Showing posts with label cynefin a chymuned. Show all posts
Showing posts with label cynefin a chymuned. Show all posts

12.5.24

Yr Aelwyd

Erthygl o rifyn Mawrth 2024

Mae cwmni Antur Stiniog wedi llwyddo i brynu hen Aelwyd yr Urdd, ac erbyn hyn mae’r cynlluniau yn barod a’r adeiladwyr hefyd yn barod i ddechrau ar eu gwaith. Pan fydd yr Aelwyd yn barod, bydd yma gyfle gwych i bobol ifanc y fro gael gofod ddelfrydol i greu Hwb gwych reit yng nghanol y dref – canolfan fydd yn cynnig pob math o weithgareddau i’n ieuenctid. 


 

Hefyd, yn ystod yr amser y bydd yr adeiladwyr yn gweithio ar yr Aelwyd, mi fydd Cwmni Bro Ffestiniog yn trefnu llawer o weithgaredd diddorol trwy gydol y flwyddyn sydd yn dod – cyfleon difyr i'r ieuenctid gael cymryd rhan yn eu cymuned, eu cymdeithas a'u diwylliant, er mwyn iddyn nhw greu cymuned gref a bywiog, a dysgu crefftau wrth wneud hynny. Rhan bwysig o hyn fydd clybiau ieuenctid fel Clwb Clinc yn Cell, Clwb Cic yn y Clwb Rygbi a Cell, a chriw ieuenctid GISDA, a gallu cydweithio gyda phawb – yn enwedig Ysgol y Moelwyn, sydd wastad yn barod i gydweithio trwy fynd â’r plant efo ni i weld hanes y fro, a’r henebion sydd yma yn yr ardal, trwy fenter Cynefin a Chymuned, ac hefyd i farddoni a chreu celf a mwy.  

Creu, creu, creu! Yn ogystal â chelf a cherddi gan blant yr ysgol, mae digon o adnoddau yn y dre i’r plant gael syniadau, megis baneri, murluniau a graffiti dychmygus, creu pamffledi, crysau-T, bathodynnau a mwy. Bydd yr ieuenctid yn dysgu sut i drefnu gigs gan fandiau yr ardal, ac hefyd yn helpu trefnu Gŵyl Car Gwyllt a dod yn ran bwysig o’r ŵyl, a mwy, fel bod yr ieuenctid yn dod yn rhan neilltuol o’r gymuned ac yn teimlo fel eu bod hwythau yn ran bwysig o’u tref, yn ieuenctid positif efo balchder yn eu bro – ac hefyd yn rhan o Gymru a’r dyfodol.

Tra bo’r Aelwyd yn cael ei adeiladu, byddwn yn mynd a'r ieuenctid am dro i ddysgu am hanes ein bro, gan weld henebion yr ardal, â mynd i weld archaeolegwyr yn cloddio, a chael helpu'r archeolegwyr hefyd. Yn ogystal, mi fyddwn yn mynd â'r criw ifanc i weld sut mae'r systemau hydro lleol yn gweithio, diolch i fenter GwyrddNi, sut y mae ailgylchu yn cael ei ddefnyddio, a llawer, llawer mwy. 

Mae llu o bethau yn barod ar gyfer y plant, o Chwarel Rhiwbach a’r dramffordd yn ôl i’r dref, Sarn Helen, Bryn y Castell lle fu’r Celtiaid yn creu haearn allan o fawn (bog-iron), y tir tu allan i faes Tomen y Mur, Castelli Cymreig, Llys Castell Prysor, Ranges Trawsfynydd, meini hirion, carneddi a siambrau claddu, a bryngaerau ardal Harlech a Dyffryn Ardudwy. Yn ogystal, yn ystod yr wythnos nesaf, mi fydd plant yr ysgol yn cael mynd i weld yr Aelwyd, iddyn nhw gael gweld y potensial sydd yno. Byddwn ni wedyn yn gofyn iddyn nhw sgwennu cerddi a chreu celf a fydd yn dweud be fath o weithgaredd fyddan nhw’n licio ei weld yn yr Aelwyd. 

Bydd yr Aelwyd yn cynnig pob math o weithgareddau i’r ieuenctid lleol, a syniadau yr ieuenctid fydd y cwbl. Yr ieuenctid fydd yn llywio’r project. Creu celf a barddoniaeth, graffiti clyfar a murluniau, cynnal nosweithiau fel stand-yp, actio, sgetshis, creu ffilmiau byr, cerddoriaeth, meic-agored i’r ieuenctid ddod i’r llwyfan efo’u offerynnau, neu gomedi a ballu, trefnu noson Stomp, neu drefnu Beirdd v Rapwyr. Bydd lle i arluniau y bobl ifanc ar y waliau a’r to, neu ar y tu allan. Bydd lle i chwarae pool, darts, tenis bwrdd, dysgu recordio caneuon, dysgu creu miwsig gyda meddalwedd stiwdio, dysgu DJ'io, rapio, a dysgu offerynnau cerddorol. Bydd digon o le yno i bractisio yn un o’r stafelloedd. Mi ddaw yr ieuenctid at ei gilydd i greu caneuon gyda help ei gilydd, ac erbyn hynny bydd PA ar gael i’r bandiau hyfforddi neu berfformio i’w ffrindiau.

Gyda’r stafell uwchben bydd byrddau isel a cwshins ac ati, lle mae gallu tshilio i siarad neu sgwennu, darllen neu wneud celf, ffotograffiaeth, rhannu miwsig, neu chwarae gemau bwrdd, a siarad a casglu syniadau, creu posteri a sgwennu cerddi, sgriptio a hyd yn oed dechrau nofel! Gyda chamerâu a stiwdio olygu bydd yr ieuenctid yn gallu gwneud ffilmiau byr – tua 10 munud yr un. 

O dan yr ystafell uchel, mae stafell tech (stiwdio miwsig, stiwdio golygu ffilmiau a.y.b.), a stafell arall ble bydd caffi cŵl – a’r ieuenctid fydd yn rhedeg y caffi hwnnw, yr ieuenctid fydd yn rheoli. Bydd y caffi efo vibe cool a chilled, fel yn y stafell uwchben. Fan hyn gewch chi greu mwy o syniadau efo’ch gilydd. Syniad arall ydi rhoi sgrîn, neu ddau neu dri teledu ar y walia, er mwyn i’r ieuenctid wylio DVDs, gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol – a llawer mwy. Caiff yr ieuenctid ddylunio posteri, crysau-T a bathodynnau, a dysgu i ddefnyddio peiriannau celf. 

Mae cymaint o weithgaredd yn aros yr ieuenctid. Rydym yn gobeithio bydd y plant yn deall sut i ymateb i broblemau’r byd, o’r hinsawdd i’r rhyfeloedd a’r cwmnïau mawr yn codi biliynau o arian tra bod bwyd a nwy yn rhy ddrud i bobl fel ni. Rydan ni’n gobeithio y bydd yr ieuenctid yn tyfu i fod yn bobol ifanc cydwybodol, gan obeithio y byddan nhw’n trio gwneud rhywbeth am y problemau hyn. 

Mae mentrau gwych yn Stiniog, sydd yn gwneud pethau gwirioneddol dda. Bydd gweld be mae’r mentrau hyn yn wneud yn siŵr o agor llygaid yr ieuenctid. Tybed mae ein ieuenctid ni fydd yn achub ein ardal, ein cymuned, Cymru a’r Gymraeg, a’r byd? Gyda hyn, rydym am helpu’r plant i greu deisebau os oes rhywbeth yn eu poeni, a sut i’w gyrru nhw i’r gwleidyddion (a cofiwch y cewch bleidleisio o oed 16 i fyny). 

Bydd ‘Yr Aelwyd’ yn hwb llawn creadigaeth, dychymyg a syniadau, ac yn lle cŵl i’r ieuenctid ei ddefnyddio. Lle i greu, lle i drefnu, a lle i tshilio, heb rywun yn dweud wrthyn nhw be i wneud. Gaiff yr ieuenctid reoli, yn creu eu rheolau eu hunain. Yr ieuenctid fydd ‘in charge’!
Dewi Prysor



26.9.23

Y Dref Werdd- byd natur a chymdeithasu

Cynefin a Chymuned
Wedi i flwyddyn brysur wibio heibio unwaith eto, bu i blant cynllun Cynefin a Chymuned i Blant Bro Ffestiniog ymuno gyda chriw ardal Penrhyn am ddiwrnod o weithgareddau yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr.


Dyma ddiwrnod olaf y cynllun ar gyfer y criw yma, ac fe gafodd bawb lawer iawn o hwyl yn trochi’r pyllau am drychfilod, coginio cinio ar y tân, gwneud gwaith celf, a chael tro ar saethyddiaeth gyda phawb wedi creu ei fwa ei hunain.

 

Mae hi wedi bod yn flwyddyn addysgol, llawn hwyl a hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl arweinwyr wnaeth rannu straeon a sgiliau gyda’r plant dros y flwyddyn.

 

Llongyfarchiadau iddynt ar lwyddo i gwblhau eu Gwobrau John Muir – dyma rai ohonyn nhw’n derbyn eu tystysgrifau. (Chwith i dde) Summer, Ela, Leo, Eva, Catrin, Ania, Conor, Enlli, Alaw a Sophie. 

 

Grŵp newydd i bobl hŷn
Yn dilyn gaeaf caled, yn economaidd a’n gymdeithasol, rydym yn falch a diolchgar o fod wedi derbyn grant bychan gan Mantell Gwynedd i gyfrannu at y ddarpariaeth leol sydd ar gael ar gyfer pobl hŷn ardal Bro Ffestiniog.

Byddwn yn cychwyn grŵp misol ar Ddydd Mawrth cyntaf bob mis, o fis Medi tan mis Mawrth yn y Ganolfan ym Mlaenau, o 1:30-3:30. Ein gobaith yw y bydd y sesiynau’n boblogaidd, ac yn gallu ei barhau ymhell heibio’r cyfnod yma. Roedd y sesiwn cyntaf ar Fedi’r 5ed, a bydd croeso mawr i bawb sydd dros 60 oed i ymuno.

Bydd hyn yn gyfle da i bobl gymdeithasu dros baned, a chael cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Rhannwch y newyddion gyda eich ffrindiau a’ch teulu os gwelwch yn dda!

Gallwn ddarparu trafnidiaeth yn lleol i’r Ganolfan os oes angen.
Cysylltwch gyda Non am fwy o wybodaeth ar 07385 783340 neu dros ebost non@drefwerdd.cymru
Non Roberts, Cydlynydd.
- - - - - - - - -

Addaswyd o ddarn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2023


27.2.23

Bwrlwm Y Dref Werdd

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur gyda sawl prosiect newydd wedi ei sefydlu i gefnogi pobl y gymuned, yn enwedig yn sgîl yr argyfwng costau byw.

 

 

Warden Ynni Cymunedol
Yn swyddfa’r Dref Werdd mae Tanya, ein Warden Ynni Cymunedol. Mae Tanya wedi cael ei chyflogi ers mis Awst 2022. Dyma rhai o ddyletswyddau Tanya:

•    rhoi cyngor a chefnogaeth i drigolion er mwyn lleihau eu defnydd ynni
•    helpu gyda biliau, dyledion a gwneud ceisiadau
•    cyfeirio pobl i gael gratiau ECO4 neu Nyth
•    rhoi mesuriadau arbed ynni fel bylbiau LED a rhoi deunyddiau atal drafftiau i drigolion
Yn ddiweddar mae Tanya wedi cymhwyso fel Aseswr Ynni Domestig Lefel 3. Mae ei swydd hefyd yn parhau ac mae hi nawr yn cynghori trigolion Gwynedd ar effeithiolrwydd cael synwyryddion Carbon Monocsid a hefyd iddynt fod yn ymwybodol o’r peryglon.

Canolfan Galw Mewn
Cofiwch biciad mewn i’n Canolfan Galw Mewn yn 5 Stryd Fawr i weld Rhian neu Marged ar Ddyddiau Llun, Mercher neu Gwener rhwng 10yb a 4yp i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar bob math o faterion llesiant. Bydd apwyntiadau ar gael gyda gweithiwr Cyngor Ar Bopeth bob yn ail Ddydd Mercher, rhwng 10yb a 12yp – mae gwneud apwyntiad yn hanfodol. Cysylltwch ar 01766 830082.

HWB: Cefnogi Cymuned
Bu 2022 yn flwyddyn digon prysur yn yr HWB gyda phrosiectau ‘Dod yn ôl at dy Goed’, ‘Cynefin Chymuned i Blant' a ‘Sgwrs’ yn parhau’n llwyddiannus.

Trefnwyd taith dywys i fyny’r Moelwyn Mawr, sesiynau cerddoriaeth, celf a Tai Chi, teithiau natur, meddylgarwch a dysgu am fadarch gwyllt. Cawsom ymweld â’r Ysgwrn a Gweilch Glaslyn, sesiynau dan do yn gwnïo nadroedd atal-drafftiau a chwarae gemau bwrdd, a chawsom ddigonedd o baneidiau yn y coed! 

Mae’r cynllun am ddim, ar agor i unrhyw un, ac yn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu, bod yn actif a dysgu sgiliau newydd. Bydd llawer mwy o weithgareddau yn cael eu trefnu eleni. Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno, cysylltwch â Non ar 07385 783340 neu non@drefwerdd.cymru

Sesiwn grefftau y Dref Werdd
Bu i 12 o ddisgyblion ysgolion dalgylch Bro Ffestiniog gychwyn cwrs Cynefin a Chymuned i Blant yn ystod gwyliau’r haf. Trefnwyd 6 sesiwn yn ein coedlan dros y gwyliau a sesiynau misol wedyn. 

Hyd yn hyn rydym wedi bod ar daith hanes i Domen y Mur gydag Elfed Wyn ap Elwyn, taith natur Calan Gaeaf yng nghwmni Catrin Roberts a Gai Toms, taith hanes Cwmorthin gyda Pred Hughes, ac wedi bod i lanhau traeth Cricieth a dysgu am fywyd gwyllt yr arfordir gydag Eurig Joniver. 

Mae’r criw yn mwynhau’n arw. Diolch i’r arweinwyr am eu cyfraniad i addysg y bobl ifanc.

Mae gwirfoddolwyr prysur ein cynllun cyfeillio dros y ffôn, Sgwrs, yn parhau i gefnogi eu ffrindiau ffôn. I ddangos ein diolch iddynt, ac i ddathlu dwy flynedd o’r prosiect, trefnwyd te prynhawn iddynt yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth ym mis Tachwedd. Roedd yn braf i’r rhai oedd yn sgwrsio â’i gilydd allu cyfarfod wyneb i wyneb am y tro cyntaf ar ôl bod yn sgwrsio ar y ffôn am gyfnod hir. Diolch iddyn nhw, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai maent yn eu helpu. Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o’r cynllun, cysylltwch.

Gardd Fywyd Gwyllt Hafan Deg

Gwyddom oll fod natur ar drai, a bywyd gwyllt dan fygythiad. Gan weithio ochr yn ochr â chymuned Bro Ffestiniog, mae’r Dref Werdd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella byd natur ‘ar eich stepen drws’.

Felly, yn dilyn llwyddiant yr Ardd Lysiau Gymunedol yn Hafan Deg, mae prosiect cyffrous newydd ar y gweill sef Gardd Fywyd Gwyllt Gymunedol yn Nhanygrisiau.

Mewn partneriaeth ag Adra a Cadw Cymru’n Daclus, byddwn yn troi darn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio yn hafan i fywyd gwyllt i bawb ei fwynhau. Bydd perllan, wedi'i phlannu â choed ffrwythau treftadaeth Gymreig, coedlan ffrwythau a chnau gwyllt (collen, criafolen, draenen ayyb), gwrychoedd, dôl blodau gwyllt, a 'gardd gors' i annog pob math o fywyd gwyllt. Bydd gwelyau uchel i greu 'gardd synhwyraidd' yn cynnwys perlysiau, ffrwythau meddal, blodau, a bwydydd bwytadwy fel garlleg gwyllt.

Bydd angen gwneud LLAWER o waith! Ond bydd yr ardd hon yn perthyn i’r gymuned gyfan, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb sydd eisiau dod i helpu a dod â’r ardd hon yn fyw!

Am fwy o fanylion, ebostiwch meg@drefwerdd.cymru

Dros fisoedd yr haf bu’r criw amgylcheddol yn brysur yn datblygu pwll bywyd gwyllt ger ein coedlan ddim ymhell o’r dref. Mae pyllau yn hanfodol er mwyn cynnal bywyd gwyllt ac roeddem wedi meddwl y byddai’n rhaid disgwyl am gyfnod cyn gweld llawer yno ond o fewn ychydig fisoedd, rydym wedi gweld llyffant, yn ogystal ag amryw o bryfetach dyfrol. Edrychwn ymlaen at weld bywyd gwyllt yn ffynnu yn y pwll eleni.

Mae Megan Elin, ein Cynorthwyydd Amgylcheddol, wedi cychwyn prosiect ‘Casglu a Chysylltu’, sef ymgyrch i gynnal gweithgareddau casglu sbwriel gan gymdeithasu ag eraill. Mae ambell i sesiwn wedi ei chynnal yn nhraeth Morfa Bychan gyda 12 bag sbwriel wedi eu hel. Os oes gennych ymholiadau am y prosiect yma, cysylltwch â Megan Elin ar meganelin@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023



20.9.22

Cynefin a Chymuned i Blant

Bu 2021-22 yn gyfnod cyffrous i ni ac i griw o blant Bro Ffestiniog wrth i ni gael gwneud gwahanol weithgareddau a chael profiadau anhygoel gan arweinwyr lleol gyda chynllun Cynefin a Chymuned i Blant. Gyda diolch i Mantell Gwynedd am ariannu’r cynllun.

Bu'm yn ymweld yn wythnosol a choedlan fach y mae’r Dref Werdd wedi bod yn ei datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Cawsom ddysgu sgiliau newydd fel dod i adnabod coed a phlanhigion, adeiladu den, dysgu am gynefinoedd bywyd gwyllt, gwneud celf a chrefft naturiol a choginio ar dân agored.

Trefnwyd sesiynau misol hefyd dan arweiniad gwirfoddolwr lleol, a chawsom amrywiaeth dda o brofiadau i ddysgu am ein cynefin a’n cymuned leol.

Hoffem ddiolch yn fawr i bob un o’r arweinwyr - Elfed Wyn Ap Elwyn, Paul Williams, Daniel Griffith, Eurig Joniver, Catrin Roberts, Gai Toms, Sel Williams, Meilyr Tomos, criw Yr Ysgwrn, Hefin Hamer, Pred Hughes a Dewi Prysor am sesiynau difyr iawn ac am roi eu hamser i blant Bro Ffestiniog.

 

I ddathlu holl lwyddiannau’r plant dros y flwyddyn, bûm yn gwersylla am noson ym Mhenrhyn fis Mehefin. Cawsom lawer o hwyl ond dim digon o gwsg! Fe fûm yn trochi rhwydi a gweld pa fath o fywyd gwyllt oedd yn byw yn y pyllau, chwarae gemau a gwneud pilates yn yr awyr agored cyn cael siocled poeth o amgylch y tân.

Derbyniodd bawb dystysgrifau Gwobr John Muir am eu hymdrechion. 

Llongyfarchiadau mawr iddynt oll. Gan obeithio y byddwch yn mynd ymlaen i rannu eich sgiliau newydd a’ch gwybodaeth am eich cynefin a’ch cymuned gydag eraill.
Pob lwc i chi gyd a pheidiwch â bod yn ddiarth!
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022

Cliciwch ar y ddolen 'cynefin a chymuned' isod neu yn y cwmwl geiriau ar y dde am fwy o erthyglau perthnasol. (Efallai bydd angen dewis 'web view' os yn darllen ar eich ffôn).


 

31.12.21

Cwmni Bro -dysgu a rhannu

Llwyddiant Ysgubol i Gwrs Cynefin a Chymuned Bro Ffestiniog

Cafodd nifer o bobl bleser mawr o gymryd rhan mewn teithiau maes a darlithoedd cwrs Cynefin a Chymuned oedd yn cael ei gynnal gan Gwmni Dolan ac yn cael ei noddi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llechi Cymru yn ystod hydref 2021. 

Cafodd y rhai oedd ym mynychu'r cwrs y fraint o glywed am hanes economaidd yr ardal gan Selwyn Williams, gan gynnwys hanes Llanberis hefyd, ardal sy’n debyg iawn i Flaenau Ffestiniog yn ddiwydiannol. 


Cafwyd taith o Landecwyn i Fwlch y Gorddinan gyda Twm Elias (gwelir y llun), yn egluro’r tirlun a’r hanes ynghlwm a phob llecyn o dir. Penderfynodd ardaloedd Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle gynnal cyrsiau Cynefin a Chymuned eu hunain hefyd, i ddathlu’r hanes a thirlun eu bro nhw. 

Mewn oes lle mae’r iaith Gymraeg dan fygythiad, lle mae enwau brodorol ar dai, mynyddoedd ac afonydd yn cael eu Seisnigo, lle mae hanes yn cael ei golli gan y genhedlaeth nesaf, a lle mae nifer o bobl yn symud mewn i gymdeithas heb wybod am gefndir y lle; mae cwrs fel hyn yn allweddol i ddangos gwerth cymuned, integreiddio pobl mewn i’r fro, a chryfhau statws yr enwau sydd dan fygythiad o gael eu colli. 

Bydd trafodaeth yn codi o fewn y misoedd nesaf i redeg y cwrs blwyddyn nesaf, a’r blynyddoedd i ddod.
- - - -

Y Zapatistas yn galw yn Stiniog!

Cafodd swyddfa Cwmni Bro'r pleser o gyfarfod aelodau'r grŵp gwleidyddol yma o Chiapas, Mecsico, ddiwedd Hydref.

Roedd yn uno dri chriw sy'n teithio'r byd dros y misoedd nesaf i rannu eu stori, ac i ddysgu gan eraill hefyd.

Ffurfiwyd Ejército Zapatista de Liberación Nacional (Byddin Rhyddid Cenedlaethol y Zapatistas) ym 1983 ac maent wedei ymladd yn erbyn anghydraddoldeb cymdeithasol tuag at y boblogaeth frodorol ers hynny.

maen nhw'n dal i ymgyrchu trwy ddulliau di-drais, dros hawliau bobl gynhenid, hawliau merched, statws eu hiaith a'u traddodiadau, a mwy.
- - - - - -

Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021.


9.12.21

Hydref Y Dref Werdd

Cadw'n Gynnes

Mae’r hydref wedi cyrraedd, a thebyg bod sawl un ohonom wedi ildio, a wedi rhoi matsen yn y tân, neu danio’r boelar bondigrybwyll am y tro cynta'. Na phryderwch! Mae’r Dref Werdd wedi bod wrthi dros yr haf yn meithrin cysylltiadau, yn mireinio’n cynlluniau ac yn dysgu mwy am yr heriau sy’n ein gwynebu wrth i ni ystyried y costau ynni cynyddol a’r angen dybryd sydd i ni leihau ein allyriadau carbon. 

Llwyddom i ddenu ambell bwysigyn yma dros yr haf i'w herio nhwytha i weithredu, ac i amlinellu’r sefyllfa ar lawr gwlad iddynt. Unwaith eto eleni byddem yn helpu rhai ohonoch hefo’r Warm Home Discount, sydd yn rhoi £140 o gredyd ar eich cyfrif trydan dros y gaeaf. Os ydych yn bryderus am eich costau, galwch heibio efo’ch bil trydan er mwyn i ni wirio os ydych yn gymwys i'w hawlio. 

Rydym hefyd yn cydweithio hefo’r Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru i gyfeirio pobl at gynlluniau effeithlonrwydd ynni - Arbed ECO a Nyth. Mae rhain yn gynlluniau all roi cymorth drwy insiwleiddio eich tŷ neu newid eich cyfarpar i fod yn fwy effeithlon. Drwy wneud hyn, bydd lleihad yn eich costau ynni. 

Mae’n siŵr bod rhai ohonoch yn bryderus am yr holl gythrwbwl sydd yna ar hyn o bryd gyda phrisiau nwy a thrydan sy’n codi mor syfrdanol. Does dim diben pryderu a gwneud dim ynghylch y peth. Rydym yn erfyn arnoch i gyd i alw heibio am sgwrs.
Mae’n siŵr fod yna o leia un tric y medrwn rannu a chi a wnaiff wneud petha’n haws!
 Oriau Agor: Dydd Llun, Mercher a Gwener, 10.00 - 4.00 . 

Neu codwch y ffôn - 01766 830082 / 07435 290553 

Cynefin a Chymuned i Blant

Roeddem fel criw yn ddigalon i weld diwedd yr haf, oedd yn golygu diwedd i’n sesiynau wythnosol yn gwneud gwahanol weithgareddau yn y coed yn dilyn chwe wythnos llawn hwyl gyda’n gilydd. Ond, roedd yn werth disgwyl am sesiwn mis Medi ble cawsom fynd ar daith natur gyda Paul Williams a’n harweiniodd i lawr coed Cwmbowydd. 

Croen larfa gwas neidr
 

Bu i ni ddysgu llawer iawn o bethau am fyd y pryfed, cynefinoedd bywyd gwyllt a sut i adnabod coed a phlanhigion. Sesiwn gwerth chweil - diolch yn fawr iawn, Paul.

Eda’ Eco

Mae gofod Eda’ Eco wedi ei greu ar lawr cyntaf y Siop Werdd ers rhai misoedd bellach. Gofod sy’n cynnwys dau ffwrdd gyda’r holl offer a deunydd gwnïo y gallwch feddwl am! Ond digon distaw ydi hi i ddweud y gwir, felly rydym wedi penderfynu rhoi benthyg yr offer i aelodau’r gymuned gael creu/trwsio/ a’i wneud gartref gartref. 

Cysylltwch hefo ni os ydych eisiau benthyg yr offer - manylion isod. 

Cynllun Digidol

Cofiwch am y dyfeisiau digidol sydd ganddom i’w benthyg allan i’r gymuned. Os hoffech chi gael cyfle i ddysgu sut i yrru e-byst, cadw mewn cyswllt gyda theulu a ffrindiau, edrych ar hen luniau o’r ardal ar y we, gwneud ychydig o siopa neu unrhyw beth arall, gadewch i ni wybod - manylion cyswllt isod. 

Apêl am Wirfoddolwyr

Unwaith eto rydym yn gwneud apêl am wirfoddolwyr i helpu gyda chynllun cyfeillio dros y ffôn - SGWRS. Mae SGWRS yn brosiect i daclo unigrwydd a chreu cysylltiadau ac mae’r prosiect bellach yn flwydd oed! Yn ystod y flwyddyn mae dros 400 o oriau o sgwrsio wedi eu cofnodi gydag adborth cadarnhaol iawn gan bawb sy’n ymwneud â’r cynllun. Mae gwirfoddolwyr yn sgwrsio am hyd at awr yr wythnos gyda Ffrindiau. Gallwch hawlio hyd at £3 yr alwad mewn costau.  

Rydym hefyd yn galw am wirfoddolwyr i helpu’r rhai sy’n benthyg dyfais ddigidol ganddo ni ddod i ddeall sut i’w ddefnyddio. Os ydych chi’n deall dyfeisiau android ac yn hapus i roi ychydig o amser i helpu eraill ddeall, gadewch i ni wybod.

Os hoffech chi drafod unrhyw un o’r uchod, ffoniwch neu gyrrwch e-bost i Non:  07385 783340 / non@drefwerdd.cymru

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021


1.11.21

Y Dref Werdd -Cynefin, Coed, a Chlonc

Cynefin a Chymuned i Blant
Braf iawn oedd gallu ail-danio cynllun Cynefin a Chymuned i Blant yn ddiweddar, gyda diolch i Mantell Gwynedd am y grant i’w ariannu am flwyddyn. 

Llywelyn Fawr efo criw Cynefin a Chymuned ar safle Castell Prysor.
 

Mae pymtheg o blant o chwe ysgol gynradd Bro Ffestiniog yn rhan ohono, gyda’r ysgolion wedi dewis y plant, ac mae pob un ohonyn nhw’n bleser i fod yn eu cwmni!

Dros yr haf, rydym wedi cynnal sesiwn wythnosol mewn coedlan leol ble mae’r plant wedi bod yn dysgu am fywyd gwyllt, dod i adnabod coed a phlanhigion gwyllt, gwneud gwaith celf naturiol, chwarae gemau a gwneud ffrindiau newydd. Bydd chwe sesiwn yr haf yn golygu y byddent yn derbyn Gwobr Darganfod John Muir.


Bydd sesiynau dan arweiniaeth amryw o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, gyda phrofiadau unigryw addysgol gwerth chweil. Cynhaliwyd sesiwn hanes drwy law Elfed Wyn ap Elwyn ym mis Awst a sesiwn rhyfeddod pryfaid a chynefinoedd ym mis Medi – profiadau unigryw, cyffrous, llawn hwyl i’r plantos. Bydd mwy i ddod dros y flwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr!

Hoffem ddiolch i’r arweinwyr am wirfoddoli eu hamser er mwyn rhannu eu sgiliau gyda’r plant – dyma wir ysbryd hael pobl Bro Ffestiniog. Diolch o galon i bob un ohonoch.

 

Dod yn ôl at dy Goed
Mae’r cynllun presgripsiynu gwyrdd yn mynd yn dda gyda llawer un yn mwynhau gweithgareddau amrywiol yn ein sesiynau. Rydym wedi cynnal ambell i sesiwn ‘Panad yn y Coed’, wedi gwneud cawl danadl poethion blasus, dod i adnabod coed a phlanhigion ar y safle, gwaith celf clai naturiol a Hapa Zome, Tai Chi, Pilates, wedi ymweld â Fferm Pen y Bryn ambell waith, codi sbwriel, garddio ac wedi cael taith gerdded fach o amgylch Llyn Mair. Mae croeso i unrhyw un ymuno – cysylltwch am wybodaeth pellach.

 

Sgwrs
Rydym yn brin o wirfoddolwyr ar gyfer ein cynllun cyfeillio, Sgwrs, a Ffrindiau yn aros am rhywun clên i gael sgwrsio. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gyfeilliwr sy’n sgwrsio unwaith yr wythnos gyda Ffrind, cysylltwch â ni.
Manylion cyswllt - 07385 783340 neu hwb@drefwerdd.cymru.

Prosiectau Amgylcheddol
Gan fanteisio ar y tywydd poeth diweddar, aeth gwirfoddolwyr Gwelliannau Llan ati i dorri'r ddôl blodau gwyllt yng Nghae Bryn Coed, ac yna gwasgaru'r hadau blodau gwyllt i sicrhau ddôl hardd eto'r flwyddyn nesaf.   

Unwaith eto, mae Gardd Gymunedol Hafan Deg wedi derbyn Gwobr Baner Werdd am fannau gwyrdd cymunedol gan Cadwch Gymru’n Daclus. Diolch enfawr i'r holl wirfoddolwyr gweithgar sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am ein lleoedd gwyrdd cymunedol.

Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ysgolion lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf; dysgu am goed, paratoi gerddi i'w plannu, adeiladu gwestai trychfilod gyda'r plant a'u helpu i ddysgu am bwysigrwydd garddio ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer bwyd!   Yr hydref hwn byddwn yn cychwyn ar brosiect peillwyr cyffrous newydd gydag ysgolion y fro, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr ato.
Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o'r prosiectau amgylcheddol gymunedol, cysylltwch â ni ar 07775723767 neu meg@drefwerdd.cymru
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021


15.10.17

Y Dref Werdd

Ychydig o newyddion gan fenter amgylcheddol Bro Ffestiniog

Bwrlwm Bro

Cafodd Bwrlwm Bro eleni ei gynnal yn y Parc ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg o 12yp.
Cafwyd prynhawn o hwyl gyda cherddoriaeth gan Band Arall, Garry Hughes, Gwilym Bowen a Tom ap Dan.



(Lluniau Alwyn Jones)




Cynefin a Chymuned

Dros y flwyddyn ddiwethaf yma mae’r Dref Werdd wedi bod yn gweithio ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar brosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’.
Bwriad y prosiect yma yw cael plant ein Bro i gysylltu gyda natur a’u cymunedau a threftadaeth.


Mae’r gweithgareddau wedi amrywio o lanhau afonydd, mynd ar deithiau natur a mynd am benwythnos addysgol i Ynys Enlli. Nid yn unig oedd y plant yn derbyn profiadau newydd wrth fynychu ond hefyd roeddent yn dysgu sgiliau ymarferol fel naddu pren ac adeiladu llochesi.

Ein nod yw i’r plant cael derbyn cymhwyster John Muir ond yn bwysicach fyth maent yn derbyn teimlad o hunaniaeth wrth iddynt weithio o fewn eu cymuned. I ddathlu blwyddyn o’r prosiect yma roedd sesiwn wedi cael ei drefnu ym Mhlas Menai ger Caernarfon i ddiolch i’r criw am eu hymroddiad i’r prosiect. Yno fe ddysgwyd am griwiau eraill Glannau Gwyllt ledled gogledd Cymru a datblygiad eu prosiectau nhw gan gynnwys mynd allan ar fyrddau padlo a sesiynau dringo.

Mae’r prosiect yn agored i unrhyw unigolyn sydd 11-14 oed sydd yn byw yn ardal Bro Ffestiniog. Os oes gennych ddiddordeb i ymuno gadewch i’r Dref Werdd wybod ar 01766 830082 neu e-bostiwch Daniel Gwyn. daniel@drefwerdd.cymru

Man gwyrdd cymunedol Hafan Deg

Fel y gwyddoch, rydym wedi bod wrthi’n datblygu man gwyrdd cymunedol yn Hafan Deg, Tanygrisiau yn ystod y flwyddyn diwethaf.
 
Mae’r safle wedi symud yn ei flaen yn dda iawn ers i’r ffens gael ei osod ym mis Tachwedd llynedd.
Bu i ni adeiladu cysgodfan helyg dan arweiniad Anna Williams o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ym mis Mawrth. Mae hwn erbyn hyn yn ffynnu ac yn edrych yn ardderchog!
Yn dilyn hyn, gosodwyd bin ysbwriel a mainc bicnic yno ac fe blannwyd goed afalau a gwrychoedd o amgylch y safle.

Yna ym mis Mehefin, bu i ni adeiladu gwely llysiau 8 troedfedd sgwâr, ac yn yr amser byr iddo fod yno, mae radish wedi ei rannu o gwmpas y trigolion yn barod! Bydd moron, nionod, letys a pak choi yn dilyn cyn hir.

Brian, un o drigolion Hafan Deg, sydd yn edrych ar ôl y llysiau, gydag yntau yn gyn-arddwr ym Mhortmeirion ac wedi cael gardd lysiau ei hun yn y gorffennol, mae ganddo brofiad da. Dywedodd Brian ei fod yn hapus iawn hefo’r safle, a’i bod yn braf gweld cymaint o’r trigolion yn dod allan i gymdeithasu a threulio amser yn yr awyr iach yn yr ardd gymunedol.

Yn ogystal â thyfu llysiau, mae dau wely arall wedi eu gosod yno - un ar gyfer perlysiau a’r llall ar gyfer llwyni ffrwythau. Mae Brian wedi adeiladu bin compost allan o hen baledau a does ond ambell i beth bach ar ôl i’w wneud erbyn hyn.


Mae’r man gwyrdd hwn yn mynd i fod yn adnodd gwych i drigolion Hafan Deg – rhywle i biciad i nôl llysieuyn i rhoi blâs ffres ar bryd o fwyd a lle bach braf i gymdeithasu a sgwrsio a mwynhau amser yn yr awyr agored.

Gyda diolch i drigolion Hafan Deg am eu cefnogaeth – yn enwedig i Brian, Damian ac Alan – maent wedi bod yn weithgar tu hwnt a wedi gwirfoddoli llawer iawn o amser yn helpu yma, a diolch i Grŵp Cynefin, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru a’r Parc Cenedlaethol am eu cyfraniadau tuag at y prosiect.
----------------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch hynt a helynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



28.8.17

Y Dref Werdd ar Ynys Enlli

Fel y gwyddoch, mae’r Dref Werdd wedi bod yn trefnu sesiynau ar gyfer plant yr ardal er mwyn eu dysgu am yr amgylchedd, gan gynnwys perthynas pobl a’u hanes. Fel rhan o raglen Cynefin a Chymuned eleni, aeth nifer drosodd i Ynys Enlli, er mwyn dysgu mwy am hanes y lle a’i phwysigrwydd -nid yn unig i ni fel Cymry, ond i’r byd Cristnogol yn gyfan.

Mae’r Ynys wedi bod yn safle crefyddol hynod o bwysig ers i Sant Cadfan adeiladu mynachlog yno ym 516. Roedd yn ganolfan hynod bwysig i bererinion yn yr oesoedd canol nes  i’r adeiladau gael eu dinistrio gan orchymyn Harri VIII i ddinistrio mynachlogydd yn 1537.

Erbyn heddiw, mae’r Ynys yn enwog am ei bywyd gwyllt, gydag adar drycin Manaw a brain coesgoch yn nythu yno, ymysg llawer mwy.


Dyma rai o sylwadau'r criw am daith fythgofiadwy i Ynys Enlli:

Liam Williams, 11 oed, Blaenau
Rwyf wedi mwynhau'r profiad o gael mynd i Ynys Enlli. Fy hoff beth oedd mynd ar y cwch, cysgu mewn lle newydd a gwahanol, a hefyd helpu i lanhau sbwriel ar yr ynys.
Diolch i’r Dref Werdd am fynd â ni. 


Math Roberts, 12 oed, Manod
Cefais benwythnos bythgofiadwy ar Ynys Enlli gyda chriw Cynefin a Chymuned y Dref Werdd. Mwynheais y trip drosodd ar y cwch - cyffrous iawn! Pan gyrhaeddon ni ar yr ynys, y peth cyntaf a welais oedd y morloi yn torheulo ar y lan. Aethom wedyn i godi sbwriel oddi ar y traeth ac roeddwn yn drist o weld faint o blastig oedd wedi cael ei olchi i’r lan. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn gan Siân, y Warden am fywyd gwyllt Enlli. Diolch i griw'r Dref Werdd am fynd â ni yno ac am y profiad gwerthfawr.  


[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017]


28.6.17

Cynefin a Chymuned yn Yr Ysgwrn

Erthygl gan Gwydion ap Wynn -Rheolwr Prosiect y Dref Werdd

Ar ôl llwyddiant Cynefin a Chymuned i Blant llynedd, mae’r Dref Werdd wedi mynd ati’n ôl i drefnu mwy o sesiynau ar gyfer plant Bro Ffestiniog yn 2017. Wrth aros gyda’r egwyddorion o ddysgu am gynefin, amgylchedd a hanes, fe aeth y criw i’r Ysgwrn i ddechrau’r cwrs newydd.

Fel y gwyddoch, mae datblygiadau sylweddol wedi bod ar y safle’n ddiweddar, dan oruchwyliaeth Sian Griffiths, o’r Parc Cenedlaethol, i fod yn barod erbyn y canmlwyddiant.

Aeth y criw i Drawsfynydd i blannu ffrwythau yng ngardd y Prifardd enwog ac i ddysgu am yr holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd yno. Fe blannwyd coed afalau, cyrens duon, cyrens cochion a bylbiau cennin Pedr. Mae Cynefin a Chymuned yn awyddus i ddysgu’r bobl iau sut i blannu pethau ac wedyn am y cyfrifoldeb sydd ganddynt fel unigolion i warchod y planhigion ynghŷd â’r byd naturiol o’u cwmpas.

Mae’r Ysgwrn yn adlewyrchu sut y bu’r Cymry’n byw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac yn galluogi i ymwelwyr gamu’n ôl mewn amser i edrych ar hanes llenyddiaeth, ac ar agweddau cymdeithasol ac amaethyddol. Wrth ymweld â hen gartref Hedd Wyn, cafodd yr ieuenctid ddysgu am fywyd eu cyndeidiau a deall beth maent wedi ei etifeddu fel Cymry Cymraeg.


Mae criw Cynefin a Chymuned yn ceisio am Wobr John Muir eleni, sefydliad sydd yn awyddus i’r genhedlaeth nesaf ymfalchïo mewn diwylliant lleol, a darganfod profiadau newydd. Mae’r criw ifanc nawr am fynychu sesiynau fydd yn rhoi iddyn nhw amrywiaeth o brofiadau gwahanol gan gynnwys sesiwn chwilota am fwyd, gwyllt-grefft, mynydda a llawer mwy.

Fe hoffai’r Dref Werdd ddiolch i bawb fynychodd ar y diwrnod ac edrychwn ymlaen i weld y safle’n ôl yn ei ogoniant.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017.


10.9.16

Y Dref Werdd- Cymuned a Chynefin


Erbyn hyn daeth y cwrs i ben ac mae criw o blant brwdfrydig a bywiog wedi cymryd rhan mewn chwe sesiwn ac wedi cael dysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol gan arbenigwyr lleol.

Daeth y syniad o ddatblygu’r sesiynau yma yn dilyn cwrs tebyg i oedolion cafodd ei ddatblygu gan Antur Stiniog rhai blynyddoedd yn ôl ac yn ddilyniant i’r Clwb Natur roedd Y Dref Werdd yn ei drefnu yn y gorffennol. Sesiynau llawn hwyl oedden nhw, ond wrth gael hwyl, roedd pawb yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gwahanol fel hanes, treftadaeth, yr amgylchedd, daeareg a bywyd gwyllt.

Yn y sesiwn cyntaf, aeth Twm Elias a’r criw allan i Landecwyn ar ddiwrnod braf lle cafwyd bob math o straeon difyr am yr ardal cyn darfod y diwrnod ar draeth Llandanwg, ger Harlech.

Yr adborth gan y plant ar ddiwedd y dydd i’w rhieni oedd, “Mae Twm Elias yn ôsym, mae o’n gwbod pob dim am bob dim”!!



Sesiwn ychydig mwy anturus oedd wedyn, gydag Iwan Cynfal yn arwain y plant i ddringo ar greigiau yn Nhanygrisiau iddynt gael blas o’r cyfoeth o weithgareddau awyr agored sydd ar gael ym Mro Ffestiniog.

Mae Catrin Roberts a Iona Price wedi bod wrthi yn chwilota am fwyd gwyllt sy’n tyfu o’n cwmpas ers rhai blynyddoedd bellach ac yn mynd ati i wneud jamiau, marmalêd a llawer o bethau blasus eraill. Felly, yn y trydydd sesiwn, aeth y criw allan i ardal Cwm Cynfal i ddarganfod planhigion blasus sydd ar gael yno, gyda phob plentyn yn casglu cynhwysion gwyllt eu hunain. Pan ddaeth y glaw, aeth pawb yn ôl i’r Ganolfan Gymdeithasol i ddefnyddio cegin y Gofal Dydd, a choginio pitsas cartref efo’r planhigion bwytadwy a gasglwyd i ychwanegu blas arbennig. Er y llanast oedd yn y gegin ar y diwedd, cafodd y plant fwynhad mawr !


Mae sgiliau gwylltgrefft, neu bushcraft  yn Saesneg, wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, felly o dan oruchwyliaeth Hefin Hamer a Megan Thorman, aeth y plant i lawr i safle Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yng Ngwaith Powdwr, Penrhyn, lle cafwyd dysgu nifer o sgiliau newydd oedd yn cynnwys defnyddio cyllell i greu darnau o gelf, cynnau tân yn ddiogel, adeiladu ‘den’ a llawer mwy. Braf oedd gweld y plant yn cael dysgu gymaint â chael hwyl gyda Hefin a Megan, sydd â chymaint o arbenigedd i’w rannu.

Yn y ddau sesiwn olaf, bu Hefin a Megan yn chwilio am olion anifeiliaid i lawr ar yr aber ac o gwmpas Bro Ffestiniog, a bu Selwyn Williams a Maia Jones, Y Dref Werdd, yn son am dreftadaeth cyn gorffen yn y Pengwern am sesiwn greadigol.

Roedd pob un o’r plant sydd wedi bod yn rhan o’r sesiynau Cynefin a Chymuned yn derbyn tystysgrif Gwobr John Muir ar y diwedd fel cydnabyddiaeth o beth maent wedi ei ddysgu ar y cwrs arbennig hwn. Gwyliwch allan hefyd am arddangosfa’r plant yn oriel Antur Stiniog yn ystod mis Medi!

Os oes plant neu blentyn gennych chi a fydd gyda diddordeb ymuno â’r hwyl, cysylltwch gyda Daniel ar 01766 830 082 neu daniel[AT]drefwerdd.cymru

26.7.16

Blwyddyn gyda’r Dref Werdd

Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect y Dref Werdd, yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyffrous.

Mae’n anodd coelio fod blwyddyn wedi gwibio heibio ers i brosiect Y Dref Werdd ail-gychwyn eto, ond hefyd gall rhywun ddeall pam wrth ystyried y holl waith sydd wedi cael ei wneud yn datblygu'r cynllun sydd wedi cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i “Ddatblygu Tref Werdd Ddyfeisgar”.

Mae cymaint wedi digwydd gyda phob prosiect rydan ni’n gweithio arno, gyda nifer dda o bobl Bro Ffestiniog wedi derbyn cymorth gyda’r gwaith ynni, cyfleoedd gwirfoddoli a llawer o blant y Fro yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg, a chyda’n cwrs newydd, Cynefin a Chymuned.

Dros y flwyddyn, rydan ni wedi bod  yn ceisio lleihau biliau ynni  yn yr ardal ynghyd ag allyriadau CO2.

 Mae nifer o dechnegau gwahanol wedi cael eu cyflwyno i helpu arbed arian yn eich cartrefi:
·         Gosod amseryddion cawod i leihau'r amser rydych yn treulio ynddi
·         Cyfnewid eich bylbiau arferol am rai LED, a
·         Gosod ffoil arbennig tu cefn i reiddiaduron.

Un o’r pethau mwyaf llwyddiannus oedd  y gwaith hwyluso a hyrwyddo ceisiadau am  y ‘Warm Home Discount’, sydd yn ad-daliad o £140 oddi  ar y biliau trydan. Mae’r Dref Werdd wedi helpu bron i 100 o bobl ym Mro Ffestiniog gyda’r cynllun yma sydd yn gwneud arbedion o bron i £14,000!

Mae dros 30 o denantiaid a pherchnogion tai wedi cael eu cyfeirio at gynllun Nyth/Nest – rhai wedi cael system wresogi newydd sbon danlli am ddim!


Ar ochr amgylcheddol y cynllun, rydan ni wedi bod yn brysur yn sicrhau ein bod yn parhau gyda’r gwaith o oruchwylio ein hafonydd gwerthfawr gyda diwrnodau yn glanhau sbwriel o Afon Barlwyd a’r Dubach. Anodd coelio bod 'na gymaint o wastraff yn ymgasglu’n y dyfroedd yma, ond diolch i waith caled ein gwirfoddolwyr a’n partneriaid, mae’r ddwy afon yma yn edrych yn llawer glanach heddiw.

Yn ogystal â’r diwrnodau glanhau, rydan hefyd yn brysur yn cynllunio ein brwydr yn erbyn clymog Siapan, neu llysiau’r diafol (Japanese knotweed) sy’n tagu rhai o’n hafonydd a mannau eraill. Mae’r planhigyn yma yn achosi niwed mawr i blanhigion brodorol Bro Ffestiniog a hefyd yn gallu bod yn broblem fawr os ydi o’n tyfu yn eich gardd. Ein bwriad yw hyfforddi ac achredu ein gwirfoddolwyr i ddelio â’r planhigion hyn. Felly, os oes gennych broblem gyda llysiau’r diafol, dewch i gysylltiad â’r Dref Werdd!

Planhigyn arall sydd ddim yn perthyn i’r ardal yw’r Rhododendron ponticum. Er ei fod yn hardd dros ben ym Mehefin, yn ei flodau pinc, dim ond am ryw fis mae o’n para. Mae’r rhywogaeth ymledol yma yn dangos ei wir liwiau drwy gydol y flwyddyn wrth amddifadu'r tirwedd o faeth gwerthfawr.  Unwaith eto, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwerthfawr, rydan wedi cychwyn ei reoli ar safle yn Nhanygrisiau - ger y Hen Felin - wrth dorri a chlirio, ac wedi cyflogi swyddogion o Cadw Cymru’n Daclus i drin y planhigion yn gywir drwy eu chwistrellu a thrin y stympiau. Rydan wedi clirio bron i 3 acer o dir erbyn heddiw - sydd yn llwyddiant mawr.Yn ail flwyddyn dau y Dref Werdd Newydd, rydan ni mewn trafodaethau gyda Llechwedd i ddelio â’r Rhododendron ar eu tir nhw.

Llwyddiant arall yw’r sesiynau Cynefin a Chymuned i blant y Fro. Dros gyfnod o dri mis, bu 15 o blant yn cael cyfle i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys bywyd gwyllt, hanes, treftadaeth a daeareg, a hynny trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored megis sesiynau ‘ysgol-goedwig’, chwilota am a choginio bwyd gwyllt, dringo, a theithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol. Bydd arddangosfa o wahanol luniau’r plant yn Siop Antur Stiniog ym mis Medi.

Cewch glywed am holl weithgaredd Y Dref Werdd yn Llafar Bro trwy gydol ail flwyddyn y prosiect.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2016.
Dilynwch hanes y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



24.6.16

Y Dref Werdd

Ychydig o newyddion diweddar gan Y Dref Werdd

CLWB CAE BRYN COED

Bu diwrnodau llwyddiannus yn twtio a chlirio cae Bryn Coed yn ddiweddar, fel rhan o weithgarwch ‘Clwb Cae Bryn  Coed’ sydd ar y dydd Sul cyntaf o’r mis.

Cliriwyd y mieri a’r llwybrau o amgylch y cae pêl droed a chasglwyd sbwriel o’r safle gan griw o wirfoddolwyr gweithgar.


Bydd y gwaith cynnal a chadw yma’n arwain tuag at y cynllun o greu dôl o flodau gwylltion rhwng y cae pêl droed a’r llwybr i’r goedwig.
Mae ‘Clwb Cae Bryn Coed’ yn cyfarfod a rhwng 1 a 3 o’r gloch; mwy o fanylion yn Llafar Bro ac ar dudalen Gweplyfr/Facebook Y Dref Werdd.

Dewch draw i weld a rhoi help llaw os oes gennych unrhyw amser i sbario.
Bydd paned a chacen i’r gwirfoddolwyr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Maia  ...     maia[AT]drefwerdd.cymru / 01766 830082

***

Mae'r gweithgareddau Cynefin a Chymuned yn parhau. Bydd manylion a lluniau yn y rhifynnau nesaf o Llafar Bro.


***

Cofiwch am gystadleuaeth gerddi blynyddol Blaenau y ei Blodau. Ewch amdani!



----------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2016. 
Y tro nesa' byddwn yn edrych 'nôl dros flwyddyn o waith Y Dref Werdd.

20.5.16

Y Dref Werdd

Cynefin a Chymuned i Blant
Erbyn hyn rydym yn bell i mewn i 2016; blwyddyn arall gyffrous o’n blaena'!

Ym mis Mai, mae’r Dref Werdd yn paratoi i gychwyn cwrs newydd fydd yn dod a nifer o gyfleoedd arbennig i blant Bro Ffestiniog.

Efallai eich bod yn cofio ychydig flynyddoedd yn nôl i Antur Stiniog ddatblygu cwrs i oedolion o’r enw Cynefin a Chymuned. Cwrs yn edrych ar hanes, treftadaeth, yr amgylchedd, byd natur a llawer iawn mwy yn ardal Bro Ffestiniog a thu hwnt. Daeth y syniad gwreiddiol wrth i Antur Stiniog hyfforddi nifer o bobl leol yn y maes gweithgareddau awyr agored fel mynydda, cerdded nordig, beicio a dringo, ac ati.

“Cerdded i fyny mynydd, nid fel soldiwr, ond fel bardd”.

Yng nghyfnod cyntaf Y Dref Werdd, efallai i chi gofio hefyd y Clwb Natur i blant ysgolion cynradd y Fro? Clwb oedd yn cyfarfod unwaith y mis i fynd ati i wneud sesiynau gwahanol yn yr awyr agoed ac i ddysgu am fywyd gwyllt a sgiliau newydd.

Fel dilyniant i’r Clwb Natur hwnnw, mae’r Dref Werdd yn bwriadu datblygu cwrs Cynefin a Chymuned i blant hynaf yr ysgolion cynradd, ar y cyd gyda’r sawl a oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r cwrs i oedolion. Bydd cyfle i’r plant y tro hwn, nid yn unig i ddysgu am y holl bethau bendigedig sydd o’n cwmpas, ond cyfle i ddysgu nifer o sgiliau newydd wrth fynd ati i gymryd rhan mewn sesiynau ysgolion coedwig, chwilota am fwyd gwyllt, edrych ar ddaeareg a diwylliant yr ardal, chwaraeon awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol fel clirio rhododendron a llawer iawn mwy.


Un peth fydd yn wahanol i’r Clwb Natur, ydi bydd pob plentyn sydd yn cymryd rhan yn y cwrs yn gweithio i gael tystysgrif Gwobr John Muir wrth gasglu gwybodaeth a lluniau er mwyn creu arddangosfa fydd ar agor i’r cyhoedd.

Erbyn heddiw, mae’r cwrs wedi cael ei hyrwyddo drwy ysgolion cynradd y Fro ac mae'r criw brwdfrydig wedi bod ar un ymweliad i ardal Llandecwyn dan arweiniad y naturiaethwr unigryw hwnnw, Twm Elias.
 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Daniel, Swyddog Prosiect Y Dref Werdd ar 01766 830 082, neu daniel@drefwerdd.cymru -neu mae croeso mawr i chi alw heibio am sgwrs unrhyw dro.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016.
Dilynwch hanesion Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

27.6.15

Mae'r Dref Werdd yn ôl!

Rhan o erthygl am gynlluniau amgylcheddol Y Dref Werdd, o rifyn Mehefin.

Wedi cyfnod o seibiant, mae’r prosiect wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Loteri Fawr am y tair blynedd nesaf dan y cynllun - ‘Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar’

Bydd cyfleoedd i drigolion Bro Ffestiniog gymryd rhan mewn nifer o brosiectau, fel lleihau defnydd o ynni yn y cartref, hyfforddiant sgiliau cefn gwlad, a chyfleoedd i wirfoddoli mewn gwahanol agweddau o’r gwaith.

Bydd y cynllun yn dilyn y llwyddiant a ddeilliodd o waith ‘Y Dref Werdd’ fel prosiect a gychwynodd yn ôl yn 2006. Nod hwnnw oedd sefydlu’r corff ac hefyd, i greu gweithgareddau fyddai’n helpu i wella amgylchedd Bro Ffestiniog, lleddfu tlodi ac adfywio’r ardal. Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu nifer o gynlluniau penodol a oedd yn arloesol ac ymarferol. Datblygwyd llawer o bartneriaethau a oedd yn cynnwys asiantaethau cenedlaethol, mudiadau a grwpiau cymunedol ac unigolion. Bwriad y cynllun ‘Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar’ yw parhau gyda’r partneriaethau a’r gwaith hwnnw.

Cyn i’r prosiect gwreiddiol ddod i ben yn 2013, sefydlwyd dwy brif bartneriaeth a fydd yn parhau i ddatblygu’r gwaith, sef, ‘Partneriaeth Afonydd Bro Ffestiniog’ - a fydd yn ceisio codi safon ecolegol pedair afon benodol - Barlwyd, Bowydd, Dubach a Teigl, yn ogystal â’u cadw’n lân a thaclus. Bydd hefyd sesiynau addysgol am yr afonydd yn cael eu cynnig i ysgolion yr ardal.

Sefydlwyd y ‘Bartneriaeth Rhododendron’ hefyd a'r cam nesaf fydd ymgynghori efo’r gymuned leol a darganfod ffynhonellau ariannol i wneud ceisiadau i gychwyn ar y gwaith o'i reoli.

Bydd cynllun arall yn cyd-weithio â 90 o aelodau’r gymuned i gynnig hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth, a hynny drwy dargedu’r ifanc a'r di-waith, er mwyn eu helpu i sicrhau cyflogaeth yn y maes.

Yn dilyn llwyddiant y ‘Clwb Natur’ i blant ysgolion cynradd yr ardal, bydd y staff rwan yn ei ddatblygu ymhellach, trwy ddilyn yr hyn a ddeilliodd o’r cwrs ‘Cynefin a Chymuned’, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Antur Stiniog ar gyfer oedolion. Bydd cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys hanes, bywyd gwyllt, archeaoleg a threftadaeth ardal Bro Ffestiniog, a derbyn cymhwyster ar ddiwedd y cwrs.

[Bydd darllenwyr Llafar Bro hefyd yn cofio'r golofn fisol ar faterion amgylcheddol -Y Golofn Werdd- a ymddangosodd yn y papur am gyfnod, a'r rhifyn gwyrdd unigryw, yn hyrwyddo Gwyl yr Wythnos Werdd a'r Ffair Werdd. Gol.]


Dros y 3 mlynedd nesa' bydd 100 o deuluoedd yn cael arweiniad i leihau’r defnydd o ynni yn eu cartrefi ac arbed oddeutu £400 y flwyddyn. Bydd y prosiect hefyd yn cydweithio gyda theuluoedd i leihau’r maint o wastraff bwyd y maent yn ei daflu allan.

Cafwyd lawnsiad yn ‘Siop Antur Stiniog’ ar ganol Mehefin 16eg, lle cafodd unigolion, grwpiau cymunedol a mudiadau alw heibio i gael sgwrs ac i drafod y cynllun.

Mae pedwar aelod o staff wedi eu penodi o’r newydd, sef, Gwydion ap Wynn, Rheolwr y Prosiect, Meilyr Tomos, Swyddog Prosiect Ynni / Bwyd, Gwen Alun, Swyddog Prosiect Amgylcheddol a Maia Jones, Swyddog Cyswllt Y Dref Werdd.


2.10.13

Cynefin a Chymuned

Deall sut mae cefn gwlad yn gweithio.

Cwrs ym Mhlas Tanybwlch; Hydref 31 -Tachwedd 3ydd.


Cwrs ar gyfer arweinwyr teithiau a phawb sydd efo diddordeb.

Sut mae egluro cyfoeth treftadaeth ein tirlun i bobl eraill. Sut mae daeareg, natur, hanes, a defnydd y tir wedi dylanwadu arnom ni a'n tirlun.




I archebu lle dylid cofrestru drwy:
Ceri Cunnington, Antur Stiniog, Yr Hen Go-op, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd, LL41 3AA; ceri.c[at]gwynedd.gov.uk

Pris y cwrs: Noder bod Telerau Arbennig os archebir drwy Antur Stiniog







30.5.12

"AIL I GYFAREDD TELYN"

DYDD SADWRN MEHEFIN 9fed.
  
Tri phlwy', dau gwm, un hanes
 



Taith gerdded o Lan Ffestiniog i Gastell Prysor yng nghwmni Dewi Prysor.

Rhan o gyfres CYNEFIN a CHYMUNED




·        Pulpud Huw Llwyd
·        Cynfal Fawr, cartra Huw Llwyd a Morgan Llwyd
·        Tomen y Mur
·        Ffordd Rufeinig Sarn Helen
·        Gwersylloedd Ymarfer Rhufeinig
·        Gwaith Aur Bwlch y Llu
·        Cytiau crynion
·        Dolau
·        Crash Wellington bomar Moel Croesau
·        Llyn Rhuthlun, a mwy o wersylloedd.
·        Castell Prysor
·        .......a llu o straeon ac olion eraill

Byddwn yn cychwyn o Dafarn Y Pengwern am 10yb ac yn gorffen oddeutu 4yh.
 
Archebwch eich lle er mwyn i mi gael sortio trafnidiaeth.
Ceri Cunnington
Swyddog Prosiect Antur Stiniog.
Yr Hen Co-op, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3AG
01766 832 214
ceri.c@gwynedd.gov.uk