Showing posts with label Dewi Sant. Show all posts
Showing posts with label Dewi Sant. Show all posts

1.3.26

Os wyt Gymro hoff o’th Sant

Pennod arall o gyfres Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Mawrth 2025

Dwn i ddim faint ohonoch chi fanteisiodd ar y cyfle i ymweld â’r Gadeirlan yn Nhŷ Ddewi erioed? Fe fu hon yn gyrchfan i sawl pererin dros y canrifoedd. Roedd ‘pererindod’, neu ‘daith i le sanctaidd’ yn elfen bwysig iawn i Gristnogion, fel ag i nifer eraill o grefyddau’r byd. 

Yn yr Oesoedd Canol, roedd pererindod i Rufain yn boblogaidd iawn. Yma yng Nghymru, roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cael eu hystyried yn gyfwerth ag un pererindod i Rufain.

Yr adeg yma o’r flwyddyn, ar Galan Mawrth yn benodol, fe fydd cymdeithasau crefyddol a seciwlar o bob math yma yng Nghymru a thu hwnt,  yn cofio Dewi Sant, ac yn dathlu mewn amrywiol ffyrdd. Mae ‘na rai sefydliadau yn cynnal nosweithiau llawen ac eisteddfodau, tra bo eraill yn trefnu swper ac yn gwahodd person arbennig i siarad. 

Pa ffordd bynnag yr awn ni ati i ddathlu’r ŵyl arbennig yma, fe ddylen ni o leia atgoffa’n gilydd o’n dyled i’r gorffennol ... i’r gwŷr a’r gwragedd da hynny a wnaeth gymaint inni fel cenedl.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi yn ystod fy saith mlynedd yn Ysgol Tywyn oedd yr Eisteddfod a gynhaliwyd ar y cyntaf o Fawrth bob blwyddyn. Fe fydden ni’r digyblion yn cael ein hannog i gymryd rhan a chael cyfle drwy hynny i geisio disgleirio fel cantorion a llefarwyr, offerynwyr ac arlunwyr, beirdd a llenorion. Roedd pedwar ‘Tŷ’ yn cystadlu’n frwd yn erbyn ei gilydd ... y ‘Dreigiau’ coch, y ‘Derwyddon’ glas, y ‘Telynnau’ gwyrdd a’r ‘Beirdd’ melyn. 

Digon Seisnig oedd Ysgol Tywyn yn y 1960au, ond ar ddiwrnod arbennig yr ‘Eisteddfod’, gellid ymdeimlo â’r balchder o fod yn Gymry oddi mewn i furiau’r hen neuadd. Ac o edrych yn ôl ar y dyddiau hynny, does dim dwywaith na lwyddodd y cyfle i gael cymryd rhan yn ei gweithgarwch i gyfrannu at fy nghariad innau at fy Iaith a’i diwylliant.

Cyn hynny, yn yr ysgol fach yng Nghorris, cofiaf y farddoniaeth gafodd ei chyflwyno i ni’r plant ar yr adeg yma o’r flwyddyn.  Un o’r ffefrynnau, a arhosdd ar y cof ar hyd y blynyddoedd, er bod ei harddull yn dra hen ffasiwn erbyn heddiw, oedd y berl fach yma gan Eifion Wyn:

Os wyt Gymro hoff o’th wlad,
A hoff o’th dadau dewrion,
Cadw ŵyl er mwyn dy had -
Ni waeth beth ddywed estron, -
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon.

Os wyt Gymro hoff o’th iaith,
A hoff o’i bardd a’i phroffwyd;
Heddiw twng y filfed waith
I’w chadw fel ei cadwyd:
Boed yn amlaf ar dy fin,
Boed olaf ar dy aelwyd.

Os wyt Gymro hoff o’th Sant,
A hoff o’r cysegredig;
Cadw ŵyl, er mwyn dy blant,
I Ddewi, ŵyr Ceredig; -
Cas yw gŵr na châr ei wlad,
Boed dlotyn neu bendefig.

Mewn cystadleuaeth yn un o gyfarfodydd bach ardal y Ganllwyd yn nechrau’r 1980au, gosdwyd ‘Emyn Gŵyl Dewi’ yn destun. Ychydig gofia i am amgylchiadau ei lunio, ond fe ddes i ar ei draws ymysg ambell beth a gedwais ar ddisg galed fy nghyfrifiadur. 

Canmolwn yn awr y gwŷr enwog’ meddai adnod gynta’ pennod 44 o Lyfr Ecclesiasticus yn yr Apocryffa. 

Yn ogystal â Dewi, ein Nawddsant, cofiwn hefyd am nifer o seintiau eraill a gyrhaeddodd Gymru yn eu cychod cyntefig i ledaenu’r efengyl. Cofiwn am William Morgan, yn unigrwydd ei fyfyrgell yn Ficerdy Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac am Griffith Jones, yn llwydni festri ei eglwys yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin: 

O Dduw a sicrheaist
Gyflwyno d’Air i’n hiaith,
Canmolwn y gwŷr hynny
Fu’n ffyddlon i dy waith,
A boed i ni ar Ddydd ein Sant
Gyflwyno’u henwau hwy i’n plant.

Y seintiau gwrol deithiodd
Mewn badau dros y don,
Gan herio llid corwyntoedd
A dychrynfeydd o’r bron
Wrth gario’r Newydd Da am Grist
I lonni gwedd paganiaid trist.

Y gannwyll yn y parlwr
A’i golau gwan ynghyn
Yn cyfarwyddo’r cwilsyn
Hyd ddail y papur gwyn;
Rhown glod i’r Esgob am ei waith
O droi Gair Duw yn fêl i’n hiaith.

Yr awydd a’r amynedd,
Yr ynni mawr a’r nwyd,
Gwireddu ei arddeliad
Yn yr ysgoldy llwyd
Wnaeth yr offeiriad yn ddi-ball
Er achub enaid gwerin ddall.

Yn nyddiau yr edwino
Ymysg dy bethau Di,
A’r mynych fygythiadau
Sydd ar ein heniaith ni;
O! tyred, Iôr, â’th Ysbryd Glân
I gynnau eto ‘Ngwlad y Gân.

Yn sicr, mae hi’n ddyletswydd arnom ninnau barchu iaith ein cenedl, nid oherwydd fod yr Iaith Gymraeg yn well nag unrhyw iaith arall, ond oherwydd mai’r Iaith Gymraeg a roddwyd yn rhodd i ni.
Ac ar ben hynny, fe gawson ni wlad hardd i fyw ynddi, a diwylliant. Ein braint a’n cyfrifoldeb ni ydy sicrhau hynny i’n plant, ac i blant ein plant. 

Fel y llefarodd Emrys Wledig yn ei araith a welir yn nrama Saunders Lewis - ‘Buchedd Garmon’ ... a ddarlledwyd gyntaf ar Ŵyl Dewi 1937:

Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
 i’w thraddodi i’m plant ac i blant fy mhlant yn dreftadaeth dragwyddol;
 ac wele’r moch yn rhuthro i’w maeddu.
 Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion, cyffredin ac ysgolhaig,
 Deuwch ataf i’r adwy, sefwch gyda mi yn y bwlch,
 Fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.

Yn ei englyn diweddaraf, mae Simon ap Lewis yntau’n pryderu dros ddyfodol yr Iaith. Fe’i hysbrydolwyd gan gân olaf 'Shimli' - albwm newydd ‘Cynefin’ (prosiect cerddorol y canwr a'r hanesydd, Owen Shiers) sef, ‘Faerdre Fach.’ Hwyrach i chithau gofio gwarth ‘Happy Donkey Hill’ -  pryd y disodlwyd enw hanesyddol Cymraeg gan enw erchyll, chwerthinllyd ac ansensitif - enw busnes llety a brecwast newydd yng nghyffiniau Llandysul. Dyma enghraifft arall o’r ‘moch yn rhuthro’ i faeddu’r winllan!

Lladdodd byddin y gyfrinach, o’i llwch
     Codwyd lloches afiach
I fusnes ac i fasnach,
Doedd dim lle i Faerdre Fach.
 

1.3.16

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Erthygl gan Marian Roberts, o rifyn Chwefror 1998.

‘Gwisg genhinen yn dy gap,
a gwisg hi yn dy galon.’


Ydach chi erioed wedi meddwl pam y cafodd y genhinen ei mabwysiadu fel arwyddlun gan y Cymry? Daeth y genhinen yma gyda’r Rhufeiniaid o ardal Môr y Canoldir, a sefydlodd yn arbennig o dda. Ceir chwedl am y genhinen sy’n mynd nôl i adeg Dewi Sant (tua 520 AD). Fe ddwed yr hanes i’r genhinen gael ei dewis fel teyrnged i fywyd meudwyol Dewi a fu’n eu casglu o’r caeau a’i cynnwys yn ei fwyd bob dydd.

Dro arall, dywedir i Dewi ddweud wrth filwyr  Cymru am roi cenhinen yn eu cap fel  gellid gwahaniaethu rhyngddynt a’r Sacsoniaid a oedd yn ceisio eu goresgyn. Roedd hyn yn helpu’r Cymry rhag lladd eu gilydd!

Cred eraill mae’r hen arferiad o ‘gymortha’ sy’n gyfrifol am i’r genhinen gael ei mabwysiadu fel arwyddlun. Wrth i’r cymdogion gasglu at ei gilydd i gario gwair neu godi mawn, roedd pob un yn cario cenhinen ar gyfer y cawl cennin a fwyteir ar ddiwedd y diwrnod gwaith. Yn eu hetiau neu eu capiau y cariai’r dynion eu cennin, a daeth y llysieuyn yn symbol o’r werin Gymreig.

Llun- Paul W
 Ond mae’r genhinen Pedr, neu’r daffodil yn cael ei hystyried fel symbol cenedlaethol hefyd. Hyd y gwn nid oes unrhyw hanesyn i ddatglu’r rheswm dros ei ddewis yn arwyddlun.

Mae yna debygrwydd yn nhyfiant y ddau blanhigyn, ond efallai am fod y daffodil yn harddach planhigyn na’r genhinen y cafodd ei ddewis.

Er, efallai, y gall un darn o wybodaeth a ddarllenais unwaith roi rhywbeth i chi feddwl drosto – Mae un rhywogaeth o gennin Pedr, yn tyfu mewn man ger Dinbych y Pysgod, Sir Benfro. Mewn un lle arall yn y byd y gwelwyd y planhigyn hwn – sef gogledd yr Eidal.

Tybed ai rhyw bererin cynnar yn dwyn yr enw Pedr a gariodd ei genhinen i’r ynysoedd hyn, ac mai hon a ddewisodd Dewi Sant rai canrifoedd yn ddiweddarach?

Y Mis Bach
Os corwynt fis crintach – ydyw hwn
    Gyda’i od a’i grepach
Os golwg, mae’n fis gloywach,
Tyr haul o hyd trwy ei lach.

(Mathonwy Hughes, Corlannau a Cherddi Eraill)


Cawl Cennin a Thatws

Amser: Paratoi – 45 munud; coginio – tua awr.
Cynhwysion (digon i 4):

12 owns (350g) tatws
3 cenhinen
1 owns (25g) menyn
1 nionyn, wedi ei falu
1 ½ peint (850ml) stoc llysiau
¼ peint (150 ml) hufen sengl
Cennin syfi, wedi eu torri’n ddarnau fel addurn
Pupur a halen

> Torrwch y tatws yn dafelli gweddol drwchus. Tociwch y cennin, a’u torri’n gylchoedd tenau.

> Toddwch y menyn mewn sosban addas i ddal yr holl gynhwysion; ychwanegwch y cennin a’r nionyn gan eu goginio’n ysgafn - heb iddynt droi’n frown – am 5 munud. Ychwanegwch y tatws, a choginio am 3 munud arall.

> Tywalltwch y stoc dros y llysiau yn y sosban gan ddod a’r cyfan i’r berw. Rhowch gaead ar y sosban, ac yna mud-ferwi’r cyfan am 20-30 munud. Gadewch iddo led-oeri.

> Hylifwch y trwyth yn llyfn.

> Ail dwymwch y cawl, heb adael iddo ferwi’n wyllt, a cymysgwch i mewn y pupur, halen a hufen.

Wedi ei roi mewn powlenni i’w weini gwasgarch ddarnau o gennin syfi ar wyneb pob un.

Awgrym: Am lai fyth o galoriau, cyfnewid yr hufen am iogwrt. Gwybdoaeth maeth: 240 o galoriau ymhob powlen. Isel mewn brasder. Ffynhonnell dda o Fitamin C.