glyndanz@hotmail.co.uk
07731605557
Ar ôl trafod, gallwch yrru eich hysbyseb trwy ebost (fel ffeil .doc neu .jpeg neu .pdf) at olygydd y mis, neu ar bapur i gael ei deipio. Cyhoeddir LLafar Bro mewn lliw llawn. Gadewch i ni wybod os ydi'n well gennych hysbyseb mewn du a gwyn. Peidiwch a gyrru hysbysebion yn uniongyrchol at y wasg os gwelwch yn dda!
Mae dyddiad cau y rhifyn nesaf yn cael ei argraffu ar glawr pob rhifyn, ac ar dudalen 'Dyddiadau ac ati' ar y wefan yma.

Polisi Llafar Bro yw cynnwys hysbysebion Cymraeg yn unig.
Ni fyddwn yn cynnwys hysbysebion Saesneg na dwyieithog.
HYSBYSEBION
-prisiau ar gyfer hysbysebion sefydlog yn 2025:
A lled colofn* x 4cm £8 y mis
B lled colofn x 6cm £10 y mis
C lled colofn x 9cm £11 y mis
CH lled dwy golofn x 6cm £16 y mis
CHWARTER TUDALEN- £40 y mis. Dim ond 6 gofod sydd ar gael mewn rhifyn.
CYSYLLTWCH am brisiau hysbysebion untro neu achlysurol.
* mae tair colofn ar y dudalen, tua 65mm yr un.
# cynnwys taflen efo'r papur £40
Cysylltwch efo'r ysgrifennydd yn yr achos yma.
CHI sydd yn gyfrifol am argraffu a danfon y daflen atom (800 copi).
NODDI RHIFYN
Mae cyfle arall gwych i hyrwyddo'ch cwmni, a hynny trwy noddi rhifyn -gweler enghraifft Elusen Freeman Evans, yn rhifyn Ebrill 2020.
Am £300 mi gewch chi roi enw a manylion cyswllt eich cwmni/cymdeithas ar
waelod y dudalen flaen, a gallwn weithio efo chi os hoffech, i gynnwys erthygl a llun (dim mwy na hanner tudalen) am eich gweithgareddau yn lleol oddi
mewn. Rhaid iddi fod yn erthygl berthnasol i ddarllenwyr Bro Ffestiniog ac nid yn ddatganiad generig i'r wasg.
Er ein bod yn ffafrio erthygl, gallwch ddewis -os hoffech- roi hysbyseb yn hytrach nag ysgrif. Dyma'r unig ffordd o gael gofod hysbysebu mwy na'r arfer yn Llafar Bro.
----
Mae Llafar Bro yn falch o gefnogi busnesau lleol trwy gynnig
cyfraddau rhesymol iawn am hysbysebu o fewn ein cloriau. Rydym hefyd yn
ddiolchgar am bob cefnogaeth gan ein hysbysebwyr.
Ar
yr un pryd rydym yn ymwybodol bod cyfyngiad ar faint o dudalennau y
gallwn eu hargraffu bob mis (costau argraffu, a chostau postio, ac ati),
ac felly mae'n rhaid i ni daro cydbwysedd rhag llenwi pob tudalen efo
hysbysebion a gorfod hepgor newyddion ac erthyglau.

Diolch am eich cefnogaeth.