30.6.12

Troedio’n Ôl


Darn o golofn John Norman, o rifyn Mehefin 2012

Yn y dyddiau gynt, byddai’r tyddynwyr yn cario menyn a wyau i’w gwerthu’n y ‘llan.’ Cyn y rhyfel, cofiaf ein teulu ni’n cael bendith o hyn. Roedd Janet, chwaer Anti Nel drws nesaf yn byw ar fferm fechan Pen Rhos - rhyw dair milltir o’r pentref ar gyrion tir mynyddig y Rhinogydd. Byddai ei merch hynaf, Eleanor, yn cerdded dros y tir diarffordd i ddal bws i Ddolgam ac wedyn dros Rhiw Cefn i’r Stesion. Cofiaf ei sirioldeb hyd heddiw,  a blas hyfryd y menyn a’r patrwm blodau ar ei wyneb.

Byddai ymweliadau Mam a minnau efo Anti Nel i Ben Rhos ar dywydd hafaidd yn bleser di-ben draw ar waethaf y siwrnai flinedig. Cawsom groeso arbennig yno ... a’r ddwy ferch ifanc arall, Catrin a Lisa, yn ein swyno wrth ganu penillion i dannau’r delyn fawr. Roedd Janet ac Anti Nel yn chwiorydd i Jini Dolgam, sy’n dal yn Traws heddiw, a bellach yn ei naw- degau. Mae ei merch hithau, Janet Simcox, archifydd o fri, yn cadw’r enw teuluol  ‘Janet.’ Byddai teulu Pen Rhos yn groesawgar iawn tuag at blant, gan iddynt gael profiad o golli un bachgen mewn damwain, ac yn gwybod felly am bwysigrwydd plentyndod. Pleser i mi oedd cerdded gydag Ifan, mab Pen Rhos i fyny at y ‘Grisiau Rhufeinig’  a’m dychymyg ifanc yn chwarae ar atsain y creigiau.

Safai’r grisiau cyntefig yma tua milltir o’r fferm ... i’r dwyrain o’r Rhinog Fawr ... trwy Fwlch Tyddiad, a rhedai dan Garreg y Saeth.. Hen lwybr ydyw yn llwyr ar wahân i lwybrau Drws Ardudwy sydd rhwng y ddau Rinog. Yn ein iaith lafar ... ‘Roman Steps’ oeddynt, a chodent yn uchel trwy’r bwlch cyn arwain i lawr at Lyn Cwm Bychan  a’r ffordd gul at Lanfair ac Harlech.

28.6.12

Mawl a Chân


Cynhaliwyd ‘Cymanfa Ganu’r Blaenau a’r Cylch’ ar ei newydd wedd ar yr 20fed o Fai, yng nghapel y Bowydd. Cafwyd oedfa bregethu gan y Parch Anita Ephraim yn y bore, a hyfryd oedd gweld rhwng 70 ac 80 o addolwyr yn bresennol. Defnyddiodd y Parch Anita dechnoleg fodern ‘power point’ i gyflwyno’i neges rymus. Dewisodd yn destun y ‘tair dameg’ o Efengyl Luc (pennod 15) ... y ddafad golledig, y darn arian colledig a’r mab colledig.

Yn oedfa’r hwyr, cymerwyd rhan gan ddisgyblion yr ysgolion lleol (dan arweiniad Wenna Francis Jones), Band Ieuenctid yr Oakeley (dan arweiniad Dafydd Lake) a Chôr Cymysg y Blaenau (dan arweiniad Wenna Francis Jones ac Alwena Morgan yn cyfeilio). Llywydd y noson oedd Tecwyn Williams, Bethesda, a chynorthwywyd ef gyda’r rhannau arweiniol gan Rhian Williams. Arweinydd y gân oedd Gareth Jones, gyda Wenna Francis Jones yn cyfeilio ar yr organ. Talwyd y diolchiadau gan Ceinwen Humphreys.

Cafwyd diwrnod arbennig iawn a diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Ychwanegwyd hyn gan ohebydd Tanygrisiau:

Ar ddiwedd wythnos Cymorth Cristnogol, cafwyd pregeth a sleidiau yn eglwys y Bowydd o dan ofal dawnus y Parch. Anita Ephraim - roedd yn bleser bod yno! Gyda’r nos, cafwyd Cymanfa Ganu i’r plant a’r oedolion. Mae grŵp ardderchog o ferched ieuainc y capeli yn gweithio’n galed i ddod â’r elgwysi i gyd at ei gilydd i gael gwahanol weithgareddau er mwyn ceisio gwneud tre’r Blaenau yn debyg i fel yr oedd flynyddoedd yn ôl. Roedd yn braf gweld y capel yn llawn a’r plant yn mwynhau eu hunain yn canu caneuon gyda chymorth band bach yr Oakley. Diolch yn fawr iawn i chi, bwyllgor yr ardal. Daliwch ati - rydych wedi llwyddo i gyflawni gwaith ardderchog mewn cyn lleied o amser. Cefais fwynhad bendigedig drwy’r dydd.
[Gladys Williams]
 

25.6.12

Y Golofn Werdd

Rhan o golofn rhifyn Mehefin 2012
Gardd Gymunedol Bro Ffestiniog
Yn dilyn llwyddiant arbennig Y Gymdeithas Randiroedd ar ei safle yng Nglanypwll, mae’r Dref Werdd yn awyddus i roi tân arni a chychwyn gwaith ar ddatblygu’r tir sydd rhwng y safle a Rheilffordd Ffestiniog, a’i droi yn ardd gymunedol.  Mae ychydig o waith eisoes wedi bod ar y prosiect yma, ond er mwyn sicrhau bod y gymuned lawn yn cael rhoi mewnbwn i unrhyw ddatblygiad, rydym yn awyddus i ymgynghori â chi, bobl y Fro, a derbyn eich syniadau chi ar y math o gyfleusterau yr hoffech adeiladu yma i weddu efo’r bwriad o greu gardd gymunedol fydd yn agored i bawb.

Ers i beiriant tyllu grafu’r arwyneb ar y safle'r llynedd, mae’r pwll gafodd ei greu wedi bod yn gyforiog o benbyliaid, ac mae sglefrwyr pwll yn chwipio ar draws y dŵr.  Mae’n amlwg bod potensial yma i ddenu natur a bywyd gwyllt yn ôl i’r ardal, ac i greu amgylchedd arbennig i bobl Bro Ffestiniog. Felly, beth hoffech chi weld yno?
Canfas wag yr ardal wyllt. Llun -PW

Rydym yn chwilio am syniadau ac arweiniad y cyhoedd ar y math o bethau yr hoffech chi weld yn mynd i’r ardd.  Er mwyn bwrw ymlaen efo’r gwaith cynllunio ac adeiladu, rydym yn awyddus i dderbyn sylwadau’r cyhoedd erbyn diwedd mis Mehefin.  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dref Werdd ar [01766] 832214.

24.6.12

Clwb Golff Ffestiniog


Ar hyn o bryd, mae’r Clwb yn profi anawsterau dybryd. Profodd dymor llewyrchus ers ei sefydlu yn 1893 hyd at gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, pryd y penderfynwyd ei gau, ac felly y bu hyd at chwe degau cynnar y ganrif ddiwethaf. Bryd hynny,  roedd cyflogaeth dda yn yr ardal yn sgîl yr Atomfa yn Nhrawsfynydd, a thrwy ymroddiad ac ymrwymiad y grŵp bychan oedd am weld ei ail-sefydlu, llwyddwyd i’w ail-agor. Daeth tymor o ffyniant a llwyddiant i’r Clwb unwaith yn rhagor. Ond ers cau’r Atomfa, profwyd lleihad cyson yn nifer yr aelodaeth ac erbyn hyn, does ond 27 ar y rhestr aelodaeth.

Er y cychwyn cyntaf, mae’r Clwb wedi dibynnu ar barodrwydd aelodau i dorchi llewys a gweithio’n wirfoddol i hybu llwyddiant.Ond fel â’r blynyddoedd yn eu blaenau, mae’r nifer wedi mynd yn hŷn ac yn lleihau.

Mae’r lleihad yn nifer yr aelodaeth yn creu problemau i’r pwyllgor - does dim modd dod  â gwaed newydd i mewn i gylch y swyddogion, ac yn y ddau Gyfarfod Blynyddol diwethaf, dim ond un aelod ar wahân i’r swyddogion oedd yn bresennol. Wrth gwrs, mae hyn yn ofid inni..

Mae cael cwrs golff yn y cylch o fudd i’r gymdogaeth, ac mae’n wefreiddiol cael sylwadau’r golffwyr dieithr ar ôl gêm yn Llan -  rhyfeddu ar yr olygfa sydd yn amgylchynu pob twll wrth fynd rownd, ac fel mae’r cwrs wedi ei greu mewn amgylchfyd naturiol.

Mae’n tâl aelodaeth yn rhesymol dros ben. Mae’r Clwb angen aelodau newydd, a’i hangen rŵan. Os daw’r dydd pryd y bydd yn rhaid dod â Chlwb Golff Ffestiniog i ben, mae’n anodd rhagweld y gwelir dydd ei agor fyth eto.

Glyn Hughes
[Ysgrifennydd] 

20.6.12

Blaenau yn ei Blodau


 Cystadleuaeth Blaenau yn ei Blodau 2012.

Mae’r tywydd oer diweddar yn anhebyg o siomi garddwyr Bro Ffestiniog o gofio’r tywydd a gafwyd yn y saith mlynedd diwethaf. Mae’r ffurflenni cais a’r canllawiau arweiniol i’r gystadleuaeth eleni wedi cael eu dosbarthu i bawb sydd wedi cystadlu’n y gorffennol, ac mae’r ffurflenni cais ar gael fel arfer o Siop yr Hen Bost. 





Mae’r categorïau fel a ganlyn:
gardd fawr
gardd fach
cynhwysydd
llysiau a bywyd gwyllt
ac wrth gwrs y categori busnesau/masnachol.

Llun gan Branwen
Bydd y beirniadu yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, Gorffennaf 4ydd, felly, rydan yn gofyn i bawb sicrhau fod pob ffurflen gais i mewn yn Siop yr Hen Bost erbyn dydd Gwener, Mehefin 29ain. Bydd y canlyniadau a chyflwyno’r gwobrwyon ymlaen ar ddydd Sul, Gorffennaf 15fed yn Swyddfeydd Cymunedau’n Gyntaf / Y Dref Werdd, Yr Hen Co-op, 49, Stryd Fawr.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwydion ar [01766] 832 214 neu gyrrwch e-bost i gwydionapwynn@gwynedd.gov.uk



17.6.12

Tân Dolrhedyn


Diweddariad i'r stori, o golofn Stolpia, Mehefin 2012

Diolch yn fawr i amryw ohonoch a gysylltodd gyda hanes llun y tŷ aeth ar dân yn Nolrhedyn a ymddangosodd yn rhifyn Mai. Diolch yn arbennig i Mrs Gladys Williams, Rhyd y Gro a Mr Robert Cadwaladr Roberts, Hafan Deg. Roedd Gladys yn cofio achos y tân a’r cwbl,  ac er nad oedd hi’n cofio yr union ddyddiad, roedd ei chof yn ddigon da imi gael gafael ar yr hanes ym mhapur newydd y cyfnod, sef y ‘Rhedegydd’ am Fehefin 8fed, 1939.

Dyma bwt o'r adroddiad:

     Daeth y Frigad Dân heibio ymhen llai na phum munud ar ôl yr alwad. 
     Methodd a mynd i fyny’r allt serth at Tŷ Gwyn, a bu raid cael ychwaneg 
     o betrol. Pan lwyddwyd i gyrraedd yr oedd  grym  a nerth y goelcerth 
     wedi cael ei orchfygu gan y trigolion er yr holl anhawster i gael dŵr
     o fewn cyrraedd. Gwnaed hyn gyda bwcedi - yr hyn sydd yn gryn glod
     iddynt gan fod y fflamau o dŷ Evan Owen yn ei wneud yn amhosibl i 
     fynd yn agos ac yn hynod fygythiol.

Prynwch Llafar Bro i gael yr hanes yn llawn. 

16.6.12

Fflamau


Golygyddol rhifyn Mehefin
 
Hwyrach mai addas fyddai cyfeirio at ‘Lafar Bro’ Mehefin 2012 fel ‘rhifyn y fflam.’ Yn ogystal â’r ‘fflam Olympaidd’ y bu cymaint sôn amdani, gwelwyd cynnau sawl fflam arall yn ein bro:

Mae sawl gohebydd wedi cyfeirio at lwyddiant y ‘Gymanfa’ ar ei newydd wedd. Hyfryd oedd gweld yr ifanc a’r hŷn yn heidio i Gapel y Bowydd ar ddydd Sul yr 20fed o Fai. Hyderir y caiff y fflam yma ei chadw ynghyn am flynyddoedd i ddod.

Mae geiriau John Glyn, arweinydd Seindorf yr Oakeley yn rhai calonogol. Mae’n ffyddiog iawn y pery’r fflam ynghyn wrth edrych i’r dyfodol, ac y caiff ein hieuenctid ‘barhau i fwynhau’r profiad o berfformio a chymdeithasu gydag oedolion profiadol a cherddorion o safon.’

Mae’n fwriad gan Ysgol y Moelwyn gyfrannu colofn yn adrodd am weithgarwch amrywiol y disgyblion yn fisol. Roedd cyfnod pryd yr arferwyd cael adroddiadau cyson oddi yno, a chroesawn yn fawr y bwriad i ail-gynnau hen fflam.

Cynheuodd fflam tîm Bro Ffestiniog yn eirias ar y cae rygbi. Llongyfarchiadau calonog i’r hogia am lwyddo i ddod â ... na, nid torch, ond Cwpan Gogledd Cymru i’r Blaenau.
Dewi James, capten Bro Ffestiniog yn dathlu. (llun Alwyn Jones)

Yn anffodus, bu sôn am ddiffoddi sawl fflam yn yr ardal hefyd. Collwyd sawl anwylyn eto’r mis yma. Mae’n cydymdeimlad â’r holl deuluoedd yn ddiffuant iawn.

Dyma fy neufis innau bellach ar ben am flwyddyn arall. Mae’r rhifyn yma eto’n argoeli i fod yn un cynhwysfawr a difyr. Dymunaf ddiolch i bawb o’r cyfranwyr yn ogystal â’r rhai a gynorthwyodd i’w gael yn barod i gyrraedd eich cartrefi chwi’r darllenwyr. Mwynhewch yr arlwy!

Iwan Morgan

13.6.12

Rhifyn Mehefin

Bydd rhifyn Mehefin -rhif 407- yn dod trwy'r drysau, ac ar gael yn y siopau yfory, y 14eg.
Ynddo mae newyddion o'r ysgolion, hynt a helynt y fflam olympaidd, a fflamau eraill pwysicach o lawer!

Dyma luniau o'r noson blygu yn gynharach heno.


Bob mis mae un neu ddwy o'r cymdeithasau a'r clybiau lleol yn gyrru cynrychiolwyr i blygu, ac mae criw da o blygwyr rheolaidd yn dod bob tro hefyd. Merched y Wawr Llan Ffestiniog oedd yn dod atom ni heno, ac fel arfer roedd dipyn o hwyl a thynnu coes i'w gael.

 
Mae'n bosib talu i'r wasg i blygu ar ein rhan wrth gwrs...ond bydden ni'n colli'r cymdeithasu tasen ni'n gwneud hynny, ac mae'r noson blygu yn tynnu llawer iawn o bobl i mewn i gyfrannu at y gwaith o gynhyrchu eu papur bro hwy.
Mae'r Llinell Goll yn ymddangos am y tro olaf un; diolch yn fawr i Rhiain y Ddol am gyfrannu'n selog dros flynyddoedd maith.
Hefyd newyddion chwaraeon y fro, y Gymdeithas Hanes, y Seindorf, newyddion y cymunedau, a llawer iawm mwy.
Bydd blas o'r colofnau rheolaidd yn ymddangos o dro i dro ar y blog rhwng rwan a rhifyn Gorffennaf.
Gadewch inni wybod be' ydych chi'n feddwl.




10.6.12

Hanes Richard Lewis

Rhan o erthygl yn rhifyn Mai 2012:

Bachgen o Bentre Berw, Sir Fôn oedd Richard Lewis. Symudodd i ardal Stiniog cyn y Rhyfel Byd Cyntaf i weithio fel Rheolwr ‘Merlin Slabs’ yn Chwarel y Graig Ddu.  Priododd Jane Ann Lewis (o Gwm Penmachno) a sefydlwyd eu cartref priodasol yn Glan y Wern, Manod, ac wedi hynny, yn 90 Heol Manod.

Cyn symud i Stiniog, roedd eisioes wedi bwrw ei brentisiaeth fel saer maen cerrig beddi ym Mangor.  Penderfynodd adael y chwarel a sefydlu busnes cerrig beddi yn ystod blynyddoedd y Rhyfel 1914/18.  Sefydlodd weithdy yn y Manod, yn adeilad Tafarn Glan Gors gynt.  


Yn y blynyddoedd yma ’roedd y chwareli yn cyflogi miloedd o bobl a phoblogaeth ardal y Blaenau ar ei huchaf.  Amser tynn iawn oedd hi ar deuluoedd y Blaenau - y mwyafrif helaeth yn byw ar gyflogau isel y chwarel ac angen prynu carreg fedd i’w hanwyliaid.  Sylweddolodd Richard Lewis bod yn rhaid cynnig ffordd haws o dalu dyledion.  Trefnodd iddynt dalu’n fisol - i gydfynd efo‘tâl mawr’ y chwarel. O ganlyniad, cymerwyd rhai misoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd i glirio biliau!!

Yn y tridegau, cafodd ei ethol ar y Cyngor Tref (Ward Manod).  Roedd ardal y Manod yn agos iawn at ei galon.  Cynrychiolodd Ward Manod/Conglywal ar Gyngor Dinesig Ffestiniog am gryn ugain mlynedd.  Bu’n ‘Faer y Dre’ am gyfnod o ddwy flynedd, ac mi frwydrodd yn galed i gael ‘Ysgol’ ac ‘Aelwyd’ yn y Manod.  Manteisiodd llawer o fudiadau eraill ar ei gydweithrediad a’i brofiad.   
Ar ddiwedd yr ail Rhyfel Byd, dychwelodd Gwilym, y mab, i’r busnes. Fe’i rhedodd yn llwyddiannus hyd at ei ymddeoliad yn 1985. Bu farw Richard Lewis yn Nhachwedd 1948, yn 71 mlwydd oed, ac fel yma mae erthygl ‘Y Rhedegydd’ yn cyfeirio at ei angladd:

‘Dydd Llun, bu angladd Richard Lewis.  Yr oedd yn un o’r angladdau mwyaf a pharchusaf a welwyd yn ardal y Manod, ac Eglwys Tyddyn Gwyn, lle y cynhaliwyd gwasanaeth byr, yn orlawn, a llawer o’r tu allan yn methu cael mynediad i fewn.’

Heddiw, bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r busnes yn parhau. Fe’i ail-sefydlwyd yn Hen Gapel Glandwr, Ffordd Glanypwll gan ei ŵyr - Richard Thomas.

8.6.12

Gerddi a Blodau


Rhan o golofn 'TROEDIO’N ÔL' gan John Norman, yn rhifyn Mai 2012 
 
Mae’r dasg o godi gardd ar ochr mynydd wedi bod yn sialens hapus. Ni chefais fawr o gyfle fel plentyn yn Traws i ddysgu sgiliau garddio. Ni chofiaf lawer o flodau na gerddi lliwgar yn y pentref. Ond heddiw, gwelaf flodau yn y gerddi bach o flaen rhai o’r tai. Weithiau, byddai darn o dir yn y cefn yn darparu llysiau at fwrdd y teulu. Yn aml, byddai lliw ym mynwent Pencefn a edrychai dros dai y Stesion ac ym mynwent yr Eglwys, ar bwys y Sgwâr, a edrychai dros y llyn. Ond wrth feddwl, roedd un neu ddau o lefydd ffrwythlon, lliwgar ym mhentre’r cerrig llwydion. Byddai’r carnifal a’i orymdaith bob haf yn llawn o flodau.

Cofiaf i stryd Pengarreg , bron ar ganol y pentref, arddangos blodau yn ei gerddi bach ffrynt a thu hwnt i’r llwybr cefn. Cofiaf erddi mawr a’u pridd tywyll yn llawn o lysiau lliwgar. Rhwng Pengarreg a Frongaled, cofiaf erddi o flaen y tai Cyngor, a’r Geninhen Pedr yn rhyfela â’r Dant y Llew afreolus. Ar yr ochr arall i’r ffordd, cadwai Moss Gwynfryn (White Lion) ddarn o dir rhwng y Capel Wesla ac Efail Twm Gof. Roedd y llysiau a’r ffrwythau yn yr ardd yma  yn llawn lliw.



Roedd  gerddi braf yng ngwaelod y llan hefyd, yn y Gwyndy, er enghraifft, a dynion tebyg i dad Percy Hughes yn tyfu llysiau amrywiol mewn rhesi taclus unionsyth. Wrth gerdded i fyny’r stryd , nepell o’r ysgol, roedd gardd y gweinidog Annibynwyr,  Môn Hughes - yn daclus a lliwgar, a gardd Tŷ Capel y Methodistiaid yn uwch i fyny yn cadw at yr un safon. Safai’r Rheithordy mewn gerddi ac roedd coed croesawgar tu cefn i’r Eglwys. Ond ni chofiaf weld y person yno yn llewys ei grys! Byddai perllan Glasfryn - gardd y ‘Jarretts’ - yn cynnig ei hun i’r hogiau’r pentref i ddwyn afalau. Gan ei bod ynghannol y pentref, rhaid oedd bod yn gyfrwys. Roedd ar gyfer yr Highgate, lle byddai Thomas y Plisman yn cadw llygad barcud arni. Byddai Elfed ‘P.C.,’ ei fab, yn un o’r gang oedd yn ymwneud â’r dwyn afalau - a’i bresenoldeb yn ychwanegu ryw elfen anturus i’r peth. 

Nid oedd y tai y trigais ynddynt yn y Stesion efo gardd mwy na iard fechan i’r cwt glo a’r tŷ bach.Yn ystod ei yrfa gynnar ar y ‘lein’ yn yr Amwythig, roedd fy nhad wedi ennill gwobr am gynllunio gardd ar blatfform stesion Horsehay - a chredai o’r herwydd fod ganddo ddawn arbennig. Llwyddodd i gael darn o dir fel gardd deuluol ar ochr y lein ger Stesion Newydd Traws. Ond nid fy nhad gafodd y dasg o dynnu’r cerrig mawr o’r clai yma. Yn hytrach, fy mrawd a minnau fyddai’n chwysu a thorri cefnau i gael ychydig o datws gwael o’r anialwch oedd wrth draed y trenau.

Ond daeth un gardd yn y Stesion â hwyl a lliw i’m plentydod. Roeddwn yn gyfaill i Raymond Cartwright. Arferwn chwarae gydag ef , a chofiaf yn dda orfod cadw cwmni iddo yn ei gartref yn Station Road pan oedd yn gaeth i’r tŷ gyda’r clwyf clustiau ‘mastoid.’ Nid oedd hyn yn broblem gennyf gan fod ei fam yn gogyddes benigamp - a’i lobsgows yn demtasiwn i unrhyw fachgen ar ei brifiant. Roedd mynd i fyny’r staer ffrynt a thrwodd i lawr y staer gefn yn gwneud y tŷ’n lle hynod i chwarae’n egniol ynddo - a hynny heb orfod mynd allan i’r tywydd. Wedi i Raymond wella, roedd gennym le dirgel a lliwgar i chwarae ynddo - gardd ei nain - a guddiai ar waelod Station Road, heibio Cae’r Delyn a thua garej Ned Fôn a Chapel Sinc. Byddem yn chwarae a rhedeg yno ymysg yr ieir a bwyta pŷs, ffa, gwsberis a mwyar duon.

5.6.12

Talwrn

Bu Radio Cymru'n recordio dwy bennod o 'Talwrn y beirdd' yn y Gell ddiwedd Mai. 
Dyma ambell i ddarn o'r ddwy raglen, a dolen i wefan y Talwrn, lle gallwch ddarllen holl gynnyrch y noson, a gwrando eto ar yr rhaglen ddiweddaraf.

 
LIMRIG yn cynnwys y llinell - 'Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog':

Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
Mae Glyn yn greadur cynddeiriog:
Nid am fod neb o fanno
Yn casáu’i steil cyflwyno -
Ond am na ŵyr neb fod o'n enwog.
       Emlyn Gomer, tîm Caernarfon.    8½ pwynt

Mi welais i ddyn bach esgyrnog
'Rôl mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
A'i wraig ar ei gefn,
Dros twenti stôn sefn,
Ond, diolch i'r drefn, ddim yn feichiog.
     Edgar Parri Williams, Manion o'r Mynydd.    9 pwynt


 Ateb llinell ar y pryd:

Yn y Gell fe ganwn gân
a thyllu ein hiaith allan
     Tir Mawr. ½ pwynt

Yn y Gell fe ganwn gân
Un llachar yn llwch llechan
     Y Cŵps

Yn y lle hwn yr oedd llys
A genod reit ddrygionus
     C’fon. ½ pwynt

Yn y lle hwn yr oedd llys
Yn ôl daeth oriau melys
     Manion


Englyn ar y pryd: Awyr Las.

A haul heno'n y Blaenau'n wên i gyd
Tua'r Gell  awn ninnau,
heibio i'r rhwd a'r llechi brau
heibio i'r ystrydebau.
     Y Cŵps


> DOLEN i wefan Talwrn y Beirdd.

3.6.12

Gweld llun a chlywed llais

Eitem fer o gynllun Cip Olwg, Straeon Digidol y BBC, gan Vivian Parry Williams, Ysgrifennydd Cymdeithas Llafar Bro.



Hen lun o rai o weithiwrs chwarel Rhiwbach yn 1938 ysgogodd y stori hon. Erbyn heddiw dim ond adfeilion sydd ar ôl yno, ond ar un adeg roedd yna gymuned o deuluoedd yn trigo yn Rhiwbach - pentre' chwarelyddol tua mil a hanner o droedfeddi uwchben Cwm Penmachno. Chwarel fwya' plwy' Penmachno oedd hon, a dros 200 yn cael eu cyflogi ynddi pan oedd yn ei anterth.

Codwyd tai ar gyfer teuluoedd a barics i gartrefu rhai o chwarelwyr a ddaethant i'r chwarel ar fore dydd Llun, gyda'u pecyn bwyd am yr wythnos.

Agorwyd ysgol ar gyfer y dau ddwsin o ddisgyblion Rhiwbach yn 1908. Penodwyd Kate Hughes o Flaenau Ffestiniog yn Ysgol Feistres a theithiai i'r ysgol drwy gael ei chario i fyny'r inclêns am dair milltir o'r Blaenau mewn wagenni llechi gweigion.

Gyda'r nos, teithiai adref trwy gerdded i Chwarel Graig-Ddu cyfagos a reidio'r teclyn unigryw hwnnw - y car gwyllt, tebyg i 'skateboard' heddiw i lawr cledrau'r inclêns at y Manod. Dyna i chi ymroddiad. 




Ma' Rhiwbach yn agos at 'y nghalon, ond ma' un rheswm penodol am hynny. Er na chofia’i mohono, yma gweithiai 'nhad - William Huw. Bu farw'n 51 oed yn 1941, pan oeddwn i - tîn y nyth o wyth o blant - yn ddim ond 15 mis oed.

Welais i 'rioed lun ohono tan tua 15 mlynedd yn ôl pan ymddangosodd lun rhai o weithiwrs Rhiwbach, 1938, yn y papur bro. Ymysg y naw ar hugain yn y llun, roedd 'y nhad.

Dangosodd y wraig 'cw y llun i'w Mam a chael gwybod ganddi fod ei thad hithau, Moss Wyatt, bu farw'n 1954 hefyd yn y llun. Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd gweld yr unig lun oedd gennym o'r ddau - un o Benmachno a'r llall o'r 'Stiniog, yn gyd-weithiwrs yn Rhiwbach, yn hollol ddiarwybod i ni.

Canodd corn gwaith Rhiwbach am y tro olaf yn 1953, ond erys ei enw ar y cartref yn y Blaenau - Rhiwbach - er côf am y ddau dad.

>    DOLEN i Straeon Digidol gwefan y BBC.
Cliciwch ar 'Gweld holl glipiau Cipolwg ar Gymru (74)' a cewch weld ffilmiau gan Vivian, yn ogystal a'r diweddar Emrys Evans, Keith O'Brien, ac eraill.