28.11.13

Rhiwbryfdir -Stolpia a phytia'

Yn rhifyn Tachwedd, mae Steffan ab Owain yn parhau ei gyfres difyr o hanesion am ardal Rhiwbryfdir; yn y 1950'au y tro hwn. Dyma ran o'i ysgrif isod.
Mae mwy i ddod ganddo yn y dyfodol hefyd.

Hen dai'r bont




Dyma ni wedi cyrraedd y bont drên. Yn aml iawn, yn ystod tywydd glawog dyma fan chwarae’r plant a chan nad oedd llawer o draffig yr adeg honno byddid yn gallu chwarae pêl ac ambell gêm arall oddi tani. 

Y pryd hynny, ni wyddwn i ddim bod cwmni’r LNWR wedi chwalu dau neu dri o dai oddeutu’r flwyddyn 1879-1880 ar gyfer gwneud ei rheilffordd newydd a’r bont drên.  Gwelir yr hen dai yn y llun hwn ymhlith casgliad John Thomas, Cambrian Gallery, ac un ohonynt ar ganol  cael ei ddymchwel. Rhywdro’n ddiweddarach bu’n rhaid tyllu’r hen ffordd er mwyn cael uchder i gerbydau  fynd oddi tan y bont ac ymhen rhai blynyddoedd wedyn codwyd dau dŷ bychan o’r newydd ar ochr uchaf y bont i gyfeiriad y Rhiw, ond methaf a chofio eu henwau.  Y rhai y cofiaf i yn byw yno oedd Mrs Jones, Holland - na nid Holland tros y dŵr, ond Chwarel Holland, sef mam Mr Meirion Jones, cyn-arweinydd Côr y Brythoniaid a fu’n byw ar un adeg yn un o’r tai a fyddai yn y chwarel hon, ac yna,  yn y tŷ nesaf  i fyny, Mr a Mrs Hugh Martin Hughes. Os cofiaf yn iawn, byddai Mr Hughes yn cadw colomennod a chlywais un yn dweud pan oeddwn yn hŷn ei fod wedi darganfod hen gwdyn lledr ac arian ynddo wrth gerdded ar hen lwybr ger y Cribau, lle mae’r llwybr y ‘beics gwyllt’  heddiw. 

- - - - - - - - - - - - - - - 

Wrth son am Rhiw, mae Mervin Jones wedi postio llun hynod o ddifyr ar dudalen Gweplyfr, (dolen ar dudalen gweplyfr Llafar Bro) yn dangos yr ardal cyn datblygu Rhiw a chyn creu tomen fawr yr Oclis.




I orffen, dyma lun o'r llwybr igam-ogam ar y domen fawr, efo eira dan draed ac awyr las uwchben. Mi ydan ni'n byw mewn lle braf bois bach..


Llun PW





17.11.13

Cyngerdd Eric Jones a'r Calendr Bro

Mae llwyth o bethau'n digwydd yn lleol dros y gaeaf; does dim esgus i aros yn y ty o flaen y bocs. Yn rhifyn Tachwedd, gallwch weld calendr llawn o weithgareddau, yn ogystal a newyddion am nosweithiau a fu ym mis Medi a Hydref, er enghraifft y Cyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd yn Ysgol y Moelwyn er mwyn codi arian at Apel Eisteddfod yr Urdd 2014.
Daeth llythyr i law yn canmol Cyngerdd Mawreddog , gan Nesta o Llan: gweler isod, o dan y calendr.


Mae Tecwyn, golygydd y mis wedi casglu rhestr hir o ddigwyddiadau at ei gilydd. Dyma flas:




20 Tachwedd. Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
                Brian Paul, Rheilffordd Ucheldir Eryri
                7.15 Neuadd W.I.

23 Tachwedd- 4 Ionawr. Oriel Y Llyfrgell
Ffotograffau prosiect cymunedol
defnyddwyr gwasanaeth Tan y Maen.
21 Tachwedd. Pwyllgor Llafar Bro
                7.00 Neuadd W.I.
21 Tachwedd.    Sefydliad y Merched
Diwrnod Nadoligaidd ym Mhlas Tan-y-bwlch 
                a chinio Nadolig
22 Tachwedd. Y Llyfrgell.
                "Cymorth Cyntaf bob dydd"
10.30 - 12.30 ac 2.30 - 4.30 
I archebu lle, neu am ragor o wybodaeth
cysylltwch â 01766 830415
23 Tachwedd: Clwb Rygbi
            Gêm gartref
            Bro vs Dinbych
24 Tachwedd: Fforwm Hanes Tan-y-bwlch
                Gwilym Price: Atgofion Plymar
                7.30 Plas Tan-y-bwlch
26 Tachwedd: Sefydliad y Merched
                Cyfarfod Misol
                7.00 Neuadd W.I.
27 Tachwedd: Ysgol Bro Hedd Wyn
                Ffair Nadolig “Marchnad  Ffermwyr”
30 Tachwedd: Neuadd Trawsfynydd
Apêl Eisteddfod yr Urdd
Cabaret, 7.30pm
Tocynau: Gerallt Rhun, Ffôn   540681
 


CYNGERDD MAWREDDOG ERIC JONES

    "Rhoddodd y noson hwb anferthol i’r balchder sydd gennyf o fod yn un o genedlaethau o’m teulu sydd wedi eu magu yn yr ardal arbennig hon. Gwelwyd talentau lleol ar eu gorau, gan gynnwys ysgolion a phobl ifainc y dalgylch.  Clywyd pedwar côr sef Côr Cymysg Blaenau, Côr y Moelwyn, Côr y Brythoniaid a’r Côr newydd sbon o’r enw Rhiannedd y Moelwyn [gweler y pumed cor isod -Gol].  Braf oedd gweld dros 70 o ferched yn mwynhau eu hunain dan arweiniad Sylvia Ann Jones.  

Cor Ysgol Maenofferen. Mae mwy o luniau yn rhifyn Tachwedd, a gallwch weld holl luniau'r noson -ac archebu copiau- ar wefan y ffotograffydd lleol, www.ErayGuner.com    -mae cyfran o'r pris yn mynd at apel yr Urdd.
 Noson i ddathlu gwaith Eric Jones y cerddor o Bontarddulais oedd y noson, a hyfryd oedd ei weld ef a’i wraig wedi dod atom. ‘Sgŵp’ go iawn oedd hyn yn ôl y llywydd medrus, Delyth Gray, ac roedd ef a’i wraig yn amlwg wedi mwynhau’r noson yn fawr. Fel y dywedodd Delyth, er bod cymaint i’n herbyn fel tref ac ardal gyda’r toriadau gwallgof i’n gwasanaeth iechyd, mae ardal y Blaenau yn gallu casglu cymaint o dalent at ei gilydd i gynnal noson a erys yng nghof llawer ohonom.  Da iawn!"








14.11.13

Rhifyn Tachwedd wedi cyrraedd!

Mae rhifyn Tachwedd yn llawn dop o erthyglau a hanesion a lluniau a chyfarchion!
Dyma rifyn mwyaf swmpus y flwyddyn, 24 tudalen: llai na dwy geiniog y dudalen am berlau'r fro!


Mae llun o Glwb Cerdded Stiniog ar y clawr, a'u haelodau nhw, ynghyd a Merched y Wawr Blaenau, a'r criw selog arferol, fu yn neuadd y WI yn plygu'r rhifyn bympar yma. Diolch iddynt am eu gwaith.



Os nad oes dosbarthwr yn eich milltir sgwar, brysiwch allan i'w nol o'r siopau lleol, a thra ydych chi yno, gwariwch bunt neu ddwy arall, er mwyn cadw ein pres yn lleol.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth eto. Cofiwch y bydd cyfarfod o'r pwyllgor nos Iau yr 21ain o Dachwedd am 7 yn stafell gefn neuadd y WI. Croeso mawr i bawb.



9.11.13

Atgofion Golffio

Gan fod y Clwb Golff Ffestiniog yn paratoi i gau'r drysau am y tro olaf, daeth ein gohebydd yn y Llan, ar draws hen atgofion difyr iawn gan Franko, o 1969. Dyma ddetholiad o'r straeon ymddangosodd yn rhifyn Hydref, sydd dal yn y siopau am ychydig ddyddiau eto.

Mae Nesta'n cyflwyno'r darn fel hyn:

'Franko wrth gwrs ydi'r cymeriad annwyl -mab i Morris Evans- sef Frank Evans fu'n cynhyrchu 'Oel Taid' fel y galwai o OEL MORRIS EVANS.'


Lluniau:
bathodyn oddi ar wefan y clwb golff; ffotograff o wefan siambr fasnach Blaenau Ffestiniog.


 

DYDDIA' GOLFF YN STINIOG

Roeddwn yn dechrau chwarae golff yn y flwyddyn 1906... cof sydd gennyf o fynd i Ben y Cefn fin nos. Roedd Joe Hughes -un o golfers gorau fu erioed yn chwarae yno- yn dysgu puttio ar y green olaf.  Dyma Joe yn betio efo fi y buasai’n dreifio ei bêl oddi ar ei Hunter Watch oedd newydd ei chael y bore hwnnw. 


Dyma Joe yn gosod ei bêl ar y watch, ac yn dreifio, a'r peth nesaf a welwn oedd y watch a’r bêl yn mynd, a’r watch yn ddarnau, a Joe yn edrych yn syn.  

Dro arall, roedd ryw chwech ohonom yn chwarae efo’n gilydd ‘Penny a Hole’.  Cafodd Wil John drive dda, ond tra roedd yn chwilio am ei bêl, bu i Harry Baker a minnau roi carreg fawr wrth y bêl, a bu Wil yn damio’r hen garreg, ond bu i Harry Baker a minnau fethu dal heb chwerthin.  “Y diawliaid sâl, “ meddai Wil gan symud y garreg.  Rhaid oedd gadael iddo ennill y twll hwnnw, a thalu’r geiniog iddo i dawelu’r storm.


                                                     ----------------------------------------

Hefyd, yn rhifyn Medi, bu gohebydd arall, ac aelod o'r clwb, Pegi, yn codi atgofion am y clwb o rifynnau cyntaf Llafar Bro ym 1975.



Fis Ebrill diwethaf dechreuwyd chwarae golf ym Mhen-y-Cefn, Llan Ffestiniog am y tro cyntaf ers cyn y rhyfel. Ers amser bellach mae’r Pwyllgor Llywio wedi bod wrth y gwaith o ddod a threfn yn ôl i’r lle a hynny yn wyneb llu o anawsterau. Nid gwaith hawdd na rhad yw sefydlu clwb golff o’r newydd. Bu’n rhaid cael contractiwr i wneud y gwaith o osod glasdiroedd (greens)  ac i dorri ffosydd i sychu’r rhannau gwlypaf. Bu dibynnu hefyd ar lawer o waith gwirfoddol.




Cafwyd cyfraniad hael gan yr hen Gyngor Dinesig tuag at y costau a dyna paham y teimlodd y pwyllgor hi’n ddylestswydd cadw’r tâl aelodaeth mor rhesymol a phosibl er mwyn rhoi cyfle i bobl y cylch fanteisio ar y cyfleusterau ac mae’n braf medru cofnodi fod llawer wedi gwneud hynny. Eisioes mae rhif yr aelodaeth bron yn 100, a chyfartaledd da o’r rheiny yn blant a phobl ieuainc. Hyd yma cynhaliwyd dwy gystadleuaeth ac roedd yr eiddgarwch y gymryd rhan yn galonogol iawn bob tro. Dichon fod dyfodol y clwb yn ddiogel iawn am flynyddoedd i ddod.

Credwn mai Clwb Golff Ffestiniog yw’r cyntaf i weithredu polisi o ddwyieithrwydd, fel y gellir gweld o’u cardiau sgorio. At hwnnw mae’r rheolau i’w cael mewn Cymraeg a Saesneg a diddorol hefyd i’r enwau a roddwyd i’r gwahanol dyllau ar y cwrs. Nid enwau gwneud mohonynt ond enwau oedd eisoes yn perthyn i’r Cefn ac i’r ardal. Mae’r pwyllgor yn hyderus y bydd Clwb Golff Ffestiniog, ymhen ychydig flynyddoedd, yn ennill poblogrwydd ac yn denu llawer iawn o chwaraewyr o bell ac agos. 

                                                     ----------------------------------------------------






               Tabl y tyllau a'r map o wefan y clwb.                                    




                                                  ----------------------------------------------- 

Tynnwyd y llun isod gan Alwyn Jones ar y 18fed o Awst eleni: 
Merched y clwb yn cychwyn allan ar ddiwrnod Capten y Merched, a hynny am y tro olaf.