23.2.14

Stolpia -ymdrochi

Darn allan o rifyn Chwefror 2014, gan Steffan ab Owain.

Craig Nyth y Gigfran. Llun PW
 Ymdrochi yn y llynnoedd


      Yn ystod yr hafau braf  a gafwyd yn yr 1950au byddem fel  hogiau yn ymdrochi yn y llynnoedd y tu uchaf i Chwarel Oakeley, sef Llynnoedd Merllyn yn ôl yr hen bobol, ond Llynnoedd Nyth y Gigfran y gelwid hwy gennym ni y to iau. 

 Ar adegau eraill, cerddid i fyny i drochi yn Llyn Bach Hogia yn afon Barlwyd, sef rhyw hanner ffordd rhwng Chwarel Llechwedd a Llynnoedd Barlwyd. 

Un peth a gofiaf hyd heddiw yw mynd i nofio efo’r hogiau i lyn bach Nyth y Gigfran ar brynhawn tesog un haf a Bunny a Meical yn gwmni inni. Ar ôl inni ymlwybro i fyny’r Llwybyr Cam a dringo’r  llwybrau y tu uchaf i Chwarel Holland dyma gyrraedd  y llyn bach a phawb am y cyntaf  i dynnu amdano a neidio  i mewn i’r dŵr. 

celf gan Beca
Rŵan, gan fod Bunny yn hŷn na ni ac yn nofiwr da, roedd wedi plymio tros ei ben i ddyfroedd y llyn cyn inni dynnu ein pymps ond o fewn ychydig roedd yn cerdded allan o’r dŵr a’i law tros un llygad a dyma fo yn dweud yn Saesneg –ei fod wedi colli ei lygad. Methasom a dallt am funud beth a oedd wedi digwydd iddo, ac yna dyma fo’n dweud peidiwch â gadael i Meical fy ngweld i am funud  a rhoddodd gadach tros un ochr ei wyneb. 
Deallasom wedyn ar ôl iddo esbonio wrth un o’r hogiau hynaf  mai llygad wydr (llygad tjieni) oedd  un o’i lygaid a bod honno wedi dod o’i lle  pan blymiodd i’r llyn. Methodd a chael hyd iddi hi y diwrnod hwnnw  gan fod y dŵr wedi ei gorddi ac aeth adref efo’r cadach tros soced y llygad colledig ond y diwrnod canlynol, ac ar ôl i’r dŵr glirio aeth yn ei ôl yno a chredaf iddo gael hyd iddi hi. Credaf mai yn yr 1960au y symudodd y teulu bach hwn i ffwrdd i fyw a dyna’r tro diwethaf i mi eu gweld..    
( I’w barhau)

17.2.14

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Cynhelir cyfarfod nesa'r Gymdeithas Nos Fercher, 19eg Chwefror, yn neuadd y WI, Blaenau.

Vivian Parry Williams fydd yn rhoi'r sgwrs y tro hwn, a'i destun ydi:

'Dechrau Cynllun Trydan Tanygrisiau'

Adeiladu argae Stwlan
Un o nifer fawr o luniau gwych y bydd Vivian yn eu dangos yn ystod y noson.

Dewch yn llu, mae croeso i bawb.
---------------------------


Dyma ddarn o Llafar Bro Ionawr 2014, yn son am gyfarfod cynta'r flwyddyn:



Yr oedd nifer dda yno i ddathlu  cyfarfod cyntaf  y tymor newydd. Steffan ab Owain oedd y gŵr gwadd a’i destun oedd ‘Pensaerniaeth Wledig’ neu fel y dywedodd, ‘Efallai mai Adeiladaeth Wledig fyddai’n well disgrifiad o’r testun’. Defnyddiodd sleidiau i amlinellu’r ddarlith ac yr oedd llygad craff Steffan am fanylion i weld yn glir yn y lluniau a ddangoswyd.
Dechreuodd drwy ddangos cytiau Gwyddelod neu gytiau crwn yr hen amser ac eglurodd fod rhain wedi datblygu i dai crwn. Fel enghraifft, dangosodd lun o Tŷ Uncorn yn Nhrefeini. Symudodd ymlaen i ddangos adfeilion  lle defnyddiwyd craig naturiol fel un ochr i dŷ, yr un fath ag a ddefnyddiwyd yn nhŷ Fferm Maenofferen flynyddoedd yn ôl. 
 Gwelsom sawl adeilad wedi ei wneud o wahanol ddefnydd fel mwd neu sinc a thoeau o gerrig a mwsog, brwyn neu wellt. Cawsom olwg ar ffenestri adeiladau , rhai yn fach iawn wedi eu cuddio gan gerrig er mwyn lleihau y dreth. 
 Gwelwyd llun  Neuadd Ddu yn y Blaenau gyda chorn simna yn groes i’r arfer a difyr hefyd oedd gweld drysau i’r hen dai a dyna lle yr oedd Steffan yn ein herio ni fel cynulleidfa i adnabod y lle ymhob llun.



16.2.14

Archaeoleg y bibell nwy

Cyhoeddiad trwy law un o golofnwyr rheolaidd Llafar Bro:

Cyflwyniad gan Jane Kenney (yn Saesneg)

Pibell Nwy -Blaenau Ffestiniog i Bwllheli’


Lawnsiad yr Adroddiad Archaeolegol’ .


Nos Lun, Chwefror 17 am 7:00 
yn Neuadd Sefydliad y Merched, Blaenau Ffestiniog.


 Lluniau o dudalen Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd, ar wefan Heneb. Gallwch lawrlwytho copi llawn neu grynodeb o'r adroddiad yn fanno hefyd.


13.2.14

Rhifyn Chwefror 2014

Mae rhifyn Chwefror wedi cyrraedd yn boeth o'r wasg.

Diolch i aelodau Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ac ambell un o'r Gymdeithas Bysgota am ymuno a'r hen lawiau yn y noson blygu hwyliog, tra bod y gwyntoedd egar yn rhuo tu allan!



Yn y rhifyn hwn:

Datganiad gan Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty
Stolpia- ymdrochi yn y llynnoedd, a mwy
Y diweddaraf gan Antur Stiniog
Newyddion Bro
Y Gymdeithas Hanes, Y Fainc Sglodion, Merched y Wawr, Sefydliad...
Llunia a newyddion o'r ysgolion
Atgofion Bore Oes
Pigion
Chwaraeon
Llythyrau
A llawer iawn mwy!

8.2.14

"Bydd yn wych, Flodeuwedd"





Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio efo BLODEUWEDD y mis hwn, ar ol llwyddiant y cynhyrchiad ar safle Tomen y Mur y llynedd. Dim ond un cyfle gawn ni yn y gogledd, a hynny ar Nos Lun yr 17eg, yn y Rhyl. Mi gawsom ein difetha'r llynedd mae'n rhaid!
 
Ta waeth, pob lwc i Arwel Gruffydd a'r cwmni. Mae dolen i'w gwefan nhw isod, efo manylion y daith.

Blodeuwedd, Tomen y Mur, Gorffennaf 2013. Llun PW.



Mae nifer o ddolenni isod at erthyglau ac adolygiadau perthnasol.



Isod hefyd mae dolen i erthygl gan Dewi Prysor ar wefan Cwmni Da, yn son am rai o chwedlau'r fro, gan gynnwys Blodeuwedd.


Dolenni:


Gwefan y Theatr Gen

Adolygiad Blodeuwedd 2013
Erthygl gan Arwel Gruffydd yn Llafar Bro Gorffennaf 2013
Erthygl Prysor
Mwy am Fryn y Castell, a charreg Cantiorix.



2.2.14

Y Fainc Sglodion -ysgol Sul

Cafwyd adroddiad yn rhifyn Ionawr gan DBJ, am gyfarfodydd diweddar Cymdeithas Ddiwylliannol y Fainc Sglodion. Dyma bytiau o'r adroddiad, a manylion y cyfarfodydd nesaf:



llun PW



‘Hanes a Llenyddiaeth Gynnar yr Ysgol Sul’ oedd testun sgwrs y Parchedig Ddr. Hugh John Hughes, yng nghyfarfod Tachwedd.

Yn y drafodaeth fywiog ar ddiwedd y ddarlith, soniodd Mrs. Pegi Lloyd-Williams am Ysgol Sul Jerwsalem, lle cafodd ei phenodi’n ysgrifennydd yr Ysgol yn y Festri, a chofnodi nifer y plant a’r casgliad a’r adnodau, cyn cael dyrchafiad, tua diwedd y 1940’au i fod yn ysgrifennydd yr ysgol i oedolion, i fyny’r grisiau yn y capel. A bod tua 400, yn y dyddiau hynny, rhwng y ddwy ysgol yn Jerwsalem. Erbyn heddiw, mae’n debyg mai yng nghapel y Bowydd yn unig y cynhelir Ysgol Sul ym mysg yr enwadau anghydffurfiol yn y dref.

Daeth Twm Elias o Blas Tan-y-bwlch atom ar fyr rybudd (oherwydd salwch y siaradwr oedd wedi ei drefnu ar y rhaglen) – ym mis Rhagfyr. Gan fod Canolfan Astudiaethau Parc Cendedlaethol Eryri yn noddi’r Fainc Sglodion ynghŷd â Llenyddiaeth Cymru, yr ydym yn ddwbl ddiolchgar i Twm Elias am sefyll yn y bwlch fel hyn, ac y mae ei arddull unigryw yn diogelu cyflwyniad bywiog bob tro. Chawsom ni mo’n siomi.

Yn dymhorol iawn, cafwyd sgwrs am Arferion y Nadolig, a’r is-benawd ‘O Saturnalia i Sion Corn’. Mewn oesoedd cyntefig, ofnai cymdeithasau o bobl syml fod yr haul yn crebachu wrth i’r dydd fyrhau, a’r tywydd yn oeri, gan deffro pryderon am gnydau’r flwyddyn oedd i ddod. Rhaid aberthu i’r duwiau tuag Alban Arthan ein cyndeidiau, er diogelu na fyddai Lleu, duw’r goleuni yn cilio am byth. Cyfeddach baganaidd y Celtiaid yn ddigon tebyg i ddefodau’r hen Roegiaid a’r hen Rufeiniaid ac eraill a geisiai foddio eu duwiau hwythau.

Erbyn oes y Seintiau, tua’r bumed ganrif o Oed Crist, heb fawr o groeso i’r grefydd newydd, gwelodd yr eglwys na thyciai dim oni fyddent yn impio’r credoau Cristnogol wrth yr hen goelion a chydio eu syniadaeth wrth hen arferion paganaidd. Os oedd dynion i’w hennill i addoli’r Duw Cristnogol oedd wedi creu’r haul, rhaid cydio geni Crist wrth yr hen Saturnalia a arferai addoli duw’r haul.

Yn ei ddull dihafal ei hun, pentyrrodd Twm Elias wybodaeth am darddiad arferion megis y wledd Nadoligaidd, y pwdin a’r darn arian wedi ei guddio ynddo, y celyn a’r canu carolau.

Daeth y Canu Plygain yn boblogaidd yng Nghymru, a’r canhwyllau’n dwyn goleuni i gaddug y bore bach yn Eglwysi’r plwyfi, y goleuni’n troi’r tywyllwch yn ei ôl, yn union fel y gwnelsai aberthau’r hen Saturnalia. Tyfodd Eisteddfod ddydd Nadolig yn arfer yn llawer o bentrefi a threfi bychain Cymru rhwng y ddau Ryfel Byd - efallai am fod blaenoriaid capeli’n dymuno i’r bechgyn wneud rhywbeth amgen na chwarae pêl-droed.

Tybed, erbyn heddiw, fod Gŵyl y Geni wedi troi’n Ŵyl y gwario, fel yr awgrymodd Twm Elias? Ynteu, a oes gobaith ein bod wedi cyrraedd oes lle’r ydym yn dechrau alaru ar y tinsel ac yn cofio am anghenion rhai nad yw eu byd mor gysurus a’n bywydau ni dros gyfnod y gwyliau?

Rhagrybudd ... Cyfarfod Chwefror:

Daw’r Dr. Jerry Hunter, Athro yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, i’r Fainc Sglodion nos Iau 6ed o Chwefror am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol (ar y llawr isaf yno) i ddarlithio ar ‘Y Cymry a Brodorion America’. Croeso, nid yn unig i aelodau’r Fainc Sglodion; ond i unrhyw un arall hefyd, o dalu £1 wrth y drws.
-dbj.