9.11.23

Hanes Rygbi Bro- Tymor 1985-86

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams  

Mehefin 1985
Pwyllgor- Prynu peiriant torri gwair /Gwasgaru TOP SOIL (£30 x 4 llwyth ) Paentio’r Clwb – John a Dilwyn a Marcus a Bryn yn gyfrifol. Caniatad Cynllunio i godi cysgod ar ochr y cae.

Gorffennaf
6ed Barbaciw yn y Clwb; 17eg Helfa Drysor; 24ain- Pwyllgor: Swyddog Cyhoeddusrwydd  -Cradog Edwards/ Bwrdd Anrhydeddau– trefnu cynnwys a lleoliad

Awst
16eg Ocsiwn yn y Clwb >Elw  £374; 3ydd Gwthio Gwely o’r Blaenau i Penrhyn, hel £317 Disgo £100; 7 Bob Ochr Harlech; 21 Awst Taith Tramor Iwerddon  

Medi
12fed Ardal M v Gwent (Cwpan Howells): Bro 20- UWIST 14.  Ymddiswyddodd Deilwyn Jones o’r Pwyllgor  - Brian Jones i mewn.  Gwynedd V Clwyd  (Sgwad: John Jones, Dick, Tony Coleman, Alun, Gwilym, Dafydd, Ken a Mike). Yn nhîm Gwynedd: Mike, Gwilym ac Alun. Aelodaeth Dros 100. Tri-deg pedwar o chwaraewyr.

Hydref
30ain Pwyllgor- Gary Hughes, Gwilym Wyn , Rob Atherton a Dick James- Dan 23 Dolgellau; 

Tachwedd
Bro 54 v Benllech 0 (crysau newydd )

Rhagfyr  
3ydd -Cais am Drwydded. 11eg Pwyllgor -Burgler alarm yn gweithio /Cynnal a Chadw y llifoleuadau -- Peter Scott /Dr Boyns yn trefnu mynd i Aberystwyth ar gwrs Bwrdd Datblygu ynghlŷn a’r caeau/ Cyflwr y caeau yn peri gofid / Aelodaeth -chwaraewyr 45/ Trip Majorca- £125 PAWB wedi talu, 31 yn mynd. Trwydded 5 mlynedd ; 21ain Cinio Dolig  (Y Rhiw Goch ) (£6.50)

Ionawr 1986  
22ain- Pwyllgor-  Eric Edwards (Pensaer ) –cynlluniau ar gyfer ail wneud llawr uwchben y Clwb/ Cylchlythyr wedi dod allan gan Merfyn / Trafferthion gyda llifoleuadau / Aeth 3 ar gwrs CAEAU -Dr Boynes , Dafydd Jarrett a Dylan Roberts / Rhaid sand slittio’r caeau. Capten 2ail dîm Kevin Thomas yn cael trafferth gyda’i ben glin – Michael yn cymeryd drosodd/ Raymond Tester ar y Pwyllgor Tŷ; Gwthio gwely i Ysbyty Bron y Garth  at Ward y Plant  Ysbyty Gwynedd £607.

 

Chwefror
Taith Tramor (Majorca ):
Palma 0 v Bro 12  (Ceisiau: Gwilym Wyn Williams / Mike S) (Trosi Idris Price / Alun Jones )
Costa de Calvia 16 v Bro 25 (Ceisiau Keith Williams /Alun Jones /Sprouts /Mike Smith / Cais cosb. Alun Jones cicio)
26ain-Pwyllgor- Ymholiad gan URGC -tîm yn cychwyn yn Traws? Cynlluniau am y Clwb a’r caeau – edrych am arian gan BDC, Cyngor, a Chwaraeon. Eric Edwards wedi gwneud braslun o beth fyddai y Clwb yn edrych fel / Pyst wedi dod o Pont y Pant gan Dave Hoskins; 

Mawrth
8fed- Gogledd Cymru v Cylch Aberafan. (Alun Jones /Gwil James / Mike Smith ); Richard James Is-gapten Dolgellau (Mewn Cystadleuaeth yn Wrecsam); Pontypŵl 21 v Rhanbarth M Gogledd Cymru 12.  Gêm Derfynol Cwpan Howells, chwaraewyr Mike (Capten) / Gwilym / Alun / John Jones;
26ain- Pwyllgor- Cydymdeimlo â theulu John E Evans a’n gadawodd ni mor sydyn; Enwi’r darian clwbddyn yn ‘Tarian Goffa John E Evans’. Cost Sand Slitting- Tua £5,000 dros 60 mis. 

Ebrill
23ain- Pwyllgor: Rhaid archebu tywod a gro; y pibellau i wneud ffens o gwmpas y cae wedi cyrraedd (O Cwcs Penrhyn )/ Grand National: Elw - £98

Mai
5ed- Saith Bob Ochr yr Urdd Meirion (ar Y Ddôl); 10fed- Ras Taircoes Canolfan - gorffen yn y Clwb. 16eg Cinio Blynyddol (Rhiwgoch ). Cyflwyno Tarian John E Evans i Glwbddyn y Flwyddyn; 18fed- Ras Mynydd Reebok; 20fed Cyfarfod Blynyddol (Presennol 27). 24ain- Gwthio gwely i godi arian i Ysbyty Gwynedd £607; 28ain- Pwyllgor: cael cwpan gan CEGB ar gyfer cystadleuaeth dan y llifoleuadau; cyfethol Gwynne, Elfed, Jon, Ken, Caradog, Marcus a Gwilym James. Y sand slitting wedi dechrau / Cae’r ail dîm wedi ei dorri gan Raymond.  

Canlyniadau
Tîm 1af    : Chwarae 31  Colli 9  Ennill 21  Cyfartal 1  O blaid 547 / Erbyn 267
2ail dîm: Ch16  C8  E 8  O blaid 156 / Erbyn 301
Methu am gais i fod yn Aelodau llawn o Undeb Rygbi Cymru
Ethol: Llyw D E Thomas / Cad Dr Boyns / Ysg Dylan / Gemau Michael/ Wasg Bryn /Cae Raymond / Trys Osian / Tŷ Glyn / Aelod Raymond  / Hyff a Capt  1af Mike / 2ail Capt  Bryn. Eraill -Richard James / John Jones / Derwyn Willams / Brian Jones / Raymond Tester
Chwaraewr y Flwyddyn: Gwilym James
Chwaraewyr Mwyaf addawol: John Jones a Geraint Roberts
Clwbddyn: Glyn Crampton
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023



7.11.23

Elwa dim o dwristiaeth?

Adroddiad ar YMCHWIL GYMUNEDOL gan Maia a Hanna, Cwmni Bro Ffestiniog

Cyflogir un o bob pump person yng Ngwynedd yn y sector twristiaeth ond yn aml mae'r gwaith yn talu'n sâl, yn ansicr a thymhorol. Mae'r cynnydd mewn Airbnb a gwyliau llogi tymor byr yn debygol o wneud ffeindio cartref yn anos i bobl leol ac yn golygu bod ymwelwyr yn gwario llai yn yr ardal.

Fe gaiff y modd y bydd twristiaeth yn datblygu yng Ngwynedd dros y degawd nesaf effaith fawr ar dwristiaeth yn yr ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'n bwysig gweithio allan pa fath o dwristiaeth yr ydym eisiau ei weld yn datblygu a sut i gyflawni hynny. 

Cynhaliwyd prosiect peilot drwy corff noddi ymchwil, sef Ymchwil ac Arloesi DG / UK Research and Innovation, i alluogi rhwydwaith ymchwil cymunedol i edrych ar sut y gall y cymunedau chwarelyddol gael mwy o lais a rheolaeth dros y materion sy'n bwysig iddynt hwy, cefnogi trafodaeth a datblygiad cymunedol ac adeiladu dyfodol llewyrchus a chynaliadwy. 

Er mwyn mynd i'r afael â'r gwaith sefydlwyd tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys cynrychiolwyr o Gwmni Bro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen, a Siop Griffiths Cyf (Penygroes) gyda chefnogaeth academyddion Economi Sylfaenol Cyf / Foundational Economy Ltd a'r elusen addysgol, Economy. 

Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin cyhaliwyd ymchwil ar dwristiaeth yng Ngwynedd yn hwyluso trafodaethau yn y gymuned ac ymchwil i ddeall pa fath o dwristiaeth mae'r cymunedau chwarelyddol eisiau ei weld a'r cyfleoedd i ddylanwadu ar ddyfodol twristiaeth yn lleol. Siaradwyd efo bron i gant o gyfranogwyr gan gynnwys ymwelwyr a thrigolion lleol yn ymwneud â gŵyl Hongian (yn y Blaenau, 19-21 o Fai),  dysgwyr 16 i 18 oed Coleg Meirion-Dwyfor, ymwelwyr caffi Antur Stiniog a llawer mwy. 

Isod mae canlyniadau a dadansoddiad bras o ganlyniadau Bro Ffestiniog o’r ymchwil peilot gan obeithio bydd yn ddechreuad ar waith yn ymestyn dros tair mlynedd. 

Cwestiwn 1: Mewn un gair; pam ‘dach chi’n meddwl bod pobl yn ymweld â’r fro?      

Fe grewyd ‘cwmwl geiriau’ efo’u hymatebion, oedd yn cynnwys pethau fel ein hatyniadau hardd er enghraifft y mynyddoedd, ond elfennau eraill hefyd fel Zip World a Rheilffordd Ffestiniog, a roddodd ymateb difyr gyda sawl bersbectif o ran be oedd pobl yn meddwl sy’n atynnu pobl yma.
Y geiriau amlycaf yn y cwmwl oedd: mynyddoedd; prydferthwch; scenery; slate; ac ati.


Cwestiwn 2: Lle ‘dach chi’n meddwl ddylai gael ei rannu/werthfawrogi mwy yn yr ardal?

Ar gyfer hwn, roedd map ar y wal yn gofyn i bobl roi sticer i ddangos pa leoliadau oedden nhw’n meddwl dylai gael eu harddangos mwy, ac fe ddengys yr ymatebion bod pobl yn awyddus i arddangos mwy o’u ffefryn-lefydd yn y fro, boed hynny yn elfen hanesyddol fel y canfyddiadau archeolegol, eraill yn rhoi llefydd fel Moel Hebog, y Rhinogydd a’r Wyddfa os nad oeddent yn ymateb gyda llefydd yn Ffestiniog, ac yn ddiddorol iawn, ni roddwyd unrhyw atyniadau i lawr, dim ond llefydd yn nodedig am eu harddwch a’u hanes yn lleol. 

Roedd hefyd awgrym bod pobl eisiau cadw a chynnal ardaloedd fel Bro Ffestiniog yn rywle tawel, llonydd, a chadw ymwelwyr yn y llefydd mwy poblogaidd fel Llanberis.

Cwestiwn 3: Yn eich barn chi i ba raddau mae’r ardal yn elwa o dwristiaeth?   
Mae’r data yn awgrymu bod y mwyafrif o bobl lleol yn mynd yn fwy tuag at y barn bod yr ardal yn elwa dim ond ychydig neu ddim o’r diwydiant dwristiaeth, tra bod ymwelwyr yn fwy o’r farn ei bod yn elwa llawer. Er hyn, mae hefyd yn glir bod ymateb amrywiol wedi bod gan bobl sydd unai yn ‘nabod yr ardal yn dda i gymharu â’r rheiny sydd ddim. 

 

Cwestiwn 4: Sut hoffech chi weld twristiaeth yn datblygu yn y dyfodol?
Roedd yn amlwg bod gan bobl farn amrywiol ar yr hyn yr hoffent ei weld ar gyfer dyfodol twristiaeth. Mynegodd llawer o unigolion yr awydd i gefnogi a hyrwyddo busnesau a busnesau newydd lleol. Cafodd cau sawl siop ar y stryd fawr effaith amlwg ar ardal Ffestiniog, gyda 17% o'r ymatebwyr yn galw am gymorth busnes. Dywedodd un ymatebydd, "Mae angen i ni ddod at ein gilydd fel busnesau a thrigolion i weld sut y gallwn hyrwyddo'r ardal gyfan." Ar y cyfan, roedd cred gref bod angen i bawb gydweithio i hyrwyddo'r ardal a gwneud iddi ffynnu.

Roedd isadeiledd hefyd yn ymddangos mewn llawer o ymatebion gan gynnwys newidiadau mewn parcio yn y dyfodol a chanolfan groeso fwy amlwg i rannu gwybodaeth yn yr ardal.

Yn ôl 12% o'r ymatebion, dylai'r ardal hyrwyddo eco-dwristiaeth tra hefyd yn gwarchod yr amgylchedd. Roedd yr ymatebion hyn yn gyffredin mewn ymatebion Cymraeg, gyda nifer yn galw am dwristiaeth sy'n parchu'r ardal a'r diwylliant lleol. Yn ogystal, cafodd twristiaid eu hannog i gadw'r ardal yn lân ac yn daclus.

Cwestiwn 5: Ydych chi wedi clywed am y Llwybr Llechi?
Roedd ymwybyddiaeth o Lwybr Llechi Eryri ymysg cyfranogwyr dros ddeunaw oed yn uchel (66%) ond roedd y gwrthwyneb yn wir ymysg cyfanogwyr rhwng 16 a 18 oed (dim ond 15.4%). Awgrymir bod lle i wella yn hywyrddo’r llwybr yn enwedig ymysg pobl ifanc. 

I drafod y prosiect neu cael fwy o wybodaeth cysylltwch a cwmnibro@cwmnibro.cymru

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023






5.11.23

Carafannau ac Ynni

Hawl cynllunio carafannau bugail Barlwyd

Yn dilyn y sylw yn y golofn olygyddol yn rhifyn yr haf ("sut ar y ddaear gafodd y fath bethau ganiatâd cynllunio mewn lle felly?"), cafwyd llawer o negeseuon a sgyrsiau ar y stryd am y carafannau hyn, sydd ym marn nifer mewn lleoliad cwbl anaddas, felly mi yrrodd Llafar Bro ymholiad i adran gynllunio Cyngor Gwynedd. 

Dyma eu hymateb:

“Mae’r safle wedi ei eithrio o’r angen am ganiatad cynllunio yn yr achos hwn, ac atodaf i eich sylw gopi o’r drwydded eithrio swyddogol a gyhoeddwyd gan Woodland Champions Club ar y 28 Gorffennaf 2023.

Yn anffodus, mae’r safle tu hwnt i reolaeth y Cyngor fel yr Awdurdod Cynllunio a Thrwyddedu Lleol ar hyn o bryd, gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn rhoddi’r awdurdod i glybiau o’r fath gyhoeddi trwyddedau fel hyn.”
Dyna ni felly, rhaid i’r gymuned dderbyn nad oes sianel ddemocrataidd i gyfrannu sylwadau am ddatblygiadau fel hyn! 

Mae’n debyg fod Llechwedd wedi rhoi cyflwyniad i’r cyngor tref am eu bwriad yn yr hydref llynedd, ac wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu cwt pwrpasol i gadw’r carafannau dros y gaeaf.

Carafannau Barlwyd a Moel Penamnen yn y cefndir. Llun -Paul W

Ynni Cymunedol Twrog

Mae gan Feirionnydd, a Bro Stiniog yn arbennig, hanes gyfoethog ac arloesol o gynlluniau ynni adnewyddol yn cael eu datblygu gan defnyddio adnoddau naturiol yr ardal, ac mae cyfleon ar gyfer datblygu rhai newydd.

Sefydlwyd Ynni Cymunedol Twrog yn 2018 fel cwmni buddiant cymunedol gan griw o bobl leol yn sgil trafodaethau gan Gynghorau Tref a Chymuned yn yr ardal am sut i sicrhau bod cymunedau’r ardal yn elwa o’r cyfleon hyn. Nod Ynni Cymunedol Twrog ydy ceisio sicrhau bod y cymunedau hyn yn elwa cymaint â phosib o’r cyfleon i gynhyrchu ynni adnewyddol trwy berchnogaeth a rheolaeth cymunedol o’r cynlluniau, ac i greu cymunedau cadarn cynaliadwy. Gobeithir y gellir efelychu llwyddiannau mentrau ynni cymunedol eraill fel Ynni Ogwen.

Criw gwirfoddol sydd yn rhedeg y fenter ar yn hyn o bryd, ond yr ydym yn ceisio am grant i ni fedru cyflogi rhywun rhan amser.

Mae’r fenter yn gweithio ar nifer o brosiectau posib ar hyn o bryd. Yr ydym wedi bod yn ffodus yn ddiweddar i gael cymorth gan rai sydd yn gweithio ar ran consortiwm o fentrau ynni cymunedol yng Ngwynedd - Cyd Ynni. Maen nhw wedi bod yn asesu’r potensial i osod paneli solar ar doeau rhai o adeiladau cymunedol yr ardal, fel Canolfan Gymdeithasol Blaenau Ffestiniog, a fydd yn medru lleihau eu costau rhedeg a’u gwneud yn fwy cynaliadwy.

Yr ydym yn cydweithio mewn partneriaeth efo nifer o fentrau lleol eraill fel Cwmni Bro Stiniog a’r Dref Werdd, Cymunedoli Cyf, Cyngor Gwynedd ac eraill, i geisio datblygu atebion fydd yn medru gwneud costau gwresogi Tanygrisiau yn arbennig yn fwy fforddiadwy, a gwneud y tai yn fwy cynaliadwy. Ceir rhagor am hyn yn y rhifyn nesaf. 


Yn y cyfamser os am ragor o wybodaeth croeso i chi gysylltu â ni trwy ein ebost ynnitwrog@cwmnibro.cymru

GRANT

Yn Eisteddfod Boduan lansiodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru gwmni Ynni Cymru– cwmni ynni newydd, ym mherchnogaeth y cyhoedd i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ledled Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’r datganiadau i’r wasg yn cyfeirio at £750,000 sydd wedi'i roi i 11 prosiect ar ffurf grantiau adnoddau dros y tair blynedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys Prosiect gwres Tanygrisiau, Ynni Cymunedol Twrog. (Gol.)

3.11.23

Rhod y Rhigymwr- Olyniaeth

Cyfres Iwan Morgan, y tro hwn o rifyn MEDI 2023

Dyma hi’n fis Medi unwaith eto, a’r amser wedi cyrraedd i fwrw golwg ar gynhaeaf toreithiog Prifwyl lwyddiannus arall. Mae’n siŵr i rai ohonoch chi’r darllenwyr gael treulio ychydig ddyddiau difyr ar Faes Boduan, ac yfed o win croeso trigolion Llŷn ac Eifionydd. 

Hyfrydwch i mi fu cael gwasanaethu fel beirniad yn yr adran cerdd dant unwaith yn rhagor. Cefais fodd i fyw yn tafoli chwech o gystadleuthau, a’r cerddi a ddewiswyd gan y Panel Lleol, dan gadeiryddiaeth Einir Wyn Jones, Penrhos ... [un o blant ein bro ni] ... yn rhai mor amrywiol a chanadwy. 

Y dasg osodwyd i’r partïon agored oedd cyflwyno cywydd grymus y diweddar Gerallt Lloyd Owen i Dryweryn, a daeth chwe pharti i ymgiprys am Gwpan Coffa Llyfni Huws a £300. Mae’r cywydd yma, a gyfansoddwyd bron i ddeugain mlynedd yn ôl, mor berthnasol heddiw, pan glywn ni am dai’n ein cymuned yn cael eu gwerthu i estroniaid am brisiau uwch na all trigolion lleol eu fforddio. Drwy foddi Capel Celyn, un o’r cymunedau uniaith Gymraeg olaf, does dim syndod i’r hanes yma ddod yn symbol o’r bygythiad i barhad ein cymunedau Cymraeg traddodiadol. Llwyddwyd i gyfleu hyn mewn metaffor pwerus ac emosiynol yng nghywydd treiddgar Gerallt:

Nid oes inni le i ddianc,
Nid un Tryweryn yw’n tranc,
Nid un cwm ond ein cymoedd;
O blwyf i blwyf heb na bloedd
Na ffws y troir yn ffosil
Nid un lle ond ein holl hil.
Tywysir ni i ganol y cymunedau sydd dan warchae drwy ddefnyddio delweddau hollol addas:
Boddir Eryri’r awron,
Nid ynys mo Ynys Môn.
I dir Llŷn daw’r lli anial
Heb angor Dwyfor i’n dal
Wrth harbwr iaith, wrth barhad
A thirwedd ein gwneuthuriad.
Fesul tŷ nid fesul ton
Y daw’r môr dros dir Meirion ...
meddai un o gwpledi mwyaf cofiadwy’r cywydd.
Yn niflaniad Capel Celyn, mae’r syniad o’n darfodedigrwydd ni fel cenedl yn hollol amlwg.
Môr o wacter Cymreictod,
Môr na bydd un Cymro’n bod
meddai wrth ddisgrifio’r dilyw a ddaw i orlifo’n cymunedau a ‘diwreiddio’n daearyddiaeth’ fesul tyddyn.

A chawn yn y llinellau cyferbyniol canlynol enghraifft o gyfleu trallod cymunedau mewn ieithwedd syml:
Yn y Llwyndu mae Llundain,
Mae acen Bryste’n Llwyn Brain,
Lerpwl, mwy, sy’n Adwy’r Nant,
Manceinion ym Mhenceunant.
Does dim dwywaith nad oedd Gerallt yn un o feirdd Cymraeg mwya’r ugeinfed ganrif a dechrau’r ganrif bresennol, ond ar brynhawn Gwener yr Ŵyl, hyfrydwch i Gymru gyfan fu gweld athrylith arall yn sefyll ar ei draed ... Alan Llwyd. Gan iddo fyw’n y Llan nes ei fod yn 5 oed, mae gan ein hardal ni beth hawl arno. 

Fel bardd y daeth Alan i fri yn ‘70au’r ganrif ddwytha, pan gipiodd y Gadair a’r Goron Genedlaethol ar ddau achlysur, [Rhuthun ym 1973 ac Aberteifi ym 1976], a hefyd, drwy gyfrwng ei gyfrolau cynnar o gerddi. Bu ‘Anghenion y Gynghanedd’, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1973 yn feibl gwerthfawr i nifer ohonom fu’n ceisio datblygu fel cynganeddwyr yn y cyfnod hwnnw. 

Hanner canrif yn ddiweddarach, mewn Prifwyl a gynhaliwyd ym mro ei fagwraeth, cafodd ei gydwladwyr gyfle i edmygu doniau un a erys yn un o wŷr llên penna’r Iaith Gymraeg ... prifardd, llenor, academydd, ymchwilydd, cofianydd, sgriptiwr ffilm ac yn y blaen ... mae’r rhestr yn ddiddiwedd! 

Pwy ond yr athrylith hwn allai lwyddo i gyhoeddi dros 80 o lyfrau mor swmpus?
Olyniaeth” ydy thema awdl arobryn Boduan ... ‘Llif’ – “olyniaeth o un genhedlaeth i’r llall – parhad ein DNA drwy ‘hen afon ein hynafiaid’, a sefydlogrwydd y môr yn wyneb newid i’r amgylchedd a’r gymuned" meddai un o’r beirniaid. Cawn y bardd yn dychwelyd i’w henfro a’i chael hi’n wahanol, ond eto’n atgofus o gyfarwydd.

Os na fu i chi ei darllen eisoes, fe’ch anogaf i fynd ati’n ddiymdroi. Mae’r modd y llwydda’r bardd i gyflwyno’i awen mor rhwydd a naturiol yn rhywbeth i ryfeddu’n llwyr ato. Fel y nododd un arall o’r beirniaid ... “mae’i gynganeddion, er mor syml o glasurol ar un wedd, fel cyfanwaith yn orchestol.”
Dyma flas o’r agoriad:

Mae’n haf! Dychwelaf i’w chôl; dychwelyd
a’i chael mor wahanol;
dof i’r fro eto yn ôl,
troedio’r hen fro foreol.

Trois fy nghefn arni’n llefnyn;
Dychwelaf sawl haf yn hŷn.
A’i diweddglo ... sy’n cloi myfyrdod crefftus y bardd ar amser a meidroldeb:
Mae heddiw mor ddiddiwedd
â ddoe. Mae echdoe ym medd
yfory. Mae llifeiriant
yn nŵr rhyw fymryn o nant.
Fy ŵyr yw’r echdoe a fu;
fy wyres yw yfory,
ninnau’n feirwon anfarwol
yn y rhai a adáwn ar ôl.
Mae’n werth nodi i Alan ddisgleirio mewn dwy gystadleuaeth arall yn y Brifwyl hon hefyd ... buddugol ar y soned ... ‘Ffenestr’ a’r englyn unodl union ... ‘Ynys.’ 

Delweddu ‘Seren y Gogledd,’ sy’n allweddol ar gyfer mordwyo, fel ‘ynys’ a wnaeth ‘Stella Maris’ [‘Seren y Môr’] mewn ‘englyn campus’ yn nhyb y beirniad, Peredur Lynch. Adnabuwyd y Forwyn Fair wrth y teitl yma’n yr Oesoedd Canol, gan yr ystyriwyd hi, drwy ei gallu goruwchnaturiol yn dywyswraig morwyr:

Yn ei llaw mae cannwyll wen; i’r morwyr
hi yw Mair, a’r wybren
a’r sêr yw ei hofferen:
goleuni Enlli’n y nen.
Gwn i un o gefnogwyr selog a dawnus y golofn yma gystadlu ar yr englyn ... dan y ffug-enw ‘Arsyllwr Brawd Cwsg Enlli.’ A thrwy’r ffug-enw yma, eglurir y ddelwedd a welodd y bardd. 

Ymwahanwyd, fe yw mynach mirain
y môr, wele gilfach,
pererin a’i gyfrinach,
pur ysbryd ei fyd mor fach.

Da iawn ti, SIMON CHANDLER!

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023


1.11.23

Stolpia- Ysgoldy Glandwr

Hen Ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll gan Steffan ab Owain

Nid Capel Soar, y soniwyd amdano eisoes, a oedd yr unig gapel neu ysgoldy crefyddol i gael ei weddnewid a’i droi yn ffatri yn yr ardaloedd hyn. Un arall a drowyd yn ffatri yn yr 1960au (mi gredaf) oedd Ysgoldy Glandwr (MC), sef adeilad a godwyd yn 1898. 

Pa fodd bynnag, cyn imi fynd ati hi i ddweud gair am y ffatri, hoffwn roi tipyn o gefndir yr Ysgol Sul a’r lleoedd y cynhelid hi cyn codi adeilad yr ysgoldy. Gyda llaw, roedd bwriad i godi adeilad pwrpasol rhwng rhesdai Glandwr a Glanyllyn yn yr 1870au, ond methwyd a chael caniatâd gan y tirfeddiannwr. 

Yn ei dyddiau cynnar, sef o’r flwyddyn 1871 ymlaen, cynhelid hi mewn lle a elwid yr Hen Lofft a safai gerllaw. Yna, ar ôl bod yno am oddeutu 11 mlynedd symudwyd i dŷ Hugh Thomas, Glandwr, sef un o athrawon yr Ysgol Sul. Erbyn hynny amrywiai ei nifer rhwng 58 a 96, ond gan nad oedd lle i bawb yno mynychai mwyafrif y to hŷn yr ysgol yng Nghapel y Rhiw. Y plant a fyddai’n ei fynychu fwyaf, a byddai Evan Jones, Ffridd Lwyd a Thomas Roberts, Tai’n Foel, a rhai o’r chwiorydd, yn cynorthwyo Hugh Thomas i’w dysgu i ddarllen, gwrando ar storiau’r beibl, bod yn ufudd, ayyb. 

Wedi marwolaeth Hugh Thomas yn 1891, symudwyd i Ffridd Lwyd, cartref Evan Jones, ond wedi rhyw 10 wythnos yno cafwyd lle yn y Capel Pren a safai ar yr ochr uchaf i resdai Glandwr. Bu’r ysgol yno am ryw 6 blynedd i gyd, ac ar ôl sicrhau llecyn o dir ar gost o £45 adeiladwyd ysgoldy newydd yn y fan y saif heddiw. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1897, yna ei agor yn gyntaf ar 1 Mai, 1898, a’i gwblhau yn 1900 ar gost o £ 568. 2s 0. Un o’r rhesymau am y gwaith a’r gost ychwanegol oedd yr angen am ddosbarth ar wahân ar gyfer y plant bach. Cwynai’r oedolion ei bod yn anodd canolbwyntio yn eu dosbarthiadau oherwydd y sŵn a ddeuai oddi wrth cornel y plantos. Gyda llaw, erbyn y flwyddyn 1900 roedd cynnydd yn nifer y rhai a fynychai’r ysgoldy nes cyrraedd 137, a llawer iawn ohonynt yn blant. Yn ôl traddodiad yr oes, cafwyd te parti i ddathlu’r agoriad. 

Llun- Aelodau o Ysgoldy Glandwr ar gychwyn i Gymanfa y Methodistiaid rhywdro yn yr ? 1920au.
Gwelwn yn y llun bod adeilad ymhen isaf rhesdai Bryn Tirion, sef ar y dde eithaf. Yno, y byddai’r Capel Pren a fu mewn defnydd gan y Bedyddwyr ar un adeg. Diolch i Gareth T. Jones, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes am roi benthyg y llun inni.

Yn ôl Nia Williams, (Glaypwll Villa gynt) bu’r Ysgoldy mewn defnydd fel Ysgol Ddyddiol ar gyfer dosbarth y babanod ym mis Medi 1939 tra roedd Ysgol Glanypwll yn cael ei ailwampio. Bu’r plant yn cael eu dysgu yno tan mis Chwefror 1940. Credaf i finnau ei fynychu rhywdro yn yr 1950au tra roedd yn dal mewn defnydd fel ysgoldy gan y Methodistiaid Calfinaidd. Nid oes gennyf gof am yr hyn a oedd ymlaen yno, chwaith; efallai Ysgol Sul, neu noson o adloniant o fath.

Pwy sy’n cofio mynychu’r ysgol yno? Y tro nesaf, rwyf yn gobeithio dweud gair neu ddau am y ffatri doliau a fu yno.

Ysgoldy Glandwr heddiw. Llun Paul W

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023