18.12.12

Cyngerdd Nadolig Ysgol y Moelwyn

"Hen bethau digon diflas 'di defaid..." -geiriau o sgetsh ddoniol iawn yr hogia' yng nghyngerdd Nadolig Ysgol y Moelwyn heno (nos Fawrth), sef 'Y Bugeiliaid'.

'Doedd dim byd yn ddiflas am y cyngerdd: diolch i'r ysgol am drefnu gwledd o hwyl a chanu. Mae yna dalent arbennig yn ein bro, heb os.

Rhaglen y noson.



Ar ddiwedd wythnos o newyddion go ddu am yr iaith Gymraeg, braf iawn oedd cael mwynhau noson oedd yn gyfangwbl gant-y-cant uniaith Gymraeg, o'r rhaglen i'r perfformio, i'r diolchiadau a'r raffl! Go brin fod hynny'n digwydd y tu allan i Fro Ffestiniog, a dyrnaid bach iawn o gymunedau eraill.

Rheswm arall i ddathlu oedd clywed bod yr ysgol nid yn unig wedi ei gosod yn band 1 gan y llywodraeth (er nad yw pawb yn gytun ar werth y bandio), ond ei bod wedi dod yn ail trwy Gymru gyfan. Llongyfarchiadau i'r staff, y llywodraethwyr, a 'r disgyblion.

Rydym fel cymuned yn falch iawn ohonoch, ac mae hynny wedi bod yn amlwg yn y gyfres o nosweithiau llwyddianus a fu yn yr ysgol yn ddiweddar, a'r neuadd ar ei newydd wedd yn llawn.

Llun sal ydi hwn isod mae gen i ofn, o sgetsh Y Bugeiliaid. Dim ond un o berfformiadau ardderchog y noson. Gyda lwc, cawn gyhoeddi lluniau gwell, swyddogol yn rhifyn Ionawr o Llafar Bro.



15.12.12

Rhifyn Rhagfyr

Mae rhifyn Rhagfyr yn y siopau rwan i'r rhai ohonoch sydd ddim yn ei dderbyn ar y rhiniog gan ein dosbarthwyr gwirfoddol, neu gan y postmon.


Dim ond 40 ceiniog am 22 tudalen o erthyglau, newyddion, cyfarchion a lluniau.

Cefnogwch eich papur bro!

4.12.12

Troedio'n Ol

Mae rhifyn Rhagfyr ar ei ffordd i'r wasg, a bydd allan erbyn y 13eg.
Yn y cyfamser dyma bwt arall o rifyn Tachwedd 2012 i aros pryd.

Darn ydyw o golofn reolaidd John Norman, y tro hwn am chwarae snwcer yn y Traws.



Pan gaf gyfle i siarad â phobl ifanc am eu bywyd un o’u prif gwynion ydi eu bod yn bored – a hyn i gyd er gwaethaf y pethau digidol sydd yn eu hysgolion, eu cartrefi ac sydd ar gael yn ystod eu hamser hamdden. Ond felly mae wedi bod erioed ynte ? Mae’n ymddangos o f’ysgrifau ar bêl-droed, nofio, criced , heb son am Yr Urdd , Y Sgowts , Y Band of Hope a’r Pictiwrs, bod ein dyddiau ifanc ers talwm yn Traws yn brysur dros ben. Ond nid felly, cwyno oeddem ni hefyd , byth a beunydd, nad oedd dim i’w wneud – dyma be’ di bod yn ifanc yn ifanc debyg!  Digon teg felly yw sôn am Chwarae Snwcer  yn y Y.M.


1.12.12

STOLPIA

Darn o erthygl Stolpia, Steffan ab Owain, o rifyn Tachwedd 2012.
Mae'r rhfyn dal ar werth tan ail wythnos Rhagfyr.


Gloddfa Ganol, o'r Cribau.   LLUN: PW



Deuthum ar draws y cofnod canlynol rai blynyddoedd yn ôl mewn hen newyddiadur :

Cwymp yn un o chwarelau Ffestiniog yn 1853 – Ar fore Sadwrn yn mis Chwefror  1853  daethai darn arswydus  o’r mynydd i lawr nes claddu y rhan fwyaf o chwarel Mri Matthew  a’i Fab (sef y Gloddfa Ganol ) ond drwy ryw ragluniaeth ryfedd a lwc  bu i’r amgylchiad ddigwydd  rhwng 5 a 6  o’r gloch y bore. Pe syrthiasai  awr yn hwy  buasai tua  200  o fywydau wedi eu colli yn anocheladwy.

24.11.12

Newyddion Ysgol y Moelwyn

Darn o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2012



Merched yn dangos y ffordd
Mae tîm o ferched wrthi yn brysur iawn yn yr ysgol ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth Fformiwla 1 mewn ysgolion.  Mae Gwenno Huws, Branwen Williams, Lili Jones, Llio Jones a Shauna Jones wedi bod wrthi yn cyd-weithio gyda Mrs Gwenllian Roberts, a llawer o gwmnïau lleol er mwyn cynhyrchu car bychan tua maint esgid. Byddant yn mynd â’r car yma i’r  gystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor ble bydd ganddynt gyfle i fynd ymlaen i Lundain neu  Birmingham.   


Pob lwc gyda’r paratoi a’r 
cystadlu genod!


18.11.12

"Llifa amser..."



Darn arall o rifyn Tachwedd:

Bydd teyrnged i’r diwydiant llechi yng Nghymru, y chwarelwyr fu ac sy’n parhau i fod yn rhan greiddiol ohono, yn ganolbwynt teilwng i gynllun adfywio’r dref.

Mae’r gwaith trawiadol yn cynnwys Afon Dwyryd, yr afon a ddefnyddiwyd i gludo’r llechi o Flaenau i’r arfordir cyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog. 

Y bardd Gwyn Thomas sy’n gyfrifol am gyfansoddi darn o farddoniaeth arbennig ar gyfer yr afon lechi.

“Llifa amser yn ei flaen,
 A llifa dŵr:
 Ni lifa bywyd creigiwr.”

12.11.12

Calendr y Cymdeithasau, Tachwedd a Rhagfyr

Llwyth o bethau ymlaen eto...
Dim esgus o gwbl dros bydru o flaen y teledu rhwng rwan a'r Nadolig!
Gyrrwch fanylion atom os hoffech ychwanegu at y rhestr




Tachwedd  
13 –FFAIR LLAN

 16- NEUADD GELLILYDAN– Cwis a lobsgóws

 17 –Lansio llyfr Gwyn Elfyn. PENGWERN

9.11.12

Colofn y Pigwr

Blas o golofn reolaidd Y Pigwr:  dos iach o optimistiaeth y mis hwn! 
Gallwch weld yr erthygl yn llawn yn rhifyn Tachwedd.


Mae'r cynllun adnewyddu yng nghanol tref y Blaenau yn dirwyn tua'r terfyn erbyn hyn, a'r newidiadau i'w gweld yn glir. Mae'r pileri llechi ar safle wal yr hen Bont Cwîns gynt yn drawiadol, ac yn ffocws newydd i Sgwâr Diffwys, fel ag y mae'r palmantu newydd. 

Gyda hyn, mi fydd byrddau dehongli yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr o hanes a daearyddiaeth yr ardal, yn cael eu harddangos mewn amrywiol safleoedd o amgylch y dre'. 

Heb os, mi fydd yn atyniad newydd, gwerth chweil i ymwelwyr i'r dre', ac yn cyfleu agwedd fodern o gefndir diwydiannol prifddinas chwareli'r byd.


 
Mae'r llwybrau beiciau'n brysur ddod yn atyniad fyd-enwog, diolch i weledigaeth rhai o'n pobl ifainc.



 

Ac wrth sôn am weledigaeth pobl ifainc, dim ond gobeithio y gwelwn eni sefydliad newydd yn fuan i gymryd lle Cymunedau'n Gyntaf, sydd wedi dod i ben. Bu'r criw ifainc, hynod weithgar hynny, yn gymorth mawr i nifer o sefydliadau yn y dre', a'n dymuniad, yn wir, yw y bydd pob un ohonynt yn ymwneud ag adfywiad Blaenau Ffestiniog yn fuan eto. 
 
Diolch ichi, o waelod calon am eich ymdrechion drosom, griw annwyl Cymunedau'n Gyntaf!


7.11.12

Rhifyn Tachwedd 2012

Mae rhifyn Tachwedd wedi'i blygu, ac ar ei ffordd i'r siopau ac at y dosbarthwyr lleol.


Mae'n rifyn swmpus eto, yn llawn cyfarchion, erthyglau a newyddion eich milltir sgwar. Dyma flas ar be gewch chi am ddwy geiniog y dudalen; bargen!

Gwarth y Bwrdd Iechyd: y diweddaraf am yr ymgyrch.

                             Colofn y Pigwr: dos iach o optimistiaeth!

Newyddion ysgolion y fro.

                     Stolpia: gwisg Gymreig ar gerdyn post, a chwymp hanesyddol yn y Gloddfa.

Troedio 'nol gyda John Norman: Snwcer yn y Traws.

                                                  Lle maen nhw heddiw? Medwen Roberts

Cofgolofnau a Sul y Cofio.

                      Adloniant y gaeaf

                                  Lluniau

...a llawer iawn mwy!


5.11.12

Diwrnod Golchi!



Hogiau a Genod y Frigâd Dân, tu allan i'w gorsaf, yn golchi ceir i godi arian at Elusen y Gwasanaeth  Tân. 

Ar ddyletswydd oedd Martin Williams, Shane Jones, Kevin Davies, Cari Tucker, Ceri Roberts, Anthony Owen a Neil Tonks.

Cofiwch!
Noson blygu Nos Fercher, am 6.30 yn neuadd y WI.
Ymunwch yn yr hwyl a chyfranwch at y gwaith.
Bydd rhifyn Tachwedd yn y siopau ddydd Iau. 

4.11.12

LLE MAEN NHW?



Llafar Bro yn holi rhai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro i ennill bywoliaeth mewn ardaloedd neu wledydd eraill. Chydig o hanes diddorol Emyr Griffith Davies o Llan a gafwyd yn rhifyn Hydref. Dyma ran o'r erthygl:


Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r wlad ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
Rwy’n dditectif gwnstabl gyda Heddlu Humberside yn Cleethorpes, gogledd ddwyrain Swydd Lincoln.

Beth neu pwy fu’r dylanwad(au) mwyaf arnoch pan oeddech yn ifanc?
Fy rhieni a’m taid a nain oedd y dylanwad mwyaf yn y blynyddoedd cynnar. Dysgodd fy nhaid imi sut i bysgota, yn ogystal â meithrin fy niddordeb mewn Natur ac mewn hanes lleol. Cof arall yw cael teithio am ddim ar ffwtplêt trên bach Stiniog am mai fy ewythr oedd y dreifar.
Y dylanwad mwyaf arnaf yn y cyfnod hwn oedd Mr Bob Morgan. Fo oedd fy athro offerynnol a chyn hir fy arweinydd hefyd pan ymunais â band y Royal Oakeley, ar ôl bod yn aelod efo seindorf y Llan. 

A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimladau, bryd hynny?
Byddaf yn ceisio dod o leiaf unwaith y flwyddyn, pan fydd oriau gwaith yn caniatáu. Dwi bob amser yn ymfalchïo yn fy Nghymreictod, ac yn ein hiaith a’n diwylliant, a byddaf yn aml yn hiraethu am gael byw unwaith eto mewn cymuned glós Gymreig.