25.2.13

Ein gwadu a wnaethant..

Chwarae teg i Gyngor Iechyd Cymunedol ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda am gyfeirio'r cynlluniau heno at winidog iechyd Cymru, yn wahanol i'r yes-men llwfr yn y gogledd.
Cerddodd dros fil o bobl eto ddydd Sadwrn -yn Llandudno y tro hwn- i wrthwynebu camweinyddu cywilyddus Bwrdd Afiach Betsi Cadwaladr, a chriw da yno i gynrychioli ymgyrch Ysbyty Coffa Ffestiniog.


Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan y Pigwr i'w ddweud yn rhifyn Chwefror. Ewch i brynu'r papur i ddarllen yr erthygl yn llawn.

"gwybod pris pob dim, ond yn gwybod dim am werthoedd"

Digalondid mawr ddaeth dros ardal gyfan, ac ymhellach, wrth glywed am benderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog. Er holl wrthwynebiad a phrotestiadau trigolion y fro, dewis i gau'r ysbyty wnaeth y garfan unllygeidiog a benodwyd i ddeddfu'r gosb eitha' arni.  Tybed beth fyddai barn y sosialydd mawr, Aneurin Bevan, wrth weld ei ddelfryd o Wasanaeth Iechyd cryf yn brysur ddadfeilio? Beth ddywedai hefyd o'r ddedfryd o'r gosb eithaf a basiwyd ar ein hysbyty gan y criw annymunol hwn, dan arweiniad un sy'n honni bod yn sosialydd? Beth hefyd ddywedai Gwynfor Evans o ddiffyg cefnogaeth ein cynrychiolydd yn y Senedd yng Nghaerdydd i'r ymgyrch i gadw'r ysbyty ar agor? Siawns y dylai hwn o bawb sylweddoli mai hoelen olaf yn arch tref werinol, Gymraeg fel y Blaenau fydd hyn. Siawns hefyd nad yw'n barod i gydnabod mai cefnogaeth cenedlaetholwyr Blaenau Ffestiniog fu'n gyfrifol iddo gael ei ethol fel aelod Seneddol/Cynulliad ers 1974, ac fel aelod sydd i fod i gynrychioli a chefnogi'r etholwyr mewn awr o argyfwng. 

Llun- Dail y Post



Mae'n ganmlwyddiant, y flwyddyn nesaf, ers cychwyn y rhyfel mwyaf erchyll a welodd y byd erioed, ac Ysbyty Coffa Ffestiniog wedi ei chodi gyda chefnogaeth arian prin chwarelwyr tlawd y 1920au, er cof am fechgyn ifainc y cylch a laddwyd yn y rhyfel. Onid yw'r penderfyniad i gau'r ysbyty yn sarhad i goffa'r 363 o filwyr y Rhyfel Mawr, a'r 54 o'r ail Ryfel Byd, o'r cylchoedd hyn, a aberthodd eu bywydau er mwyn i ni, drigolion yr oes hon gael byw ein bywydau mewn cymharol heddwch?  Rhag cywilydd i Myrfyn Jones a'i griw o gynffonwyr, wrth iddynt gydnabod gwerth y bunt yn hytrach na gwerthoedd iechyd a chymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog a'r fro.



20.2.13

Pytiau Chwefror 2013

Dyma bytiau allan o rifyn Chwefror. Gallwch ddarllen y cyfan yn y papur.

Cofiwch: dim ond 40 ceiniog ydi Llafar Bro, ac mae tanysgrifio yn rhad iawn hefyd i'r rhai sydd wedi gadael y fro. Gallwch roi cyfarchion ac atgofion am ddim ynddo, cysylltu efo hen gyfeillion, holi hanes teuluoedd a gyrru hen luniau i gael enwau cyd-ddisgyblion a chydweithwyr anghofiedig.

Lle arall gewch chi'r fath werth am eich pres?!



Sefydlu busnes o’r newydd, er gwaetha’r lladron
Mae gweld un o siopau’r dref yn cael ei hagor o’r newydd yn destun llawenydd bob amser, yn arbennig felly os mai un o ienctid yr ardal sy’n mentro. A dyna ddigwyddodd yn Siop y Gainsboro ym mis Tachwedd llynedd pan fentrodd Llinos Roberts, un o ferched ifanc lleol, i gychwyn ei busnes ei hun, yn gwerthu dillad merched a phlant.  ‘Pob lwc iddi!’ oedd barn pawb. Pawb ond y lladron diegwyddor hynny sydd bob amser yn meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i roi eu dwylo blewog ar eiddo rhywun arall.
Byddai rhai gwanach na hi wedi anobeithio a rhoi’r ffidil yn y to yn y fan a’r lle, ond fe fentrodd y ferch ifanc hon o’r newydd i fuddsoddi mewn rhagor o nwyddau ac erbyn heddiw mae TŶ FFASIWN wedi sefydlu ei hun ar y Stryd Fawr. Dymunwn bob lwc i’r fenter. Mae Llinos yn ei haeddu ac yn haeddu cefnogaeth y dref.

Ysgol y Moelwyn
Tymor Olaf Blwyddyn 11: Am bedair mlynedd a hanner mae Blwyddyn 11 wedi bod yn galon i fywyd yr ysgol, ond mae’r amser yn dod iddynt gymryd eu harholiadau terfynol a symud i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau. Dyma’r tymor olaf y byddant efo ni mewn gwersi, cyn y cyfnod adolygu ar ôl y Pasg, ac mae’n amser pwysig yn eu bywydau ifanc. Gyda llai na phedwar mis cyn yr arholiadau mae angen dal at y gwaith caled maent wedi ei wneud dros y blynyddoedd gyda help eu ffrindiau a’u teuluoedd. Rydym ni yn barod i roi pob cefnogaeth bosib i helpu’r disgyblion yma i gyflawni eu holl botensial a rhoi y siawns gorau i bob disgybl yn ystod yr amser pwysig yma yn eu bywydau.


                                                    Steddfod yr Urdd, Meirionnydd 2014

Mae targedau’r gronfa yn uchel a’r gwaith o godi arian yn gallu bod yn ddi-ddiolch yn aml. Pe bai ond am y rheswm hwnnw, mae’r rhai sydd wedi gwirfoddoli i weithredu ar y Pwyllgor Codi Arian yn haeddu pob clod a phob cefnogaeth y gallwn ni ei roi iddynt. Wedi’r cyfan, os yw’r Eisteddfod yn cael cefnogaeth ardaloedd di-Gymraeg mewn rhannau o ddwyrain a de Cymru, yna siawns na fedrwn ni, y Cymry Cymraeg, ddangos yr un gefnogaeth i un o’n prif wyliau cenedlaethol. 
Y newydd da yw y bydd yr Ŵyl Gyhoeddi yn cael ei chynnal yn Stiniog y tro hwn, ar Ebrill 27ain, ac y bydd hwnnw’n gyfle inni ddangos i weddill Cymru bod yr ardal yma mor gefnogol ag erioed i ienctid ein gwlad ac i’r diwylliant Cymreig.