28.6.19

Rhod y Rhigymwr -Pedwar o'r Tap yn hapus!

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan.

Wrth chwilio drwy bentwr o luniau’r diwrnod o’r blaen, deuthum ar draws dau lun a dynnwyd o Dîm Talwrn Bro Ffestiniog ym 1996.

Yn ôl y manylion ar dri thlws a dderbyniwyd, bu’r tîm yma’n bur llwyddiannus, gan ennill mewn Talyrnau a gynhaliwyd yn ‘Y Tap’, Neuadd Llan a Neuadd Rhydymain.

Tîm talwrn Bro Ffestiniog 1996

Y tu ôl i un o’r lluniau, ceir y ddau englyn canlynol gan Rhiain:

Pedwar o’r ‘Tap’ yn hapus! – Ein hawen
    Yn ieuanc a graenus;
Gu deirawr go hyderus
Uwch tasgau yn chwartiau chwŷs.

Hen westai go ddirwestol – yn cyrraedd
    Cwr y ‘pen brenhinol’,
Mwydran yn ddi-gymedrol
Ar win ffawd yr awen ffôl.

Os cofiaf yn iawn, y Parch. John Gwilym Jones oedd y ‘meuryn’ yn un o’r talyrnau – un y ‘Tap’ yn ôl pob tebyg – oherwydd ato fo y cyfeirir yn yr ail englyn. Dyddiau da!
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2019

24.6.19

Dwy gyfrol newydd a'r Rhyfel Mawr yn gefndir

ABERTH AELOD TEULU YN EGIN NOFEL NEWYDD

Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am

Meddai Geraint:
y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro. I’r awdur lleol poblogaidd arobryn Geraint V. Jones, dyma oedd egin syniad am stori, a ffrwyth ei lafur ydi’i nofel newydd Elena, a gyhoeddwyd ddechrau Ebrill eleni gan Y Lolfa.
“Chefais i erioed gyfle i adnabod tad fy mam am iddo gael ei ladd ar Gefn Pilkem, ddiwedd Gorffennaf 1917. O fewn deufis roedd fy nain yn colli brawd hefyd, yn yr un ardal. Fe gafodd fy nhaid arall, tad fy nhad, ddod adre’n fyw, ond nid yn groeniach o bell ffordd, am iddo gael ei anafu ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme. Rwy’n cofio mai tawedog iawn oedd o pan fyddwn i’n ceisio’i holi am ei amser yn Ffrainc.”
Wrth drafod syniad ei nofel ac o le daeth y stori, ychwanega:
“Anodd egluro’n foddhaol pryd nac ymhle yn union y mae unrhyw nofel yn cychwyn gen i. Dwi’n rhyw amau mai’r ysgogiad i Elena oedd y profiad o ymweld eto, yn 2017, â bedd fy nhaid yn mynwent fechan Dragoon Camp, nepell o Ypres, ac yna teithio’r hanner milltir byr o fan ‘no at fedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood. Wrth sefyll uwchben bedd y bardd, a dwyn i gof ddwy o’i gariadon yma ym Mlaenau Ffestiniog, cam bychain wedyn oedd sylweddoli bod pob bedd yn cuddio’i stori neu’i gyfrinach ei hun.”
Mae Elena yn olrhain hanes Elin, cyfeilyddes Côr y Garn, sy’n dechrau dod o’i chragen wedi blynyddoedd o ofalu am ei mam a’i nain, ac yn cychwyn ar berthynas gyda Dewi Rhys. Wrth i’w doniau cerddorol hi ddod fwyfwy i’r amlwg, mae’r ddau yn turio’n ddyfnach i gefndir ei theulu yn ardal Tregarnedd. Mae hen gysylltiadau cudd ei thylwyth â llofruddiaeth arswydus fu ar gyrion y dref adeg y Rhyfel Mawr yn mynnu dod i olau dydd.
“Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd mae pob un ohonom yn gaeth i’w orffennol a dydi Elin Puw, prif gymeriad y nofel yma, ddim yn eithriad yn hynny o beth.”
Llun Alwyn Jones
Mae Geraint wedi cyhoeddi dros ddeg nofel Gymraeg ac un Saesneg, yn ogystal â nifer o nofelau byrion i blant a phobl ifanc. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith. Fel y gwyddom, mae’n gyn-bennaeth yr Adran Gymraeg, Ysgol y Moelwyn.

Cynhaliwyd sesiwn lofnodi i ddathlu cyhoeddi Elena yn Siop yr Hen Bost, Blaenau.
Mae Elena gan Geraint V. Jones ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa) 312tt.

RHYWLE YN FFRAINC: 

Detholiad o Ddyddiadur Milwr yn y Rhyfel Mawr.
Tom Price. 118tt.  Gwasg Carreg Gwalch. £6.95

I Lonna Bradley, Llan Ffestiniog y mae’r diolch am sicrhau gweld y detholiad uchod o ddyddiadur ei diweddar dad, Tom Price, yn gweld golau dydd. Roedd Tom, fel nifer o’i gyfoedion a fu’n gwasanaethu yn y rhyfel erchyll honno, yn gyndyn iawn o sôn am ei brofiadau dros y cyfnod. Ond bu’r teulu’n ffodus o’i berswadio, yn ystod y 1960au, iddo gofnodi peth o’r hanes. Roedd Tom, fel ambell filwr arall, wedi cadw dyddiaduron, trwy gyfrwng y Gymreg, o’r cyfnod yr ymunodd â’r Pals Regiment yn Nhachwedd 1914.

Ac yn y gyfrol fechan ddiddorol hon cawn brofi symudiadau, profiadau a theimladau bachgen ifanc o ‘Stiniog, a’r cyfan wedi ei nodi, a’u codi o’i ddyddiaduron a gedwid mor ddeddfol ganddo. Daw’r profiadau hynny’n ôl yn fyw trwy ei ddisgrifiadau manwl yn y dyddiaduron o’r peryglon a’r erchyllterau a wynebid gan y milwyr druan rheiny. 

Gwnaeth Lonna gymwynas â haneswyr a darllenwyr heddiw, ac yfory, trwy gadw’r cofnodion gwerthfawr rheiny’n saff, a sicrhau eu gweld yn cael eu cyhoeddi. Diolch yn fawr iddi. A diolch i Tom Price am ein hatgoffa, trwy gyfrwng ei ddyddiaduron, o erchylltra a chreulondeb rhyfeloedd.

V.P.W.
-----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2019


20.6.19

Ffermydd Llyn Trawsfynydd

Adroddiad gan y diweddar Jennie Druce am y ffermydd a'r tiroedd a foddwyd i greu Llyn Trawsfynydd:

Dolgam
Roedd y Dolgam gwreiddiol i’r dde o bont y pentref, hyd nes i’r gronfa ddŵr gael ei gwneud. Eiddo'r Goetre, Ganllwyd oedd y fferm a thenantiaid oedd fy rhieni a fy nhaid, sef Richard Jones, cyn hynny.
Trigai fy rhieni, Thomas ac Ellen Jones, fy mrawd John a minnau, fy hanner chwaer Janet a’i brawd Harri yno - roedd Nel a Megan fy nwy chwaer arall wedi priodi. Cadwai fy rhieni dair buwch, dau fochyn, hanner cant o ieir a deg hwyaden. Byddai gan fy nhad injan ddyrnu, un pinc, a byddai’n mynd allan i’r ffermydd i ddyrnu fel byddai ffermwyr ers talwm.

Cof plentyn sydd gennyf o Morris y Muriau yn dod i Ddolgam a gweld yr injan ddyrnu yn barod i fynd allan. Aeth ati pan oedd fy nhad ar fin ei thanio i weld y stêm yn dod ohoni, ond pan daniodd fy nhad yr injan, dychrynodd a rhedeg adref gan sgrechian (mudan oedd Morris). Ychydig wedyn daeth ei dad, sef Emwnt Evans, acw i ddwrdio fy nhad.
Cofiaf hefyd gerdded ar hyd lan Afon Prysor gyda fy mrodyr Harri a John i chwilio am yr hwyaid a cherdded cyn belled â Bryn Hir, croesi’r bont i’r tŷ a chael paned o de a chacen a llond fy mhoced o siwgr clap i ddod adref. Cariodd Harri fi ar ei ysgwyddau bob cam adref. Roedd Jennie a’i brawd Trebor yn byw gyda’u rhieni yn Bryn Hir. Byddai Janet, Harri a Trebor yn ffrindiau, symudodd y teulu i Benmorfa pan aeth y ffarm dan y dŵr.

Llyn Traws, o'r ffridd uwchben Coed y Rhygen. Llun- Paul W
Dolwen
Roedd Dolwen i’r de o’r llyn cyn ei foddi, (lle mae’r maes parcio a’r dam yn awr). Yma roedd Richard Jones a’i wraig a’i merch Mair yn byw. Symudodd y teulu i Lanrwst. Roedd Mair yr un oed â mi.

Brynysguboriau
Disgynyddion o’r un teulu sydd yma o hyd yn ffermio. Mae’r fferm bresennol yn llai na’r gwreiddiol.
                                                   
Caeadda
Lleihawyd y fferm yma hefyd ond disgynyddion o’r un teulu sydd yma.

Ty’n Twll
John Davies a’i deulu oedd yn byw yma, ond aethant i Coed Cau Du i ffermio ac mae disgynyddion iddo yn cario'r traddodiad ymlaen.

Gwndwn
Symudodd Dafydd Davies, ei wraig a’u mab Dic i fyw at eu merch Jennie i Tŷ’n  Llyn.

Y Goppa
John Jones, ei wraig a Gwyneth, eu merch gartrefai yma. Priododd Gwyneth gyda Maldwyn Davies a ganwyd iddynt bump o blant. Mae'r teulu yn dilyn y traddodiad teuluol hyd heddiw.

Pandy’r Ddwyryd
Dau frawd a dwy chwaer oedd yn ffarmio yma. Mae rhai yn dweud y byddai dau gi wedi eu rhwymo i’r fuddai amser corddi ac yn ei throi i gorddi’r menyn. Cof sydd gennyf o weld dim ond y to yn y golwg wrth i’r dŵr grynhoi o gwmpas yr adeilad.

"Lle gynt bu corlan a phladur..." Llun- Paul W
Brynrwy
I Faentwrog aeth y teulu yma – gŵr,  gwraig, dau fab a dwy ferch.

Ty’n Ddôl
Robert Jones, ei wraig a’u mab Ted drigai yma. Symudodd y teulu i Tŷ Nant. Wedi colli ei wraig aeth y ddau i fyw i Gwylan neu Tŷ Gwyn.

Gyfynys
Symudodd y teulu yma i Lan Ffestiniog.

Islaw’r Coed
Daeth y teulu yma i Pen’rallt i fyw.

Hendre Mur a Llwyn Derw

Nid oes cof gennyf beth ddigwyddodd i’r ddau.                                                                                                              

Diddorol ydyw atgofion y diweddar Mrs Jennie Druce yn enwi’r trigolion a orfu adael eu cartrefi o achos y Llyn. Diolchwn i Mrs Margaret Jones, Ffridd Bryn Coch am ganiatâd i ddefnyddio’r nodiadau. -LD
-----------------------------------------    

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Ionawr 2019, fel rhan o gyfres 'Ffermydd Dalgylch Llafar Bro' Les Derbyshire.

[Nodyn golygyddol- Na, tydach chi ddim yn drysu; rhoddwyd hon ar y wefan nôl ym mis Mawrth, ond mae 'bot' wedi achosi trafferthion efo'r post yna, felly dwi wedi dileu fersiwn Mawrth ac ail-bostio yn fan hyn. ^PW] 

10.6.19

Atgofion Llwyncrwn

Ail bennod Gretta Catwright.

Daeth datblygiadau i’r ardal, agor y rheilffordd o’r Bala i Flaenau Ffestiniog yn 1883, trwy dir Llwyncrwn, ac yna cronni’r afon Prysor i wneud y llyn a gorsaf bŵer i greu trydan yn 1928. Pryd hynny, roedd peth o’r tir yn eiddo Stâd Wood, pryd y prynodd fy nhad y tir at Islyn a daeth ffordd newydd drwy’r tir o Drawsfynydd tua Gellilydan. Dim hon oedd yr unig ffordd drwy’r tir, un gangen o’r ffordd Rufeinig yn mynd trwodd am Penstryd, o Domen y Mur, a’r llall, Sarn Helen eto drwy gaeau Pant Selar o Domen y Mur am Gastell Prysor.

Roedd terfynau fferm Llwyncrwn yn amlwg. I’r de, afon Islyn yn llifo o waith Aur Bwlch y Llu, Doldinas (Roberts), Bwlch Gwyn (Robert Jones) i lawr am Dyddyn y Felin (Thomas Griffith) a Goppa (John Jones). Roedd Ceunant Coch yn derfyn i’r gogledd, gyda Coedcaedu (Hugh Jones a’r teulu) a’r olion Pabyddol, ac yna Tomen y Mur (Gwynfor Williams yn ffermio yn fwy diweddar). Mae'r llyn i’r gorllewin, a chofiwn enwau rai o’r ffermydd a aeth o dan y llyn a’i donnau, Bryn Rwy, Bryn Hir a Ty’n Ddôl.


Dros y ffridd i’r dwyrain roedd tyddyn Tŷ’r Mynydd lle y magwyd 13 o blant gan Tom a Lizzie Williams. Cafwyd chwarel lechi Braich Du, a chofiaf Hugh Thomas o Riwlas, Bangor a Glyn Williams yn enedigol o Lanfair, yn gweithio yna. Dod ar y bws fore Llun, lletya yn Llwyncrwn, a mynd adref ar y bws ar fore Sadwrn. Mae byngalo ar y ffordd i mewn i Harlech wedi ei doi gyda llechi o’r chwarel.

Enwau digon cyffredin oedd ar y caeau yn cynnwys Cae Lloi, Llechwedd, Cae Dan Tŷ, Cae Eithin. Roedd Ffridd Pennau Moelion lle y deuai Ned Thomas, Coed Rhygun a gweithwyr i dorri mawn. Hon yn grefft arbennig, gosod y mawn ar wyneb y ffôs a dorrwyd i’w sychu cyn eu cario a’u gosod yn drefnus yn y sied mawn yn danwydd at y gaeaf.

Tŷ fferm chwe llofft gyffredin oedd Llwyncrwn, gyda chegin fyw fawr ble roedd dwy ddresel, dau gloc mawr, cwpwrdd tridarn, setl a’r cadeiriau a byrddau arferol, y piano a’r grât gyda phopty a boiler a’r tân yn eu cynhesu. Yn y parlwr, roedd cwpwrdd gwydr ble cedwid y gwin mwyar duon, ac organ a fyddai fy nhad yn ei chwarae. Cwpwrdd cornel yn y parlwr bach a’r bwtri cefn. Pob cysur wrth olau lamp neu gannwyll, nes daeth y ‘generator’ i oleuo’r tŷ.

Diolch am gael treulio fy nyddiau cynnar ar ei aelwyd hapus a chroesawgar bob amser gyda’m teulu mewn mangre mor fendigedig a chael eu mwynhau.

Fel yr ysgrifennodd O. M. Edwards:
‘Mae i bob bryn ei hanes,
Ac i bob ardal ei hanes...’
Ac ychwanegaf innau... ‘Ei hatgofion’.
--------------------------------

Pennod 1

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2018, fel rhan o gyfres 'Ffermydd Dalgylch Llafar Bro' Les Derbyshire.

(Heb y llun, gan Paul W)

5.6.19

Llafar Bro ar Newydd Wedd

GAIR O EGLURHAD

O fis Mehefin ymlaen, bydd ein papur bro yn newid yn sylweddol, o ran diwyg a lliw. Mae’r newidiadau hyn yn anorfod oherwydd y ffordd y bydd y papur yn cael ei argraffu o hyn allan.



Y manteision                       
•    Bydd pob rhifyn o hyn ymlaen yn llawn lliw ac yn llawer mwy deniadol i’r llygad. 

•    Bydd yr argraffu yn fwy proffesiynol yr olwg ac yn gwneud gwell cyfiawnder â phob erthygl ac eitem newyddion.

•    Bydd y lluniau yn rhai a fydd yn dal sylw ac yn gofnod pwysig i’r oesoedd a ddêl (e.e. lluniau o’r ysgolion ac o’r meysydd chwarae ac yn y blaen).

•    Fydd dim angen i griwiau ddod ynghyd bob mis i blygu’r papur gan y bydd y gwaith hwnnw’n cael ei wneud gan y wasg.

Yr anfanteision
•    Bydd raid codi pris y papur, i gyfarfod cost ychwanegol yr argraffu.

Y noson blygu olaf. Cymdeithas Seren a rhai o selogion Llafar Bro
Rhaid pwysleisio nad oes gan Wasg Carreg Gwalch, na phwyllgor Llafar Bro chwaith, ddim dewis ond derbyn y sefyllfa sydd ohoni, bellach. Mae’r wasg yn gorfod buddsoddi’n drwm mewn peiriannau newydd drudfawr a bydd cost yr argraffu, oherwydd hynny, yn cynyddu’n sylweddol. O ganlyniad, ni fydd gan Llafar Bro, mwy nag unrhyw bapur bro arall sy’n dod o’r wasg honno, ddim dewis ond codi pris y papur, yn ogystal â phrisiau’r hysbysebion hefyd, yn ôl eu maint.

Edrych yn ôl
Cafodd Llafar Bro, ein hunig bapur Cymraeg lleol, ei sefydlu yn ôl yn 1975. Bryd hynny, roedd y sialens o’i roi at ei gilydd ac i’w argraffu yn llawer mwy nag ydyw erbyn heddiw. 

Ond fe ddoed i ben â hi ac fe lwyddwyd i gadw’r papur yn fyw dros y deugain mlynedd oedd i ddod, diolch nid yn unig i’r gwirfoddolwyr hynny oedd yn barod i roi o’u hamser er mwyn gwireddu’r freuddwyd ond hefyd i bobol yr ardal hon oedd mor gefnogol i’r fenter o gael papur yn ein hiaith ein hunain. 

Edrych ymlaen
Mae’r her, erbyn heddiw, yn bur wahanol. Lle bu’r gwerthiant dros y blynyddoedd yn 1,500 o leiaf bob mis, mae’r nifer hwnnw bellach wedi syrthio’n is na 1,000. Mae’r ffaith honno ynddi ei hun yn destun pryder i ni a rhaid gofyn pam, mewn ardal mor Gymreig â hon, bod peth felly’n digwydd, yn enwedig o gofio bod poblogaeth cylch Llafar Bro yn 7,000 a mwy.

Dros y blynyddoedd, bu’r pwyllgor yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gadw pris y papur mor rhesymol â phosib ond fe gawn ein gorfodi rŵan i fod yn fwy ymarferol er mwyn gallu cyfarfod y gost ychwanegol. O reidrwydd, felly, bydd raid codi pris y papur i 70c. Naill ai hynny neu, yn fuan iawn, orfod dod â’r papur i ben, a does neb am weld peth felly’n digwydd.

Mae rhai o bapurau bro eraill yr ardal yn codi hyd at £1.25 y rhifyn. Gobeithio y cytunwch fod 70 ceiniog yn dal yn fargen am newyddion, erthyglau, cyfarchion, lluniau, hanesion, a llawer mwy, ac y gallwn ni ddibynnu nid yn unig ar eich cefnogaeth chi, y ffyddloniaid, ond y cawn hefyd weld Llafar Bro, ar ei newydd wedd, yn ennill darllenwyr newydd, yn ogystal â denu’r hen rai yn ôl.

Felly, ewch ati i fynegi eich barn ac i awgrymu hefyd sut y gellid gwella ar y cynnwys bob mis, naill ai trwy e-bost, trwy Facebook, neu trwy adael llythyr neu nodyn yn Siop yr Hen Bost. Fe gaiff pob awgrym ei ystyried gan y Pwyllgor. 
-------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2019
Diolch yn fawr i Alwyn Jones am y lluniau