29.1.19

Atgofion Llwyncrwn

Hanes y fferm a'r gymuned gan Gretta Cartwright

Llwyncrwn oedd fy nghartref, ffermdy a adeiladwyd yn 1696 (mae’r dyddiad ar y tŷ) yng Nghwm Islyn ym mhlwyf Trawsfynydd. Magwyd fy nhad yn Llwyncrwn, mab ieuengaf Hugh a Jane Jones (genedigol o Bennant, Ysbyty Ifan), gyda Hugh, Jane Catherine, Robert a Margaret yn y teulu. Evan Williams oedd yn ffermio Llwyncrwn yn y rhan gyntaf o’r 1800au, ond daeth salwch i’r wlad ac i’r teulu, a rhaid oedd iddynt roi'r gorau i ffermio.

Fy hen daid Hugh Jones a roddodd gychwyn i’m taid yn Llwyncrwn. Deallaf mai ef adeiladodd y Cross Foxes yn y pentref. Gwerthodd dir i adeiladu Capel y Bedyddwyr, Salem (1873) ac i’r fynwent, gan gadw llain o dir ar gyfer mynwent teulu Llwyncrwn.

Yn Llwyncrwn bu fy nhad gydol ei oes. Priododd Mary Edwards o Gaecoch, Rhydymain yn 1912, a finnau yn chwaer fach i Hugh, Mari, Dafydd a Jean. Yna daeth Haf, a dychwelodd Mari o’r Blaenau wedi i John ei gŵr ymuno â’r fyddin ar ddechrau’r rhyfel, i fagu Ian a Mair yn Llwyncrwn nes y daeth John adref. Ddechrau’r rhyfel, daeth Les atom yn ‘evacuee’ o Lannau Mersey, a bu gyda ni, yn un o’r teulu am dros bum mlynedd. Gwasanaethodd John yng Ngogledd Affrica a thra yno cyfarfod y Parch Elwyn Hughes a oedd yn ‘Padre’ yno. Roedd yn fab i’r Parch Dafydd Hughes a fuodd yn weinidog ar Moriah, Traws am flynyddoedd cyn symud i’r Port at ei ferch Aledwen. Byddai yn dweud iddo gael newyddion am Traws 'via North Africa'! Mor bwysig oedd y ‘wireless’ yn y dyddiau hynny -  cael gwybod am symudiadau'r rhyfel tua’r Eidal. Rhaid oedd gofalu fod y ‘wet battery’ wedi cael ei wefru yn rheolaidd gan Peter Williams yn y pentref.
 
Roedd trefn ar wythnos fy Mam. Golchi a chadw dillad dydd Sul ar ddydd Llun, sychu a smwddio dydd Mawrth. Cyn dyfodiad y ffatri laeth yn Rhydymain roedd y diwrnod corddi yn bwysig: y faedda fawr yn cael ei throi gan yr olwyn ddŵr. Rhaid oedd pobi digon o fara am yr wythnos, a hynny yn y popty brics tu allan, tynnu’r coediach allan pan fyddai yn ddigon poeth i’r bara fynd i mewn, ac ambell dorth o fara brith. Rhaid oedd coginio ar gyfer y gweision a'r teulu, glanhau a pharatoi ar gyfer y Sul.


Fferm gymysg oedd Llwyncrwn, yn rhan o stâd Tregaian, Ynys Môn, ac yn cynnwys tir Dolbelydr ac Islyn pan oeddent ar wahân. Roedd gwartheg stôr a godro dan ofal Owen Lloyd, ceffylau gyda Dic Brynre yn eu gofal, a defaid mynydd Cymreig yn pori ar eu cynefin tua Chraig Wen. Rhaid oedd bwydo’r lloi, y moch, yr ieir a’r gwyddau heb anghofio’r cathod a’r cŵn.

Yn ystod y flwyddyn, deuai Mr Harry Kimbell o Northampton i aros yn y ‘Ship’ yn Nolgellau, a fy nhad yn mynd ag ef o gwmpas i brynu gwartheg a’u cludo mewn tryc o orsaf Dolgellau i’w gartref. Roedd y ceffyl yn hanfodol ar bob fferm cyn dyfodiad y ‘Fergie bach’. Yn y gwanwyn rhaid oedd aredig y tir yn barod at ei hadu gyda’r ffidil, y ceffyl yn tynnu’r aradr i ni edmygu'r rhesi syth cyn y llyfnu. Prysurdeb y cynhaeaf ddoi wedyn, hogi'r cyllyll, ceffyl wrth y peiriant torri gwair, a gwneud hyn yn aml yn gynnar yn y bore cyn gwres y dydd. Rhaid oedd troi'r gwair i’w gyneua yn barod i’r gweithwyr ei dyrru ar ôl cael ei rhannwch gan y peiriant a’r ceffyl. Llwytho'r car llusg, a cheffyl yn ei dynnu, a’i ddadlwytho i’r sied yn ymborth i’r anifeiliaid dros y gaeaf.

Tua diwedd Medi i Hydref byddai’r ŷd yn barod i’w dorri a’i ollwng o’r peiriant yn ysgubau, a’r gweithwyr yn eu gosod gyda’i gilydd dros y cae i sychu, a’r ceffyl eto yn eu cludo i’r ysguboriau.
Tua Gŵyl Diolchgarwch fyddai adeg codi tatws, dilyn yr aradr a’r ceffyl i gael y tatws i’r wyneb, a gobeithio cael tywydd braf i’w casglu gyda help o’r pentref. Ymborth ar hyd y gaeaf nes daw tymor y tatws newydd.

Nid ceffylau gwedd oedd yr unig rai yn Llwyncrwn. Ar y ffridd roedd rhyw ddwsin o ferlod mynydd. Mor hardd oedd eu gweld yn carlamu dros y bryniau. Hefyd ar y ffridd roedd grows, ac ar adegau gwelwyd y byddigions yn dod i’w hela.

Roedd dyddiadau pwysig eraill ar galendr y fferm. Diwrnod dyrnu, a dyddiau cneifio pan fyddai’r cymdogion o’r ffermydd cyfagos yn dod i roi help – dyna oedd y drefn, sef helpu ei gilydd, a bwyd arbennig i bawb. Roedd Mrs Roberts, Bryngoleu, yn dod i helpu Mam i wneud digon o fara ceirch am y tymor, rhai brau a rhai ar gyfer briwas a siot.

(i’w barhau)
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2018, fel rhan o gyfres 'Ffermydd Dalgylch Llafar Bro' Les Derbyshire.
(Heb y llun, gan Paul W)

23.1.19

Stolpia -Eira

Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au. Cyfres Steffan ab Owain.

Tybed os cawn ni drwch o eira neu rew y gaeaf hwn, neu’r ddau, o bosibl. Cafwyd sawl gaeaf oer gyda chnwd o eira yn y 50au, er nad oedd yr un ohonynt mor ddrwg ag un 1947, wrth gwrs. Roedd gweld yr eira ar y ddaear yn rhoi  cyffro i ni’r hogiau, ond nid i’r oedolion, oherwydd gallai eira trwchus ar y ddaear achosi trafferthion ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, ac efallai y byddai’n smit yn chwareli’r ardal yn ei sgil. Yn ddiau, y mae amryw ohonoch yn cofio faniau’r dynion llefrith, lorïau glo, ein dynion bara, a sawl un arall yn gorfod rhoi cadwyni am olwynion eu cerbydau er mwyn cyrraedd ein tai a’n hysgolion yn ogystal a sawl lle arall trwy’r eira a’r rhew.

Llun- Paul W

Soniais o’r blaen fel y byddem ni yn taflu eira o ochr y ffordd fawr os yr oedd dynion y cyngor wedi taenu graean ar hyd y rhiwiau lle byddid yn sledio, ac wrth gwrs, os gwelai rhai o’r to hŷn ni yn gwneud ffasiwn beth, clywid bloedd - “bachwch chi o’na y diawliaid bach”!

Cofiaf un tro inni wneud rhywbeth dieflig arall gydag eira o’r ‘math iawn’, sef gwneud cesyg eira mawr a’u gosod ar draws y ffordd yn y Rhiw, fel bod pob cerbyd yn cael trafferth i fynd drwy’r rhwystr. Dro arall, bu dau neu dri ohonom yn gwneud rhesiad o beli eira, neu ‘mopins’, fel y’i gelwir gan hogiau’r oes honno, a phan ddaeth un o’r faniau llefrith heibio, taflwyd y mopins ar hyd ochr y fan lefrith, a chredwch chi fi, bu’n rhaid inni ei g’leuo hi oddi yno yn bur fuan gan fod y dyn llefrith am ein gwaed ni.

Un o’r pethau eraill sydd yn sefyll yn fy nghof yn sgîl un gaeaf o eira yw cael oerfel ar fy arennau a gorfod aros yn fy ngwely mewn poenau am ddyddiau o’i herwydd. Y rheswm  i mi gael oerfel oedd o oherwydd i Io-Io, Ken Robs a finnau, ac efallai un arall, wneud cwt o eira a rhew -neu iglŵ o fath- ar ochr wal y lein fawr a Phen Cei lle rhedai’r lein fach o Chwarel Oakeley i Gei London. Roeddem wedi gwneud lle i eistedd ynddo gyda lympiau o rew ac wedi gosod llechen a brwyn ar ei ben.Yna, daeth syniad i ben un ohonom i nôl rhywbeth i fwyta o’n cartrefi a dod a’r bwyd yn ôl i’r iglŵ bach, ac yno y bu’r  hogiau trwy’r prynhawn rhewllyd a’r canlyniad fu fferru a dioddef  yn arw.

Cae Dolwael, yr hen Ysbyty, a Ffordd y Rhiw dan eira (tua 1958). Llun o gasgliad yr awdur.
Peth arall sydd wedi aros yn fy nghôf o’r cyfnod yw’r stori a glywais am lwynog mewn eira un gaeaf gan fy niweddar ewythr ‘Yncl Dic’, sef Richard Owen, Dolbryn, Glan-y-pwll. Roedd fy ewythr ar ei ffordd i’w waith yn Chwarel Oakeley yn gynnar un bore oer ac eira tros y wlad ac yn cerdded i fyny’r llwybr a arweiniai o ymyl Adwy Goch at y Bont Fawr, ac er nad oedd wedi boreuo’n iawn, roedd yr eira ar y ddaear yn goleuo’r fangre o’i gwmpas.Tra’n cymryd ei wynt ar y llwybr gwelodd lwynog tafliad carreg oddi wrtho yn cerdded yn dawel bach drwy’r eira ar y domen, ac yn anelu at y ffordd fawr islaw.

Synnwyd fy ewythr wedyn gan i’r llwynog lamu o un pen y ffordd i’r ochr arall, ac i waelod un o domennydd Llechwedd, naid go sylweddol a dweud y lleiaf, er y dylid cofio bod y ffordd yn llawer culach yr adeg honno, wrth gwrs. Methai fy ewythr a deall am dipyn, pam roedd wedi trafferthu neidio tros y ffordd yn hytrach na throedio trosti. Yr esboniad yn ei farn ef oedd bod y llwynog yn meddwl mai afon oedd y ffordd, ac nid oedd eisiau torri drwy’r eira a rhew a chael trochfa yn y dŵr oer. Tybed ai hyn oedd y rheswm?
------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2018.


20.1.19

A Oes Heddwch?

Cofio Gwrthwynebwyr Cydwybodol Y Rhyfel Byd Cyntaf

Ganol Tachwedd 2018, cynhaliwyd Cynhadledd Undydd yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog ar y testun uchod. Drwy’r dydd cafwyd cyflwyniadau difyr ar wahanol agweddau a chyd-destunau oedd yn effeithio ar wyrthwynebwyr cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr.  Roedd hon yn gynhadledd unigryw gan nad oedd y rhesymau dros wrthwynebu na thynged y rhai a fentrodd beidio a chydymffurfio, wedi cael fawr o sylw yn ystod y cofio, dros bedair blynedd canmlwyddiant y rhyfel.

Bu pwyslais y cofio yn fwy ar dynged y milwyr druain, eu teuluoedd, ond yn bennaf ar yr holl frwydrau a ddigwyddodd dros gyfnod o bedair blynedd a’r trychineb oedd yn ganlyniad i bob brwydr. Hyn i gyd yn bwylais haeddiannol wrth gwrs, ond nid oedd yn rhoi y darlun cyfan.

Trefnwyd y cofio hwn gan Liz Saville Roberts a gafodd gymorth y Cynghorydd Bedwyr Gwilym ac roedd yno amrywiaeth o siaradawyr. Cafwyd sôn am Gymdeithas y Cymod a dylanwad egwyddorion y Gymdeithas hon ar yr aelodau, soniodd Ifor ap Glyn sut mae’r Cymry wedi cofio Hedd Wyn a Dr Aled Eirug yn sôn am effaith y Ddeddf Gwasanaeth Milwrol 1916 ar wrthwynebwyr cydwybodol. Yn y prynhawn soniodd Lowri Ifor am ddeiseb heddwch Merched Cymru 1923-24 ac yn dilyn, Jane Harries o’r prosiect Cymru Dros Heddwch ar heddychiaeth yn 2018 ganrif ar ôl y Rhyfel Mawr.

Cafwyd darlith afaelgar a difyr iawn gan Vivian Parry Williams, yr unig ddarlithydd lleol, o dan y teitl ‘Dros Gymru’n Gwlad’ ar ddulliau’r wladwriaeth o ricriwtio bechgyn ifanc a beth oedd gan feirdd i ddweud o blaid ac yn erbyn y Rhyfel.


Ffurfiodd y darlithwyr a rhai eraill banel ar y diwedd i drafod cwestiynau o’r llawr a chafwyd gwybodaeth ychwanegol eto. Diwrnod gwerth chweil a darlithwyr arbennig i gyd.



Yn y lluniau (gan Tecwyn Vaughan Jones) gwelir Liz Saville Roberts AS yn agor y cyfarfod a Vivian Parry Williams yn cyflwyno.



I’r rhai sydd a diddordeb mae tri o’r darlithwyr wedi cyhoeddi llyfrau perthnasol:

Vivian Parry Williams: ‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr, 2017
Dr Aled Eirug: Gwrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Mawr, 2018
Bleddyn Owen Huws: Pris Cydwybod - T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr, 2018
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2018.


13.1.19

Llwyddiant Ysgubol Yr Ŵyl Gerdd Dant

Erthygl gan Iwan Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2018.

Bu dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd yn ddiwrnod hanesyddol yn nhre'r Blaenau. Cynhaliwyd Gŵyl genedlaethol yma am y tro cyntaf ers 82 o flynyddoedd. Do, daeth Gŵyl Cerdd Dant Cymru atom am y tro cynta' rioed. O ystyried i nifer o arloeswyr yr hen grefft fod â chysylltiad â 'Stiniog, mae'n rhyfedd meddwl na fu yma o gwbl yn ystod 70 mlynedd ei bodolaeth!

Lleolwyd yr Ŵyl yn Ysgol y Moelwyn, a gwnaed defnydd o Neuadd Ysgol Maenofferen, y Ganolfan Hamdden a'r Ganolfan Ieuenctid yn ogystal ag adeilad Sefydliad y Merched i gynnal y rhagbrofion. Bu cystadlu brwd gydol y dydd yn yr amrywiol adrannau - cerdd dant, canu'r delyn, llefaru i gyfeiliant, dawnsio gwerin a chanu gwerin. Credir i fwy gofrestru i gystadlu eleni nag a wnaeth erioed. Yn nhyb y rhai a fynychodd, neu a fu'n dilyn y gweithgarwch ar deledu a radio, cafwyd Gŵyl hynod lwyddiannus. Soniwyd am safonau uchel y cystadlu, ond yn fwy na hynny, am y croeso twymgalon a estynnwyd gan bobol garedig a chlên Blaenau a'r fro.

Alwen ac Alwen yn cadw trefn yn yr Ŵyl.
Llun gan Alwena Morgan
Bu criw bychan wrthi'n brysur ers dros ddwy flynedd yn trefnu'r Ŵyl ac yn cynnal gweithgareddau codi arian. Fe groeswyd y targed o £40,000 a osodwyd ers tro, ac mae'n diolch fel pwyllgor gwaith yn fawr i bawb a gyfrannodd. Mae'n dyled yn fawr i Mr. Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn a'i dîm brwdfrydig, gweithgar. Hebddyn nhw, fydden ni ddim wedi llwyddo i leoli Gŵyl fawr fel yma gyda'r fath lwyddiant. Bu Bethan Haf Jones yn ysgrifenyddes hynod effeithiol ac Anthony Evans yn drysorydd o'r radd flaenaf. Braint fu cael dau brofiadol fel Dwyryd Williams ac Alun Puw i arwain y tîm o stiwardiaid. Gellid enwi llawer mwy, ond rhaid ymatal.

Yn hytrach, carwn drwy gyfrwng y papur hwn ddatgan fy niolchgarwch I BAWB a gyfrannodd i lwyddiant y diwrnod. Bu i mi dderbyn ugeiniau o negeseuon testun ac e-bost yn ein llongyfarch ar ein ‘llwyddiant ysgubol', heb sôn am y cannoedd a fynegodd hynny ar lafar.

Ymdrechion y tîm cyfan a gyfrannodd at hyn - a rhan allweddol o'r tîm hwnnw oedd y rhai fu wrthi am oriau'n stiwardio wrth ddrysau, coridorau, ystafelloedd rhagbrawf ac ymgynnull ac yn cyfarwyddo'n y lleoedd parcio. Rhaid cyfeirio hefyd at Morwenna a'i thîm diflino o gynorthwy-wyr fu'n porthi'r cannoedd gydol y diwrnod hir.

Fel Cadeirydd, mae'n ddyletswydd arnaf ddiolch i BOB UN OHONOCH A GYFRANNODD YMHOB FFORDD.


Dawnswyr Talog -enillwyr y Parti Dawns Agored. Llun gan Ffion Rees, o wefan BBC Cymru Fyw*


------------------------


Dyma ychydig o’r sylwadau o dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol. Geiriau hynod galonogol a roes ddarluniau i’r byd a’r betws o lwyddiant y diwrnod:

ELAIN WYN [cyfeilydd yn yr Ŵyl] … “Llongyfarchiadau i chi ar Ŵyl wefreiddiol.”

DYLAN CERNYW [cyfeilydd yn Yr Ŵyl] … “Llongyfarchiadau mawr ar Ŵyl arbennig!
Llond lle o dalent a chriw da o ffrindiau
.”

ANGHARAD WYN JONES [beirniad yn Adran y Delyn] … “Diolch yn fawr i chi am y croeso twymgalon. Wedi mwynhau fy hun yn arw.”

GWENAN GIBBARD [Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru 2016-18] … “Llongyfarchiadau enfawr!

DELYTH VAUGHAN ROWLANDS [Swyddog Gweinyddol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru] …
Pleser pur cydweithio hefo pawb yng nghefn llwyfan. Da chi di dangos ymroddiad a balchder mawr!

TREBOR a CARYS EVANS [Trysorydd a Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol CCDC] … “Trefniadaeth wych a phobol glên!

KEITH EVANS [Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro 2017] …
Sobor o falch eich bod wedi cael Gŵyl lwyddiannus dros ben. Clywed eich bod wedi cyrraedd a mynd heibio eich targed ariannol yn anrhydeddus iawn. Bydd gwên lydan ar wyneb John Eifion! Nawr te, bydd raid i bobol Sir Gâr ei gwneud hi’n ‘hatrick’ iddo!!

PETER a NIA ROWLANDS [Nia’n gadeirydd yr is-bwyllgor Cerdd Dant lleol] ...
Diolch o galon i bobol ‘Stiniog am Ŵyl fendigedig. Fe dalodd eich gwaith caled ar ei ganfed ac mae Merched y Gegin Ysgol y Moelwyn yn haeddu medal. Diolch i chi i gyd!

RHIAN JONES [aelod o’r Pwyllgor Gwaith] ... “Diwrnod arbennig! Balch o fod wedi cael bod yn rhan ohono. Mor falch hefyd o’r croeso roddodd Blaenau i Gymru.”

ELIN ANGHARAD DAVIES [aelod o’r is-banel cerdd dant lleol, hyfforddwraig ac arweinydd CÔRWST] ... “Diolch am eich holl waith ac am y croeso.

MENNA THOMAS [hyfforddwraig PARTI’R EFAIL, Pontypridd] ... “Llongyfarchiade gwresog i bawb fu’n gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant yr Ŵyl a diolch i chi i gyd am eich croeso a’ch hynawsedd.

NANS ROWLANDS ... “Diolch Blaena a’r Pwyllgor Gwaith ymroddedig. Gallwch fod yn hynod falch o Ŵyl wefreiddiol!

BETHAN WILLIAMS ... “Blaenau – Diolch am y croeso! Pawb yn garedig iawn.

CARWEN ARLANYMOR ... “Diolch yn fawr i bawb!

IWAN MORGAN[Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith] ... “Mae nghwpan i’n llawn! Diolch o galon i bawb fu ynglŷn â’r Ŵyl ddaeth â cherdd dant yn ôl at ei wreiddiau ym mro ‘gwythïen y lechen las’. Gwir ydy deud mai ‘un dre o fil yw’r dref hon!

-----------------------------

* Lluniau GCD2018, BBC Cymru Fyw

Manylion yr enillwyr i gyd, a dolenni at glipiau fideo o'r perfformiadau, ar dudalen gweplyfr/facebook yr Ŵyl.

10.1.19

Rhamant Bro

Y  mae’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, sef Rhamant Bro yn y siopau yn barod ar eich cyfer.


Dyma gylchgrawn delfrydol i bob un ohonoch sydd â diddordeb yn hanes ein bro a’r cyffiniau. Ac unrhyw un sy'n ymddiddori yn y tywydd hefyd!

Yn y rhifyn hwn cawn hanesion am Fastiau Clogwyn Bwlch y Gwynt gan Gareth T Jones, â Phen Uchaf Cwm Cynfal gan Vivian Parry Williams. Yn ogystal, cawn stori rhai o enwogion yr ardal - Harri, Parri a Kate, gan Aled Ellis, Richard Henry Wood gan Keith O’Brien a’r bardd Ioan Grych.

Hanes Glaw Stiniog sydd gan Marian Roberts y tro hwn, a chofnodion y Tywydd sydd gan Dorothy Williams.

Gweld y Pell yn Agos a gawn gan Dafydd Jones, ac ail hanes Hen Ffotograffwyr Stiniog gan Steffan ab Owain. Ceir hefyd gipdrem ar hanes Tanygrisiau, Llyn Bowydd, Y Felin ar Dân a sawl hanesyn difyr arall.

Mynnwch eich copi cyn iddynt ddiflannu o’n siopau!
--------

Cofiwch hefyd am y ddisg sydd ar gael gan y Gymdeithas efo pob rhifyn o Rhamant Bro rhwng 1983 a 2012.




1.1.19

Atgofion Pant Llwyd

Pennod 4 o gyfres Laura Davies.
Cefais hanes diddorol o Galifornia, am ardal Pant Llwyd, dipyn bach yn gynharach na fy nghyfnod i, gan Esther Owen (nee Edwards a chwaer i Evan Edwards, Llain Wen). Ymfudodd Esther yno rai blynyddoedd yn ôl o Lŷn. Un o blant Laura a William Edwards (ddiweddarach Gyfynys).

Symudodd y teulu o’r Cefn, lle ganwyd Esther, i Rhif 1 Tan y Bryn, pan oedd yn ifanc iawn. Arferai brawd arall iddi, Willie (William Edwards, Mur Llwyd) fyw yn Islwyn (dau dŷ wedi ei wneud yn un). Sonia mor dwt oedd Pant Llwyd ac mi roedd y lle’n fywiog drwy’r flwyddyn gyda’r cyfarfodydd, dramau, partion a chwaraeon a gynhaliwyd yno. Ras traws gwlad i lawr Cae Swch ac i fyny drwy Llety Fadog ac yn ôl at y Capel Bach. Cofia hi a Mair Vaughan yn hel mafon gwyn ar y dde wrth fynd i fyny’r rhiw wrth Pen Rhiw Mawr a holai a oedd y planhigion yno o hyd.

Dipyn i fyny’r allt, ond ar  y chwith, safai Penrhiw Bach a meddyliai i Lys Owain gael ei adeiladu ar ei sylfeini. Helai atgofion am deulu tawel a hoffus Jo:  Jo malu metlin oedd hi yn ei alw, gan mai dyna a wnaeth. Cofia ei fam a’i dad a’r teulu oll. Mam Mam fyddai pawb yn Mhant Llwyd yn ei galw. Aethwn yno i’w thŷ, gyda Mair Vaughan, ei nith. Gwisgai Mam Mam sgert, het a ‘chep’ bob amser. Byddai Mair yn gofyn iddi “Ble dachi’n mynd”, a Mam Mam yn dweud o hyd “Mynd i godi mhenshwn, yldi.” Mi roedd Mrs Roberts, 2 Islwyn wedi symud yno o Ben Rhiw Bach ac mi roedd ganddi ferch Ann Jane a dau fab, Daniel (tad Ffestin) a gadwai siop ffrwytha’ yn y Blaenau – credaf mai enw’r mab arall ydi Robert Owen.

Llyn Dubach y Bont a ffordd Y Foelgron (llun Paul W)
Roedd cysylltiad teuluol uniongyrchol cydrhwng mam Esther a mam Syr Ifan – hannant o Drawsfynydd ac o’r un hil a theulu yr Archddiacon Hugh Aron Evans. Symudodd ei theulu i Bont yr Afon Gam pan oedd Esther tua 12 oed ac wedyn yn ddiweddarach i Sofl y Mynydd. Helai atgofion am hi a’i brawd Ifan yn trin mawn wrth Ffynnon Eidda ac yn cael dŵr o’r ffynnon. Nid oedd ganddi gof o ddim adeilad wrth y ffynnon ond cofia’n dda am y tŷ mawr a safai ar lan Llyn Dubach y Bont – Y Foelgron. Ni hoffai Esther fyw ym Mhont yr Afon Gam gan fod y lle mor anghysbell ac y bell o Bant Llwyd.

Soniai hefyd fel y cerddasai at Ben Ffridd a throi i’r dde ble roedd gwersyll sipsiwn yn arfer bod ac fel roedd hi a’i chwiorydd yn hoffi edrych i mewn i’r garafan. Honno’n lan a thwt a’r tegannau a’r canwyllbrenau pres yn sgleinio. Gwneud piseri a thuniau godro o bob math oedd y gŵr, Mr Fox.

Meddai ar arth ‘frown’ a hoffem ei gweled yn dawsio fel y canai ei ffidil. Tra’r oedd hyn yn mynd ymlaen gweithiai ddwylo medrus a diwyd ei wraig ar waith crosio. Cofiaf innau hefyd weled sipsiwn wrth giat Llety Gwilym, pan oeddwn yn cerdded adref hefo fy mrawd Dafydd i Sofl y Mynydd, yn y dau ddegau. I gychwyn mi roeddwn eu hofn ond yn araf daethom i’w hadnabod ac yn ffrindiau hefo nhw.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Atgofion Pant Llwyd isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view')