Showing posts with label Dydd Gŵyl Dewi. Show all posts
Showing posts with label Dydd Gŵyl Dewi. Show all posts

12.4.26

Antur Stiniog -Eiddo Cymunedol a Gŵyl Dewi

Rydym wedi cael gaeaf prysur iawn yma yn Antur Stiniog, Mae Eifion Stores wedi bod digon ffodus i dderbyn grant ar gyfer adnewyddu ambell i beth yn yr adeilad yn cynnwys ffenestri newydd, lloriau newydd a system wresogi. Ond y newid gorau un yw’r cownter newydd i’r siop. Mae wedi cael ei greu gan Hefin Hamer gydag amryw o goed gwahanol o lefydd gwahanol o gwmpas Blaenau a'r wlad! Hoffwn ddiolch iddo am y gwaith gwych ac unigryw.

Mae gwaith yn parhau ar adeiladau Bolton a Ephraim i adnewyddu’r adeiladau yn gyfan. Yn dilyn archwiliadau strwythurol diweddar, mae wedi dod i’r amlwg bod rhannau o’r ffasâd presennol bellach ddim yn ddiogel, felly mae angen tynnu’r ffasâd i lawr yn ofalus cyn ei hailadeiladu.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw’r adeiladau yma i’r gymuned, ac felly hoffem eich sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud gyda gofal mawr. Bydd y ffasâd yn cael ei hailgodi yn yr un arddull a golwg, gan gadw’r cymeriad a’r manylion sy’n gwneud Bolton ac Ephraim mor adnabyddus. Mae gweithwyr arbenigol lleol yn goruchwylio’r prosiect er mwyn sicrhau bod y canlyniad terfynol yn parchu hanes ac ymddangosiad yr adeiladau, tra’n eu gwneud yn ddiogel ac yn gadarn ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i’r prosiect fynd rhagddo. 

Os oes unrhyw gwestiwn mae croeso i chi yrru neges atom ar eiddo@anturstiniog.com

Arwydd newydd yr Aelwyd

 

I ddathlu Gŵyl Dewi, cafwyd bore braf yng nghwmni Melda Lois yn Tŷ Coffi ar fore 28ain o Chwefror, roedd ei cherddoriaeth swynol yn hyfryd i wrando arno yng nghwmni ffrindiau yn y caffi, diolch yn fawr iddi ddod draw atom.

Sioned Davies-Williams
Swyddog Marchnata Antur Stiniog Marketing

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 


6.4.26

Gwneud y Pethau Bychain

Wrth ddweud ei bod yn braf cael ymuno yng Nghyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog, soniodd y canwr Arfon Wyn am ei obaith i efelychu’r gyfres a chynnal digwyddiadau tebyg ym Môn hefyd. Mae mor bwysig ‘gwneud y pethau bychain’ meddai, a hithau’n benwythnos Gŵyl Ddewi, i ddod at ein gilydd i ganu a thrafod. Dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau, a chadw’r ymgyrch am annibyniaeth i Gymru yn amlwg ym meddyliau pobl.

Hon oedd ail-noson-ar-bymtheg y gyfres, yn awyrgylch hyfryd Tŷ Coffi Antur Stiniog, ac yn ôl yr arfer, mi gawsom sét fer o ganeuon gan y cyfansoddwr-ganwr i ddechrau, ac un arall i gloi’r noson. “Rhywbeth hwyliog i gychwyn” meddai, “er mwyn cael c’nesu efo chydig o gyd-ganu”, a bwrw iddi efo Ar Lan y Môr. Bu chwerthin yn y gynulleidfa wrth iddo egluro ei fod wedi ychwanegu pennill am ysgariad -difôrs- i adlewyrchu’r byd modern!

Mi gawsom lawer o’i glasuron -rhai wedi bod yn llwyddianus yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dros y blynyddoedd, fel Cae o Ŷd (2000) a geiriau’r gytgan dal yn berthnasol heddiw efo’r hil-laddiad erchyll ym Mhalesteina: ‘Mae sŵn y gynnau’n tanio/Dal i’w clywed yn y nos...’ 

Harbwr Diogel (2002) yn un arall adnabyddus; ond cafwyd ambell un llai cyfarwydd hefyd, fel Ni Welaf yr Haf, a ddaeth i’r brig ym 1979 pan oedd yn aelod o’r grŵp Pererin. Difyr oedd clywed ei brofiadau yn y byd cerddorol, a hanesion difyr a digri, wrth gyflwyno’r caneuon.

Yn dilyn egwyl fer, mi gawsom sgwrs ddifyr tu hwnt gan y bardd a’r awdur Haf Llewelyn. Un a fagwyd ar fferm Graig Isaf ym mhen uchaf Cwm Nantcol, dafliad carreg o Fwlch Drws Ardudwy a dalgylch Llafar Bro. 

Mae gen’ i feddwl y byd o Stiniog” meddai, o’r dyddiau pan oedd yn dod i weld ‘y dyn llygaid’ yma. Soniodd Haf am gefndir hirhoedlog ei theulu yng Nhwm Nantcol, a’r newid enfawr sydd wedi dod i Ardudwy ers ei phlentyndod. Mae’n cofio’r plentyn di-Gymraeg cyntaf yn cyrraedd Ysgol Llanbedr, sy’n anodd credu erbyn heddiw tydi, ac yn gwaredu na chafodd unrhyw air o hanes Owain Glyndŵr, tra oedd yn Ysgol Ardudwy. Ysgol sydd yng nghysgod Castell Harlech fu’n gartref a phencadlys yr arwr a’i deulu am gyfnod yn ystod ei wrthryfel. 

Erbyn hyn mae hanes a threftadaeth yn agos iawn at ei chalon a’i hangerdd yn pefrio trwy ei gwaith- mae’n awdur nifer fawr o lyfrau plant, a nofelau i oedolion.

 

Mi enillodd ei nofel hanesyddol am Hedd Wyn -Diffodd y Sêr- wobr Tir Na N-og yn 2014. Darllenodd ambell gerdd deimladwy iawn o’i chyfrol o farddoniaeth, fel Llwybr y Pererin (ger Gellfechan, Ardudwy), sy’n dechrau fel hyn: 

Unwaith ar y llwybr hwn bu’r brodyr, ac eithin melyn Mai 
yn cydio ym mhlygiadau eu brethyn llwyd; a thybiais imi eu gweld
yn datod rywfodd rubanau’r niwl dros y Sarn, gan adael
Enlli’n gryndod yn y gwres – a’r môr cyn lased medden nhw,
A mantell sidan Branwen gynt.

Noson arbennig arall o adloniant, diwylliant, chwyldro! Dim ond un arall sydd i ddod yn y gyfres yma, a hynny ar nos Wener olaf mis Mawrth (27ain). Mae hanes yr actor/canwr/cyfarwyddwr theatr Arwel Gruffydd yn ein diddanu efo ambell gân a darlleniad, ac yn cael ei holi gan Ffion Dafis yn rhifyn Ebrill. 

PW
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 
 

1.3.26

Os wyt Gymro hoff o’th Sant

Pennod arall o gyfres Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Mawrth 2025

Dwn i ddim faint ohonoch chi fanteisiodd ar y cyfle i ymweld â’r Gadeirlan yn Nhŷ Ddewi erioed? Fe fu hon yn gyrchfan i sawl pererin dros y canrifoedd. Roedd ‘pererindod’, neu ‘daith i le sanctaidd’ yn elfen bwysig iawn i Gristnogion, fel ag i nifer eraill o grefyddau’r byd. 

Yn yr Oesoedd Canol, roedd pererindod i Rufain yn boblogaidd iawn. Yma yng Nghymru, roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cael eu hystyried yn gyfwerth ag un pererindod i Rufain.

Yr adeg yma o’r flwyddyn, ar Galan Mawrth yn benodol, fe fydd cymdeithasau crefyddol a seciwlar o bob math yma yng Nghymru a thu hwnt,  yn cofio Dewi Sant, ac yn dathlu mewn amrywiol ffyrdd. Mae ‘na rai sefydliadau yn cynnal nosweithiau llawen ac eisteddfodau, tra bo eraill yn trefnu swper ac yn gwahodd person arbennig i siarad. 

Pa ffordd bynnag yr awn ni ati i ddathlu’r ŵyl arbennig yma, fe ddylen ni o leia atgoffa’n gilydd o’n dyled i’r gorffennol ... i’r gwŷr a’r gwragedd da hynny a wnaeth gymaint inni fel cenedl.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi yn ystod fy saith mlynedd yn Ysgol Tywyn oedd yr Eisteddfod a gynhaliwyd ar y cyntaf o Fawrth bob blwyddyn. Fe fydden ni’r digyblion yn cael ein hannog i gymryd rhan a chael cyfle drwy hynny i geisio disgleirio fel cantorion a llefarwyr, offerynwyr ac arlunwyr, beirdd a llenorion. Roedd pedwar ‘Tŷ’ yn cystadlu’n frwd yn erbyn ei gilydd ... y ‘Dreigiau’ coch, y ‘Derwyddon’ glas, y ‘Telynnau’ gwyrdd a’r ‘Beirdd’ melyn. 

Digon Seisnig oedd Ysgol Tywyn yn y 1960au, ond ar ddiwrnod arbennig yr ‘Eisteddfod’, gellid ymdeimlo â’r balchder o fod yn Gymry oddi mewn i furiau’r hen neuadd. Ac o edrych yn ôl ar y dyddiau hynny, does dim dwywaith na lwyddodd y cyfle i gael cymryd rhan yn ei gweithgarwch i gyfrannu at fy nghariad innau at fy Iaith a’i diwylliant.

Cyn hynny, yn yr ysgol fach yng Nghorris, cofiaf y farddoniaeth gafodd ei chyflwyno i ni’r plant ar yr adeg yma o’r flwyddyn.  Un o’r ffefrynnau, a arhosdd ar y cof ar hyd y blynyddoedd, er bod ei harddull yn dra hen ffasiwn erbyn heddiw, oedd y berl fach yma gan Eifion Wyn:

Os wyt Gymro hoff o’th wlad,
A hoff o’th dadau dewrion,
Cadw ŵyl er mwyn dy had -
Ni waeth beth ddywed estron, -
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon.

Os wyt Gymro hoff o’th iaith,
A hoff o’i bardd a’i phroffwyd;
Heddiw twng y filfed waith
I’w chadw fel ei cadwyd:
Boed yn amlaf ar dy fin,
Boed olaf ar dy aelwyd.

Os wyt Gymro hoff o’th Sant,
A hoff o’r cysegredig;
Cadw ŵyl, er mwyn dy blant,
I Ddewi, ŵyr Ceredig; -
Cas yw gŵr na châr ei wlad,
Boed dlotyn neu bendefig.

Mewn cystadleuaeth yn un o gyfarfodydd bach ardal y Ganllwyd yn nechrau’r 1980au, gosdwyd ‘Emyn Gŵyl Dewi’ yn destun. Ychydig gofia i am amgylchiadau ei lunio, ond fe ddes i ar ei draws ymysg ambell beth a gedwais ar ddisg galed fy nghyfrifiadur. 

Canmolwn yn awr y gwŷr enwog’ meddai adnod gynta’ pennod 44 o Lyfr Ecclesiasticus yn yr Apocryffa. 

Yn ogystal â Dewi, ein Nawddsant, cofiwn hefyd am nifer o seintiau eraill a gyrhaeddodd Gymru yn eu cychod cyntefig i ledaenu’r efengyl. Cofiwn am William Morgan, yn unigrwydd ei fyfyrgell yn Ficerdy Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac am Griffith Jones, yn llwydni festri ei eglwys yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin: 

O Dduw a sicrheaist
Gyflwyno d’Air i’n hiaith,
Canmolwn y gwŷr hynny
Fu’n ffyddlon i dy waith,
A boed i ni ar Ddydd ein Sant
Gyflwyno’u henwau hwy i’n plant.

Y seintiau gwrol deithiodd
Mewn badau dros y don,
Gan herio llid corwyntoedd
A dychrynfeydd o’r bron
Wrth gario’r Newydd Da am Grist
I lonni gwedd paganiaid trist.

Y gannwyll yn y parlwr
A’i golau gwan ynghyn
Yn cyfarwyddo’r cwilsyn
Hyd ddail y papur gwyn;
Rhown glod i’r Esgob am ei waith
O droi Gair Duw yn fêl i’n hiaith.

Yr awydd a’r amynedd,
Yr ynni mawr a’r nwyd,
Gwireddu ei arddeliad
Yn yr ysgoldy llwyd
Wnaeth yr offeiriad yn ddi-ball
Er achub enaid gwerin ddall.

Yn nyddiau yr edwino
Ymysg dy bethau Di,
A’r mynych fygythiadau
Sydd ar ein heniaith ni;
O! tyred, Iôr, â’th Ysbryd Glân
I gynnau eto ‘Ngwlad y Gân.

Yn sicr, mae hi’n ddyletswydd arnom ninnau barchu iaith ein cenedl, nid oherwydd fod yr Iaith Gymraeg yn well nag unrhyw iaith arall, ond oherwydd mai’r Iaith Gymraeg a roddwyd yn rhodd i ni.
Ac ar ben hynny, fe gawson ni wlad hardd i fyw ynddi, a diwylliant. Ein braint a’n cyfrifoldeb ni ydy sicrhau hynny i’n plant, ac i blant ein plant. 

Fel y llefarodd Emrys Wledig yn ei araith a welir yn nrama Saunders Lewis - ‘Buchedd Garmon’ ... a ddarlledwyd gyntaf ar Ŵyl Dewi 1937:

Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
 i’w thraddodi i’m plant ac i blant fy mhlant yn dreftadaeth dragwyddol;
 ac wele’r moch yn rhuthro i’w maeddu.
 Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion, cyffredin ac ysgolhaig,
 Deuwch ataf i’r adwy, sefwch gyda mi yn y bwlch,
 Fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.

Yn ei englyn diweddaraf, mae Simon ap Lewis yntau’n pryderu dros ddyfodol yr Iaith. Fe’i hysbrydolwyd gan gân olaf 'Shimli' - albwm newydd ‘Cynefin’ (prosiect cerddorol y canwr a'r hanesydd, Owen Shiers) sef, ‘Faerdre Fach.’ Hwyrach i chithau gofio gwarth ‘Happy Donkey Hill’ -  pryd y disodlwyd enw hanesyddol Cymraeg gan enw erchyll, chwerthinllyd ac ansensitif - enw busnes llety a brecwast newydd yng nghyffiniau Llandysul. Dyma enghraifft arall o’r ‘moch yn rhuthro’ i faeddu’r winllan!

Lladdodd byddin y gyfrinach, o’i llwch
     Codwyd lloches afiach
I fusnes ac i fasnach,
Doedd dim lle i Faerdre Fach.
 

23.5.24

Degawd o lwyddiant

Addasiad o dair erthygl a gyhoeddwyd yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 2024

Mae’n bleser gallu nodi degawd o lwyddiant ac o dwf cymunedol y mae buddsoddiad Antur Stiniog wedi dod i galon Blaenau Ffestiniog.

Yn 2007, fe gychwynwyd y fenter gymunedol newydd yma’n ardal Stiniog, a'r gobaith ar y cychwyn oedd gallu cyflwyno anturiaethau yn yr awyr agored i’r gymuned leol ac ymhen amser, fe agorwyd y Ganolfan Lawr Allt a’i llwybrau beicio – bellach, mae hwn yn fusnes hunan gynhaliol ac wedi llwyfannu nifer o ddigwyddiadau mawr ym myd y beics mynydd.

Cafodd cwmni Antur Stiniog forgais 10 mlynedd yn ôl i brynu unedau ar y Stryd Fawr yn y Blaenau er mwyn sicrhau’r adeilad i’r gymuned leol. Ar hyd y blynyddoedd, mae’r unedau wedi bod yn gartref i lawer o fusnesau, a hefyd lleoliad eu swyddfeydd. Bellach mae siop pysgod-a-sglodion llwyddiannus ac hefyd Tŷ Coffi Antur a siop flodau yno.

Dyma sydd gan Helen, rheolwraig Tŷ Coffi i'w ddweud:

“Rwyf wedi bod yn gweithio i Antur Stiniog ers 2013 ag yn yr unedau ers i ni agor yn 2014. Mae wedi bod yn bleser datblygu’r unedau dros y blynyddoedd i Dŷ Coffi prysur ag hefyd lleoliad lle mae grwpiau fel Yes Cymru yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth. Braf yw hi hefyd cael gweld busnesau pop up fel Burritos Blasus a'r Cwt Blodau yn cychwyn yma". 

Bellach, mae degawd wedi pasio ers i’r pryniant yna ddigwydd, ac fe fuodd Aled Hughes a’i raglen foreuol ar Radio Cymru ar ymweliad â’r caffi, sydd rŵan yn dwyn yr enw Tŷ Coffi Antur Stiniog. Un o’r prif bethau y mae rhaglen Aled Hughes yn hoffi taflu goleuni atynt yw storïau o’r “gymuned yn helpu’r gymuned” ac mae’n deg i ddweud fod yr “ysbryd gymunedol yn dal yn fyw yma’n y Blaenau”.


Hanner ffordd drwy’r ddegawd, fe ddaeth yr argyfwng COVID i’n plith, a gyda hi y rheol ddwy fetr rhwng pob bwrdd – felly, er mwyn gallu cadw’r caffi i redeg, roedd yn rhaid ehangu ar draws y ddwy uned, gan gymryd drosodd gan y siop mewn gwirionedd ac felly y mae pethau wedi aros ers hynny, wrth i’r staff deimlo bod naws y caffi ar ei wedd bresennol yn gweithio’n well fel darpariaeth o Hwb Gymunedol.

Dros y blynyddoedd, y mae’r adeilad wedi llwyfannu digwyddiadau gyda’r nos a sawl busnes wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r gofod fel lleoliad pop-up – megis Burritos Blasus Blaenau oedd yn gweithredu o’r caffi yn ystod nosweithiau’r haf; mae’r chef oedd yn gyfrifol am y pop-up bellach wedi cymryd y les ar gaffi’r Ganolfan Lawr Allt yn Llechwedd, sy’n profi pa mor werthfawr y mae’r buddsoddiad yn yr unedau wedi bod yn nyfodol a ffyniant sawl gyrfa o fewn yr ardal. Mae ethos y fenter wastad wedi bod ar “greu swyddi a chreu arian i’r economi leol, fydd yn aros yn yr economi leol” ac mae hynny’n parhau i fod yn wir wrth i’r Tŷ Coffi greu 6 o swyddi ac 20 mewn cyfanswm ar hyd gwmni Antur Stiniog.

Dywedodd Helen wrth Aled ei bod hi:

“wrth ei bodd mod i’n gallu gweithio dau funud i ffwrdd o’n nhŷ, does na ddim angen i mi deithio ffwrdd i weithio a ma hynny’n braf hefyd gan fod fy merch yn yr ysgol sydd rhyw funud neu ddau lawr y ffordd. Ma hi’n brofiad lyfli gallu siarad efo bobl leol drwy dydd a dwi’n gobeithio fod hyn yn gallu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy ddangos iddynt ei bod hi’n bosib aros yn yr ardal i wneud bywoliaeth.”

Mae hi’n deg dweud y byddai’r ardal dipyn tlotach heb Antur Stiniog ac mae dathlu degawd o’r Tŷ Coffi yn esiampl clir o ba mor bwysig ydynt i’r gymuned leol!

Mae llawer mwy wedi’i gynllunio ar gyfer 2024 a thu hwnt.

- - - -

Datblygiad cyffrous i Antur Stiniog yw bod y gwaith adeiladu yn dechrau ar hen adeilad Aelwyd yr Urdd. Caeodd yr adeilad a’r holl adnoddau ar ôl i’r Urdd golli cyllid i redeg y safle. Mae Antur Stiniog wedi gallu prynu’r aelwyd ac ennill grantiau i atgyweirio’r adeilad i gyd. (Gweler Yr Aelwyd am fwy o wybodaeth). Mae’r cais cynllunio ar gyfer adnewyddu Siop Ephraim a Caffi Bolton wedi ei gymeradwyo a’r cam nesaf fydd mynd allan i dendr.

Os hoffwch gadw llygaid ar ddatblygiadau eiddo cymunedol Antur Stiniog cewch ei’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am @EiddoAnturStiniog.  Byddwn hefyd yn ‘sgwennu darnau i Lafar Bro gyda’r holl ddiweddariadau.

Oes modd adeiladu math newydd a gwahanol o dwristiaeth? Cafodd gweithdy ei gynnal ar y 18fed o Ebrill yn CellB.

Gall twristiaeth chwarae rôl ganolog yn nyfodol ein cymunedau trwy ogledd Cymru. Bu'n gyfle i gwrdd â’n tîm o ymchwilwyr cymunedol a chael gwybod am eu gwaith a’u chanfyddiadau, gan fynd i galon twristiaeth a beth mae o’n golygu i’n cymunedau, ac ydi pethau angen bod yn wahanol?

Mae Tŷ Coffi Antur Stiniog wedi cael cyfnod prysur ers gwyliau’r Pasg, a’r trên bach yn cyrraedd y Blaenau’n amlach erbyn hyn. 

Braf iawn oedd cael croesawu busnes newydd yn ein gofod i fyny’r grisiau. Mae’r Cwt Blodau yn creu blodau at bob achlysur yn ogystal a gwerthu planhigion tŷ ac anrhegion. Dewch draw am sbec!


 Bydd ein siop-bob-dim Eifion Stores yn stocio hadau a chompost aballu wrth inni gamu i’r gwanwyn, yn ogystal â phopeth sydd ei angen ar gyfer DIY yn y tŷ a’r ardd! 

Wrth i’r cloc droi a’r tywydd yn gwella mae’r parc beicio lawr-allt yn agored ar ddydd Iau a Dydd Llun rwan yn ogystal a Gwener-Sadwrn-Sul a gobeithiwn gael gwanwyn a haf sych i’ch croesawu ar lwybrau’r Cribau!

Penodwyd dwy aelod newydd o staff -Sioned ac Antonia- yn rhan amser i arwain ar faterion marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol i Antur Stiniog. Cofiwch ein dilyn ar eich hoff wefan, boed yn facebook, instagram neu X.
- - - - - - - - - 

Cafwyd dathliad yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog ar Ddydd Gŵyl Dewi, efo Meinir Gwilym, Catrin O'Neill yn canu a Danielle Clarke yn diddanu ar y delyn.

Lluniau Paul W


1.3.17

Y dydd yn 'mestyn

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi! 'Gwnewch y pethau bychain' medd ein nawddsant, ac un peth bychan i'w ddathlu ar hyn o bryd ydi'r ychydig funudau ychwanegol o olau dydd a gawn yn ddyddiol wrth edrych ymlaen at y gwanwyn. Mae amser gwell i ddyfod,  ha-haleliwia! Dyma bytiau am y dydd yn 'mestyn a choelion mis Mawrth.
 
Cenin pedr. Llun -Paul W

Awr Fawr Galan...
Erbyn heddiw mae’r hen goel werin: 
Awr Fawr Galan, dwy Ŵyl Eilian a thair Ŵyl Mair 
wedi hen fynd heibio a mi fyddwn y rhoi’r clociau  ymlaen diwedd y mis hwn. Coel werin a fathwyd  gyda hyder dros y canrifoedd ydy hon.

Y syniad fod y dydd wedi ymestyn awr rhwng y Solstis a’r Flwyddyn Newydd. Boed hyn y Flwyddyn Newydd gyfoes, Ionawr 1, neu'r Hen Flwyddyn Newydd, Ionawr 12. Dim ond ychydig iawn o funudau a ychwanegwyd at y dydd ond byw mewn gobaith oedd yr ateb i aeaf caled a’r dyhead am y gwanwyn.

Aiff yr hen goel yn ei blaen i son am ‘ddwy awr Gŵyl Eilian’ a thair awr Gŵyl Fair y Canhwyllau. Codi ysbryd rhywun mewn gaeaf caled yw swyddogaeth yr hen goel debyg  ac mae rhai yn dal i son am Awr Fawr Galan. Er nad yw’r goel yn fathemategol gywir mae’n braf meddwl fod y dydd yn ymestyn.

Tebyg fod y gair Saesneg clock  yn dŵad o’r hen air Cymraeg ‘cloch’ a’r gair Gwyddeleg am gloch ef ‘clocca’. Un o’r gloch / One o' clock … wrth gwrs a thebyg mae cloch y llan oedd honno.
-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -

(Yn ôl Twm Elias -'Tro drwy'r tymhorau'. 2007, Gwasg Carreg Gwalch- mi gawn ni tua 29 munud ychwanegol o olau dydd erbyn yr hen galan ar y 12fed o Ionawr; tua 68 munud erbyn Gŵyl Eilain, 29ain Ionawr; a dwy awr a chwarter erbyn Gŵyl Fair ar y 13eg Chwefror.
Ychydig o blygu'r gwir gan ein cyndadau felly, ond pwy sy'n cwyno 'de, cyn belled ein bod yn edrych ymlaen yn obeithiol at y gwanwyn. Daliwch i gredu!  -PW)

-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -

Coelion Mis Mawrth

Mewn englyn, cwpledi a choel ceir nifer o gyfeiriadau at a rhybuddion newid tywydd yn ymwneud â mis Mawrth:

1.    Fe ddaw Gŵyl Fai, fe ddaw Gŵyl Ddewi
Fe ddaw’r hwyaden fach i ddodwy
Fe ddaw’r haul bach i sychu’r llwybre
Fe ddaw ‘nghariadau innau’n drwpe

2.    Mis cyn C’lanmai cân y cogau;
Mis cyn hynny tyf y briallu

3.    Mawrth a ladd, Ebrill a fling
A rhwng y ddau, adawan nhw ddim
(A Mai mwyn i werthu crwyn!)

4.    Os ym Mawrth y tyf y ddôl
Gwelir llawnder ar ei hôl

5.    Yn ôl coel arall, am bob diwrnod o dywydd teg ym mis Mawrth, bydd wythnos o dywydd braf yn yr haf - Fel y bo Mawrth y bydd yr haf.

6.    Os bydd yr oen cyntaf a welwch yn y gwanwyn yn eich wynebu bydd hynny’n dod a lwc dda'r gweddill o’r flwyddyn

7.    Ni phery eira mis Mawrth
Mwy nag ymenyn ar dorth dwym

8.    Mawrth oerllyd a gwyntog ac Ebrill cawodog
Ill dau a wnant rhyngddynt Fai teg a godidog

9.    Niwl ym Mawrth, rhew ym Mai

10.    Bore du o wanwyn; prynhawn teg

11.    Os daw Mawrth i mewn fel oenig
Allan â fel llew mileinig

12.    Yr adeg i hau ydy ‘tridiau’r aderyn du a dau lygad Ebrill’ (sef tridiau olaf mis Mawrth a’r deuddydd cyntaf ym mis Ebrill ond cofier ‘Gwlybaniaeth ar yr og, chwyn yn y cryman’.
-----------------------------------------

Darnau gan Tecwyn Vaughan Jones, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2016.


1.3.16

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Erthygl gan Marian Roberts, o rifyn Chwefror 1998.

‘Gwisg genhinen yn dy gap,
a gwisg hi yn dy galon.’


Ydach chi erioed wedi meddwl pam y cafodd y genhinen ei mabwysiadu fel arwyddlun gan y Cymry? Daeth y genhinen yma gyda’r Rhufeiniaid o ardal Môr y Canoldir, a sefydlodd yn arbennig o dda. Ceir chwedl am y genhinen sy’n mynd nôl i adeg Dewi Sant (tua 520 AD). Fe ddwed yr hanes i’r genhinen gael ei dewis fel teyrnged i fywyd meudwyol Dewi a fu’n eu casglu o’r caeau a’i cynnwys yn ei fwyd bob dydd.

Dro arall, dywedir i Dewi ddweud wrth filwyr  Cymru am roi cenhinen yn eu cap fel  gellid gwahaniaethu rhyngddynt a’r Sacsoniaid a oedd yn ceisio eu goresgyn. Roedd hyn yn helpu’r Cymry rhag lladd eu gilydd!

Cred eraill mae’r hen arferiad o ‘gymortha’ sy’n gyfrifol am i’r genhinen gael ei mabwysiadu fel arwyddlun. Wrth i’r cymdogion gasglu at ei gilydd i gario gwair neu godi mawn, roedd pob un yn cario cenhinen ar gyfer y cawl cennin a fwyteir ar ddiwedd y diwrnod gwaith. Yn eu hetiau neu eu capiau y cariai’r dynion eu cennin, a daeth y llysieuyn yn symbol o’r werin Gymreig.

Llun- Paul W
 Ond mae’r genhinen Pedr, neu’r daffodil yn cael ei hystyried fel symbol cenedlaethol hefyd. Hyd y gwn nid oes unrhyw hanesyn i ddatglu’r rheswm dros ei ddewis yn arwyddlun.

Mae yna debygrwydd yn nhyfiant y ddau blanhigyn, ond efallai am fod y daffodil yn harddach planhigyn na’r genhinen y cafodd ei ddewis.

Er, efallai, y gall un darn o wybodaeth a ddarllenais unwaith roi rhywbeth i chi feddwl drosto – Mae un rhywogaeth o gennin Pedr, yn tyfu mewn man ger Dinbych y Pysgod, Sir Benfro. Mewn un lle arall yn y byd y gwelwyd y planhigyn hwn – sef gogledd yr Eidal.

Tybed ai rhyw bererin cynnar yn dwyn yr enw Pedr a gariodd ei genhinen i’r ynysoedd hyn, ac mai hon a ddewisodd Dewi Sant rai canrifoedd yn ddiweddarach?

Y Mis Bach
Os corwynt fis crintach – ydyw hwn
    Gyda’i od a’i grepach
Os golwg, mae’n fis gloywach,
Tyr haul o hyd trwy ei lach.

(Mathonwy Hughes, Corlannau a Cherddi Eraill)


Cawl Cennin a Thatws

Amser: Paratoi – 45 munud; coginio – tua awr.
Cynhwysion (digon i 4):

12 owns (350g) tatws
3 cenhinen
1 owns (25g) menyn
1 nionyn, wedi ei falu
1 ½ peint (850ml) stoc llysiau
¼ peint (150 ml) hufen sengl
Cennin syfi, wedi eu torri’n ddarnau fel addurn
Pupur a halen

> Torrwch y tatws yn dafelli gweddol drwchus. Tociwch y cennin, a’u torri’n gylchoedd tenau.

> Toddwch y menyn mewn sosban addas i ddal yr holl gynhwysion; ychwanegwch y cennin a’r nionyn gan eu goginio’n ysgafn - heb iddynt droi’n frown – am 5 munud. Ychwanegwch y tatws, a choginio am 3 munud arall.

> Tywalltwch y stoc dros y llysiau yn y sosban gan ddod a’r cyfan i’r berw. Rhowch gaead ar y sosban, ac yna mud-ferwi’r cyfan am 20-30 munud. Gadewch iddo led-oeri.

> Hylifwch y trwyth yn llyfn.

> Ail dwymwch y cawl, heb adael iddo ferwi’n wyllt, a cymysgwch i mewn y pupur, halen a hufen.

Wedi ei roi mewn powlenni i’w weini gwasgarch ddarnau o gennin syfi ar wyneb pob un.

Awgrym: Am lai fyth o galoriau, cyfnewid yr hufen am iogwrt. Gwybdoaeth maeth: 240 o galoriau ymhob powlen. Isel mewn brasder. Ffynhonnell dda o Fitamin C.