28.7.22

Rhod y Rhigymwr -Emyn

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Er pan oeddwn i’n blentyn bychan iawn, mae emynau a thonau wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy mywyd. Yng Nghorris fy mhlentyndod, cynhaliwyd dwy Gymanfa Ganu Undebol bob blwyddyn, a chan fod galw mynych ar Mam i gyfeilio’n y cymanfaoedd hynny, fe ges fy magu yn sŵn y gân. Oedfa’r bore am 10, Ysgol Sul am 2 ac oedfa’r hwyr am 6 yng Nghapel Rehoboth y Methodistiaid oedd dydd Sul i’n teulu ni ... ac yn ychwanegol at hynny, rihyrsals y Gymanfa wedyn yng Nghapel Salem yr Annibynwyr. Ac fel petae hynny ddim digon, fe ddôi’n cymydog, a arferai arwain y rihyrsals, ynghyd â’i wraig acw ar y ffordd adre i barhau â’r gân.

Pa ryfedd felly fod geiriau emyn a nodau tôn wedi bod yn rhan mor annatod ohonof.

Rydan ni’n cofio Prifwyl Aberafan [1966] am Awdl enwog Dic Jones i’r ‘CYNHAEAF.’ Dyma’n sicr un o’r awdlau gorau a gipiodd gadair y Genedlaethol erioed. 

Ond mae’n bwysig cofio’r Brifwyl honno hefyd am englyn hynod ganmoladwy a luniwyd i ‘EMYN.’ 

Bardd, emynydd a phregethwr a aned yn y Blaenau ddaeth i’r brig. Yno, yn Chwefror 1910 y ganwyd Owen Morgan Lloyd ... yn fab i Hugh a Sarah Ann Lloyd, 4, Heol Maenofferen. Roedd Hugh Lloyd yn ddiacon, athro Ysgol Sul a thrysorydd yng Nghapel Jerusalem. 

Cofiwn am y Parch O. M. Lloyd fel gweinidog Eglwys Annibynnol y Tabernacl, Dolgellau am bron i chwarter canrif (rhwng 1955 a 1978). Roedd o hefyd yn fardd a llenor cynhyrchiol oedd yn feistr ar y gynghanedd, ac yn gwasanaethu fel ‘meuryn’ yn Ymrysonau’r Beirdd ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol am sawl blwyddyn. Bu farw ym 1980.

Dyma’i englyn gwych ‘Emyn’:

Mae’n dod â diod awen – at enau
Saint Iôn yn eu hangen;
Y fawlgan hoff, fel gwin hen
O nodd y wir winwydden.

Rydan ni fel Cymry wedi bod yn ffodus ryfeddol o’n hemynwyr, ac oherwydd ein bod ni fel cenedl wedi’n bendithio ag elfen gerddorol, mae’n eithaf posib ein bod ni wedi anwylo mwy ar eiriau ein hemynau nag unrhyw genedl arall. 

Edmwnd Prys, cofeb Llanelwy. Llywelyn2000 CCBY-SA4.0
Un fu’n troedio’r ardaloedd yma bedwar cant a mwy o flynyddoedd yn ôl oedd Edmwnd Prys, yr hen Archddiacon. Fe welodd o werth mewn clodfori Duw ar gân pan gyhoeddodd ei Salmau Cân ym 1621. Dros y canrifoedd, mae’r emyn wedi bod yn gyfrwng eneinedig gan gredinwyr yng Nghymru i ddatgan eu ffydd a’u cred.

Pan oeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Tywyn yn niwedd y chwedegau, ac yn ceisio paratoi at fy arholiadau ‘Lefel A’ mewn Hanes, yn yr iaith Saesneg yn unig y derbyniwyd y papurau arholiad. Yn yr iaith honno yr addysgwyd y pwnc inni, er fod yr athro’n Gymro Cymraeg, ac yn yr iaith honno y paratowyd ni i ateb cwestiynau ar hanes Ewrop a Phrydain rhwng 1714 a 1815. Fel rhan o’r maes llafur, roedd un cwestiwn dewisol ar Hanes Cymru. Ond, yn Saesneg y paratowyd ni ar gyfer ateb hwnnw hefyd. 

Ychydig Suliau cyn yr arholiad, cofiaf wrando ar bregethwr ym mhulpud Rehoboth yn ledio un o emynau Pantycelyn. Pwysleisiodd fod ‘Diwygiad Methodistaidd y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru’ wedi ei grynhoi’n yr emyn yma. Gwnaeth yr emyn argraff arnaf, ac fe roddais y tri phennill ar fy ngho’. Dyma’r cyntaf ohonyn nhw:

Enynnaist ynof dân,
Perffeithiaf dân y nef,
Ni all y moroedd mawr
Ddiffoddi mono ef;
Dy lais, dy wedd, a gweld dy waed
Sy’n troi ‘ngelynion dan fy nhraed.

Wrth ganfod cwestiwn oedd yn ymwneud â’r Diwygiad grymus yma, ac am droedigaethau rhai fel Hywel Harris, Daniel Rowland a Phantycelyn ei hun, dyma fynd ati i sgwennu’r tri phennill yma ar y papur arholiad ac ymhelaethu gorau gallwn arno yn y Gymraeg. 

Yn ystod fy nghyfnod yn y coleg dros hanner canrif yn ôl y cychwynnodd y frwydr i fynnu’r hawl i astudio pynciau cwricwlaidd eraill ac eistedd arholiadau yn y Gymraeg. Tybed ydy myfyrwyr heddiw’n ymwybodol o’r aberth wnaeth fy nghenhedlaeth i dros sicrhau hynny?

I gloi, dyma englyn gan gefnogwr ffyddlon arall - Simon Chandler ... sydd, yng ngeiriau’r bardd ei hun ‘yn sôn am y dyfodol disglair a ddymunaf i ardal y llechi yn sgîl dynodiad safle treftadaeth y byd, ac am rôl allweddol y Gymraeg fel rhan annatod o hynny.’ Ychwanega Simon iddo gael ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg gan leisiau’r hen chwarelwyr a glywodd mewn recordiau tanddaearol pan ymwelodd â Chwarel Llechwedd am y tro cyntaf.

Rhodd yr Hen Chwarelwyr ...

Mewn ffydd, o gudd daw eu gwaddol, o’r oer
daw’r arian adfywiol,
diymffrost pob apostol,
ein hiaith ddaw â’n fory’n ôl.
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022



22.7.22

Yr haf yn yr Ysgwrn

 Wel, mae hi’n haf yn barod – a’r Ysgwrn wedi agor i’r cyhoedd ers tri mis.
 
Mae’n rhaid dweud ei bod hi’n braf iawn eleni cael lled-normalrwydd eto, gyda chwmwl Covid yn dechrau clirio yn ara’ bach.  Mi ydym ni bellach yn gallu cynnig pedair taith lawn y dydd, a digwyddiadau dan do heb orfod poeni am y tywydd!

Mi gawsom Basg prysur iawn, gyda helfa drysor wedi ei threfnu i’r plant o amgylch y fferm.  Daeth criwiau o bell ac agos yma – rhai oedd erioed wedi ymweld â’r Ysgwrn o’r blaen.

Digwyddiad arall difyr yn ystod mis Mai oedd recordio rhifyn arbennig o gyfres Gwrachod Heddiw, sef Gwrachod Meirionnydd.  Sgwrs banel oedd hi, gyda Mari Elen yn holi Bethan Gwanas a Catrin Roberts am bob math o bethau gwrachaidd. Mi oedd hi’n hynod ddifyr clywed am y dail a’r blodau fydd Catrin yn eu casglu a’r elfennau gwrachaidd maen nhw’n weld ynddyn nhw eu hunain heddiw. Mae'r podleidad i’w glywed ar ap AM.

Un datblygiad newydd eleni ydy’r bore coffi am 11am bob bore Sadwrn yn y caffi. Mae’n gyfle i bobl leol ddod draw a chael sgwrs dros baned neu dro o amgylch y ffridd.  Mae ‘na hefyd groeso mawr i ddysgwyr os ydyn nhw yn chwilio am gyfle i siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar.

Mae ein gardd hefyd yn altro, ac mi gawsom wledd o gennin Pedr yn ystod mis Ebrill. Ond un broblem ydym ni’n ceisio ei thaclo ar hyn o bryd ydy defaid yn torri mewn i’r ardd ac yn gwledda ar y planhigion bach newydd!  Croesi bysedd y bydd y ffens newydd i gau’r twll yn gwneud ei gwaith.

Ac allwn ni ddim gorffen heb sôn am ein ffrind bach newydd, sydd wrth ei fodd yn yr Ysgwrn – sef Selwyn y Sgwarnog. Creadur hardd, gyda’i glustiau hir a’i naid osgeiddig. Mae’n braf iawn ei weld yn crwydro’r caeau yma, yn pori’n braf yn y bore bach.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022


18.7.22

Senedd Stiniog- apêl am gynghorwyr

Newyddion Cyngor Tref Ffestiniog

Mae nifer fawr o drigolion gydag awch ac yn ffyrnig dros y fro hon, ac yn aml yn ansicr sut fedr rhywun wneud gwahaniaeth yma.

Un ffordd o helpu’r gymuned ydi gwirfoddoli eich amser i fod yn Gynghorydd Tref!

"Na, mae hyna’n swnio’n rhy gymhleth; rhy swyddogol i mi", dwi’n eich clywed yn ei ddweud. Ond peidiwch â bod ofn y teitl swyddogol, yr hyn mae bob cynghorydd sydd ar y Cyngor Tref eisiau yn y bôn ydi helpu’r gymuned, rhannu profiadau neu sgiliau a gweld gwelliannau yn y fro.


Cyngor Tref Ffestiniog ydi’r 3ydd fwyaf yng Ngwynedd, tu ôl i Fangor a Chaernarfon. Mae gennym oddeutu 5,000 o drigolion yma, llwyth o fentrau cymunedol a hyd yn oed fwy o fudiadau a chymdeithasau, gyda'r oll yn gweithio a mwynhau’r ardal.

Yma yn y Cyngor, mae lle i hyd at 16 o gynghorwyr. Mae gennym 5 ward gwahanol yn y fro, sef Bowydd a Rhiw (5 cynghorydd), Diffwys a Maenofferen (5 cynghorydd), Cynfal a Teigl (3 chynghorydd), Conglywal (2 gynghorydd) a Tanygrisiau (1 cynghorydd).

Yn yr etholiad ar y 5ed o Fai, etholwyd 5 cynghorydd i Gyngor Tref Ffestiniog yn ddiwrthwynebiad. Mae hyn yn golygu bod 11 sedd wag, ac felly rydym yn gobeithio cyfethol unigolion eraill i’r Cyngor.

Mae hi’n rôl amrywiol, yn trafod nifer fawr o bynciau sy’n effeithio’r ardal. Mae’r Cyngor Tref hefyd yn berchen ar asedau megis 9 cae chwarae, cofgolofnau, meinciau, biniau halen, perllan gymunedol Tan y Manod, Ysgoloriaeth Patagonia, a llawer mwy.

Ond fedr y Cyngor Tref ddim gweithredu’n effeithiol a chynrychioli bob math o drigolion gwahanol y fro, heb gynghorwyr.

Mae’r Cyngor yn cael cyfarfod llawn yn fisol (yr 2il nos Lun o’r mis), ac yna cynhelir amryw o bwyllgorau gwahanol. Mae Pwyllgor Mwynderau yn trafod eitemau megis caeau chwarae, llwybrau cyhoeddus ac ati, ac yn cyfarfod yn fisol. Yn llai aml geir pwyllgorau eraill, megis Pwyllgor Adnoddau sydd yn trafod cyllideb a chyfrifon y Cyngor a’r Pwyllgor Digwyddiadau sy’n trafod yn bennaf trefniadau Nadolig.

Mae hefyd modd i chi rŵan wylio’r cyfarfodydd yn fyw, drwy ymuno ar-lein! Byddem yn cyhoeddi linc y cyfarfod yn fisol ar ein tudalen Facebook o hyn ymlaen os hoffech weld yr hyn sydd yn cael ei drafod yno.

Mae croeso i chi gysylltu efo swyddogion y Cyngor, sef Zoe Pritchard y Clerc, neu Eirian Barkess y Dirprwy Glerc os hoffech holi am unrhyw elfen o’r Cyngor. Gellir cysylltu â ni dros e-bost clerc@cyngortrefffestiniog.cymru neu ffoniwch y swyddfa rhwng 9yb a 2.30yp Dydd Llun i Gwener ar 01766 832398. A chofiwch, rydym bellach wedi symud swyddfa, gyda'n cartref newydd yn y Ganolfan Gymdeithasol.
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022

 

12.7.22

Gorwelion Bro

Cynllun ‘Skyline’ Bro Ffestiniog
Nid oedd archfarchnadoedd yn bodoli pan oedd ein neiniau a’n teidiau ni yn blant. ‘Roedd gan bob tref ambell i siop fach arbenigol yn gwerthu eitemau wedi’u mewnforio a mwy yn gwerthu cynnyrch mwy lleol. ‘Roedd gan bron bob cartref eu gardd gefn i dyfu ffrwythau a llysiau.

Roeddynt yn gwneud eu jam a’u cyffeithiau eu hunain. ‘Roedd rhai hyd yn oed yn bragu cwrw neu win. Ac yn helpu ei gilydd pan oedd yn amser cynaeafu a rhannu llwyddiannau a methiannau ei gilydd. Ychydig iawn o gemegau oedd yn y bwyd bryd hynny, a thechnegau amaethyddol diwydiannol ddim ond yn syniadau gan rai.

I dorri stori hir yn fyr - ‘roedd ein systemau bwyd yn fwy iach, yn fwy blasus ac yn fwy cadarn. ‘Roedd mwy o fioamrywiaeth, a llai o broblemau iechyd meddwl neu alergeddau bwyd.

Dyma genhadaeth prosiect Skyline ym Mro Ffestiniog: 

i ddod â’r bwyd, y tanwydd a’r wybodaeth yn ôl i’r cymunedau ble ‘roeddynt yn ffynnu. Gyda’n gilydd, rydym yn datblygu gardd fasnachol weithredol ac effeithlon, menter goed tân fforddiadwy a chynaliadwy, yn ogystal â chanolfan sgiliau traddodiadol er mwyn dysgu’r hen ffyrdd i’r cenedlaethau newydd.

(Llun gan BroCast Ffestiniog)
   Mae banc coed Coed Call wedi ei sefydlu i geisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn yr ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni J.W. Greaves, Llechwedd, am fenthyca darn o dir ger Pant yr Afon i ni, tra mae Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn rhoi tunelli o goed sydd wedi eu torri ar dir cyhoeddus i ni. Byddwn yn prosesu’r rhain gyda chymorth gwirfoddolwyr ac yn eu sychu mewn siediau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar eu cyfer. 

   Bydd y mwyafrif o’r coed yma yn cael eu rhoi allan am ddim i’r rhai sy’n dioddef tlodi tanwydd, a’r gweddill yn cael eu gwerthu i helpu eraill dalu biliau nwy, olew neu drydan.

   Mae ein cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys caffael a rheoli darn o goedwig gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwneud ein banc coed yn gynaliadwy yn yr hir dymor.

 Rydym yn croesawu rhoddion o goed tân, ac mae gennym staff sydd wedi’i hyfforddi i dorri a symud coed sydd wedi disgyn. Cysylltwch gyda ni am fwy o fanylion.

Ail ran prosiect Skyline Bro Ffestiniog yw’r Ganolfan Sgiliau Traddodiadol, ger llwybrau beicio Antur Stiniog. Mae 25 tunnell o Ffynidwydden Douglas o Lyn Efyrnwy wedi ei brynu, a byddwn yn eu torri i adeiladu ‘cwt crwn’ wythonglog gyda tho tywyrch i'w ddefnyddio i ddysgu sgiliau traddodiadol fel gwaith coed irlas, cerfio, gwneud basgedi a llawer mwy. Ein bwriad yw gwerthu’r profiadau hyn i ymwelwyr er mwyn ariannu cyrsiau am ddim i bobl leol.

Mae’n debyg mai’r trydydd prosiect yw’r mwyaf uchelgeisiol. Rydym yn bwriadu creu rhwydwaith o brosiectau garddio fyddai’n cynhyrchu digon o ffrwythau a llysiau i fwydo’r dref. Tra’i fod yn nod uchelgeisiol iawn, drwy gefnogaeth prosiect Skyline, rydym yn credu ei fod yn nod hollol realistig, ac erbyn 2032, rydym am i Fro Ffestiniog fod yn hunangynhaliol mewn cynhyrchu ffrwythau a llysiau.
Nid yn unig fydd hyn yn help i daclo tlodi bwyd a gordewdra, ond hefyd yn gyfle ychwanegol i roi profiadau garddio i bobl a phlant y dref - rhywbeth sydd â buddion enfawr i iechyd meddwl. Byddwn yn adeiladu sied ar ein safle yn y Manod, gyda thân coed cynnes i bobl gael eistedd o’i amgylch neu i blannu hadau neu i brosesu’r cynhaeaf.

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Dref Werdd, byddwn yn datblygu'r gwaith mewn tri safle o amgylch Blaenau Ffestiniog dros yr haf.

Bydd cymorth gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer y prosiectau, ac fe fyddant yn cael eu gwobrwyo gyda barbeciws penigamp a phaneidiau diddiwedd, heb sôn am y wybodaeth galonogol eu bod yn cyfrannu tuag at rywbeth mor gadarnhaol yn eu cymuned.


Os hoffech chi gael clywed mwy neu wirfoddoli, ewch i www.drefwerdd.cymru neu ffoniwch 01766 830082.

Wil Gritten
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022