29.12.19

Ysgrifiad ar Gloc Mawr

Rwy'n gasglwr clociau mawr a wnaethpwyd gan wneuthurwyr o Borthmadog yn yr 1800au. Prynais un mewn ystafell werthu ym Manceinion yn ddiweddar, cloc mawr a wnaethpwyd gan Richard Bonner Thomas. Yr oedd ei dad Owain yn wneuthurwr oriorau ym Mlaenau Ffestiniog yn y 1840au.

Roedd y cloc mewn cyflwr eithaf gwael felly penderfynais dynnu'r cloc yn ddarnau, gan ddechrau gyda'r mecanwaith, yna symud ymlaen i'r cas pren. Fe wnes i ddatgymalu'r mecanwaith yn ofalus, oedd â blynyddoedd o lwch, olew a budreddi wedi cronni gan olchi’r rhannau wedyn mewn ‘solvent’  a'u glanhaodd yn lân .

Yna mi wnes bolishio`r platiau a’r cogiau. Wrth lanhau'r platiau, deuthum o hyd i lofnod Emrys Evans, Ionawr 1921, Blaenau Ffestiniog a dyma'r tro cyntaf imi ddod o hyd i lofnod ar gloc. Nid oedd hyn yn anghyffredin gan fod gwneuthurwyr clociau yn arfer arysgrifio eu henwau a'u dyddiadau ar y platiau pan oeddynt yn cael eu gwasanaethu neu eu hatgyweirio.


Cefais fy niddori gan hyn, felly penderfynais gysylltu â'r arbenigwr hanes lleol o’r Blaenau, Steff ab Owain. Awgrymodd fy mod yn cysylltu â John Evans o’r Blaenau, gan fod ei deulu’n cael eu galw’n “teulu clociau”.

Dyna wnes a daeth John yn ôl ataf yn dweud mai ei ewythr Emrys ydoedd. Roedd yn drydanwr yn chwarel Manod pan ddefnyddiwyd y lle i storio’r paentiadau ac ati yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'n ymddangos hefyd ei fod yn arfer atgyweirio clociau ac oriorau i'r hogiau a oedd yn gweithio yn y chwareli. Roeddwn yn falch iawn gyda’r canlyniad hyn wrth ddatrys pwy oedd y person a wasanaethodd fy nghloc bron i 100 mlynedd yn ôl!

--------------------------------
Erthygl gan Martin Pritchard, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2019.





23.12.19

Cadw'r Dref Werdd yn Daclus!

Daeth gwirfoddolwyr ym Mlaenau Ffestiniog at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer diwrnod casglu sbwriel cymunedol o amgylch y dref, gan gyd-fynd â ‘Diwrnod Glanhau’r Byd’, gwnaeth 15 gwirfoddolwr - yr ieuengaf yn 2 oed! - lwyddo i gasglu dros 20 bag o sbwriel yn ystod y dydd, a'u hymdrechion yn dangos sut y gall balchder bro wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymuned.


Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr:
“Cefais fy synnu gan gymaint y gallai ychydig o wirfoddolwyr ei godi, mewn cyn lleied o amser. A hefyd, pa mor dda oedd yr ardaloedd yn edrych ar ôl yr holl sbwriel! Gwnaeth wahaniaeth GO IAWN. Ac roeddwn i’n teimlo'n dda wedyn hefyd. Es i allan y diwrnod wedyn i wneud ychydig mwy! Rwy'n mawr obeithio y gallwn adeiladu ar y digwyddiad, a chreu ysbryd o godi sbwriel, ac o gymryd balchder gwirioneddol yn ein tref wych."
Dywedodd gwirfoddolwr arall, Kati:
"Mae newidiadau mawr yn dechrau gyda chamau bach. Gallwn ni ddechrau glanhau'r Ddaear trwy lanhau ein cymdogaethau, traethau, coedwigoedd a pharciau lleol. Efallai na fydd yn ymddangos fel llawer, ond trwy helpu'ch cymuned, bob yn dipyn, rydych chi'n dod yn rhan o rywbeth llawer mwy - dyfodol gwell i chi'ch hun a'ch teulu. Byddwch yn effeithio newid a chreu yr hyn rydych chi am ei weld yn y byd! Ymunwch â'r mudiad, mae'n teimlo'n anhygoel".
Dywedodd y Cynghorydd Annwen Jones:
“Fel cynghorydd Sir a Thref ac aelod o fwrdd Y Dref Werdd, mae gweld yr holl deuluoedd allan yna’n gwirfoddoli i gadw strydoedd Blaenau yn lân, yn ysbrydoledig iawn. Mae'n dangos pa mor gymdeithasol a chefnogol yw ardal fel Blaenau. Mae casglu sbwriel cymunedol yn gwneud llawer mwy na chael gwared â sbwriel yn unig - maen dangos bod pobl yn caru eu cymuned, a gall ysgogi ac ysbrydoli eraill. Maen helpu i addysgu pobl am lygredd plastig, ac maen rhoi cyfle i ddod â phobl y gymuned at ei gilydd, i ddod i adnabod ei gilydd a chymdeithasu. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr ac i’r Dref Werdd am eu cefnogaeth."
Mae'r grŵp hwn o wirfoddolwyr yn edrych ar gychwyn grŵp cymunedol eu hunain i drefnu sesiynau casglu sbwriel rheolaidd a digwyddiadau eraill. Os hoffech chi gymryd rhan, yna cysylltwch â’r Dref Werdd:  meg@drefwerdd.cymru  neu ffôn: 01766830082
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019


18.12.19

Newyddion Antur!

Mae’n sâff dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Antur! Ond, heb os na oni bai, mae’n rhaid dweud mai’r uchafbwynt i ni fel cwmni oedd agoriad swyddogol Parc Beicio Antur Stiniog! 

Alan, aelod o Fwrdd Antur Stiniog, Steve, a Medwyn, rheolwr y ganolfan. Llun- Alwyn Jones
Un o enwogion y byd beicio lawr mynydd (ac yn arwr i Buds!) Steve Pete, oedd yn arwain y miri i agor y traciau newydd - a dros ddau gant o reidwyr yn ei ddilyn! Felly, ynghanol y sbri agorwyd pedwar trac beicio mynydd newydd yn swyddogol ar ein safle ar ddiwrnod bendigedig o braf yng nghanol mis Medi. 

Roedd y digwyddiad ei hun yn hollol ddoniol - roedd y reidwyr wedi gadael eu beics ar ben y mynydd, cyn cael lifft nôl lawr gan fysus mini Antur i waelod y traciau- a'r bwriad oedd i’r beicwyr redeg i fyny’r trac, cael hyd i’w beics a rasio’n ôl i lawr-  ond heb iddyn nhw wybod os oedd y beiciau wedi cael eu symud a’u cuddio - roedd hyd yn oed gêrs rhai o’r beiciau wedi cael eu newid, ac roedd hi’n bedlam llwyr ar ben y mynydd - ond yn y modd mwyaf hwyliog bosib! Sâff dweud fod pawb wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiogel ac yn hapus!

Mae’n rhaid dweud fod y diwrnod yn ei gyfanrwydd wedi bod yn wych, a’r awyrgylch fel parti go iawn - hapus a hwyliog. Roedd digon o adloniant yno gyda cherddoriaeth byw gan Pasta Hull a set acwstig gan Anweledig, gweithgareddau paentio i blant, y criw Baa Baa Bar hyfryd yno yn cynnig diodydd, stondinau gwerthu nwyddau beicio a digon o fwyd ar y barbaciw. Braf oedd gweld cymysgedd o bobl leol, plant o bob oedran, a reidwyr o bob cornel o Brydain yn mwynhau'r diwrnod.
Un o lwybrau newydd y Cribau. Llun- Paul W
Mae’r pedwar trac newydd yn ein galluogi i ni fel menter gymdeithasol i adeiladu ar ein llwyddiant fel un o’r canolfannau beicio gorau yn Ewrop! Am y tro cyntaf mae ganddom drac ‘gwyrdd’ - sydd yn addas ar gyfer teuluoedd - felly, mae  rhywbeth ar gyfer pob aelod o’r teulu a phob math o feiciwr yma! 

Os hoffwch fwy o fanylion am yr holl draciau sydd ar ein safle, gallwch gysylltu â ni naill ai trwy ein tudalen Facebook, e-bost:  post@anturstiniog.com  neu ffonio Parc Beicio Antur ar 01766 238 007. Croeso cynnes i bawb bob amser!

Mae'r siop yn y Stryd Fawr bellach wedi ffarwelio â chadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Roedd hi’n bleser ac yn fraint eu cael yn Siop a Thŷ Coffi Antur dros yr haf. Galwodd llawer iawn o bobl heibio i’w gweld, a llawer iawn ohonynt o bob cornel o’r wlad! Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Ffestiniog ar ran pawb am gael eu benthyg - ond mwy na dim, mae’n hynod o bwysig i ni ddiolch yn fawr iawn i’r criw hynod wybodus ac annwyl - y Gymdeithas Hanes - am fod mor weithgar yn yr arddangosfa hanes (ac am helpu ein staff yn y caffi i roi gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr i’r dref! Be fysa ni’n neud hebddoch chi ar adegau prysur?!).

A sôn am arddangosfa, braf oedd rhoi cartref i Ŵyl Gelf Calon Gwynedd dros yr haf hefyd, ac arddangosfa Gwilym Livingstone Evans - mae yna gyfoeth o dalent yma’n lleol a chymaint o hanes i’w arddangos a’i rannu.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn eto - fel da ni’n neud dro ar ôl tro - oes 'na fodd i ni gael Canolfan Treftadaeth bwrpasol yma yn y Blaenau? Gobeithio’n wir…

Wel, dyna ni am rwan, ond peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os hoffwch – neu'n well fyth, dowch i fyny am frecwas gwych gan Val a Siân yng nghaffi Parc Beicio Antur (dydd Iau-dydd Llun) a dowch i mewn i weld yr hyfryd Tanwen a Ronwen am banad a chacan yn ystod yr wythnos yn Siop a Thŷ Coffi Antur ar y Stryd Fawr- croeso cynnes bob amser i bawb.
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019



9.12.19

Gwaith Archaeolegol Llys Dorfil

Crynodeb o'r chwilio a chloddio gan Bill a Mary Jones.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Mr Bleddyn Thomas, Fferm Cwmbowydd, y  tirfeddianwr, am y caniatâd a’i gefnogaeth ddi-ffael gyda’r fenter, hefyd yr holl wirfoddolwyr.

Un o'r pethau cyntaf y ddaethon o hyd iddo oedd postyn, a oedd yng nghanol y safle; roedd yn arogli'n gryf o greosôt. Roeddem wedi meddwl ei symud, ond gwnaethom sylweddoli ei fod yn rhan o hanes y safle ac o herwydd hyn roedd yn rhaid ei gofnodi.
            
Ar ôl peth ymchwil, darganfuwyd ei fod yn un o'r polion trydan cynharaf a ddaeth â trydan i Flaenau ac i chwarel y Foty. Darganfuwyd hefyd ynysyddion trydanol porslen a oedd yn rhan hanfodol or broses. Ym 1889-90 adeiladodd Cwmni Pŵer Yale orsaf gynhyrchu trydan ar lan orllewinol afon Goedol sef Dolwen (SH 6940043874). Cyn hyn, nwy oedd yn goleuo’r Blaenau.

Y darganfyddiad diddorol nesaf oedd nad oedd lleoedd tân yno, yn y wal nag ar lawr. Mae'r ffaith hon, yn ogystal â darganfod wal gefell o amgylch yr adeilad dwyreiniol, a grisiau mynediad sy'n mynd trwy'r ddwy wal, yn brawf nad oeddent yn aml-gyfnod, yn awgrymu adeilad llawer hŷn.

Mae'r waliau hyn yn awgrymu eu bod wedi'u hadeiladu ar gyfer amddiffyniad yn hytrach nag yn erbyn y tywydd. Yr unig adeilad sy'n rhan o'r categori hwn, yw Tŷ Tŵr, a adeiladwyd o ddechrau'r 15fed ganrif i'r 17eg ganrif. 









Defnyddiwyd cerrig orthostat yn Llys Dorfil, a gosodwyd tua 50% o'r cerrig ar eu cyllith mewn ffos er mwyn sicrhau sefydlogrwydd.

Mewnlenwyd cerrig llai yn ogystal â chlai rhwng y ddwy garreg. Aeth y math hwn o adeiladwaith allan o ffasiwn tua'r 15fed ganrif.







Darganfwyd garreg golyn - mae hon eto'n ein galluogi i benderfynu oedran yr adeilad - mae hon yn garreg gyda soced lle symudodd colyn y drws. Cafwyd hyd i rai tebyg yn y Brochs yn yr Orkneys.



Cistfaen Llys Dorfil


Daeth yn amlwg fod tair carreg i'r gorllewin o Lys Dorfil yn anghyson ar tirwedd, yn yr ystyr eu bod yn gogwyddo o'r dwyrain i'r gorllewin ac o’r gogledd i’r de.


Fe benderfynwyd cloddio o amgylch y dair carreg, ac ar ôl ychydig darganfuwyd garreg arall i'r de, a oedd wedi syrthio o’i safle gwreiddiol, neu efallai wedi cael ei symud gan fedd-ladron. Roedd y bedair carreg yn ffurfio cist, un metr sgwâr, gyda charreg tua hanner tunnell ar ei phen. Roedd llawer o wahanol awgrymiadau am yr hyn y gallai fod. Ond penderfynwyd mai cistfaen ydoedd, a gwnaed yr holl waith archeoleg gyda hynny mewn golwg.

Codwyd y gapfaen gyda bloc a thacl. Cloddiwyd y tu mewn i’r bedd a chadwyd samplau ohono i’w ddadansoddi. Ni ddarganfwyd unrhyw arteffact, arwahân i rywfaint o fater ffibrog, du, ar ffurf esgyrn. Mae mesuriadau'r gistfaen yn awgrymu crymgladdiad: crouch burial.


Pan welwyd y mater ffibrog yn y bedd roedd rhai o'r farn mai gwreiddiau coeden ydoedd; rhagdybiaeth deg.

Pe bai'r sylw wedi bod yn gywir, mi fuasai olion y gwreiddiau yng ngweddill y safle. Ni ddarganfuwyd ddim y tu allan i’r bedd. Awgrymai hyn fod y mater ffibrog yn rhywbeth arall.

Gorchuddiwyd cistfeini fel arfer a charnedd o bridd a cherrig. Fe gliriwyd yr uwchbridd o amgylch y gistfaen, ac oddi tano roedd haen o gerrig.

Wrth i'r cloddio ddatblygu, daeth cloddiau o glai, darnau bach o lechi, graean a cherrig llyfn o’r afon gyda marciau crafu arnynt i’r golwg, roedd y rhain yn hollol annisgwyl mewn carnedd.

Hefyd, darganfuwyd wal gron wedi cwympo yn amgylchynu'r bedd. Roedd y pethau hyn yn awgrymu fod un o gytiau’r Gwyddelod wedi ei leoli yma. Mwy na thebyg yn dyddio i adeg cyn Crist.


Fe wnaethom ailfeddwl ein strategaeth, a dod i'r canlyniad mai'r hyn yr oeddem yn ei gloddio mewn gwirionedd oedd tŷ crwn a oedd â bedd ynddo.

Yna aethom ati i ehangu ein gwaith cloddio i geisio sefydlu maint y tŷ crwn. Roedd y wal gron hon yn amlwg iawn yn y gogledd, y de a'r gorllewin, ond ddim mor amlwg yn y dwyrain.



------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2019. Mae mwy o'r hanes yn rhifyn Rhagfyr.

                                                                


5.12.19

Mewn pob daioni mae gwobr

Pytiau am Eisteddfod Genedlaethol gofiadwy i rai o Fro Ffestiniog.

Ein braint ni yma yn nalgylch Llafar Bro ydi cael llongyfarch dau o breswylwyr y dref ar eu buddugoliaethau yn Adran Farddoniaeth prifwyl gofiadwy Dyffryn Conwy eleni.
Bu’n Eisteddfod gofiadwy iawn i Vivian Parry Williams am sawl rheswm.  Na, nid am lunio limrigau y daeth i’r brig y tro yma, ond am gyfansoddi chwe thriban – ‘Chwe Esgus’. Dyma’r un agoriadol:
Ar ran eich holl aeloda’
derbyniwch f’ymddiheuriada’
am fethu ffeindio’r ffordd i’r cwrdd –
mae’r hwrdd ‘di bwyta’r mapia’.
Sgiwsiwch V’ oedd ei ffug-enw gwreiddiol, ond fel ‘Ap Machno’ yr adwaenir o yn yr orsedd o hyn ymlaen.

Dafydd a Vivian efo'u tystysgrifau. Llun- PW


Am gerdd ‘wedi’i llunio o chwe phennill telyn’ dan y teitl ‘Lleisiau’ y cipiodd Dafydd Jones, Bryn Offeren wobr.
"Dyma fardd â dawn i greu darluniau byw o fywyd cefn gwlad ac sy’n gallu tynnu lluniau a’u portreadu i greu stori cymdeithas fel yn ‘Dan y Wenallt’ ...” 
meddai’r beirniad, Andrea Parry am waith ‘Twrog.’

Dyma flas un ohonyn nhw:
Haul yn machlud dros y Gelli,
Sŵn y byd yn araf dewi,
Lleisiau’r plant wrth bont Llain Mafon,
Lluchio cerrig mân i’r afon.
Cawsom fwynhau ambell gerdd gan Dafydd yn y golofn hon sawl gwaith dros y blynyddoedd.
-Iwan Morgan; Rhod y Rhigymwr, Medi 2019.
----------------------------------------

Cydnabyddiaeth deilwng i ddau o’r Fro

Llongyfarchiadau mawr i Ap Machno a Padrig o Gynfal ar gael eu hurddo i'r wisg werdd Gorsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Mae cyfraniad Vivian Parry Williams a Patrick Young i ddiwylliant yr ardal a thu hwnt, yn haeddu’r clod a ddaw efo anrhydedd pennaf cenedl y Cymry.



Gwych! Mewn pob daioni mae gwobr.






Llongyfarchiadau hefyd i Robin Jones, Trawsfynydd gynt, a dderbyniwyd i’r wisg las am gyfraniad oes i waith gwirfoddol ar lawr gwlad.
-----------------------------------

Celf
Llongyfarchiadau i Lleucu Gwenllian ar ddylunio’r lluniau i gyd yn llyfr diweddaraf Myrddin ap Dafydd, ‘Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy’.

Mae’n edrych yn wych!

Roedd yr Archdderwydd a Lleucu yn lansio’r llyfr gyda chymorth plant Ysgol Ysbyty Ifan yn Nhŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod.

Mae’r llyfr ar gael yn Siop yr Hen Bost!


(Adolygiad Bethan Gwanas)










---------------- 
Pytiau o rifyn Medi 2019



1.12.19

Wyth Ffair Llan

Erthygl o'r archif

Efo lwc a bwyd llwy, bydd ffair yn y Llan am flynyddoedd i ddod.  Ond, fel y dywedodd cyfaill wrthyf yn ddiweddar, nid yw Ffair Llan fel y bu.  Wrth i mi ysgwyd pen a chydweld ag ef gofynnodd imi pa mor bell yn ôl y cynhelid ffair yn y Llan.  Arweiniodd ei gwestiwn fi i chwilota’r gist yn y ty acw am ychydig o’i hanes.


Efallai mai’r peth cyntaf y dylid ei ddweud am Ffair Llan neu Ffair G’langaea’ (Tachwedd 13) ydyw nad hon oedd yr unig ffair a gynhelid yn Llan Ffestiniog yn y dyddiau a fu.  Na, cynhelid cymaint ag wyth ffair y flwyddyn yno ar un adeg.  Fodd bynnag, cyn dweud mwy am hynny, soniaf am hynafiaeth y ffeiriau yn gyntaf.

Synnwn i ddim nad oedd rhai o ffeiriau’r Llan yn dyddio mor bell yn ôl a’r unfed ganrif ar bymtheg – os nad ychydig cynt.  Serch hynny, nid oes gennyf gyfeiriad at gynnal ffeiriau yno cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg.  Yn dilyn ceir rhestr o’r ffeiriau a gynhelid yno yn y flwyddyn 1699 yn ôl Almanac Thomas Jones yr Amwythig:

1)    Y Gwener ar ôl y Drindod
2)    Awst 11
3)    Medi 15.  Newidiwyd y dyddiad i Fedi 26 ar ôl y Calendr yn 1752.
4)    Hydref 8.
5)    Tachwedd 15 (yr hen G'langaeaf). Newidiwyd i Dachwedd 13 ar ôl 1752.

Erbyn 1751 roeddynt wedi ychwanegu dwy ffair at y rhai uchod, sef un ar Fai 14, a’r llall ar Fehefin 21.  Yn ôl Almanac John Prys am y flwyddyn 1755, ac ar ôl cymryd 11 o ddyddiau allan o’r Calendr, ceid y ffeiriau canlynol yn y Llan:-

1)    Mai 24.
2)    Dydd Gwener ar ôl y Drindod
3)    Gorffennaf 2
4)    Awst 22
5)    Medi 26 (Ffair wyl Grog).
6)    Hydref 19
7)    Tachwedd 13

Yn yr hyn a elwir ‘Cyfaill Distaw’ yn Almanac Caergybi am 1807 rhestrir wyth o ffeiriau o dan Llan Ffestiniog.  Rywbryd rhwng 1776 ac 1807 roeddynt wedi sefydlu ffair ar Fawrth y 9fed – a byddai’r saith uchod i’w chanlyn.

Erbyn 1834 roedd ffair Gorffennaf 2 wedi ei symud i Fehefin 20.  Ac eithrio hon, cadwodd y gweddill at yr un dyddiad am flynyddoedd lawer.  Yn ôl Almanac y Miloedd am 1930 roedd saith ffair y flwyddyn yn dal i gael eu cynnal yn Ffestiniog.  Os yw hyn yn gywir, bu farw chwech ohonynt mewn ychydig flynyddoedd felly. 

A chymryd hyn i ystyriaeth mae’n syndod bod gennym ffair o gwbl yn Llan Ffestiniog heddiw.
---------------------------------

Ymddangosodd yr erthygl yma -heb y llun- yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1986.

[Os taw chi oedd yr awdur, gadewch inni wybod, fel y gallwn gydnabod eich gwaith. 

Hefyd, holwyd am fanylion y llun uchod yn rhifyn Mawrth 2016, ond ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth. Gyrwch air os wyddwch pwy oedd y ffotograffydd, neu pwy sydd yn y llun.

Diolch, Gol.]