Showing posts with label Blaenau Ffestiniog. Show all posts
Showing posts with label Blaenau Ffestiniog. Show all posts

27.9.25

Tirwedd yr Iaith

Mis Medi 2001 a diwrnod a ddangosodd ei liwiau hydrefol mewn ffordd gyfeillgar. Ro’n i’n hen arfer efo gemau swydd Amwythig am fod gan fy rhieni garafán ar gyrion yr Ystog bryd hynny. Roedd yn bleser tawel i dreulio amser ar lonydd cul wedi’u rhannu gan lain o wair a redodd i lawr eu canol. Llwydlo, Clun, Long Mynd, Church Stretton, Castell yr Esgob. Lleoedd a oedd yn ddihangfa-ddydd-Sadwrn i ddyn o swydd Derby ar gefn ei feic modur. 

Ym mis Medi 2001 penderfynais deithio’n bellach y tro hwn i’r Trallwng. Wrth gael paned yn y dref hon, nes i bori trwy’r map a ches i gymhelliad i deithio ar hyd yr A458 i le o’r enw Mallwyd. Yno, baswn i’n troi yn ôl; basai hynny’n ddigon am un diwrnod. Mewn gwirionedd, nes i gario ymlaen i Ddolgellau trwy Fwlch Oerddrws, i Drawsfynydd (beth ydy’r mynyddoedd hyn ar y chwith?! Y Rhinogydd, nes i ddarganfod wedyn) ac yn y diwedd: Blaenau Ffestiniog. 

Ro’n i’n rhyfeddu’r holl ffordd o’r Trallwng. Mae’r dirwedd hon wedi cael gafael arna i ac ro’n i’n methu amsugno a phrosesu’r hyn o’n i’n ei weld. Yn bendant, byddai rhaid i mi ddod eto. Fel y digwyddodd, baswn i’n dod yma droeon. 

Blaenau Ffestiniog. Roedd y tomeni llechi’n warchodwyr dros y rhesi o dai llwyd oedd yn swatio yn eu cysgodion. Wnaeth y Moelwynion ymestyn o gwmpas y dref fatha rhiant amddifynnol. Llyn Stwlan. Y chwareli. Am beth i’w weld. Am deimlad i’w brofi pan oeddet ti’n sylweddoli y basai rhywbeth yn cnoi yn dy fol a’th wthio i rywle anghyfarwydd a hudolus dro ar ôl tro am y degawd nesa. 

Yr iaith. Iaith yr arwyddion ffordd. Iaith y siopau. Iaith y dirwedd. Llais y Moelwynion. Dyna sut dw i’n meddwl am yr iaith heddiw. Iaith sy wedi codi’r mynyddoedd ynghyd â’r gerrig. Iaith sy’n llais Afon Goedol a rhu Afon Cynfal. Yn sicr, roedd rhywbeth pwerus wedi cael ei danio yndda i. Rhwng 2005-2010 ro’n i’n dringo pob mynydd Cymru. Cam arall tuag ati. 

Cyn y Nadolig, 2010, ces i gyfle i fynychu cwrs llwybrau cyhoeddus am wythnos ym Mhlas Tan y Bwlch pan ro’n i’n gweithio fel arolygydd llwybrau cyhoeddus i Gyngor Swydd Derby. Cam olaf tuag at y peth anochel ‘na. Dw i’n methu mynegi’n iawn y dröedigaeth a brofais yno. Roedd yr awygylch mor hudolus. Teimlais fatha plentyn. Emosiynau pur. Roedd yr iaith Gymraeg o nghwmpas trwy’r wythnos. Daeth 10 mlynedd o aros a phetruso fel ffynnon. Yn ystod taith o gwmpas Llyn Mair, penderfynais y baswn i’n dysgu’r iaith a oedd wedi bod yn fy meddyliau bob dydd ers i mi ymweld â Blaenau Ffestiniog, er gwaetha’r ffaith nad oedd gen i brofiad o ddysgu ieithoedd o gwbl. 

Yn y gwanwyn 2011, es i ati i ddysgu.

Mae hi wedi bod yn daith a hanner a rhywbeth sy wedi newid fy mywyd am byth. Mae drysau wedi cael eu hagor at lenyddiaeth, radio, teledu, pobl arbennig, ffrindiau, gwyliau, dysgu, gwybodaeth, hanes, chwerthin a chrio. Pan nes i siarad Cymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf, pedwar mis ar ôl i mi ddechrau dysgu, lle gwell na Siop Lyfrau’r Hen bost ym Mlaenau Ffestiniog?! Dw i wedi profi pethau nad o’n i wedi’u hystyried. Mae’r iaith wedi fy ysbrydoli i sgwennu storïau byrion a chystadlu mewn eisteddfodau. Mae’n amhosib dweud wrthoch yr hyn mae’r Gymraeg wedi’i wneud. 

Hoffwn ddweud un peth: diolch yn fawr, Flaenau Ffestiniog. Wn i ddim yn union yr hyn i ti ei wneud i mi. Wedi fy swyno. Wedi fy rhoi ar lwybrau gwahanol. Wedi siarad â fi o bell. Pwy a ŵyr, ond mae gen ti ran fawr o’m calon. 
Cofion cynnes. Martin Coleman, Chesterfield, swydd Derby.

Diolch o galon i Martin am yrru’r erthygl hyfryd uchod i mewn; llythyr cariad teimladwy iawn i Stiniog. Diolch i ti am dy angerdd at ein bro! Diolch hefyd i Iwan Morgan am ei annog i’w gyrru i mewn tra yn lansiad llyfr Simon Chandler. 

Mae llun Martin yn werth ei weld hefyd. Meddai: “Sefais tu allan i fwthyn lle o’n i’n aros ym Mhant Llwyd, Llan, i dynnu’r llun hwn o’r niwl yn codi o’r Moelwynion”.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025

  

18.3.23

Y Pigwr- dyfodol Bro Stiniog

Ydych chi’n cofio’r Pigwr?  Yn dilyn anogaeth ambell ddarllenwr, daeth ychydig ysbrydoliaeth i roi ychydig eiriau ar bapur i geisio codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnderau’r cyfnod anodd hwn. 

Da oedd darllen am gynlluniau’r cwmni llechi Welsh Slate i "ailagor dwy chwarel leol", a chreu 19 swydd newydd ynddynt. Yn anffodus, nid yw’n hollol glir ym mha ran o’r plwy’ y mae’r chwarel "Ffestiniog" dan sylw, ac mae Cwt-y-bugail, dros y ffin ym mhlwy Penmachno, wedi bod ar gau ers degawdau (ac yn yr ardal warchodedig bellach! -Gol). 

Yr Oclis a Gloddfa Ganol, o wefan Welsh Slate

Beth bynnag, mae’r arwyddion yn newyddion da, a diolch i’r cwmni am fuddsoddi yma. Ond wedi meddwl, mae tipyn o ffordd i fynd i geisio ailgodi’r hen dre ‘ma yn ei hôl i’r hyn a fu. 

Pan ystyriwch fod 4 mil o weithwyr yn gweithio’n chwareli Stiniog yn y 19eg ganrif, a phoblogaeth y plwy yn agos i 12,000 ar droad yr 20fed ganrif, i’w gymharu â’r 4,500 sydd yma ar hyn o bryd. Ia, dyna chi, yr ail boblogaeth uchaf yng ngogledd Cymru, ar ôl Wrecsam yn 1901 – yn uwch na Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Bangor, a’r gweddill y cyfnod! Bu’r dirywiad yr aruthrol, a’i effaith wedi gadael sawl marc ar ein cynefin. 

Mae’r effeithiau i’w gweld y hollol glir i ni, sy’n cofio dyddiau tipyn gwell, cyn i griw Thatcher ddechrau newid y drefn o lywodraeth leol yn 1974. Mae nifer o wleidyddion wedi cau llygaid ar effeithiau’r dirywiad ar ddyfodol Blaenau Ffestiniog fel y dref ddiwydiannol, fasnachol, lwyddiannus yr oedd ar un adeg. 

Mae ambell ddamcaniaeth yn honni bod yr hyn sydd wedi digwydd yma wedi ei gynllunio’n fwriadol, gan y rhai sy’n rheoli o bell, fel rhan o’r plan i ladd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Pan feddyliwch amdano, ystyriwch  hanes y cymunedau Cymraeg hynny i gyd dros y blynyddoedd diweddara’. Onid yr un yw tynged pob un ohonynt? Diffyg gwaith i gadw’r bobl ifainc yn eu cymunedau, a’u gorfodi i symud oddi cartre i ennill eu bara menyn. Hynny’n cyfrannu at dai gweigion yn cael eu gwerthu i estroniaid, am brisiau na fedrai’n hieuenctid fforddio’u prynu erbyn hyn.

A gwyddoch yn iawn, siawns, ganlyniadau hynny ar y fro parthed tai haf ac Air B&Bs sydd i’w gweld yn eu hugeiniau o’n cwmpas. Dim ond gobeithio y bydd y cynlluniau diweddar i greu swyddi yn ddechrau’r adfywiad. Roedd erthygl tudalen flaen Llafar Bro fis Ionawr parthed sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ein bro yn agor ein llygaid i’r sefyllfa.  Deffrwch bobol annwyl, cyn iddi fynd yn rhy hwyr o ddifri’!

Pigwr

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023

                       

28.5.20

Enw Blaenau Ffestiniog

Er bod yr enw Ffestiniog -yn ei ffurfiau gwahanol - yn dyddio yn ôl i’r Oesoedd Canol, ac o bosib, mor gynnar a’r Cyfnod Cristnogaeth Cynnar, sef oddeutu 600 O.C, nid ymddangosodd yr enw Blaenau Ffestiniog tan gyfnod llawer diweddarach.

Yn ôl yr arbenigwyr ystyr yr enw ‘Ffestiniog’ yw tiriogaeth gŵr o’r enw Ffestin, a dyna a geir yn yr enw Brycheiniog, sef teyrnas Brychan. Ystyr yr enw ‘Blaenau’ yw pen pellaf cymoedd, neu ran uchaf broydd, a cheir amryw o enghreifftiau trwy Gymru, megis Blaenau Caeo, sir Gaerfyrddin, Blaenau Cellan, sir Aberteifi, Blaenau Gwent, sir Fynwy, Blaenau Mawr, sir Frycheiniog, ac yn nes adref, Blaenau Dolwyddelan yn arwain at Gwm Fynhadog.

-------------------


 A throi ein sylw at y pwnc eto, bu dadl rai blynyddoedd yn ôl rhwng rhyw ddau neu dri o academyddion ynghylch yr enw Blaenau Ffestiniog ar ein tref, neu o leiaf ar ran o’r ardal boblog. Honai un nad oedd yr enw yn bodoli o gwbl cyn yr 1870au, tra mynnai un arall mai o’r 1860au y defnyddiwyd yr enw gyntaf, ac ni fedrai weld ei fod dim hŷn na’r degawd hwn. Ag ystyried nad oedd tref o faint yma tan oddeutu yr 1880au -1890au, a thueddid ei galw yn Fourcrosses gan lawer, tybed a oes gwirionedd yn yr hyn a dybid gynt gan y gwŷr dysgedig hyn? Wel, gyda thechnoleg fodern, a modd i chwilota ar y gwahanol wefannau sydd ar y rhyngrwyd, gallwn ganfod nad oedd eu damcaniaeth yn gywir. Mewn gwirionedd gellir canfod un enghraifft o’r enw enw Blaenau Festiniog (sic) mewn adroddiad ym mhapur newydd Carnarvon and Denbigh Herald, mor bell yn ôl a’r 20fed o Chwefror, 1836. 

Gyda llaw, adroddiad ydyw am y Mudiad Dirwest yn yr ardal ac yn nodi y bydd cyfarfod yng Nghapel Bethania (A) i drafod y gymdeithas newydd. Mae hi’n werth ichi gael golwg ar rai o’r gwŷr blaenllaw ynghylch y mudiad, megis Samuel Holland, perchennog un o chwareli’r Blaenau, wrth gwrs, y Parchedig Thomas Davies, gweinidog gyda’r Annibynwyr, Robert Griffith, Plas yn Dre, David Williams, Coed y Bleiddiau, Robert Owen, Neuadd Ddu , William Owen, Plas Isaf, a sawl un arall. Nodyn o ddiddordeb i rai ohonoch, y mae Plas yn Dre wedi ei gladdu o dan domen Chwarel Diffwys ers blynyddoedd, ac mae tyddyn Coed y Bleiddiau yn furddun gerllaw’r Rheilffordd Gul, sef rhwng Gorsaf Tan-y-Bwlch a Phlasdy’r Dduallt.

Cyn cloi, nodyn arall parthed yr enw cywir y tro hwn. Yng nghylchgrawn y Dysgedydd Crefyddol am 1 Gorffennaf, 1836 ceir y canlynol am yr un pwnc â’r uchod:
Y mae brodorion Blaenau Ffestiniog, ac ereill, wedi sefydlu Cymdeithas Gymedroldeb (mewn diodydd) yn eu plith, i'r dyben o fod yn wrthglawdd er ataliad y llifeiriaint arswydol o feddwdod sydd yn gorlenwi y broydd. Yr hyn a achosodd y sefydliad ardderchawg yma oedd, i amrai o'r brodorion crybwylledig dosturio yn achos dynion ieuainc y gweithfeydd, y cyfryw ag sydd yn cael eu hudo i wario eu harian, gwario eu hamser, a gwanhau y synhwyrau, ayyb.
Gwelwn felly bod yr enw Blaenau Ffestiniog mewn defnydd, o leiaf erbyn, y flwyddyn 1836, er nad oedd tref, yng ngwir ystyr y gair, wedi ei sefydlu yn yr ardal. Cofier, rhyw ychydig tros 3,000 oedd poblogaeth y plwyf cyfan yn 1841 a phryd hynny yr oedd pentre’r Llan yn tipyn mwy na’r ‘Blaenau’. Byddai’n ddiddorol clywed a oes un ohonoch chi wedi dod ar draws enghraifft o’r enw Blaenau F(f)estiniog wedi ei nodi cyn y flwyddyn 1836 ? Y mae hi’n bur debyg ei fod yn bodoli cyn 1836.


Beth bynnag, hoffwn orffen gyda rhywbeth ysgafnach a chynnwys un o hen gardiau post Valentine gyda’r enw ‘Blaenau Festiniog’ (sic) arno ac un yn dyddio o tua 1918.

Gobeithio y byddem ninnau, pob un ohonom, yn gwenu fel yntau ar ôl i’r pla ofnadwy hwn gilio o’r wlad a’r holl fyd cyfan.
Steffan ab Owain


-------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020.

*Lawr-lwythwch y rhifyn er mwyn darllen yr erthyglau i gyd.


13.1.19

Llwyddiant Ysgubol Yr Ŵyl Gerdd Dant

Erthygl gan Iwan Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2018.

Bu dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd yn ddiwrnod hanesyddol yn nhre'r Blaenau. Cynhaliwyd Gŵyl genedlaethol yma am y tro cyntaf ers 82 o flynyddoedd. Do, daeth Gŵyl Cerdd Dant Cymru atom am y tro cynta' rioed. O ystyried i nifer o arloeswyr yr hen grefft fod â chysylltiad â 'Stiniog, mae'n rhyfedd meddwl na fu yma o gwbl yn ystod 70 mlynedd ei bodolaeth!

Lleolwyd yr Ŵyl yn Ysgol y Moelwyn, a gwnaed defnydd o Neuadd Ysgol Maenofferen, y Ganolfan Hamdden a'r Ganolfan Ieuenctid yn ogystal ag adeilad Sefydliad y Merched i gynnal y rhagbrofion. Bu cystadlu brwd gydol y dydd yn yr amrywiol adrannau - cerdd dant, canu'r delyn, llefaru i gyfeiliant, dawnsio gwerin a chanu gwerin. Credir i fwy gofrestru i gystadlu eleni nag a wnaeth erioed. Yn nhyb y rhai a fynychodd, neu a fu'n dilyn y gweithgarwch ar deledu a radio, cafwyd Gŵyl hynod lwyddiannus. Soniwyd am safonau uchel y cystadlu, ond yn fwy na hynny, am y croeso twymgalon a estynnwyd gan bobol garedig a chlên Blaenau a'r fro.

Alwen ac Alwen yn cadw trefn yn yr Ŵyl.
Llun gan Alwena Morgan
Bu criw bychan wrthi'n brysur ers dros ddwy flynedd yn trefnu'r Ŵyl ac yn cynnal gweithgareddau codi arian. Fe groeswyd y targed o £40,000 a osodwyd ers tro, ac mae'n diolch fel pwyllgor gwaith yn fawr i bawb a gyfrannodd. Mae'n dyled yn fawr i Mr. Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn a'i dîm brwdfrydig, gweithgar. Hebddyn nhw, fydden ni ddim wedi llwyddo i leoli Gŵyl fawr fel yma gyda'r fath lwyddiant. Bu Bethan Haf Jones yn ysgrifenyddes hynod effeithiol ac Anthony Evans yn drysorydd o'r radd flaenaf. Braint fu cael dau brofiadol fel Dwyryd Williams ac Alun Puw i arwain y tîm o stiwardiaid. Gellid enwi llawer mwy, ond rhaid ymatal.

Yn hytrach, carwn drwy gyfrwng y papur hwn ddatgan fy niolchgarwch I BAWB a gyfrannodd i lwyddiant y diwrnod. Bu i mi dderbyn ugeiniau o negeseuon testun ac e-bost yn ein llongyfarch ar ein ‘llwyddiant ysgubol', heb sôn am y cannoedd a fynegodd hynny ar lafar.

Ymdrechion y tîm cyfan a gyfrannodd at hyn - a rhan allweddol o'r tîm hwnnw oedd y rhai fu wrthi am oriau'n stiwardio wrth ddrysau, coridorau, ystafelloedd rhagbrawf ac ymgynnull ac yn cyfarwyddo'n y lleoedd parcio. Rhaid cyfeirio hefyd at Morwenna a'i thîm diflino o gynorthwy-wyr fu'n porthi'r cannoedd gydol y diwrnod hir.

Fel Cadeirydd, mae'n ddyletswydd arnaf ddiolch i BOB UN OHONOCH A GYFRANNODD YMHOB FFORDD.


Dawnswyr Talog -enillwyr y Parti Dawns Agored. Llun gan Ffion Rees, o wefan BBC Cymru Fyw*


------------------------


Dyma ychydig o’r sylwadau o dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol. Geiriau hynod galonogol a roes ddarluniau i’r byd a’r betws o lwyddiant y diwrnod:

ELAIN WYN [cyfeilydd yn yr Ŵyl] … “Llongyfarchiadau i chi ar Ŵyl wefreiddiol.”

DYLAN CERNYW [cyfeilydd yn Yr Ŵyl] … “Llongyfarchiadau mawr ar Ŵyl arbennig!
Llond lle o dalent a chriw da o ffrindiau
.”

ANGHARAD WYN JONES [beirniad yn Adran y Delyn] … “Diolch yn fawr i chi am y croeso twymgalon. Wedi mwynhau fy hun yn arw.”

GWENAN GIBBARD [Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru 2016-18] … “Llongyfarchiadau enfawr!”

DELYTH VAUGHAN ROWLANDS [Swyddog Gweinyddol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru] …
“Pleser pur cydweithio hefo pawb yng nghefn llwyfan. Da chi di dangos ymroddiad a balchder mawr!”

TREBOR a CARYS EVANS [Trysorydd a Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol CCDC] … “Trefniadaeth wych a phobol glên!”

KEITH EVANS [Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro 2017] …
“Sobor o falch eich bod wedi cael Gŵyl lwyddiannus dros ben. Clywed eich bod wedi cyrraedd a mynd heibio eich targed ariannol yn anrhydeddus iawn. Bydd gwên lydan ar wyneb John Eifion! Nawr te, bydd raid i bobol Sir Gâr ei gwneud hi’n ‘hatrick’ iddo!!”

PETER a NIA ROWLANDS [Nia’n gadeirydd yr is-bwyllgor Cerdd Dant lleol] ...
“Diolch o galon i bobol ‘Stiniog am Ŵyl fendigedig. Fe dalodd eich gwaith caled ar ei ganfed ac mae Merched y Gegin Ysgol y Moelwyn yn haeddu medal. Diolch i chi i gyd!”

RHIAN JONES [aelod o’r Pwyllgor Gwaith] ... “Diwrnod arbennig! Balch o fod wedi cael bod yn rhan ohono. Mor falch hefyd o’r croeso roddodd Blaenau i Gymru.”

ELIN ANGHARAD DAVIES [aelod o’r is-banel cerdd dant lleol, hyfforddwraig ac arweinydd CÔRWST] ... “Diolch am eich holl waith ac am y croeso.”

MENNA THOMAS [hyfforddwraig PARTI’R EFAIL, Pontypridd] ... “Llongyfarchiade gwresog i bawb fu’n gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant yr Ŵyl a diolch i chi i gyd am eich croeso a’ch hynawsedd.”

NANS ROWLANDS ... “Diolch Blaena a’r Pwyllgor Gwaith ymroddedig. Gallwch fod yn hynod falch o Ŵyl wefreiddiol!”

BETHAN WILLIAMS ... “Blaenau – Diolch am y croeso! Pawb yn garedig iawn.”

CARWEN ARLANYMOR ... “Diolch yn fawr i bawb!”

IWAN MORGAN[Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith] ... “Mae nghwpan i’n llawn! Diolch o galon i bawb fu ynglŷn â’r Ŵyl ddaeth â cherdd dant yn ôl at ei wreiddiau ym mro ‘gwythïen y lechen las’. Gwir ydy deud mai ‘un dre o fil yw’r dref hon!”

-----------------------------

* Lluniau GCD2018, BBC Cymru Fyw

Manylion yr enillwyr i gyd, a dolenni at glipiau fideo o'r perfformiadau, ar dudalen gweplyfr/facebook yr Ŵyl.

22.1.17

‘Stiniog â’r Rhyfel Mawr -Cofio ac Aros

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Byddai newyddion am filwyr 'ar goll' yn gadael ansicrwydd mawr ymysg teuluoedd. Tra byddai gobaith yn aros gartref mai wedi eu cymryd yn garcharorion fyddai hanes rhai, yr oedd y gobaith yn lleihau wrth i'r wythnosau a misoedd fynd heibio heb gael newyddion da. Dyna ddaeth i ran teulu o'r ardal ddiwedd 1916.

(Diolch i Nita Thomas am y llun)
Yn rhifyn 16 Rhagfyr 1916 o'r Rhedegydd cyhoeddwyd llun o'r Lefftenant Griffith Davies, Cae'r Ffridd, Tanygrisiau, ynghyd ag adroddiad byr amdano. Roedd llythyr wedi cyrraedd i'w rieni gan y Swyddfa Ryfel yn cadarnhau nad oedd gobaith bellach fod eu mab yn dal yn fyw, ac yntau ar goll ers 15 mis. (Daeth gwybodaeth yn ddiweddarach i Lefftenant Griffith, o'r 12fed Fataliwn o'r Gatrawd Gymreig, golli ei fywyd ym mrwydr Loos, Ffrainc ar 2 Hydref 1915.)    

Daeth gwybodaeth hefyd mai mab y bardd lleol, Bryfdir, y Preifat W.Emyr Jones oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth lenyddol a gynhaliwyd i dorri ar unffurfiaeth bywyd mewn Rest Camp yn Ffrainc. Enillodd y Preifat Jones ar gyfansoddi traethawd byr ar 'The social and commercial advantages of opening the Dardanelles.'

Dyma'r cyfnod y dechreuwyd rhedeg trên gweithwyr o'r Blaenau i Ddolgarrog, i weithio yn y gwaith alwminiwm yno. Roedd y gohebydd yn gresynu yn y sefyllfa ar y pryd, oherwydd mai rhedeg trenau i'r dref hon fyddai'n arferol cyn y rhyfel, meddai, yn hiraethus am y dyddiau hynny,
Gresyn na fyddai modd dod a rhyw ddiwydiant i gadw yn fyw ardal boblog fel Blaenau Ffestiniog, yr hon ardal a ddyrchafwyd hyd y nef mewn breintiau addysgol a chrefyddol, ac mae ei mynyddoedd yn hawlio sylw pob gwlad yn eu cyfoeth o lechfaen...Prysured dyddiau gwell i ni, a diwydiannau newyddion i roddi bywyd eto yn y fro lengar.
Er y pryderon am effeithiau'r Rhyfel Mawr ar gymdeithasau'r ardal, ac i nifer o ddigwyddiadau a arferid eu cynnal gael eu dileu ar dechrau’r helyntion, roedd ambell eisteddfod yn dal i gael eu cynnal yn y fro. Penodwyd Hedd Wyn yn un o feirniaid Eisteddfod Nadolig y Blaenau y flwyddyn honno, ffaith a gydnabyddwyd gan ohebydd Y Rhedegydd gyda’r geiriau ‘Well done yn wir!’

Yn yr un rhifyn o’r papur hwnnw, ar 23 Rhagfyr 1916, cyhoeddwyd hysbyseb ynglŷn â’r rheol am gau’r llenni blackouts ar ffenestri tai yn y dref. Dan bennawd amlwg Screening the Lights, ychwanegwyd:
"In order to have an uniform rule to announce the Statutory Time each evening for screening of Lights in this District, a short blast with the Fire Alarm will be given 2 hours after sunset (Sundays Excluded)"
Mewn cyfarfod o'r Cyngor Dinesig fis Rhagfyr 1916, penderfynwyd cychwyn Cronfa Dewrion Ffestiniog. Erbyn hyn, fel y gwelid, yr oedd awyrgylch jingoistaidd misoedd cyntaf y rhyfel wedi newid i un oedd yn cydnabod realiti'r sefyllfa, wrth i'r milwyr gael eu lladd wrth y miloedd ar y ffrynt, a nifer fawr o fechgyn 'Stiniog a'r cyffiniau yn eu mysg. Dyma ddywedwyd wrth sefydlu'r gronfa:
"...Meiddiwn ddweyd hefyd nad oes blwyf wedi gwneyd ei ran yn well na Ffestiniog yn y rhyfel bresennol. Yr ydym oll fel plwyfolion wedi aberthu ein cyfran deg mewn aberth a dioddef caledi a chanlyniadau alaethus y Rhyfel. Mae maes y frwydr hefyd mewn gwahanol rannau o'r byd wedi ei gysegru a gwaed ein meibion ieuainc goreu, ac y mae bylchau yn nheuluoedd y plwyf yn dwyn tystiolaeth ddistaw ond hyawdl i'r aberth a brofwyd. Yn awr, y ddyledswydd odidocaf adewir i ninau gyflawni yw gwneuthur coffadwriaeth ein dewrion yn fendigedig, nid yn unig i'r oes bresenol, eithr i'r oesau sydd eto i ddyfod."

Y bwriad ar y pryd oedd codi cofeb mewn man cyhoeddus ar gofgolofn yn ddibynnol ar swm y Gronfa. Ychwanegwyd fod 'bonheddwyr lleol', pwy bynnag oeddynt, wedi addo cyfrannu tuag at y gronfa. Aeth y gohebydd ymlaen yn athronyddol...
"Cyfnod o golli yw amser y Rhyfel wedi bod i ninau, ond disgwyliwn ennill llawer drwyddi, ac uwchlaw popeth enillion i'n dewrion y parch ac anrhydedd a deilyngant. Derbynir pob rhodd gan y Trysorydd neu un o'r Swyddogion."
Tybed beth a ddywedai'r cynghorwyr rheiny, ac eraill a fu'n ddiwyd godi arian tuag at gael cofeb haeddiannol i'r bechgyn a aberthwyd - yr Ysbyty Coffa a godwyd er cof amdanynt - petaent wedi rhagweld y diffyg parch i'r aberth hwnnw gan aelodau'r Bwrdd Iechyd a fu'n gyfrifol o gau'r ysbyty ymhen llai na chanrif?

I gyfleu'r eilunaddoli a fodolai ymysg dosbarth gweithiol yr ardal hon tuag at David Lloyd George, cyhoeddwyd copi o lythyr a anfonwyd iddo gan Hugh Thomas, ysgrifennydd Ciniawdy 'B', Chwarel Maenofferen. Gwelir y llythyr yn rhifyn olaf Y Rhedegydd am 1916, ar y 23ain o Ragfyr.

Llythyr o ddymuniadau gorau aelodau'r tŷ bwyta iddo. Roedd y geiriau'n adlewyrchu meddylfryd chwarelwyr 'Stiniog ar y pryd, a'u hedmygedd o'r prif-weinidog newydd.
'Dringasoch bob cam o'r ffordd, nes cyrhaedd o honnoch uchaf yr ysgol, a chawsoch eich hunan yn teithio yn y cerbyd agosaf i'r Brenin...'
--------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016.                      
Dilynwch gyfres Stiniog a'r Rhyfel Mawr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


30.6.16

Ras yr Iaith

Rhedeg dros yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog


Mae’r Cymry wedi dangos eu cariad at y Gymraeg mewn sawl ffordd dros y canrifoedd. Ar ddydd Mercher 6ed o Orffennaf, 2016, bydd ail ‘Râs yr Iaith’ yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu drwy fod yn rhan o râs gyfnewid hwyliog.

Nid râs i athletwyr fydd hon, ond râs dros y Gymraeg gan bobl Cymru. Ei phwrpas yw dathlu’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r Iaith, a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Cynhaliwyd y Râs gyntaf yn 2014.

Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau neu glybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn noddi ac yn rhedeg un cilomedr gan gario baton. Gall disgyblion yr ysgol neu aelodau timau chwaraeon yr ardal redeg yr 1 cilomedr honno.  Bydd y baton wedi ei gerfio’n arbennig ar gyfer y râs, ac yn cael ei drosglwyddo o law i law wrth i redwyr ddangos eu cefnogaeth i’r Iaith.

“Mae’n amser i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl dros yr Iaith. Bydd Râs yr Iaith yn ffordd wych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein bod ni yma o hyd!” meddai Siôn Jobbins, sydd wedi rhedeg rasus llwyddiannus tebyg dros y Llydaweg, y Wyddeleg a Basgeg.


Gwnewch nodyn o’r amser y bydd yn cyrraedd yma -  
dau o'r gloch ar y 6ed o Orffennaf.

Bydd cyfle i chi fod yn rhan o’r dathliadau un ai trwy redeg, noddi, neu gefnogi. Bydd gweithgaredd leol yn cael ei drefnu gan y Pwyllgorau Bro sydd wrthi’n cael eu sefydlu. Bydd y rhain yn gyfrifol am hyrwyddo’r râs yn lleol a threfnu’r dathliadau ac unrhyw weithgareddau fydd yn arwain at y Râs ei hun.

“Mae’n amser dathlu’r Gymraeg a thynnu ynghyd bobl o bob cefndir a diddordeb sydd yn cefnogi’r iaith – boed nhw’n siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu’n ddi-Gymraeg.” meddai Ceri Cunnigton o’r grŵp ‘Blaenau Pam?’ - sydd yn rhan o’r pwyllgor trefnu yma’n y Blaenau.

Os ydych yn awyddus i fod yn rhan o fwrlwm y Râs, cysylltwch â ‘Blaenau Pam?’ am fwy o wybodaeth.

Clywn chi’n holi - PWY YDY’R GRŴP - ‘Blaenau Pam?’

Wel, fe benderfynodd mudiadau ac unigolion ym Mro Ffestiniog - (Y Dref Werdd, Gisda, CellB, Barnardos, Ysgol y Moelwyn, OPRA Cymru, Y Pengwern hyd yn hyn) ddod at ei gilydd i drafod, rhannu synaidau a chyd-weithio er lles y gymuned.

Cyswllt lleol: maia[AT]drefwerdd.cymru
Gwefan Râs yr Iaith

Ceri Wyn Jones

---------------------------------------------------

Erthygl gan Maia Jones, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2016.


23.7.15

Trem yn ôl- Atgofion Hanner Canrif

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1990 Llafar Bro.

Atgofion Hanner Canrif. Profiadau geneth fach yn tyfu i fyny’n y Blaenau yn nhridegau’r ganrif ddiwetha’.

Lle braf i blentyn mewn tref oedd byw yn Stryd Maenofferen. Roedd y dyffryn wrth ymyl, a Pen Banc, y parc, siopau, y capel a’r ysgol wrth y drws cefn.

Unwaith, bum i’n sâl a methu â mynd i’r ysgol. Cefais y clefyd melyn. ‘Sglyfaeth o beth!  Dim eisiau bwyd, methu edrych ar facwn, wyau na menyn. Pan oeddwn yn fy ngwely yn rhy sâl i godi fy mhen, roeddwn yn clywed y plant yn gweiddi yn y gwahanol ddosbarthiadau,

‘Twice one are two, twice two are four’, neu ‘dee o gee DOG, dee o gee DOG, see e tee CAT, see e tee CAT’; y lleill yn bloeddio, ‘London, Chester, Swansea, Cardiff’ a phethau tebyg.

‘Standard three’oedd y rhain, yn rhoi enwau Saesneg ar drefi, mewn ateb i Miss Pritchard. Rhaid oedd cael popeth yn Saesneg. Nid oedd hyn yn broblem i mi. Eu dysgu yn Gymraeg oedd fy mhroblem. Mi fydda i’n meddwl weithia’ mai dyna oedd achos y ddwy ffeit. Wedi camddeall y plant roeddwn i, neu y nhw ddim yn fy neall i’n parablu o gwbwl.

Pan fydden ni’n mynd i chwarae i’r dyffryn, mynd i ‘chwarae i’r coed’ fydden ni’n ddeud. Dyna le! Llithro i lawr Cae Ochor ar gardbord, a chael y drefn iawn am rwygo ein nicers. Chwarae pêl a rownders, tŷ bach, doctor a nyrs yn Cae Fflat. Hel mwyar duon yn Cae ‘No. 7.’, trochi ein traed yn yr afon a hel penbyliaid, siglo yn braf ar ganllaw’r bont, a gwylio cariadon. Symud ar ein boliau’n wyliadwrus rhag iddynt ein clywed, a’i gluo hi os byddai’r boi yn bygwth dod ar ein holau. Roedd symud yn wyliadwrus ar ein boliau yn rhywbeth yr oeddem yn arbenigo ynddo.

Byddem yn mynd i’r pictiwrs ar b’nawn Sadwrn i weld helyntion ‘Pearl White’. Byddai ‘Pearl’ mewn helynt byth a beunydd a byddai’n rhaid mynd i’r Empire, neu ‘Remp’ fel y byddai pawb yn ei alw, un Sadwrn ar ôl y llall, i edrych a fyddai hi’n llwyddo i ddod allan ohonynt.

Ac yma caem weld ‘Tom Mix’, ein harwr, ar gefn ei geffyl gwyn, ac fe fyddai yna ddigon o gowbois da a drwg, ynghŷd ag Indiaid Cochion. Byddem yn dod allan o’r pictiwrs, a phawb yn clic-clician efo’i dafod a rhoi slap ar ei dîn, ac i ffwrdd â ni bawb ar gefn ei geffyl.

Adre am de, ac yna yn syth i’r coed i chwarae ‘Cowbois ac Indians’. Fi oedd yr ‘Indian girl’ am fod fy ngwallt yn ddu. Byddai’n rhaid i’r cowbois fy nal a’m clymu wrth goeden, ac yna byddai’r brêfs yn gwylio eu cyfle i ddod i’m hachub. Symud yn ofalus a thawel ar eu boliau, ac yna’r ‘Indians’ i gyd yn gweddi’n groch trwy gegau agored a tharo’r dwylo yn gyflym ar y gwefusai i greu sŵn y ‘war dance’.

Roedd gennym ddau geffyl go iawn gartref - ‘Prince’ a ‘Bess’. Ceffylau mawrion, cryfion i dynnu’r troliau a lorïau cario glo. Byddwn yn eistedd fel brenhines ar flaen y drol hefo nhad, ac yn edrych ar y plant ar y llawr fel mân us. Mae’n debyg fy mod cyn ddued â’r sachau glo tu ôl i mi, ond roedd gen i ddwy olwyn oddi tanaf, ac ychydig o blant yr adeg honno oedd â siawns byth am reid mewn dim ond trên neu fws ar ddiwnrod trip capel unwaith y flwyddyn.


Manylion hawlfraint isod
Diwrnod mawr oedd pan ddeuai yr injian malu metlin heibio. Fe fyddai dynion yn dod heibio i baratoi wyneb y ffordd ac yna taflu metlin i lawr. Caent bob llonydd gennym ni’r plant. Ein prif nod ni oedd edrych allan am Owen Robas. Byddai yn dod ar ôl i’r dynion orffen, gyda pheiriant du - tân tu mewn iddo a mwg budr yn dod allan trwy’r simnai. Yr oedd yn ddiwrnod braf bob amser y byddai’r injian malu metlin, yr injian col-tar a’r steam roller yn dod o gwmpas. Gwyddem nad oedd ymhell, gan y byddai oglau’r col-tar yn llenwi ein ffroenau. Fe’n rhybuddiwyd ni dro ar ôl tro nad oeddem i fynd yn agos at yr hen injian col-tar yna! Ond er y bygwth i gyd, byddai’n ein denu fel pry’ cop i’w we. Rhaid oedd cael gweld y tar poeth yn cael ei chwistrellu fel cawod ddu ar y ffordd. Byddai ein coesau, ein breichiau a’n dillad yn smotiau bach duon i gyd, ond pa ots?
Sôn am row ar ôl mynd adre’!”

-----------------------



Manylion hawlfraint y llun:
Trwyddedwyd dan Gomin Wikimedia, CC BY-SA 3.0 "Aveling and Porter Roller Britannia" gan BulldozerD11. Dolen i dudalen 'Steamroller' Wikipedia. Dim cysylltiad â Llafar Bro.

8.6.14

Estyn am y brig

Adroddiad arolwg ESTYN yn gosod Ysgol y Moelwyn ar y brig yng Nghymru



Darn allan o rifyn Mai (gyda ma^n-addasiadau):

Mae disgyblion sy`n cael addysg yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, yn cael llwyddiant ysgubol!

Dyma ddyfarniad adroddiad arolwg ESTYN ar yr ysgol sy`n nodi fod y disgyblion yn ymddwyn yn rhagorol, yn gweithio`n rhagorol, yn cyfrannu`n rhagorol i`r gymuned fel dinasyddion ac hefyd yn ennill canlyniadau sydd ymhell uwchlaw`r disgwyliadau arferol.

Rhai o'r disgyblion yn dathlu tu allan i'r Ty Gwyn ar eu taith ddiweddar i'r Unol Daleithiau

Yn wir, fe ddywedodd yr arolygwyr yn glir fod safonau, ansawdd y dysgu a`r addysgu ac ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth ar bob lefel yn ‘rhagorol’.  Yn ychwanegol at hynny, dyfarnodd yr arolygwyr fod pob un o`r deg dangosydd ansawdd hefyd yn rhagorol!




Mae ESTYN felly wedi dyfarnu fod pob un o`r pymtheg dyfarniad ffurfiol sy`n cwmpasu holl agweddau o waith Ysgol y Moelwyn  yn rhagorol, mae safonau yn rhagorol ac mae arolygon gwella yn rhagorol. Mae`r llwyddiant hwn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn yn dilyn llwyddiant yr ysgol i ddod ar frig bandio Cymru.



Dywedodd Bini Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgol: ‘Mae`r adroddiad rhagorol hwn yn bluen yn het holl gymuned dalgylch Ysgol y Moelwyn. Mae`n glod i staff pob un o`r ysgolion cynradd sydd yn paratoi disgyblion cyn dod i`r Moelwyn, sef ysgolion Bro Cynfal, Edmwnd Prys, Hedd Wyn, Maenofferen, Manod a Tanygrisiau. Mae o`n glod hefyd i rieni`r disgyblion am eu cefnogaeth i addysg eu plant o ddydd i ddydd, am wneud yn siwr eu bod yn mynychu`r ysgol bob dydd, gweithio’n galed a chymryd balchder yn eu gwaith ac ynddyn nhw eu hunain. Yn arbennig, mae o`n adroddiad sydd yn glod, yn cydnabod gwaith caled iawn, proffesiynoldeb ac ymroddiad lefel uchel tîm o staff y Moelwyn, boed yn athrawon, staff swyddfa, cymorthyddion neu dechnegwyr.  Dyma dîm sydd wedi bod yn benderfynol i sicrhau fod plant dalgylch y Moelwyn yn cael y ddarpariaeth orau bosibl ac yn llwyddo y tu hwnt i bob disgwyl. Y neges bendant ydy nad oes neb yn cael llonydd i fethu yn Ysgol y Moelwyn.’


Ychwanegodd y Cynghorydd Siân Gwenllian, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet Addysg ac Aelod Arweiniol Plant a Phobl Ifanc, ‘O`r 220 Ysgol uwchradd yng Nghymru, dwy ysgol arall yn unig sydd wedi cael rhagoriaeth ym mhob dangosydd ansawdd. Mae'r Moelwyn felly ar ben uchaf y brig yng Nghymru ac fel Sir gallwn ymfalchio yn y llwyddiant ysgubol yma'.

Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd ynghlwm â'r ysgol. 

Mae 82% o ddisgyblion yr ysgol arbennig hon yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn iaith yr aelwyd.
Pa well ffordd o ddangos i'r amheuwyr bod addysg Gymraeg yn rhoi'r hwb gorau bosib i'n pobl ifanc ni cyn mynd yn eu blaenau i addysg pellach neu ddilyn gyrfa. Go dda chi.