27.4.23

Llwyddiant Llio

Llongyfarchiadau mawr i Llio Maddocks ar dderbyn swydd Cyfarwyddwr Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru!

Mae Llio yn enw cyfarwydd iawn i’r rhan fwyaf o’r bobl yn yr ardal hon bellach. Yn enedigol o’r Llan ac yn ferch i Rhian a’r diweddar Peter, Pantllwyd. Mae’n adnabyddus yn y Gymru gyfoes fel awdures lawrydd, gyda dwy nofel wedi cyhoeddi hyd yma, Un Noson (fel rhan o gyfres Stori Sydyn) a Twll Bach Yn Y Niwl, nofel wnaeth gyrraedd rhestr fer Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yn 2021. Mae hi hefyd yn adnabyddus fel bardd, gyda dros 2,700 o bobl yn mwynhau ei InstaGerddi hi ar y platfform cymdeithasol poblogaidd.

Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bro Cynfal, Ysgol y Moelwyn ac Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Aeth i Brifysgol Leeds yn 2009, gan raddio mewn Saesneg a Ffrangeg yn 2013. Yn ystod ei chyfnod yno, cafodd gyfle i gael blas ar amrywiol leoedd yn y byd gan weithio fel cymhorthydd iaith ac athrawes Saesneg. Daeth yn ôl i Brydain, gan symud i Lundain am flwyddyn i weithio fel cynorthwyydd gwerthiant i DK, y cyhoeddwr llyfrau enfawr sy’n cynhyrchu mewn dros 100 o wledydd ac mewn dros 60 o ieithoedd. Tua diwedd 2014, daeth hi adref i ddechrau gweithio fel Golygydd Cylchgronau o Wersyll yr Urdd Glan Llyn, Llanuwchllyn, cyn symud i fod yn drefnydd cynorthwyol ac yna’n drefnydd celfyddydol Prifwyl ein hieuenctid. Bydd yn olynu Siân Eirian.

Cofiwn i Llio ddod i’r brig fel awdures ifanc yn Eisteddfod yr Urdd pan ymwelodd â Meirionnydd yn 2014 pryd y cipiodd y Goron. Mae ei gyrfa ym myd llenyddiaeth wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Yn mis Mehefin, fe fydd hi’n dechrau ar swydd newydd gyda’r Urdd, wedi iddi gael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Celfyddydau yr Urdd. Bydd ei rôl newydd yn golygu ei bod hi’n goruchwylio holl wasanaethau celfyddydol yr Urdd, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, Theatr Ieuenctid, Gŵyl Triban, Ysgoloriaeth Bryn Terfel a phrosiectau rhyngwladol yr Urdd, megis eu partneriaeth gyda’r mudiad ieuenctid o Iwerddon, TG Lurgan.

Llongyfarchiadau mawr i ti Llio ar dy swydd newydd, mae’r ardal yn falch iawn o dy lwyddiant di ac yn edrych ymlaen i weld ffyniant pellach i brif Ŵyl Ieuenctid Cymru a’r holl gelfyddyd sy’n dod o dan faner yr Urdd.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Mawrth 2023

Cwrdd. Cerdd ac ysgrif o rifyn Ebrill 2020 gan Llio

23.4.23

Rhod y Rhigymwr- trawiad gwych!

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Mae derbyn negeseuon cyson ynghyd â gweithiau cynganeddol gan Simon Chandler yn bleser bob amser. Yn y dyddiau pan rydyn ni’n clywed fod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng, mae’n chwa o awyr iach cael mabwysiadu rhai fel Simon. Un peth ydy dysgu’r iaith a’i siarad yn rhugl. Peth arall ydy llwyddo i’w hysgrifennu’n gywir a llenydda ynddi. Mae’n fwy o gamp fyth gallu cyfansoddi barddoniaeth gaeth ynddi! 

Yn ôl ei neges ddiweddaraf ataf, nid Simon ydy’r unig Lundeiniwr a lwyddodd i wneud hynny. Mae’n fraint cael rhannu efo chi’r darllenwyr ran o’i neges ddiweddaraf ataf:

“Hoffwn ddweud wrthot ti am fy nghyfeillion o Lundain sy’n barddoni ac yn cynganeddu (a’r ddau, fel fi, yn eu pumdegau).  Mae’n rhyfedd oherwydd, er nad oeddem yn adnabod ein gilydd cyn i ni gwrdd yn y byd Cymraeg (a ninnau’n wrandawyr ffyddlon ‘Podlediad Clera’), rydym yn dod o’r un ardal o ogledd Llundain.  Mae Jo Heyde  yn dod o Stanmore, sy’n ugain munud yn y car i ffwrdd o Golders Green (maestref fy mebyd i), ac (yn rhyfeddach fyth) mae Alan Iwi yn dod o’r un un faestref!  

Mae Alan wedi ennill sawl cystadleuaeth mewn sawl eisteddfod leol dros gyfnod o ddwy flynedd, megis yr englyn, yr englyn ysgafn a’r limrig, ac mae Jo (sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dim ond ychydig dros bedair blynedd) wedi ennill tair cadair ac un goron o fewn y deng mis diwethaf.  Yn ogystal, mae Jo yn rhedeg clwb barddoniaeth ar-lein (sef dros Zoom) sy’n boblogaidd ymysg beirdd.  Nos Iau, fe drafodon ni gyfrol gan y bardd ifanc, Osian Wyn Owen, o’r enw ‘Y Lôn Hir Iawn’... Fel y gweli di, dyna fwy o dystiolaeth bod gan y Gymraeg ffordd hudol o ymorol am draedfilwyr i frwydro dros ei hachos hi!”

Jo, Simon, ac Alan
Mae clywed am frwdfrydedd heintus Simon, Alan a Jo yn codi cywilydd arnaf. Fe fu adeg pan fyddwn innau’n cefnogi cystadleuthau barddoniaeth yr eisteddfodau bach, ond rhaid i mi gyfaddef fod sawl blwyddyn wedi mynd heibio er pan wnes i hynny ddwytha. Ai diogi neu henaint sy’n gyfrifol ... y ddau o bosib!  

Dan feirniadaeth y Prifardd Rhys Iorwerth yn Eisteddfod Chwilog, cafodd Simon gryn ganmoliaeth am ei englyn ... ‘Croesffordd'. Cyfeiria ato fel ‘englyn un frawddeg crefftus dros ben a chadarn ei gynghanedd.’ Y ‘dydd byrraf’ ydy’r groesffordd i’r bardd, a hwnnw’n dynodi ‘troad y rhod’:

Addawa bore’r dydd byrraf olau,
côr galwad Gorffennaf
neu Awst gana siant i’n haf
o gywair canol gaeaf.

Penrhyn’ oedd y testun a osodwyd yng nghystadleuaeth cylchgrawn Barddas. Ymysg y 24 englyn a anfonwyd at y beirniad, y Prifardd Alan Llwyd, cafwyd y canlynol i Benrhyn y Crimea, a hawliwyd oddi ar Wcráin yn 2014, a lleoliad llawer o’r ymladd presennol. Dan y ffug-enw ‘Ras Putin,’ dyma ymgais Simon:

I Fedlam aeth y ddrama, i esgyrn
o lond basged fara.
Dyn ei blwyf a daena bla
unllaw ym maw’r Crimea.

Mae’r sefyllfa’n y Crimea ‘bellach yn Fedlam, yn anhrefn a llanast llwyr, gan ystyried hefyd fod pob math o ryfel yn wallgofrwydd,’ meddai Alan Llwyd yn ei feirniadaeth. Yna, mae’n cyfeirio at gyrch ac ail linell yr englyn ...  ‘esgyrn / o lond basged fara’ fel ‘trawiad gwych ... trawiad gorau’r holl gystadleuaeth.’ O dderbyn y fath ganmoliaeth gan arbenigwr fel Alan, gall Simon deimlo fod ei gwpan yn llawn.

Ym Mhrifwyl y Rhyl a’r Cyffiniau ym 1985, gwelwyd Robat Powell yn sefyll ar ei draed yn seremoni’r cadeirio. Ei awdl ‘Cynefin’ oedd yr orau o’r deuddeg cyfansoddiad ddaeth i law yn ôl dau o’r tri beirniad. Fel Simon, Alan a Jo, athrylith a feistrolodd ein hiaith ac agweddau o’n diwylliant ydy Robat Powell. Tybed a welwn ni un o’r tri Llundeiniwr yn efelychu ei gamp ... os nad ym Moduan eleni, yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesa’ hwyrach?
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023, fel rhan o erthygl hirach



17.4.23

Carreg filltir arall

Ers i'r wefan yma gael ei chreu gan un o wirfoddolwyr Llafar Bro un mlynedd ar ddeg yn ôl, mae bellach wedi cyrraedd 1000 o erthyglau! A mwy yn cael eu hychwanegu bob wythnos.

Mae'n rhoi cyfle i rannu ysgrifau am Fro Ffestiniog i gynulleidfa ehangach, ym mhedwar ban y byd, a hynny am ddim.


Cofiwch, mae'n bosib cael pob copi o Llafar Bro ar ffurf dogfen pdf trwy e-bost bellach; rhifynnau cyfan am flwyddyn gron, i unrhyw le yn y byd, am £11 yn unig*! Bargen yn wir. Mae hefyd ar gael fel tanysgrifiad papur hefyd wrth gwrs.

Detholiad o'r erthyglau nodwedd yn unig sy'n mynd ar y wefan, er diddordeb ehangach ac fel archif ar gyfer ymchwilwyr. Bydd deunydd perthnasol o rifyn mis Ebrill er enghraifft, yn ymddangos ar ôl cyhoeddi rhifyn Mai. Wedi'r cwbl mae'n rhaid i ni werthu copiau o Llafar Bro er mwyn sicrhau y bydd yn bodoli o gwbl yn y dyfodol! Rhaid prynu'r papur, neu ymweld â'r llyfrgell er mwyn darllen bob dim o glawr i glawr, ond rydym yn falch o gyhoeddi casgliad o'r deunydd ar y we pan nad yw'r rhifyn hwnnw ar werth mwyach. Mae'r oedi yma'n golygu nad yw pob erthygl yn cael ei hatgynhyrchu gan eu bod yn dymhorol, neu ond yn berthnasol i'r mis flaenorol, ond mae dal cyfoeth o ddeunydd i'w rannu efo chi trwy'r flwyddyn.

Gobeithio eich bod yn gweld gwerth yng ngwefan Llafar Bro yn ogystal â'r rhifynnau papur misol. Gyrrwch air os oes gennych unrhyw syniadau am gynnwys newydd neu ar sut i wella'r safle.

Paul

- - - - - - 

Deg Uchaf Gwefan Llafar Bro, Ebrill 2021

Pa erthyglau sydd fwyaf poblogaidd ar y wefan? Cliciwch y ddolen uchod am y manylion i gyd!

 

*Tanysgrifiwch yn fan hyn



15.4.23

O Gymru i Gatâr

Yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd -sy’n swnio fel oes yn ôl bellach- daeth ein cenedl fach i amlygrwydd rhyngwladol yn chwarae yng nghwpan y byd yn Nghatâr yn y dwyrain canol. Serch na lwyddwyd i fynd ymhellach na’r rownd gyntaf, gwnaeth y tîm a’u cefnogwyr, y wal goch enwog, argraff fawr. Dyma atgofion un teulu o ardal Llafar Bro a fu yno – tad a dau fab - Dewi, Iwan a Geraint Williams, gyda diolch yn arbennig i Geraint am gydlynu’r cyfweliad hwn efo ni.

Beth wnaeth ichi benderfynu fynd i Gatâr?
Geraint – Dwi wedi bod yn dilyn tîm Cymru dramor pob cyfle posib ers 2014. Roeddwn yn ffodus o gael bron i fis bythgofiadwy yn Ffrainc yn Ewro 2016 ac yn siomedig o golli allan ar Ewros 2022. A gan mai’r Cwpan y Byd oedd hwn, doedd na 'rioed amheuaeth genai – roeddwn yn bendant am fynd allan yna.
Dewi – wedi ymddeol ers ryw ddwy dair mlynedd roedd y rhyddid i allu mynd, a gan mai Cwpan y Byd oedd hon, roedd hi am fod yn anodd dweud na. Llwyddodd Geraint i gael gafael ar ddau dicad felly yn gyfle rhy dda i wrthod.

 Am faint oeddech chi yno a sut oedd y daith?

Geraint – roeddwn allan am dair gêm Cymru. Hedfan yn syth o Fanceinion i Doha heb stopio. Awyren moethus iawn Qatari Airways yn gwneud siwrna 7 awr a ‘chydig yn un cyfforddus iawn. Am 11 diwrnod roeddwn yno i gyd.
Dewi – roeddwn i allan am yr ail a’r drydedd gêm. Hedfan i Dubai wnes i – via Istanbul. Awyren ddim mor braf a’r un gafodd Geraint i Doha, ond fe wnaeth hi ei job! 9 dirwnod oeddwn i ffwrdd o adra.

Ble oeddech chi’n aros ac oedd yna Gymry eraill yno?
Geraint – roeddwn yn hedfan allan efo fy mrawd a dau ffrind. Roeddwn yn aros y ddwy noson gyntaf yn Doha ei hun (i weld gêm gyntaf Cymru), yna wnes i hedfan o Doha i Abu Dhabi ac yna bws i Dubai. Yna aros yn Dubai am 8 noson efo Dad yn ymuno â fi yna – yna hedfan i Doha ar gyfer yr ail a’r drydedd gêm (efo Dad). Yn Doha roeddwn mewn apartment preifat, ac roedd Cymry eraill yna hefyd. Roedd yr apartment yng nghanol ardal draddodiadol felly cael profiad o siopa a bywyd bob dydd Qatar. Cawsom brofiad o siopa mewn ‘Souk’ – archfarchnad – lle roedd pob dim ar gael – yn cynnwys plastars blisters ar gyfer y ddwy droed!
Yn Dubai roedd yn brofiad ychydig yn wahanol – gwesty ar lan môr, efo sawl pwll. Roedd y gwesty yn llawn cefnogwyr pêl droed o bob man – môr o hetiau bwced y Cymry yma ynghyd â chefnogwyr o Brasil, Argentin, Lloegr, Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Uruguay a’r UDA.
Dewi – Dubai yn unig roeddwn i yn aros ar y taith. Yn amlwg yn yr un gwesty a Geraint. Nefoedd gallu ymlacio yn yr haul a nofio rhwng gemau pêl-droed.

I faint o gemau aethoch chi a sut oedd yr awyrgylch?
Geraint – tair gêm Cymru. Dewi – yr ail gêm a’r drydedd.
Awyrgylch ffantastig. Môr o gefnogwyr Cymru fel un côr mawr. Does dim geiriau i ddisgrifio bod yn y stadiwm, gweld y tîm yn dod allan, tân gwyllt yn saethu allan o fodel enfawr o gwpan y byd yn y cylch canol cae. A gweld crys enfawr Cymru yn cael ei ddadorchuddio – rhoi teimlad ble mae ias yn rhedeg trwy gorff rhywun a blew ar gefn gwar yn codi.
Awyrgylch gêm Iran ychydig yn wahanol. Rhannu metro (fel wnaethom efo UDA) gyda chefnogwyr Iran –cân ganddyn nhw, yna cân gan y Cymry, yna yn ôl i Iran.
Roedd teimlad gwahanol cyn y gêm wrth i anthem Iran gael ei chanu oherwydd y trwbl sydd yn Iran ar y pryd– roedd cefnogwyr Iran i gyd yn bŵio eu hanthem, fel protest yn erbyn yr hyn oedd yn digwydd yn eu gwlad.
Gêm Lloegr – rhyw deimlad ‘cyfarwydd’ – lot fawr o banter rhwng cefnogwyr y ddwy wlad. Yn y gêm ei hun, adeg hanner amser yn 0-0 roedd rhyw deimlad bod chwarter cyfle....ella, pe bai Cymru yn dal Lloegr ac ella yn cael un gôl a gobeithio byddai Iran yn cael gôl i unioni sgôr eu gem nhw efo UDA – byddai’r canlyniadau yma wedi rhoi Cymru drwadd efo trwch blewyn.....ond pum munud mewn i’r ail hanner – roedd y gobaith ffŵl yna wedi mynd.

Gawsoch chi gyfle i weld dipyn o Gatâr? Sut wlad ydy hi?
Wrth gwrs! Gwelais ei bod hi yn wlad boeth iawn, er drwy siarad efo’r bobl lleol, roedd 32 gradd celsius yn ‘oer’ efo tymheredd yn yr haf yn cyrraedd dros 50 gradd! Cawsom hefyd y profiad o ardal Corniche – sydd fel promenad hir (hir iawn) ac yn ymyl fano oedd yr Het Fwced anferth! Bum hefyd yn ardal y West Bay – sef yr ardal sydd â’r adeiladau uchel – a chyn gêm Lloegr wnes i a fy nhad gael y profiad o far y gwesty Intercontinental oedd ar lawr 55 – dyna be oedd golygfeydd wrth iddi fachlud dros Doha. Un o’r pethau mwyaf “wow” oedd gweld fod y wlad yma yn defnyddio plwgiau tri-pin yn union fel adra – alla i ddim dechra deud pa mor wych – wirioneddol wych oedd hyn! Y pethau bach. Roedd hi’n wlad ddiogel. Dim teimlad o gwbl bod rhywun yn gwylio ymddygiad, a ddim ofn rhoi troed allan o’i le yr un waith.

Welsoch chi unrhyw beth wnaeth eich synnu?
Un peth wnaeth fy synnu oedd pa mor wahanol oedd y wlad i’r hyn gafodd ei phortreadu yn y cyfryngau. Does dim gwadu fod ‘problemau’ yn y wlad o ran cyfreithiau sy’n groes i’r hyn yr ydym ni yn ei ystyried i fod yn deg, moesol a chydradd; ond wrth lanio roeddwn yn disgwyl camu allan i wlad oedd yn debycach i Iran, Saudi Arabi a Gogledd Korea, ond roedd fy mhrofiad i yn hollol wahanol. Dw i ddim yn amau fod ychydig pethau wedi ‘ymlacio’ yna tra roedd llygaid y byd ar y wlad, ond dwi wirioneddol yn teimlo nad yw pethau mor ddrwg ag y byddai’r newyddion eisiau i rywun gredu. Roedd genod yn gyrru ceir, nifer o aelodau yr heddlu yn fenywaidd, a gwelais dau ddyn lleol yr olwg yn cydgerdded law yn llaw. Sawl gwaith fe wnaeth bobl ofyn am lun am eu bod yn ymddiddori yn yr hetiau bwced ac eisiau llun efo cefnogwyr Cymru – nid yn unig cais gan gefnogwyr gwledydd eraill, ond pobl leol – gan gynnwys yn ardal fwy gyfoethog/busnes y West Bay – cael ein trin fel Selebs... bron iawn!

Wnaethoch chi gymdeithasu efo cefnogwyr gwledydd eraill? Oedden nhw’n gwybod am Gymru?
Fydda i wastad yn trio cael sgwrs a jôc efo cefnogwyr gwledydd eraill, hyd yn oed yn y gemau rhagbrofol. Ar y diwrnod cyntaf roedd cannoedd o gefnogwyr yr Ariannin wedi ymgynull ar un pier – felly aethom i’w canol nhw – baneri glas a gwyn a chanu angerddol – roedd yn olygfa ynddi ei hun. Cawsom nifer o sgyrsiau efo cefnogwyr yr UDA, Iran a Lloegr cyn ac ar ôl y gemau a nifer o luniau grŵp. 

Roedd yn amlwg fod nifer enfawr o’r rhai sydd yn gweithio yn y sectorau gwasanaethu ac eraill yn dod o dramor – India, Nepal, Philippines, Malaysia ac Indonesia – mi wnes i a ‘nhad gymryd yr amser i gael sgwrs efo’r rhai oedd yn gweini yn ein ystafell ac wrth y byrddau ac ati a phob un yn glên y tu hwnt i’r hyn fysa angen iddynt fod.

Sut fuasech chi’n disgrifio’r teimlad o fod yn rhan o’r ‘wal goch’?
Mae’n deimlad unigryw bod yn ‘fricsan’ o’r Wal Goch, a dw i yn wirioneddol gydnabod bod rhai wedi bod o’m mlaen i yn dilyn Cymru dramor tra nad oedd safon y garfan mor uchel a perfformiadau yn wael – felly parch mawr i’r briciau yna sydd wedi bod yn sylfaen hanfodol i alluogi’r wal godi yn uwch a thyfu yn fwy llydan. Mae’n gyfle gwych gallu cyfuno cariad tuag at bêl droed ac at fy ngwlad, efo trafeilio a gweld gwledydd a llefydd newydd. Mae yn wirioneddol fel un teulu mawr a mae’n braf gweld wynebau newydd bob tro hefyd.

Beth yw eich hoff atgof?
Lle i ddechra?! Mor anghredadwy gweld Cymru ar lwyfan byd eang fel hwn, a hefyd yn cael ein derbyn, ein cyfarch, ein parchu a’n cydnabod fel gwlad a phobl gydradd â phawb arall, clywed y Gymraeg ar yr uwchseinydd yn y stadiwm, gweld y Ddraig Gych yn chwifio ym mhob man. Un olygfa fythgofiadwy oedd yn Dubai – tua 5 o’r gloch y bora, dad a finau yn cael tacsi i’r maes awyr, oedd tua 45 munud i ffwrdd, a convoy o dacsis yn gyrru ar brif ffordd Dubai, drwy ganol yr adeiladau eiconig yma i gyd – ac ym mhob tacsi, i’r chwith, dde, o’m blaen a thu ôl, oll allai rhywun weld oedd yr hetiau bwced Cymru – rhes o dacsis yn mynd â’r cefnogwyr i’r maes awyr.

A’r cwestiwn mawr tyngedfennol – wnaethoch chi gyfarfod Dafydd Iwan?
Cyn gêm Cymru ac Iran roedd trefniadau wedi eu gwneud fod Dafydd Iwan am ganu wrth yml yr Het Fwcad enfawr oedd yn ardal y Corniche – bae/promenâd. Dad a fi wedi glanio yn Doha efo digon o amser – wedi cael tacsi o’r maes awyr yn syth am y Corniche. Pob dim yn mynd yn iawn, tan i ni gael gwrthdrawiad car! Dim byd mawr a dim anafiadau ond digon o ddifrod i’r ddau gar. Bai ein tacsi ni oedd o! Yn fy marn i beth bynnag. Ond erbyn i ni gyrradd yr het fwcad roedd Dafydd Iwan yn gwneud cyfweliadau, wedi gorffan canu, a phawb yn gadael. Felly, ei weld o... do, ond cwrdd ag o a’i glywed yn canu yn fyw? Naddo!

- - - - - - - - - 

Cyfweliad gan Glyn Lasarus, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023


11.4.23

Hanes Rygbi Stiniog. 1981 - 82

 1981  

Ionawr Gwirfoddolwyr yn plannu coed o gwmpas y caeau 

Gêm gyntaf y Bala ar y 24ain:    Bala 6  v Bro 29 

7 Ebrill  Meirionnydd   v  Dan 23 Gogledd Cymru ( yn Nolgellau ) :   

Bryan Davies;  Mike Smith ( C )  /Gwilym James / Eilydd Gareth Davies

14 Ebrill    Filmio HTV    Bro 12   v    Nant    0
18 Ebrill    Bro 15   v   Hitchin 0    Tim CYNTAF i ddod i  Bro – o Loegr!
Tymor 1980 /1981 

Tîm 1af    Ch 24        C10        E13        Cyf 1
2ail  Dîm  Ch 24        C12        E10        Cyf 2


19 Ebrill Noson Hel Pres yn y Queens  gan y Merched                               

27 Ebrill Noson Filmiau ( Queens )

9 Fai  Cinio Blynyddol ( Gloddfa Ganol )


11 Fai  Cyfarfod Blynyddol 

Cad Dr Boyns  / Ysg Merfyn / Trys Glyn / Aelod Raymond/W
            Wasg Dylan Roberts /     Gemau Michael / Cae Gwynne
            Hyff Mike Smith / Capt 1af Gwilym / Capt 2ail Dafydd Jarrett
    Arall                  Glyn Crampton
15 Mehefin  Pwyllgor ( Manod )    

Aelod chwarae   £ 4    Cyffredin    £ 5     Cymdeithasol  £ 8  

Rhoi 1.5 Tunell o wrtaith  ar y Caeau / Torri am £8 .00  

Raymond Tap i drefnu y Bar. Archebu Plac i gofnodi Agoriad Y Caeau

13 Gorffennaf  Chwaraewr y Flwyddyn   Gwilym James        Chwaraewr Mwyaf Addawol   Dafydd James Chwaraewr Mwyaf Addawol II       Idris Price                            Clwbddyn    Mike Smith



7 Fedi  Agoriad  Swyddogol Y Ddôl             

Bro   v    Gwyn Roblin XV
Dafydd Elis Tomos AS yn torri'r rhuban

Clive Rowlands  -Cyn gapen Cymru ac un o Ddewiswyr Tîm Cymru yn westai arbennig

Hydref  Gwilym a Mike ( capt ) chwarae i dîm Gwynedd 

 

 1982   

8 Chwefror   Mike Smith wedi cymeryd y cyfrifoldeb  o gapten am y tro   

Mawrth Mike Smith       Almaen        Tim Iau Cymru  

Cynrychioli  Clwb yn Meirionnydd  Gwilym James / Bryan Davies / Gareth Davies / Alun Jones 27 Ebrill 1982        Cwpan George Workman Derfynol  Gwynedd yn Bro ( 30 ceiniog )                       Harlech   v   Dolgellau                                                                                       

28 Mai  Cinio Blynyddol ( Old Rectory Maentwrog )    Plethyn a  Cinio Cymreig 

22 Mehefin  Pwyllgor Blynyddol Tymor 1981 / 1982 

Tîm  1af    Ch23        E 13        C 10  

2ail  Dîm   Ch17        E5        C12       

Aelodaeth 144         Chwaraewyr 46   

Aelodau Anrhydeddus am Oes: Glyn E Jones; Dr Arthur Boyns 

Chwaraewr y Flwyddyn                Bryan  Davies                                      Chwaraewr Mwyaf Addawol     Dafydd Jones ( Sprouts  ) Mwyaf Addawol II lan Davies (Mo Jo)             Clwbddyn                           Michael Jones                     Aelodaeth   Chwarae   £ 4 /      Cyffredin   £ 5  /       Cymdeithasol   £ 8
Ethol 1982 / 1983   Llywydd Dafydd Elis Thomas / Cad Dr Boyns / Ysg Dylan Roberts          Trys Elfed Roberts / Aelodaeth Gwynne / Gemau Michael / Wasg Merfyn /      Cae Dafydd Jarrett / Hyff Mike Smith / Capt 1af Mike / Capt 2ail Dafydd Jarrett                       Arall    Glyn Crampton / Teifion Ellis / Arwyn Ellis / Bryan  Davies       

20 Awst  Agoriad Swyddogol y BAR yn y Clwb
4 Fedi  Dafydd Iwan  yn y Clwb

- - - - - - - - - 

Crynodeb o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023

Rhan o gyfres Gwynne Williams



7.4.23

Rhyddid a dringfeydd epig

Cyfweld Gerwyn Siôn Roberts,  y dringwr a’r ffotograffydd medrus o’r Manod

Dw i’n deall dy fod yn arweinydd mynydd. Sut wnes di ddechrau gweithio yn y maes yma? 

O oedran ifanc rydw i bob amser wedi bod ag angerdd am yr awyr agored. Dwi’n cofio pan es i ar daith gydag Ysgol y Moelwyn. Aethon ni i fyny Moel Eilio a phan welais i’r Wyddfa dan eira, sylweddolais pa mor anhygoel yw Eryri. Syrthiais mewn cariad â'r mynyddoedd a'r dirwedd yn syth bin.
Deuthum yn Arweinydd Mynydd oherwydd fy mod eisiau mynd â phobl i fyny'r llwybr anhygyrch i ddysgu a dangos Eryri iddynt. Felly maen nhw'n cael yr un teimlad ag a gefais i pan syrthiais mewn cariad ag Eryri.

Disgrifia dy ddiwrnod gwaith arferol
Mae fy nyddiau/wythnosau bob amser yn wahanol. Rwy'n llawrydd yn bennaf felly mae'n rhaid i mi chwilio am y gwaith fy hun. Mae'r gwaith yn cynnwys dysgu pobl i ddringo, arwain pobl i fyny mynyddoedd, arwain beicwyr mynydd. Mae lleoliadau bob amser yn wahanol sy'n braf. Dwi'n gweithio yn Eryri yn bennaf ond dwi hefyd yn gweithio yn achlysurol yn Ardal y Llynnoedd, Yr Alban ac eleni yn rhyngwladol.

Beth ydy’r peth gorau am fod allan yn yr awyr agored?
Rhyddid ac antur. Rwyf wrth fy modd yn anturio ar fy mhen fy hun neu gyda chwmni. Mae natur yn dod ag ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch. Mewn byd sy’n fwrlwm o geir cyflym, ffonau clyfar, a hysbysebion teledu, mae’r awyr agored yn parhau i fod yn amrwd ac yn ddigyswllt. Ac nid yw'n gyfrinach y gall lleihau straen fod o fudd i'n hiechyd seicolegol a chorfforol.

 ... A beth ydy’r profiad mwyaf dychrynllyd iti ei gael ar y mynyddoedd?
Mae yna lawer o adegau pryd ti’n cael dy ddal allan gan y tywydd, tirwedd yn newid a ballu. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le tra'ch bod chi allan, mae'n rhaid i chi beidio â chynhyrfu, defnyddio'ch sgiliau a'i ddatrys. Does dim ots pa mor brofiadol ydych chi, na sawl gwaith rydych chi wedi bod yn cerdded yn y mynyddoedd, byddwch bob amser yn paratoi ar gyfer y gwaethaf.

Oes gen ti hoff fynydd lleol .... a pham?
Cwestiwn anodd…. hmmmm. Mae gan bob mynydd ei bersonoliaeth ei hun, o'i safbwyntiau, ei dechnegau, a'i straeon. Ond dwi'n meddwl Tryfan, Crib Goch, Moelwynion a Cnicht.


Mae Tryfan yn fynydd technegol iawn, nid yw'n heic mewn gwirionedd, mae pob llwybr yn llwybr sgramblo/dringo. Mae ganddo lwybrau sy'n hawdd eu sgrialu i ddringo caled. Rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth gwahanol o lwybrau i fynd i'r afael â nhw. Mae Crib Goch yn fynydd unigryw i Eryri. Mae ei siâp fel ei enw - ‘crib’, lle mae’n rhaid i chi gerdded ar draws top y gefnen gul hon gyda chlogwyni 100 troedfedd ar y ddwy ochr. Moelwynion a Cnicht yw fy mynyddoedd lleol a threuliais lawer o amser yn cerdded, seiclo a rhedeg i argae Stwlan ac i’r copaon. Mae'n braf bod ar fynydd lle rydych chi'n gweld pobl leol yn bennaf.

Dw i’n deall dy fod yn tynnu lluniau hefyd – o le datblygodd y diddordeb yma?
Fy nod gyda ffotograffiaeth yw dal y teimlad hwnnw o archwilio lleoedd newydd am y tro
cyntaf - ei rewi i gael ei rannu a'i ail-fyw dro ar ôl tro. Gan fy mod i bob amser allan, roeddwn i wrth fy modd yn tynnu lluniau o'r foment. Roedd pobl eisiau prynu fy lluniau felly dechreuais werthu. Edrychwch ar fy mhortffolio ar fy ngwefan.

Fe wnes di redeg ras y llynedd – dros gan cilomedr i fyny 47 copa Eryri. Swnio’n wallgo! Sut brofiad oedd hynny?

Ras y Paddy Buckley: Profiad diddorol a phoenus. Yr her anoddaf i mi ei gwneud hyd yn hyn. Dysgais lawer trwy wneud yr her hon, dysgais beth roedd fy nghorff yn gallu ei wneud pan fydd gennych chi feddwl positif. Rhyw bwynt roeddwn i eisiau stopio oherwydd blinder a phoen, ond oherwydd bod gen i feddwl positif gallwn barhau.

Rwyt ti wedi teithio dipyn hefyd – Yr Alpau, Nepal, India ... Dyweda fwy wrthym ni.
Es i Nepal ac India i archwilio, heicio a theithio. Roedd yr Himalayas yn syfrdanol.
Un o fy nheithiau diweddar oedd dringo yn yr Alpau. Gyrrodd fi a ffrind lawr i Chamonix gyda'n gilydd a chysgu yn y fan am bythefnos. Fe wnaethon ni ddringo rhai dringfeydd epig, y dringo gorau rydw i erioed wedi'i wneud. Roedd dringo ar 4000m gyda golygfa Mont Blanc wrth fy ymyl yn epig.

Mi fuost ym Mhatagonia yn ddiweddar hefyd. Cyfnod difyr mae’n siŵr?
Ymweld â’r Wladfa ym Mhatagonia oedd y profiad mwyaf swreal ac emosiynol i mi ei gael. Roedd siarad Cymraeg ar ochr arall y byd yn anhygoel ac yn swreal. Fe wnaethom hefyd lawer o ferlota yn yr Andes.

Oes gen ti daith arall wedi ei threfnu’n fuan?
Wrth ateb y cwestiynau hyn (diwedd Ionawr) rwy'n gyrru yn y Dolomites. Byddaf yn archwilio gogledd yr Eidal yn fy fan. Fy nghynllun yw heicio, rhedeg, eirafyrddio, a beicio yma. Rydw i hefyd yn gweithio ym Morocco ddechrau mis Chwefror. Rwy'n arwain grŵp i fyny Mt.Toubkal gyda chwmni anhygoel o ogledd Cymru o'r enw Adventurous Ewe.

Mae gen i lawer o deithiau ar y gweill eleni. Beicio o gwmpas Mallorca, rhedeg Tour du Mont Blanc. Mae gen i ychydig o swyddi rhyngwladol hefyd, mwy o waith ym Morocco ym mis Mehefin, beicio o gwmpas y Dolomitau a seiclo o Lundain i Baris. Blwyddyn gyffrous.

[Cyfweliad gan Glyn Lasarus Jones]

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2023


3.4.23

Stolpia- Chwarel Nyth y Gigfran

Hen ddiwydiannau Glan-y-pwll a Rhiw

Bu sawl diwydiant yn y ddwy ardal uchod tros y blynyddoedd, ac wrth gwrs, bu un ohonynt yn fyd-enwog yn ei dydd, sef Chwarel Lechi Oakeley. Pa fodd bynnag, y tro hwn hoffwn grybwyll un nad yw ei hanes mor gyfarwydd i lawer y dyddiau hyn, sef hen Chwarel Glanypwll, neu’r Glan-y-pwll Slate and Slab Company, a rhoi ei henw swyddogol iddi hi. 

Y mae safle y chwarel hon ar ddannedd y graig sydd rhwng hen Chwarel Oakeley a Chraig Dipia, ac uwchlaw y fan a elwir Groesffordd (gweler llun). Adnabyddir hi wrth yr enw Chwarel Nyth y Gigfran ar lafar gan mai yn y rhan honno y dechreuwyd ei gweithio yn yr 1840au gan yr hen gloddiwr Twm Ifan Jams, a dyna pam y gelwid hi yn Cloddfa Twm Ifan Jams gan yr hen bobol.

Un o luniau John Thomas, Cambrian Gallery, tua1875, gyda hen Dai Groesffordd a 2 inclên Chwarel Glan-y-pwll (LLGC).

Credaf mai yn 1861 y ffurfiwyd cwmni Chwarel Glanypwll a hynny gyda chyfalaf o £30,000 mewn cyfranddaliadau gwerth £5 yr un. Yn ôl enwau’r cyfarwyddwyr, gwŷr cyfoethog o Loegr oedd y mwyafrif ohonynt. Bu’r cwmni yn datblygu’r chwarel am rai blynyddoedd gan obeithio taro ar lechfaen o’r un ansawdd a Chwarel Oakeley, ond ni lwyddwyd. Gwnaed dwy inclên i fyny i’r chwarel yn 1866/67, yr uchaf yn serth iawn, yn ogystal â changen i gysylltu gyda Rheilffordd Ffestiniog. 

Dechreuwyd hefyd ar godi melin a thwll olwyn ddŵr ar fan y tu isaf i’r bwthyn bach a elwir ‘Cronstadt’, ac ar yr ochr ddwyreiniol i’r rheilffordd. Pa fodd bynnag, nid yw’n debygol bod y gwaith wedi ei gwblhau, ac efallai, oherwydd i’r cwmni fynd i drafferth ddybryd gyda therfynau Chwarel Oakeley. Bu achos cyfreithiol yng Nghaer yn erbyn cwmni Chwarel Glanypwll gan Mrs Oakeley a rhybudd llys nad oedd i dresmasu ar dir y chwarel fawr neu mi fyddai yn wynebu dirwy drom.

Dywedir bod y cwmni wedi ceisio codi boeler i fyny i’r chwarel un tro a’i fod wedi mynd i drafferth ar yr inclên uchaf, sef inclên a weithiai fel math o drwnc, neu inclên ‘llwyfan symudol’ (transporter incline). Bu fel pryf copyn ar raff yno am ddyddiau a dywedodd Richard Owen, un o’r prif weithwyr, na ddeuai yr un arall yno byth eto, ac felly y bu. 

Clywais y diweddar John Hughes, Ferlas, yn dweud bod y gweithwyr wedi gobeithio taro ar lechfaen o liw gwyrdd olewydd (olive green) o ansawdd dda yno gan fod y graig mewn un rhan o’r chwarel yn wyrdd golau, ac yr oedd galw am lechi to o’r fath, ond ni ddaeth fawr ddim o hynny, chwaith. Gyda llaw, yr enw ar yr haen hon o lechfaen yw Llygad Glan y Pwll neu’r Olive Vein

Ychydig iawn o lechi to a slabiau a gynhyrchwyd yno. Anfonwyd 387 tunnell o’r chwarel yn 1867 i borthladd Porthmadog, o bosib y nifer uchaf a wnaed yno. Er iddi rygnu mynd am ychydig wedyn, erbyn y flwyddyn 1870 roedd y lle wedi ei adael i sefyll. 

Siop Mafeking a Cae Dolawel
Diolch i Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug, am rannu ei hatgofion yn rhifyn Ionawr am Siop Mafeking a tharddiad yr enw. Gyda llaw, ceir enw arall o ddyddiau Rhyfel De Affrica yng Nglan-y-pwll, sef Kimberley House. 

Diolch hefyd i Aled Ellis, Minffordd, am yr wybodaeth ganlynol am Gae Dolawel: Bu adroddiadau yn y Merioneth and Vale of Conway Football & Sports Gazette,16 Chwefror 1951, bod cynllun uchelgeisiol ar droed i wneud Cae Dolawel yn faes chwaraeon gydag arena ar gost o rhwng £7,000 a £10,000, a gwneud Cae Haygarth Park yn atgof prudd! 

Pa fodd bynnag, yn ôl yr adroddiad a ymddangosodd yn y Blaenau Ffestiniog & District Sports Report, 4 Hydref, 1952: roedd Cwmni Chwarel Oakeley yn fodlon ystyried ei werthu, ond barn y rhai a arolygodd y cae oedd ei fod yn anaddas ar gyfer y cynllun a byddai’n costio gormod, gan nad oedd modd cael grant o unrhyw ffynhonnell tuag at ei addasu. Yn dilyn cyngor y Pwyllgor Arbennig penderfynodd y Clwb Pêl-droed nad oedd am barhau â’i amcanion gyda’r cae. Tybed beth fuasent yn ei ddweud heddiw wrth weld y cae rygbi a’r Tŷ Clwb ?
- - - - - - - - - - -

Pennod o gyfres Stolpia gan Steffan ab Owain.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2023