26.9.19

Tîm sy'n dod o'r graig

Apêl am ‘gefnogaeth’ gan lywydd Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau
Heb os rwy’n tybio fod pawb yn y Blaenau a’r cylch wedi clwad am dymor llwyddianus CP yr Amaturiaid cyn yr haf – nid yn unig wedi gorffen y tymor yn yr ail safle yn y gynghrair, ond hefyd yn ennill dyrchafiad haeddianol i’r Adran Gyntaf.

Ma’ hi fel ‘stalwm yn y dref! Ysbrydion Wil ‘bach’ a Dei Dw, Crymei a Tibbott ac Ishmael yn cyd-gerdded y strydoedd, i gyd yn trafod pêl-droed, ac yn awyddus i gael gair tawel yng nghlust Ceri (Roberts) y rheolwr er mwyn dymuno’n dda iddo fo a’r hogia!

Ymlaen a ni! Ewch i’n tudalen Gweplyfr/Facebook am fanylion y gemau sy'n dod.

Gan fod yr Amaturiaid wedi codi i gynghrair uwch, mae’n orfodaeth arnom i wneud cryn dipyn o wellianau i Gae Clyd, gwaith sydd yn hynod gostus. Mae Cyngor Tref Ffestiniog a nifer o gwmniau busnes y dref eisioes wedi bod yn hynod o hael gyda rhoddion arianol caredig tuag at y gwellianau sydd yn yr arfaeth. Dewch draw i weld gêm ac i weld y gwelliannau hefyd.

Cae Clyd: cae pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru? Llun- Paul W. Awst 2019
Hoffwn ar ran yr Amaturiaid i apelio, nid yn unig am gefnogaeth byddarol o gwmpas Cae Clyd, ond hefyd mewn rhoddion ariannol er parhad y clwb. Felly os yn berchen cwmni busnas, yn gefnogwr brwd, yn aelod o glwb neu asinataeth ac yn awyddus i rhoi cefnogaeth, dowch i gysylltiad hefo swyddogion y clwb ar unwaith.

Clwb Pêl-droed trigolion tref Blaenau Ffestiniog a’r cylch ydi’r Amaturiaid ac felly fe fydd eich cefnogaeth chi yn gymorth gwerth chweil i’w lwyddiant yn ystod y tymor nesaf ac i’r dyfodol.
Diolch yn fawr.
Mici Plwm

Tymor 2019-20
Mae'r tymor newydd wedi hen gychwyn bellach. Pob lwc i’r hogia yn Adran 1 y gynghrair undebol. Dyma drydedd haen pêl-droed yng Nghymru, ac mae’r Chwarelwyr yn amlwg yn anelu at ddringo’n uwch eto yn y dyfodol.

Mae llawer o’r hogiau lleol oedd yn chwarae i dimau eraill y tymor d’wytha wedi arwyddo i Stiniog eleni, a’r dyfodol yn gyffrous iawn! Cofiwch gefnogi ar Gae Clyd eto eleni, neu ymunwch yn yr hwyl os na fuoch chi ers talwm.

Torf Cae Clyd oedd yr uchaf yn y gynghrair y tymor dwytha, ac mae’r tîm yn gwerthfawrogi’n fawr pan mae cefnogaeth dda yn troi allan i’w hannog.

Mae Gwefan Llafar Bro yn falch o noddi un o'r chwaraewyr eto eleni. Amdani Bryn Humphreys!


Prosiect Barddoniaeth a Phêl-droed Ysgol y Moelwyn
Bydd cerddi gan gefnogwyr ifanc Clwb Pêl-droed y Blaenau yn cael eu gosod o amgylch Cae Clyd yn fuan. Fe gyfansoddwyd y cerddi gan fechgyn blwyddyn 10 Ysgol y Moelwyn mewn gweithdai barddoniaeth gyda Rhys Iorwerth a Dewi Prysor yn ddiweddar.

Roedd y prosiect yn rhan o gynllun Llên Pawb, Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fe luniodd y bechgyn naw cerdd fer i gyd, yn eu mysg mae cerddi sy’n trafod y cae, y chwaraewyr, y cefnogwyr, y gelynion ac hefyd athro’r hogia a rheolwr y tîm, Ceri ‘Yeboah’ Roberts.


Dywedodd Dewi Prysor am y profiad:
"Bu'r gweithdai yn bleser pur, gyda chriw da o ddisgyblion ffraeth, hyderus a chreadigol oedd yn hawdd i weithio efo nhw. Roedd eu balchder yn eu bro, eu cymuned a'r clwb pêl-droed lleol yn amlwg, ac rwy'n gwbl argyhoeddiedig fod y cyfuniad o bêl-droed a chreu cerddi, wedi tanio diddordeb mewn barddoniaeth ynddynt."
Dyma flas o’r cerddi – fe gewch chi weld y casgliad cyflawn yn harddu Cae Clyd os ewch chi draw yno i gefnogi’r tîm!

Y Chwarelwyr
Tîm o Gymry Cymraeg i gyd
Fel y gymuned – dani yma o hyd;
Tîm ydan ni sy’n dod o’r graig,
Ni di’r chwarelwyr sydd â chalon draig.

Cae Clyd
Rhwng y Manod a’r Moelwyn mae fel carped hardd,
Y maes y mae Bynsan yn ei drin fel gardd,
Dyma ail adra pob chwaraewr ac ultra,
Fan hyn mae’r panads yn mega.
Hwn ydi’r cae sy’n werth y byd,
Hwn dani’n nabod fel Cae Clyd.

--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2019


22.9.19

Cyfres 'Gwaith' 2019

Dechrau da yw hanner y gwaith
Cyfnod o ddod yn ôl at waith ydi mis Medi i nifer:  rhifyn newydd o Llafar Bro ar ôl yr hoe arferol ym mis Awst; yr ysgolion yn agor am dymor newydd; y gwleidyddion yn ôl yn y Senedd ac yn San Steffan (ddweda’i ddim mwy am hynny!); a llawer yn dychwelyd i’w swyddi ar ôl ychydig o wyliau.

Y wawr o inclên y Greigddu, gan Helen McAteer, un o ffotograffwyr nodwedd rhifyn Medi 2019
Wnes i ddim mwynhau dychwelyd i ‘ngwaith 9 tan 5 fel gwas cyflog, ond dwi wedi cael modd i fyw ar y llaw arall, wrth olygu rhifyn Medi. Os ydi rhywun angen cymwynas, y peth callaf i’w wneud yn aml iawn ydi gofyn i berson prysur! Unwaith eto eleni, dwi’n falch o gyflwyno rhifyn Medi sy’n llawn dop o erthyglau difyr, gan gynnwys saith gan awduron gwadd -caredigion prysur i gyd, o feysydd gwahanol iawn -o fyd y celfyddydau i fentrau cymunedol, a’r byd academaidd- sydd wedi cytuno i gyfansoddi ysgrif i’w papur bro.

Fel bob mis Medi, mae thema arbennig yn rhedeg trwy llawer o’r erthyglau yn y rhifyn hwn; thema sy’n adlewyrchu rhyw elfen sy’n ddylanwadol ar fywyd yng nghylch Llafar Bro. Cafwyd DŴR fel thema y llynedd, a MYNYDD cyn hynny.

GWAITH sydd dan sylw y tro hwn.

Mae gwaith a mentergarwch yn holl bwysig i gynnal cymuned fyw, lle gall bobl ifanc aros yn eu milltir sgwâr os ydynt yn dymuno gwneud hynny; lle gall gyplau ifanc fforddio i brynu tŷ; a lle medr pobl gyfrannu rhywbeth yn ôl i’r gymuned sydd wedi eu ffurfio nhw, boed hynny trwy waith gwirfoddol, gweithredu ar bwyllgor, neu gynrychioli’r ardal mewn chwaraeon, celf, neu lenyddiaeth.
Mae gwaith a chyflogaeth yn allweddol at les unrhyw gymuned ac at gynnal balchder bro.

Yn rhifyn Medi, mae Dewi Lake yn ystyried y sgiliau mae pobl ifanc eu hangen wrth baratoi at fyd gwaith, a Llio Davies yn edrych ymlaen at yrfa yn y byd celf. Allfudo –pobl ifanc yn gadael eu milltir sgwâr- ydi pwnc Lowri Cunnington Wynne ac Elin Roberts. Mae Elin Hywel a’r Dref Werdd yn adrodd ar waith gwerthfawr y mentrau cymdeithasol a’r hyn y gall gymunedau wneud drostyn nhw eu hunain, ac mae dau a fagwyd yn Stiniog, sydd bellach yn gwneud eu marc yn y byd actio a dylunio cartŵns, sef Gwyn Vaughan Jones a Mal Humphreys, yn ystyried dylanwad eu magwraeth yma ar eu gwaith.
------------------------------

Addasiad o golofn olygyddol rhifyn Medi 2019.
Brysiwch allan i 'nôl eich copi!


18.9.19

Gwell Enw Da Na Chyfoeth

Hynod ddifyr, ond cymleth weithiau hefyd, ydi hen enwau lleoedd yn’de. Tua’r un adeg a stŵr newid enw Llechwedd, rhoddwyd erthygl o’r archif ar y wefan yn trafod enw Bwlch Gorddinan. Yn ei golofn Stolpia, yn rhifynnau Mai a Gorffennaf 1998, roedd Steffan ab Owain yn holi sut cafodd y bwlch yr enw ‘Crimea’.

Yr awgrym oedd bod y nafis oedd yn gweithio ar y twnel mawr yn galw’r dafarn ar ben y bwlch bryd hynny yn Crimea –ar ôl rhyfel y Crimea (1854-56)- oherwydd yr holl gwffio oedd yn digwydd yno!


Safle tafarn y Crimea. Ychydig iawn o olion sydd yno bellach. Llun- Paul W, Mehefin 2019
Dywed Steff mae’r Llywelyn Arms oedd enw’r dafarn a’i fod yn ddirgelwch iddo sut oedd y ddau enw mewn defnydd.

Mi gododd hyn dipyn o chwilen yn fy mhen i fynd i chwilota ar-lein, efo’r faintais fodern ei bod cymaint haws canfod gwybodaeth ar y we rwan nag oedd hi ym 1998, ac efo cymorth Vivian Parry Williams, dyma ddaeth i'r golwg ym manylion y cyfrifiadau'r gorffennol:

Does dim son am y dafarn yng nghyfrifiad 1851, ond tydi hynny ddim yn syndod; fel dywed Steffan dim ond yn 1852 gorffenwyd adeiladu’r ffordd dros y bwlch.

Erbyn cyfrifiad 1861 roedd cofnod o dan ardal ddeheuol plwyf Dolwyddelan, am deulu o naw yn byw yn y Llywelyn Arms:  Robert Williams, y pen teulu wedi’i nodi yn ‘Publican’, ei wraig Ann, pump o ferched a dau fab, efo’r ‘fenga -Robert- yn ddyflwydd.

Ddegawd wedyn yng Nghyfrifiad 1871, tydi o ddim yn dafarn mae’n debyg. Enw’r lle erbyn hynny ydi Pen-y-bwlch, efo’r teulu Penny yn preswylio yno efo morwyn a lojiwr. Y pen teulu oedd William Penny, chwarelwr, a William ydi enw un o’r meibion hefyd, yn labrwr 24 oed. 

Daeth newid eto yn 1881, efo’r cyfrifiad yn cofnodi’r lle fel y Crimea Hotel. John Roberts ydi’r ‘Hotel Keeper’, ond roedd William Penny y labrwr yn byw yno o hyd.

O symud oddi wrth fanylion y cyfrifiad at wefan hynod werthfawr ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, mae cofnod yn y North Wales Chronicle o 17 Medi 1881 -‘mond ‘chydig fisoedd ar ôl y cyfrifiad- ac  mae pethau wedi mynd yn fler yno!

Dywed y papur, o dan bennawd ‘Petty Sessions’, bod y llys wedi gwrthod adnewyddu trwydded y dafarn oherwydd gwrthwynebiad gan Inspector Williams a Deputy Chief Constable Hughes! Yn ddigon rhyfedd, mae’r papur yn galw’r lle yn ‘Prince Llewelyn Inn’ ond yr un lle sydd dan sylw heb os, oherwydd mae’r adroddiad yn mynd yn ei flaen i awgrymu fod perchennog chwarel gyfagos Llechwedd eisiau gweld y lle yn cau:
“Mr Greaves, one of the licensing justices, gave the house an indifferent character, and was of the opinion that there was no necessity for it, seeing that the line to Ffestiniog was now completed”. 
Diolch i Bill a Mary Jones hefyd am dynnu sylw bod papur Baner ac Amserau Cymru, ar 24 Medi 1881 yn adrodd am atal y drwydded hefyd, gan ddisgrifio’r lle fel
Gwestty Llewelyn Arms, Bwlch Gorddunant, tafarn a elwir yn iaith y wlad –iaith lysenwol y werin-bobl- ‘Crimea’...ar ben y mynydd; lle hollol ddi-nod” 
...ac yn son am chwarelwyr yn gwario eu cyflog yno, meddwi, a methu mynd adref! “Y mae wedi bod yn agored am o saith i wyth mlynedd ar hugain. Cauir ef ar ôl y 10fed o Hydref".

Mae’r un papur yn adrodd ar 29 Hydref fod apêl o flaen y llys ond bod pobl Dolwyddelan wedi cyflwyno deiseb a 500 enw yn galw am beidio ail-drwyddedu’r dafarn. Roedd hynny’n ddigon i roi diwedd ar y lle mae’n debyg.

Tydi o ddim yn ymddangos ar gyfrifiad 1891, o dan unrhyw enw!

PW


Darn o getyn glai a ganfyddwyd ar y safle gan Bill a Mary Jones, efo shamrock a'r geiriau 'HOME RULE' yn dystiolaeth bod nafis Gwyddelig wedi mynychu’r lle yn ystod tyllu’r twnel mawr.
------------------------------------


Addasiad o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2019


9.9.19

Annibyniaeth!

Roedd llawer o bobol Bro Ffestiniog yn y drydedd rali annibyniaeth ym Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn cyntaf Medi; mae rhywbeth cyffrous ar droed gyfeillion! Dyma addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn haf 2019.

Llongyfarchiadau i gynghorwyr blaengar Cyngor Tref Ffestiniog ar eu datganiad yng nghyfarfod Mehefin 2019 yn cefnogi annibyniaeth i Gymru. Roedd yr is-gadeirydd Erwyn Jones wedi cynnig fel hyn:
“Yn sgîl y rali diweddar yn ein prif-ddinas, gyda miloedd yn gorymdeithio dros annibyniaeth i’n gwlad, a’r orymdaith sydd wedi ei threfnu yng Nghaernarfon yng Ngorffennaf; Galwaf ar Gyngor Tref Ffestiniog i gefnogi’r ymgyrch a’r nôd dros Annibyniaeth i Gymru!”
Fe gefnogwyd yn unfrydol! Ffestiniog oedd y trydydd cyngor tref i ddatgan cefnogaeth -ar ôl Machynlleth a Phorthmadog-  mewn rhes hir o drefi, cymunedau a sir Gwynedd a wnaeth hynny wedyn. Mae’n gwneud rhywun yn falch o fyw yma tydi.

Mae posib bod y cyngor lleol wedi bod yn gefnogol i hunanlywodraeth yn y gorffennol hefyd: Fedrwn ni gymryd yn ganiataol fod Cyngor Dinesig Ffestiniog yn gefnogol ym 1950? Fe welwch yn y llun yma* o Rali Senedd i Gymru ym 1950, fod baner ar draws Stryd Fawr y Blaenau, o adeilad y cyngor yn dweud:

“SENEDD I GYMRU O FEWN 5 MLYNEDD”.

* Ymddangosodd y llun yn y gyfrol ‘Bro a Bywyd Gwynfor Evans’ (Gol. Peter H Griffiths) Cyhoeddiadau Barddas 2008.

Mi gymrodd dipyn mwy na 5 mlynedd i gael rhyw fesur o ddatganoli, ond mae’r galw am reoli ein tynged ein hunain yn cryfhau yn arw rwan. Os ydych yn cofio amgylchiadau rali 1950, neu wedi clywed yr hanes gan eich teulu, gyrrwch air!

Roedd dros wyth mil o bobol yn cefnogi’r alwad am annibyniaeth i Gymru mewn rali genedlaethol arall yng Nghaernarfon yng Ngorffennaf, a 5200 yn y diweddaraf ym Merthyr.

Bu criw bach o wirfoddolwyr yn dosbarthu taflenni yn y Blaenau, Llan a Thrawsfynydd dros yr haf. Os na chawsoch chi daflen, galwch i Siop Antur Stiniog i nôl copi, neu ewch i dudalen Gweplyfr/Facebook ‘Yes Cymru Bro Ffestiniog’.

Dyma luniau rhai o bobol Bro Stiniog fu yn y rali gyntaf yng Nghaerdydd ym mis Mai.

Ymlaen!

4.9.19

Trafod Tictacs -Jess Kavanagh

Colofn achlysurol yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog. Y tro yma, mi fuon ni’n holi Jess Kavanagh, asgellwr tîm rygbi merched Cymru. (Ers i'r gwreiddiol ymddangos yn Llafar Bro, mae Jess wedi cael swydd newydd efo Undeb Rygbi Cymru yn hybu rygbi merched yn y gogledd. Pob lwc eleni Jess.)


Rho ychydig o dy hanes yn y byd rygbi hyd yma.
Nesi ddechra‘r siwrna ym Mlaenau Ffestiniog, Clwb Rygbi Bro Ffestiniog!
Yna ymlaen i chwarae i glwb rygbi Dolgellau gan bod tîm y merched yn y Blaenau wedi tynnu allan o’r gynghrair.  Ar ôl  blwyddyn yn fanno cefais dreialon i’r Scarlets a chael fy ngweld gan dîm Cymru dan ugain a’u cynrychioli ddwy waith. Yn anffodus cefais annaf eithaf drwg i’m mhen-glin felly allan o rygbi am flwyddyn a hanner ar ôl dwy lawdriniaeth.

Pan oedd hi yn amser dod yn ôl, oedd rhaid newid clwb unwaith eto! Clwb Rygbi Caernarfon y tro hwn!  Cael fy ngweld gan y Scarlets eto a dechreuais chwarae rygbi saith bob ochor. Cefais wahoddiad i dîm saith bob ochor Cymru yn 2015 a dyma lle dechreuodd yr holl drafeilio lawr yr A470!!  Ac ambell drip dramor: Rwsia, Dubai, Yr Iseldiroedd...


Yn 2016 cefais fy nghap cyntaf yn erbyn yr Eidal yn ystod y Chwe Gwlad. Dwi wedi cystadlu mewn Cwpan y Byd yn 2017 ac hefyd wedi bod yn rhan o 4 cystadleuaeth Chwe Gwlad. Fues i yn y tîm merched cyntaf Cymru i gystadlu ar y “World Series Circuit” ym Mharis yn 2018. Ac hefyd dwi wedi bod yn rhan o garfan cyntaf merched RGC yn 2017 ac yn edrych ymlaen i barhau i fod yn rhan ohono ac i ddatblygu gêm y merched yn y gogledd.

Be ydi’r cynlluniau at y tymor nesa, a sut mae mynd ati i baratoi?
Dydi ymarfer i fi byth yn stopio! Byddaf yn mynychu’r gym ddwywaith neu dair yr wythnos i neud sesiwn codi pwysau ac yn cadw i fyny hefo ffitrwydd yn wythnosol.  Dwi wedi dechrau ymarfer “pre-season” hefo RGC a bydd y gemau yn cael eu chwarae drwy mis Awst. Yna mi fyddai yn symud yn ôl i chwarae hefo clwb (heb arwyddo i neb eto. Mae dau opsiwn genai ac angen penderfynu).
Diwedd mis Medi byddwn yn mynd yn ôl i ymarfer efo Cymru i baratoi am gemau rhyngwladol yr hydref.

Wyt ti’n dal yn awyddus i gystadlu yn y gêm saith-bob-ochor hefyd? Be sydd ar y gweill?
Dwi’n awyddus iawn i chwarae dros fy ngwlad bob amser sydd yn bosib.
Cefais fy newis i chwarae saith bob ochor ym mis Ebrill: Yr Iseldiroedd oedd y gystadleuaeth cyntaf ac yn anffodus colli yn y gemau cyn derfynnol yn erbyn tîm o Awstralia.

Yn anffodus roedd rhaid i mi rhoi stop ar ymarfer a chwarae oherwydd roedd trio gwneud popeth (gweithio 37 awr yr wythnos; ymarfer yng Nghaerdydd ddwywaith yr wythnos ac adref x3, a chael amser efo teulu a ffrindia) yn ormod i mi. Roedd gwneud y penderfyniad yn un anodd iawn. Mae cael chwarae dros fy ngwlad yn meddwl y byd i mi, ond er lles fy hun mae cymryd amser i ffwrdd yn gwneud lles weithia.

Mae proffil rygbi merched wedi codi’n aruthrol yn y flwyddyn neu ddwy ddwytha, pa mor bwysig ydi cael sylw gan y cyfryngau a chefnogaeth dda gan gefnogwyr yn ystod gemau?
Mae’n grêt bod gêm y merched yn cael bach fwy o sylw. Mae’r merched i gyd yn gweithio’n galed iawn i gyrraedd y safon uchaf posib. Ac hefyd yn gweithio llawn amser/rhan amser neu yn astudio yn y coleg.

Trwy gael cefnogaeth gan y cefnogwyr, dyma sydd yn helpu symud y gêm ymlaen.  Trwy godi ymwybyddiaeth y gêm, mae fwy o ferched ifanc yn cymryd rhan yn y gêm sydd yn golygu fwy o gystadleuthau ac hefyd yn golygu safon gwell. Gan obeithio mewn bach o flynyddoedd bydd gêm y merched yn Nghymru hefyd yn gallu bod yn broffesiynol. Bydd hyn yn gwella perfformiad y gêm oherwydd bydd fwy o amser cyswllt i ymarfer fel sgwad ac hefyd amser ymadfer sydd hefyd yn bwysig iawn. Ar hyn o bryd fy amser ymadfer i ydi teithio fyny ac i lawr yr A470!

O ran y gêm gymunedol, a dyfodol clybiau lleol fel Bro Ffestiniog, pa mor bwysig ydi datblygu rygbi ym mhob oedran ymysg merched? Sut mae dy waith di fel swyddog datblygu yn plethu i mewn i hyn? 


Fedrai ddim pwysleisio pa mor bwysig i’r clybiau ydi hyn. Ia i gêm y merched, ond hefyd i’r bechgyn. Mae swyddog datblygu rygbi yn cael ei gyflogi gan URC i’r clwb ac hefyd ysgolion y fro. Mae hyn yn gyfle gwych i ddisgyblion gael blas o chwarae’r gêm. Mae wedi gwneud gwahaniaeth o fewn y flwyddyn, ac mae’r gwaith mae o yn ei wneud yn arbennig. Hefyd mae Cerys & Leigh yn neud lot o waith cymunedol hefo’r merched (Gwylliaid Meirionydd) mae’r merched wedi cael nifer o brofiadau oherwydd y ddwy yma. Mae angen fwy o bobl i wirfoddoli er mwyn i ddisgyblion y fro cael profiadau.


O ran rygbi, dwi’n cyd-weithio hefo URC ac yn mynychu digwyddiadau o amgylch gogledd Cymru ac ambell un yn y de. Dwi’n trio neud gwahaniaeth, a rhoi cyfleoedd gwahanol i blant a phobl ifanc.

Mae’r sesiynau hyfforddi merched yn yr oedrannau iau a ieuenctid i’w weld yn ffynnu yn lleol, wyt ti’n meddwl bod digon o dalent a diddordeb yma i gynnal tîm merched eto yn y dyfodol?
Mae’n grêt i weld y merched yn cael y siawns i ymarfer rygbi mor ifanc. A dwi’n gobeithio fydden nhw dal i gario ymlaen am flynyddoedd i ddod...

Dyna ydi un o fy mreuddwydion, cael gorffan fy ngyrfa rygbi yma yn Bro Ffestiniog. Nesi ddechrau yma 14 o flynyddoedd yn ôl. Felly daliwch ati ferched gan obeithio nai’i neud hi i mewn i’r garfan mewn ychydyg o flynyddoedd!!

Pwy yn y byd rygbi –yn chwaraewyr neu’n hyfforddwyr- ydi dy arwyr di?
Mae’r cwestiwn yma’n codi’n aml, does dim un person sydd yn sefyll allan i mi. Ond mae nifer o unigolion sydd wedi helpu fi gyrraedd lle ydwi heddiw. Teulu a ffrindia; hyfforddwyr a chwaraewr gwahanol yn ystod y blynyddoedd. Felly mae’n anodd dewis un person.

Oes gen’ ti uchelgais i hyfforddi ar y lefal uchaf yn y dyfodol?
Hyfforddi... Dwi heb feddwl mor bell ymlaen a hyn! Dwi dal i fwynhau chwarae felly gobeithio cael gwneud am rai blynyddoedd i ddod.
Dwi’n hyfforddi o ddydd i ddydd hefo gwaith ac hefyd yn gwirfoddoli hefo clusters yr URC. Cymryd rhan yw’r nod a chael hwyl felly mae’n hollol wahanol i hyfforddi ar lefel uchel.

Diolch Jess. Mae Llafar Bro yn falch iawn o dy lwyddiant. Pob lwc yn y dyfodol.   PW
------------------------------------


Ymddangosodd fersiwn fyrrach o'r uchod yn rhifyn Gorffennaf 2019.
Cofiwch am y cyfweliadau eraill yn y gyfres. Cliciwch ar ddolen Trafod Tictacs.
(Rhaid dewis 'view web version' os yn darllen ar ffôn)