31.12.17

Bwrw Golwg -Côr Plant Charters Towers

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, mae W.Arvon Roberts yn troi ei sylw at Awstralia.

I’r Methodistiaid Calfinaidd y perthyn y fraint o sefydlu’r achos Cymraeg cyntaf yn nhalaith Queensland, Awstralia, a hynny ddechrau Awst 1868, mewn lle o’r enw Gympie, gan milltir i’r gogledd o Brisbane. Darganfuwyd aur yno'r flwyddyn gynt, ac erbyn mis Mawrth 1868 daeth nifer sylweddol o Gymry yno o Victoria a Seland Newydd.


Yn y llun dangosir Côr Plant Cymry Charters Towers, Gogledd Queensland, canolfan aur cyfoethog iawn gan milltir i’r gogledd orllewin o Gympie.

Yn y flwyddyn 1875 y clywn am Charters Towers gyntaf.  Y pryd hynny ychydig iawn o Gymry oedd yno - rhwng pymtheg ac ugain. Nid oedd yno, ychwaith, ddim manteision crefyddol nac unrhyw le o addoliad o fath yn y byd. Yn anffodus, bratiog iawn yw’r hanes sydd ar gael am eglwys Annibynwyr Charters Towers, ond yr oedd y Congregational Year Book yn ei henwi fel eglwys Gymraeg hyd at tua’r flwyddyn 1916, gan nodi W.O. Lewis (Lindisfarne, Tasmania yn ddiweddarach) fel gweinidog yno yn 1910 a Morris Griffith fel ei olynydd o 1913 hyd 1916. Pan dynnwyd y llun yn 1901 yr oedd y côr yn cyfarfod yn yr Eglwys Unedig Gymraeg.  Yr oedd yno Ysgol Sul hynod o lewyrchus yn nechrau’r ugeinfed ganrif, a gwnaeth aelodau’r cor eu rhan yn ganmoladwy iawn ynddi, ynghyd a’r rhelyw o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn y capel.

Yn 1901 yr oedd poblogaeth Charters Towers tua 25 mil, a cymaint oedd sêl y Cymry fel eu bod yn cynnal eisteddfod flynyddol yno ers 1889.  Yn 1899 enillodd y côr plant ddwy brif wobr yn yr Eisteddfod. Brodor o Fethesda, Arfon, yw’r gŵr barfog a welir yn eistedd yng nghanol y llun, sef yr arweinydd, Thomas Griffith, mab William Griffith, Pork Shop.  Bu Thos. Griffith yn nyddiau ei blentyndod yn aelod o gôr yng Nghapel Bethesda yng nghyfnod Alawydd ac Asaph.  Symudodd o’i ardal enedigol i fyw ac i weithio i Flaenau Ffestiniog (tybed mai Thomas Griffith, Casson Terrace, ydoedd? Codwyd ef yn flaenor yn Tabernacl M.C. yn 1892).  Cafodd y Terrace ei enwi ar ôl George Casson, Ysw a’i Gwmni, Blaenddôl.

Yn ystod ei gyfnod yn Ffestiniog bu’n egnïol iawn gyda bywyd cerddorol y capel ac oddi allan. Ymfudodd oddi yno i Awstralia, gwlad yr aur pryd hynny. Ni fu Thomas Griffith yn hir yn y wlad bellennig honno cyn iddo ymafael o ddifrif ym mhlant y Cymry, a’u dysgu i ganu.  Bu ganddo gôr o blant o naill genhedlaeth i’r llall, y rhan fwyaf ohonynt yn ddisgynyddion i hen breswylwyr Meirion ac Arfon, Ffestiniog, Nantlle, Bethesda a Llanberis.

Brodor o Ffestiniog hefyd oedd John Owen. Bu’n Drysorydd Capel Cymraeg Bakery Hill yn Ballarat, Victoria.  Agorwyd y capel hwnnw ym mis Mai 1855. Costiodd £182, a thalwyd peth o’r draul gan  J. Owen ei hun.  Erbyn y ganrif ddilynol yr oedd yna Gymry Cymraeg da yng Nghapel Cymraeg Sidney, yn arbennig yng nghyfnod y Parch Ifor Rowlands, sef o 1957 i 1960, rhai fel Ifor Jones ac Edward Thomas, y ddau o Flaenau Ffestiniog, y naill wedi bod yno ers 50 mlynedd a’r llall ers 40 mlynedd.
W. Arvon Roberts
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid defnyddio 'web view' ar ffonau symudol).


27.12.17

Stolpia -crwydro

Pennod o gyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au' gan Steffan ab Owain.

Y tro hwn rwyf am ddweud gair neu ddau am ein crwydradau draw tros yr hen Dwnnel Bach i lawr i Gelli Wiog, Rhoslyn a Stesion y Dduallt. Credaf mai’r tro cyntaf imi anturio mor bell gyda’r hogiau oedd dan arweiniad Raymond Cooke Thomas, brawd  Brenda, Donald ac Arthur (Nash), wrth gwrs.

Ar wahân i Rem a Nash, a finnau, ni fedraf gofio pwy oedd gweddill y criw, efallai bod Io-Io, Ken Robs a Dei Clack efo ni. Beth bynnag, cofiaf i ni fynd cyn belled â Rhoslyn a hel eirin oddi ar y coed, bwyta rhai ohonynt, ac yna llenwi ein pocedi yn dynn efo nhw nes yr oedd y rheini yn diferu o sudd ac yn rhedeg i lawr ein coesau o’r trowsusau bach. 

Rhoslyn ar ddiwrnod cyntaf Rhagfyr 2017. Llun -Paul W
Cofier, nid oedd neb yn byw yn Rhoslyn y pryd hynny, er bod rhai o bobl yn lein fach yn galw yno weithiau. Cofiaf rhai yn dweud bod y llyn yn y corstir gerllaw yn ddiwaelod a bod nadroedd hwnt ac yma yn y tyfiant o’i amgylch. Yn ddiau, roedd yn un ffordd i gadw’r hogiau rhag nofio ynddo, neu suddo yn y gors.

Ar ein ffordd adre’ roedd  yn rhaid  galw heibio tŷ Gelli Wiog a helpu ein hunain i’r gellyg (pears) oddi ar y goeden a fyddai yn y pwt  o ardd a oedd yno. Ond, o beth gofiaf roeddynt yn rhy galed i’w bwyta, ac felly, eu taflu at ein gilydd a wnaesom wrth ymlwybro i fyny hen wely’r lein.

Gelli Wiog, 1af Rhagfyr 2017. Llun Paul W
Nid oedd neb yn byw yn y tŷ hwn erbyn canol yr 1950au, chwaith. Gyda llaw, clywais y ddiweddar Mrs Nancy Burrows yn dweud blynyddoedd yn ddiweddarach, bod George Blake, yr ysbïwr, wedi bod yn aros yno am sbelau rhywdro yn ystod y pumdegau cynnar.

A dod yn ôl rŵan at yr anturiaeth gyntaf  honno, cyrhaeddais adref yn hwyr oddeutu 9 o’r gloch neu ychydig hwyrach, a finnau i fod adref yn y tŷ erbyn  tua 7.30, ac felly, cefais gerydd iawn gan mam a oedd wedi bod yn poeni yn fy nghylch, ac yn meddwl, lle ar y ddaear yr oeddwn, wrth gwrs. O ganlyniad cefais fy hel i’r gwely heb swper. Ond, fel y roedd hi’n digwydd bod, roedd fy modryb Sally o Lundain wedi dod i aros efo ni ar wyliau, a darbwyllodd fy mam nad oeddwn ond hogyn bach heb glem faint o’r gloch oedd hi ar noson  mor braf, ac mi ges bardwn o fath, a rhywbeth bach i fwyta  wedi’r cwbl - ar wahân i’r eirin! 

Peth amser yn ddiweddarach, cofiaf fynd am sgowt efo rhai o’r hogiau un prynhawn braf ac anelu ein llwybr am Gelli Wiog a Rhoslyn ond y tro hwnnw penderfynasom alw heibio Llwyn Ithel, y byngalo a godwyd gan Cadwaladr Roberts, Buarth Melyn gerllaw yr hen waith mein a Glanrafonddu, er mwyn chwilio am nythod neu rywbeth.

Llwyn Ithel. Llun o gasgliad Steffan.
Beth bynnag, pan gyrhaeddsom y Llwyn Ithel, clywyd lleisiau, a dyma ni ar ein boliau fel yr Indiaid Cochion yn y ffilmiau cowboys i sbïo pwy oedd yno, ac yn wir ichi, pwy bynnag oedd y bobl hyn, nid oedd gan yr un ohonynt gerpyn amdano. Roeddynt yn rhedeg o gylch y lle yn hollol noeth, ac wrth gwrs, i ni’r hogiau roedd y sefyllfa yn un hynod ddigri a chwerthin am eu pennau a wnaesom. Beth bynnag, y mae’n rhaid eu bod wedi ein clywed a bloeddiwyd arnom i oleuo oddi yno, neu o leiaf, dyna  a gredasom a ddywedwyd yn yr iaith fain.

Deuthum i wybod rhai blynyddoedd yn ddiweddarach bod yr arlunydd Augustus John wedi bod  yn aros yn Llwyn Ithel yn nechrau’r ugeinfed ganrif ac y mae’n debyg iawn bod y lle yn atyniad i griwiau Bohemaidd eu natur.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2017. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)


21.12.17

Rhod y Rhigymwr -Yn wresog rhoddwn groeso

Llai na blwyddyn i fynd ... a bydd Cerdd Dant yn dod yn ôl at ei wreiddiau. Gwnaeth tre’r Blaenau a’r pentrefi o’i chwmpas gymaint i adfywio’r hen grefft yn ystod hanner cynta’r ugeinfed ganrif, ac onid gwych o beth felly ydy gweld yr Ŵyl Cerdd Dant Cenedlaethol (a gychwynnodd union 70 o flynyddoedd i eleni) yn dod atom ... am y tro cyntaf un!

Hwyrach bod rhai ohonoch chi’r darllenwyr yn cofio iddi gael ei chynnal yn Neuadd Trawsfynydd union 60 mlynedd yn ôl ... ym 1957 - pan oedd yn ei babandod.

Meibion Prysor a Dylan Rowlands yn y Cyngerdd Cyhoeddi. [Llun Paul W]
Cafwyd Cyngerdd Cyhoeddi cofiadwy dros ben yn Ysgol y Moelwyn ganol Hydref. Hyfryd oedd cael gwrando ar ddoniau lleol yn cymryd rhan, a phwy na all anghofio cyfraniad arbennig plant ysgolion cynradd y dalgylch, dan arweiniad Wenna Francis Jones (wyres yr hen Delynor Dall o Feirion, Dafydd Francis, ‘Llys y Delyn’, Yr Adwy Goch, Rhiwbryfdir) yn cyflwyno medli o ganeuon gwerin. 
 

Mae blwyddyn brysur iawn o’n blaenau i barhau i godi arian er mwyn sicrhau rhoi croeso twymgalon i gerdd dantwyr a thelynorion, cantorion gwerin, llefarwyr a dawnswyr o Gymru benbaladr atom ar y 10fed o Dachwedd, 2018:

Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.

O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.

I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.

Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd 
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!

Cyn mentro i lawr ar yr 11eg o Dachwedd i Ŵyl Cerdd Dant 2017 yn Llandysul, i ganu’r ‘Cywydd Croeso’ uchod ar gainc un arall o’r fro a roes fri i hen grefft y tannau ... y delynores Mona Meirion - ‘Morannedd’ - bu Meibion Prysor yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig ... ‘Gwasanaeth y Cofio’ ym Moreia, Capel y Fro, Trawsfynydd.
Rhan fydd o weithgareddau a drefnwyd yn y Traws ym mlwyddyn Canmlwyddiant Hedd Wyn. 

Cyflwynwyd trosiad o gerdd ingol y bardd John McCrae (1872-1918) ... 
‘In Flanders Fields the poppies blow. Between the crosses, row on row ...’

Yng nghaeau Fflandrys yn y tes
Rhwng croesau ceir, yn rhes ar res
Babïau coch; ac uwch ein pen
Y cân ehedydd yn y nen,
Nas clywn yn sŵn bwledi pres.

Y Meirwon ’ym. Does fawr ers pryd
Y gwelsom haul yn g’leuo’r byd,
Fe’n carwyd ni, r’ym fudion mwy 
Yn Fflandrys draw.

Ein ffrae â’r gelyn cymrwch chi:
 llaw ffaeledig taflwn ni
Y ffagl; fe’i cewch i’w dal yn hir.
Os siomi wnewch y meirw ar dir
Y pabi coch, ni chysgwn ni 
Yn Fflandrys draw.

-------------------------------


Rhan o erthygl Iwan Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os ydych yn darllen ar eich ffôn.)


17.12.17

Clwb Bocsio Ffestiniog

Os cerddwch ar y pafin rhwng Eglwys Dewi Sant a Chlwb y Ddraig Goch rhwng 6yh a 7yh ar nos Sul (neu Fawrth, neu Iau, erbyn deall) gallech weld drwy’r ffenestri’r adeilad rhyngddynt, bobol yn sgipio ac yn dyrnu padiau.

Neuadd yr Eglwys yw lleoliad Clwb Bocsio Ffestiniog ac yno mae Dewi Roberts yn cynnal y sesiynau ymarfer.  Bu’n cadw trefn ar y gampfa yma ers 13 mlynedd i gyd, ond y mae bellach yn glwb bocsio swyddogol ers tair blynedd.  Mae bocsio yng ngwaed Dewi ac yntau wedi bod yn gwffiwr pwysau welter ysgafn am flynyddoedd yn ei amser.  Wrth reswm, mae wrth ei fodd yn dysgu’r aelodau a’u gweld yn datblygu, ond dywedodd fod bocsio’n faes anodd, ble mae’n rhaid ymroddi’n llwyr iddo.  Mae brwydr dragwyddol i gadw rheolaeth ar bwysau a ffitrwydd y corff meddai.

Mae traddodiad o focsio yn yr ardal erioed wrth gwrs ac nid yn unig ar y strydoedd ar nosweithiau’r penwythnos!  Roedd clwb bocsio poblogaidd yma yn yr wythdegau pan oedd clwb Moelwyn ABC yn ymarfer yn y Ganolfan, (cysylltwch â’r Llafar os oes gan unrhyw un wybodaeth am y clwb yma os gwelwch yn dda).

Mae nifer o aelodau yng Nghlwb Bocsio Ffestiniog hefyd o bob oedran a phwysau.  Maent yn cael defnyddio’r padiau, rhaffau a’r unicycles yn ystod y sesiynau yn ogystal â chael hyfforddiant gan Dewi.  £3 ydi sesiwn awr (£2 i’r dan 16) ac mae croeso i bawb.

Noddwyd y clwb eleni gan Andy Carson o gwmni North Wales Quarries Ltd ac mae’r clwb yn hynod ddiolchgar am ei gefnogaeth. Golygai’r arian fod posib prynu offer angenrheidiol megis menyg ac ati i’r aelodau.  Bydd y clwb yn cwffio'n eithaf aml hefyd ac yn teithio i lefydd fel Llandudno ac Abertawe i wahanol gystadlaethau.  

Cafwyd llwyddiant arbennig yn ddiweddar wrth i Aron Roberts (Aron Dolrheds), lwyddo i gipio’r Welsh Novices Championships yn Abertawe.  Cafodd ‘bye’ i’r rownd derfynol am i’w wrthwynebydd yn y rownd gynderfynol orfod tynnu allan oherwydd salwch.  Er hyn, roedd Aron yn llawn haeddu ei le yn y rownd derfynol.  Brandon Florence o Gaerfyrddin oedd ei wrthwynebydd a llwyddodd Aron i’w lorio ddwywaith.  Roedd Florence yn amlwg yn cael trafferth dygymod a phŵer Aron pan oedd yn ei daro’n ei gorff.  Ond, erbyn munud olaf y rownd olaf roedd yr hogyn o ‘Stiniog yn dechrau blino a chafodd ei ddal ambell waith cyn y diwedd wrth i'w amddiffyn wanhau ac iddo adael i’w ddwylaw ddisgyn o’i ên.  Er hyn, roedd cornel Aron yn hollol ffyddiog ei fod wedi curo’r ornest er i’r beirniaid weld y frwydr dipyn yn agosach na’r disgwyl.

Llongyfarchiadau i ti Aron ar dy lwyddiant ac edrychwn ymlaen at weld sut bydd dy yrfa di a’r aelodau eraill yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
David Jones (Dei Mur)
-------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017


13.12.17

Mewn angof ni cha'i fod..

Pwt i'n hatgoffa am agoriad gwreiddiol yr Ysbyty Coffa -o rifyn Tachwedd 2017, ychydig cyn i weinidog iechyd llywodraeth Cymru, a'i gynffonwyr dorri rhuban ar y 'ganolfan' ar ei newydd wedd...

Pan agorwyd yr Ysbyty Coffa daeth cannoedd ar gannoedd o bobl i ddathlu’r achlysur ac mor falch oedd pawb yn y dref o’r ysbyty newydd.


Mae lleoliad yr adeilad a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis, yn ymyl Pen Carreg Defaid, un o’r mannau mwyaf godidog yn y dref a byddai pob claf yn cael eu hysbrydoli gan yr olygfa eithriadol gydag ystod eang, i lawr Cwm Bowydd.


Hwyrach y byddai swyddogion y Betsi hyd yn oed wedi cael eu hysbrydoli o weld y fath gefnogaeth i Ysbyty, ei nyrsys a’i meddygon …

-------------------------------------------


Addasiad o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2017.
Gyda diolch o galon i aelodau brwd ac angerddol Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestioniog am eu hymroddiad a'u hymrech, yn wyneb camarwain a chamweinyddu cywilyddus gan fiwrocratiaid di-glem. 

 

9.12.17

Stolpia -hen elïau

Pennod o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Dywedir fod y defnydd o eli i wellhau archollion a chlwyfau ac enaint i gadw'r croen a'r gwallt yn iach yn dyddio'n ymhell yn ôl i gyn hanes a chyn i'r Eifftwyr a chroniclwyr y Beibl droedio'r ddaear 'ma.

Yn ddiau, bu'n cyndeidiau a hen neiniau ninnau'r Cymry yn gwneud elïau cartref o wahanol blanhigion a deiliach am ganrifoedd lawer a chyn dyfodiad meddygon swyddogol a fferyllwyr y cyfnodau diweddar.

Er bod bron pob teulu yng Nghymru gynt efo rhyw berthynas neu adnabod yn gwneud elïau o ryw fath, mae'n resyn mawr dweud mai'r un yw'r stori ymhobman o'r bron y dyddiau hyn, h.y. fod y gyfrinach neu'r rysèt o'u gwneud wedi mynd i ebargofiant.

Yn ddiweddar, euthum ati hi i chwilio a holi ryw ychydig am eu hanes ac yn wir, y mae'n bwnc digon difyr. Cofiwch, dim ond megis dechrau canfod cyfeiriadau atynt ydwyf. Serch hynny, credaf ei bod hi'n werth crybwyll enwau rhai ohonynt yma.

Dyna chi eli llygaid at wella afalau'r golwg i ddechrau, ac eli corn ar gyfer cyrn ar y traed, wrth gwrs. Yna, eli melyn at ddryweinen (ringworm), eli gwyrdd at yr eryr, ac eli glas at friwiau. Defnyddid eli llosg - neu fel y clywais gan y cyfaill David Griffith Roberts, Cysulog, Eli llosg Meirion, at wella pob math o losgiadau ac Eli siwgr a sebon an bennauduynod.

Enwau Lleoedd
Weithiau ceid enwau lleoedd ar yr elïau, megis Eli Treffynnon ac Eli Sir Fflint. Deuthum ar draws hen rigwm yn enwi'r ddau eli uchod. Dyma fo:
Eli Treffynnon a'ch mendia chi'n union
Eli Sir Fflint a'ch mendia chi'n gynt.
Nid wyf yn sicr at ba afiechyd y defnyddid y ddau eli hwn, ac felly, byddai'n braf cael clywed oddi wrth rhai ohonoch sy'n gwybod rhywbeth amdanynt. Efallai mai at grugdardd (rash) y defnyddid yr elïau hyn gan imi weld fersiwn arall o'r rhigwm uchod sy'n awgrymu hynny:
Eli Treffynnon a'i mendith yn union 
Eli gafod wynt a'i mendith yn gynt.
Gyda llaw, ystyr canod wynt neu cafod wynt ar lafar, yn y llinell hon, yw crugdardd. Tybed ai hyn oedd rhinwedd y ddau eli?

Ar un adeg ceid eli yn ein hardal o'r enw Eli gloddfa. Dyma gyfeiriad a godais o'r Rhedegydd, Mehefin 14, 1936 at yr eli ac un o'i wneuthurwyr:
"Jane priod TR. Jones, Ysgolfeistr y Llan... adroddodd wrthyf un tro fel y byddai'n helpu ei brodyr i wneud ffisig a phlasteri at tua dechrau Hydref. Byddent yn berwi llonaid crochanau o ddail, ayb. a'i gymysgu a phethau eraill ac wedi hynny ei botelu. Gwnaeth gannoedd o bils, meddai, llathenni o Beladona Plaster, ac Eli Gloddfa.
Yn anffodus i ni'r hollwybodusion, nid yw'n ymhelaethu am ddibenion yr eli hwn, na dweud beth oedd ei gynnwys. Pa run bynnag, cyn imi fynd dim pellach, gwell imi ddweud mai un o chwiorydd Doctoriaid Congl-y-Wal, sef Dr. Robert Roberts (Isallt), Dr. John Roberts, Caer, a Dr Griffith Roberts, Llan oedd Jane.

Byddai chwarelwyr Bethesda yn Arfon yn prynu Eli Waun Wen gan hen fachgen o gyffiniau Bangor. Roedd yn eli ardderchog at wella dwylo'n torri a chracio, medda nhw.

Enwau Pobl
Fel llawer peth arall, ceid ambell eli gydag enw'r gwneuthurwr yn gynffon arno. Er enghraifft, ceir y cyfeiriad hwn mewn hen ddogfen yn Archifdy Caernarfon. Yr Eryr - 'Mae meddyginiaeth at yr anhwylder hwn ym meddiant Owen Griffith, Dob, Tregarth, wedi ei drosglwyddo iddo gan ei nain, Betsan Morgan, a hen enw arno ydyw Eli Betsan Morgan ac mae'n feddyginiaeth sicr'.

Yn ôl y cyfaill Dr. Eddie John Davies, Cerrigydrudion (gynt o'r Blaenau) yr enw ar y math yma o eli yng nghyffiniau hen dref y bont fawr oedd 'Eli Mrs Thomas, Llanrwst'. Gwerthid eli a elwid Eli Kitty Evans mewn llawer lle yn Arfon gynt, ond pwy oedd y ddynes a rydd yr enw arno fo, a beth oedd ei ragoriaethau a'i gynnwys, ni fedraf ddweud. Tybed a oes rhywun ar ôl a fedr daflu goleuni ar ei hanes?

Crybwyllais gynnau am eli glas on'do? Wel, dyma gyfeiriad o draethawd a ysgrifennwyd gan Robert Roberts, Eisteddfa, Tyddyn Gwyn, Y Manod lawer blwyddyn yn ôl at un a fyddai'n gwneud yr hen eli hwn yn lleol: Yr wyf yn credu mai o Sir Fôn oeddynt a'r gallu ganddynt i wneud eli i wella briwiau; fe'i gelwid yn Eli Siôn Dafydd neu Eli Glas, ac yr oedd yn eli rhagorol iawn, tybed a yw'r wybodaeth sut i'w wneud wedi ei golli? - Os ydyw, gresyn hynny. Un peth anghenrheidiol at wneud yr eli oedd dail crynion, a byddem ni'r plant yn eu casglu a'r tâl am hynny oedd bach pysgota, oblegid yr oeddynt yn gwerthu gêr pysgota, ac y mae yn parhau hyd heddiw.

O.N. Diolch i Mr a Mrs Elwyn Davies, Cricieth (gynt o'r Blaenau) am ddiogelu'r traethawd dros y blynyddoedd ac i'm cyfaill Emrys Evans am drosglwyddo'r wybodaeth uchod imi. Cofiwch, os ydych ag unrhyw wybodaeth am yr hen elïau, ffisigau neu olewon meddyginaethol a wneud gartref gynt byddwn yn ddiolchgar iawn i gael clywed amdanynt.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2003. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Ar gael trwy 'web view' os ydych yn darllen hyn ar eich ffôn.)


5.12.17

Sgotwrs Stiniog -Llwybrau

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Yn y gorffennol rwyf wedi cerdded y ‘llwybr sgotwrs’ i’r ddau Lyn y Gamallt laweroedd o weithiau, a hynny ar bob awr o’r dydd a’r nos. Tybed a oes unrhyw sgotwr yn ei gerdded erbyn hyn? Dau ddarn o’r ‘llwybr’ i’r Gamallt a fyddai’n rhoi trafferth inni ar dro. Y cyntaf oedd yr un ar hyd Ffridd Cae Canol, sydd yn cychwyn o’r gamfa yn ymyl tŷ Cae Canol Mawr ac hyd at ffordd Cwm Teigl, lle mae’r afon yn mynd o dan y ffordd.

Os y digwyddai a bod yn niwl mynydd trwchus, neu yn noson dywyll iawn, ac anoddach fyth oedd cadw at y llwybr os y byddai’r ddau hefo’i gilydd, roedd hi mor hawdd colli’r llwybr ag anadlu. Digwyddodd hynny sawl tro inni, er fod yna ‘hen law’ ar y blaen yn arwain, a hwnnw’n gyfarwydd iawn a’r ‘llwybr’. Fwy nag unwaith y gwelais ni’n gorfod dilyn y clawdd mynydd sydd o dan Clogwyn Garw, y Manod Mawr, cyn medru cyrraedd y naill ben neu’r llall o Ffridd Cae Canol.

Dilyn Ffordd Cwm Teigl wedyn hyd at droed y Llechwedd Mawr, fel y’i gelwid, sy’n codi’n serth ar y llaw dde a gweddillion chwarel fach Alaw Manod ar ei ganol.

Manod Mawr, Clogwyn Garw, a Chwm Teigl, o Fryn Castell. Llun -Paul W

Ym mhen ucha’r Llechwedd Mawr mae’r ‘llwybr’ yn croesi yr hen ffordd Rufeinig - Sarn Helen, sy’n dod o Domen y Mur - ac yna anelu am yr Hen Waith Mein, fel y galwem yr olion cloddio am blwm sydd o hyd i’w gweld wrth droed clogwyn a phen isaf clawdd mynydd sy’n codi tuag at Lyn Bach y Gamallt.

Ar hyd y rhan yma o’r ‘llwybr’ y mae’r ‘Cerrig Gwynion’ wedi eu rhoi, a da oedd eu cael, yn arbennig ar noson dywyll fel y fagddu, neu pan yn niwlog.

Fe ganmolwyd ac fe fendithiwyd y ‘Cerrig Gwynion’ sawl tro am eu ‘cymwynas’ yn dod a ni i ben ein siwrnai’n ddiogel a didrafferth. Ond nid bob tro y digwyddai hynny chwaith. Collid y ‘llwybr’ weithiau a mynd i grwydro’n ddiamcan yng nghanol y tywyllwch a’r niwl.

Dyna pam yr oedd hi mor bwysig, a digwyddai hynny megis defod ar y siwrnai gyntaf i’r Gamallt ar ddechrau pob tymor, ein bod ni’n codi pob carreg wen o’r gwely yr oedd wedi’i wneud iddi hi ei hun dros y gaeaf, a’i rhoi hi mewn man mwy amlwg ar ochr y ‘llwybr’. Dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf byddai’r ‘Cerrig Gwynion’ wedi suddo i’r ddaear a’r gwair bras wedi cau amdanynt gan eu cuddio bron o’r golwg.

Y Gamallt yn y gaeaf. Llun -Paul W
Roedd yna ‘Lwybr Sgotwrs’ arall gan y rhai o’r Manod a ai am Lyn y Morwynion i’w bysgota. A byddai yna nifer go dda yn cyrchu’r Morwynion pan ddechreuais i a chario genwair.

Yr un un ydi o a’r llwybr i Lynnoedd y Gamallt hyd at Gae Canol Mawr. O’r fan honno mae’n mynd ar ei ben i lawr am Afon Teigl; croesi’r afon, yna croesi Ffordd Cwm Teigl a mynd i fyny at Hafod Ysbyty. Mynd heibio wyneb (yr adeg hynny) yr hen dŷ a bron bob tro cael pwt o sgwrs hefo Gwen a Griffith Jones.

Croesi Afon Gamallt wedyn, neu Rhyd Halan ar lafar, a dilyn y ffordd sy’n dringo tuag at Feddau Gwŷr Ardudwy, a dod i’w phen uchaf y tu cefn i’r lle puro dwr. Arferid a’i alw ar un adeg yn ‘Tŷ Hidlo’.

Yna croesi y ffordd sy’n codi am Fryn y Castell ac hen Chwarel y Drum, a mynd at y clawdd sy’n ymestyn draw tuag at Ffarm y Garreg Lwyd. Mae y ‘llwybr’ yn dilyn y clawdd yma gan fynd heibio hen dŷ gwair, ac yna y tu uchaf a thu cefn i dŷ y Garreg Lwyd.

Rwy’n cofio edrych i lawr arno bob tro y cerddem i’r Morwynion a chodi’n dwylo a chyfarch y rhai o’r teulu a fyddai’n digwydd bod o gwmpas. Wedi mynd heibio’r Garreg Lwyd roedd gennym ryw chwarter awr wedyn o ddilyn rhyw ‘lwybr’ main a oedd braidd yn arw, a hwnnw’n codi ar i fyny nes dod i olwg Llyn y Morwynion.

Dyna ‘Lwybr Sgotwrs’ arall nad oes dim defnydd ohono erbyn hyn, a hynny ers talwm iawn.
Ydi son fel hyn am yr ‘Hen Lwybrau’ yma yn codi awydd arnoch i fynd ar hyd-ddynt? --------------------------------------------------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2003.
Dilynwch erthyglau Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn -cliciwch 'View web version')


1.12.17

Cyfle i Fynd i Batagonia!

Ers tair blynedd bellach mae Cyngor Tref Ffestiniog yn cynnig ysgoloriaeth gwerth £1,500 i anfon person ifanc i Batagonia fel rhan o’r gefeillio sydd wedi digwydd rhwng tref Rawson a Blaenau Ffestiniog. 

Mae hwn yn gynnig anrhydeddus iawn, ac wn i ddim am un cyngor arall sy’n cynnig y fath gyfle.

Gweler y manylion isod. Y disgwyl ydy fod pob ymgeisydd yn medru disgrifio rhyw brosiect … o unrhyw fath fuasai’n rhoi sylw i ardal y Cyngor Tref ym Mhatagonia ac yn rhoi sylw i Batagonia yn yr ardal hon … ac o fedru disgrifio’r prosiect hwn a llenwi'r ffurflen gais byddwch yn y gystadleuaeth am y £1,500 fel ysgoloriaeth o flwyddyn ariannol 2018/19.

Mae mynd i Batagonia wedi dod yn reit ffasiynol yn y blynyddoedd diwethaf. Gyda teithio yn llawer haws, medru cysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, a chyda thechnoleg newydd mae Patagonia yn ymddangos yn llawer nes na’r wlad anghysbell yr oedd beth amser yn ôl. Mae cysylltiadau teuluol rhwng trigolion o dras Gymreig wrth gwrs ac mae llawer o sylw wedi ei roi i Batagonia, sy’n rhan o dalaith Chubut yn yr Ariannin, ar y teledu ac mewn cyhoeddiadau. Rawson oedd trefedigaeth gyntaf y Cymry ym Mhatagonia (1865) a bellach hon yw prif dref talaith Chubut sydd rhyw 10 milltir o Drelew.


Medr unrhyw berson rhwng 16 a 30 oed gystadlu … disgyblion ysgol hŷn, myfyrwyr prifysgol sy’n hanu o’r ardal a hefyd pobl ifanc sydd eisoes wedi dechrau gweithio ac yn barod yn gwneud cyfraniad i’r ardal. Byddai raid i’r prosiectau ymwneud yn uniongyrchol a’r ardal ac os oes rhywun am wybod mwy neu ddim yn siŵr pe bai ei brosiect o/hi yn addas cysylltwch â’r cynghorydd Bedwyr Gwilym: bgwilym@yahoo.co.uk  neu Tecwyn Vaughan Jones: tecwynvaughanjones@hotmail.com

Chwithau rieni os darllenwch hwn a meddwl fod un o’ch plant yn medru/hoffi cyflawni'r dasg syml hon rhowch wybod iddynt am yr ysgoloriaeth a mynnwch ffurflen gais!

RHOWCH GYNNIG ARNI … MAE PATAGONIA YN DISGWYL!
-TVJ

-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -


Cynigir yr Ysgoloriaeth ar ffurf cystadleuaeth traethawd ysgrifenedig a ni ddylai unrhyw gais fod yn fwy na 1,500 o eiriau. Rhoddir marciau am y rhesymau pam yr ydych yn awyddus i ymweld â Phatagonia, beth yr ydych yn bwriadu ei wneud yno a sut ydych yn bwriadu rhannu eich profiadau gyda’r gymuned wedi ichi ddychwelyd adref.



Rheolau ac amodau
•    Rhaid bod rhwng 16-30 oed i ymgeisio a dylech fyw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog
•    Dylai unigolyn o dan 18 oed dderbyn caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn ymgeisio
•    Dylech nodi ar y ffurflen gais os oes cysylltiad rhyngoch â Chynghorydd Tref neu un o’r beirniaid (y beirniaid sydd yn annibynnol o’r Cyngor Tref yw Mrs Ceinwen Humphreys, Mr Tecwyn Vaughan Jones a Mrs Anwen Ll. Jones)
•    Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i Gynghorwyr
•    Pe byddech yn llwyddiannus bydd angen ichi deithio i Batagonia yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 ac ‘rydych yn cytuno i brynu yswiriant teithio safonol
•    Mae croeso i’r enillydd ddefnyddio’r Ysgoloriaeth i deithio’n unigol, gyda theulu, gyda chlwb neu gyda ffrind/ffrindiau. Medr defnyddio rhan o’r ysgoloriaeth i gyfrannu tuag at gostau ffrind pe ddymunir
•    Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, sef 12/01/2018
•    Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Ni fydd y beirniaid na’r Cyngor Tref yn gohebu gyda chystadleuwyr aflwyddiannus

Dyddiadau pwysig:    
Ionawr 12, 2018    - dyddiad cau'r gystadleuaeth
Dydd Gŵyl Dewi, 2018   - cyhoeddi'r enillydd!
Ebrill 2018    - rhoi’r Ysgoloriaeth
Mae’r ffurflenni cais ar gael o gysylltu â’r isod:

Cyngor Tref Ffestiniog
Swyddfa’r Cyngor
5 Stryd Fawr
Blaenau Ffestiniog
LL41 3ES
clerc@cyngortrefffestiniog.cymru