Craig Nyth y Gigfran. Llun PW |
Ymdrochi yn y llynnoedd
Yn
ystod yr hafau braf a gafwyd yn yr
1950au byddem fel hogiau yn ymdrochi yn
y llynnoedd y tu uchaf i Chwarel Oakeley, sef Llynnoedd Merllyn yn ôl yr hen
bobol, ond Llynnoedd Nyth y Gigfran y gelwid hwy gennym ni y to iau.
Ar adegau eraill, cerddid i fyny i drochi
yn Llyn Bach Hogia yn afon Barlwyd, sef rhyw hanner ffordd rhwng Chwarel
Llechwedd a Llynnoedd Barlwyd.
Un peth a gofiaf hyd heddiw yw mynd i nofio
efo’r hogiau i lyn bach Nyth y Gigfran ar brynhawn tesog un haf a Bunny a
Meical yn gwmni inni. Ar ôl inni ymlwybro i fyny’r Llwybyr Cam a dringo’r llwybrau y tu uchaf i Chwarel Holland dyma
gyrraedd y llyn bach a phawb am y
cyntaf i dynnu amdano a neidio i mewn i’r dŵr.
celf gan Beca |
Rŵan, gan fod Bunny yn hŷn na
ni ac yn nofiwr da, roedd wedi plymio tros ei ben i ddyfroedd y llyn cyn inni
dynnu ein pymps ond o fewn ychydig roedd yn cerdded allan o’r dŵr a’i law tros
un llygad a dyma fo yn dweud yn Saesneg –ei fod wedi colli ei lygad. Methasom a dallt am funud beth a oedd wedi
digwydd iddo, ac yna dyma fo’n dweud peidiwch â gadael i Meical fy ngweld i am
funud a rhoddodd gadach tros un ochr ei
wyneb.
Deallasom wedyn ar ôl iddo esbonio wrth un o’r hogiau hynaf mai llygad wydr (llygad tjieni) oedd un o’i lygaid a bod honno wedi dod o’i lle pan blymiodd i’r llyn. Methodd a chael hyd
iddi hi y diwrnod hwnnw gan fod y dŵr
wedi ei gorddi ac aeth adref efo’r
cadach tros soced y llygad colledig ond y diwrnod canlynol, ac ar ôl i’r dŵr glirio aeth yn ei ôl yno a
chredaf iddo gael hyd iddi hi. Credaf mai yn yr 1960au y symudodd y teulu bach
hwn i ffwrdd i fyw a dyna’r tro diwethaf i mi eu gweld..
( I’w barhau)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon