21.5.22

Stolpia -Trwnc ac enwau eraill

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Crybwyllwyd yr enw Tŷ Gwyn gennyf yn y rhifyn diwethaf wrth sôn am y caban a ddefnyddid gan y ‘black gang’ ar gyfer eu paned a bwyta eu cinio. Dywedwyd wrthyf bod yr adeilad ar un adeg mewn defnydd fel cartref i deulu lleol, ac ar ôl i mi holi amryw yn yr 1960au, deallaf bod y diweddar William Williams (Wil Solo Horn) a Jennie, ei wraig, wedi bod yn byw yno am sbelan. Hoffwn glywed mwy am hyn os gŵyr rhai o ddarllenwyr Llafar tipyn o’i hanes fel tŷ.

Pan oeddwn yn gweithio yno deuthum i glywed am sawl enw lle nad yw’n adnabyddus i lawer heddiw gan fod cymaint o newidiadau wedi bod yno tros yr hanner can mlynedd diwethaf. 

Rwyf eisoes wedi dweud gair neu ddau am Ffos Cyfiawnder, Inclên Bôn, Twll Tarw, Yr Olwyn Goch, Ponc yr Efail, Sinc (y) Mynydd a Klondyke

Ymhlith yr enwau lleoedd eraill sydd wedi aros yn fy nghôf, y mae ‘Garat’, sef un o’r agorydd yn rhan uchaf Sinc y Mynydd. Roedd cryn sôn am y caban yn Sinc Mynydd, hefyd, sef ‘Ciniawdŷ Sinc y Mynydd’, er nad wyf yn ei gofio mewn defnydd, chwaith. Byddid yn trafod gwahanol bynciau ac yn cystadlu ar amrywiol destunau yno yn gyson ar ôl gorffen bwyta eu cinio. Y mae llyfrau cofnodion y ciniawdŷ ar gael yng Nghasgliad J.W.Jones yn Archifdy Prifysgol Bangor. Dyma bwt o gofnodion dydd Gwener, 30 Hydref 1903:

Y peth cyntaf oedd cân gan Eos Gwynant. Canodd gân ‘Y Smocio’ yn dda iawn. Wedyn darllenwyd cofnodion am y mis diwethaf a phasiwyd hwynt’.
Y dydd Mawrth canlynol ‘treuliwyd yr amser mewn rhydd ymddiddan ar Fiscal Policy Mr Chamberlain’.

Yn wir, y mae hi’n rhyfeddol bod dynion a oedd yn llafurio mor galed ym mherfeddion y ddaear yn treulio eu hamser prin yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau bron yn ddyddiol yn eu ciniawdŷ.


Enwau lleoedd eraill a glywais tra’n gweithio yno oedd ‘Gwaelod y Trwnc’, sef rhan isaf inclên y glorian ddŵr, neu’r ‘Trwnc’ ar lafar (water balance). Gyda llaw, methwn a deall pam y galwyd ef yn ‘Trwnc’ tan welais ei ystyr mewn geiriadur ac mai hen enw ar danc dŵr ydyw. Y mae’r gair Cymraeg yn dyddio mor bell yn ôl a’r 1870au, os nad ychydig cynt. Gweithiai’r trwnc drwy ddefnyddio tanc yn llawn dŵr fel pwysau ar fath o inclên arbennig a phan gyrhaeddai hwnnw’r gwaelod byddai’n arllwys y dŵr ohono. Wrth iddo wneud ei ffordd i lawr yr inclên byddai tanc gwag arall gyda lle i osod y llwyth arno, boed yn ddarn mawr o lechfaen ar sled neu wagen rwbel yn cael ei gludo i fyny i’r top, h.y. gweithiai fel gwrthbwysedd. Er iddynt godi tŷ drwm yn gweithio gyda thrydan yn ei le flynyddoedd cyn fy nyddiau i yno, roedd yr enw yn dal mewn defnydd yn yr 1960au. 

Efallai y caf sôn am rai enwau lleoedd eraill y tro nesaf gan fod amryw ohonynt wedi mynd yn angof ac yn hollol ddieithr i’r mwyafrif heddiw.
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022


6.5.22

GwyrddNi

Rhywbeth newydd yn blaguro ym Mro Ffestiniog

Mae rhywbeth cyffrous ar droed yma ym Mro Ffestiniog, a’r person wrth y llyw yw Nina Bentley. Mae Nina a’i theulu yn byw ym Mlaenau Ffestiniog. Mae Nina yn Hwylusydd Cymunedol i GwyrddNi ac mae’n dysgu Cymraeg, mae’r plant yn mynd i Ysgol Tanygrisiau, ac mae Russell, gŵr Nina, yn dipyn o redwr - mae o newydd dorri record gaeaf y Paddy Buckley. Cyn ymuno â GwyrddNi roedd Nina’n Swyddog Ymgysylltu’r Gymuned gyda’r Dref Werdd.     

 

Beth ydi GwyrddNi?
Mudiad gweithredu ar newid hinsawdd ydi GwyrddNi sydd wedi ei sefydlu gan chwe menter gymdeithasol gan gynnwys Cwmni Bro Ffestiniog. Mae o wedi ei leoli reit yng nghanol y gymuned ac mae’n cael ei arwain gan y gymuned. Mae’n digwydd yma ym Mro Ffestiniog, ym Mhen Llŷn, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris. 

Mi fyddwn ni yn cynnal pedwar Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yma ym Mro Ffestiniog dros y flwyddyn nesaf, ac erbyn y diwedd y nod ydi creu Cynllun Gweithredu Hinsawdd efo’n gilydd, a wedyn gwneud i hwnnw ddigwydd! 

Pam dy fod wedi mynd am y swydd hon?
Dwi wrth fy modd yn gweithio efo pobl, yn gweithio fel rhan o dîm, ac yn siarad efo pob math o bobl. Mi fedrai weld mai’r mwyaf o gysylltiadau sydd gan bobl o fewn eu cymuned, y mwyaf gwydn ydy’r gymuned honno yng ngwyneb argyfwng, fel COVID, storm fawr (neu dair!), neu’r argyfwng hinsawdd ehangach. Dwi’n gweld hwn fel cyfle cyffrous iawn i’r gymuned a dwi wrth fy modd cael bod yn rhan ohono. 

Be fasa ti’n ddweud wrth rywun sy’n meddwl nad ydi’r Cynulliad Cymunedol iddyn nhw?
Os wyt ti’n byw ym Mro Ffestiniog, ac yn anadlu yma, yna mae hwn i ti! Does dim angen i ti gael unrhyw syniadau penodol am newid hinsawdd, a dim ots os nad wyt ti wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen; y cwbl sydd rhaid gwneud yw bod yn barod i wrando, rhannu a thrafod gydag eraill, a gweld beth fedrwn ni wneud efo’n gilydd. 

Addysg ac Ymgysylltu yng ngofal Sara

Un arall o’r ardal sy’n gweithio gyda GwyrddNi ydi Sara Ashton-Thomas. Mae Sara’n byw gyda’i theulu yn Nhanygrisiau, ac mae’n bosib ei bod yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonoch, gan mai hi oedd un o’r criw fu’n sefydlu’r Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog. 

Mae Sara yn gweithio fel Swyddog Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth gyda GwyrddNi, ac felly yn gweithio ar draws y bum ardal sef Bro Ffestiniog, Pen Llŷn, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle. Os oes gan eich ysgol chi (cynradd neu uwchradd) ddiddordeb cael sesiwn ar newid hinsawdd gan GwyrddNi, cysylltwch gyda Sara ar sara@deg.cymru / 07536 974 982.

Cwmni Bro Ffestiniog wrth wraidd sefydlu GwyrddNi

Dyma oedd gan Ceri Cunnington, Cydlynydd Cymunedol Cwmni Bro Ffestiniog i’w ddweud am GwyrddNi: 

"I ni yng Nghwmni Bro mae cynllun GwyrddNi yn llawer mwy ‘na thrafodaeth am newid hinsawdd neu’r amgylchedd. Mae o’n gyfle i ni ddod ynghyd i rannu syniadau a chyd-gynllunio dyfodol cynaliadwy i’n cymuned. Mae o’n gyfle i dorri seilos traddodiadol ac edrych ar ein bro yn ei gyfanrwydd gan bod y themâu yn cwmpasu pob dim; o’r coed ’da ni’n blannu, i’r aer ’da ni’n anadlu, i’r bwyd ’da ni’n dyfu a’r genhedlaeth nesaf ’da ni’n fagu. Pa’ fath o cymuned yda ni am iddyn nhw etifeddu? Dewch i drafod a rhannu syniadau a chwalu rhagfarnau gobeithio!” 
- - - - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2022

- - - - - - - -

Medd gwefan GwyrddNi erbyn hyn:

"Mae’r cyfle i fynegi diddordeb mewn bod yn aelod o un o Gynulliadau Cymunedol GwyrddNi nawr ar ben. Os nad ydych wedi eich dethol yn aelod o gynulliad ond â diddordeb gwybod am yr hyn sy’n digwydd yn y cynulliadau a bod yn rhan o’r gweithgarwch a ddaw ohonynt, gallwch weld y newyddion diweddaraf yma ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol."

Dyddiadau Bro Ffestiniog:
Lleoliad i’w gadarnhau.   13eg; 20fed; 27ain Mehefin




1.5.22

Colli'r Plot

Podlediadau – gair sy’n ymddangos ymhobman o fewn y cyfrwng darlledu y dyddiau yma. Dwi’m yn meddwl fod angen i mi esbonio beth yw podlediad bellach,  ond i’r rhai sydd ddim callach - sioe radio heb y gerddoriaeth yw un ffordd o’i ddisgrifio, neu recordio sgwrs rhwng criw o bobl. Mae yna gymaint o wahanol fathau ar gael y dyddiau yma, gyda mwy a mwy yn yr iaith Gymraeg yn cael ei lansio bob wythnos.

Un podlediad yn benodol y byswn i’n hoffi ei grybwyll yw Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Y plot yn syml yw sgwrs rhwng pedwar awdur a’u cynhyrchydd, wrth iddynt drafod y byd llenyddol a chynnwys eu silffoedd llyfrau. Mae’r sioe yn dathlu ei phenblwydd cyntaf yr wythnos hon a bellach ceir ambell bennod ble mae un o’r 4 awdur yn cael cyfle i holi un o’i hoff awduron. 

Ym mhennod olaf 2021, fe wnaeth Manon Steffan Ros wneud y daith i Stiniog i gael cyfweld ac un o’i harwyr personol hi, Geraint Vaughan Jones, i gyd-fynd a rhyddhau ei nofel ddiweddaraf, Niwl Ddoe. Dyma i chi ychydig o gynnwys y cyfweliad gan obeithio y bydd yn codi chwant i chi chwilio am y bennod hon i wrando mwy:

Dechreuodd Manon Steffan Ros drwy sôn fod Niwl Ddoe wedi gafael ynddi gymaint, diolch i’r holl galon a’r enaid sydd ynddi; er na fyddai hi byth fel arfer yn darllen nofelau dirgelwch gan nad ydynt byth yn apelio ati hi. Aeth ati wedyn i ofyn i GVJ sut y mae’n dechrau’r broses o sgwennu nofel?

Fe atebodd gan ddweud fod y stori yn byw yn hir yn ei ben ac mae yna gnewyllyn i’r stori tyfu yno am rai wythnosau neu hyd yn oed misoedd cyn ei orfodi i wneud rhywbeth efo hi. Ar ôl hynny o amser, mae’n gweld y stori yn datblygu bennod wrth bennod yn ei ben cyn hyd yn oed meddwl ei rhoi hi ar bapur, neu’r cyfrifiadur y dyddiau yma. Mae ganddo syniad go lew o sut y mae eisiau cychwyn y stori ac yn wir, sut y mae am iddi orffen, ond mae’n hoff o orffen nofel efo rhyw awgrym o rhywbeth annisgwyl fel arfer yn ei waith. 

Un o nodweddion mawr gwaith GVJ yw ei allu i bortreadu lleoliad yn ôl Manon, ac roedd hi’n awyddus i gael gwybod faint o waith ymchwil sydd yn cael ei wneud ar gyfer hyn. Fe atebodd drwy sôn pa mor hanfodol oedd hi i’r awdur wneud llawer o waith ymchwil cyn cychwyn ar nofel ac y ffordd y gallwch ddefnyddio’r dychymyg i newid ychydig ar ryw leoliad penodol i ffitio eich stori chi. Er hyn, gellir lleoli nofel mewn un man penodol godi problemau fel y digwyddodd yn dilyn cyhoeddi Teulu Lord Bach (sydd wedi ei leoli ym Mlaendyffryn, sy’n seiliedig ar Blaenau). Roedd pobl yn stopio’r awdur ar y stryd am beth amser wedyn gan fynnu eu bod nhw’n adnabod y bobl yr oedd ambell gymeriad yn y nofel wedi eu selio arno – roedd yn rhaid i’r awdur eu hatgoffa fod y nofel yn mynd yn ôl oddeutu canrif cyn dyddiau’r bobl yma!

Byddai Manon yn dadlau fod GVJ wedi “creu gymaint o waith sydd yn hawlio eu lle ymysg nofelau mawr y cyfnod”, gyda thair ohonynt wedi arwain at “wobrau coffa Daniel Owen yn dod allan o’ch clustiau”.  Cyfnod o orffwys yn dilyn llawdriniaeth arweiniodd at gystadlu yn y Daniel Owen am y tro cyntaf yn 1990 – unwaith eto, y syniad yma yn ei ben wnaeth ei orfodi i’w sgwennu lawr ar bapur tra ar gyfnod ffwrdd o’r gwaith. Doedd ganddo erioed fawr o hyder yn ei ysgrifennu ac felly y prif bwrpas oedd i rhoi prawf iddo ei hun a chystadlu dan ffugenw er mwyn cael beirniadaeth. Fe arweiniodd hyn at sioc enfawr pan gafodd wybod ei fod wedi ennill ac felly magwyd mwy o hyder ynddo i drio eto pan oedd ganddo fwy o amser ar ei ddwylo. Byddai’n hoff o gael trefn ddyddiol i’w sgwennu yn debyg i’w gyfaill, Eigra Lewis Roberts oedd yn ôl y sôn yn dechrau ysgrifennu am 9 y bore ac yn rhoi’r gorau iddi ar ddiwedd y prynhawn. Mae GVJ yn fwy blêr ei feddwl ac felly yn aml yn gorfod codi’n sydyn i fynd at y cyfrifiadur pan mae’r awen yn tanio ac felly bydd ambell bennod yn dod yn hawdd tra bod adegau eraill lle bydd hyd yn oed llunio brawddeg yn cymryd peth amser.

Byddai’n hoff o allu ysgrifennu nofel arall hanesyddol yn y dyfodol, ond mae’n cyfaddef fod posib na fydd y nofel yma fyth yn gweld golau dydd fel sawl un arall sydd wedi ei storio yn nghrombil ei gyfrifiadur.

Dim ond pytiau bychan sydd yma o’r sgwrs hanner awr, ond braf oedd gwrando ar Manon yn cyfweld ac un o’i harwyr hi a chlywed am ei broses o pan mae’n dod i sgwennu nofel. Er ei fod o’n ddyn diymhongar, sy’n cyfaddef ei hun nad ydi o’n hoff o ffws a ffwdan, na chwaith yn hoff o glywed ei lais ei hun; hawdd iawn fyddai i mi siarad cyfrolau mewn canmoliaeth amdano, yn enwedig gan fod ambell beth yn gyffredin rhyngddom – rydym yn rhannu’r un penblwydd ac yn ôl y sôn roedd yr enw Geraint Daniel wedi ei gysidro gan i mi gael fy ngeni yn 1990, y tro cyntaf iddo ennill y wobr goffa. Ond, yn ffodus i bawb, mae yna ganmoliaeth haeddiannol iddo ar gof a chadw gan un o’n awduron mwyaf llewyrchus ni o’r cyfnod diweddar.

Gallwch ddod o hyd i Colli’r Plot ar wefan ypod.cymru.
- - - - - - - -

Erthygl gan Rhydian Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022.

(Lluniau- Y Lolfa)

- - - - - - - - -

Cyhoeddwyd y llythyr yma yn rhifyn Ebrill 2022:

Annwyl Olygydd,
Wrth ddarllen am y rhai o’r Blaenau yn mynnu eu bod nhw’n adnabod y cymeriadau yn Teulu Lord Bach, nofel Geraint Vaughan Jones, fedrwn i ddim llai na meddwl am Daniel Owen, a gafodd ymateb llawer llai caredig gan un a darllenodd ei gyfrol, Y Dreflan, ei Phobl a’i Phethau (1881).
Mae Y Dreflan yn gasgliad o storïau byrion wedi’u seilio’n fras ar rai o drigolion a digwyddiadau yn Yr Wyddgrug a’r cyffiniau yn amser y nofelydd. Hybwyd ei yrfa lenyddol gan y Parchedig Roger Edwards, a oedd ar y pryd yn golygu Y Drysorfa, misolyn y Methodistiaid Calfinaidd.

Yn y rhagymadrodd i Y Dreflan, canmolir y llyfr gan y gweinidog: 

‘Gwelir fod yr awdur yn sylwebydd craff ar y natur ddynol ... fel, er nad oedd ef yn portreadu unrhyw bersonau neilltuol, fod ei ddisgrifiadau mor naturiol â phe buasai yn rhoddi hanes gwrthrychau byw oedd o flaen ei lygaid’.
Yna mae’r Parchedig Edwards yn adrodd am ymateb un person a ddarllenodd y llyfr: 

“Derbyniais fel Golygydd y DRYSORFA lythyr difrifol, ymha un y dywedai yr ysgrifenydd ei fod yn deall fod y cymeriadau a bortreadwyd yn y DREFLAN wedi eu cymerid o’r plwyf yr oedd efe yn byw ynddo, ac felly fod yr awdur ‘yn ceisio pardduo un o’r llanerchau mwyaf moesol a chrefyddol’ yn ein gwlad, a’i waith o’r herwydd yn ‘sothach enllibgar,’ tra yr oedd y plwyf a nodid, a’r wlad o’i amgylch, yn hollol ddieithr i’n cyfaill”.
Cyn darogan gwerthiant eang i’r llyfr, mae’r rhagymadrodd yn gorffen yn graff: 

“rhaid bod y DREFLAN yn darlunio egwyddorion a theimladau sydd yn gyffredin i ddynolryw mewn byd ac eglwys”.
Am gyd-ddigwyddiad! Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1990, 1998 a 2000 a thad y nofel Gymraeg (yr enwir y gystadleuaeth ar ei ôl) yn cael eu camddeall yn yr un ffordd – y naill gyda chwilfrydedd disgwyliadwy a’r llall yn faleisus.
Yn gywir iawn,
Philip Lloyd, Yr Wyddgrug