alw am help yr heddlu ac i ofyn i berchennog y cae, Griffith Owen am ei gydweithrediad yntau.  Yr oedd y cae dan sylw, (Parc Newborough) yn ganolog iawn ac yn eithaf gwastad ond yr oedd yn rhy fyr i gael gemau pwysig arno - gemau cystadleuaeth Gogledd Cymru, er enghraifft.  Ysgrifennydd y clwb erbyn 1911 oedd John Tucker.

 Llun- Parc Heygarth, oddi ar wefan stiniog dot com -dolen isod

-------------------

Ymddangosodd yr erthygl uchod yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2004. Paratowyd y gyfres ar gyfer Llafar Bro gan Vivian Parry Williams.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Hanes y bêl-droed yn y Blaenau' isod.

[Llun pêl gan Beca Elin]

Gwefan stiniog dot com (dim cysylltiad efo Llafar Bro)


9.6.15

Pobl y Cwm- dechrau'r ysgol


Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Rhan 2 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.

Wedi i mi gyrhaedd fy mump oed roedd rhaid cychwyn i'r Llan am yr ysgol, rhyw ddwy filltir o ffordd i gerdded, doedd dim son am bus na motocar yr adeg hono. Roedd pedwar o honom yn mynd o'r un ty. Llond tin o fara llaeth a bag o frechdanau at ginio.

Un diwrnod, a Dei a John wedi cychwyn am yr ysgol o flaen fy chwaer a finau. Mae'n siwr fod awydd bwyd wedi dod at yr hogia, a dyma eistedd i lawr ar ben rhiw Tŷ Coch i gael tamad o'r bara llaeth. Roedd dau neu dri o fechgyn y Cwm wedi dod atynt ar ei ffordd i'r ysgol, ac roedd yn rhaid i bob un cael tamad o'r bara llaeth. Darfyddodd y bara llaeth yn gynt nac yr oeddynt wedi meddwl, a dyna Dei yn dweyd mewn braw, "Dyna ni wedi byta bara llaeth i gid, heb gofio am Annie a Nell". Ond ta waeth am hyny, ddaru ni ddim llwgu, er i ni fod heb fara llaeth y diwrnod hwnw.

Miss Edwards oedd y Brifathrawes yn yr ysgol fach y pryd hyny, a Miss Jones yn Isathrawes, y ddwy yn dod o'r Blaenau. Mae rhai o'r teuluoedd yno heddyw. Ni fum i yn hir iawn yn class y Babanod. Rwyn cofio cael fy symud i secon class, cael llechan las a ffram bren iddi, a pensil gareg i ysgrifenu arni. Fy enw yn gynta peth, ci, cath, iar, afal, oran, cnau. Roedd eu lluniau ar y board du yn blaen mewn chalk gwyn.

Dysgu gwnio wedyn, pisin bach o calico, wedi troi hem yn barod, a smotyn glas a smotyn coch arno, in dysgu i wneyd y pwyth yn union ac yn un faint. Roedd yn yr ysgol fach y pryd hyny Cardicul bach tlysion a del ac ar yr un ochr ir cardyn roedd y geiriau "Never Absent Never Late" iw enill i bob un or plant a wnai gadw wythnos gyfan heb colli na bod yn hwyr 'run waith. Mi fyddwn i yn gweld hi'n braf ar y plant fydda enill y garden, a finau mor anlwcus byth yn cael yr un. Mi wn i y byddwn yn colli gryn dipyn o fy ysgol. "Dim yn gry" medda nhw.

Yr adeg hono roedd dyn yn dod o cwmpas y tai i ddweyd y drefn os byddai plant yn colli ysgol. Cof da genyf am Mr Evans y Schoolboard. Mi fydda gen i ei ofn. Hen creadur tal tenau yn gwisgo Het Sgwar bob amser ac ambarelo mawr gry yn ei law. Yr ydwyf fel taswn i yn ei glywed o y funud yma:
 
       "Wel Ellen Price be ydi mater heddyw heb fod yn yr ysgol?"

Mi fyddwn yn teimlo yn euog ac yn swil, ond chwarae teg iddo, mi fydda yn gwenu bob amser.

Byddem yn cael dima bob un, unwaith yr wythnos, meddwl pa le i'w gwario oedd y peth nesa. I siop Francis Evans, cael llond bag bach o dda-da bob lliw a llun. Tro arall i siop Hugh Jones Manod i nol gwerth dima o buscuit ar siap ABC. I siop D.Roberts i nol taffi cartre, wedi Mrs Roberts ei wneud, a'i roi ar blat tin mawr ar y cownter, a morthwl bach del ganddi yn ei dorri, ac os digwydd iddo dorri yn fân cawsem gegiad o hono ganddi, a dyna falch fyddwn i. Y tro arall i siop Mary Roberts i nol sodo cake, dima am un pisin o'r sodo cake, a hono yn un dda. Fel byddai Glangaua yn agosau byddai Mrs Roberts, Siop Baker yn gwneyd Indian Rock, a byddem bob amser yn gofalu mynd i'r siop hefo dima i nol Indian Rock William Griffith, y goreu yn y wlad.

Os byddai genyf eisiau copi i ysgrifenu a pencil, wel i siop David Roberts, Bwcs. Byddai ganddo fo bob math o bapurau a llyfrau a pensils ar draws ei gilydd ar y cownter. Byddwn hefyd yn galw heibio siop Sadler W.Williams Tyddyn G.Mawr, a byddwn yn cael mincgegyn gwyn fel swllt ganddo yn aml.

O tipyn i beth cefais fy symud i Standard one. Miss M.A.Hughes oedd yr athrawes, a chael dechrau ysgrifenu hefo penholder a ink ar copy top line. Roedd yn y class ar y pryd ryw ugain o blant, rwyf yn ei cofio yn dda, a gallaf ei henwi i gid bron. Bum gyda Miss Hughes am gyfnod o dri class.







Defnyddir y llun uchod fel enghraifft yn unig, i ddarlunio'r cyfnod; nid Ysgol y Llan ydyw. Diolch i VPW am ei ddarparu.  (Ysgol Annarparedig Penmachno, tua 1905)
------------------

Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod.


7.6.15

Lloffion o'r Wladfa

Parhau'r gyfres yn nodi canrif a hanner ers taith y Mimosa i greu gwladfa Gymreig yn Ne America. Y tro hwn, rhan o erthygl W. Arvon Roberts, o rifyn Mai.


Y ‘CYRNOL JONES’ o BATAGONIA

Ganwyd Robert E. Jones (Y ‘Cyrnol Jones’) yn Fuches Wen, Blaenau Ffestiniog yn 1850. Ymfudodd i’r Wladfa pan oedd yn ŵr ifanc. Ysgrifennodd amryw o straeon dan yr enw ‘Cyrnol Jones’ gan y credai y buasai’r enw’n apelio mwy at blant Cymru.

Wedi bod yn gweithio’n y chwarel am gyfnod, aeth i weithio mewn siop ym Manceinion, ac yna daeth i gysylltiad â’r mudiad Gwladfaol, ac yn 1871, ymfudodd yntau i Batagonia. Bu’n athro a blaenor yn Seion (M.C.), Bryn Gwyn, Y Wladfa. Ysgrifennodd nofel, ‘Miriam y Gelli,’  a gyhoeddwyd yn ‘Cymru’ O.M. Edwards yn ystod 1896-97, a rhwng blynyddoedd 1896-1902, cyhoeddodd straeon yn ‘Cymru’r Plant’. Straeon am lewod a chŵn ac estrys, a rhai am Indiaid a llofruddion a phobl od a ysgrifennai amdanynt.


Bu farw ar Orffennaf 14eg, 1913 yn 63 oed. Tynnwyd y llun ohono ef a’i ŵyr bach, Gerallt Owen, (mab i Mr a Mrs J.O. Evans), ychydig cyn ei farw.

Yn yr un cartref ag y magwyd Gerallt y cartrefai Arthur Hughes, B.A. (1878-1965) gynt o Bryn Melyn, ger Harlech, un a fu am gyfnod yn was i’w ewythr mewn melin yno.

Roedd yr ewyrthr hwnnw’n fab i Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan, 1852-1910), y nofelwraig o Dalsarnau. Collodd Arthur Hughes ei iechyd ac ymfuodd i’r Wladfa yn 1911, priododd â Hannah, gwraig weddw a merch ‘Erw Fair’ (yn ardal Treorci o’r Wladfa) yn Ionawr 1918, a magodd ddwy o enethod a ddaeth yn feirdd da. Enillodd un ohonynt, Irma Hughes de Jones, Gadair Eisteddfod y Wladfa yn 1946 -  y ferch gyntaf i gyflawni’r gamp honno.

Yn 1913, dechreuodd Arthur Hughes gyhoeddi ysgrifau byrion yn ‘Y Drafod’, (y cyfuniad o ‘bapur newydd’ a ‘chylchgrawn llenyddol’ a gyhoeddwyd gyntaf ar Ionawr 17eg, 1891 - yn Y Wladfa). Bu’n olygydd dwy flodeugerdd bwysig, sef ‘Cywyddau Cymru’’(1909) a ‘Gemau’r Gogynfeirdd’ (1910), ac yn ddiweddarach, cyhoeddodd ysgrifau ar gynnwys y Koran a llenyddiaeth Rwsia. Ond ei gymwynas pennaf i’r Wladfa oedd ei waith fel beirniad llenyddol.


LLUN: ‘Cyrnol Jones’ a’i ŵyr, Gerallt Owen. O gasgliad yr awdur.  
-----------

Dilynwch y gyfres trwy glicio ar ddolen 'Patagonia' neu 'Y Wladfa' isod.


5.6.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- Bedydd tân

Parhau cyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf:

Fel y cynyddai'r brwydro ar feysydd y gad, cynyddu byddai effeithiau'r rhyfel, mewn gwahanol ffyrdd, ar fywyd pob-dydd yn ein cymunedau. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus yn Neuadd y Farchnad, Blaenau Ffestiniog, gyda siaradwyr cyhoeddus adnabyddus yno i annog bechgyn ieuainc yr ardal i ymuno â'r fyddin. Yn un o'r cyfarfodydd hynny, ar 21ain Ionawr, 1915, dywedodd llywydd y noson, R.T.Jones, Penrhyndeudraeth, cadeirydd y Cyngor Sir, ei fod yn erbyn gorfodaeth filwrol, ac yr oedd ganddo ffydd fawr ym mechgyn Blaenau Ffestiniog i wirfoddoli, fel na fyddai angen gorfodaeth, meddai.

Un arall o ddynion blaenllaw'r fro a fu'n cario baner y fyddin fel recriwtiwr, ac yn ddiweddarach fel cynrychiolydd milwrol ar dribiwnlysoedd Meirionnydd oedd Pierce Jones, Pengwern Villa, Llan Ffestiniog. Ceir tystiolaeth o'i weithgaredd yn y cyfeiriad hwnnw ymysg casgliad o lythyrau a dogfennau cyfnod y Rhyfel Mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Roedd Pierce hefyd yn ysgrifennydd i'r 'Merioneth Unionist Association', ac ar bapur y mudiad hwnnw yr ysgrifennodd lythyr, ar ran y Pwyllgor Recriwtio Seneddol. Dyddiad y llythyr yw 3ydd Ionawr, 1915, sydd wedi ei gyfeirio at D.H.Owen esq. Merioneth, gyda'r neges ei fod yn gwahodd cynrychiolwyr dylanwadol i ddod i gyfarfod recriwtio yn y Blaenau. Un o'r bobl flaenllaw a enwir yn y llythyr yw'r Parchedig R.Silyn Roberts, Caerdydd, gweinidog yn Nhanygrisiau ar un adeg.

Ddechrau Ionawr, 1915, achoswyd cyffro mawr yng nghapel Garregddu, yn Heol yr Eglwys yn y Blaenau, pryd y ffrwydrodd boiler mewn adeilad cysylltiol. Chwalwyd yr adeilad gan y ffrwydrad, ac yn ffodus, ni niweidiwyd neb. Achosodd y ffrwydrad fraw mawr yn y cyffiniau, gyda nifer yn meddwl mai un o fomiau'r gelyn oedd wedi cael ei gollwng ar y lle o'r awyr. 

I ychwanegu at bryderon y plwyfolion, daeth newyddion fod chwarel Maenofferen wedi cwtogi ar ei oriau gwaith, i lawr i dridiau'r wythnos. Er mai chwarel Graigddu oedd yr unig un yn y cylch oedd yn dal i weithio chwe diwrnod yr wythnos, roedd honno wedi gorfod cau am wythnos hefyd.

Cafwyd adroddiad yn Y Rhedegydd ar 9fed Ionawr, 1915, dan bennawd 'Cymru a'r Fyddin' oedd yn datgan fod y wasg Seisnig yn feirniadol o ddiffyg ymroddiad y Cymry i gefnogi'r ymgyrch ymrestru. Ond daeth y Cadfridog Owen Thomas, Cymro Cymraeg o Sir Fôn ymlaen i amddiffyn bechgyn 'gwlad y bryniau'. Dywedodd fod bechgyn Cymru ymhell ar y blaen i Loegr, yr Alban ac Iwerddon erbyn hynny. Ond rhan o dactegau swyddogion y Swyddfa Rhyfel oedd hyn i gyd, a chafwyd prawf o hynny wrth i'r adroddiad ychwanegu:

‘Ond nid yw y Cadfridog yn fodlon, er hynny; ac y mae wedi trefnu moddion a fyddent, mae'n ddiameu gennym, yn fwy effeithiol na'r moddion sydd wedi eu harfer hyd yn hyn i chwanegu at nifer gwyr arfog ein gwlad. Ar yr 18fed o'r mis hwn, dechreua 200 o filwyr, yn cael eu blaenori gan Seindorf, ymdaith drwy Feirion...o Flaenau Ffestiniog y cychwyn y corphlu...’

Ymddangosodd y llythyr cyntaf i gyrraedd Y Rhedegydd gan lygad-dyst i'r brwydro tua'r un adeg. Oherwydd sensoriaeth, llythyr Saesneg oedd hwn, gan filwr o'r Blaenau, y Preifat R.Parry, oedd ar y pryd mewn ysbyty yn Llundain. Datgelodd y llythyr ei hanes yn cyrraedd Zeebruge, Gwlad Belg, ac yn gorfod martsio i Ghent, tua phedair milltir o linell yr Almaenwyr yno. Y bore canlynol yn gorfod mynd i'r ffosydd, ac yn wynebu realiti'r rhyfel yn ei hanterth. Byddai disgrifiad y Preifat Parry o'i brofiadau yn agoriad llygaid i'w gyd-ddinasyddion yn y Blaenau. Rhoddaf gyfieithiad o ran o’r llythyr isod:

‘Bore Sul oedd hi, cawsom ein bedydd tân cyntaf. Teimlad rhyfedd oedd o, a ninnau i gyd yn ofnus ar y dechrau, ond daethom i arfer…daeth ein ammunition i ben, a methu cael mwy, oherwydd y saethu. Roeddynt i’w gweld yn ein hamgylchynu, a fedrem ni wneud dim. Fel y daeth y tywyllwch, cawsom ordors “pob dyn drosto’i hun”, a gallaf ddeud wrthoch mai’r 300 llath cyflymaf imi ei redeg erioed…wel, mi lwyddais i fynd drwodd rywsut. Roedd gan y gelyn 8 machine-gun arnom. Erbyn inni gyd-gasglu gwelsom mai 28 ohonom oedd ar ôl, allan o ryw 165 dyn a 9 swyddog. Lladdwyd nifer o’r swyddogion yn y ffosydd…’

----------------


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod.

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]
                         

3.6.15

Y Pigwr- Ras y Moelwyn

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm yn rhifyn Mai, ac yn canmol weithiau hefyd.

Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn ymwneud â threfnu Râs y Moelwyn eleni. Roedd y trefniadau manwl i groesawu'r 316 o redwyr o bob rhan o Brydain wedi talu ar ei ganfed. Mae'r ras hon yn cael ei chydnabod yn un bwysig yng nghalendr rasio mynyddoedd, ac yr un gyntaf mewn cyfres o rasys a gynhelir drwy'r wlad. Mae'n rhoi Blaenau Ffestiniog ar y map, yn ddi-os. Wrth reswm, roedd y tywydd ardderchog ar y diwrnod yn cyfrannu tuag at lwyddiant yr achlysur arbennig, ond roedd ysbryd hollol wahanol i'r blynyddoedd cynt y tro hwn.


Ond yn bennaf oll, wedi ymgyrchu maith gan y trefnwyr, penderfynodd Heddlu Gogledd Cymru ganiatáu i'r ras gael ei chychwyn yng nghanol y dref, am y tro cyntaf yn ei hanes. Nid yn unig oedd hyn yn golygu bod llawer mwy yn cael gweld yr olygfa arbennig o'r rhedwyr yn cychwyn yn un fflyd gyda'i gilydd, roedd bwrlwm mawr yn Sgwâr Diffwys. Roedd yno stondinau o bob math, digon o gampau i'r plant eu mwynhau, grŵp pop lleol yn ein diddanu, ac yn bennaf, cannoedd o bobl leol, ac ymwelwyr yn mwynhau'r achlysur. Rhoddodd hynny reswm i'r siopau a chaffis lleol aros ar agor drwy'r pnawn, yn hytrach na chau wedi cinio, fel arfer. Byddai hyn yn hwb i economi'r ardal mewn awr o angen, rhywbeth i'w groesawu.


Ac i gloi'r sylwadau hyn, onid oedd yn hen bryd i'r heddlu sylweddoli pa mor hanfodol yw hi i gael gweld y ras hollbwysig hon yn cychwyn o Ddiffwys? Er mwyn synnwyr cyffredin, dyma gyfle i sicrhau mai fel hyn fydd hi o hyn ymlaen.  Chwara' teg i'r heddlu, yn wir, yn atal y 'traffic' am ddeng munud tra oedd y rhedwyr yn cychwyn ar y ffordd tua'r Moelwynion. Ia, DEG MUNUD o anhwylustod honedig i yrwyr lleol er mwyn sicrhau llwyddiant un o achlysuron pwysicaf y flwyddyn yn y Blaenau.

Ond, dywedodd deryn bach wrth y Pigwr bod y 'gymwynas' hon o du'r heddlu wedi costio'n ddrud i drefnwyr ffyddlon y râs. Rhaid oedd talu £500 i goffrau'r polîs cyn i ganiatâd gael ei roi i gau'r ffordd am ‘ddeng munud.’ Dyna ichi 'ewyllys da' ynte?

Rhaid gofyn ambell gwestiwn yma. A fu hi'n ofynnol ar y Lleng Prydeinig/Seindorf yr Oakeley dalu am orymdeithio trwy strydoedd y dre ar Sul y Cofio, a stopio traffic am gyfnod? A beth am  y carnifals hynod rheiny, a’r orymdaith yn cychwyn o’r Forum i Gae Clyd yn flynyddol, yn dal rhesi o geir y tu ôl am dri-chwarter awr a mwy? Felly hefyd y nifer o orymdeithio’r cymanfaoedd niferus, o barchus goffadwriaeth, bob blwyddyn. Oedd hi’n rhaid i swyddogion y capeli fynd i’w coffrau prin i dalu am y fraint o fartsio drwy’r strydoedd? Nagoedd siŵr! ‘Doedd dim galw am dâl ar gyfer achlysuron y dyddiau fu.

Felly, beth yw’r rheswm fod rhaid talu ‘nawr, ac i ble mae’r arian yn mynd? Nid ugeiniau o blismyn ar ddyletswydd fel mewn gemau pêl-droed, dim ond dau neu dri, cofiwch.
 
Diolch i Heddlu Gogledd Cymru am luchio dŵr oer ar ddiwrnod llwyddiannus iawn yn hanes Râs y Moelwyn. Felly, pwy sydd am geisio cael yr atebion i’r cwestiynau hyn?

[Lluniau gan VPW]


1.6.15

Sgotwrs Stiniog- cyfoeth Llyn Morwynion

Erthygl o Ionawr 2003 yng nghyfres reolaidd Emrys Evans.

LLYN MORWYNION
Yr hyn yr ydw’i am ei wneud y mis yma yw sôn rywfaint am Lyn y Morwynion a’i gwmpasoedd, ond gan adael sôn am ei bysgota tan ryw dro eto. Yr hyn sydd wedi fy sbarduno i wneud hynny yw imi gael pwt o sgwrs hefo person a oedd yn weddol ddieithr i’r ardal.

Llyn Morwynion, Y Garnedd, a Charreg y Foelgron. Llun gan PW, Mai 2015

Roedd wedi bod am dro wrth Lyn y Morwynion, ac wrth ddisgrifio y lle a’r cwmpasoedd y geiriau a ddefnyddiodd oedd ‘unig, moel, llwm,’ a ‘fawr o ddim i’w weld yno’, ac yn y blaen. Yn amlwg doedd y lle ddim wedi gwneud  rhyw lawer o argraff arno.

Ceisiais innau, yn y tipyn sgwrs a gefais ag ef, roi ar ddeall iddo fod Llyn y Morwynion a’r ardal o’i gwmpas yn lleoedd diddorol iawn, iawn.

Wyddai’r gŵr yma ddim oll am chwedl Gwŷr Ardudwy a merched Dyffryn Clwyd, a sut y cafodd y llyn ei enwi yn Llyn y Morwynion yn ôl y chwedl yma. Doedd o chwaith ddim wedi clywed sôn am Feddau Gwŷr Ardudwy sydd yr ochr draw i’r Drum a’r Garreg Lwyd o’r llyn, nac am Fryn y Castell sydd yn ymyl y Beddau a chysylltiad hwnnw â phedwaredd ran y Mabinogion sy’n cael ei galw yn Fath fab Mathonwy, ac esboniad arall o sut y cafodd Llyn y Morwynion ei enwi.

Y llyn wedyn: mae yna bethau o ddiddordeb o gwmpas glannau hwnnw mewn rhannau ohono.
Llyn naturiol yw Llyn y Morwynion, ond iddo gael ei eangu. Fel y tyfodd y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog ac y cynyddodd y boblogaeth mewn canlyniad i hynny, gwnaed Llyn y Morwynion yn llyn dŵr i’r ardal er mwyn sichrau cyflenwad o ddŵr glân i’r cyhoedd. Gwnaed argae ym mhen isa’r llyn yn 1879, a chodwyd ei arwynebedd o rhwng 12 a 13 troedfedd, gan foddi rhannau o’r tir o’i gwmpas.

Ar un adeg yr oedd tŷ ar lan Llyn y Morwynion a rhai’n byw ynddo hyd at yr 1890au. Gwelir o hyd ychydig o’i olion wrth ymyl yr argae. Gweithio yn y chwareli cyfagos a wnai’r dynion y rhan amlaf, fel, er engraifft, Chwarel Bryn Glas sydd islaw pen isa’r llyn; Chwarel y Drum sydd yr ochr arall i’r gefnen o’r un enw; Chwarel y Foelgron sydd y tu ucha i’r llyn; a Chwarel Groes y Ddwy Afon sydd ond ychydig pellach na’r Foelgron.

Yn ôl cyfrifiad 1871 roedd teulu o un-ar-ddeg yn byw yn Nhŷ Llyn y Morwynion. Y penteulu oedd Cadwaladr Jones, chwarelwr 44 oed. Gydag ef yr oedd ei wraig, pump o ferched a phedwar o feibion.  

Eithr nid yn ystod y cyfnod diweddar y bu pobl yn byw ar lan Llyn y Morwynion. Ym mhen uchaf yr un ochr o’r llyn y mae y gongl a elwir gan y pysgowyr yn Badell Fawnog. Rhyw hanner can llath o’r lan, ar ychydig o godiad yn y tir, mae olion cwt crwn, neu Gwt Gwyddel, fel y’i gelwir hefyd. Mae hi’n amlwg fod yna rai’n byw ar lan hen Lyn y Morwynion ryw oes a fu, pryd bynnag oedd hynny.
Pan godwyd arwynebedd y llyn yn ôl yn 1879, a boddi’r rhan yma, dros y blynyddoedd wedi hynny bu dŵr y llyn yn araf erydu y glannau. Yn y man ac o dipyn i beth dechreuodd Cwt Gwyddel arall ddod i’r golwg. Erbyn heddiw tua’i hanner sydd i’w weld, gyda’r hanner arall yn dal o’r golwg o dan ddwy droedfedd neu fwy o fawn a oedd wedi hel arno dros y canrifoedd. Rhagor o dystiolaeth fod dyn a’i dylwyth wedi bod yn trigo ar lan yr hen Lyn y Morwynion.

Mae hi’n bosibl, ar bwys y trwch o fawndir sydd wedi casglu ar y Cwt Gwyddel yma, yn ôl barn archaeolegwyr, y gallai hwn ddyddio’n ôl i Oes yr Efydd. Ac roedd Oes yr Efydd yn dod i ben tua 500 mlynedd cyn geni Crist. Os yw’r damcanu hyn rywle o’i chwmpas hi, dyna fynd yn ôl oddeutu 2,500 o flynyddoedd beth bynnag, ac efallai mwy.

Os nad yw chwedloniaeth yn apelio, na hen hen hanes, beth am hanes mwy diweddar, sef hanes y diwydiant llechi sydd o gwmpas y rhan yma o’r ardal? Ychydig y tu isaf i’r llyn y mae Chwarel Bryn Glas. Bu rhai o aelodau Fforwm Plas Tan y Bwlch yn cofnodi ei hanes hi yn o ddiweddar.

Yn y tir y tu uchaf i’r llyn y mae rhagor o gyfle i ymwneud ag archaeoleg diwydiannol ar Chwarel y Foelgron. Chwarel Pen Llyn oedd yr hen enw arni, a does dim rhaid dweud pa ‘lyn’ a olygir. Mae nifer o olion chwilio am y gwely llechfaen i’w gweld yn y tir sy’n codi o lan Llyn y Morwynion.
Mae y tipyn ysgrif yma wedi  mynd yn rhy faith o lawer a rhaid yw rhoi pen ar y mwdwl rhag blino bawb.

Ond, Llyn y Morwynion a’i gwmpasoedd a ‘fawr ddim i’w weld yno’!!!
------------

[Ambell lun arall o ardal Llyn Morwynion ar wefan Ar Asgwrn y Graig]


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod.