27.8.16

Teulu Swch

Yr oedd rhan isaf pentref y Llan yn nyddiau ein plentyndod, gyda chysylltiadau hapus ag ardal Rhydsarn. Mwy felly na'r rhan uchaf, a byddem ni blant Tanymaes a Chapel Gwyn yn fynych, fynych yn byw, symud ag yn bod yn y man dymunol hwnnw.

Dyna ein maes chwarae yn ystod ein plentyndod ar lannau Afon Teigl o Blas Meini, tua Cefn Peraidd, lle y trigai William Pleming. Yr oedd yno Wil, Eluned, Robin a dau neu dri arall yn cyd chwarae â ni. Yna ymlaen am Dŷ Newydd, lle y trigai Hugh Hughes a’i deulu; Harry (fu yn gwerthu llyfrau yn y dref hon), a Blodwen y ferch, ond yn nes i’n hoed ni oedd Emrys. Mae’n debyg mai i ni fel teulu Bron Elliw, oedd yr atyniad poblogaidd, gan i fy mam fod yn ffrind blynyddoedd i Mrs Robert John Davies a drigai yno. Dyma y fan y ganwyd Tanymarian iddo. Caem fel plant llawer iawn o ryddid yn chwarae yn yr ardd oedd yn llawn coed afalau ac eirin, ag yr amser addas, caem hel yr hyn a allem gario o’r ffrwythau hynny.

Yr oedd tri o blant i Mrs a Mrs Davies sef Nem, Maggie a Gracie. Mae cof byw iawn gennyf hyd heddiw o blant ysgol Llan yn ffarwelio â’r ddwy ferch pan yr oeddynt yn ymadael (yn ieuanc iawn) am Awstralia bell. Llwyfan y stesion yn llawn o blant yn chwifio ar y trên am hanner awr wedi naw. Bu'r ddwy trosodd ar ôl rhai blynyddoedd, ond ddim i aros yn hir. Bu Nem yn ymwelydd fwy nag unwaith, weithiau am gyfnodau hir.

Croesi wedyn y ffordd fawr i’r Onnen. Yno y trigai Nan Roberts, neu i ni Nan yr Onnen. Yno hefyd oedd ei brawd Nem Roberts sydd wedi bod droeon yn hanes diddorol ynddo ei hun. Yr oedd yno hefyd fachgen o’n hoed ni sef Jackie Rogers. Gyda Jackie y caem fynedfa i’w gardd weithiau lle y treuliasom oriau lawer. Ymlaen i’r Bont (Ivy House yn ddiweddarach).

Eisteddwn yn rhes ar glawdd yr Hen Bost cyn i Gyngor Sir Meirionnydd adeiladu ar un bresennol yn y 30au. Yn union bron gogyfer a'r bont y gwelid Y Swch, a chofiaf yn dda y ddau a drigai yno. Rwy’n siwr bron mai Tom Lewis oedd gwr y tŷ. Byddai y giât i’r tir bob amser yn ddi glo, a chaem ninnau gerdded tuag at y tŷ. Eirin yno hefyd fel arfer, ond yn sicr un o’r lleoedd gorau i hel y mwyar duon a chaniatad llawn i fynd yno.

Ynglŷn â dynes y tŷ: ia, llais main; eithriadol o fain, bron yn cwichian, a hwnnw yn cario hefo’r gwynt i’r cylch i gyd. Het ac esgidiau trwm. Deuai i lawr o’r tŷ atom i’r Bont, a charai gael sgwrs a holi.

Yn y dyddiau hynny cynhaliwyd arddangosfa ddiwydiannol ag amrywiol iawn yn Llundain. Fe anfonwyd rhyw lond dwrn o chwarelwyr yno o’r Blaenau i arddangos sgiliau y diwydiant. Un o’r rhai hynny oedd John Llewelyn Owen, Tynymaes, Llan. Yr oedd dau o’i blant yn rhan o blant Tynymaes oedd yn mynychu Rhysdarn.

Daeth Mrs Lewis i lawr atom, a throdd at Ifor, yr hynaf o’r ddau, “Aros di,” meddai, “Mae dy dad wedi mynd i Wimbil yn tydi o,” “Ydi,” oedd yr ateb. “Dyw mae yn siwr o fod yn bell iawn. Mae nhw yn dweud mai lle prysur ag od ydi’r ‘Wimbil’ yma, a bu Wimbil yn rhan o’n geirfa ni amser maith ar ôl hynny.

Mae yn debyg mai y ffaith eu bod yn byw yn swn rhaeadr y ceunant a barodd i’r llais main, uchel, swnllyd weithiau fod yn nodwedd o’i chymeriad. Wel, dyna fo. Ond ...Mrs Ann Lewis, Swch: ddaru mi erioed ei hadnabod. Naddo Wir. Pwy oedd honno? Ar hyd fy oes clywais i erioed son amdani.
Na: Lisa Swch oedd y wraig yn adnabaem ni. Hi oedd yn byw yn Swch.


Erthygl gan R.H. Roberts, Stryd Cromwell
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.

Dolen i erthygl Sgotwrs Stiniog a phluen Ann Swch
Gallwch ddilyn hanesion Nem Roberts efo'r ddolen Llyfr Taith Nem yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon