Showing posts with label Y Drafod. Show all posts
Showing posts with label Y Drafod. Show all posts

20.11.25

Cadi ym Mhatagonia

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog i Cadi Dafydd eleni ac am dair wythnos ym mis Awst bu draw ym Mhatagonia ac yn cryfhau'r berthynas sydd eisoes yn bodoli rhwng tref Rawson (sef gefeilldref y Blaenau ym Mhatagonia) ac yn creu a magu perthnasau newydd trwy ei hymweliad. 

Mae Cadi yn newyddiadurwraig sy’n cyfrannu erthyglau ardderchog yng nghylchgrawn Golwg bob wythnos ac yn naturiol roedd ei diddordeb mewn magu cysylltiadau yn y byd hwnnw yn Rawson. Mae’r sawl sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth hon wedi ymhél a magu cysylltiadau mewn nifer o feysydd ond dyma’r tro cyntaf i enillydd fentro i’r byd newyddiadurol. 

Cyfarfu Cadi a Donald Thomas a fu'n gweithio ar bapur yr El Regional gan ddilyn ôl troed ei dad yn y maes. Bu ei dad yn gweithio i’r papur Cymraeg Y Drafod ym Mhatagonia ac fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd ym 1951. 

 

Bu'n cymryd rhan yn yr Arddangosfa 'Chwarelwyr a’u diwylliant yn y diaspora Cymreig’. Mae’r arddangosfa yn olrhain dylanwad y saer maen yn y gymdeithas Gymreig yn Chubut. Cafwyd perfformiadau o gerddoriaeth Gymreig yn ogystal


Ac mae Cadi wedi cael gafael ar gopi o’r Diario Chubut y papur newydd a chopi o’r papur a gyhoeddwyd ar ddydd ei geni!

 

Hyd yn hyn bu wyth* o bobl ifanc ardal y Cyngor Tref yn manteisio ar yr ysgoloriaeth hon i ymweld â Rawson a Phatagonia ac mae’r cysylltiad wedi tyfu’n sylweddol ers i’r ysgoloriaeth gael ei chreu a bellach mae sôn y bydd person ifanc o Chubut yn medru dod i Stiniog ar ymweliad i weld sut yr ydym ni yn byw yma a gobeithio’n wir y caiff hyn ei wireddu. Erbyn hyn mae cysylltiadau pwysig wedi eu creu a hynny ar wahanol lefelau rhwng pobl Rawson a'r Blaenau a Llan a diolch i’r ysgoloriaeth am anfon cenhadon blynyddol i’r maes hwn!

TVJ

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025

*Mae dolen i erthyglau rhai o'r enillwyr ar dudalen  Edrych Tuag at Borth Madryn

 

12.5.16

Pobl 'Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 6 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Mehefin 1995


Pan ddechreuais ysgrifennu ar y testun hwn yn y golofn, prin y sylweddolais fod cynifer o bobl wedi gadael ein bro i chwilio am fywyd newydd yn y Wladfa ym Mhatagonia.  Mae’n edrych yn debyg hefyd, yn ôl yr ymateb beth bynnag, fod amryw o ddarllenwyr ‘Llafar’ ag atgofion difyr am rai a ymfudodd drosodd yno dros y blynyddoedd gynt.

Ymhlith y rhai eraill a ymfudodd ceid Robert Williams, mab John Williams, Maenofferen; John D. Jones, Tanygrisiau; a H.J. Hughes, Llan Ffestiniog.  Diwedd trist fu hanes amryw ohonynt yn y wlad bellennig hon.
 
Boddwyd John Price wrth groesi’r afon ar gyfer Capel Moria ger Trerawson yn 1891.  Roedd ef a’i wraig wedi ymfudo yno o ‘Stiniog ryw ddwy flynedd ynghynt.  Bu farw merch Giffith Solomon ychydig ar ôl iddynt lanio yno gyda’r fintai gyntaf.  Collodd John Roberts a’i wraig (a hanai o Ffestiniog) eu mab John ym Mawrth 1866 pan oedd yn 16 mis oed.  Ar Ragfyr 5 yr un flwyddyn ganwyd mab iddynt ... ac enwyd hwn yn John hefyd.  Beth a ddaeth o’r teuluoedd hyn wedyn, ni allaf ddweud.

Dim ond am dymor, neu ychydig flynyddoedd yr arhosodd rhai o’n cyd Stiniogwyr yn y Wladfa.  Soniais o’r blaen am Robin Jones Swch.  Wel, dyna fu hanes Robert Jones (Bob Cyffdy) hefyd, sef ewythr i Mr W.H. Reese, Heol Leeds.  Deallaf ei fod ef wedi bod yn gweithio yno ar ‘Y Drafod’, sef newyddiadwr y Wladfa, cyn dychwelyd i’r Blaenau.


Dyna hefyd oedd hanes y bardd, gweinidog ... prifardd, archdderwydd a chofianydd pennaf y Wladfa, sef  R.Bryn Williams.  Ymfudodd ef yno gyda’i rieni ac amryw aelodau o’r teulu pan oedd oddeutu 8 mlwydd oed.  Ganwyd R.Bryn Williams yn un o’r tai a fyddai y tu ôl i Gapel Tabernacl gynt yn 1902.  Gan fod nifer dda o lyfrau yn adrodd ei hanes ym Mhatagonia, nid âf i draethu yma amdano.

Pa fodd bynnag, os ydych a diddordeb yn hanes y Wladfa mi fyddech yn sicr o droi at un ... o’r holl lyfrau .. a ysgrifennodd am y wlad honno.

Dyma enwi rhai ohonynt:
Cymry Patagonia’ (1942)
Lloffion o’r Wladfa’ (1944)
Rhyddiaith y Wladfa' (1949)
Y Wladfa' (1962)
Gwladfa Patagonia' (1965)
Canu’r Wladfa’ (1965).  

Yn ogystal â’r uchod, y mae ganddo ugeiniau o erthyglau, ysgrifau a cherddi am y Wladfa Gymreig ... heb sôn am nofelau a storiau, ayb.

Efallai y dylwn ddweud yma hefyd fod ei fab y Dr. Glyn Williams, Prifysgol Bangor yn hyddysg yn hanes y Wladfa, yn ogystal.  Mae yntau bellach, wedi cyhoeddi nifer fawr o erthyglau yn ymdrin â Phatagonia a’i phobl.

O edrych ar hanes y Cymry a ffarweliodd â’u broydd genedigol a hwylio yr holl ffordd dros y cefnfor i chwilio am wlad yn llifo efo llaeth a mêl, yn ddiau, trodd pethau yn debyg i’r hyn a ddisgrifia R.Bryn Williams yn ei bryddest ‘Yr Arloeswr’ i amryw ohonynt!
‘Glaniodd y fintai yng ngwlad yr hud
Ond mae perllannau’r breuddwyd drud? 
Ond noethni anial yn unig a gaed
A rhewynt deifiol yn fferru gwaed,
Gwlad a’i gorffennaf yn aeaf llwm
Dan gwrlid barrug fel eira trwm’.
 ********

Serch hynny, nid fel yna y gwelodd pawb y lle ac aros yno i arloesi ac ymdrechu byw a wnaeth llawer o’r Cymry nes sefydlu trefedigaethau o un pen o’r paith i’r llall ... ac fel yna y cafwyd enwau lleoedd Cymraeg yng nghanol gwlad y Tehuelcheiaid... megis Dôl y Plu, Rhyd-yr-Indiaid, Llyn Padarn, Dyffryn Camwy... heb anghofio’r prif drefi fel Porth Madryn, Trelew, Trefelin a’r cwm enwog hwnnw, Cwm Hyfryd.

*********
O.N.  Diolch i bawb a gymerodd ddiddordeb yn y golofn dros y misoedd diwethaf... a diolch i’r canlynol am fy nghynorthwyo y mis yma:-  Mr Elwyn Williams (Postman), Mrs Sally Williams (Llan), Mr Griffith R. Jones, Cae Clyd.
------------------------------------------------


Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


2.4.16

Pobl 'Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 5 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Ebrill 1995


O’r cyfnod cynharaf yn hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, cymerodd nifer dda o’r ymsefydlwyr a hanai o’r ardal hon a’r rhai cyfagos ran amlwg ym myd addysg y wladfa. Dyna chi John Carrog Jones, er enghraifft, a hanai o Ddolgarrog. Bu ef yn athro diwyd iawn yn ysgol Drofa Dulog. Gwnaeth John Evan Jones, brodor o Ddolwyddelan yn wreiddiol, ei farc fel athro yn ysgolion y Frondeg a Threorci yn Nyffryn y Camwy.


Dau arall oedd y brodyr John ac Owen Williams o Gapel Garmon. Bu’r cyntaf yn athro yn ysgol Bryn Gwyn ac Owen ei frawd yn Ysgol y Gaiman. Dywedid am Owen ei fod yn un o ddisgyblion yr athro Griffiths o Glan y Pwll, Ffestiniog. Rwan, pwy all ddweud wrthym pwy oedd y ‘Griffiths’ yma? A fu’n athro yn y Blaenau o gwbl?

Un o’r athrawon amlycaf i adael ‘Stiniog am y Wladfa oedd E.T. Edwards. Bu yntau hefyd yn fawr ei ddylanwad yno ac yn un o’r arweinwyr ym myd addysg y Wladfa. Bu R. Bryn Williams yn ddisgybl yn ei ysgol am ysbaid, ac er mai tymor byr oedd hynny, dywed ei bod wedi ‘deffro ei feddwl a gwneuthur dysgu yn bleser’.

Dywed hefyd pan agorwyd coleg cenedlaethol yn Nhrelew yn ddiweddarach, lleihaodd nifer y plant a fynychai Ysgol E.T. Edwards .... ac aeth casglu arian yn wirfoddol yn ormod o dreth ar y Cymry. A serch nad oedd modd iddi barhau yn yr hen ddull pwysleisiodd Edmunds mewn cyfarfod ym mis Chwefror 1947 ‘mai gwell oedd ganddo ei gweld yn ymdoddi a pharhau i wasanaethu y cylch cenedlaethol nac yn trengi a marw’.

Awgrymai ennyn diddordeb y wladwriaeth ac efallai ei throi yn Ysgol Amaethyddol ac ar yr un pryd. gofyn i’r llywodaeth fel parch i arloeswyr y Wladfa, ac i wasanaeth a delfryd yr ysgol yn y gorffennol, ganiatau cwrs o addysg Gymraeg i unrhyw un a ddymunai ei gymryd. Pasiwyd i anfon deiseb i’r rhaglaw ond ni ddaeth dim o’r cynllun a bu’n rhaid cau yr ysgol maes o law .... Credaf o ddarllen hyn ei fod yn un enghraifft o sut yr aeth sefydliadau hollol Gymreig o ddwylo Cymry’r Wladfa ac i grafangau’r Sbaenwyr Archentaidd!

*****

Ymhlith y rhai eraill a ymfudodd o ‘Stiniog i’r Wladfa cawn deulu Macdonald a breswyliai gynt yn ‘Tunnel Cottage’, gerllaw Twnnel Bach Tanygrisiau. Dywedir mai efo mintai 1875 yr unfudodd y teulu hwn drosodd yno .... ac os nad wyf yn cyfeiliorni .... disgynnydd iddynt yw Mr Elvie Macdonald sy’n amlwg gyda Mudiad yr Urdd yng Nghymru.

Credaf mai oddeutu 1901 yr ymfudodd Evan Pugh i’r Wladfa. Gweithiai ef i’r Rhedegydd, a bu’n rhedeg ei swyddfa yn Llanrwst am gyfnod. Beth a ddaeth ohono ar ôl iddo ymsefydlu ym Mhatagonia, ni allaf ddweud. Tybed a fedrwch chi? A fu ganddo unrhyw beth i’w wneud a’r Drafod, sef newyddiadur Cymraeg y Wladfa?

Mae son fod un Evan Jenkins wedi mudo yno yn yr 1870’au, ar ôl i’w chwarel ym Moel Llechwedd Gwyn ar y Migneint fynd yn ffliwt. Ni wyddwn beth a ddaeth ohono yntau chwaith ar ôl iddo gyrraedd y wlad bellennig honno yn yr Ariannin.

-----------------------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

7.6.15

Lloffion o'r Wladfa

Parhau'r gyfres yn nodi canrif a hanner ers taith y Mimosa i greu gwladfa Gymreig yn Ne America. Y tro hwn, rhan o erthygl W. Arvon Roberts, o rifyn Mai.


Y ‘CYRNOL JONES’ o BATAGONIA

Ganwyd Robert E. Jones (Y ‘Cyrnol Jones’) yn Fuches Wen, Blaenau Ffestiniog yn 1850. Ymfudodd i’r Wladfa pan oedd yn ŵr ifanc. Ysgrifennodd amryw o straeon dan yr enw ‘Cyrnol Jones’ gan y credai y buasai’r enw’n apelio mwy at blant Cymru.

Wedi bod yn gweithio’n y chwarel am gyfnod, aeth i weithio mewn siop ym Manceinion, ac yna daeth i gysylltiad â’r mudiad Gwladfaol, ac yn 1871, ymfudodd yntau i Batagonia. Bu’n athro a blaenor yn Seion (M.C.), Bryn Gwyn, Y Wladfa. Ysgrifennodd nofel, ‘Miriam y Gelli,’  a gyhoeddwyd yn ‘Cymru’ O.M. Edwards yn ystod 1896-97, a rhwng blynyddoedd 1896-1902, cyhoeddodd straeon yn ‘Cymru’r Plant’. Straeon am lewod a chŵn ac estrys, a rhai am Indiaid a llofruddion a phobl od a ysgrifennai amdanynt.


Bu farw ar Orffennaf 14eg, 1913 yn 63 oed. Tynnwyd y llun ohono ef a’i ŵyr bach, Gerallt Owen, (mab i Mr a Mrs J.O. Evans), ychydig cyn ei farw.

Yn yr un cartref ag y magwyd Gerallt y cartrefai Arthur Hughes, B.A. (1878-1965) gynt o Bryn Melyn, ger Harlech, un a fu am gyfnod yn was i’w ewythr mewn melin yno.

Roedd yr ewyrthr hwnnw’n fab i Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan, 1852-1910), y nofelwraig o Dalsarnau. Collodd Arthur Hughes ei iechyd ac ymfuodd i’r Wladfa yn 1911, priododd â Hannah, gwraig weddw a merch ‘Erw Fair’ (yn ardal Treorci o’r Wladfa) yn Ionawr 1918, a magodd ddwy o enethod a ddaeth yn feirdd da. Enillodd un ohonynt, Irma Hughes de Jones, Gadair Eisteddfod y Wladfa yn 1946 -  y ferch gyntaf i gyflawni’r gamp honno.

Yn 1913, dechreuodd Arthur Hughes gyhoeddi ysgrifau byrion yn ‘Y Drafod’, (y cyfuniad o ‘bapur newydd’ a ‘chylchgrawn llenyddol’ a gyhoeddwyd gyntaf ar Ionawr 17eg, 1891 - yn Y Wladfa). Bu’n olygydd dwy flodeugerdd bwysig, sef ‘Cywyddau Cymru’’(1909) a ‘Gemau’r Gogynfeirdd’ (1910), ac yn ddiweddarach, cyhoeddodd ysgrifau ar gynnwys y Koran a llenyddiaeth Rwsia. Ond ei gymwynas pennaf i’r Wladfa oedd ei waith fel beirniad llenyddol.


LLUN: ‘Cyrnol Jones’ a’i ŵyr, Gerallt Owen. O gasgliad yr awdur.  
-----------

Dilynwch y gyfres trwy glicio ar ddolen 'Patagonia' neu 'Y Wladfa' isod.


28.5.15

Blas ar y Wladfa

Ar yr 28ain o Fai, 1865, union ganrif a hanner yn ôl i heddiw, yr hwyliodd y ‘Mimosa’ o Lerpwl am Batagonia bell. Gan fod sawl cysylltiad rhwng ein hardal ni a’r Wladfa, mae cyfres o erthyglau wedi ymddangos am Batagonia. Y tro hwn, rhan o erthygl o rifyn Mai gan Pegi Lloyd-Williams.

A ninnau yma’n ardal Ffestiniog yn gobeithio gefeillio â thref Rawson ym Mhatagonia, roeddwn yn meddwl y byddai o ddiddordeb i ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ gael blas o’r hyn a geir yn ‘Y Drafod’ (‘El Mentor’) - rhifyn Haf 2015. Dyma eu papur Cymraeg.

Mae 'na gyfeiriad wrth gwrs at y dathlu mawr fydd draw yno eleni - dathlu canmlwyddiant a hanner ‘Y Wladfa’ (pe bawn i ond yn iau!), a choeliwch fi, maen nhw’n gwybod sut i ddathlu.

Yn y golofn ‘Gair gan y Golygydd’ – mae Esyllt Nest Roberts yn apelio’n daer am i rywrai fynd ati i ysgrifennu er sicrhau parhad ‘hen bapur newydd Cymraeg De America.’

Mae yma ysgrif - ‘Hunangofiant Hen Gist’ - a gafodd ei gwneud ‘ymhell dros y môr ... o bren derwen da.’ Cafodd ei gorchuddio â ‘sinc da,’ a rhoddodd y saer ‘glamp o glo arni.’ Fe’i prynwyd gan bâr ifanc oedd am ymfudo i Batagonia. Ynddi, rhoddwyd llawer o bethau pwysig - blanced fawr o frethyn da wedi ei gwneud mewn ffatri yn yr ‘Hen Wlad’, Beibl mawr mam un o’r pâr ifanc ac ynddo  restr ‘enwau’r teulu’; defnyddiau drud wedi eu pacio’n daclus a set o lestri ‘bone china.’  Nodir fod y geiriau “FRAGILE- PORTH MADRYN” i’w weld ar y gist pan ddodwyd hi ar y ‘Mimosa’ ym Mai 1865.

Ceir gair gan Sara Alis, Bangor o dan y pennawd ‘Taith yr Urdd 2014’ - cychwyn o Gymru i San Paolo ym Mrasil, ymlaen i Buenos Aires ac i Drelew, a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Daliwyd ar y cyfle i fynd i Punta Tombo i weld y pengwiniaid, cyrraedd Esquel, dysgu sut i yfed ‘te mate’ yn iawn (ia! mae’n grefft), mynychu sawl asado anhygoel, mynd draw at fedd ‘Malacara’* yn Nhrevelin - hynny’n brofiad teimladwy, a chael hanes John Daniel Evans. Mae’n gorffen trwy ddiolch am y cyfle i’r Urdd a ‘Menter Patagonia.’

llun- gyda diolch- o dudalen Gweplyfr/Facebook Y Drafod

Cafwyd hyn a llawer mwy yn y papur bach yma - difyr iawn. Daliwch ati draw yna!
--------------

* Manteisiaf ar y cyfle i ddweud fod John Daniel Evans - a wnaeth y naid anhygoel ar gefn ‘Malacara’, ei geffyl ffyddlon, yn frawd i wraig Y Parch John Hughes -gweinidog Jerusalem, Y Blaenau yn ystod y Rhyfel Mawr. 

Pan oeddwn ar fy ymweliad cyntaf â’r Wladfa, cefais fynd at fedd yr anhygoel ‘Malacara’, a Milton Evans, gŵr y tŷ, yn dod allan i’n cyfarch gan ofyn o ble roedd pawb ohonom yn dod? Pan atebais i mod i’n dod o Flaenau Ffestiniog, roedd wedi rhyfeddu’n lân. Y rheswm am hynny oedd mai yn Stiniog y treuliai ei holl wyliau ysgol tra’n cael ei addysg ym Mhrydain, a chael aros efo’i fodryb a’i gŵr. Yn naturiol felly, siarad am y Blaenau fuon ni wedyn am sbel, nes iddo ofyn oeddwn i wedi byw yno erioed. Wel ‘na’ oedd yr ateb, wrth gwrs, gan ddweud fy mod yn enedigol o Aberpennar. Roedd dweud hynny yn fwy syfrdanol fyth, gan mai yno ganwyd ei dad, John Daniel Evans, a’i chwaer.

Diweddglo’r ymweliad oedd cael fy ngwahodd yn ôl i’w gartref am bryd nos y diwrnod wedyn - mewn steil go iawn, efo gwas a morwyn yn gweini arnom. Nid dyma ddiwedd yr hanes - dychwelais yno ymhen rhai blynyddoedd. Ond stori i’w hadrodd rywbryd eto ydy honno!


Pegi Lloyd-Williams
---------------------


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y dolenni 'Patagonia' neu 'Y Wladfa' isod.