31.8.16

Bwrw Golwg -Rhyddid!

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn,  erthygl gan Kevin O’Marah, Blaenau, disgynnydd William Walter (Brothen Bach). 

Rhyddfreiniad o Gaethiwed/ Rhyddid!


Yr ydym yn weddol gyfarwydd o hanes rhyddfreinwyr enwocaf y ganrif cyn y diwethaf, y ‘Great Emancipators’ Abraham Lincoln, William Wilberforce, Thomas Jefferson ac William Lloyd Garrison, ond, nid llawer o Gymry sy’n ymwybodol fod enillydd y gadair mewn tair eisteddfod rhwng 1860 a 1884 yn yr Unol Daleithau hefyd wedi ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth.

Roedd Rowland Walter (Ionoron Glan Dwyryd), yn enedigol o Flaenau Ffestiniog a fu’n byw y rhan fwyaf o’i oes yn Hydeville, Vermont, ardal nodedig llechi Gogledd America yr oes honno, fu’n ennill ei fywoliaeth yn chwarel Eagle, ac yn ystod y cyfnod hwn hefyd y cynyddodd ei gariad at farddoniaeth.

Ar ôl ennill y gadair yn Eisteddfod Utica yn y flwyddyn 1861, cafodd gyfarfod â’r Anrhydeddus Henry Nicoll, cyfreithiwr a chynhadleddwr o Efrog Newydd, ynghŷd â’r prifardd enwog Dewi Glan Twrch pan ofynwyd i Ionoron gymryd y cyfrifoldeb o ledaenu’r neges yn erbyn caethwasiaeth, ac i gael holl Gymry Gogledd America i ymuno â byddin y gogledd i ryddhau’r caethweision. Ac felly, ar ofyn Nicoll, ysgrifennodd gerdd:

Baner yr Undeb

Ar aden yr awel, yn tyner ymdoni,
Mae Baner ein Rhyddid yn amlwg uwch ben,A golwg ysblenydd y Sêr a’r Brithresi
Mor siriol ag amryw dlos lanerch o’r nen;
O dani’r eistedda hen Angel Gwarcheidiol
Yr Undeb, a’i olwg yn ddwys ac yn syn –
Ei wisg yn rhwygiedig – ei drem yn fawreddol,
A’i wefus yn sibrwd rhyw linell fel hyn:


Ah! Feibion Columbia, dyrchafwyd ein Baner
Gan lu ein henafiaid trwy afon o waed,
Diweiniwyd eu cleddyf, oedd gleddyf cyfiawnder,
A’u gelyn cadarnaf a gwympodd tan draed;
Ac ar ôl hir ryfel, teyrnasodd maith heddwch.
O lanau y Werydd cynhyfrus ei fron
I fin y Tawleog, ar lenydd o eurlwch,
Yn esmwyth o’i fynwes sy’n gollwng y don.

Ni cheir ar ein Baner un eilun o ryfel,
Nac unrhyw feddylrith o’r fidog na’r cledd.
A phan y mae’n derbyn cusanau yr awel,
Nis gellir gwneyd allan un trais yn ei gwedd;
Mae’n eilun o Ryddid, Cyfiawnder a Heddwch
Lle bynnag mae’r wybr yn ymledu uwch ben –
Gwneyd allan Gaethiwed o’n Baner na cheisiwch
Tra byddo’r sêr dysglaer yn britho y nen.

Mae cysur yr aelwyd i filoedd yn eistedd
Dan adeg ein Baner heb ddychryn na braw,
Pwy bynag a’i tyno i lawr mewn gorphwylledd,
Fel corsen wywedig disgyned ei law;
Ysgydwad ein Baner yn nhonau yr awel
Gysegra lwch beddrod gwroniaid ein gwlad,
Y rhai a gollasant eu bywyd trwy ryfel –
Pa adyn sydd na pharcha lwch beddrod ei dad?

O glogwyn i glogwyn, yr udgorn dadseinied
I alw dewr feibion Columbia i’r gâd
I ymladd a phleidwyr gwrthnysig Caethiwed
Sy’n ymladd yn erbyn hoff  Faner ein gwlad
Diweinier y cleddyf – y fangel fo’n rhuo,
A rhengau y gelyn yn ddarnau tan draed;
Hen Dalaeth Virginia, ei glaswellt fo’n rhuddo,
A South Carolina yn afon o waed.

Fan yna terfynodd yr Angel Gwarcheidiol,
A’i drem yn melltanu eiddigedd ei fron;
A chan ei ddigofaint, mae cefnfor ymchwyddol
Dros wyneb Columbia yn gweithio ei don;
I chwyddo y fyddin, awn ninau, feib Gwalia,
Gan gofio Caradog ac Arthur ein tad;
Trywaner â’r fidog frad luoedd Virginia,
A buan daw heddwch i lwyddo y wlad.

Mae’r hwiangerdd Si-hwi-hwi wedi ei chyfansoddi gan Ionoron yn son am fam yn canu i’w phlentyn y noson cyn i’r ddau gael gwahanu a’u gwerthu fel caethweision gan y dyn gwyn.

Y Gaethes Ddu (Si, hwi, hwi)

Si, hwi, hwi, si hwi, hwi, si hwi, hwi lwli,
Tlws dy fam, O paham y gwneir cam iti?
Pan y bydd deigryn prudd ar dy rudd fwyngu,
Ni chaf fi ddofi’th gri, na’th roi di i gysgu;
Daw’r dyn gwyn gyda’i ffyn cyn pryd hyn yfory,
A’th ddwyn di er fy nghri ymaith i’th werthu,
O na chawn fynwes lawn, fel y cawn wylo,
Byddai’r bedd imi’n wledd, mi gawn hedd yno.

Si, hwi, hwi, si hwi hwi, si hwi, hwi lwli,
Calon ddur sydd fwy cur na dolur dy eni,
Gan fawr ddrwg, anfad wg, cilwg ein gelyn,
Ni chai gwen fendith nen ar dy ben ddisgyn;
Rhyfedd yw pan ma chlyw os oes Duw gennym,
Pan y myn Duw’r dyn gwyn fod fel hyn wrthym?
O na chawn fynwes lawn fel y cawn wylo,
Byddai’r bedd imi’n wledd, mi gawn hedd yno.

Si, hwi, hwi, si hwi hwi, si hwi, hwi lwli,
Poen a braw ar bob llaw, hyn a ddaw iti,
Gan feistr trwm a dwrn plwm y cei drwm ddyrnod.
Dyw rudd iaith, llety gwaeth gyda maith ddiwrnod,
Llety gwael sydd i’w gael wedi cael noswyl,
Briwiog gefn yn ddrwg drefn, O! dy gefn anwyl,
O na chawn fynwes lawn fel y cawn wylo,
Byddai’r bedd imi’n wledd , mi gawn hedd yno.

Ysgrifennodd hon hefyd:

Y Milflwyddiant
(Caethweision Negroaidd).

Ond gwaeth na rhyfel ydyw gweled – dwyn
Dyn du i gaethiwed;
Dwyn i wae y diniwed
Yn rhwym – pa galon na rêd!

Y du adwyth hwn sy’n d’wedyd – i bawb
Fod y Beibl yn ynfyd –
Na ddaw barn yn niwedd byd –
Anifail yw dyn, hefyd.

Rhy boenus ydyw unrhyw angenrhaid
I droi i’r hanes sy’n gwaedu’r enaid –
Hanes sydd yn dwyn cwyn Affricaniaid
Yn ei hyll agwedd ger bron ein llygaid –
Hanes gwaith anfwyniad – yn fflangellu –
Hanes trywanu einioes trueiniaid!
Mae rhyw waeau einioes yn merwino
Teimladau dyn yn neigryn y Negro;
A gosod crinwad diras i’w daro,
Yn tori aelaeth natur i wylo:
Rhoi adyn cignoeth i droedio – gwragedd
A wnai i anrhydedd anwn wrido!

-----------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol -efo'r cerddi uchod wedi eu cwtogi- yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


29.8.16

Sgotwrs Stiniog- Tŷ y Gamallt

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans; y gyfres a barodd hiraf yn hanes Llafar Bro.

Eleni*, bu rhai o aelodau Cymdeithas y Cambrian yn gwneud gwaith atgyweirio ar Dŷ y Gamallt. Er mai rhyw stwmpyn o gaban ydi o, ym mhen uchaf Llyn Bach y Gamallt, bob amser fe gyfeirid ato fel Tŷ y Gamallt, fel petae yn adeilad o sylwedd.

Yn y gorffennol byddai cryn ddefnydd yn cael ei wneud ohono, ond dros rai blynyddoedd erbyn hyn y mae wedi mynd yn o wael ei gyflwr, ac wedi cael ei esgeuluso oherwydd nad oedd yn cael ei ddefnyddio fel y bu.

Llyn Bach Gamallt, a'r tŷ ar y chwith. Llun -Paul W, Awst 2016
Yn ôl yn nechrau mis Awst y tymor diwethaf bum wrth y ddau Lyn Gamallt. Pan oeddwn i’n pysgota’r Llyn Bach daeth niwl llaith i lawr yn o sydyn a dirybudd. Gan fy mod i’n weddol agos i’r tŷ es iddo i gysgodi ac i fwyta tamaid o ginio.

Doeddwn i ddim wedi bod yn ymyl y tŷ, heb son am fod i mewn ynddo, ers dwn i ddim pryd - rhai tymhorau yn o sicr. Wrth ddod at y ddau lyn o gyfeiriad hen chwarel fach Nant y Pistyll Gwyn, lle gadewir y car, rydw i’n dueddol o bysgota y Llyn Mawr, ac os mynd drosodd i’r Llyn Bach i’w bysgota, i anelu am ei hanner isaf - y rhan o’i lan a elwir ‘Y Chwarel’ hyd at ‘Geg y Ffos’, ac felly ddim yn mynd yn agos at y tŷ.

Pa’r un bynnag, pan gamais i mewn cefais sioc ac ysgytwad. Doedd gin i ddim syniad fod y lle wedi cael ei gamddefnyddio a’i amharchu i’r fath raddau, ac wedi cael ei fandaleiddio cyn gymaint. Roedd llawr y tŷ o dan drwch o faw defaid, oherwydd fod y drws ar agor yn barhaus. Doedd yna yr un fainc na bwrdd ar ôl ynddo, ac roedd y cwpwrdd llestri a oedd yn ochr y lle tân, wedi diflannu. Popeth ynddo a oedd yn bren wedi’i losgi fuaswn i feddwl.

Ac nid hynny’n unig chwaith. Roedd y ddwy ffenestr wedi eu tynnu o’u lle, a’r fframiau yn ôl pob golwg, wedi eu llosgi. Bu i rywun neu rywrai ddarn lenwi gwacter y ddwy ffenestr â cherrig. Doedd y tŷ yn ddim namyn cragen wag. Y drws yn llydan agored, ac un o’i styllod wedi’i thynnu o’i lle, a’i defnyddio mae’n debyg, i’r un pwrpas a’r coed eraill, i’w llosgi. Dyna fesur y fandaleiddio a’r amharchu a fu ar Dŷ y Gamallt.

Pwy, tybed, a oedd yn gyfrifol am y malu, y difrodi, y camddefnyddio disynnwyr a diystyr yma?
Mae’r un peth wedi digwydd i Dai eraill y Gymdeithas. Does ond rhannau o furiau tŷ Llyn y Morwynion yn sefyll; y  mae tŷ a Thŷ Cwch Llyn y Manod yn wastad â’r ddaear; tŷ Llun Dubach yn ddim ond lle bu, a’r un peth yn wir am Dŷ Llynnoedd Barlwyd.

I rywun sy’n cofio Tŷ y Gamallt yn gyfan o ffenestri a drws, o fyrddau a meinciau, o lestri a chwpwrdd i’w cadw; tegell a thebot a phadell ffrio; yn lle clyd i gilio iddo petae’r tywydd yn troi’n anffafriol; trist iawn, iawn, oedd ei weld yn y cyflwr turenus ac adfydus yma.

Yn y gorffennol byddai cryn ddefnydd yn cael ei wneud o’r tŷ, fel, yn wir, o dai eraill y Gymdeithas. Yr adeg hynny cerdded oedd yn rhaid ei wneud os am bysgota y ddau Lyn Gamallt, ac roedd rhywun yn dod atynt o gyfeiriad Cwm Teigl fel arfer, ac at y tŷ yn gyntaf peth.  Wedi rhoi ein beichau yn y tŷ, cael rhywfaint o hoe ar ôl y cerdded a’r dringo, ceid wedyn bwl o bysgota, un ai oddi ar y cwch yn y naill neu’r llall o’r ddau lyn , neu o gwmpas y glannau. Pan ddeuai hynny i ben byddid yn mynd yn ôl i’r tŷ i gael tamaid o fwyd.

Cynnau tân yn gyntaf a chael y tegell i ferwi er mwyn cael paned boeth o ddŵr Llyn Bach y Gamallt, a hwnnw’n bereiddiach ei flas na’r gwin drutaf. Tegell go fawr a thrwm o haearn-bwrw oedd yno yr adeg hynny a thipyn o waith berwi arno.

Yn fy nghof cynharaf i o gerdded i’r Gamallt ac o’r tŷ byddid yn codi mawn ar ei gyfer, ac ynghrog yn ochr dde y lle tân yr oedd megin, i’w defnyddio i wneud y mawn yn dân coch, gwresog. Rhodd oedd y fegin gan Robert Jones, y Siop, Congl y Wal, i Dŷ y Gamallt, ac addewid ganddo am un newydd yn ei lle pan godai’r angen.

Defnydd arall a wneid o’r tŷ oedd pan yn mynd ‘tros y nos’ i’r Gamallt. Y patrwm gweithio yn chwareli’r ardal fyddai cytundeb mis. Gweithid am bum diwrnod a hanner bob wythnos, a hynny am dair wythnos. Yna, ar y bedwaredd wythnos o’r mis rhoddi cyfrif o’r cynnyrch i’r cwmni ar y dydd Gwener, ac ni fyddai gweithio ar y dydd Sadwrn - y ‘Sadwrn diwadd mis’, fel y’i gelwid.

Digwyddai y ‘mynd dros nos’ i’r Gamallt yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, pan oedd y nos ar ei byrraf. Doedd ‘Sadwrn diwedd mis’ pob chwarel ddim yn digwydd ar yr un Sadwrn, ac felly fe fyddai rhywrai neu’i gilydd yn aros yn y tŷ o nos Wener tan bnawn dydd Sadwrn (fel arfer) drwy ddau fis y nosau byr. Gan nad oedd y Gymdeithas yn caniatau pysgota ar y Sul, yr ychydig droeon prin yma oedd yr unig gyfle i fynd ‘dros y nos’ at y llynnoedd - dim ond unwaith neu ddwy mewn tymor.

Yr oedd rhyw apêl arbennig mewn mynd ‘dros y nos’ i’r Gamallt - bron na fuasid yn denfyddio y gair ‘hudoliaeth’ ynglyn ag ef. Rywfodd doedd yr un peth yn hollol ddim i’w deimlo ynglyn ag ef mewn perthynas a’r llynnoedd eraill.

Byddai sawl un yn dod i ganlyn y pysgotwyr i dreulio’r noson yn y Gamallt, a’r rheini heb fod a fawr ddim i’w ddweud wrth bysgota fel y cyfryw. Dod i fwynhau cwmni y pysgotwyr; cael cymdeithasu gyda hwy yn y tŷ ac o gwmpas glannau y llynnoedd ‘rhwng cyfnos a gwawr’, i dreulio’r amser hudolus dros y ‘naid nos’ a’r ‘naid toriad dydd’.  Rhwng y ddwy naid yma, am ddwy i dair awr yn oriau mân y bore, byddai pawb yn y tŷ yn cael pryd o fwyd - rhyw swper hwyr neu frecwas cynnar.

Llenwid y tegell; cochid y mawn odditano hefo megin Robat Jôs Siop, goleuid y tŷ gan bedair neu bump o ganhwyllau gwaith wedi eu rhoi yng ngheg poteli yma ac acw. Ni fyddai prinder canhwyllau i oleuo: gofalai y rhai o’r pysgotwyr a weithiai o dan y ddaear yn y chwareli am ddigon ohonynt, gan mai dyna a ddefnyddid ganddynt yr adeg hynny wrth eu gwaith  bob dydd.

Byddai hwn a llall yn dweud sut y bu hi arnynt yn ystod y ‘naid nos’, ac os y bu dal, edmygid y pysgod a oedd wedi eu rhoi i bawb eu gweld ar ‘y grawan’ a oedd yn un pen i’r bwrdd hir. Ai y siarad a’r sgwrsio yn ei flaen; y tynnu coes a’r cellwair; ac aml i atgof a hanesyn yn nofio i’r wyneb yng nghanol y cwbl.

Awyrgylch gynnes, gymdogol yn cael ei chreu. “Eu hymgomio’n twymo’r tŷ” - fel y dywedodd rhywun, a hynny yng ngolau melynaidd y canwyllau gwaith. A’i ran yn sirioli y gwmniaeth a’r tŷ, llond grât o dân mawn cyn goched ag y gwnai y fegin ef.

Heb os nag onibai yr oedd bod ‘tros y nos yn y Gamallt’ yn brofiad arbennig; yr oedd yn brofiad unigryw. Roedd rhywbeth cyfrin ynddo, y math o brofiad na cheid mohono fo yn unman arall.

Rywfodd doedd y tymor ‘sgota ddim yn gyflawn heb fedru mynd ‘dros nos i’r Gamallt’, beth bynnag unwaith. Heb y tŷ ni ellid cael y nosweithiau hyn. Wedi rhyw loddesta am ychydig mewn atgof o’r amser a fu; rhyw ddwyn doe yn ôl - gobeithio yn wir y caiff llafur gwirfoddol aelodau y Cambrian ei barchu.
-------------------------------

*Ymddangosodd yn wreiddiol, fel rhan o erthygl hirach, yn rhifyn Medi 2004.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


27.8.16

Teulu Swch

Yr oedd rhan isaf pentref y Llan yn nyddiau ein plentyndod, gyda chysylltiadau hapus ag ardal Rhydsarn. Mwy felly na'r rhan uchaf, a byddem ni blant Tanymaes a Chapel Gwyn yn fynych, fynych yn byw, symud ag yn bod yn y man dymunol hwnnw.

Dyna ein maes chwarae yn ystod ein plentyndod ar lannau Afon Teigl o Blas Meini, tua Cefn Peraidd, lle y trigai William Pleming. Yr oedd yno Wil, Eluned, Robin a dau neu dri arall yn cyd chwarae â ni. Yna ymlaen am Dŷ Newydd, lle y trigai Hugh Hughes a’i deulu; Harry (fu yn gwerthu llyfrau yn y dref hon), a Blodwen y ferch, ond yn nes i’n hoed ni oedd Emrys. Mae’n debyg mai i ni fel teulu Bron Elliw, oedd yr atyniad poblogaidd, gan i fy mam fod yn ffrind blynyddoedd i Mrs Robert John Davies a drigai yno. Dyma y fan y ganwyd Tanymarian iddo. Caem fel plant llawer iawn o ryddid yn chwarae yn yr ardd oedd yn llawn coed afalau ac eirin, ag yr amser addas, caem hel yr hyn a allem gario o’r ffrwythau hynny.

Yr oedd tri o blant i Mrs a Mrs Davies sef Nem, Maggie a Gracie. Mae cof byw iawn gennyf hyd heddiw o blant ysgol Llan yn ffarwelio â’r ddwy ferch pan yr oeddynt yn ymadael (yn ieuanc iawn) am Awstralia bell. Llwyfan y stesion yn llawn o blant yn chwifio ar y trên am hanner awr wedi naw. Bu'r ddwy trosodd ar ôl rhai blynyddoedd, ond ddim i aros yn hir. Bu Nem yn ymwelydd fwy nag unwaith, weithiau am gyfnodau hir.

Croesi wedyn y ffordd fawr i’r Onnen. Yno y trigai Nan Roberts, neu i ni Nan yr Onnen. Yno hefyd oedd ei brawd Nem Roberts sydd wedi bod droeon yn hanes diddorol ynddo ei hun. Yr oedd yno hefyd fachgen o’n hoed ni sef Jackie Rogers. Gyda Jackie y caem fynedfa i’w gardd weithiau lle y treuliasom oriau lawer. Ymlaen i’r Bont (Ivy House yn ddiweddarach).

Eisteddwn yn rhes ar glawdd yr Hen Bost cyn i Gyngor Sir Meirionnydd adeiladu ar un bresennol yn y 30au. Yn union bron gogyfer a'r bont y gwelid Y Swch, a chofiaf yn dda y ddau a drigai yno. Rwy’n siwr bron mai Tom Lewis oedd gwr y tŷ. Byddai y giât i’r tir bob amser yn ddi glo, a chaem ninnau gerdded tuag at y tŷ. Eirin yno hefyd fel arfer, ond yn sicr un o’r lleoedd gorau i hel y mwyar duon a chaniatad llawn i fynd yno.

Ynglŷn â dynes y tŷ: ia, llais main; eithriadol o fain, bron yn cwichian, a hwnnw yn cario hefo’r gwynt i’r cylch i gyd. Het ac esgidiau trwm. Deuai i lawr o’r tŷ atom i’r Bont, a charai gael sgwrs a holi.

Yn y dyddiau hynny cynhaliwyd arddangosfa ddiwydiannol ag amrywiol iawn yn Llundain. Fe anfonwyd rhyw lond dwrn o chwarelwyr yno o’r Blaenau i arddangos sgiliau y diwydiant. Un o’r rhai hynny oedd John Llewelyn Owen, Tynymaes, Llan. Yr oedd dau o’i blant yn rhan o blant Tynymaes oedd yn mynychu Rhysdarn.

Daeth Mrs Lewis i lawr atom, a throdd at Ifor, yr hynaf o’r ddau, “Aros di,” meddai, “Mae dy dad wedi mynd i Wimbil yn tydi o,” “Ydi,” oedd yr ateb. “Dyw mae yn siwr o fod yn bell iawn. Mae nhw yn dweud mai lle prysur ag od ydi’r ‘Wimbil’ yma, a bu Wimbil yn rhan o’n geirfa ni amser maith ar ôl hynny.

Mae yn debyg mai y ffaith eu bod yn byw yn swn rhaeadr y ceunant a barodd i’r llais main, uchel, swnllyd weithiau fod yn nodwedd o’i chymeriad. Wel, dyna fo. Ond ...Mrs Ann Lewis, Swch: ddaru mi erioed ei hadnabod. Naddo Wir. Pwy oedd honno? Ar hyd fy oes clywais i erioed son amdani.
Na: Lisa Swch oedd y wraig yn adnabaem ni. Hi oedd yn byw yn Swch.


Erthygl gan R.H. Roberts, Stryd Cromwell
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.

Dolen i erthygl Sgotwrs Stiniog a phluen Ann Swch
Gallwch ddilyn hanesion Nem Roberts efo'r ddolen Llyfr Taith Nem yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


25.8.16

O Lech i Lwyn -Adar y Gerddi

Erthygl arall o'r gyfres am yr awyr agored a bywyd gwyllt. Allan Tudor ydi awdur y bennod yma.

Mor ffodus yr ydym yma i gael gweld amrywiaeth helaeth o adar yn dod i’r ardd i geisio tamaid o fwyd. Er ni allaf alw fy hun yn fawr o naturiaethwr, rwyf yn hoffi eu gwylio a sylwi cymaint o rywogaethau sydd yn dod hyd yn oed i ardal lle mae cymaint o adeiladau, fel Solihull.

Rwyf wedi nodi deg ar ugain o wahanol adar, gan gynnwys ymwelwyr megis y socan eira oedd yn destun colofn natur arall gan VPW, a’r coch dan aden. Rwyf hefyd wedi gweld y gwalch glas yn cymeryd drudwy oddi ar y lawnt yn yr ardd gefn a chudyll coch dof iawn yn cymryd bwyd bron o’r llaw!

Bu cyffro mawr yma ddwy flynedd yn ôl, pan ddaeth nifer o ‘Twitchers’ ar y cylchfan gyferbyn â’r tŷ. Wedi clywed oeddynt bod cynffon sidan (waxwing) wedi dod i’r gastanwydden uchel ar y gylchfan. Ni welais cymaint o gamerâu a sbinglas erioed! Bu’r adar yno am tua wythnos, a’r ‘twitchers’ yno bob dydd.

Un peth sydd yn gymorth rwy’n siwr yw fod Solihull, ac ardaloedd de Birmingham yn goediog iawn. ‘Leafy Warwickshire’ yw'r hen enw ar y cylch. Mae hyn yn peri syndod i ymwelwyr yn aml. Ar un adeg yr oedd tua phymtheg coeden yn ein gardd ni sydd yn gymharol fach. Bu'n rhaid cael gwared â nifer ohonynt oherwydd eu maint neu henaint. Bellach tua wyth sydd yma, arwahan i’r nifer fawr o lwyni.

Mae’r adar duon yn cynyddu yn ddiweddar, ond pur anaml y gwelir y fronfraith. Y drudwy ac adar y to yn prinhau yma hefyd. Y piod sydd yn cael y bai yma. Maent yn bla. Gwelais wyth yn yr ardd un diwrnod! Dywedir eu bod yn bwyta wyau a chywion yr adar mân. Er bod brain a sgrech coed yma, ni welais jac-y-do erioed, maent i gyd yn y Blaenau mae’n siwr!

Byddwn yn hongian cawell o gnau yn yr ardd yn y gaeaf. Maent yn boblogaidd iawn gyda thitw tomos las, adar y to a hyd yn oed y drudwy, sydd yn gwneud campau garw i gyrraedd y cnau.

Nythiad o gywion titw mawr. llun Paul W

Ar ochr gogleddol y tŷ mae blwch nythu i’r titw. Syndod fel y maent yn ei adael yn lan ar ôl gorffen magu eu cywion.

Mae creyr glas yn pasio drosodd yn aml hefyd. Nid ydynt yn boblogaidd gyda’r rhai sydd yn cadw pysgod mewn pyllau yn eu gerddi, gan eu bod yn ‘botshiars’ mor dda.

Ia, buasai’n gerddi llawer tlotach heb y llu pluog sydd yn ymweld a ni.
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

23.8.16

Taith y Pererin

Hanes un o hen ddramâu Stiniog.

Ymddangosodd y darn cynta', gan Pegi Lloyd Williams, yn rhifyn Tachwedd 1998.

Mae'n siwr gen i fod yna laweroedd hyd a lled y gogledd 'ma, a thu hwnt i Glawdd Offa yn dal i gofio mynd i weld drama Taith y Pererin gan John Ellis Williams yn 1934. Mae dros drigain mlynedd er hynny, ac eto rwyf yn cofio yn iawn cael mynd i'r 'Hall' efo'r ysgol i'w gweld, a mwy na hynny mae'n syndod i mi faint ydwi yn gofio ohoni. Rwy'n gweld rwan y llenni'n agor a Bunyan yn eistedd wrth y bwrdd yn sgwennu, ac er nad wyf yn cofio yr oll o'r cymeriadau mae gen i ddarluniau byw iawn yn fy nghof am ran Cristion, a fu ar y llwyfan bron drwy'r ddrama, a Ffyddlon wedyn efo darnau mawr, a Gobeithiol.
Cefais hwyl fawr wrth wylio'r Ffair Wagedd, efo'r gweiddi, y chwerthin, y dawnsio, ond rwy'n dal i gofio’r arswyd wrth wylio Cristion yn ceisio mynd trwy Gors Anobaith.

Cristion yn mynd trwy'r porth, a agorir gan Mr. Ewyllys Da.

 Oddi ar Wicipedia

'Roedd yna gôr llawn o 40 yn canu sawl emyn a thôn, a 30 o actorion, ac yn ddiweddar fe ddois ar draws rhestr o'r perfformiadau am Hydref a Tachwedd 1934, a dyma hi:

Hydref 4ydd/5ed/6ed – Blaenau; 10-Dolgellau; 20-Bootle; 25/26/27/30 – Llandudno; 31-Rhyl.

Tachwedd 1af -Corwen; 7-Bangor; 8/10 Penrhyn; 12 –Pwllheli; 16/17 – Caergybi; 28 – Bala; a'r dyddiad olaf sydd gen i yw Rhagfyr 14eg - Bae Colwyn. Mewn ffaith roedd y ddrama wedi rhedeg er y Pasg 1934.

'Roedd y dynion i gyd bron yn gweithio yn y chwareli, ac mae'n anodd amgyffred sut yr oeddynt yn medru brysio i 'molchi a newid a chychwyn ar deithiau i berfformio ar ôl diwrnod mor galed o waith.  A'r merched wedyn run fath - yn wragedd tŷ wedi golchi, llnau a gwneud bwyd, a hynny heb yr offer modern sydd gennym heddiw, neu wedi bod wrth ben eu traed trwy'r dydd yn gweithio mewn siop neu allan yn gweini.

A fydda John Ellis Williams yn cael criw fel hyn heddiw? Go brin.

Mae copi o'r ddrama gen i, a hefyd y gwpan arian a gyflwynwyd i bawb oedd wedi cymryd rhan. 'Doeddwn i fawr o feddwl wrth gael mynd o'r ysgol i weld y ddrama fy mod yn gwylio fy narpar ŵr ar y llwyfan.

Mae John Ellis Williams yn dweud yn y llyfryn mai prif amcan y perfformiadau cyntaf a drefnwyd yn y Blaenau oedd ceisio dangos beth sy'n bosibl ar lwyfan bychan, gydag ond ychydig o arian wrth gefn, ac â ymlaen i ddweud:
"Prynu'r defnydd i gyd a wnaethom, heb fenthyca dim byd ... Er hynny, ni chostiodd y stwff i gyd ond £14. 9s 0d ... Gorau po fwyaf, hefyd, o oleuadau a geir gyda'r mellt. Gwna lamp 100w y tro, ond am effaith wir dda mynner tair neu bedair ohonynt. Ynglŷn â'r dimmer, ni chyst hwn ond chwecheiniog am botel dda-da fawr, a naw ceiniog am switch a cable."
Hwyrach bod rhai yn rhywle yn cofio enwau y rhai oedd yn chwarae y prif gymeriadau.
--------------------------

Ymddangosodd yr ail ran, gan Steffan ab Owain, yn ei golofn reolaidd yn rhifyn Medi 2013. (Ymddangosodd ar y wefan yma ar y pryd hefyd)

Stolpia -Taith y Pererin

Tybed faint ohonoch chi sydd yn cofio’r ddrama lwyddiannus a lwyfannwyd gan y dramodydd a’r nofelydd John Ellis Williams, sef Taith y Pererin o waith John Bunyan?

Y mae hanes y ddrama hon wedi ei chroniclo yn ddifyr yn ei gyfrol Inc yn fy Ngwaed (1963) lle dywed
“Rhoddwyd y perfformiadau cyntaf o’r ddrama ym Mlaenau Ffestiniog nos Iau cyn y Groglith, nos Wener y Groglith, a nos Sadwrn y Pasg 1934... Roedd hi mor boblogaidd yn yr ardal fel y bu’n rhaid cynnal naw o berfformiadau yn y Blaenau”.
Actorion amatur oedd yn y ddrama i bob pwrpas a cheir llun ohonynt yn y gyfrol a nodwyd uchod. Pa fodd bynnag, deuthum ar draws y llun canlynol mewn llyfr Saesneg ‘North Wales Today’ ac ynddo cyfeiria at un o’r actorion a weithiai yn y chwarel. Tybed pwy all ddweud wrthym pwy oedd yr actiwr glandeg hwn sydd yn gwenu ar y camera ac yn dal ei gŷn a’i forthwyl?


--------------------------------------------

Fis yn ddiweddarach, bu llythyr a llun yn rhifyn Hydref 2013 yn ymateb.

Annwyl Olygydd,
Diddorol oedd gweld llun fy nhad yn rhifyn Medi o Lafar Bro (Stolpia - Taith y Pererin) sef William David Jones neu Wil Defi fel roedd yn cael ei adnabod yn lleol, gynt o 33 Heol Jones.

Ymddiddorodd mewn dramâu ar hyd ei fywyd gan ddechrau gyda chwmni enwog John Ellis Williams. Cynhyrchiad nodweddiadol arall oedd ffilm Syr Ifan ab Owen Edwards, Y Chwarelwr,  (1935)  a gafodd gryn hysbysrwydd yn ddiweddar gan gwmni teledu Cwmni Da.
Portreodd fy nhad rhan y mab (Wil).


Dilynwyd hyn gyda sefydlu Cwmni Drama Blaenau Ffestiniog  a thros gyfnod maith fe deithiodd y cwmni ledled Gogledd Cymru gyda'u perfformiadau.

Gan fod y wraig, Wendy a finnau yn enedigol o'r ardal, rydym ein dau yn edrych ymlaen  at dderbyn Llafar Bro bob mis, ac yn gwerthfawrogi  gwaith caled y rhai sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi.

Cofion cynnes
Dafydd Lloyd Jones, Dinbych.
---------------------------------------------

Chwiliwch am fwy o erthyglau am John Ellis Williams, Y Chwarelwr, ac ati, efo'r dolenni isod.

21.8.16

Trem yn Ôl -Gwaith Sets Pengwern, Manod

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'. 

Erbyn hyn ni allaf ddweud wrth fy wyres wrth fynd i’r Ysgol Sul yng Nghapel Bethesda: ‘weli di’r shŵt acw, dringais i fyny dros y talpiau gwenithfaen, o’r cryshar i fyny i’r awyr agored yn y top. Nid oes yna rŵan ond craith (un hagr, os ca’i ddweud) lle bu adfeilion diwydiant. Dechreuodd fy adnabyddiaeth o’r gwaith sets pan oeddwn yn byw yn 44 Heol Manod, hen offis y gwaith.

Wedi dechrau tyfu, ble roedd yr angen am ‘faes chwarae antur’ gyda’r gwaith sets wrth law? Roedd casgen gol-tar ar ei hochr a darn o bren gwneud si-so ardderchog. Arwydd o dyfu i fyny oedd gallu neidio o un wagen fawr y trên i wagen arall heb boeni am syrthio rhwng y ddwy gysylltydd a’r bympars.


Nid oedd yn bosibl chwarae yno heb gael col-tar ar eich dillad neu’ch dwylo a’ch coesau. Ein dull ni o gael hwnnw i ffwrdd oedd mynd i ryw boced yn ochr y wagen oedd yn llawn o rywbeth tebyg i saim, rhwbio’r col-tar efo hwnnw ac wedyn golchi’n hunain yn y ffos oedd yn rhedeg o Isfryn am Manod. Ychydig wyddem ni fod carthion yn mynd i’r ffos! Pan fyddai yn bwrw glaw byddem yn mynd i’r cwt conc (cwt concrit i’r dieithr). Yno byddai’r dynion yn rhoi’r cymysgedd mewn cafnau i wneud cwrbiau pafin. Roedd to sinc ar hwn felly roedd yn ddelfrydol ar ddiwrnod gwlyb.

Os byddem eisiau rhywun i chwarae nid oedd angen mynd i unlle heblaw’r gwaith sets ac os byddai awydd arnom i fynd ymhellach, cychwyn oddi yno, efallai i Lyn Top. Nid oedd Llyn Top yn lyn go iawn, dŵr wedi hel mewn twll lle bu rhywun yn cloddio oedd o, ac un gêm oedd mynd i dop y graig hefo llwyth o gerrig bach, gorwedd ar ein boliau a thaflu’r cerrig dros y dibyn ar gorff cath neu gi.

Defnyddid Llyn Top i’w boddi. Yr oedd hyn cyn dyddiau’r ‘vet’ yn Blaenau. Yr oedd Llyn Top yn ardderchog i ddal penbyliaid, llyffaint a genau coeg. Bu gennyf ddwsin o genau goegion mewn potiau jam ar sil y ffenestr gefn, ond un bore nid oedd yr un yno! “Wedi neidio allan mae nhw” meddai Mam.

O’r ‘ochor’ (ochr y mynydd; ochr y gwaith) gallem weld y byd a’r betws. Morgans plismon yn sythu, fo a’i wraig yn llond eu crwyn. Hannah Williams (Sir Fôn), ‘Mae Huw wedi cael gwaith efo ‘ffylau yn y chwarel’. Mrs Rolant Edwards yn sgwrio ‘sgidiau chwarel ar y wal fach yn y cefn. Ychydig wyddem y byddai ei hŵyr, Elwyn Edwards yn un o Brifeirdd Cymru.  Gwelem y prysurdeb o gwmpas Y Post - Mr Jones, Miss Iola a’r chwaer Miss Nellie, ac hefyd Bob (Simon) Roberts. Ffefryn y plant oedd Eban Huws yn y becws. Cofiaf fynd yno efo bara brith i’w crasu cyn y Nadolig.
[I'w barhau]
-Betty (Lloyd) Perring
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1990, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Hydref 2013 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

19.8.16

Stolpia -Clychau eto

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, yn parhau â'i drafodaeth am glychau.

Cloch  Botes
Ceir amryw o gyfeiriadau mewn hen ddogfennau at yr hyn a elwid yn ‘Gloch Botes’.  Dywed Bob Owen (Croesor) yn ei erthygl yn y Genedl Gymreig, Tachwedd 1930, ar glychau o bob math, y canlynol amdani hi:
‘Mewn amryw eglwysi cenid clychau fel yr ymadawai cynulleidfaoedd allan ar foreau Sul.  Ni wyddis beth roeddes fod i’r arfer hwn, os nad, meddai un ddigrifwraig, i roddi rhybudd i’r lladron i ymadael cyn i’r teuluoedd ddychwelyd o’r eglwys a’u drysu ar eu hanfadwaith.’

Nid yw pawb yn gytun ar yr amser y cenid y gloch hon.  Dywed rhai mai cyn mynd i’r gwasanaeth y gwneid hynny, tra dywed eraill mai ar ddiwedd y gwasanaeth y cenid hi. Yn ôl rhai cenid hi tua naw o’r gloch er mwyn i’r bobl gael digon o amser i fwyta eu potes, neu eu huwd cyn cychwyn am yr eglwys.  Ar un adeg byddid yn canu’r gloch hon ym Metws Gwerful Goch a dywedid mai ei diben yno oedd rhoi rhybudd i rai arhosai adref i baratoi cinio rhagblaen a chyn i’r meistri gyrraedd gartref.

Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog. Llun -Paul W
Cloch Crempog
Ar Fawrth Ynyd y cenid y gloch hon, a hynny am un-ar-ddeg, o’r gloch y bore.  Cloch i rybuddio’r mamau a’r morynion i roi crempogau ar y tân oedd hon yn ystod ei chyfnod diweddaraf.  Sut bynnag, cloch i alw ar y bobl i gyffesu oedd hi’n wreiddiol a chenid hi am wyth o’r gloch y bore mewn llawer eglwys, hyd yn oed pan nad oedd gwasanaeth yno.  Y rheswm am hyn oedd dangos fod gwasanaeth wedi arfer cael ei gadw yno ar yr awr honno ar un adeg.

Cloch y Dafarn
Dywedir mai cloch i wysio pobl o’r dafarn i Offrwm mewn claddedigaeth oedd hon yn wreiddiol.  Fel hyn y canodd Rowland Huw o’r Graienyn am yr arferiad yn Llanfor ger y Bala.
A’r Bugel heb gel sy’n galw – y defaid
O Dafarn y cwrw
Nid yw yn hel a’i dwyn nhw
I dy mawl ond am elw.


Chwithau aelodau goludog, - sain gwledd
Sy’n gladdest mor halog
Pa arwydd gras praidd y grog,
Clywch ganu Cloch y Geiniog.
Y Gloch Gnul
Byddid yn arferiad drwy Gymru gyfan ar un adeg i ganu y ‘Gloch Gnul’ neu’r 'Gloch Ymadawiad’ yn fuan ar ôl marwolaeth aelod o’r eglwys, neu ‘ar ôl i’r enaid ymadael o’r corff’, fel y dywedir.  Newidwyd hyn mewn llawer ardal yn ddiweddarach, mewn ambell le cenid hi ar y noson cyn yr angladd, neu ychydig cyn y cynhebrwng.  Gellid dweud ers talwm yn ôl nifer y tinciadau os mai dyn neu ddynes, hen lanc neu hen ferch, neu fachgen neu ferch a gleddid.

Mewn ambell fan arall, canai’r clochydd y clychau yn y fath fodd fel ag y gellid gweithio allan oedran y person a fu farw.  Gyda llaw, gelwid tâl y clochydd gynt yn ‘Ysgub y Gloch’, neu ‘Yd y Gloch’ neu ‘Blawd y Cloch’.  Mesur o geirch a gai’n daliad mewn ambell blwyf, - hanner mesur o wenith a hanner o haidd allan o’r Degwm.  Yn ystod y cynhaeaf âi’r clochydd i gasglu ysgubau o yd oddi wrth y plwyfolion.  Yn ôl cofrestr plwyf Betws Gwerful Goch am y flwyddyn 1774 yr oedd y person yn hawlio ‘Blawd y Gloch’.  Tybed a oes cyfeiriadau at y taliadau hyn yn ein plwyf ni a’r plwyfi cyfagos o gwbl?

O.N.  Cafodd y golofn ychydig sylw ar Raglen Hywel Gwynfryn y dydd o’r blaen, ac er na chlywais y rhan a ddilynodd y cyfweliad, deallaf i un o’m ymholiadau gael ei ateb mewn dim amser.  Holais os oedd yr hen ‘gloch cymun’ a fyddai yn Eglwys Llanrhyddlad, Ynys Môn ar gael heddiw, a chafwyd ateb cadarnhaol gan y Rheithor ei body n dal yno.  Diolch i bawb am eu diddordeb.


Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mawrth 1999.

-----------------------------------------------

Dilynwch erthyglau Steffan am GLYCHAU neu gyfres Stolpia efo'r dolenni isod.


17.8.16

Y Campau Cymreig

Ynghanol cyfnod y gemau Olympaidd yn Rio, dyma erthygl fer a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1998.

Pedwar camp ar hugain sydd, medd Dr. Davies yn ei Eirlyfr Lladin a Chymraeg (1662) – deg wrolgamp; deg mabolgamp a phedwar gogamp.

Y Gwrolgampau
– chwech o rym corff  a phedair o rym arfau:

cryfder dan bwysau;
rhedeg;
neidio;
nofio;
ymrafael codwm;
marchogaeth; 
saeth a bwa, a thaflu picell a gwaewffon;

chwarae cleddyf a tharian;
chwarae cleddyf deuddwrn;
chwarau’r ffon ddwybig

Y Mabolgampau
hela â milgi;
hela pysg;
hela aderyn;
barddoniaeth, canu telyn;
darllen Cymraeg;
canu cywydd gan dant neu gyda’r delyn;
canu cywydd pedwar ac acennu;
tynnu arfau, sef darllen a cherfio pais arfau;
herodraeth, sef bod yn hyddysg mewn gwleidyddiaeth, achau etc.

Y  Gogampau
Chwarae gwydd-bwyll (chess);
chwarae talbwrdd (draughts);
chwarae ffristial (dice);
cyweiriaw telyn.

(O Almanac y Miloedd 1902. Diolch i VPW)

15.8.16

Clwb Peldroed y Blaenau

Adroddiad ar gêm gynta'r tymor, gan Ceri Roberts, cyd-reolwr y tîm cyntaf.

Gêm gynghrair, ail adran Cymru Alliance; Cae Clyd, 13eg Awst 2016.

Amaturiaid y Blaenau 0 - 2 Llannerchymedd

Ar ôl cyfnod cyn-tymor gwych a threfnus, roedd Yr Amaturiaid yn cychwyn y tymor a'u hysbryd yn uchel. Yr unig beth sydd wedi mynd yn eu erbyn hyd at y gêm agoriadol yw'r nifer o anafiadau o fewn y garfan, gyda Cai Hughes, Gareth Evans, Huw Parry, Gethin Jones, Tomos Osian a Rhodri Pugh i gyd allan.

Gêm gynta'r tymor yn lleoliad gorau'r gynhrair.

Cychwynodd Yr Amaturiaid yn dda, wrth hawlio'r meddiant, a chadw siâp yn wych. Gwelodd Geraint Edwards ei ergyd yn crafu y tu allan i'r postyn, a Sion Jones ei ergyd drydanol yn cael ei arbed gan y gôlgeidwad!

Cafodd Yr Amaturiaid eu cosbi 5 munud cyn hanner amser am fethu eu cyfleuoedd o flaen gôl, pan sgoriodd Llannerchymedd yn erbyn llif y chwarae.

Cychwynodd yr ail hanner rhywbeth tebyg i'r hanner cyntaf, gyda'r Amaturiaid yn pwyso, ond methu troi cyfleoedd yn goliau. Gwelodd Kieron Ellis, yr is-gapten, ei ergyd yn chwibanu heibio'r trawst, ac aeth ergyd Joe Dukes dros y trawst o 5 llath, pan y dyliai wedi taro cefn y rhwyd.

Aeth y gêm o afael Yr Amaturiaid pan aeth Llannerchymedd ar yr ymosod yn erbyn llif y chwarae unwaith eto ar ôl i Gavin Lewis, yn y gôl i'r Amaturiaid, fethu a chlirio'r peryg, a rhoi'r dasg syml i ymosodwr Llannerchymedd o roi y bêl yn nghefn y rhwyd. Gyda'r amser yn diflannu, welodd Bedwyr Jones ei ergyd yn cael ei arbed, ac ergyd Karl Kavanagh hefyd.

Dyna sut orffennodd y gêm, gyda'r Amaturiaid yn teimlo y dyliai nhw fod wedi curo ar ôl chwarae'n dda iawn, gyda'r dorf yn eu canmol hefyd. Dal i gredu 'gia, llawer o bwyntiau uchel heddiw!!

Seren Yr Amaturiaid = Bryn Humphreys.

Colli oedd hanes yr ail dîm hefyd, yn erbyn un o ffefrynau cynnar Cynghrair Gwynedd, Bodedern, o naw gôl i ddim. Curodd Bodedern gwrthwynebwyr y tîm cyntaf, Llannerchymedd, 5-1 mewn gêm gyfeillgar ychydig wythnosau yn ôl, sy'n profi fod yno dîm cryf iawn y tymor yma.
----------------------------

Ymddangosodd yr adroddiad a'r llun yn wreiddiol ar dudalen Gweplyfr/Facebook Clwb Peldroed Blaenau Ffestiniog. Mae'r dudalen yn Gymraeg, felly 'Hoffwch' er mwyn dilyn a chael adroddiadau difyr fel uchod ar eu gemau. 
Pob lwc i'r clwb am y tymor i ddod.


13.8.16

Llyfr Taith Nem -tywydd ac egwyddorion

Pennod arall o atgofion Nem Roberts yn America.

Mae gwlaw Stiniog yn barchus iawn wrth ochr gwlaw Florida.  Ond yn rhyfedd, gynted i’r gwlaw beidio bydd y tir yn sychu ar ei union.

Mae Arizona wedyn yn dipyn uwch nac arwynebedd y môr, a’r hin felly ychydig yn fwy ffafriol.  Ond y ffaith ydyw bod llawer o amrywiaeth tywydd yn y gwahanol Dalaethau yn yr Amerig. Mewn Talaethau fel Wyoming, Montana a De Dakota gwelir y ‘cowboys’, a’r miloedd gwartheg.  Mae’n wybyddus fod y dynion hyn y cysgu llawer yn yr awyr agored, ond er hynny dywedir fod mwy o ‘silicosis’ ym mysg y ‘cowboys’ nag sydd ym mysg unrhyw ddosbarth arall o ddynion.  Mae’n debyg mai yr hyn sydd yn gyfrifol ydyw y llwch sy’n codi oddiar y ddaear sych pan symudir yr anifeiliaid.  Yn amal iawn gwelir hwynt yn gwisgo cadach ar eu hwynebau tra wrth eu gwaith.

Erbyn hyn mae oes y lladron anifeiliaid wedi darfod, ond yr oedd llawer o ladrata pan oeddwn yno gyntaf yn 1910.  Yr oedd pawb o’r bron yn cario dryll yr amser honno, ond yn wir, welais i ddim llawer anghyffredin fel y gwelir yn y sinema.

Yn ystod yr ail ryfel byd, treuliais y rhan fwyaf o fy amser yn gweithio mewn ierdydd llongau yn Wilmington, Delaware, a Brooklyn.  Yn Brooklyn cynyrchwyd ‘Dreadnoughts’, a’r llongau rhyfel trymaf.  Ffitar oeddwn a gweithiai bawb 12 awr y dydd, bob dydd o’r wythnos.

Nid wyf yn hoffi na chredu mewn gweithio dros wyth awr y dydd, ond nid oedd dewis i neb.  Yr oedd y cyflog yn uchel anghyffredin, ond am bob un fu’n ofalus o’r arian enillai, yr oedd naw yn gwario yn ofer, ac ar derfyn y pum mlynedd yr oedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr heb ddimai goch, y cwbwl wedi mynd ar oferedd.

Pan oeddwn gartref un tro, deallais fod llawer o chwarelwyr bro fy mabandod yn gweithio yn Nhanygrisiau a Thrawsfynydd ar y cynlluniau trydan, ac yn ennill arian mawr, dan yr un amgylchiadau ac y gweithiwn innau yn Brooklyn, a’r un oedd yr hanes - gwario ofer.

Brwydrodd ein tadau a’n teidiau am gael wythnos resymol o waith, ond mae dynion heddiw yn tynnu dan draed yr egwyddorion a’r brwydrau hynny.  Methant a deall nad oes arian wedi ei greu sydd yn ddigon i dalu am egwyddor.

Rhyfedd ydyw meddwl nad yw pobl yn ddiogel mewn dinas fel Efrog Newydd, a lleoedd eraill o ran hynny, yn yr ugeinfed ganrif. Yn y cyswllt yma diddorol ydyw astudio rhai o ystadegau yr Unol Dalaethau.  Yn ystod 1962 yr oedd y boblogaeth yn 175 miliwn.  Lladdwyd 41,000 ar y prif heolydd gan geir modur.  Clwyfwyd miliwn a hanner ar yr heolydd.  Y mae 90 miliwn o yrwyr modurau yn y wlad, sef mwy na hanner y boblogaeth.  Mae rhif mawr o blant yn myned i’r ysgolion gyda’i moduron ei hunain, a theimlaf fod hyn yn beth ffôl.  Dechrau ar foethau bywyd cyn dechrau ar waith.

Ar wahan i hynny mae’r peth yn golygu costau mawr i drefnu lleoedd i barcio ceir ger ysgolion cyffredin.  Gall plentyn 15 oed yrru cerbyd modur yn ôl y ddeddf yn yr Amerig, a chredaf fod hyn yn oed rhy gynnar o gryn dipyn, gan nad ydyw plant yn sylweddoli perygl pan mor ieuanc.

Ffolineb hefyd ydyw caniatau gwyr a merched dros 80 oed yrru cerbyd modur.  Bu hanes un gŵr yn gyrru cerbyd ond yn dibynnu yn hollol ar gyfarwyddid bachgen wrth ei ochr.  Bu hyn yn mynd ymlaen am gyfnod maith hyd nes i ddamwain ddigwydd, ac felly daeth y peth i’r olwg.
----------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

11.8.16

Hen Enwau, Hen Gyfeillion

Am gyfnod hir yn y nawdegau, bu Allan Tudor yn cyfrannu erthyglau difyr ac amrywiol mewn cyfres o'r enw Sylwadau o Solihull. Dyma ddarn ganddo o rifyn Chwefror 1999.

Rhai misoedd yn ôl, yr oedd Steffan ab Owain yn cyfeirio at y ffaith fod y fferm Creigiau Duon hefyd yn cael ei alw yn Rega Duon ar lafar gwlad. Dyna fyddai i yn ei alw bob amser, yr un fath a Mam.

Mae nifer o enwau yn y cylch sydd yn ‘dioddef’ yn yr un modd. Dyma rai y gwn i amdanynt:
Felinrhyd (Fawr a Bach) – Lenthryd.
Cae Einion Alun – Cangau Ala.
Coed Cae Du – Croicia Du.
Nant y March – Llanhamarch.
Caerhigylliad – Carnylliad.
Llech y Cwm – Llechcwn.
Llwyn Einion – Llwyn Eifion.
Gellilydan – Gelldan.
Gardd Llygaid y Dydd – Garllag Tŷ.

Byddaf yn meddwl tybed a yw pob enw ‘swyddogol’ yn gywir, ynte oes yna rai lle mae’r ffurf llafar yn nes i’r gwreiddiol. Sylwer fod yr enw Felinrhyd yn cael ei nodi fel y Felenrhyd yn y Mabinogi. A oes enghreifftiau eraill yn y cylch tybed?


Ychydig cyn y Nadolig cefais lythyr hynod o didddorol a hollol annisgwyl o Pennsylvania, oddi wrth Margaret Knott (Parry gynt). Yr oeddem yn yr un dosbarth yn Ysgol y Moelwyn (a gyda Dafydd ac Eleri). Arferai fyw yn y rhes dai sydd i’r ochor ddwyreiniol i Gapel Bowydd.

Heb weld ein gilydd ers hanner can mlynedd. Mae yn derbyn ‘Llafar Bro’ trwy Dafydd ac Eleri, ac wedi gweld fy enw a chyfeiriad ynddo yn ddiweddar. Rhyfedd ynte, dros y milltiroedd a’r blynyddoedd. ‘Sgrifennais yn ôl ar f’union, gan awgrymu ei bod yn rhoi peth o’i hanes i chwi o’r wlad bell. ‘Rwy’n siwr buasai cyfraniad oddi wrthi yn werth i’w gael, gan bod dawn ‘sgrifennu, mewn Cymraeg coeth iawn ganddi. O ia, un peth bach, ‘rwyf yn disgwyl treulio pythefnos ym Mrynmawr eto eleni, canol Mehefin, gan obeithio ymuno yn y daith gyda’r Gymdeithas Hanes.
-----------------------------------------------

Mwy o hanesion Allan trwy'r dolenni isod.

9.8.16

Hanesion Hynod Anti Cein

Bu son am ardal Ceunant Llennyrch fwy nag unwaith eleni ar wefan Llafar Bro. Yma cawn ddychwelyd efo pennod o hanesion Ceinwen Roberts, Gellilydan.

Ffordd Llenyrch   
Roedd ffordd Llenyrch fwy na ffordd drol oherwydd roedd na drafeilio nôl a blaen garw arni o Lenyrch, ac o Can-y-Coed, Muriau Gwyddil a'r ddau Nant Pasgen. Ond roedd yn rhaid cael caniatad y teulu i fyned dros y bont yma. Yn y dyddiau cynnar roedd wageni yn cario rhisgl coed derw er mwyn llifo a rhoi lliw i'r lledr yn y barcdu yng Ngellilydan. Byddai gweision Llenyrch yn gorfod edrych ar ôl y ffordd yma bob cam o Dŷ'n Coed hyd cyrraedd i fyny at y tŷ. Mae tir glas wedi ei gorchuddio drosti bellach.

Unwaith y mis byddai dau o'r gweision yn myned a throl i siop Llwyn Impiau, Gellilydan ac i'r Co-op gyda dau geffyl, Prince a Duke. Cychwyn yn ôl wedyn efo'r nwyddau heibio Bryntirion, Penglannau a Thŷ'n Coed. Un ceffyl oedd yn y drol fan yma, ac ar ôl mynd dros y bont roedd rhaid cael dau geffyl ac 'roedd cerrig gwynion ar hyd un ochor i'r ffordd i'w hwyluso os byddai wedi dechrau nosi rhag ofn mynd dros yr ymyl i'r afon. Pasio Llwybr Hywel a’i garped o garlleg gwyllt. 'Roedd Rhisiart Evans yn dweud mae y Rhufeiniaid a'u plannodd yno am eu bod yn dda i'r milwyr at eu hiechyd.

Craf y geifr yw enw arall garlleg gwyllt. Llun -Paul W.
Dal i fynd ymlaen a chyrraedd tro Bryn Llin a dyma'r ffordd yn fforchio - un i Lenyrch, un arall i Furiau Gwyddil a'r llall i Ga'n Coed. Aeth y gweision a'r ceffylau ymlaen a'u llwyth; dal arni ar i fyny nes cyrraedd Cae Pen Coed, trwy ddau gae enfawr ac i mewn i iard Llenyrch. Dadlwytho, rhoi ffîd a brwsio'r ceffylau a myned i gael te gwerth chweil gan Margiad Evans a Nel y forwyn ffyddlon a fu yn gweini am flynyddoedd yno. Roedd Nel a'i brawd, Gwynoro, wedi cymeryd eu cartref yno ar ôl iddynt golli eu mam pan oeddynt yn ifanc iawn. Hefyd, roedd eu dewyrth, Hywel Parry yno yn was ffyddlon i'r teulu.

Rhaid mynd yn ôl eto i dro Bryn Llin, lle roedd y ffordd yn fforchio i gyfeiriad Muriau Gwyddil.

Pasio yr ail raeadr: yr enw ar hon oedd Rhaeadr Ceunant Geifr. Yma mae rhedyn cyfrdwy yn tyfu ac ddim yn unlle arall yn y Ceunant. Y rheswm, meddai Rhisiart Evans, ei fod yn y fan yma yw am fod y Twrne Llwyd wedi rhoi pridd o'r Iwerddon yma am fod cymaint o ofn nadroedd amo. Doi yma o Blas Penglannau i bysgota yn fynych. Roedd 'na bont arall yn nes i fyny, un fechan wedi rhoi llechfeini arni i'w chroesi. Rwyf wedi eistedd ar ganol y bont yma gyda diweddar gyfaill annwyl i mi sef Gwynoro.

Rhaid mynd yn ôl eto i Bont Llenyrch a dweud mae yn 1943 neu '44 aeth i lawr. Gwyrth oedd na fuasai rhywun wedi ei ladd.

Ar ochr isa'r bont roedd 'na bwll dwfn yn yr afon. Lle da i bysgota, ac un arall yn uwch i fyny ar gyfer tro Bryn Llin. Deuai llawer o'r pentrefi gyfagos yma a chael llawer o bleser wrth ddal y pysgod; roedd na ddigon ohonynt i bawb bryd hynny.

Roedd y Sabath yn ddiwrnod arbennig gan deulu Llenyrch, ac yn edrych ymlaen at oedfa yn y capel bach, cangen o Gapel Presbeteriaid Gellilydan a Maentwrog isaf. Byddai pregethwr wedi bod yn rhoi pregeth yn Maentwrog Ucha' yn y bore, yn y prynhawn yn Llenyrch, yr hwyr ym Maentwrog Isaf.

Roedd rhaid paratoi pethau yn barod. Myned i fyny y staer, ac yn fan hyn ar ben y staer oedd hen gwpwrdd derw. 'Doedd neb yn gwybod ei oed, mae'n bur debyg ei fod wedi bod yn y teulu ar y dechrau, ac yno yr oedd y gers ceffylau yn cael eu cadw, ac yn cael eu glanhau yn rheolaidd. Roedd yno 'cape' ddu fawr wedi ei leinio hefo gwlanen goch a choler uchel iddi. Pwrpas hon oedd pan fyddai Richard Evans yn mynd hefo Duke y ceffyl at geg ffordd Llennyrch yn Tŷ'n Coed byddai 'n rhoi y Gweinidog ar gefn y ceffyl, a rhoi y 'cape' drosto rhag iddo oeri. Ar ôl Y bregeth, dod yn ôl i'r un fan. Ai Rhisiart Evans yn ôl gyda'r ceffyl ffyddlon, a rhoi y 'cape' ar gers yn eu holau tan y tro nesaf .
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1999.
Dilynwch hanesion eraill gan Anti Cein efo'r ddolen isod.

7.8.16

Peldroed. 1975 - 1977


Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).

1975-76

Yn 1975-76, oherwydd bod nifer clybiau Cynghrair y Gogledd wedi lleihau trefnwyd 'Cynghrair Atodol'.  Y deg clwb yn y gynghrair arferol efo'r Blaenau, oedd Bangor, Bethesda, Bae Colwyn, Caernarfon , Dyffryn Nantlle, Llandudno Swifts, Porthmadog, Pwllheli, Rhyl a Wrecsam.

Rhanwyd hwy i ffurfio cynghrair ychwanegol, a'r pedwar clwb a oedd yn chwarae Stiniog ddwywaith yn ychwanegol oedd Porthmadog, Pwllheli, Caernarfon a Dyffryn Nantlle.  Trefniant digon annerbyniol oedd hyn.  Digwyddodd fod yn un trychinebus i Stiniog oherwydd ni enillasant yr un gêm yn y Cynghrair Atodol a dim ond saith yn y Gynghrair arall.

Gwnaethant yn well yn y cwpannau, yn arbennig yng Nghwpan Cymru.  Curwyd Prestatyn a Llai cyn colli i Kidderminster ar ôl gêm gyfartal yn y Blaenau. Rhyl a'u curodd yn yr ornest am Dlws Lloegr.  Y prif sgorwyr oedd Brian Strong, Richard John a Richard Evans.  Y dda a fu yn y gôl amlaf oedd John Fergus a Norman Bennett.  Ymysg eraill a fu'n chwarae oedd Selwyn Hughes (Dolwyddelan), Alan Caughter, David Hughes a McKriesh.

1976-77

Ymddatododd Cynghrair y Gogledd ymhellach ym 1976-77 a pharhawyd efo'r Gynghrair Atodol,  Darfu y Blaenau yng ngwaelodion y Gynghrair ond cyrhaeddwyd ffeinal Cwpan Alves.  Roedd y Blaenau yn y tymor hwn yn cymryd rhan yn y cystadlaethau Cwpan Ganolog Cymru a Chwpan Ganolog y Gogledd - gornestau i weithredu yn lle y cwpannau amatur, fel y tybid, beth bynnag.
Curfa o 0-4 gan Point of Air gafodd Stiniog yn y gystadleuaeth genedlaethol a chollasant i Fiwmares yn y cwpan arall, wedi curo Rhos Colwyn.

Enillwyd yn erbyn Caergybi a Chei Connah yng Nghwpan Cymru cyn colli yn Lloegr i Bridgnorth - eto wedi cael gêm gyfartal yn y Blaenau.

Roedd y Blaenau y tro hwn, am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, yn cynnal tîm wrth gefn a oedd yn chwarae yng Nghynghrair Dyffryn Conwy ac a enillodd bencampwriaeth adran 'B'.  Tîm hollol leol oedd gan y Blaenau ym 1976-77 ac y mae'n werth enwi y chwaraewyr:

Martin Lloyd (49) Glyn Jones (41) Ellis Roberts (41) Selwyn Hughes (38) Philip Roberts (32) Gwilym Arthur Roberts (31) Carl Davies (34) Gareth Roberts (38) D. Benjamin Williams (24) Richard John (20) Robat Gwilym Thomas (36) Glyn Davies (40) John Harris (12) Kevin Coleman (17), Andrew Roberts, Paul Davies, Malcolm Evans, Brian Jones, Michael Hyde, Bryn Jones, Alan Jones, Brian Davies, Philip Evans.

Y tri sgoriwr pennaf oedd Gareth Roberts (21), Glyn Davies (13) a Richard John (5).  Chwaraewyd 42 o gemau ac enillwyd 11.

Ar ddiwedd y tymor hysbyswyd bod dyled y clwb wedi ei setlo.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2006.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod. 

5.8.16

Pobl y Cwm - y trigolion

Pennod olaf y gyfres.
Efo'r cyflwyniad gwreiddiol gan Vivian P Williams.

Daw atgofion y ddiweddar Ellen Williams i ben gydag ychydig o mwy o hanes y Cwm a fu mor annwyl yn ei llygaid. Cawn ganddi y tro hwn enwau'r rhai a drigai yng nghartrefi Cwm Cynfal yn y flwyddyn 1900, ac ym 1946. Fel gyda'i hysgrifau dros y misoedd blaenorol, ni wneir ymdrech gennym i newid ar arddull ei chyflwyniad mewn unrhyw fodd, rhag colli dim o'r naws gartrefol, wladaidd ynddynt. Pan yn cyfeirio at 'heddiw' yn yr ysgrifau, rhaid cofio iddynt gael eu cofnodi yn ystod y 1970au.     
- - - - - - - -
 
Rhaeadr y Cwm

Cwm Cynfal, cwm anwyl i mi, nis gwn a oes rhywun yn gwybod prun ta cwm sydd wedi gael ei enwi oddiwrth yr afon prun ta afon sydd wedi cael ei henwi oddiwrth y cwm.

Tarddle afon Cynfal yw y Mignint. Cychwyna o Gerigyreirch a daw Afon Gam yn gwmni iddi gyda'r enw Groesddwyafon, a daw Afonlas o gyfeiriad Graigwen iw huno yn afon Cynfal. Rhed drwy ganol plwyf Ffestiniog a phlwyf Maentwrog nes iddi uno yn y Ddwyryd. Weithiau rhed yn llithrig ac yn droellog, ac yn araf yn wyn risialaidd glan a chlir. Dro arall yn wyllt ac yn swnllyd gynddeiriog gan lluchio ei dyfroedd yn drochion coch ei glanau. Dyma adeg mae Rheadr y Cwm yn werth ei weld, ac amser y bydd y pysgodwyr wrth eu bodd.

Ochr dde [gogledd -gol.] i afon Cynfal, yr amaethwyr a chymdogion fel yr wyf fi yn eu cofio oedd yn byw ar ddechreu canrif 1900:

1. Ffarm y Cwm, Robert a Jane Humphreys.
2. Bontyrafongam, William Roberts a'i briod, dau fab a merch.
3. Foelgron, roedd dau dŷ yno heb fod yn mhell oddiwrth y Llyn. Yn 1 Foelgron roedd William a Dorothy Owen yn byw, a pump o blant, pedwar mab ac un ferch, Sarah Ann, mae hi yn byw yn y Blaenau heddyw, ac yn cofio ei hun yn mynd i Hafodfawrisa a chael te yno, a mynd hefo Jane Owens, merch Hafodfawrisa i lanhau yr Hen Babell.
4. Rhif 2 Foelgron, Owen ac Ann Davies, mab a pedair o ferched, Mae un or merched yn byw heddyw yn Llety Gwylym.
5. Hafod Offeiriaid, Robert ac Ellen Evans, dau fab a dwy ferch.
6. Soflmynydd, Thomas a Cathrine Jones, a merch a dau fab mabwysiedig.
7. Bryn Llech, Edward a Jane Jones a pump o feibion a phedair merch.
8. Bryncyfergid, Humphrey a Kate Evans, dau fab ac un ferch.
9. Bronerw, Robert ac Elizabeth Jones, dau fab.
10. Bron Goronwy, Dafydd ac Ann Price, tri mab a pum o ferched.
11. Tyddyngwynbach, Harry a Mary Williams a dau fab. Bu iddynt hwy fel teulu ymfudo i Australia yn 1906.
12. Tyddyngwynmawr, Owen a Sarah Williams a dau fab.
13. Bontnewydd, Price a Chathrin Jones, pedwar mab ac un ferch.
14. Cefnpanwl, Ann Richards, gwraig weddw, tri mab.
15.Bodloesygad, Barbra Roberts, gwraig weddw, un mab a merch ac wyr.
16. Tycoch, John a Margiad Morris, dau fab a dwy ferch.
17. Pantglas, Pierce a Harriet Williams, un mab dwy ferch.
18.Wenallt, Harry Parry ai briod, tair o ferched.
19.Tynffridd, Meredydd a Mary Parry, un ferch fabwysedig.
20. Tynffridd bach, John a Alice Jones.

Ochr chwith [ochr ddeheuol -gol.] i afon Cynfal, 1900:
 
1. Tyddyn bach, Jane Jones, gwraig weddw, dau fab a merch.
2.Hafodfawrucha, Thomas Weaver ai briod, a thair o ferched, Saeson. Goruchwyliwr coedwigoedd oedd T.H.Weaver., Yn Hafodfawrucha y dechreuwyd planu'r coed yn Cwm Cynfal, ryw dro tua dechreu y ganrif 1900.
3. Hafodfawrisa, William a Ellen Owen, tri mab a dwy ferch.
4. Cochgwan, Robert a Martha Jones, tri mab a dwy ferch.
5. Brynsaeth, Thomas a Betsan Williams ac un mab, mae o yn byw yn Clogwynbrith heddyw.
6. Llechgoronwy, yn feudy ar y pryd, yn perthyn i ffarm Tynfedwen.
7. Tynfedwen, Richard a Sarah Williams a saith o feibion a dwy ferch.
8. Cae Iago, Cathrine Owen, gwraig weddw, dau fab a merch ac wyr.
9. Brynmelyn,  Evan a Gwen Roberts, tri mab a dwy ferch a wyres.
10 Brynrodyn,  Evan a Sarah Jones, teulu newydd ddod yno o Patagonia.
11. Garth, Dafydd Jones, gwr gweddw, un mab a dwy ferch.
12. Cynfal Fawr, Pierce a Chathrin Jones, un mab a pedair merch, mae un ferch, Gwen yn byw yn Ne Affrica heddyw.
    -----------------------------------------

Amaethwyr a chymdogion Cwm Cynfal yn 1946. [Gogledd]:

1. Ffarm y Cwm, Gruffydd a Ellen Davies, un mab.
2. Bontyrafongam, Nid wyf yn gwybod pwy oedd yno ar y pryd, gan fod dau neu dri o deuluoedd wedi bod yn byw yno yn y cyfamser.
3. Foelgron, Y ddau dy wedi mynd yn fyrddin.
4.
5. Hafodoffeiriaid, neb yn byw yno.
6. Soflmynydd, Thomas Lewis, hen lanc yn byw ei hun.
7. Brynllech, John a Gwennie Roberts, un ferch.
8. Bryncyfergid, Evan Evans, gwr gweddw, dau fab a thair merch.
9. Bron Erw,  Robert John a Elizabeth E.Jones, dwy ferch a mab.
10. Bron Goronwy, Rolant a Jennie James.
11.Tyddyn Gwynbach, Ar yr 11fed o Tachwedd 1946, ymfudodd John a Gwennie Roberts yno ac un ferch.
12.Tyddyn Gwynmawr, Thomas a Sarah Smart, un ferch, un mab.
13. Bontnewydd, Huw a Jane Roberts, un mab.
14. Cefnpanwl, John a Laura Morris, dwy ferch a mab a dwy wyres.
15. Bodloesygad, Robert a Ann Jones, tair o ferched ac un mab.
16. Pant Glas, Saeson.
17. Ty Coch, Robert a Lina Williams ac un mab.
18. Ffarm Tynffridd, Gwynedd a Gwyneth Lloyd.
19. Tynffridd, Elizabeth Jones, gwraig weddw.
20. Wenallt, Huw John a Megan Ephraim ac un ferch fach.

[Ochr ddeheuol, 1946]:

1.Tyddyn bach, Jeffrey.
2. Hafodfawrucha, Sam a Maggie Williams, dau fab a merch.
3, Hafodfawrisa, Harry a Sarah Jones, dwy ferch a mab.
4. Cochgwan, yn wag.
5. Brynsaeth, Daniel a Ann J.Davies, pump o ferched a dau fab.
6. Llechgoronwy, Fred Williams a'i briod, un ferch.
7. Tyn y Fedwen, Ellis a Winnie Thomas, dwy ferch a mab.
8. Cae Iago, Gwen Roberts, gwraig weddw, dwy ferch a pump mab.
9, Bryn Melyn , Edward a Lowie Roberts, tair merch a dau fab.
10. Bryn Rodyn, Robert a Gladys Jones, dwy ferch.
11. Garth, Petr a Annie Jones.
12. Cynfalfawr, Pierce a Mary E. Jones, dwy ferch a mab.
------------------------------------

Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn Llafar Bro yn ystod 1999 a 2000.
Dilynwch y gyfres gyfa' efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

3.8.16

Ar Wasgar -Seindorf

Erthygl fer a ymddangosodd yn y gyfres 'Ar Wasgar' gan alltudion o Fro Ffestiniog, yn rhifyn Tachwedd 1998.

Daw'r cyfraniad i golofn yr alltudion gan Mr Glynne Griffiths, Ross-on- Wye yn Swydd Henffordd, y mis yma (Glanypwll gynt).

Flynyddoedd yn ôl yr oeddwn yn byw ym Mlaenau Ffestiniog a phan oeddwn yn ddyn ieuanc yr oeddwn yn aelod o Seindorf yr Oakeley. Mae ffrindiau yn anfon Llafar i mi yn gyson ac mae yn bleser mawr cael clywed hanes y Seindorf unwaith eto. Yr wyf yn 94 ym mis Rhagfyr ac wedi gadael y Blaenau ers 1952 ond mae'r dref yn dal i fod yn agos iawn i'm calon. Efallai bydd y llun yma o ddiddordeb i chwi ac i aelodau presenol y Seindorf.




 'Rwyf yn meddwl fod y llun yma wedi ei dynnu yn Happy Valley yn Llandudno yn 1930 yn ystod cyngerdd ar brynhawn dydd SuI.

Yr ydwyf i yn eistedd yn y rhes gyntaf (3ydd o'r chwith fel yr ydych yn edrych ar y Hun). Robin Smith sy'n eistedd wrth fy ochr, a John Roberts yw enw un o'r hogiau bach (mab Hugh sydd yn chwarae tenor trombone) a Denis Lewis yw'r llall - mae ei dad o'n chwarae'r horn.

Os ydwyf yn cofio yn iawn William Richards yw yr arweinydd a Lewis y Gloch oedd y cadeirydd ar y pryd. Pe taswn yn medru gweld y llun mi allwn enwi mwy ond yr ydwyf wedi colli fy ngolwg chwe blynedd yn ôl.

Gobeithio fod y pwt o hanes yma 0 ddiddordeb i chwi. Cofion Goreu.
-------------------------------------

Os allwch chi enwi rhai o'r cerddorion, gyrrwch neges. Diolch. 

1.8.16

O'r Pwyllgor Amddiffyn -ymladd anghyfiawnder

Y frwydr yn parhau...

Cyfarfod gyda’r Cynghorau Iechyd Cymunedol
Ganol Mehefin, aeth dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn i gyfarfod aelodau Cyngor Iechyd Cymunedol Gwynedd yn Nhremadog a hynny am y pedwerydd tro o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Drannoeth, ac am yr eildro o fewn ychydig fisoedd, roedden ni hefyd yn cyfarfod ag aelodau Cyngor Cymunedol Conwy yn Abergele.

Y bwriad, wrth gwrs, oedd tynnu sylw’r ddau CIC at y sefyllfa gwbwl annerbyniol sy’n bodoli, bellach, yn yr ardal hon cyn belled ag y mae gofal iechyd yn y cwestiwn, a hynny o’i gymharu â’r hyn a gaiff ei gynnig mewn ardaloedd eraill, hyd yn oed o fewn Sir Feirionnydd ei hun. Roedden ni yno i ofyn iddynt barhau i gefnogi ein safiad a rhoi pwysau ar y Pwyllgor Deisebau newydd yng Nghaerdydd i gadw’n deiseb yn agored yn fan’no, fel bod y pwysau’n cynyddu ar y Gweinidog Iechyd newydd.

Roedd y ddau bwyllgor yn gefnogol iawn i’n cais a chaed addewid pendant y byddent yn cynorthwyo mewn ffordd ymarferol.
 
Ffurflenni cŵyn
Yn ystod Mehefin a Gorffennaf, bu cyfle i rai ohonoch nodi eich cwynion, ar ffurflenni pwrpasol am safon y gofal iechyd yn lleol. Erbyn hyn, daeth pentwr o’r ffurflenni yn ôl inni, wedi eu cwblhau, a bydd y Pwyllgor Amddiffyn rŵan yn mynd ati i ddefnyddio’r wybodaeth sydd arnynt i brofi, eto fyth, i’r Betsi, mai gwasanaeth eilradd sy’n cael ei gynnig ganddynt yn yr ardal hon, ers cau yr Ysbyty Coffa.

Diolch eto am barhau i’n cefnogi, er bod ambell eithriad yn eich mysg, yn ôl pob sôn, sy’n deud "Does gen i, beth bynnag, ddim byd ond canmoliaeth i’r gwasanaeth", cystal â beirniadu’r Pwyllgor Amddiffyn am neud ffýs. Ond dadl gwbl hunanol ydi honno, wrth gwrs, ac un sy’n adleisio geiriau’r Sais ‘I’m alright Jack!

Mae’r gymuned hon wedi bod yn un glôs iawn ar hyd y blynyddoedd ac wedi arfer ymladd yn erbyn anghyfiawnder o bob math. Mae’n bwysig ein bod ni’n dal ati i wneud hynny, ac efo un llais, os yn bosib.
 
Gweinidog Iechyd
Anfonwyd llythyr at y Gweinidog Iechyd newydd, Vaughan Gething, yn ei groesawu i’w swydd ac yn gofyn iddo gyfarfod dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn yn ei swyddfa yng Nghaerdydd ond, fel ei ragflaenydd, gwrthod wnaeth o, a hynny am yr un rheswm, eto fyth –
Wna i ddim ymyrryd efo rhywbeth sydd wedi cael ei benderfynu’n lleol’!

Ond pwy ddaru benderfynu’n lleol? Yn sicr, nid 99% ohonoch chi, bobol y cylch! Na phobol Dolwyddelan yn sir Conwy chwaith! Nonsens llwyr ydi hawlio unrhyw fath o drefn ddemocrataidd yng Nghymru bellach.

Cofio
Ar y cyntaf o Orffennaf roedd ein prif weinidog Carwyn Jones yn mynychu gwasanaeth yng nghadeirlan Llandaf i gofio aberth y milwyr Cymreig a laddwyd ym mrwydyr y Somme, ganrif yn ôl. ‘Ni ddylen ni fyth anghofio’r rhai a frwydrodd mor ddewr dros ein dyfodol ni
medda fo, tra ar yr pryd yn dewis anghofio ei fod o a’i lywodraeth wedi rhoi sêl bendith ar ddymchwel yr Ysbyty Coffa yma yn Stiniog; adeilad oedd yn gofadail i 407 o ddewrion y cylch a syrthiodd mewn dau ryfel byd. Rhagrith, ta be?
-----------------------------------------


Addasiad o erthygl Geraint Vaughan Jones, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch hanes y frwydr efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.