Showing posts with label tyfu llysiau. Show all posts
Showing posts with label tyfu llysiau. Show all posts

12.8.25

Tyfu Gyda’n Gilydd

Lle i Goed, Natur a Chymuned 

Darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2025 

Ar safle tawel ym Mro Ffestiniog mae rhywbeth arbennig yn tyfu - ac nid coed yn unig. Mae meithrinfa goed gymunedol, perllan aml-gnwd, a gardd fywyd gwyllt bach yn helpu’r gymuned i fynd i’r afael â heriau natur a hinsawdd mewn ffordd leol a chadarnhaol.

Cafodd y feithrinfa ei sefydlu’r gaeaf diwethaf ac erbyn hyn gallwn dyfu 1,500 o goed brodorol – llawer ohonynt o hadau a gasglwyd yn lleol gydag ysgolion a gwirfoddolwyr. Mae’r coed hyn wedi’u haddasu’n well i hinsawdd ac amodau'r ardal, ac maen nhw’n cefnogi’r amgylchedd lleol yn fwy effeithiol na choed a fewn-forwyd.  Bydd y coed yn cael eu plannu'n lleol, neu'n cael eu rhoi i unrhyw un sydd eisiau plannu coeden eu hunain.

Diolch i grant gan Bartneriaeth Natur Eryri, mae cynhwysydd cludo wedi’i drawsnewid yn ddiweddar yn sied botio ac yn lloches i staff a gwirfoddolwyr — gan ein galluogi i fod yn bresennol ar y safle drwy’r flwyddyn ac i gynnal gweithgareddau beth bynnag y tywydd.

Gerllaw mae perllan sy’n wahanol iawn i randir traddodiadol - dim rhesi taclus na lleiniau unigol yma. Yn hytrach, mae’r lle’n tyfu mewn ffordd anffurfiol ac adfywiol, gan gyfuno coed ffrwythau, perlysiau, ffrwythau meddal, llysiau lluosflwydd a phlanhigion a pherlysiau meddygol, mewn patrwm naturiol sy’n efelychu natur. Mae’n brosiect tymor hir, ond dros amser bydd y berllan yn dod yn fwy hunangynhaliol, gan gefnogi bioamrywiaeth a darparu bwyd, cysgod a harddwch i’r gymuned.

Mae’r ardal fywyd gwyllt sy’n cysylltu’r lleoedd hyn eisoes yn llawn adar, gwenyn, gloÿnnod byw, gweision neidr a llyffantod - yn fan lloches i natur ac yn le heddychlon i bobl ddod i fwynhau.   Mae’r ddôl flodau gwyllt ar ei gorau ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, yn llawn blodau brodorol fel carpiog y gors, llygad llo mawr, crib y pannwr, milddail, cribell felen a llawer mwy.

Mae’r prosiect yn dangos sut gall cymunedau gymryd camau syml a chynaliadwy i adfer natur, diogelu rhywogaethau brodorol a byw mewn modd mwy ysgafn ar y tir.

Mae’r ardd wedi’i lleoli tu ôl i res Cambrian, Tanygrisiau, LL41 3RT, gyda ddigon o le i barcio os ydych chi'n teithio mewn car.  Mae ar agor trwy’r flwyddyn ac mae croeso i bawb — naill ai i gymryd rhan neu i fwynhau tawelwch.

Hoffech chi weld y feithrinfa? Byddem wrth ein bodd dangos y lle i chi– cysylltwch â ni!  meg@drefwerdd.cymru  01766 830 082


29.7.24

Y Dref Werdd- Beics a Melons

Tyfu bob dim

Mae pethau yn mynd yn wych yng ngerddi Maes y plas, gyda Wil a’i wirfoddolwyr, llawer o blanhigion yn tyfu a dim gormod o falwod. Mae planhigion tomatos, ciwcymbr ac ŵylys (aubergine) yn gwneud yn wych yn y twnnel polithîn, a'r ddau blanhigyn melon. Os allwn dyfu melon yn Blaenau Ffestiniog gallwn dyfu unrhywbeth, croesi bysedd. 


Rydym wedi dechrau dosbarthu ychydig o salad a perlysiau, ac yn rhoi ychydig o gyflenwad blodau i Leisa yn y Cwt Blodau, uwchben caffi Antur Stiniog. Cysylltwch â hi am dusw blodau wedi’u dyfu’n lleol!

Rydym wedi creu ardal ar gyfer cŵn, tra bod pobol yn mwynhau neu’n gwirfoddoli, ac mae cwch gwenyn newydd wedi cyrraedd hefyd. 

Mae bob dydd iau yn ddiwrnod gwirfoddolwyr o 11 ymlaen, cysylltwch â’r Dref Werdd neu droi i fyny!

Oes gennych chi hen feic?

Mae’r Dref Werdd yn cymryd beiciau gan bobl sydd ddim eu hangen bellach ac yn eu troi yn feiciau trydan fydd ar gael i'w defnyddio gan unrhyw un yn y gymuned. Mae gweithdy newydd Beics Blaenau yn hen siop Royal Stores, bellach ar agor, gyda nifer o feics eisoes wedi cael eu rhoi i ni i'w trawsnewid.


Hoffwn ddiolch i ddisgyblion adran celf Ysgol y Moelwyn am addurno ffenestri’r siop, ac i’r disgyblion uwchradd a chynradd sydd wedi bod yn dod draw i helpu i stripio a phaentio’r beics.
Mae croeso i chi ddod draw i weld beth rydym yn wneud, ac rydym o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu os oes gennych ddiddordeb.

Oriau agor y siop – 10:00-14:30.
Cysylltwch ag Emma am fwy o fanylion ar 07469 804912
neu emma@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024

 

15.11.22

Blaenau yn ei Blodau 2022

Dychwelodd cystadleuaeth arddio flynyddol Bro Ffestiniog unwaith eto eleni yn dilyn seibiant o ddwy flynedd. Roeddem yn falch iawn o weld ychydig o geisiadau newydd, yn ogystal a wynebau cyfarwydd! 


Diolch i bawb a gymrodd rhan, a llongyfarchiadau i enillwyr eleni:
Gardd Fawr:  1af – Glenys a Gwyn Lewis, 2ail – Mark Thomas, 3ydd – Barbara Hayes
Gardd Fach:  1af – Martin Couture, 2ail – Joan Jones, 3ydd – Marian Roberts
Potiau : 1af - Glenys a Gwyn Lewis, 2ail - Martin Couture, 3ydd - Zoe Keogh
Llysiau: 1af – Mark Thomas, 2ail – Marian Roberts, 3ydd - Glenys a Glyn Lewis
Bywyd Gwyllt: 1af Janine Hall, 2ail – Glenys a Gwyn Lewis, 3ydd – Barbara Hayes
Basgedi Crog: 1af Kim Bocacato
Masnachol: 1af Caffi’r Bont
Gardd Plant: 1af Caleb Rhun Günner
Enillydd Cyffredinol: Glenys a Gwyn Lewis

Eleni roedd gennym ni gategori newydd yn arbennig i blant, a enillwyd gan Caleb Rhun Günner, 6 oed - da iawn Caleb! Diolch i Eurwyn am y rhodd o daleb ar gyfer Meithrinfa’r Felin, Dolwyddelan,  fel gwobr i Caleb.  Y gobaith yw y bydd yn ysbrydoli mwy o blant a phobl ifanc i ddechrau garddio a chymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Diolch enfawr i Gyngor Tref Ffestiniog am eu cefnogaeth, ac wrth gwrs y beirniaid Dave Williams ac Eurwyn Roberts. Meddai Dave:

“Mae pawb wedi gwneud yn arbennig o dda eleni o ystyried y tywydd anodd, o law trwm i wres eithafol! Rydyn ni mor falch bod pawb wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth gyda brwdfrydedd, ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf, lle gobeithiwn weld llawer o arddwyr newydd a brwdfrydig yn ymgymryd â’r her!”.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn y Dref Werdd, yn rhifyn Medi 2022

(Heb y lluniau, gan Paul W)


15.10.17

Y Dref Werdd

Ychydig o newyddion gan fenter amgylcheddol Bro Ffestiniog

Bwrlwm Bro

Cafodd Bwrlwm Bro eleni ei gynnal yn y Parc ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg o 12yp.
Cafwyd prynhawn o hwyl gyda cherddoriaeth gan Band Arall, Garry Hughes, Gwilym Bowen a Tom ap Dan.



(Lluniau Alwyn Jones)




Cynefin a Chymuned

Dros y flwyddyn ddiwethaf yma mae’r Dref Werdd wedi bod yn gweithio ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar brosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’.
Bwriad y prosiect yma yw cael plant ein Bro i gysylltu gyda natur a’u cymunedau a threftadaeth.


Mae’r gweithgareddau wedi amrywio o lanhau afonydd, mynd ar deithiau natur a mynd am benwythnos addysgol i Ynys Enlli. Nid yn unig oedd y plant yn derbyn profiadau newydd wrth fynychu ond hefyd roeddent yn dysgu sgiliau ymarferol fel naddu pren ac adeiladu llochesi.

Ein nod yw i’r plant cael derbyn cymhwyster John Muir ond yn bwysicach fyth maent yn derbyn teimlad o hunaniaeth wrth iddynt weithio o fewn eu cymuned. I ddathlu blwyddyn o’r prosiect yma roedd sesiwn wedi cael ei drefnu ym Mhlas Menai ger Caernarfon i ddiolch i’r criw am eu hymroddiad i’r prosiect. Yno fe ddysgwyd am griwiau eraill Glannau Gwyllt ledled gogledd Cymru a datblygiad eu prosiectau nhw gan gynnwys mynd allan ar fyrddau padlo a sesiynau dringo.

Mae’r prosiect yn agored i unrhyw unigolyn sydd 11-14 oed sydd yn byw yn ardal Bro Ffestiniog. Os oes gennych ddiddordeb i ymuno gadewch i’r Dref Werdd wybod ar 01766 830082 neu e-bostiwch Daniel Gwyn. daniel@drefwerdd.cymru

Man gwyrdd cymunedol Hafan Deg

Fel y gwyddoch, rydym wedi bod wrthi’n datblygu man gwyrdd cymunedol yn Hafan Deg, Tanygrisiau yn ystod y flwyddyn diwethaf.
 
Mae’r safle wedi symud yn ei flaen yn dda iawn ers i’r ffens gael ei osod ym mis Tachwedd llynedd.
Bu i ni adeiladu cysgodfan helyg dan arweiniad Anna Williams o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ym mis Mawrth. Mae hwn erbyn hyn yn ffynnu ac yn edrych yn ardderchog!
Yn dilyn hyn, gosodwyd bin ysbwriel a mainc bicnic yno ac fe blannwyd goed afalau a gwrychoedd o amgylch y safle.

Yna ym mis Mehefin, bu i ni adeiladu gwely llysiau 8 troedfedd sgwâr, ac yn yr amser byr iddo fod yno, mae radish wedi ei rannu o gwmpas y trigolion yn barod! Bydd moron, nionod, letys a pak choi yn dilyn cyn hir.

Brian, un o drigolion Hafan Deg, sydd yn edrych ar ôl y llysiau, gydag yntau yn gyn-arddwr ym Mhortmeirion ac wedi cael gardd lysiau ei hun yn y gorffennol, mae ganddo brofiad da. Dywedodd Brian ei fod yn hapus iawn hefo’r safle, a’i bod yn braf gweld cymaint o’r trigolion yn dod allan i gymdeithasu a threulio amser yn yr awyr iach yn yr ardd gymunedol.

Yn ogystal â thyfu llysiau, mae dau wely arall wedi eu gosod yno - un ar gyfer perlysiau a’r llall ar gyfer llwyni ffrwythau. Mae Brian wedi adeiladu bin compost allan o hen baledau a does ond ambell i beth bach ar ôl i’w wneud erbyn hyn.


Mae’r man gwyrdd hwn yn mynd i fod yn adnodd gwych i drigolion Hafan Deg – rhywle i biciad i nôl llysieuyn i rhoi blâs ffres ar bryd o fwyd a lle bach braf i gymdeithasu a sgwrsio a mwynhau amser yn yr awyr agored.

Gyda diolch i drigolion Hafan Deg am eu cefnogaeth – yn enwedig i Brian, Damian ac Alan – maent wedi bod yn weithgar tu hwnt a wedi gwirfoddoli llawer iawn o amser yn helpu yma, a diolch i Grŵp Cynefin, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru a’r Parc Cenedlaethol am eu cyfraniadau tuag at y prosiect.
----------------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch hynt a helynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



11.10.16

Mil Harddach Wyt -ffarwel haf

Yn yr ardd
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. 


Yr Ardd Lysiau
Gellir hau letys, y math i sefyll allan yn y gaeaf, yn awr ond mae yn well rhoi rhyw gymaint o gysgod iddynt, fel cloche plastig.

Fel mae y llysiau yn cael eu clirio o'r ardd dechreuwch balu a rhoi hen dail neu gompost yno a'i droi i mewn i'r pridd. . .

Deilbridd -stwff mwya' gwerthfawr yr ardd. Allwch chi fyth gael gormod ohono yn yr hydref. Llun Paul W.

Yr Ardd Flodau
Fel gyda'r llysiau, clirio blodau blynyddol sydd wedi blodeuo yn yr haf. Fforchio dipyn ar y pridd ac ychwanegu gwrtaith fel growmore neu esgyrn, gwaed a physgod, a phlannu ar gyfer cael lliw yn y gwanwyn fel pansis a briallu, a gallwch hefyd blannu bylbiau rwan.

Os oes gennych blanhigion alpaidd bydd angen rhoi cysgod i rai o'r rhain rhag iddynt fynd yn rhy wlyb a defnyddio darn o wydr a'i osod uwchben y planhigion.
Mwcog rhosod yn cadw'r diddordeb yn yr hydref. Llun Paul W.

Os yw y rhosod wedi gorffen blodeuo, eu torri i lawr ychydig ond dim eu tocio. Dylid gwneud hynny yn y gwanwyn - pwrpas hyn yw eu hatal rhag cael eu malu gan wyntoedd yn ystod y gaeaf.

Cofio hefyd blanhigion sydd yn yr ardd ac sydd angen eu cadw mewn lle sydd ddim yn mynd i gael rhew: planhigion fel myniawyd y bugail (Pelargoniums) a choed drops (Fuchias) - eu torri i lawr ychydig a'u rhoi mewn potiau gyda phridd ffres a'u cadw ychydig yn wahanol. Cadw myniawyd y bugail yn sych a rhoi ychydig o ddŵr rwan ac yn y man i'r fuchias.
------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2001. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Blog Ar Asgwrn y Graig -lliw a llun yr hydref


12.7.16

Mil Harddach Wyt -chwynnu, tocio, a bwydo

Yn yr ardd.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.

Yn yr ardd lysiau
Hau moron eto a phys math cynnar. Hefyd hau bresych ar gyfer y gwanwyn.

Codi nionod bach (sets) a’u sychu ar gyfer eu defnyddio yn y gaeaf.

Bydd angen chwynu yr ardd lysiau yn gyson yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb.

Yn y ty gwydr

Bwydo’r tomatos un waith yr wythnos gyda gwrtaith sydd yn uchel mewn potash (ee Phostrogen).
Mae’n rhaid hefyd gwylio am y pry gwyrdd a'u trin (efo bys a bawd, neu chwistrellu, yn ôl eich anian) fel bo’r angen. Gall y pry gwyn fod yn fwy o broblem gan na wnaiff y chwistell ddim ond lladd y pry, ac felly gadael yr wyau ar y dail a gan ei bod yn deor bob rhyw bedwar diwrnod mae angen chwilio yn aml.

Mae planhigion marigolds (tagetes) yn arbennig yn atal rhyw gymaint rhag i’r pry gwyn ddod i’r tŷ gwydr ac mae yn rhaid eu plannu yn yr un pridd a’r tomatos.

Pan mae’r tywydd yn boeth mae’n werth rhoi dŵr ar y llwybr yn y tŷ gwydr.

Mae hyn yn wirioneddol werth ei wneud os ydych yn tyfu ciwcamerau: ma're rhain yn hoff iawn o leithder yn yr aer.

Yn yr ardd flodau
Gwaith pwysig y mis yma yw mynd drwy'r ardd flodau a thorri’r rheini sydd wedi darfod, i’w hatal rhag cynhyrchu had ac felly byrhau y tymor blodeuo. Mae angen hefyd torri blodau ar y pys per yn gyson. Mwya’n y byd o flodau a dorrir mwya’n y byd o flodau y cewch chi ar y planhigion.

Bwydwch yr ardd hefo gwrtaith uchel mewn potash, a thocio llwyni sydd wedi gorffen blodeuo megis banadl a Wisteria.

Mae'n amser i gymryd toriadau oddi ar lwyni fel y tri-lliw-ar-ddeg a’r ffug oren (Philadelphus). Rhowch y toriadau mewn pot: mae’n fantais eu cadw mewn lle cynnes iddynt wreiddio ynghynt.


Cofiwch  hefyd peidio ac anghofio y fasged grog. Mae’n rhaid dyfrio'r rhain o leiaf unwaith y dydd; mwy efallai os bydd y tywydd yn boeth. Mae gwynt yn unig yn sychu basged grog.

Bwydo hefyd yn aml ddwy neu dair gwaith yr wythnos. Mae gwrtaith mewn rhai basgedi sydd yn para am dri neu bedwar mis. Os nad ydych wedi hau had blodau’r fagwyr (wallflower) a sweet William mae angen gwneud yn awr. Hau yn yr ardd a’u trawsblanu i resi rhyw wyth modfedd oddi wrth eu gilydd. Y man gorau os yn bosib yw lle yr ydych wedi codi tatws cynnar. Bydd angen symud rhain eto i’r ardd flodau er mwyn cael lliw yn yr ardd ddechrau’r haf nesaf.
------------------------------
Lluniau -Paul W.

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.

Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.

10.5.16

Mil Harddach Wyt -gwarchod planhigion ifanc

Yn yr ardd.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.


Yn yr Ardd Lysiau
Os ydych wedi plannu tatws cynnar bydd angen cadw golwg os bydd y gwlydd yn torri allan o’r pridd ac os bydd yn debyg i ni gael rhew bydd angen eu priddo neu roi papur neu ‘fleece’ drostynt.

Cofiwch ei bod yn  well rhoi rhyw fath o gylch weiar neu rhywbeth tebyg dros y rhesi rhag i beth bynnag y byddwch yn ei ddefnyddio i warchod y tatws gyffwrdd yn y dail neu maent yn debygol o gael eu llosgi gan y rhew.

Ffa, pys, a mwy

Gellir plannu ffa dringo tuag at ddiwedd y mis a chadw golwg ar y tywydd a’u gorchuddio os bydd rhew yn debygol.

Pys sydd wedi cael eu hau y mis diwethaf – bydd yn rhaid rhoi ffyn wrthynt yn awr.  Brigau coed cyll yw'r gorau.  Mae rhai yn defnyddio rhwyd hefyd.  Rhwymo ffa hefyd fel y maent yn tyfu, ac er mwyn cael dilyniant o lysiau: hauwch eto, pethau megis letys, rhyddugl, betys a maip.

Bydd planhigion tomatos yn tyfu'n gryf yn awr a bydd angen rhoi llinyn i gansen i’w dal a hefyd torri yr ochr dyfiant (side shoots) yn rheolaidd.  Bwydo hefyd bob wythnos.

Mae hefyd yn adeg i blannu ciwcymerau o dan wydr; mae rhain yn hoffi lleithder ac felly yn werth chwistrellu dŵr dros y dail yn aml.

Yn yr Ardd Flodau

Os fuoch chi'n bwydo planhigion gyda bwyd sydd yn uchel mewn nitrogen,  ac os oes gennych blanhigion megis planhigion tŷ sydd ar fin blodeuo mae angen newid y bwyd yn awr i un sydd yn uchel mewn potash (e.e. phostrogen).  Beth mae hwn yn mynd i’w wneud yw cryfhau’r goes a rhoi lliw da i’r blodyn.

Blodau'r gwanwyn
Mae'n dal yn rhy fuan i roi planhigion blynyddol allan yn y borderi tan ddiwedd y mis neu ddechrau Mehefin.  Gofalwch eich bod yn eu dyfrio a rhoi ychydig o fwyd iddynt tra maent yn y blychau.

Beth sydd rhaid cofio am blanhigion wedi eu plannu mewn compost di-bridd, yw bod y bwyd sydd yn y compost wedi ei ddefnyddio gan y planhigion ar ôl rhyw fis, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn eu bwydo wrth ddyfrio.
 
Gellir hau hadau megis ‘larkspur, calendula a godetia’ yn awr yn lle y meant am flodeuo a’u teneuo yn nes ymlaen.

Fe ellir rhoi basgedi crog allan yn ystod y dydd a’u rhoi mewn cysgod dros nos tan ddiwedd y mis.

Bydd angen gwneud hyn hefo’r holl blanhigion blynyddol er mwyn eu caledu yn iawn cyn eu plannu allan.


------------------------------------------
Lluniau -Paul W.

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.

Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.


13.3.16

Mil Harddach Wyt- A heuir, a fedir

Yn yr ardd efo Eurwyn.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1999.

Yn yr Ardd Lysiau
Plannu tatws. Llun- Paul W

Mae'r mis yma yn un prysur iawn yn gyffredinol yn yr ardd.

Gallwch hau pys a ffa rwan; betys hefyd. Ond cofiwch: dim ond hau os yw’r pridd yn addas. Mae hefyd yn fantais i osod gwydr neu blastig dros y rhesi er mwyn creu cysgod a chynhesu’r pridd.

Dyma hefyd yr amser i roi ychydig o datws cynnar i lawr. Cofiwch y bydd angen gwylio os bydd rhew nad yw'r gwlydd yn y golwg: gallwch godi pridd drostynt, neu ddefnyddio be maent yn ei alw yn ‘Fleece’. Mae digon o bapur newydd yn gwneud y tro hefyd.

Yn yr Ardd Flodau

Gallwch hau hadau blodau blynyddol fel blodau sêr (serenllys; aster), melyn Mair (marigold), salvia, ac ati.

Rhosyn mynydd. Llun- Paul W
Os oes gennych flodau ffarwel haf (llysiau'r fagwyr; wallflower) yn yr ardd, neu rosyn mynydd gallwch eu codi rwan a’u gwahanu, ac felly cael planhigion ychwanegol i’w plannu mewn mannau eraill yn yr ardd. Gofalwch eu dyfrio nes y byddent wedi sefydlu.


Codwch eirlysiau (lili wen fach) tra bydd y dail dal arnynt, a’u gwahanu er mwyn cael eu plannu nhw mewn llefydd eraill yn yr ardd.


Os ydych wedi hau pys pêr mewn potiau yn yr hydref, gallwch eu plannu allan rwan, neu hau rwan. Bydd llawer o blanhigion parhaol sydd yn yr ardd yn dangos tyfiant yn awr. Cadwch olwg arnynt rhag i falwod eu bwyta.


Efallai bydd y lawnt angen ei thorri os bydd y tywydd yn sych. Ei bwydo hefyd os oes tyfiant cryf. Cadwch olwg hefyd ar blanigion sydd yn y tŷ neu’r tŷ gwydr fel bydd y tywydd yn cynhesu gan y bydd y pry' gwyrdd yn amlwg ar y planhigion.

------------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.

Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.

5.2.16

Y Golofn Werdd -datblygu mannau gwyrdd

Newyddion cynllun Y Dref Werdd

Y mis yma hoffwn dynnu eich sylw at brosiect arall mae’r staff yn gweithio arno, sef datblygu mannau gwyrdd yn y gymuned.

Wrth fynd ati i dacluso afon Barlwyd ac ardal Tanygrisiau ychydig wythnosau yn ôl, daeth darn o dir yn stâd tai Hafan Deg i'n sylw. Tir efo sbwriel lle'r oedd cŵn yn mynd i wneud eu busnes. Wrth drafod gyda rhai o’r trigolion, daeth yn glir nad oedd y safle yn cael ei ddefnyddio i fawr o ddim ac roedd y rhan fwyaf yn teimlo ei fod yn wastraff gofod o fewn y gymuned.


Fel rhan o’r prosiect Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar gyda’r Dref Werdd, sydd wedi’i ariannu gan y Loteri Fawr, rydym yn edrych ar ddatblygu mannau gwyrdd cymunedol mewn gwahanol safleoedd ym Mro Ffestiniog, felly yn dilyn y diwrnod yn Hafan Deg, penderfynwyd gwneud rhywbeth ynghylch â’r safle.

Unwaith roedd perchennog cywir y tir wedi’i ffeindio, roedd hyn yn gyfle i ddatblygu cynllun er mwyn ei ddatblygu a cheisio edrych am ffynonellau ariannol addas i wneud ceisiadau i wireddu’r gwaith, ond, cyn hynny, roedd angen arnom i fynd ati i siarad gyda’r bobl sydd yn byw yno i weld beth oedd eu teimladau nhw am droi'r safle yn fan gwyrdd i’r gymuned.

Ar brynhawn digon gwlyb, aethom i sgwrsio gyda’r holl denantiaid a oedd yn digwydd bod adref ar y pryd, ac wrth i ni fynd o dŷ i dŷ yn amlinellu ein syniadau, roedd yn amlwg iawn bod cefnogaeth yn y gymuned.

Rydym bellach yn brysur yn mynd ati i lunio cynllun mwy manwl i’w ddatblygu. Mae’r ffens sydd yno ar hyn o bryd angen ei thynnu gan ei bod yn llawn tyllau ac yn denu cŵn yno i faeddu, ac rydym yn trafod gyda chwmnïau lleol am brisiau i dynnu’r hen ffens hyll, lefelu’r tir a gosod ffens fwy deniadol yno fel man cychwyn.

Rhai o’r dymuniadau a syniadau eraill daeth allan o’r ymgynghori oedd i osod ‘raised beds’ yn y safle i dyfu llysiau a pherlysiau, plannu perllan o goed ffrwythau, gosod meinciau ac ambell beth i blant allu chwarae.

Y bwriad yw gwneud y safle yn ddigon syml fel nad oes gormod o waith cynnal a chadw, a hefyd fod grŵp bychan o drigolion yn cadw ar ben y gwaith o’i gadw yn lân a thaclus, sydd wedyn yn dod a balchder am eu cymuned.

Mae grwpiau, ysgolion a mudiadau eraill wedi cysylltu gyda ni yn y misoedd diweddar i ddatblygu safleoedd gwahanol. Gobeithiwn roi cymorth i ddatblygu mannau gwyrdd eraill yn y Fro, felly gwyliwch y gofod am newyddion.

Os ydych yn meddwl bod yna safle yn eich cymuned chi all fod yn fan gwyrdd i bawb fwynhau, ac eisiau ychydig o gymorth, neu os hoffech fod yn rhan o’r datblygiadau yn Hafan Deg, cysylltwch â’r Dref Werdd ar 01766 830 082 neu ymholiadau[AT]drefwerdd.cymru
------------------------


Wedi'i addasu o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2015.
Dilynwch gyfres Y Golofn Werdd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

17.11.15

Mil Harddach Wyt -paratoi am y gaeaf

Yn yr ardd efo Eurwyn.
Tachwedd.


Yn yr ardd lysiau.
I’r rhai ohonoch sydd a bresych haf yn dal yn yr ardd, cofiwch eu tynnu fel bo’r angen yn awr. Hefyd tynnu dail sydd wedi crino oddiar blanhigion Ysgewyll Brusels i atal pydredd.
 
Edrych drwy nionod sydd yn cael eu cadw mewn storfa a thynnu allan rhai sydd yn mynd yn ddrwg.

Os am gael riwbob cynnar, rhowch wreiddyn rwan mewn potyn, mewn lle cynnes a chadw’r coesau mewn lle tywyll fel maent yn tyfu.

Mae hefyd yn amser i blannu coed ffrwythau hefyd a chymryd toriadau eto o Eirin Mair.

Yn yr ardd flodau.
Os am flodau cynnar pys pêr, rhaid hau y mis yma a chofio ar ôl hau bod llygod bach yn hoff iawn o’r had, felly cadwch y potiau allan o'u cyrraedd. Cadw’r planhigion mewn potiau a gofalu nad ydynt yn rhewi.

Codi tatws y Dahlia yn awr a’u sychu er mwyn eu cadw dros y gaeaf. Gwneud yr un fath efo blodau’r Cleddyf.

Rhoi llai o ddŵr i blanhigion tŷ ond dal i roi gwrtaith i’r rhai sydd yn dal i flodeuo. Dod a bylbiau sydd wedi eu plannu mewn potiau i mewn i’r tŷ, hefyd plannu rhagor. Torri i lawr blodau Mihangel (Chrysanthemums) i ryw 6 neu 8 modfedd a chodi y gwreiddiau, glanhau y pridd oddi arnynt a’u rhoi mewn bocs gyda phridd newydd (potting compost) a’u cadw mewn lle oer (mwy am hyn ddechrau’r flwyddyn nesaf).

Yn gyffredinol, mae angen glanhau yr ardd o hen blanhigion a dail a’u rhoi ar y domen gompost neu eu llosgi. Hefyd golchi’r tŷ gwydr gyda rhywbeth fel Armillatox neu Jeyes Fluid.

Mae angen hel dail sydd wedi disgyn oddiar goed rhosod a’u llosgi yn enwedig pan mae y smotyn du arnynt gan gofio os y gadewch hwy, eu bod yn debygol o heintio'r coed y flwyddyn nesaf eto.

Hefyd rhaid dyfrio o dan y coed efo Armillatox, a phlannu coed rhosod newydd rwan.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1998.

[Lluniau PW]

7.11.15

Rhandir mwyn

Ydych chi awydd tyfu llysiau a ffrwythau? Neu flodau i'w torri ar gyfer y tŷ?
Dim lle? Beth am gadw rhandir?

Oes, mae angen buddsoddi 'chydig o amser a nerth bôn braich a chwys, ond gall fod yn weithgaredd buddiol iawn.

Bwyd iach, a'r boddhad o ddweud "fi dyfodd hwnna"!
Treulio mwy o amser yn yr awyr iach.
Cadw'r corff a'r meddwl yn heini.
Cwmni da a digon o hwyl.

Paul, Elfed, a Gillian, wedi mentro allan ar fore glawog. 7fed Tachwedd 2015. Llun- PW.



Be' sy' gennych chi i'w golli?

Mae dau randir ar gael ar hyn o bryd ar safle'r gors fach, o dan Ysgol Glanypwll.
Dim ond £25 y flwyddyn ydi rhent.




Awydd?

Cysylltwch ag unrhyw aelod o bwyllgor Cymdeithas Randiroedd Bro Ffestiniog: galwch i mewn i siop Eifion stores, neu cysylltwch trwy dudalen Gweplyfr/Facebook Slate to plate.



Os fyddai'n well gennych gael sgwrs yn gyntaf efo un sydd wedi cadw rhandir ers tair blynedd, gyrrwch neges i dudalen gweplyfr Llafar Bro, neu yrru ebost at Paul (manylion ar y dudalen PWY 'DI PWY).

Edrych ymlaen i'ch gweld!





PW.

9.10.15

Mil Harddach Wyt -gwarchod rhag yr oerfel

Erthygl arall o golofn arddio Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin.

Yn yr ardd lysiau
Daliwch ati i godi llysiau sydd ar ôl yn yr ardd yn enwedig rhai sy'n debyg o gael eu difetha gan rew megis corbwmpen (marrow). Fe ddylai'r planhigion tomatos a oedd yn tyfu y tu allan fod wedi eu clirio erbyn hyn, efallai erbyn i'r rhifyn yma ymddangos, y byddwn wedi cael rhew.


Mae yn werth hefyd palu'r tir sydd yn dod yn wag, ei balu a'i adael yn fras dros y gaeaf i'r tywydd ei dorri i lawr.

Mae hefyd yn amser i hel afalau a'u cadw, a defnyddio'r rhai sydd â nam arnynt yn syth; a'r un fath gyda gellyg hefyd.

Yn yr ardd flodau
Codi blodau cleddyf (gladioli) a thorri'r dail i lawr i rhyw dair modfedd o'r bylb. Bydd bylb newydd yr un uchaf ac o dan hwnnw bydd yr hen un. Tynnwch hwnnw i ffwrdd, ac hefyd y bydd nifer o fylbiau bach, cormlets maent yn cael eu galw. Fe allwch gadw rhain gyda'r gweddill o'r bylbiau a'u cadw yn sych trwy'r gaeaf, ond fe gymerith hi dair blynedd i'r bylbiau bach flodeuo. Fe allwch chi gael lliw o'r newydd yn rhain.

Mae yn amser i blannu lili, a hefyd plannu llwyni. Y mis yma yw'r adeg gorau gan fod y ddaear yn dal yn gynnes ac felly'n rhoi cyfle i'r planhigion sefydlu cyn y tywydd oer.

Codwch gloron y dahlias os ydynt wedi cael rhew a'u sychu a'u cadw dros y gaeaf. Os oes gennych flodau mihangel (chrysanthemums) yn tyfu mewn potiau y tu allan ar gyfer y Nadolig, fe ddylid dod a’r rhain i mewn i'r tŷ gwydr yn awr.

Bydd angen hefyd rhoi darn o wydr dros blanhigion alpaidd i gadw y glaw oddi amynt ond cofio hefyd bydd rhaid i wynt fynd o dan y gwydr ac felly ei godi rhyw ychydig uwch ben y planhigion.

Yn gyffredinol codi planhigion sydd ddim yn hollol wydn i wrthsefyll y gaeaf a'u rhoi mewn potiau a'u cadw mewn tŷ gwydr neu ystafell oer yn y tŷ.


[Llun PW]

---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1999.
Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.

9.9.15

Mil Harddach Wyt- codi tatws a pharatoi..

Erthygl arall o golofn arddio Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin.  

Yn yr Ardd Lysiau:
Codwch eich tatws diweddar rwan a'u cadw mewn bagiau papur ar ôl iddynt sychu. 


Mae angen clirio cnydau eraill hefyd fel bod y gwelyau yn barod er mwyn cael palu yn nes ymlaen. 

Gellir hau letys gaeaf mewn tŷ gwydr oer neu ffrâm oer. 

Mae yn amser hefyd i blannu garlleg os am blanhigion da y flwyddyn nesaf. Mae rhan fwyaf o'r cwmniau hadau yn eu cadw. Un o'r mathau gorau yw y 'Long Keeper'. 

Yn yr Ardd Flodau:
Os nad ydych wedi cael bylbiau 'Hyacinth' ar gyfer y Nadolig mae yn rhaid eu gwneud yn awr neu fydd hi yn rhy hwyr i'w cael i flodeuo at yr ŵyl. 


Bydd llawer o flodau blynyddol yn dechrau edrych yn flêr rwan. Felly, codwch nhw a rhoi dipyn o wrtaith i'r pridd fel 'Gravmore’ yn barod i blannu blodau at y gwanwyn, megis pansi a briallu. Gorau po cyntaf yn y byd y plannwch y rhain er mwyn iddynt gael sefydlu cyn y gaeaf. 

Cliriwch y tŷ gwydr a'i olchi er mwyn cael dod a phlanhigion meddal megis myniawyd y bugail a Fuschia i mewn cyn y rhew.

 

------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1999.
Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.

18.8.15

Mil Harddach Wyt -ail hau a thoriadau

Erthygl arall o golofn arddio Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1999.

Yn yr Ardd Lysiau.
 

Os ydych wedi codi'ch tatws cynnar gellir hau eto a rhoi maip rhuddygl, spinach a phys yn eu lle i gael dilyniant eto tan yr Hydref. 

Tynnwch ddail sydd wedi mynd yn felyn ar waelod planhigion tomato ac hefyd torri y blaen-dyfiant pan mae y planhigion wedi cyrraedd pen y canseni neu rhyw chwech neu wyth o setiau o flodau. Cymerwch doriadau o berlysiau fel saets a theim. 

Bydd rhaid hefyd rhoi sylw i goed ffrwythau fel cyraints duon a thorri yr hen frigau sydd wedi ffrwytho i roi lle i rai newydd at y flwyddyn nesaf. 




Yn yr Ardd Flodau. 


Cymerwch doriadau o blanhigion Ceinan (Carnation) a pines, blodau Mihangel (Chrysanthemums) sydd yn biodeuo at y Nadolig hefyd. 


Bwydwch y coed rhosod gyda bwyd pwrpasol i rosod fel Top Rose

Gellir rhannu gwreiddiau blodau'r enfys (Iris) a'u hail blannu. Dylid torri blodau pys pêr yn rheolaidd. Mae yn amser da hefyd, yn enwedig at ddiwedd y mis hwn a mis Awst i gymryd toriadau o blanhigion Myniawyd y Bugail, neu big yr aran (Geraniums) os am gael planhigion da at y flwyddyn nesaf. 


Bydd rhai ohonoch yn mynd i sioeau blodau fydd yn cael eu cynnal ym mis Awst. Efallai y caf weld rhai ohonoch yno, yn enwedig Sioe Sir Feirionnydd yn Harlech [26ain eleni, 2015 -gol]

-----------------------------------------------------
Addaswyd yr uchod ychydig i adlewyrchu'r ffaith ei bod bellach yn fis Awst (ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1999).

Lluniau gan PW.

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
 



7.7.15

Mil Harddach Wyt

Yn y nawdegau, bu Eurwyn Roberts, o Feithrinfa Blodau’r Felin, Dolwyddelan, yn cyfrannu colofn arddio yn fisol yn Llafar Bro. Dyma golofn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1998, sydd yr un mor berthnasol eleni.




Gorffennaf


YN YR ARDD LYSIAU
Gallwch hau moron eto a phys; hefyd hau bresych ar gyfer y gwanwyn. Codi nionod bach (sets) a'u sychu ar gyfer eu defnyddio yn y gaeaf. Bydd angen chwynu yr ardd lysiau yn gyson yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb.

YN Y TŶ GWYDR

Bwydo'r tomatos unwaith yr wythnos gyda gwrtaith sydd yn uchel mewn potash (ee Phostrogen). Mae'n rhaid hefyd gwylio am y pry' gwyrdd a rheoli fel bo'r angen. Gall y pry' gwyn fod yn fwy o broblem gan na ellir rheoli’r wyau mor hawdd a gan eu bod yn deor bob rhyw bedwar diwrnod mae angen rheoli’n aml. Mae planhigion marigolds (tagetes) yn arbennig yn atal rhyw gymaint rhag i'r pry gwyn ddod i'r tŷ gwydr ac mae’n rhaid eu plannu yn yr un pridd â'r tomatos.

Pan mae'r tywydd yn boeth mae'n werth rhoi dŵr ar y llwybrau yn y ty gwydr. Mae hyn yn wirioneddol werth ei wneud os ydych yn tyfu ciwcymerau: mae rhain yn hoff iawn o leithder yn yr aer.

YN YR ARDD FLODAU
Gwaith pwysig y mis yma yw mynd drwy’r ardd flodau a thorri'r rheini sydd wedi darfod i'w hatal rhag cynhyrchu had ac felly byrhau y tymor blodeuo. Mae angen hefyd torri blodau ar y pys pêr yn gyson. Mwya'n byd o flodau a dorrir mwya'n y byd o flodau y cewch chi ar y planhigion. Bwydwch yr ardd hefo gwrtaith uchel mewn potash.

Tociwch lwyni sydd wedi gorfIen blodeuo megis banadl a  Wisteria.

Mae’n amser i gymryd toriadau oddi ar lwyni fel y tri-lliw-ar-ddeg a'r ffug oren (Philadelphus). Rhowch y toriadau mewn pot, mae'n fantais eu cadw mewn lle cynnes iddynt wreiddio ynghynt.

llun- PW
Cofiwch hefyd beidio ac anghofio’r fasged grog. Mae'n rhaid dyfrio rhain o leiaf unwaith y dydd; mwy efallai os bydd y tywydd yn boeth. Mae gwynt yn unig yn sychu basged grog. Bwydo hefyd yn aml; ddwy neu dair gwaith yr wythnos. Mae gwrtaith mewn rhai basgedi sydd yn para am dri neu bedwar mis.

Os nad ydych wedi hau had blodau'r fagwyr (wallflower) a’r penigan (sweet william), mae angen gwneud yn awr. Hau yn yr ardd a'u trawsblanu i resi rhyw wyth modfedd oddiwrth eu gilydd. Y man gorau os yn bosib yw lle yr ydych wedi codi tatws cynnar. Bydd angen symud rhain eto i'r ardd flodau er mwyn cael lliw yn yr ardd ddechrau'r haf nesaf.

------------------
Yn ôl cyfweliad a wnaeth Eurwyn efo’r papur yn haf 1998, agorwyd y feithrinfa ym mis Mawrth 1994, ond mae o wedi ymhel â phlanhigion erioed. Ei dad, y diweddar Bob Roberts, ysgogodd ei ddiddordeb; ei brif ddiddordeb ef oedd tyfu llysiau. Cyn mentro i sefydlu’r busnes, ymddangosodd Eurwyn ar raglen Heno, ac ar raglenni Radio Cymru, yn trafod garddio. Dywedodd Eurwyn bryd hynny taw un o agweddau mwyaf diddorol y busnes oedd cystadlu a beirniadu mewn sioeau fel Sioe Môn. “Ond y sioeau bach yw’r rhai mwyaf cystadleuol, ac mae’r sioeau hyn yn gyson o safon uchel ac yn aml yn well na’r sioeau mawrion.” 
Erbyn hyn, mae Eurwyn wedi bod yn beirniadu’r gystadleuaeth arddio -Blaenau yn ei Blodau- yn Stiniog. Pwy aiff a hi eleni ‘sgwn i?



Bydd mwy o'r gyfres yn ymddangos dros y misoedd nesa'.


11.5.12

Y Rhandir


Rhan o erthygl gan Jane Battye, yn rhifyn Mai.
Rwyf yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers dros bedair blynedd.  Mi symudais yno efo fy ngŵr, Chris.  Mae o wedi ymddeol.  Rwyf yn dysgu Cymraeg ers bron i bedair blynedd.
Rwy’n hoff iawn o arddio.   Rwyf wedi trio tyfu llysiau mewn potiau yn yr ardd cyn i ni chwilio am randir.
 Ym mis Medi 2010 roedden ni’n cymryd rhan o gae i wneud rhandir. Mae o yng Nghwm Teigl, o dan y Manod Mawr.

Pan oedden ni’n palu gwely llysiau, mi gawsom ni sioc.  Roedd y pridd yn garegog.  Hefyd, roedd 'na gerrig anferth.  Bu rhaid i ni ddefnyddio caib a nerth bôn braich.  Mi wnaeth Chris y rhan fwyaf o’r gwaith.  Mi wnes i symud y cerrig i’r llwybrau.  Roedd 'na ddigon ohonyn nhw i lenwi’r llwybrau i gyd.  Mi wnaethon i roi'r cerrig mwyaf wrth ymyl y cynllun.
Llun P.W.
Roedd y rhan ffrwythau’n waeth, felly, mi benderfynom blannu ar gynllun ‘raised beds.’  Mi wnaethon ni eu gwneud nhw o goed paletau.

Roedd y drydedd ran yn gymysg  garegog a chorsiog.  Mi ddefnyddion ni lechi concrit i wneud lle i ffrâm oer, ac mi wnaethon ni roi bocsys compost yno.  Mi godon ni ‘raised beds’ i’r riwbob a’r merllys - tua dwy droedfedd o uchel.  Hefyd, mi wnaethon ni welyau i’r mafon haf a hydref.

Roedd y bedwaredd rhan yn gorsiog.  Mi wnaethon ni balu allan dri gwely ym mis Mai llynedd.  Erbyn mis Gorffennaf, roedden nhw wedi llenwi efo dŵr ac roedd llyffantod wedi symud i mewn.

Y mis diwethaf, mi ddarganfyddom ni rifft llyffant yno.  Da ni wedi palu allan i uno’r tri gwely ac wedi gwneud pwll dŵr mawr efo ochrau troellog.  Mae 'na lethr i mewn i’r pwll ar gyfer llyffantod. Da ni’n bwriadu plannu planhigion cors o gwmpas y pwll fel gardd wyllt.  Mi fydda i’n edrych ar wyddoniadur planhigion yn fuan iawn.

Llongyfarchiadau i Jane - nid yn unig am ei llwyddiant yn y rhandir, ond hefyd am feistrioli’r Gymraeg i’r lefel hon mewn cyn lleied o amser.   -I.M.
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn rhifyn Mai Llafar Bro.