Showing posts with label Rhod y Rhigymwr. Show all posts
Showing posts with label Rhod y Rhigymwr. Show all posts

20.6.26

Rhod y Rhigymwr- Gwlad môr a gwlad mynydd

Ardal hanesyddol yng Ngwynedd ydy Ardudwy. Fe fu’n un o hen gantrefi’r deyrnas honno. Fel cantref canoloesol, daeth Ardudwy ac Eifionydd yn ddau gwmwd cantref Dunoding. Mae’n ymestyn o’r Traeth Mawr yn y gogledd i lawr hyd Afon Mawddach yn y de. 

Rhannwyd Ardudwy wedyn yn ddau gwmwd gan Afon Artro, a cheir plwyfi Ardudwy Uwch Artro i’r gogledd ohoni, a rhai Is Artro i’r de. Manylir ar leoliad a hanes y plwyfi yma yn ‘Atlas Meirionnydd’ -cyfrol a olygwyd gan Geraint Bowen ac a gyhoeddwyd cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Ymysg y plwyfi a berthyn i Ardudwy [Uwch Artro] gallwn gynnwys plwyfi Ffestiniog, Maentwrog a Thrawsfynydd. 

Tir gwyllt a mynyddig ydy Ardudwy, gyda mynyddoedd y Rhinogydd yn asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu Tomen y Mur a’r arfordir gan redeg trwy fwlch Drws Ardudwy. Yn ôl ym 1979, ysbrydolwyd fi i gyfansoddi cerdd i’r ‘Drws’ arbennig yma. Fe’i gwelais ym mhedwar tymor y flwyddyn.

Dyma ddetholiad ohoni:

Unwaith, bu dewr Frythoniaid,
druenus lu’n llyfu’r llaid
ym mrodir ei gorsdir gwyllt
wedi ymladdfa nwydwyllt;
Y brwyn am eu hesgyrn brau
ar fron ei oerion erwau.

Daw tincian eu tarianau - yn eco
dros Grawcwellt y beddau;
a niwl y dydd diolau fel ysgrîn,
yn oer ei fîn hyd y dieithr fannau.

Pan ddaw’r gwanwyn addfwynaf
heibio’r rhos, a’i ddyddiau braf
i roi einioes i riniog
y Drws, â’i aradr a’i og;
Yn wylaidd cofiaf helynt
y gwâr bererinion gynt.

 siwt haf yn glasu tir
rhydiog y dawel frodir,
Hen Gyrnol Maesygarnedd
yno ’r âi am awr o hedd,
a bu yn llamu drwy’r llaid
wŷr enwog o Bengryniaid.

Gwelodd y gwartheg olion
hydrefau’r rhwd ar ei fron
wrth esgyn ar derfyn dydd
dros fawnog i Drawsfynydd;
a gwaedd yr hen borthmyn gynt
yn eu gyrru’n ddu gorwynt.

Hen Ddrws caregog is y Rhinogau,
ei annedd anial a’m denodd innau;
Y mae i ŵr hyd ei noethlwm erwau
le i hir gilio’n ei gêl rigolau;
Hen hanes sy’n ei haenau, fe’i gwelir
yn hud a miri’r rhyfedd dymhorau.

Er mai yn ne Meirionnydd, ar y ffin â’r hen Sir Drefaldwyn y treuliais fy mhlentyndod a’m llencyndod, gallaf ddweud mai Ardudwy roddodd gartref i mi ers sawl blwyddyn bellach. Yma, i fro Ardudwy y llwyddais i olrhain un cyff o’m teulu i ddiwedd yr 17eg ganrif. Ychydig a feddyliais, pan ddechreuais ar fy ngyrfa fel athro ifanc yn Nyffryn Ardudwy ym Medi 1972 fod gen i wreiddiau yno. Pan gyfansoddais gerddi i fannau arbennig o’i mewn hanner canrif a mwy yn ôl, canu’n ddychmygol wnes. Bellach, gallaf uniaethu â’r cyfan. 

Un o’r cyfansoddiadau hynny oedd ‘cân ysgafn’ i Ferched y Wawr Cangen Nantcol ar gyfer Eisteddfod Meirionnydd y Mudiad:

O bob gwlad a grwydrais, ni wn a oes un
mor annwyl i’w charu â’m henfro fy hun;
Gwlad môr a gwlad mynydd, cans dyna yw hi,
Ymroi i’w hanwylo am byth a wnaf i.

Cytgan:
Ardudwy fy henfro, fy nghartref wyt ti,
Bob erw ohonot sy’n eiddo i mi;
Ni chaiff yr un estron dy sarnu dan draed,
Rwyt ti yn fy enaid, rwyt ti yn fy ngwaed.

Ei chadarn gromlechi a erys o hyd,
A’i chainc Mabinogi sy’n enwog drwy’r byd;
Mae gwarchae ei llannau yn her uwch y don,
Fe fagwyd enwogion di-rif ar ei bron.

Ei fflamau diwylliant a  bery ynghyn,
Acenion cerdd dafod a’u clec ar bob bryn;
Daw nodau cerdd dannau o eigion ei lli,
A cheisio eu cadw am byth a wnawn ni.    
 

- - - - - - -

Pennod o gyfres Iwan Morgan a ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026

 

1.3.26

Os wyt Gymro hoff o’th Sant

Pennod arall o gyfres Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Mawrth 2025

Dwn i ddim faint ohonoch chi fanteisiodd ar y cyfle i ymweld â’r Gadeirlan yn Nhŷ Ddewi erioed? Fe fu hon yn gyrchfan i sawl pererin dros y canrifoedd. Roedd ‘pererindod’, neu ‘daith i le sanctaidd’ yn elfen bwysig iawn i Gristnogion, fel ag i nifer eraill o grefyddau’r byd. 

Yn yr Oesoedd Canol, roedd pererindod i Rufain yn boblogaidd iawn. Yma yng Nghymru, roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cael eu hystyried yn gyfwerth ag un pererindod i Rufain.

Yr adeg yma o’r flwyddyn, ar Galan Mawrth yn benodol, fe fydd cymdeithasau crefyddol a seciwlar o bob math yma yng Nghymru a thu hwnt,  yn cofio Dewi Sant, ac yn dathlu mewn amrywiol ffyrdd. Mae ‘na rai sefydliadau yn cynnal nosweithiau llawen ac eisteddfodau, tra bo eraill yn trefnu swper ac yn gwahodd person arbennig i siarad. 

Pa ffordd bynnag yr awn ni ati i ddathlu’r ŵyl arbennig yma, fe ddylen ni o leia atgoffa’n gilydd o’n dyled i’r gorffennol ... i’r gwŷr a’r gwragedd da hynny a wnaeth gymaint inni fel cenedl.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi yn ystod fy saith mlynedd yn Ysgol Tywyn oedd yr Eisteddfod a gynhaliwyd ar y cyntaf o Fawrth bob blwyddyn. Fe fydden ni’r digyblion yn cael ein hannog i gymryd rhan a chael cyfle drwy hynny i geisio disgleirio fel cantorion a llefarwyr, offerynwyr ac arlunwyr, beirdd a llenorion. Roedd pedwar ‘Tŷ’ yn cystadlu’n frwd yn erbyn ei gilydd ... y ‘Dreigiau’ coch, y ‘Derwyddon’ glas, y ‘Telynnau’ gwyrdd a’r ‘Beirdd’ melyn. 

Digon Seisnig oedd Ysgol Tywyn yn y 1960au, ond ar ddiwrnod arbennig yr ‘Eisteddfod’, gellid ymdeimlo â’r balchder o fod yn Gymry oddi mewn i furiau’r hen neuadd. Ac o edrych yn ôl ar y dyddiau hynny, does dim dwywaith na lwyddodd y cyfle i gael cymryd rhan yn ei gweithgarwch i gyfrannu at fy nghariad innau at fy Iaith a’i diwylliant.

Cyn hynny, yn yr ysgol fach yng Nghorris, cofiaf y farddoniaeth gafodd ei chyflwyno i ni’r plant ar yr adeg yma o’r flwyddyn.  Un o’r ffefrynnau, a arhosdd ar y cof ar hyd y blynyddoedd, er bod ei harddull yn dra hen ffasiwn erbyn heddiw, oedd y berl fach yma gan Eifion Wyn:

Os wyt Gymro hoff o’th wlad,
A hoff o’th dadau dewrion,
Cadw ŵyl er mwyn dy had -
Ni waeth beth ddywed estron, -
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon.

Os wyt Gymro hoff o’th iaith,
A hoff o’i bardd a’i phroffwyd;
Heddiw twng y filfed waith
I’w chadw fel ei cadwyd:
Boed yn amlaf ar dy fin,
Boed olaf ar dy aelwyd.

Os wyt Gymro hoff o’th Sant,
A hoff o’r cysegredig;
Cadw ŵyl, er mwyn dy blant,
I Ddewi, ŵyr Ceredig; -
Cas yw gŵr na châr ei wlad,
Boed dlotyn neu bendefig.

Mewn cystadleuaeth yn un o gyfarfodydd bach ardal y Ganllwyd yn nechrau’r 1980au, gosdwyd ‘Emyn Gŵyl Dewi’ yn destun. Ychydig gofia i am amgylchiadau ei lunio, ond fe ddes i ar ei draws ymysg ambell beth a gedwais ar ddisg galed fy nghyfrifiadur. 

Canmolwn yn awr y gwŷr enwog’ meddai adnod gynta’ pennod 44 o Lyfr Ecclesiasticus yn yr Apocryffa. 

Yn ogystal â Dewi, ein Nawddsant, cofiwn hefyd am nifer o seintiau eraill a gyrhaeddodd Gymru yn eu cychod cyntefig i ledaenu’r efengyl. Cofiwn am William Morgan, yn unigrwydd ei fyfyrgell yn Ficerdy Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac am Griffith Jones, yn llwydni festri ei eglwys yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin: 

O Dduw a sicrheaist
Gyflwyno d’Air i’n hiaith,
Canmolwn y gwŷr hynny
Fu’n ffyddlon i dy waith,
A boed i ni ar Ddydd ein Sant
Gyflwyno’u henwau hwy i’n plant.

Y seintiau gwrol deithiodd
Mewn badau dros y don,
Gan herio llid corwyntoedd
A dychrynfeydd o’r bron
Wrth gario’r Newydd Da am Grist
I lonni gwedd paganiaid trist.

Y gannwyll yn y parlwr
A’i golau gwan ynghyn
Yn cyfarwyddo’r cwilsyn
Hyd ddail y papur gwyn;
Rhown glod i’r Esgob am ei waith
O droi Gair Duw yn fêl i’n hiaith.

Yr awydd a’r amynedd,
Yr ynni mawr a’r nwyd,
Gwireddu ei arddeliad
Yn yr ysgoldy llwyd
Wnaeth yr offeiriad yn ddi-ball
Er achub enaid gwerin ddall.

Yn nyddiau yr edwino
Ymysg dy bethau Di,
A’r mynych fygythiadau
Sydd ar ein heniaith ni;
O! tyred, Iôr, â’th Ysbryd Glân
I gynnau eto ‘Ngwlad y Gân.

Yn sicr, mae hi’n ddyletswydd arnom ninnau barchu iaith ein cenedl, nid oherwydd fod yr Iaith Gymraeg yn well nag unrhyw iaith arall, ond oherwydd mai’r Iaith Gymraeg a roddwyd yn rhodd i ni.
Ac ar ben hynny, fe gawson ni wlad hardd i fyw ynddi, a diwylliant. Ein braint a’n cyfrifoldeb ni ydy sicrhau hynny i’n plant, ac i blant ein plant. 

Fel y llefarodd Emrys Wledig yn ei araith a welir yn nrama Saunders Lewis - ‘Buchedd Garmon’ ... a ddarlledwyd gyntaf ar Ŵyl Dewi 1937:

Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
 i’w thraddodi i’m plant ac i blant fy mhlant yn dreftadaeth dragwyddol;
 ac wele’r moch yn rhuthro i’w maeddu.
 Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion, cyffredin ac ysgolhaig,
 Deuwch ataf i’r adwy, sefwch gyda mi yn y bwlch,
 Fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.

Yn ei englyn diweddaraf, mae Simon ap Lewis yntau’n pryderu dros ddyfodol yr Iaith. Fe’i hysbrydolwyd gan gân olaf 'Shimli' - albwm newydd ‘Cynefin’ (prosiect cerddorol y canwr a'r hanesydd, Owen Shiers) sef, ‘Faerdre Fach.’ Hwyrach i chithau gofio gwarth ‘Happy Donkey Hill’ -  pryd y disodlwyd enw hanesyddol Cymraeg gan enw erchyll, chwerthinllyd ac ansensitif - enw busnes llety a brecwast newydd yng nghyffiniau Llandysul. Dyma enghraifft arall o’r ‘moch yn rhuthro’ i faeddu’r winllan!

Lladdodd byddin y gyfrinach, o’i llwch
     Codwyd lloches afiach
I fusnes ac i fasnach,
Doedd dim lle i Faerdre Fach.
 

26.1.26

Rhod y Rhigymwr- Gwylanod Digywilydd

Yn ystod fy nghyfnod o bron ugain mlynedd fel prif athro ar Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth sefydlwyd Canolfan Hwyrddyfodiaid ar y campws. Dros y blynyddoedd, manteisiodd ysgolion cynradd gogledd Meirionnydd ar anfon disgyblion yno am dymor i ddysgu’r Gymraeg. O dan arweiniad athrawon disglair, ymroddgar fel Sulwen Edwards, Rowena Griffiths, Eifiona Rider a Gwenda Wyn, llwyddodd canran helaeth o’r rhai a fynychodd i ddod yn rhugl yn yr iaith ac yn hyderus i’w defnyddio. Gallaf feddwl am rai a dreuliodd gyfnod yno sydd wedi dod yn gyfathrebwyr arbennig ac wedi gwneud eu marc yn y Gymru gyfoes.

Ond o blith yr ugeiniau a fynychodd y Ganolfan, fe ddaeth un bachgen i’r cof yn ddiweddar. Fedra i ddim cofio’i enw, nag yn wir, o ba ysgol gynradd y cafodd ei anfon atom i’r Penrhyn. Yr unig ffeithiau gofiaf ydy mai un o ddinas Gdansk yng ngogledd Gwlad Pwyl ydoedd. Prin iawn oedd ei Saesneg, ond am ryw reswm, fe’i derbyniwyd i’r Ganolfan i geisio dysgu gymaint ag oedd posib o Gymraeg iddo. Roedd yn amlwg yn fachgen galluog, ac yn meddu ar ddawn arbennig i dynnu lluniau.

Cefais gyfle i ymweld â dinas hardd Gdansk, ar lan Môr y Baltic ym mis Mai 2019 ar un o deithiau Côr Meibion Ardudwy. Manteisiais ar y cyfle i edrych ar y lluniau a dynnais ac a gedwais ar fy nghyfrifiadur. Â hithau’n dywydd anarferol o braf, aeth criw ohonom am dro ar hyd un o’r traethau, ac wrth weld yr holl wylanod o gwmpas, dychwelodd yr hogyn bach o Gdansk i’r cof.

Oherwydd anallu’r Pwyliad i ddilyn ambell wers, cafodd ddod i’r swyddfa ata i. Buan y deuthum i wybod ei fod yn arlunydd tan gamp, a’i fod yn dangos diddordeb ysol mewn math arbennig o adar, a’i fod yn gallu tynnu lluniau ardderchog ohonyn nhw. Ac ie, gwylanod oedd yr adar rheiny.

Gwylan y penwaig. Llun gan Andreas Trepte, trwy drwydded Comin Creadigol CC BY-SA 2.5

Rhwng y llyfrau adar amrywiol oedd yn llyfrgell yr ysgol, yr hyn ganfuwyd ar y gwefannau perthnasol, a hefyd, dan arweiniad fy nisgybl, fe ddysgais lawer iawn am wylanod. Cyn hynny, gwylan oedd gwylan i mi, ond buan y canfyddais fod sawl math ohonyn nhw. Deuthum i wybod cryn dipyn am y wylan benddu, gwylan y penwaig, yr wylan gefnddu fwyaf a’r un leiaf, gwylan y gweunydd a’r wylan goesddu. 

Roedd yr hen bennill telyn cyfarwydd a ddysgais yn blentyn yn parhau yn y cof. Mae’n siŵr i chithau’r dearllenwyr adrodd hwnnw sawl gwaith tra’n ceisio rhagddweud y tywydd:

Yr wylan fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen
O'r môr - i ben y mynydd.

Bron i saith gant o flynyddoedd yn ôl, yn un o’i gywyddau, dewisodd Dafydd ap Gwilym yr wylan i fynd yn negesydd serch, neu’n ‘llatai’, drosto at ferch ddienw a oedd yn byw mewn tref gastellog ar lan y môr. 

Yr unig beth a ddysgwn am y ferch yma ydy fod ganddi wallt coch a’i bod yn byw wrth ymyl castell yn un o drefi glan môr Cymru yn y bedwaredd-ganrif-ar-ddeg. Yn ôl ysgolheigion, gallasai’r castell fod naill ai’n gastell Aberystwyth neu gastell Cricieth. Mae’r cywydd hwn yn agor yn uniongyrchol drwy gyfarch yr wylan a’i chanmol:

Yr wylan deg ar lanw di-oer,
Unlliw a'r araf wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fei haul, dyrnfol heli;
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgud-falch edn bysgod-fwyd.

A dyma englyn gan yr un bardd sy’n disgrifio gwynder plu’r aderyn:  

Lliw eira mewn mantell arian - ar don
Hwyr y dydd, yn cwynfan;
Ewyn môr yn y marian,
A chwaer i luwch ar y lan.

Ond os mai clodfori’r wylan wnaeth Dafydd ap Gwilym gynt, wedi dau brofiad diweddar, ei melltithio wnes i.

A minnau’n cerdded ar hyd y prom yn Llandudno dro’n ôl, gwelais wylan yn ymosod yn haerllug ar sgodyn a sglodion rhyw wraig. Daeth nifer o wylanod eraill heibio wedyn i grio’n aflafar wrth glirio’r gweddill a’i gleuo hi.

Ceisiais ddarlunio’r olygfa mewn hir a thoddaid:

Tra’n gwylio’r ymwthgar donnau arian
Cyson a chry’n diferu ar farian,
Yn ddigywilydd cyrhaeddodd gwylan
I ddihysbyddu cinio rhyw druan;
Yn uchel seiniau’r sgrechian – llwyddodd fflyd
I ddianc hefyd, gan ddwyn y cyfan.


Yn ddiweddar, â minnau’n gyrru troli llawn neges y tu allan i Archfarchnad ym Mhorthmadog, oedais i gael sgwrs efo ffrind. Yn sydyn, dyma wylan ddigywilydd yn cyrraedd o rywle gan ymosod ar y pecyn briwgig [minced meat] oedd ynddo:

I’n nhroli’n slei gythreulig – o rywle
Daeth rhyw wylan flysig;
Yn flêr â phŵer ei phig
Rhwygodd fy mhecyn briwgig. 

- - - - - - - 

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025  

10.12.25

Rhod y Rhigymwr -Hen Ŷd y Wlad

Wrth geisio cael trefn ar fy llyfrgell, fe ddes i ar draws nifer o hen gyfrolau bach difyr. Un ohonyn nhw ydy ‘Hen Ŷd y Wlad’ gan John Lloyd Jones [Llyfrbryf Meirion], Blaenau Ffestiniog - ‘Casgliad o Bert-Ddywediadau a Digrifion Hen Drigolion’. 

Daeth ei draethawd yn fuddugol yn Eisteddfod Gŵyl Dewi Eglwys Saesneg Blaenau Ffestiniog. Argraffwyd gan J. D. Davies & Co. Swyddfa’r Rhedegydd ym 1911. Mae fy nghyfaill Steffan ab Owain wedi manylu ar hanes y Wasg yma’n ‘Stiniog mewn ysgrifau diddorol sawl blwyddyn yn ôl.

Ym mhennod ola’r gyfrol fechan 55 tudalen, fe gawn yr hyn a eilw’r awdur yn ‘ddifyrion barddonol’ - nifer o englynion gan mwyaf ynghyd ag ambell bennill a rhigwm gan feirdd a rhigymwyr lleol.

Ymddengys fod yr hen gymeriad o fardd, Morris Jones - Meurig Elen, Tanygrisiau [fu farw ym 1883] yn un tra sydyn ei ymatebion, a hynny ar gynghanedd. Roedd o a thri chyfaill yn dod i fyny o Danygrisiau un pnawn Sadwrn pan oedden nhw’n adeiladu’r farchnadfa. 

Gwnaeth un o’r cyfeillion sylw am y farchnadfa pan atebodd Meurig efo’r cwpled yma:

‘Marchnadfa rad frad i fro,
Neu i ddiawliaid gribddeilio’.

Gofynnodd Evan Davies, Tŷ Hen i Meurig pan oedd o’n rybela un tro:

‘Ai rybela wyt ti Meurig
I ennill dy fara a’th gig?’

“Ia”, meddai Meurig,

‘Diofid ydwyf Evan, - er bawlyd
    Rybela ym mhobman;
‘Wy’n lluchio bob yn llechan,
Rhai’n grych, rhai gwych a rhai gwan’.

Soniais am William Williams - Gwilym Ystradau [1813-61] rai blynyddoedd yn ôl yn y golofn. Dyma ddau englyn o’i waith yng nghyfrol y Llyfrbryf:

I’r Enllibiwr
Hyll leban yw’r enllibiwr - gwenwynig
   Ei anian a’i gyflwr;
Di-ras yw - yn drahaus ŵr,
Dwfn ei fost, a fyn fwstwr.

Cybydd
Y cybydd beunydd a boena - ei ben
   I hel byd ac elwa;
Ei dduw ef ydyw ei dda
A dim wedi’r byd yma.

Bardd arall o’r cyfnod yma oedd William Jones - Alwenydd - mab Evan a Jane Edwards, Tŷ’r Ynys, Llan Ffestiniog. Bu yntau farw ym 1883 yn Rhiwbryfdir. Mae ganddo ddau englyn i Wraig Lot - y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis fel yr un a drowyd yn golofn o halen am iddi feiddio troi ei phen i edrych ar ddinistr Sodom a Gomora, er i Dduw rybuddio pawb rhag gwneud hynny:

Cofiwch Wraig Lot
Gwiriondeb peidio gwrando - rhybudd Iôr
   Er boddhad mawr iddo;
A dirwyn drwg drwy hen dro
Annoeth hynod wnaeth honno.

Ei chofio wneir tra chwyf nen - y miloedd
   Gymylau mewn wybren;
O! Mor chwith fu troi merch wen
Yn welw golofn halen.

Dyma englyn gan Lewis Edwards - Llewelyn Twrog [1832-61] i’r ‘tepot’. Rhaid cofio ein bod ni’n ôl yn y cyfnod pan ddodwyd y tegell ar y tân i ferwi dŵr - pan nad oedd sôn am y dyfeisiadau trydanol a ddefnyddir yn ein ceginau heddiw:

Tepot
Un i droi gwledd o’r dŵr glân - frwd depot!
   Hyfryd ‘dap’ y pentan;
Bochog ddarllawydd bychan
Yw’n trwytho te wrth y tân.

Bu Robert Jones [Robin Bryn Moel] yn ddirwestwr pybyr un tro. Ceisiodd un a alwai ei hun yn gyfaill iddo ei gael i newid ei feddwl, a mynd efo fo am beint i’r dafarn leol. Ond roedd Robin yn daer na thorrai ei ardystiad.  A dyma ei ateb efo’r englyn yma:

Ni cheisiaf fedd na’r gyfeddach - er blys
   I’th blesio di’r gelach,
Pe crefit lawer cryfach
Da’i sut ‘n y byd, satan bach.

Cynhwysir yr englyn Saesneg yma’n y bennod - englyn enwog Gwilym Deudraeth [1863-1940] - ‘bardd yr awen barod’. Dywed y Llyfrbryf i Gwilym adrodd yr englyn o’r maen llog tra’n traddodi anerchiad farddonol, pan udodd mul o gae cyfagos. O glywed hwnnw, torrodd y gynulleidfa oedd yn gwrando allan i chwerthin. Ar ôl iddyn nhw ddistewi, meddai’r cynganeddwr slic:

So well he sings his solo - in the field,
   With a full crescendo;
He does on end, as you know
A tender rallentando.

- - - - - -

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025



15.10.25

Dyddiadur Is-y-coed

Colofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Medi 2025

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn aros yn y cof am yn hir. Ces dreulio bron i wythnos lawn yn troedio’r maes eang a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau. 

Dydd Sadwrn, 2 Awst:
Fel hen fandar fu’n ceisio chwythu’r iwffoniwm ym Mand Corris ers talwm, cefais flas ar wylio cystadlaethau’r bandiau ar y teledu. 

Da iawn chi Seindorf yr Oakeley ar ddod yn ail yn eich dosbarth! 

Nos Sul, 3 Awst:
Er bod Aled ein mab hynaf yn perfformio ar lwyfan y maes gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc, dewis mynd i’r Gymanfa Ganu wnes i a gadael i Alwena a Rhydian fynd i gefnogi. 

Hoffais ddull di-lol Ann Atkinson o gyflwyno a chafwyd emynau a thonau oedd yn plesio’n fawr.

 

Dydd Llun, 4 Awst:
Bu’n rhaid codi’n fore i fynd i’r Orsedd, ac er mai yn y Pafiliwn y cynhaliwyd y Seremoni Urddo, roedd naws arbennig iddi dan arweiniad cadarn yr Archdderwydd Mererid. 

Mynychu darlith gan yr Athro Eurig Salisbury ar y bardd o’r 17eg ganrif - Huw Morys, Eos Ceiriog.
Croesawyd Prifardd newydd i’r llwyfan yn Seremoni’r Coroni - Owain Rhys o’r Tyllgoed, Caerdydd. Ei gasgliad o gerddi – ‘Adfeilion’ ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 28 o ymgeiswyr. ‘Casgliad yn cyflwyno darlun tyner o sefyllfa sy’n wynebu cymaint o deuluoedd heddiw’ ydy’r casgliad yma’n ôl un o’r beirniaid, Ifor ap Glyn. Canu am ei fam, sydd bellach yn gaeth dan rwymau dementia wnaeth y bardd. A’r ‘fam’ arbennig honno ydy Manon Rhys - enillydd Medal Ryddiaith Prifwyl Wrecsam 2011 a Choron Prifwyl Maldwyn a’r Gororau 2015.

Dydd Mawrth, 5 Awst:
Dewis dilyn yr Eisteddfod ar y teledu wnes i, a rhaid ydy canmol yr arlwy. Roedd Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris, ynghyd â Nia Roberts - y tri mor brofiadol bellach - yn cyflawni eu gwaith yn broffesiynol. Rhaid canmol Tudur Owen yn fawr hefyd

Dydd Mercher, 6 Awst:
Methu cyrraedd rhagbrawf yr unawd cerdd dant dan 21 oed mewn pryd oherwydd y traffig, ond cawsom gyfle i wrando ar ddatganiad Elain Iorwerth (Trawsfynydd) ar y llwyfan ac ymhyfrydu’n ei llwyddiant yn cipio’r wobr gyntaf am gyflwyno ‘Yn Genedl Drachefn’ ar y gainc ‘Gwyrfai

Derbyn croeso yng nghynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y prynhawn pryd y dyfarnwyd Gwobr Goffa Eilir i academydd dan 40 oed am gyfraniad nodedig i faes y gwyddorau ac addysgu’r gwyddorau drwy’r Gymraeg. 

Dydd Iau, 7 Awst:
Mynychu cyfarfod yn y Tŷ Gwerin i anrhydeddu Mair Carrington Roberts. Mwynhau gwrando ar bedwarawd yn cyflwyno geiriau a gyfansoddais i Mair pan dderbyniodd Fedal Goffa T. H. Parry-Williams ym Mhrifwyl y Fenni yn 2016. Dyma ddetholiad: 

Ar aelwyd ddiwylliedig
Ym mhentre’r Gwynfryn gynt,
‘Roedd seiniau cân i’w canfod
Yn gordiau ar y gwynt;
Amlygwyd lle i gainc a gair,
Ac etifeddu hyn wnaeth Mair.

Ei medrau fel athrawes
Oedd gadarn fel y graig,
I’r Alban ac i Loegr
Y cariodd ‘dân y Ddraig;’
A phan ddychwelodd i’w hen dre
Rhoes fri i’r ‘Pethe’ yn y lle.

Llwyddiannau cenedlaethol
Yn gyson ddaeth i’w rhan,
Gwnaeth graen ei beirniadaethau
Argraff mewn llawer man;
Manteisiodd y rhai hŷn a phlant
Ar faint ei dawn ym maes cerdd dant.

Fe’i hanrhydeddir heddiw
Ar lwyfan ein Prif Ŵyl,
A braint i ninnau ydyw
Cael uno yn yr hwyl, 
A chael cydnabod yr holl waith
Gyflawnodd Mair dros gyfnod maith.

 

Dydd Gwener, 8 Awst:
Eto, oherwydd traffig trwm, bu i ni fethu â chyrraedd rhagbrawf y triawdau/pedwarawdau cerdd dant agored mewn pryd, ond bu i ni lwyddo i glywed y rhai ddaeth yn fuddugol – Ceri, Ruth a Siriol. Y darn prawf eleni oedd geiriau a gyfansoddais yn ôl ym 1977 ar ôl gwylio’r rhaglen ‘Children’s Pictures of God’. Fe’i gosodwyd ar y gainc ‘Gelli Lenor’ gan Einir Wyn Jones - un o blant Cwm Teigl: 

Pan baentio’r gwanwyn wyrdd yn nail y coed
A’r blodau’n garped lliwgar dan fy nhroed,
Pan brancio’r ŵyn ar hyd y twyni iach
Daw i mi lun o Dduw fel plentyn bach.

Pan daflo’r haul ei gyfoeth dros y tir
Yn fantell aur o erwau’r wybren glir;
Pan welaf lawnder haf yn llysiau’r ardd
Caf lun o Dduw fel llencyn ifanc, hardd.

Pan ddelo’r gwyll i ‘sbeilio ‘sblander pnawn,
A chnau y cyll yn eu cwpanau’n llawn,
Pan grino dail y deri dan fy nhroed
Fe fydd fy Nuw bryd hynny’n ganol oed.

Ond pan ddêl eira fel conffeti gwyn
I wledd briodas deg y ddôl a’r bryn,
A’r iâ i roddi bollt ar gân y dŵr,
Bydd Duw â’i farf yn llaes fel rhyw hen ŵr.         

Trefnais i gyfarfod â’m cyfaill Simon Chandler [Seimon ap Lewis] yn y fan ymgynnull yng nghefn y llwyfan cyn y Cadeirio.

Roedd y profiad o gael bod yn bresennol yn yr Orsedd i’r seremoni honno eleni’n un hynod o emosiynol pan gododd y bardd buddugol, Tudur Hallam, Foelgastell, Sir Gaerfyrddin ar ei draed. Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn – ‘Dinas’ osodwyd yn destun. Yng ngheiriau Peredur Lynch, un o’r beirniaid, ‘fe ganodd gân o ddyfnderoedd isaf ei fod, a llunio awdl na ddymunasai erioed ei llunio’. Mae un arall o’r beirniaid, Llŷr Gwyn Lewis yn canmol y bardd ‘am ei ddewrder, ei onestrwydd, ei genadwri inni o le mor arswydus ac unig a fydd yn gysur calon i rai sydd yn mynd drwy brofiadau tebyg i’r eiddo ef ei hun.’

Dydd Sadwrn, 9 Awst:
Daeth naw o gorau meibion i’n diddanu ar y prynhawn Sadwrn olaf – ac yn eu plith, Côr y Brythoniaid dan arweinyddiaeth John Eifion. Er na ddaeth llwyddiant y tro yma, credaf iddyn nhw lwyddo i gyflwyno rhaglen amrywiol a heriol. 

I gloi gweithgarwch wythnos orlawn, pleser fu cael eistedd yn y Pafiliwn i fwynhau’r Epilog gyda John’s Boys a chantorion ifanc disglair eraill. 

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025




7.2.25

Rhod y Rhigymwr- Englyna

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan, o rifyn Rhagfyr 2024

Fe fydda i wrth fy modd yn cael cyfeillion caredig yn ymateb i gynnwys fy ngholofn. Yn Rhod Medi, cyfeiriais at lwyddiant y Prifardd Carwyn Eckley ym Mhrifwyl Rhondda Cynon Taf, a sôn am yr ymwneud gefais gyda’i dad-cu, Martin, yn ôl yn y 1970au pan oedd yn olygydd Llais Ardudwy. Derbyniais neges hyfryd gan Margaret, gweddw Martin. Cynhwysai’r neges yr englyn y bum yn chwilio amdano - yr un o waith hen dad-cu Carwyn, y Parch. D. Lewis Eckley:

YR HEN BLADUR

Darfu’r dur, ni thyr flaguryn, - mae’n gul,
Mae’n gam, daeth i’r terfyn;
Bladur glaf, gwawd blodau’r glyn,
Gwledd i rwd ar glawdd rhedyn.

Pe bawn wedi chwilio drwy gyfrolau barddoniaeth fy silffoedd llyfrau’n fanylach, byddwn wedi dod ar ei draws yng nghyfrol ddefnyddiol Dafydd Islwyn - ‘100 o Englynion’ [Cyhoeddiadau Barddas  2009].

Cwestiwn a ofynnwyd i mi’n ddiweddar wrth drafod y modd y bydda i’n ceisio gweithio englynion tra’n mynd i gerdded oedd “Sut bod yr awen yn dod mor rhwydd i ti? Mae’n rhaid dy fod ti’n fardd,” meddai’r cyfaill.

Fyddwn i ddim yn dweud hynny. 

Cofiaf eiriau’r Athro Peredur Lynch wrth ymateb i gwestiwn tebyg yn y gyfrol ‘Ynglŷn â Chrefft Englyna’ ym 1981:

“Nid oes angen bardd i wneud englyn cywir ... mater o amynedd ydyw, ac ar ben hynny mater o ymarfer ... mae angen rhyw nerth neu bŵer i drawsnewid yr englyn peiriannol yn farddoniaeth, newid y talp o oerni yn rhywbeth byw, hardd. ‘Awen’ sydd eisiau ... Ar ôl cyrraedd y stad yma sylweddolir bod englyn yn rhywbeth anhraethol fwy na mater o sodro geiriau mewn rhyw drefn arbennig.”

Englynion byrfyfyr fydd fy rhai i’n amlach na pheidio, a theimlaf mai sodro geiriau mewn trefn fydda i. Y gamp ydy cael englyn i redeg yn rhwydd ac i fod yn ddealladwy i’r darllenydd.

Dyma ddau ddaeth i mi’n bur sydyn yn ddiweddar:

19/11/2024 - Eira cynta’r gaeaf.  Erbyn y prynhawn, troes yn sych a braf i mi fynd i gerdded. Mae’r englyn byrfyfyr yn rhestru fy arsylliadau ...

Haenau eira hyd y mynydd a chynfas oer ar rosydd

 

Mae haenau hyd y mynydd - o eira,
   Cynfas oer ar rosydd;
Haul gwan yn goleuo gwŷdd
A dŵr llyn yn dra llonydd.



A thra’r oedd ‘Storm Bert’ yn ei hanterth, daeth hwn:

STORM ‘BERT’ ... bore Sadwrn - 23/11/202

Ag oerwynt ‘Bert’ yn gyrru - ni allaf
Bellach geisio cysgu,
Yn ias hwn, cynhesrwydd sy’
I’w gael dan ddŵfe’r gwely.

Haul gwan yn olau drwy goeden; a'r gelynen sydd hanner ffordd rhwng yr Atomfa ac Argae Newydd Maentwrog

Dyma gerdd fu’n troelli’n fy mhen, ar fesur yr hir a thoddaid: 

I’R GELYNEN - y cerddaf heibio iddi ar fy nheithiau dyddiol.
[Noder mai ar y goeden fenywaidd y gwelir aeron

Goeden y celyn a’i gwaed yn ceulo
Yn beli bach rhudd, - brech i’w gorchuddio,
Yn oer ei brigau wedi’r barugo
A’i dail gwyrdd pigfain, caled yn sgleinio;
Ac wrth i hwyl ei Ŵyl O - ddod yn nes
Ar aelwyd gynnes caiff wres a chroeso.



14.12.24

Rhod y Rhigymwr -Af ymaith ar daith bob dydd

Rydw i’n gwbl argyhoeddedig fod mynd allan i gerdded yn ddyddiol nid yn unig yn gwneud lles i’r corff, ond yn llesol i’r meddwl hefyd. Mae’r holl arbenigwyr meddygol y cefais ymwneud â nhw’n ystod y flwyddyn yn cytuno efo fi gant y cant. 

Ar ôl fy nhriniaeth ddiweddaraf, roeddwn yn benderfynol o barhau â’r cerdded, gan ddechrau efo siwrneiau byr, a chynyddu’n raddol fel y byddai’r corff yn caniatáu. Roedd y llawfeddyg yn Llundain wrth ei fodd yn clywed hynny pan gefais air ag o i drafod fy natblygiadau ôl-driniaethol yn ddiweddar. Pwysleisiodd y byddai’r corff a’r meddwl yn elwa’n fawr. 

Un agwedd o’r lles meddyliol na allwn drafod ag o oedd mod i’n gosod tasg feddyliol i mi fy hun bob dydd bron ... ceisio gweithio englyn. Dyma’r cyntaf ddaeth i mi ganol Medi:

AM DRO

Rhag bod yn berson llonydd - yn y tŷ,
Os teg fydd y tywydd
Af ymaith ar daith bob dydd
Fy hun hyd Lyn Trawsfynydd.

Dros y canrifoedd, bu tymor yr hydref yn cynnig ei hun yn destun i feirdd. O weld y dail crin yn pentyrru mewn ffosydd a than draed hyd y ffyrdd, gweithiwyd yr englyn yma:

DAIL HYDREF

Â’r deiliach yn crebachu - yn y ffos
A hyd ffordd yn pydru,
Ar ras wyllt ‘rhen Forys hy
Gara’r hwyl o’u sgrialu.

Dail hyd y ffordd yn aros am Forys y Gwynt i’w sgrialu, a Choelcerth y perthi

A hithau’n tynnu at ddiwedd Hydref, roedd yr olygfa o bobtu’r lôn i fyny at Argae Newydd Maentwrog yn wledd i’r llygad. Wrth syllu ar y dail rhydlyd ar goed a pherthi, a hithau’n dynesu at Galan Gaeaf a Noson Guto Ffowc, dychmygais weld coelcerth. Gyda’r dail yn tynnu at ddiwedd eu hoes yn y fflamau, ni allwn ond edrych ymlaen yn obeithiol, a gweld fod yna her yn ei hwynebu. Ymhen rhyw hanner blwyddyn, daw gwreichion newydd i frigau’r perthi a chânt eu haileni eto.

Fel y dywedodd R. Williams Parry’n ei awdl enwog: ‘Marw i fyw mae’r haf o hyd’:

COELCERTH

Hardd yw coelcerth y perthi - a dail rhwd
Ola’r haf amdani;
Mae her yn ei fflamau hi
I wanwyn yr aileni.

Mae gweld rhywbeth, boed yn fyw neu mewn llun, yn gallu ennyn yr awen mewn prydydd. Mae camera’r ffôn symudol mewn poced yn declyn mor ddefnyddiol i’r sawl sy’n crwydro’n yr awyr agored. Ar un o’m teithiau diweddar, ceisiais blethu’r disgrifiadau yma’n englyn ar ôl gweld effaith Hydref ar dair coeden:

WEDI’R FRWYDR

Gweld archoll ar wisg collen, - ing a loes
Yng ngleisiau masarnen,
Clystyrau briwiau ar bren -
Filoedd ar griafolen.

Archoll collen; Cleisiau masarnen; Clystyrau briwiau’r pren criafol

Ond er mor dlws ydy aeddfedrwydd Hydref, mae yna hagrwch i’w weld ynddo hefyd:

HAGRWCH HYDREF

Yn nhyfiant fy nghynefin - â drain gwyllt
Hydre’n gwau’n anhydrin,
Aceri hyll rhedyn crin
Rythant ar flodau’r eithin.

Os gwelais i ddarluniau amrywiol Hydref yn fy nghynefin, daeth Simon ap Lewis ar eu traws mewn rhan arall o Ynysoedd Prydain. Fe ymwelodd o â Gardd Harlow Carr, gerllaw tref Harrogate, yng Nghogledd Sir Efrog yn ddiweddar, ac anfon i mi lun o’i harddwch ynghyd ag englyn pwrpasol i gydfynd â hynny:

Rhedyn crin yn rhythu ar flodau’r eithin; Harlow Carr hydrefol

GARDD HARLOW CARR HYDREFOL

I'r hesb cynigia ryw ysbaid, dilyw
o'i deiliant, coed euraid,
dofi'r lliw a dyf o'r llaid,
su sy'n ynys i'r enaid.

- - - - - - - - - 

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan, o rifyn Tachwedd 2024.

Mae Iwan hefyd yn gosod tasg farddonol bob mis; prynwch gopi o Llafar Bro er mwyn cymryd rhan!

Lluniau Iwan Morgan

 

1.10.24

Rhod y Rhigymwr- Blodau Gwyllt

Wrth geisio parhau â’m teithiau cerdded dyddiol ac anelu at gyflawni’r 10,000 o gamau i fyny at Argae Newydd Maentwrog ac yn ôl, mae sylwi ar y blodau gwyllt o bobtu’r ffordd wedi ennyn rhyw ddiddordeb newydd ynof. Mae camera fy ffôn i-dot wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd dwytha’n tynnu ugeiniau o luniau. 

Cyfyng iawn fu fy ngwybodaeth am flodau mwyaf cywilydd i mi. Eto, fe fyddwn i wrth fy modd yn mynd â’r plantos allan o rigolau’r stafell ddosbarth i astudio byd natur yn ystod fy nghyfnod hir yn y byd addysg. 

Maes astudiaeth fy nhraethawd ymchwil pan oeddwn yn ymgeisio am fy ngradd oedd ‘Yr Amgylchfyd fel Man i Ddysgu’. Wrth ei gyflwyno i gael ei asesu, gweithiais yr englyn canlynol:

Er mai rhan fechan o fyd - yw y fan
Alwaf i’n amgylchfyd,
Yn fy awch, dysgaf o hyd
Ac elwa ar y golud. 

Daeth yr englyn yn ôl i gof sawl gwaith yn ystod fy nghrwydriadau. A diolch am gyfrol fechan John Akeroyd a addaswyd mor wych i’r Gymraeg gan Bethan Wyn Jones - ‘Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain’ [Gwasg Carreg Gwalch 2005], rydw i wedi cael modd i fyw yn chwilio am y blodau a gipiwyd ar gamera fy ffôn. 

Onid ydy’r enwau Cymraeg ar y rhain yn swyno clust ... y goesgoch, helyglys, clych yr eos, blodyn y gwynt, crafanc y frân, crinllys, pig yr aran, llaeth y gaseg, llygad doli, troed yr iâr a llawer, llawer mwy.

Mae’n siŵr i Williams Pantycelyn, wrth farchogaeth hyd gefn gwlad Cymru ar ei deithiau pregethu mynych ynghanol y 18fed ganrif, gael ei wefreiddio gan y lliwiau amryliw oedd yn harddu cloddiau ac ochrau’r ffyrdd. Cyfeiriodd yn un o’i emynau at y ‘blodau hyfryd fo’n disgleirio dae’r a nef’. Wrth i minnau sylwi a rhyfeddu tra’n cerdded, meddyliais am feirdd a ganodd am flodau a cheisiais gofio rhai o’r cerddi.

Clychau'r gog; rhosyn gwyllt; blodau'r gwynt; mefus gwyllt. Lluniau Iwan M

Mae’r mefus gwyllt wedi bod yn llu hyd ochrau’r ffordd, ac ers tro bellach, mae’r rhosyn gwyllt yn ymwthio drwy’r cloddiau hefyd. Pryddest Cynan [1895-1970]  ‘Mab y Bwthyn’ ddaeth i’m cof, a’i hiraeth am Gwen, Tŷ Nant:

Gwen annwyl, tyred dithau’n ôl
I’r lle mae hedd ar fryn a dôl ...
A chei yng nghartre’r geifr a’r myllt
Ogoniant Duw mewn RHOSYN GWYLLT.

Ac eto:

A chei y MEFUS GWYLLT yn fwyd
I roddi lliw ar ruddiau llwyd.

Cofio wedyn am lais tenor unigryw y datgeinydd cerdd dant o Rydymain, William Edwards [1888-1957] yn cyflwyno ‘Fy Olwen I’ gan Crwys [1875-1968] - a’r cwpled:

Ond beth tase dwylo f’anwylyd mor wyn
Ag ANÉMONI ffynnon y coed.

Yna’r diweddar Aled Lloyd Davies [1930-2021], brenin cerdd dant, yn dehongli mor feistrolgar delyneg I. D. Hooson [1880-1948] - ‘Yr Hen Lofa’: 

Fe ddaeth rhyw arddwr heibio
I wisgo’r domen brudd
 rhoncwellt tal a rhedyn,
A BLODAU PINC eu grudd.

Mae deunod y gog bellach wedi hen ddistewi, a’i chlychau wedi diflannu. Ond trwy fis Mai, bum yn adrodd geiriau R. Williams Parry [1884-1956] am ‘glychau’r gog’ wrthyf fy hun:

Y gwyllt, atgofus bersawr,
Yr hen lesmeiriol baent.
Cyrraedd, ac yna ffarwelio,
Ffarwelio - och na pharhaent.

Cyfrol fechan a gyhoeddwyd yn Hydref 1947 ydy ‘BLODAU’R GWYNT’ gan Arthur Gwynn Jones o Fro Hiraethog. Dyma fardd swynol ei drawiad a ganodd lawer am fyd natur.  Mae’n llawn edmygedd o’r blodau a roddodd deitl i’w gyfrol. Iddo ef, fel i Crwys, mae gwynder yr anémoni yn destun i ganu amdano. 

Yn y pennill ola, mae’n enwi nifer o flodau eraill y gwyddai amdanyn nhw - ond yn ei dyb o, dydyn nhw ddim i’w cymharu â blodau’r gwynt:

Pan fyddo’r hwyr yn wridog
A balm ar lif pob gwawr,
A grŵn y gwenyn oriog
Yng ngwyrdd y ffawydd mawr;
Bryd hynny af yn ysgafn droed
I weld eich dawns yn Nhy’n-y-coed.

Angylion bach y gweunydd,
A swyn yr hafau ffri,
Dihalog fel y wawrddydd,
Mor lân ag ewyn lli;
Drachefn yr af yn ysgafn droed
I nef y llwyn yn Nhy’n-y-coed.

Mi wn am FLODAU’R DARAN,
A môr o DDAGRAU MAIR,
A CHLUST YR ARTH a’r SURAN,
Ond cred fi ar fy ngair;
Mi af yn ysgafn iawn fy nhroed
I nef y llwyn yn Nhy’n-y-coed.

- - - - - - - - - - -

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024



27.5.24

Rhod y Rhigymwr -Llyn Trawsfynydd

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2024

Diolch i Keith O’Brien am ymateb i’m sylwadau am Lowri William, Pandy’r Ddwyryd yn rhifyn Mawrth ac am anfon llun i nodi ei leoliad. Diddorol hefyd oedd cael darllen ei ysgrif ‘Hanes Llyn Trawsfynydd’ ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Llawrplwy a Phenstryd yn 2005. 

Dyma’r cofnod a welir yno:

“Pandy’r Ddwyryd - bwthyn croglofft oedd hwn gyda’r bondo’n union uwchben y drws, a chydag un ffenestr fach i’r chwith o’r drws. Roedd corn simnai ar dalcen chwith yr adeilad efo estyniad ‘lean-to’ yn gysylltiol iddo. Ym mhlwyf Maentwrog, ger y prif argae safai Pandy’r Ddwyryd ...”

A dyma bennill o gerdd a gyfansoddwyd gan Rolant Wyn, oedd yn ewyrth i Hedd Wyn, a hynny pan foddwyd y Gors Goch ymron i ganrif yn ôl:

Llyn Trawsfynydd

O bont Trawsfynydd estyn
I Bandy'r Ddwyryd bell,
A boddir hyll fawnogydd
Na haeddant dynged well:
Rhyw Fôr Canoldir newydd
A fydd ei donnog ru,
Yn cyrraedd Gellilydan
Fel atsain megnyl lu.

Ar Nos Fawrth, 26 Mawrth fe ges i’r fraint o annerch Cymdeithas Cymry Lerpwl a chael croeso twymgalon gan yr aelodau. Testun y sgwrs oedd ‘Gair a Chainc’ a’r bwriad oedd sôn am yr hyn enynnodd ddiddordeb oes ynof mewn cerdd dafod a cherdd dant. Ces gyfle hefyd i gyflwyno recordiadau amrywiol - nifer ohonyn nhw o’r rhai y bum yn llunio cerddi a gosodiadau ar eu cyfer dros y blynyddoedd.

Evan Rees (Dyfed)
Pan oeddwn i’n fachgen 7 oed, cofiaf ŵr lleol yn dod i ymarfer ei gyfalaw ar aelwyd fy nghartref yng Nghorris, a Mam yn canu’r piano iddo. Yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ym 1958, daeth Hugh Morris o Gorris ac Idwal Vaughan o Abercegir, Bro Ddyfi yn fuddugol ar y Ddeuawd Cerdd Dant Agored. Un o’r ddau ddarn a osodwyd oedd Detholiad o Awdl ‘IESU O NASARETH’ [Dyfed] ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago [1893].

Yn Lerpwl, fe ges i gyfle i sôn am yr hyn a glywais yn blentyn, ac am y dylanwad gafodd ar fy meddwl ifanc. Ces wedyn chwarae recordiad o Hugh Morris yn cyflwyno’r detholiad ar y gainc ‘Eifionydd’, a gymrwyd oddi ar y tâp sain ‘Canu’r Pensiynwr’ a wnaed ym 1979.

Rydw i’n parhau i geisio cynnal fy ffitrwydd, ac wrth gerdded i fyny at Argae Maentwrog ar fore Gwener y Groglith, daeth geiriau awdl Dyfed yn fyw i’r cof. Ar ôl dros drigain-a phump o flynyddoedd, mae sain cynganeddion cryf yr awdl a’r modd y cyflwynwyd nhw mor glir gan y datgeinydd ynof o hyd.

Ni chynhaliwyd Cymun Bore’r Groglith ym Methel eleni, ond ar fore o wanwyn mwyn, y blagur yn dechrau modrwyo’r llwyni o amgylch y ffordd a’r adar bach yn trydar yn afieithus tra’n paratoi at fagu teulu, teimlais fy mod innau mewn cymundeb â natur. Daeth digwyddiadau’r Groglith i’r meddwl. Cofio’r clogyn ysgarlad, y goron ddrain, y gwatwar a’r poeri a’r croeshoelio yn Golgotha:

O lys i lys dacw’r annwyl Iesu
Yn troi ei wyneb yn sŵn taranu,
Duon drueiniaid yn ei drywanu,
A gwerin ogylch yn ysgyrnygu;
Daliodd gan ymdawelu – ymhob llys,
A’i ewyllys yn rhwymo’i allu.

Tua’r bryn, yn wyn ei wedd,
Arweinia’r dorf ddi-rinwedd
Y dengar ŵr, dan ei groes
Erwinol, tra’n hwyr einioes
Yn ymgrynhoi am gâr nef,
A’i ddydd yn ddu o ddioddef.

Dacw fy Mhrynwr ar dŵr blinderau
O dan yr hoelion, a’i dyner hawliau
Dan draed ynfydion, geirwon gyhyrau,
Gwŷr a delorent uwch gwae’r doluriau.
Tawel iawn oedd telynau – angylion,
A sŵn yr hoelion yn synnu’r heuliau.

Pwyllir paganiaid pella’r pegynau,
I’r rhai a neidiant, dofir eu nwydau,
Er lles, newidir eu holl syniadau,
A’u parch i’w gilydd mewn purach golau;
Dwyn y groes yn eu grasau - digymar
A leinw ddaear yr eilun dduwiau.

Ac yn eu bedd cyn bo hir
Duwiau gloddest a gleddir.
Duw-ddyn ga’i anrhydeddu – yn Frenin
Cyfriniol pob gallu;
Cynnwys a thestun canu – y miloedd
Trwy hanes oesoedd fu teyrnas Iesu.

I dy ras, Geidwad Iesu, - drwy y niwl
Dyro nerth i gredu,
A rho fodd i ryfeddu, - prydferthion
A gwerth y goron a geir o’th garu.
A chlodfawr uwchlaw adfyd,
Mi ganaf mwy! – Gwyn fy myd!


12.5.24

Rhod y Rhigymwr- Pandy'r Ddwyryd

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2024

Do, fe fu’r gaea’ dwytha ‘ma eto’n un hir, ac fe dreuliais innau ran helaeth iawn ohono’n eistedd yn fy nghadair yn y stafell fyw neu’n y gadair o flaen fy nghyfrifiadur. Wrth edrych ar luniau ar y sgrîn ohona i’n cerdded yn fy milltir sgwâr chwe blynedd yn ôl, dyma benderfynu fod yn rhaid i mi ddechrau symud eto. Daeth i gof y teithiau pleserus a meddwl pa mor llesol i’r corff a’r meddwl fyddai ceisio ail-gydio’n rhai o’r teithiau hynny ... ond ar raddfa dipyn llai, gan mod i wedi hen groesi oed yr addewid bellach.

Mynd â’r car i fyny drwy’r Atomfa fydda i rwan. Parcio islaw Craig Gyfynys, yna cerdded i fyny’r ffordd dar am y brif argae. Yn ymyl yr argae yma, roedd Pandy’r Ddwyryd. Fel sawl tŷ annedd yn yr ardal yma, aeth hwn dan ddŵr llyn pan godwyd pedair argae i gyflenwi Pwerdy Maentwrog rhwng 1924 a 1928.

Safle dybiedig Pandy'r Ddwyryd

Yno, ym 1755 y sefydlwyd ‘Achos yr Wyth Enaid’. Dyma achos cynta’r Methodistiaid ym Meirionnydd. Fe’i sefydlwyd gan wraig hynod iawn o’r enw Lowri William, a ddaeth yma o Bandy Chwilog ym mhlwyf Llanarmon, Eifionydd gyda’i gŵr, John Prichard. 

Lowri a John a chwech arall oedd yr ‘Wyth Enaid’ gwreiddiol. Datblygodd yr addolwyr wedi hynny a chael eu hadnabod fel ‘Teulu Arch Noa’. Aelodau’r teulu hwnnw ynghyd â Lowri a John oedd Edward Roberts y gwehydd a Jane, ei wraig; Robert Roberts, brawd Edward a Gwen, ei wraig; John Humphreys, Gwylan ac Ann ei ferch; Gwladus Jones, nith Lowri William; Griffith Ellis, Penyrallt, gerllaw Harlech; Jane Thomas, Ogoflochrwyn, Llanfrothen; Martha, gwraig dilledydd o Ffestiniog; Margaret Ellis, Ty’n y Pant, Llandecwyn ac Elisabeth, Tyddyn Siôn Wyn, Talsarnau. Mewn cyfnod pryd yr erlidiwyd y Methodistiaid, mae’n debyg i’r crefyddwyr cynnar yma deimlo’n gwbl ddiogel yn addoli mewn lle anghyfanedd ac anghysbell fel Pandy’r Ddwyryd. 

Bu farw Lowri William yn Ionawr 1778, a’i chladdu yn Eglwys Maentwrog ar 27 Ionawr. Roedd hi’n 74 oed. Dridiau’n ddiweddarach, claddwyd John Pritchard ei gŵr. Roedd o’n 78 oed. 

Yn y tawelwch uwchlaw lle mae safle tybiedig Pandy’r Ddwyryd yn nyfroedd Llyn Trawsfynydd, fe fum i’n ceisio dychmygu’r angerdd fu ar yr aelwyd yno yn nyddiau Teulu Arch Noa. Mae’r hynodrwydd hwnnw bellach wedi hen ddiflannu i ddŵr y llyn:

Hen seiniau’r brwd ‘Hosanna’ - ar aelwyd
Lowri William yma;
Yn y llyn hwn, colli wna
Rhyfeddod y crefydda.

7.1.24

Rhod y Rhigymwr- Elfed ac Elfyn

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Mewn rhifyn diweddar o’r Llafar, cyfeiriwyd at daith gerdded y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn o Fangor i lawr i’r Senedd yng Nghaerdydd - i dynnu sylw at yr angen i gael cyswllt trên rhwng y ddwy ddinas, a hynny heb orfod mynd allan o Gymru. Nodwyd fod Elfed ‘yn dipyn o ymgyrchydd’ a bod ‘ei fys ar byls popeth o bwys sy’n ymwneud â’n hunaniaeth fel Cymry.’  

Am ei waith diflino, teimlais fod Elfed yn haeddu englyn, a dyma’i roi ar facebook ychydig wythnosau’n ôl. Da clywed ei fod ‘yn teimlo’n freintiedig o’i dderbyn.’ Chwarae teg iddo!

I ELFED WYN AB ELWYN, TRAWSFYNYDD. Cymro, gwladgarwr, ymgyrchydd, gweithredwr a chynghorydd sir.

Gwarchod a wna’r ymgyrchydd – a rhodio’n
     Weithredwr aflonydd;
Elfed Wyn ab Elwyn bydd
I Walia yn symbylydd.

Ymgyrch arall y bu Elfed yn weithgar trosti oedd yr un i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n prynu Sycharth, a’i fod yn cael ei osod ym mherchnogaeth pobl Cymru. Dyma, mae’n fwy na thebyg, y man y ganwyd Owain Glyndŵr - y Cymro brodorol olaf i gael ei gydnabod yn Dywysog Cymru. Lleolwyd Sycharth ger pentref Llansilin, yng ngogledd yr hen Sir Drefaldwyn - yn agos iawn i’r ffin â Lloegr. Dyma’r llys fu’n gartref i dywysogion Powys Fadog. Rhwng 1400 a 1415, arweiniodd Owain wrthryfel i geisio sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Un o gywyddwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol cyfnod Beirdd yr Uchelwyr oedd Iolo Goch [c.1325 – c. 1398]. Credir iddo gael ei eni yn nhrefgordd Lleweni, ym mhlwyf Llanefydd, i’r gogledd orllewin o dref Dinbych. Erys disgrifiad Iolo o Lys Owain yn Sycharth yn glasur hyd y dydd heddiw. Dyma ddyfyniadau ohono:

Llys barwn, lle syberwyd,
lle daw beirdd aml, lle da byd.
Llyna y modd a'r llun y mae:
mewn eurgylch dwfr mewn argae.
Tai nawplad fold deunawplas,
tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
mae'i lys ef i nef yn nes.
To teils ar bob tŷ talwg,
a simnai ni fagai fwg.
Pob tu'n llawn, pob tŷ'n y llys,
perllan, gwinllan, gaer wenllys.

Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran a gwair,
ydau mewn caeau cywair.
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
a'i golomendy gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
a fo rhaid i fwrw rhwydau.

Anfynych iawn fu yno
weled na chlicied na chlo,
na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
ni bydd eisiau budd oseb,
na gwall, na newyn, na gwarth,
na syched fyth yn Sycharth.

Cyflwynwyd petisiwn, a arwyddwyd gan dros 10,000 o bobl i’r Senedd ar 13 Medi, ond ymddengys, ar hyn o bryd, na all y Llywodraeth brynu’r safle. Parhaed Elfed a’i gyd-ymgyrchwyr i bwyso a phwyso.

Elfed ac Elfyn

Derbyniais englyn arbennig eto gan SIMON CHANDLER ... un er clod i (ac er cof am) ROBERT OWEN HUGHES [ELFYN ... 1858-1919], y bardd lleol a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog ym 1898 am ei awdl i’r ‘Awen’…

ROBERT, MAB Y FRO

O’i phridd eginodd ei ffrwyth a gurodd
     â geiriau llwyr esmwyth.
Bu’n gynsail, dail i’w dylwyth;
adeg aur oedd naw deg wyth.


Mae’r defnydd o’r gair ‘dail’ yn y drydedd linell yn gyfuniad o ddail blodau a thudalennau o’i farddoniaeth.

- - - - - - - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2023






3.11.23

Rhod y Rhigymwr- Olyniaeth

Cyfres Iwan Morgan, y tro hwn o rifyn MEDI 2023

Dyma hi’n fis Medi unwaith eto, a’r amser wedi cyrraedd i fwrw golwg ar gynhaeaf toreithiog Prifwyl lwyddiannus arall. Mae’n siŵr i rai ohonoch chi’r darllenwyr gael treulio ychydig ddyddiau difyr ar Faes Boduan, ac yfed o win croeso trigolion Llŷn ac Eifionydd. 

Hyfrydwch i mi fu cael gwasanaethu fel beirniad yn yr adran cerdd dant unwaith yn rhagor. Cefais fodd i fyw yn tafoli chwech o gystadleuthau, a’r cerddi a ddewiswyd gan y Panel Lleol, dan gadeiryddiaeth Einir Wyn Jones, Penrhos ... [un o blant ein bro ni] ... yn rhai mor amrywiol a chanadwy. 

Y dasg osodwyd i’r partïon agored oedd cyflwyno cywydd grymus y diweddar Gerallt Lloyd Owen i Dryweryn, a daeth chwe pharti i ymgiprys am Gwpan Coffa Llyfni Huws a £300. Mae’r cywydd yma, a gyfansoddwyd bron i ddeugain mlynedd yn ôl, mor berthnasol heddiw, pan glywn ni am dai’n ein cymuned yn cael eu gwerthu i estroniaid am brisiau uwch na all trigolion lleol eu fforddio. Drwy foddi Capel Celyn, un o’r cymunedau uniaith Gymraeg olaf, does dim syndod i’r hanes yma ddod yn symbol o’r bygythiad i barhad ein cymunedau Cymraeg traddodiadol. Llwyddwyd i gyfleu hyn mewn metaffor pwerus ac emosiynol yng nghywydd treiddgar Gerallt:

Nid oes inni le i ddianc,
Nid un Tryweryn yw’n tranc,
Nid un cwm ond ein cymoedd;
O blwyf i blwyf heb na bloedd
Na ffws y troir yn ffosil
Nid un lle ond ein holl hil.
Tywysir ni i ganol y cymunedau sydd dan warchae drwy ddefnyddio delweddau hollol addas:
Boddir Eryri’r awron,
Nid ynys mo Ynys Môn.
I dir Llŷn daw’r lli anial
Heb angor Dwyfor i’n dal
Wrth harbwr iaith, wrth barhad
A thirwedd ein gwneuthuriad.
Fesul tŷ nid fesul ton
Y daw’r môr dros dir Meirion ...
meddai un o gwpledi mwyaf cofiadwy’r cywydd.
Yn niflaniad Capel Celyn, mae’r syniad o’n darfodedigrwydd ni fel cenedl yn hollol amlwg.
Môr o wacter Cymreictod,
Môr na bydd un Cymro’n bod
meddai wrth ddisgrifio’r dilyw a ddaw i orlifo’n cymunedau a ‘diwreiddio’n daearyddiaeth’ fesul tyddyn.

A chawn yn y llinellau cyferbyniol canlynol enghraifft o gyfleu trallod cymunedau mewn ieithwedd syml:
Yn y Llwyndu mae Llundain,
Mae acen Bryste’n Llwyn Brain,
Lerpwl, mwy, sy’n Adwy’r Nant,
Manceinion ym Mhenceunant.
Does dim dwywaith nad oedd Gerallt yn un o feirdd Cymraeg mwya’r ugeinfed ganrif a dechrau’r ganrif bresennol, ond ar brynhawn Gwener yr Ŵyl, hyfrydwch i Gymru gyfan fu gweld athrylith arall yn sefyll ar ei draed ... Alan Llwyd. Gan iddo fyw’n y Llan nes ei fod yn 5 oed, mae gan ein hardal ni beth hawl arno. 

Fel bardd y daeth Alan i fri yn ‘70au’r ganrif ddwytha, pan gipiodd y Gadair a’r Goron Genedlaethol ar ddau achlysur, [Rhuthun ym 1973 ac Aberteifi ym 1976], a hefyd, drwy gyfrwng ei gyfrolau cynnar o gerddi. Bu ‘Anghenion y Gynghanedd’, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1973 yn feibl gwerthfawr i nifer ohonom fu’n ceisio datblygu fel cynganeddwyr yn y cyfnod hwnnw. 

Hanner canrif yn ddiweddarach, mewn Prifwyl a gynhaliwyd ym mro ei fagwraeth, cafodd ei gydwladwyr gyfle i edmygu doniau un a erys yn un o wŷr llên penna’r Iaith Gymraeg ... prifardd, llenor, academydd, ymchwilydd, cofianydd, sgriptiwr ffilm ac yn y blaen ... mae’r rhestr yn ddiddiwedd! 

Pwy ond yr athrylith hwn allai lwyddo i gyhoeddi dros 80 o lyfrau mor swmpus?
Olyniaeth” ydy thema awdl arobryn Boduan ... ‘Llif’ – “olyniaeth o un genhedlaeth i’r llall – parhad ein DNA drwy ‘hen afon ein hynafiaid’, a sefydlogrwydd y môr yn wyneb newid i’r amgylchedd a’r gymuned" meddai un o’r beirniaid. Cawn y bardd yn dychwelyd i’w henfro a’i chael hi’n wahanol, ond eto’n atgofus o gyfarwydd.

Os na fu i chi ei darllen eisoes, fe’ch anogaf i fynd ati’n ddiymdroi. Mae’r modd y llwydda’r bardd i gyflwyno’i awen mor rhwydd a naturiol yn rhywbeth i ryfeddu’n llwyr ato. Fel y nododd un arall o’r beirniaid ... “mae’i gynganeddion, er mor syml o glasurol ar un wedd, fel cyfanwaith yn orchestol.”
Dyma flas o’r agoriad:

Mae’n haf! Dychwelaf i’w chôl; dychwelyd
a’i chael mor wahanol;
dof i’r fro eto yn ôl,
troedio’r hen fro foreol.

Trois fy nghefn arni’n llefnyn;
Dychwelaf sawl haf yn hŷn.
A’i diweddglo ... sy’n cloi myfyrdod crefftus y bardd ar amser a meidroldeb:
Mae heddiw mor ddiddiwedd
â ddoe. Mae echdoe ym medd
yfory. Mae llifeiriant
yn nŵr rhyw fymryn o nant.
Fy ŵyr yw’r echdoe a fu;
fy wyres yw yfory,
ninnau’n feirwon anfarwol
yn y rhai a adáwn ar ôl.
Mae’n werth nodi i Alan ddisgleirio mewn dwy gystadleuaeth arall yn y Brifwyl hon hefyd ... buddugol ar y soned ... ‘Ffenestr’ a’r englyn unodl union ... ‘Ynys.’ 

Delweddu ‘Seren y Gogledd,’ sy’n allweddol ar gyfer mordwyo, fel ‘ynys’ a wnaeth ‘Stella Maris’ [‘Seren y Môr’] mewn ‘englyn campus’ yn nhyb y beirniad, Peredur Lynch. Adnabuwyd y Forwyn Fair wrth y teitl yma’n yr Oesoedd Canol, gan yr ystyriwyd hi, drwy ei gallu goruwchnaturiol yn dywyswraig morwyr:

Yn ei llaw mae cannwyll wen; i’r morwyr
hi yw Mair, a’r wybren
a’r sêr yw ei hofferen:
goleuni Enlli’n y nen.
Gwn i un o gefnogwyr selog a dawnus y golofn yma gystadlu ar yr englyn ... dan y ffug-enw ‘Arsyllwr Brawd Cwsg Enlli.’ A thrwy’r ffug-enw yma, eglurir y ddelwedd a welodd y bardd. 

Ymwahanwyd, fe yw mynach mirain
y môr, wele gilfach,
pererin a’i gyfrinach,
pur ysbryd ei fyd mor fach.

Da iawn ti, SIMON CHANDLER!

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2023


5.10.23

Rhod y Rhigymwr- Casglu'r Cadeiriau

Cyfres Iwan Morgan

Dymunaf yn gynta’ gyfleu fy niolch i’r rhai ohonoch a gysylltodd i’m llongyfarch ar gyflawni canfed ysgrif Rhod y Rhigymwr. Gwerthfawrogaf eich sylwadau’n fawr. Meddyliais tybed a ddylwn roi’r gorau i gyfrannu’r golofn fisol bellach, ond anogwyd fi i ddal ati. Dim ond byw mewn gobaith felly y llwyddaf i ganfod deunydd amrywiol i geisio’ch difyrru chi’r darllenwyr!

Gwerthfawrogaf y gefnogaeth a gefais gan y rhigymwyr dros y blynyddoedd. Mae ARTHUR a CLIFF yn ffyddlon dros ben. Dymunaf hefyd grybwyll GWENLLIAN, ac anfon fy nghofion ati draw’n yr Wyddgrug. 

Un arall yr hoffwn gyfeirio ato ydy Simon Chandler... sy’n barod bob amser i anfon englynion ataf. Carwn ei longyfarch ar gyhoeddi ei nofel gyntaf – Llygad Dieithryn – a hyderu y bydd yn gwerthu wrth y cannoedd. Carwn eich siarsio mewn cwpled o gynghanedd ...

    ‘Os am fwynhau geiriau’r gwaith
    Prynwch gopi ar unwaith!’
Gwyddom pa mor angerddol ydy cariad Simon at ein hardal. Amlygir y cariad hwnnw’n ei englyn ‘STINIOG BÊR. Defnyddia eirfa gerddorol i fawrygu’r dre gan lwyddo i’w huniaethu â’i gorffennol chwarelyddol:

Bu rhyw gân yn ei bargeinion, rhyw gainc,
      rhyw gerdd. Erys coron
yn harddwch y llwch. Mor llon
yw alaw tref fy nghalon.

Galwodd fy nghyfaill o Drawsfynydd, Derfel Roberts heibio’r diwrnod o’r blaen efo copi o ‘Steddfota – Cylchgrawn Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Un o’r erthyglau ynddo sy’n berthnasol iawn i’n hardal ni ydy un Iestyn Tyne ... Casglu'r Cadeiriau. Ymdrinia hon ag Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog 1906 ... a’r sefyllfa go chwithig ac anarferol a gododd yng nghystadleuaeth y gadair. 


Dechreu yr haf’ oedd y testun a osodwyd gan bwyllgor yr eisteddfod, a’r beirniad oedd Dyfnallt ... y gweinidog a’r llenor a’r bardd ddaeth yn Archdderwydd ym 1954. Un o Forgannwg oedd Dyfnallt, a bu’n gwasanaethu fel gweinidog yn Nhrawsfynydd rhwng 1898 a 1902. 

Yn yr eisteddfod a gynhaliwyd ar Ddydd Nadolig 1906, y gwaith gorau o gryn dipyn yn y gystadleuaeth oedd un y bardd yn dwyn y ffug-enw ‘Gorwel Gwyn.’  A phwy oedd y bardd hwnnw? Neb llai nag un a ddaeth yn Brifardd yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn lai na phedair blynedd yn ddiweddarach am ei awdl enwog Yr haf.  Ie, Robert Williams Parry [1884-1956]. 

Ond oherwydd amryfusedd ar ran y bardd, chadeiriwyd mohono. Anfonodd ei awdl at yr eisteddfod ddiwrnod wedi’r dyddiad cau... ac i law yr ysgrifennydd, Morris Thomas, yn hytrach nag yn syth at y beirniad fel y gofynnwyd yn yr amodau cystadlu. Er fod y beirniad, Dyfnallt, yn daer dros gadeirio gwaith Gorwel Gwyn, mynnodd aelodau’r pwyllgor fod yn rhaid cadw at y rheolau, a bu’n rhaid bwrw’r gerdd allan o’r gystadleuaeth.

Yr awdl ail-orau yn nhyb Dyfnallt a ddyfarnwyd yn deilwng o’r gadair. Crydd 24 oed o Lanbrynmair, Sir Drefaldwyn oedd y bardd... un o’r enw Abram Thomas, Pen-y-ddôl, Tafolwern. Gwyddom i Abram Thomas ddod yn aelod o’r Ffiwsilwyr Cymreig yn ystod y Rhyfel Mawr. Torrodd ei iechyd, a bu farw o’r diciáu yn Ysbyty Milwrol Casnewydd ym Medi 1916. Nodir yn Y Genedl [26 Medi] ei fod ‘yn fardd o gryn deilyngdod, ac wedi ennill tair cadair ... enillodd un pan oedd rhwng pymtheg ac ugain oed.’ 

Ceir hanes Eisteddfod yr Annibynwyr yn Y Rhedegydd [29 Rhagfyr 1906] ... a dyma ddywedir am gystadleuaeth y gadair:

"AWDL Y GADAIR, Dechreu yr haf... heb fod dros 200 llinell. Gwobr... tair gini a chadair gwerth tair gini. 

Anfonwyd 17 o awdlau i mewn, ond yr oedd yr oreu ddiwrnod ar ôl amser yn dod i law, ac anfonwyd hi i’r ysgrifennydd yn lle’r beirniad. Taflwyd hi allan o’r gystadleuaeth o achos y ddau anffawd yna.
O’r 16 eraill, yr oedd Llygad y Dydd yn oreu. Yr oedd tri Llygad y Dydd wedi dod i law, ond yr un ddechreua gyda’r llinell ‘Wedi gogoniant adeg y gwanwyn’ oedd y goreu. Ni ddaeth ymlaen, ac ni wyddid pwy ydoedd. O dan yr amgylchiadau, cadeiriwyd Mr Robert Griffith, Trysorydd yr Eisteddfod, a chyfarchwyd gan Dyfnallt, Talfor, Silyn, Gwilym Morgan, Ap Defon, Hugh Jones, W. Davies, Bryfdir, Ap Elfyn, Dewi Mai o Feirion ac Ioan Dwyryd."

Yn ôl Iestyn Tyne, ymddengys fod y gystadleuaeth yma ar y Nadolig 1906 yn un arwyddocaol gan fod tri o ddarpar brifeirdd cadeiriol wedi anfon awdlau i’r gystadleuaeth. Yn ogystal ag R. Williams Parry, cafwyd William Roberts [Gwilym Ceiriog], Llangollen... enillydd cadair Caerfyrddin [1911] am awdl i ‘Iorwerth y Seithfed’, ac Ellis Humphrey Evans [Hedd Wyn], Yr Ysgwrn, Trawsfynydd... Bardd y Gadair Ddu, Penbedw [1917] am awdl ‘Yr Arwr’. 

Awdl enwog Williams Parry oedd un o awdlau eisteddfodol mwya’r ugeinfed ganrif. Awdl yn y cywair rhamantaidd ydy hi o’i dechrau i’w diwedd. Cofiaf ddysgu talpiau ohoni ar gyfer arholiad lefel A dros hanner canrif yn ôl... ac mae’r pennill ola’ gobeithiol yn dal ar fy ngho’ o hyd:

Marw i fyw mae’r haf o hyd,
Gwell wyf o’i golli hefyd;
Dysgaf, a’m haul yn disgyn,
Odid y daw wedi hyn.
Mwy ni adnabum ennyd anobaith
Y daw’m hanwylyd i minnau eilwaith;
Ba enaid ŵyr ben y daith sy’n dyfod?
Boed ei anwybod i’r byd yn obaith.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2023



20.7.23

Rhod y Rhigymwr- y ganfed golofn!

Rhan o gyfres Iwan Morgan

Ysgrifennydd Llafar Bro ar y pryd, Vivian Parry Williams ddaeth ar fy ngofyn ym mis Mai 2014, i holi fyddai gen i ddiddordeb mewn cyfrannu colofn farddol fisol i’r papur. Er mod i’n golygu dau fis y flwyddyn, anodd oedd gwrthod.

Euthum ati i roi cynnig arni am ryw hanner blwyddyn, ac yn Ionawr 2015, penderfynu cynnwys y sylwadau canlynol:

“Amrywiol fydd y cynnwys o fis i fis, a hynny’n dibynnu ar yr hyn a dderbyniaf neu y tynnir fy sylw ato. Fel arfer, byddaf yn rhannu â chi bytiau o’r ‘wybodaeth wasgaredig a di-fudd’ yr ymddiddorais ynddi dros y blynyddoedd. Byddaf o dro i dro hefyd yn cynnwys ambell dasg. Ni chynigir beirniadaeth fanwl ar unrhyw ymgais, nac ychwaith wobrau ariannol hael, ond cydnabyddir pawb yng ngholofn y mis fydd yn dilyn.”
Ar y dechrau, cefais gefnogaeth ambell brydydd lleol, ond prinhau wnaeth y gefnogaeth honno dros y blynyddoedd. O bryd i’w gilydd, tynnodd ambell un fy sylw at feirdd o’r fro a’u cerddi, a chefais foddhad o fynd i chwilota i’w hanes a chynnwys eu cerddi’n y golofn.

Cefais gefnogaeth arbennig iawn gan ychydig ffyddloniaid a ymatebodd yn fisol i dasgau a osodais, megis cwblhau limrig neu ychwanegu cwpled i gloi pennill. Gwerthfawrogaf hefyd yr englynion a’r cerddi a dderbyniais gan amrywiol feirdd.

Derbyniais lythyrau a negeseuon oddi wrth sawl un yn nodi eu bod yn cael pleser a mwynhad o ddarllen cynnwys yr erthyglau. Mae’n debyg felly fod eraill, heblaw fi, yn ymddiddori’n yr agweddau yma o’n diwylliant.

Rydw i wedi cadw pob ysgrif a luniais ar fy nghyfrifiadur. Mae’r rhifyn arbennig hwn ... Mehefin 2023 ... yn garreg filltir yn hanes ‘Rhod y Rhigymwr.’
 
Dyma’r ganfed golofn i mi ei dwyn at ei gilydd.


Yn ogystal â chadw’r colofnau, es ati hefyd i gasglu detholiad o’r ysgrifau a gyflwynais i Lafar Bro, a galw’r gyfrol honno yn ‘Hwnt ac Yma.’  Ym mol y cyfrifiadur mae ei chartref hithau.

Mae’n mynd yn anoddach dod o hyd i rywbeth diddorol i ysgrifennu amdano’n fisol. Ond i ddathlu’r cant, rydw i wedi penderfynu dewis rhagor o englynion a wnaeth argraff arnaf dros y blynyddoedd, gan osgoi rhai y cyfeiriais atyn nhw eisoes.

Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â thre’r Bala ym 1967, gosodwyd ‘Draenen’ yn destun i’r englyn, a gwahoddwyd y Parchedig J. Eirian Davies, Yr Wyddgrug i fod yn feirniad. 

Yn ôl y dystiolaeth yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau, dyfynnwyd sawl englyn gwirioneddol dda. Ond penderfynu atal y wobr wnaeth y beirniad, gan lwyddo o’r herwydd i dynnu blewyn o drwyn sawl englynwr profiadol.

Dau a ddaeth yn agos ati oedd rhai o eiddo John Lloyd Jones, Llwyndafydd, Ceredigion [1905-90] a’r Parchedig Roger Jones [1903-82], brodor o Ben Llŷn, oedd ar y pryd yn weinidog gydag enwad y Bedyddwyr yn Nhal-y-bont, Aberystwyth. O weld y drain yn eu gogoniant eleni, daeth y rhain i gof.

Dyma englyn John Lloyd Jones:

Lleian addfwyn y llwyni – a hafwisg
     Mehefin amdani;
Ond yn heth y dinoethi
Ar y gwrych oer, gwrach yw hi.
Dyfynnais englyn Roger Jones ym Mehefin 2021. Campwaith o englyn arall ganddo, a enillodd wobr yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ar y Sulgwyn 1966 ydy hwnnw i’r ‘Nyth’:  
Ni fu saer na’i fesuriad – yn rhoi graen
     Ar ei grefft a’i drwsiad,
Dim ond adar mewn cariad
Yn gwneud tŷ heb ganiatâd.
Mae’n debyg mai’r englyn a ddysgais gynta’ erioed oedd un W. D. Williams [1900-85] - ‘Gras o Flaen Bwyd.’ Fe fydden ni, blant Ysgol Gynradd Corris y 50au a’r 60au cynnar yn cyd-adrodd hwn yn feunyddiol yn y ffreutur:
O! Dad, yn deulu dedwydd – y deuwn
     Â diolch o newydd,
Cans o’th law y daw bob dydd     
Ein lluniaeth a’n llawenydd.
Ymddengys mai englyn buddugol yng nghyfarfod bach y Sarnau, Penllyn, tua’r flwyddyn 1942 oedd hwn.

Dechreuais ar fy ngyrfa fel athro yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ym 1972. Un o’m cyd-athrawesau yno oedd y ddiweddar Anita Griffith - gwraig a fu’n yr ysgol yn ddisgybl, yna’n athrawes gydwybodol am gyfnod hir. Roedd hi’n chwaer i’r Parchedig Ronald Griffith, gweinidog gydag enwad y Wesleyaid ac englynwr tan gamp. Gan ei bod yn ddaucanmlwyddiant geni’r emynyddes Ann Griffiths ym 1976, y dasg a osodwyd i’r timau yn Ymryson y Babell Lên ym Mhrifwyl Aberteifi oedd ‘Ruth.’ Hi oedd morwyn ‘y danbaid, fendigaid Ann’ - a’r un a ddiogelodd ei hemynau i’r genedl. Cofiaf fod yn y Babell ar y diwrnod y cyflwynodd Ronald Griffith ei englyn iddi:
Enw Ruth fo mewn aur weithian – yn hanes
      Ffyddloniaid y Winllan
Am roi y ddigymar Ann
Ar gof i Gymru gyfan.
Cyfeiriwyd at Brifwyl Aberteifi fel ‘Eisteddfod y Llwch.’ Mae’n siŵr fod nifer ohonoch chi’r darllenwyr yn cofio ha’ poeth ’76. Ddegawd yn ddiweddarach, yn Abergwaun, cafwyd ‘Eisteddfod y Mwd.’ Cofiaf fod yn y Babell Lên pan gyflwynodd y cynganeddwr sydyn a slic o Fôn, y diweddar annwyl ‘Machraeth’ ei englyn anfarwol i’r ‘Hwch’:
O dan draed mae’r mwd yn drwch, – yn sicli
     Fel siocled neu bibwch.
I hwn ni cherddai’r un hwch
Ella, ond mewn tywyllwch.

- - - - - - - - - - -

Llongyfarchiadau mawr Iwan, a diolch am y golofn.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023

 
 


23.4.23

Rhod y Rhigymwr- trawiad gwych!

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Mae derbyn negeseuon cyson ynghyd â gweithiau cynganeddol gan Simon Chandler yn bleser bob amser. Yn y dyddiau pan rydyn ni’n clywed fod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng, mae’n chwa o awyr iach cael mabwysiadu rhai fel Simon. Un peth ydy dysgu’r iaith a’i siarad yn rhugl. Peth arall ydy llwyddo i’w hysgrifennu’n gywir a llenydda ynddi. Mae’n fwy o gamp fyth gallu cyfansoddi barddoniaeth gaeth ynddi! 

Yn ôl ei neges ddiweddaraf ataf, nid Simon ydy’r unig Lundeiniwr a lwyddodd i wneud hynny. Mae’n fraint cael rhannu efo chi’r darllenwyr ran o’i neges ddiweddaraf ataf:

“Hoffwn ddweud wrthot ti am fy nghyfeillion o Lundain sy’n barddoni ac yn cynganeddu (a’r ddau, fel fi, yn eu pumdegau).  Mae’n rhyfedd oherwydd, er nad oeddem yn adnabod ein gilydd cyn i ni gwrdd yn y byd Cymraeg (a ninnau’n wrandawyr ffyddlon ‘Podlediad Clera’), rydym yn dod o’r un ardal o ogledd Llundain.  Mae Jo Heyde  yn dod o Stanmore, sy’n ugain munud yn y car i ffwrdd o Golders Green (maestref fy mebyd i), ac (yn rhyfeddach fyth) mae Alan Iwi yn dod o’r un un faestref!  

Mae Alan wedi ennill sawl cystadleuaeth mewn sawl eisteddfod leol dros gyfnod o ddwy flynedd, megis yr englyn, yr englyn ysgafn a’r limrig, ac mae Jo (sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dim ond ychydig dros bedair blynedd) wedi ennill tair cadair ac un goron o fewn y deng mis diwethaf.  Yn ogystal, mae Jo yn rhedeg clwb barddoniaeth ar-lein (sef dros Zoom) sy’n boblogaidd ymysg beirdd.  Nos Iau, fe drafodon ni gyfrol gan y bardd ifanc, Osian Wyn Owen, o’r enw ‘Y Lôn Hir Iawn’... Fel y gweli di, dyna fwy o dystiolaeth bod gan y Gymraeg ffordd hudol o ymorol am draedfilwyr i frwydro dros ei hachos hi!”

Jo, Simon, ac Alan
Mae clywed am frwdfrydedd heintus Simon, Alan a Jo yn codi cywilydd arnaf. Fe fu adeg pan fyddwn innau’n cefnogi cystadleuthau barddoniaeth yr eisteddfodau bach, ond rhaid i mi gyfaddef fod sawl blwyddyn wedi mynd heibio er pan wnes i hynny ddwytha. Ai diogi neu henaint sy’n gyfrifol ... y ddau o bosib!  

Dan feirniadaeth y Prifardd Rhys Iorwerth yn Eisteddfod Chwilog, cafodd Simon gryn ganmoliaeth am ei englyn ... ‘Croesffordd'. Cyfeiria ato fel ‘englyn un frawddeg crefftus dros ben a chadarn ei gynghanedd.’ Y ‘dydd byrraf’ ydy’r groesffordd i’r bardd, a hwnnw’n dynodi ‘troad y rhod’:

Addawa bore’r dydd byrraf olau,
côr galwad Gorffennaf
neu Awst gana siant i’n haf
o gywair canol gaeaf.

Penrhyn’ oedd y testun a osodwyd yng nghystadleuaeth cylchgrawn Barddas. Ymysg y 24 englyn a anfonwyd at y beirniad, y Prifardd Alan Llwyd, cafwyd y canlynol i Benrhyn y Crimea, a hawliwyd oddi ar Wcráin yn 2014, a lleoliad llawer o’r ymladd presennol. Dan y ffug-enw ‘Ras Putin,’ dyma ymgais Simon:

I Fedlam aeth y ddrama, i esgyrn
o lond basged fara.
Dyn ei blwyf a daena bla
unllaw ym maw’r Crimea.

Mae’r sefyllfa’n y Crimea ‘bellach yn Fedlam, yn anhrefn a llanast llwyr, gan ystyried hefyd fod pob math o ryfel yn wallgofrwydd,’ meddai Alan Llwyd yn ei feirniadaeth. Yna, mae’n cyfeirio at gyrch ac ail linell yr englyn ...  ‘esgyrn / o lond basged fara’ fel ‘trawiad gwych ... trawiad gorau’r holl gystadleuaeth.’ O dderbyn y fath ganmoliaeth gan arbenigwr fel Alan, gall Simon deimlo fod ei gwpan yn llawn.

Ym Mhrifwyl y Rhyl a’r Cyffiniau ym 1985, gwelwyd Robat Powell yn sefyll ar ei draed yn seremoni’r cadeirio. Ei awdl ‘Cynefin’ oedd yr orau o’r deuddeg cyfansoddiad ddaeth i law yn ôl dau o’r tri beirniad. Fel Simon, Alan a Jo, athrylith a feistrolodd ein hiaith ac agweddau o’n diwylliant ydy Robat Powell. Tybed a welwn ni un o’r tri Llundeiniwr yn efelychu ei gamp ... os nad ym Moduan eleni, yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesa’ hwyrach?
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023, fel rhan o erthygl hirach



10.3.23

Rhod y Rhigymwr- lili wen fach

Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae’n cartref ni ar ben yr allt sy’n arwain o bentre’r Llan tua Chwm Cynfal, ac ar fin priffordd yr A470. Er mwyn mynd i’r ardd lysiau ac at y lein ddillad, mae’n rhaid croesi’r briffordd honno. 

Bob diwedd Ionawr, yng nghysgod y clawdd terfyn rhwng yr ardd a chae Clogwyn Brith, fe ddaw clystyrau o flodau bach eiddil i’r golwg. Ar waetha gwyntoedd a glawogydd di-ddiwedd y gaeaf, ac ar waetha gorchuddio’r tir gan flancedi trwchus o eira, a hwnnw’n ei dro’n rhewi’n gorn, gellir gweld y blodau’n gwthio’u pennau’n swil drwy’r tir. 

Blodau bach gwynion ydyn nhw ... rhai y cyfeiriwn atyn nhw fel yr ‘eirlys’ neu’r ‘lili wen fach’ yn y brőydd yma. 


Yr enw Lladin ar y math yma o flodyn ydy ‘Galanthus’ ... ‘gála’ [llaeth/ llefrith] ac ‘ánthos’ [blodyn]. Mae’n debyg mai ym 1753 y rhoddwyd yr enw Galanthus arno, ond bu’n cyn-deidiau yma yng Nghymru’n cyfeirio ato ag amrywiol enwau am rai cannoedd o flynyddoedd cyn hynny. Enwau eraill a glywyd amdano ydy ‘blodyn yr eira’, ‘cloch maban/baban’, ‘cloch yr eiriol’, ‘eirdlws’, ‘mws yr eira’ a ‘thlws yr eira’.

Dyma’r planhigyn cyntaf i flodeuo yng ngwledydd Prydain. Ers talwm, arferid dathlu Gŵyl Fair y Canhwyllau [2 Chwefror] ar y dydd yr agorodd ei betalau. Mae’r naturiaethwr, Twm Elias yn sôn fod y blodau wedi cael eu lledaenu drwy’r wlad gan fynachod yn y Canol Oesoedd. Y syniad oedd eu plannu ger y mynachlogydd er mwyn addurno capeli’r mynachlogydd ar adeg dathlu’r Ŵyl arbennig honno.

Yn ei Lyfr Blodau, a gyhoeddwyd ym 1909, disgrifia Richard Morgan yr eirlys fel yma ...  ‘Efe yw blodyn gobaith, a blaenffrwyth blodau’r flwyddyn.

Mae’n siŵr i lawer ohonoch chi, fel finnau gofio canu’r gân fechan swynol honno’n yr ysgol gynradd ers talwm:

‘O lili wen fach, o ble daethost di,
A’r gwynt mor arw ac mor oer ei gri?
Sut y mentraist di allan drwy’r eira i gyd?
Nid oes flodyn bach arall i’w weld yn y byd?’

Y bardd Nantlais pia’r geiriau a’r cerddor, Daniel Protheroe gyfansoddodd y gerddoriaeth.

Dros y blynyddoedd, apeliodd anwyldeb a gwytnwch y blodyn bychan yma, ei harddwch syml a’i arwyddocâd fel cennad y gwanwyn at amryw o’n beirdd.

Meddai Iorwerth Glan Aled amdano tua chanol y 19eg ganrif:

‘Plentyn cynta’r gwanwyn yw,
Yn yr awel oer mae’n byw.’

A chawn Eifion Wyn yn holi:

‘Beth a welais ar y lawnt,
Gyda’i wyneb gwyn, edifar?
Tlws yr eira, blodyn Mawrth,
Wedi codi yn rhy gynnar.’

Yn ail bennill ei delyneg yntau i’r ‘Eirlysiau’, cawn Cynan yn dyfynnu llinellau hen emyn ‘yr atgyfodiad’ a welwyd mewn casgliad a gyhoeddwyd yn Lerpwl ym 1841:

Oblegid pan deffroais
Ac agor heddiw’r drws
Fel ganwaith yn fy hiraeth,
Wele’r eirlysiau tlws
“Oll yn eu gynnau gwynion
Ac ar eu newydd wedd
Yn debyg idd eu Harglwydd
Yn dod i’r lan o’r bedd”.

Un o gerddi hyfrytaf cyfrol Waldo Williams, ‘Dail Pren’ ydy honno i’r ‘Eirlysiau'. Fyddwn ni byth yn gweld eirlys ar ei phen ei hun, ond mewn clwstwr bob amser. Yn nycnwch y blodau bach sy’n gwthio’u pennau o dywyllwch du ‘eu gwely pridd’ tua’r golau, mae’r bardd yn holi - ‘Mae dewrach ‘rhain?’ 

Er mor fychan a gwylaidd ydyn nhw, maen nhw ‘fel y dur’ ac yn dioddef holl gur yr oerfel sy’n arwain maes o law at ‘y tywydd braf.’ Mae gan y bardd neges i ninnau yma ... mae am i ni gofio a diolch am y rhai fu’n ddewr ... y clystyrau bychain rheiny o bobl fu’n barod i godi’u lleisiau dros gyfiawnder mewn tir ac amodau anodd, er mwyn i ninnau gael byd dipyn gwell:

‘Gwyn, gwyn
Yw’r gynnar dorf ar lawr y glyn.
O’r ddaear ddu y nef a’u myn.
Golau a’u pryn o’u gwely pridd
A rhed y gwanwyn yn ddi-glwy
O’u cyffro hwy uwch cae a ffridd. 

Pur, pur,
Wynebau perl y cyntaf fflur.
Er eu gwyleidd-dra fel y dur
I odde’ cur ar ruddiau cain,
I arwain cyn y tywydd braf
Ymdrech yr haf. Mae dewrach ‘rhain? 

Glân, glân,
Y gwynder cyntaf yw eu cân.
Pan elo’r rhannau ar wahân
Ail llawer tân fydd lliwiau’r tud.
Ond glendid glendid yma dardd
O enau’r Bardd sy’n llunio’r byd’.

- - - - - - - - - -

Rhan o golofn Rhod y Rhigymwr gan Iwan Morgan, o rifyn Chwefror 2023