29.6.23

Hanes Rygbi Bro -Tymor '84-85

Crynodeb o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mai 2023

Rhan o gyfres Gwynne Williams

Gorffennaf 1984
Y pwyllgor wedi gwneud cais ffurfiol i Glwb Rygbi Bro Ffestiniog fod yn Aelodau Llawn o Undeb Rygbi Cymru (efo Cefnogaeth clwb Wrecsam).
Llifoleuadau: 7 yn gweithio. Y pyst wedi’u paentio.

Awst
20 crys wedi eu harchebu; Llifoleuadau- talu £15,499; Grantiau £7,749
Barbeciw yn y clwb; Ocsiwn- Elw o £283

Hydref
Mike, Alun, Gwilym a Glyn Jarrett (Ken Roberts yn eilydd) wedi cynrychioli’r clwb yn nhîm Meirionnydd v Caernarfon.


Torrwyd y coed o flaen Hafan Deg a phrynu 3 polyn i oleuo’r maes parcio £ 100
17eg: Gêm Agor y Llifoleuadau- Bro 15 v XV Des Treen 10

 

Ionawr 1985
Gêm Clwbiau Iau Gogledd Cymru v Clybiau Iau Pontypŵl ar Y Ddôl- (Cais gan Alun Jones) Eric Roberts a Bryan Davies yn eilyddion.
Prynu tractor a trelar; osod gwres yn y Clwb; cyfethol Jon Heath i’r pwyllgor.

Chwefror  
Gêm Gogledd Cymru v Brycheiniog ar Y Ddol; hefyd Ardaloedd y Gogledd 28 v 10  Ardaloedd y Canolbarth    

Mawrth
Gogledd 11 v Casgwent 3 -gêm gyn derfynol Cwpan Howells (Yn Delyn)
Bro 9 v Cotham Park Bryste 9

Ebrill
Bro 100 v Old Spartans Nottingham 0
Cystadleuaeth 7 Bob Ochr ar gaeau’r Ddôl.
Clybiau iau gogledd Cymru: Bro “B” yn rownd derfynol y Plât

Mai
Rownd derfynol Cwpan Howells ym Mhwllheli
Gogledd Cymru v Adran Caerdydd: Mike Smith (C), Alun Jones. Eilydd- Eric Roberts

Canlyniadau’r tymor:

Tîm 1af. Chwarae 28  Ennill 18  Cyfartal 1  Colli 9. Wedi sgorio 466/Ildio 294
2ail dîm. Ch 17  E 9  Cyf 1  C 7. 167/189
Cafwyd cinio blynyddol yn y Rhiw Goch. Chwaraewr y Flwyddyn oedd Glyn Jarrett; y chwaraewyr mwyaf addawol oedd Robert Atherton a Dewi Wyn Williams. Y ‘Clwbddyn’ oedd Pwyllgor Merched y Clwb.
Aelodaeth yn 150; Chwarae 56. 

Etholwyd: Llywydd D E Thomas / Cad Dr Boyns / Ysg Dylan / Gemau Michael / Gwasg Bryn Jones      Trys Osian / Hyff / Capt 1af Mike; 2ail Kevin / Cad Pwyllgor Tŷ  Glyn Crampton; Aelodaeth Raymond / Cae Dafydd /Eraill Derwyn Williams / Marcus Williams / Deilwyn Jones / Gwilym James. Cyf Ethol Gwynne / Jon / John Evans / Caradog ac Elfed Roberts; Adloniant Brian Jones.

Gwrthod ein cais am aelodaeth llawn wnaeth Undeb Rygbi Cymru yn anffodus.

 

25.6.23

Ymweld â'r Dref Werdd

 NEWYDDION Y DREF WERDD ...

Hanes Mabon ap Gwynfor AS yn ymweld â’r Dref Werdd -o rifyn Mai 2023
 
Ymwelodd Mabon ap Gwynfor Aelod Senedd Dwyfor-Meirionnydd â’r Dref Werdd a gwelodd yno’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yn yr ardal.  

Bu Mabon yn ymweld â'r gerddi cymunedol yn Hafan Deg, Tanygrisiau, a'r Manod; ‘Cwt Crwn’ y Llechwedd; a Banc Coed y Dref Werdd ym Mhant yr Afon. 


Sefydlodd y Dref Werdd ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog sy’n darparu mynediad cyfleus i’r gymuned, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed. Rhydd hyn wasanaethau sy’n rhoi lle diogel iddynt i’w helpu i oresgyn problemau megis iechyd meddwl, tlodi a diweithdra, a hynny drwy eu helpu i ddatblygu eu sgiliau. Bydd yr amgylchedd a chynefinoedd lleol hefyd yn cael eu gwella, gyda'r gymuned leol yn dod i ddeall eu pwysigrwydd, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli tra'n darparu cynnyrch a mynediad i wasanaethau eraill i'r gymuned gyfagos.

Bu’r Dref Werdd yn llwyddiannus y llynedd i dderbyn grant o £100,000 drwy Gronfa Gymunedol y Loteri. Trwy hynny, gallant barhau â’u gwaith amhrisiadwy yn ardal Blaenau Ffestiniog, yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â materion pwysig a chynyddol gan gynnwys iechyd meddwl, tlodi, amgylchedd, ac arwahanrwydd. 

Dywedodd Gwydion ap Wynn o’r Dref Werdd:

“Roedd yn fraint cael croesawu a chyflwyno’r prosiectau cyffrous ac amrywiol i Mabon. Mae ein gwaith yn amlwg iawn yma ym Mro Ffestiniog. Mae wedi golygu ein bod ni’n gallu cael presenoldeb cryf o fewn y cymunedau, yn ogystal â datblygu prosiectau fydd yn cael effaith hynod bositif ar drigolion ac amgylchedd yr ardal. Rydan ni’n ddiolchgar iawn iawn i chwaraewyr y Loteri am hyn.”
 
Dwedodd Mabon ap Gwynfor AS: 

“Mae bob amser yn braf ymweld â Blaenau Ffestiniog, a dydy ymweld â chriw y Dref Werdd yn ddim eithriad. Mae nhw’n griw gweithgar sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd pob dydd pobl yn y fro. Roedd cael gweld y prosiectau sydd ar waith yn sgîl ariannu’r loteri yn agoriad llygad. Yn eu helfen maent yn brosiectau syml, ond maent yn sicrhau fod pobl yn cynyddu eu sgiliau, yn gwella ansawdd bywyd naturiol y fro, ac yn cyfrannu at les eu hiechyd meddwl. Rwy’n edrych ymlaen i fynd yn ôl yma a blasu cynnyrch ffrwyth eu llafur o’r gerddi cymunedol.” 

Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

 “Mae’n werth chweil gweld y gwaith gwych mae’r Dref Werdd yn ei gynnig. Rydym yn falch bod chwaraewyr y Loteri wedi galluogi’r tîm ym Mlaenau Ffestiniog i wneud cymaint o wahaniaeth yn y gymuned yno.”
- - - - - - -

Lluniau o dudalennau Gweplyfr y Dref Werdd/Hwb Cymunedol

22.6.23

Pentymor y Gymdeithas Hanes

Fel i lawer arall wrth gwrs, bu’r tair blynedd ddiwethaf yn amser eithriadol anodd i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Collwyd yr adeilad ble yr oeddem yn arfer cynnal ein cyfarfodydd (Neuadd Sefydliad y Merched), collwyd y gofod ble yr oeddem wedi sefydlu arddangosfa o hanes lleol (yng Nghaffi Antur Stiniog) – ac yn sgìl hynny, collwyd yr incwm a arferai ddod oddi wrth ymwelwyr, ond yn bwysicach na dim, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’n cyfarfodydd yn gyfan gwbl.

Gyda chryn betruster felly, fe gychwyn’som ail-afael yn ein cyfarfodydd ym Medi 2022. Yr oeddem yn poeni faint o bobl a fyddai, unwaith eto, yn barod i ddod allan gyda’r nos i fynychu cyfarfodydd - ac yr oedd angen ‘cartref’ newydd. Yn ffodus dros ben, aeth prifathro Ysgol Maenofferen, Mr Aled Williams, allan o’i ffordd i’n cynorthwyo, gan roi defnydd o neuadd yr ysgol i ni am bris gostyngol. Fe wnaethom ninnau gadw ein pris aelodaeth yn isel iawn - £6 am y flwyddyn neu £1 y cyfarfod. Mae hyn yn eithriadol isel, gyda chyfarfodydd cyffelyb mewn ardaloedd eraill yn costio £5+ y noson.

Llun- Paul W

Gyda’n tymor bellach wedi dod i ben, braf adrodd ein bod wedi rhyfeddu at y nifer a fu’n mynychu ein cyfarfodydd (rhyw 40 i 50 bob tro). Profodd yr fenter o ail-ddechrau cyfarfod yn hynod lwyddiannus - yr ydym wedi llwyddo i gynyddu ein aelodaeth. Ond yr oedd pryder yng nghefn ein meddyliau; nid oedd y tâl aelodaeth ar y lefel hwn yn gynaliadwy. Ni fyddai ein incwm yn cyfateb i’n gwariant ac ni fyddai ein balans yn y banc yn caniatáu i ni barhau gyda hyn yn hir iawn.

Felly, fe wnaethom gais i Elusen Freeman Evans am gyfraniad tuag at barhau i weithredu yr un drefn am y dair blynedd nesaf. Pleser o’r mwyaf yw adrodd i ymddiriedolwyr yr Elusen gytuno i’n cais gan roi grant sylweddol i ni, fel y gallwn barhau i gynnig aelodaeth râd a hefyd, na fydd yn rhaid codi pris ‘Rhamant Bro’, am y dair blynedd nesaf. Hoffem ddatgan ein diolchgarwch i ymddiriedolwyr yr Elusen am eu cefnogaeth.
Gareth T. Jones  (Ysgrifennydd)


19.6.23

Trysor Siop Elusen

Tra’r oeddwn yn siop OXFAM ym Mhorthmadog yn ddiweddar, sylwais ar gwsmeriaid yn trafod eitem oedd ar werth gydag un o’r staff.  ‘Roedd y gwrthrych yn debyg iawn i gwpan cystadleuaeth mewn eisteddfod.   Bore Sadwrn canlynol, tra yn Siop Goffi Antur Stiniog yn y Blaenau, galwodd un o’r genod oedd yn gweini – “Tyrd i weld hwn”.  

A beth oedd, ond yr eitem welais yn y siop elusen! 

(Lluniau gan Dafydd Roberts)

Arni ‘roedd y geiriau CWPAN CYSTADLEUAETH TYLLU BLAENAU FFESTINIOG, 1902.   Cyflwynwyd y gwpan i arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn ddi-enw, ond diolch o galon i’r dieithriaid a wnaeth. Galwch i'w gweld hi yng nghypyrddau gwydr y Gymdeithas yn y siop goffi.

I geisio darganfod mwy am y gwpan, euthum â hi at Steffan ab Owain, arbenigwr ar hanes y Blaenau.  Wedi ymchwilio, gwelwyd mai cwpan oedd ar gyfer enillydd cystadleuaeth tyllwyr chwareli ithfaen yn yr ardal.  Yn anffodus tydi enw’r enillydd ddim ar y gwpan. 

Dyma gyfieithiad gan Steffan o erthygl ym mhapur newydd ‘The North Wales Express’, 22 Awst 1902.

CYSTADLEUAETH DRILIO A SEICLO

Cynhaliwyd cystadleuaeth Pencampwriaeth Seiclo a Drilio gogledd Cymru ym mharc Blaenau Ffestiniog dydd Sadwrn, a hynny mewn tywydd dymunol.  Drilio’r twll dyfnaf mewn gwenithfaen o fewn 15munud gyda dewis o 15 ebill oedd un gystadleuaeth.  Enillwyd y wobr gyntaf, sef un gini a chwpan arian wedi ei hengrafio gan Evan Williams, Minffordd; yn ail – Richard Williams, Minffordd; a 3ydd – Morris Hughes, Llanaelhaearn. 

Yn y gystadleuaeth ar gyfer Chwareli Ffestiniog yn unig, yr enillwyr oedd – 1af John J. Davies, Manod; ail – E.W. Owen, Penrhyndeudraeth; a 3ydd – Jonathan Ellis, y Blaenau.  

Yn y gystadleuaeth seiclo enillwyd y wobr gyntaf, sef cwpan arian a chloc hardd, gan Hugh Hughes, Penmachno, a’r ail wobr gan John Jones, y Sgŵar, Blaenau.  

Enillwyd gwobr yn y gystadleuaeth tynnu rhaff dan dîm Chwarel Maenofferen; curwyd timau Chwarel Foty a Bowydd (Lord) a Llanaelhaearn ganddynt. 

Dafydd Roberts

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2023

'Cwpan Arall'  -rhifyn Mehefin


16.6.23

Ysgoloriaeth Patagonia 2023

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Patagonia 2023 i Terry Tuffrey, Cae Clyd mewn seremoni yn Swyddfa’r Cyngor yn Y Ganolfan Gymdeithasol. 

 

Terry fydd y seithfed person ifanc o’r ardal sydd wedi ennill yr Ysgoloriaeth arbennig hon i bobl ifainc sydd wedi eu magu o fewn terfynau Cyngor Tref Ffestiniog:

2016 Mia Jones
2017 Elin Roberts
2018 Lleucu Gwenllian
2019 Mark Wyn Evans
2020 Hanna Gwyn
2021 Gari Wyn Jones

2022 Elin Roberts
2023 Terry Tuffrey

(Mae'r rhestr uchod yn cynnwys dolenni at yr erthyglau a gafwydd gan y bobl ifanc ar ôl eu teithiau, i'w cynnwys yn Llafar Bro -gol.)

Bu’r Ysgoloriaeth yn llwyddiant drwyddi draw a’r bobl ifainc hyn yn magu a meithrin cysylltiadau pwysig gyda’n gefeilldref, Rawson, ac yn cael cyfle i deithio hyd a lled Patagonia. Roedd hyn yn rhan o’r gobaith pan sefydlwyd y gyfeillio rhwng Rawson a’r Blaenau yn 2015 a phenderfynodd y Cyngor gynnig Ysgoloriaeth i anfon person ifanc draw i Rawson a Phatagonia bob blwyddyn i gryfhau'r berthynas, ac i ddysgu pobl Patagonia am yr ardal hon a brodorion yr ardal hon i ddysgu am Batagonia. Roedd gan bob un o’r enillwyr eu harbenigedd a’u diddordebau personol a chysylltwyd gan amlaf â phobl oedd yn rhannu eu diddordebau. Bu bob un yn traethu ac arddangos mewn ysgolion ym Mhatagonia a rhoi cyfle i blant Y Wladfa glywed am yr ardal hon.

Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog Rory Francis, beirniaid yr ysgoloriaeth Nans Rowlands, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones a Tecwyn Vaughan Jones; efo Terry

Mae Terry, yr enillydd eleni yn dangos diddordeb mewn sawl pwnc ac fe gaiff gyfle i fireinio ei ddewisiadau dros y misoedd nesaf - mae’n gobeithio cael bod ym Mhatagonia yn ystod Eisteddfod y Wladfa ym mis Hydref. Yn ei ysgrif ardderchog mae'n dangos diddordeb mewn cysylltu â chwaraewyr rygbi ac wrth gwrs mae tîm Rygbi Draig Goch eisoes yn adnabyddus ar hyd a lled Patagonia ac mae rygbi yn un o chwaraeon cenedlaethol Yr Ariannin. Mae Clwb Rygbi Bro Ffestiniog wedi gwneud cyfraniad sylweddol i dwf rygbi yng Ngogledd Cymru. 

Mae Terry yn ogystal yn sôn am ei ddiddordeb mewn amddiffyn yr Amgylchedd, ac mae tref y Blaenau yn rhagori ac yn gosod esiampl o sut i fynd a’r agenda hwn ymlaen ar lefel lleol. Mae anabledd hefyd yn uchel ar agenda Terry ac nid yw hyn eto wedi cael sylw gan ymgeisydd blaenorol, gobeithio y medr Terry fagu cysylltiadau gyda chymdeithasau arbenigol sy’n delio ag anabledd yn Y Wladfa.

Mae Terry yn gyn ddisgybl Ysgol Manod ac hefyd Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Mae Ysgol Hafod Lon yn Ysgol ddyddiol ar gyfer plant gydag ystod eang o anghenion ychwanegol.

Llongyfarchiadau mawr iddo a gobeithio y caiff gymorth gan nifer o unigolion yn yr ardal sy’n ymddiddori yn y testunau mae wedi eu nodi uchod.     TVJ
 - - - -

UN O’N SÊR NI ‘DI TERRY 

Ar raglen ‘Drych’ ar S4C nos Sul y 23ain o Ebrill, cafwyd cyfle i ddod i adnabod un o bobl ifanc ysbrydoledig dalgylch ‘Llafar Bro.’

Breuddwyd Terry Tuffrey ydi bod yn ‘DJ’, a thros y flwyddyn ddiwethaf, mae camerâu Cwmni Da wedi bod yn ei ddilyn wrth iddo raddio a mynd amdani i geisio gwireddu ei freuddwyd.

Cafodd Aled Hughes o BBC Radio Cymru sgwrs gyda Terry am ei raglen a’i ddyheadau eraill ar gyfer y dyfodol. Eglurodd pa mor wych oedd y cwmni teledu wedi bod gydag o dros y flwyddyn aeth heibio, gan fynd ag o i wahanol lefydd i’w ffilmio’n cymryd rhan yn gwneud ei amrywiol ddiddordebau.

Mae’n angerddol dros gerddoriaeth gan mai dyna sy’n rhoi’r pleser mwyaf iddo. Pan fydd rhywun yn teimlo braidd yn isel, mynna Terry fod gwrando ar gerddoriaeth yn fodd i godi’r ysbryd. Manylodd ar y math o gerddoriaeth mae’n ei fwynhau orau. 

Gan iddo gael y fraint a’r anrhydedd o ganu efo Elin Fflur ar y rhaglen deledu ‘Canu Gyda Fy Arwr,’ naturiol oedd iddo’i dewis hi. A chan fod Gai Toms yn un o’r ardal, dywedodd ei fod yn gwirioni ar ei ganeuon gwych yntau. Y grŵp Saesneg sy’n apelio ato ydi ‘Little Mix,’ gan ei fod yn hoff o’u caneuon hapus a’i fod yn gallu dawnsio iddyn nhw. 

Ar ran o’r rhaglen ‘DRYCH,’ gwelwyd Terry’n Stiwdio’r BBC ym Mryn Meirion, Bangor yn dysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno yn fyw ar yr awyr. Dysgodd sut mae radio a cherddoriaeth yn cael ei llwytho mewn i wahanol raglenni. Mae’n argyhoeddedig y bydd y profiad yma’n help iddo wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â bod yn ‘DJ.’   
Ond nid cerddoriaeth a throelli digiau sy’n cadw Terry’n brysur y dyddiau hyn.  Mae wedi dechrau dysgu Sbaeneg am fwy nag un rheswm. Oherwydd fod y teulu’n ymwelwyr cyson â Tenerife, mae Sbaeneg wedi dod yn bwysig iawn iddo.

Oherwydd ei lwyddiant yn ennill Ysgoloriaeth Patagonia, yn sicr, fe fydd y Sbaeneg yn fuddiol iawn iddo yno.  

Mae holl ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ yn dymuno pob llwyddiant i ti Terry.

- - - - - - - -

Addasiad sydd uchod o ddarnau a ymddangosodd yn rhifynnau Ebrill a Mai 2023


13.6.23

Maen Hir Nant y Lladron

Erthygl gan Dewi Prysor, o rifyn Mai 2023

Rydw i wrth fy modd yn crwydro’r wlad er mwyn gweld y llu o henebion o’r Oes y Cerrig olaf ac Oes yr Efydd; cylchoedd cerrig, carneddau claddu a chistiau, meini hirion a rhesi a pharau o feini, a hynny drwy Gymru benbaladr; a Chernyw, Cumbria a’r Alban a’i Ynysoedd, a hyd yn oed Llydaw. Mae’r rhan fwyaf o’r henebion yma yn perthyn i’r Oes Efydd, a mae eu carneddau a cylchoedd a meini yn fy nenu tuag atyn nhw bob cyfle a gaf. 

Tra bo’r carneddau claddu o bob math yn amlwg yn gladdfeydd, a’r rhan fwyaf ohonynt ar dir uchel ac ar ben copaon ein mynyddoedd a bryniau, mae’r cylchoedd a meini a’r rhesi a pharau yno am reswm penodol, megis defodau a gwylio’r sêr a’r haul ac ati. Ond mae’n debyg bod rhesymau eraill i rai o’r meini hirion – y rhai hynny sy’n sefyll ar ben eu hunain, a hynny yn go aml ar ryw hen lwybrau o’r hen oesau pell. Meini gobaith y mae rhai yn eu galw nhw, am eu bod nhw’n dangos y ffordd i deithwyr oedd yn masnachu rhwng Iwerddon, Cymru ac Ewrop. O bosib. Mae rhai o’r meini gobaith hyn efo’u talcen yn pwyntio i rhyw gyfeiriad. Mae hyn yn digwydd yn Ynysoedd Heledd a’r Ynysoedd Mewnol yn yr Alban, yn ogystal a Chymru a gorllewin Prydain, fel Cumbria a Cernyw. 

Eitha prin ydi meini hirion ardal Llafar Bro. Mae’r rhan fwyaf ohonynt ym mhlwy Trawsfynydd, a dim ond dau sydd yno. Dyna i chi Llech Idris ger afon Cain yng Nghwm Dolgain, yn glamp o lech gyda un o’i glustiau yn pwyntio’n amlwg i gyfeiriad y Rhinogau. 

Mae’r llall yn sefyll ar dir fferm Brynmaenllwyd, nepell o ffordd yr A470 rhwng Trawsfynydd a Bronaber. Nid maen gobaith ydi hwn, gan fod yno ddau faen yno, yn sefyll tua llathen neu ddwy oddi wrth ei gilydd. Pâr o feini ydyn nhw, un yn 1.4 metr, a’r llall dipyn yn llai. Efallai y gosodwyd y maen mwyaf a’r maen llai ar bwrpas – efallai yn dynwared rhywbeth yn y tirlun – neu fod y lleiaf wedi suddo, gan fod y ddau faen wedi gwyro gan mai cors oedd y tir am tua 4,000 o flynyddoedd. Ac wrth feddwl am hynny, tybed fod yr hen bobl wedi codi cofeb i rywun a fu farw yn y gors – tad a mab, efallai? Ac mi all fod yn ddôr defodol i bobl yr Oes Efydd gerdded trwyddo i daflu eitemau i’r gors, lle’r oedd y gors yn cynrhychioli dau fyd – y gors ddim yn ddŵr nac yn dir, ac felly y gellid cysylltu a’r byd arall. Annwfn efallai?

Mae’r maen hir arall sydd yn ardal Llafar Bro ym mhlwy Maentwrog, ac yn sefyll ger wal mynedfa eglwys y pentref. Maen Twrog ydi enw’r maen hwn bellach, wedi ei enwi ar ôl un o’r seintiau ddaeth o Lydaw o dan arweiniad Sant Cadfan. Yn ôl y Mabinogi claddwyd Pryderi o dan y maen hwn, ond yn ôl arbenigwyr maen oedd unwaith yn rhan o gromlech, sef claddfa porthol, oedd y maen, sy’n dangos ei fod o’n dyddio o’r Oes Cerrig olaf. 

Mae un maen arall yn ardal Llafar, ac ym mhlwy Ffestiniog mae o. Maen Cantiorix ydi ei enw, gyda’r ysgrifen enwog wedi ei grafu arno. Ond mi rown ni sylw i hwnnw rywbryd eto, gan nad yw yn faen hir o’r cyfnod Oes Cerrig ac Efydd, tra bod Maen Cantiorix yn dyddio o ddiwedd y 5ed ganrif. Yn wir, mae’r maen ei hun yn cael ei gadw yn Eglwys Penmachno, tra bod yr un sy’n sefyll ger wal Gwaith Dŵr Garreg Lwyd ger Beddau Gwŷr Ardudwy, yn replica.

Lluniau Dewi Prysor

Ond mae ’na faen hir arall yn ardal Llafar Bro, un nad oes llawer yn gwybod amdano. A mae o ym mhlwy Trawsfynydd – hanner milltir o’r ffîn rhwng plwyfi Traws a Llanycil. Tua 13 mlynedd yn ôl ro’n i’n pori ar wefan Archwilio GAT (Gwynedd Archaeological Trust), lle’r oedd smotiau bach coch yn dangos holl henebion yr ardal. Mae modd clicio ar y smotiau coch yma, ac mi ddaw gwybodaeth am yr hyn oedd o dan y smotyn. Pori plwy Trawsfynydd o’n i pan welais i faen hir a enwyd gan yr archaeolegwyr ‘Standing Stone, Nant y Lladron’. Mi wn yn iawn am Nant y Lladron, mae’r nant yn rhedeg o’r Migneint gan lifo o dan Pont Nant y Lladron ac o dan ffordd y Migneint, cyn llifo drwy’r coed coedwigaeth a llifo i afon Prysor rhyw hanner milltir uwchben traphont rheilffordd Cwm Prysor. Mae’n debyg mai archwilio’r ardal oedd yr archaeolegwyr, gan fod mynydd fferm Blaen y Cwm wedi ei werthu i’r Goedwigaeth yn 1979, ac roedd rhaid archwilio’r ardal cyn i’r Goedwigaeth wneud llanast. Dyma’r wybodaeth:

Standing Stone, Nant y Lladron
Primary Reference Number (PRN) : 1559
Site Type : STANDING STONE
Period : Prehistoric
Community : Trawsfynydd   NGR : SH77973964
Description :   "Standing stone, large block c1.5m high." Fieldwork 1979 RSK and P. Crew. <1>
Sources :    Kelly, R. S. , 1979 , PRN 1554 , <1>
Smith, G. , 2001 , Prehistoric Funerary and Ritual Sites Survey: Meirionnydd , <2>
Events :    42054 : Blaencwm Prysor Survey (year : 1979)
40529 : Prehistoric Funerary & Ritual Monuments: Meirionnydd (year : 2001)

Wrth gwrs, bu rhaid i mi fynd i chwilio am y maen – a hynny yn yr eira. Mae o’n sefyll tua 50 llath o ffordd Migneint a’r bont, a tua canllath o nant Nant y Lladron, yn y goedwig bellach, rhyw dafliad carreg o’r llwybr peilons. Mi gefais i dipyn o waith chwilio am y maen, a hynny drwy goed trwchus, ond yn y diwedd, mi welais i o, mewn rhyw lannerch bychan a’r golau yn disgyn ar ei war. Wel, sôn am wefr hudolus gefais wrth ei weld, ei gefn a’i ochrau yn fwsog gwyrdd tew, fel cwrlid neu glogyn, ond ei wyneb yn foel a llwyd, a’i glust yn pwyntio i rhyw gyfeiriad tuag at y Rhinogau. Bu bron i mi ddawnsio, na, mi wnes i ddawnsio! Dwi’n meddwl bod y maen yn falch i fy ngweld i. Doedd o heb weld neb ers 1979! Wel, efallai... Dwi wedi bod yno sawl gwaith bellach, a rydw i’n cael yr un teimlad hapus bob tro fydda i yno. Mae’n hen bryd i mi fynd yno i’w weld o eto. Mae o angen cwmni, a rydw innau angen dawnsio yn y coed!



2.6.23

Stolpia- Carpedi Soar

Pennod arall gan Steffan ab Owain, y tro hwn am hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll, o rifyn Ebrill 2023

Mae ail-ddefnyddio adeiladau crefyddol eu naws at ddibenion eraill wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd maith, ac nid yw’n syndod bellach gweld hen eglwysi a chapeli o un pen o’r wlad i’r llall wedi eu haddasu yn anedd-dai, neu’n siopau, neu’n weithdai. 

Profwyd hyn yn ein bro tros y blynyddoedd. A chofio bod tua thri dwsin o gapeli a phedair eglwys wedi bod ein plwyf yn y dyddiau a fu nid yw’n syndod bod nifer ohonynt wedi cau eu drysau gyda thrai ym myd crefydd yn ein gwlad.

Un o’r capeli cyntaf yn ein bro i gael ei droi yn ffatri oedd Capel Soar a berthynai i’r Wesleyaid. Codwyd hwn yng Nghae Baltic, Rhiwbryfdir, sef ar ochr y ffordd fach sy’n arwain drwyddo. Agorwyd y capel yn swyddogol ym  mis Tachwedd 1904 er bod gwasanaethau wedi eu cynnal yno ychydig fisoedd ynghynt. Pa fodd bynnag, er bod yn hen gapel bach wedi ffynnu  yn ei ddyddiau cynnar, credir iddo gau oddeutu 1939.


Bu’r capel yn wag am oddeutu deng mlynedd. Yna, ar ôl i’r Cyngor Tref a Phwyllgor Diwydiannau Gwledig Meirionnydd bwyso ar y Llywodraeth i sefydlu diwydiant ysgafn ar gyfer dynion anabl y cylch llwyddodd y Bwrdd Masnach i sicrhau adeilad y capel. 

Aed ati hi wedyn i gasglu arian, sef £5000, ac ar ôl apêl Mr H. Evans Jones, clerc y Cyngor Tref derbyniwyd £2000 yn lleol o fewn y ddwy awr gyntaf, ac o fewn rhai dyddiau roedd addewid am fwy o arian er mwyn cyrraedd y nod.

Enw’r cwmni a sefydlodd ffatri yn y capel oedd Fatima Industries Ltd a chynhyrchu carpedi a rygiau Indiaidd o ansawdd da oedd ei swyddogaeth. 

Agorwyd y ffatri ym mis Ebrill 1949 gan bwysigion y dre a chyfarwyddwyr y cwmni newydd. 

Cyflogwyd pump o ddynion yno i ddechrau, rhai ohonynt yn chwarelwyr yn dioddef o effaith clefyd y llwch (silicosis). Bwriedid cael lle i 25 arall o fewn ychydig fisoedd,  a’r gobaith am fwy yn ddiweddarach. 

Ymhlith y rhai a gyflogwyd yno ceid Mr Bob Jones a fu’n gweithio yn y chwarel am 43 o flynyddoedd, Mr Bob Pierce, Mr H. E. Jones, cyn filwr methedig, Mr Eric W. Jones, Mr James Hughes ac R. O. Davies, gyda Mr E. F. Chopin yn eu hyfforddi. 

Gwnaed y carpedi a’r rygiau o wahanol liwiau, megis llwydwyn, rhosliw, gwyrdd, llwydfelyn (beige) a lliw rhwd a dewis o’r mesurau canlynol: 4 troedfedd 6 modfedd wrth 27 modfedd; a 6 troedfedd wrth 27 modfedd.

Nid wyf yn sicr am ba hyd y bu’r ffatri yno, ond nid oes dwywaith amdani iddi roi hwb i’r rhai hynny a oedd wedi colli eu hiechyd ac nad allai wneud gwaith trwm. Rhywfodd credaf iddi ddod i ben cyn y flwyddyn 1961.

Tybed a oes rhai o’r darllenwyr yn cofio rhai’n gweithio yno? Bellach, y mae’r adeilad (sef yr hen gapel) wedi ei addasu yn gartref cysurus.