23.8.19

Cymdeithas byd chwarel

Erthygl arall o'r archif; y tro hwn o rifyn Gorffennaf 1979. (Lluniwyd o ysgrif Ifor Jones, ‘Hunangofiant Creigiwr’, Y Caban, 1958)

Nodwedd arbennig bywyd chwarel flynyddoedd yn ôl oedd agosatrwydd y gymdeithas; brawdgarwch a orlifodd i fywyd y dref gan achosi cychwyn torreth o fân gymdeithasau oriau hamdden.  Ffrwyth brawdgarwch y chwareli, ochr yn ochr ag angen am seibiant a lluniaeth ganol dydd yn y gwaith, oedd y tai bwyta; ac un o’r achlysuron mwyaf diddorol oedd dewis y swyddogion i redeg y caban yn rheolaidd. 


Roedd hi’n arferiad ar un tro i enwi chwe pherson, gan bleidleisio i’w tynnu i lawr i ddau.  Yna dewisid yr un.  Y swyddogion o fewn y tai bwyta oedd y llywydd, yr ysgrifennydd, trysorydd, amserydd a phlismon.  Diddorol yw nodi yma fod yr arferiad o godi ‘plismon’ i gadw trefn a disgyblaeth yn dal i fynd, oherwydd dyma deitl y swyddog yng Nghôr y Moelwyn sy’n gyfrifol am osod y côr ar lwyfan.

Gwaith yr ‘amserydd’ yn y ty bwyta fyddai rhoi tair cnoc ar y bwrdd gyda morthwyl wedi ei wneud o ddarn o goes rhaw i rybuddio am amser smocio.

Gwaith cyntaf y ‘llywydd’ ar ôl “agor y tŷ” fyddai gofyn i’r ysgrifennydd a oedd rhywbeth i’w gyhoeddi.  Byddai hefyd yn croesawu dieithriaid, rhai yn symud o un rhan o’r chwarel i’r llall, gan geisio ei orau i’w gwneud yn gartrefol – ond hefyd yn eu hatgoffa i dalu am eu te cyn ymadael.

Ei gyfrifoldeb nesaf oedd gofyn a oedd gan rhywun rywbeth “ar ei feddwl” ac weithiau byddai dadleuon gwych neu hwyl diniwed, ond miniog.  Roedd ambell ddadl yn parhau am bythefnos neu dair wythnos.

Bob Nadolig byddai eisteddfod yn y tai bwyta – rhain hefyd yn parhau am dair wythnos.  Byddai dwy brif gystadleuaeth – unrhyw alaw dan 40 oed; a thros 40 oed.  Byddai pawb yn cael ei fyddaru gan guriadau potiau jam ar y byrddau – tipyn o swn o gofio bod tua 80 o ddynion yn ambell gaban.

Byddai llawer o driciau direidus yn cael eu chwarae o dro i dro.

Roedd y rhai a arferai weithio tan ddaear, tua mil o droedfeddi dan yr wyneb, yn gorfod cerdded sbel i fyny ac i lawr grisiau rhwng agor a chaban.

Wedi cyrraedd yr agor rhaid oedd cael “pum munud llygad” – cyfle i’r llygaid ddod i arfer â’r tywyllwch wedi golau dydd.

Faint o gyn chwarelwyr ymhlith ein darllenwyr sy’n barod i anfon atgofion o hwyl a naws y tai bwyta, neu am y dadleuon a’r eisteddfodau gynt?  Ewch ati i chwilio’r cof ac anfonwch atom.



18.8.19

Y Deryn Nos a’i Deithiau


"A’i fel hyn ‘roedd hi?" Dyna mae 'T.W' yn holi yn yr erthygl hon o rifyn Ebrill 1988.

Dafydd Roberts yw’r awdur, COF CENEDL III yw’r gyfrol, a’r testun yw golwg arall ar fywyd ardaloedd y chwareli.  “Gwerthoedd y capel oedd gwerthoedd y gymdeithas” yw un olwg ar yr ardaloedd hyn.  Cymdeithas grefyddol, ddiwylliedig, magwrfa beirdd, pregethwyr, a llenorion oedd yn awchus am addysg.  Crud radicaliaeth gyda phynciau mawr y dydd yn destun dadl a thrafodaeth yn y caban ganol dydd.  Ardaloedd y dosbarthiadau nos a’r W.E.A, gyda dosbarth Tanygrisiau ymysg y cynharaf.  Bywyd yn troi o gwmpas y capel a’i bethau ac o gofio yr adeiladwyd 27 ohonynt rhwng Talwaenydd a Cwmorthin yn unig, rhaid derbyn fod dylanwad crefydd yn drwm ar y fro. 

Nid yw’r awdur yn gwadu hynny am foment.  Ceisio y mae ail-gloriannu beth yn union a ddigwyddodd yn y gorffennol.  Ac o gofio bod nifer o dafarnau yn y Blaenau – 52 meddai rhywun wrthyf fi – yna mi roedd y rheini mor niferus a’r capeli.  Â’r awdur ymlaen i gyfaddef fod darpariaeth helaeth ag eang gan y capeli ar gyfer eu haelodau.  Fel enghraifft yn Soar, Penygroes yn 1912 cafwyd dadl ar ddameg y mab afradlon a’r mab hynaf yn cario’r dydd gyda 49 pleidlais a dim ond 12 i’r Mab Afradlon.  Yn wir mi roedd yna gyfarfodydd o bob math.


Ond erbyn 1920 daeth newid gyda sefydlu neuaddau YMCA yn y Blaenau a Llan a llawer llan arall.  Cafodd y Neapolitan Opera Company groeso arbennig yma ar waethaf traddodiad y Gymanfa Ganu ac ymhen ychydig o flynyddoedd daeth y ffilmiau a’r sinemau.  Ond bernir mai’r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gollodd anghydffurfiaeth rhai o’i gwerthoedd mwyaf hanfodol oedd un achos pam y collodd y capel ei ddylanwad.  Bu cryn wrthgilio wedi’r rhyfel honno.  Erbyn 1922 cwynai gohebydd Y Genedl fod gan y chwarelwyr ifanc fwy o ddiddordeb mewn pêl-droed, paffio, betio a darllen llyfrau diwerth na mewn gwir ddiwylliant.  Erbyn 1925 cwynai Silyn Roberts bod y bwci yn medru byw yn fras yn y Blaenau. 

Bu ymdrechion i droi’r llif yn ôl drwy dduo colofnau betio’r papurau yn y llyfrgell.  Roedd meddwi’n broblem hefyd.  Cyfeiria’r awdur at cyn lleiad o son am y dafarn mewn nofelau sy’n portreadu bywyd yr ardaloedd y chwareli a soniai am y ‘deryn nos’.  Oedd na rai yn y Blaenau tybed?  Ym Methesda (Arfon) byddant yn cario parseli o’r stesion ond gyda’r nos byddai ganddynt waith arall.  Roedd y cotiau llaes a wisgant yn ddelfrydol i guddio poteli a jygiau a gariant o ddrysau cefn tafarnau i dai ddigon parchus. 

Wrth derfynu dywed yr awdur:
“nid saint oedd chwarelwyr Gwynedd i gyd, ac nid yw yn deg nac yn gywir i haneswyr eu portreadu felly”.

Ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng de a gogledd yn hyn o beth.  Mi fuasai’n ddiddorol cael gwybod os oes sail i sylwadau Dafydd Roberts am fywyd yn ardal y chwareli.  Rwyn siwr y byddai’n falch iawn os y buasech yn ei oleuo.




14.8.19

Sgotwrs Stiniog -Ceffyl Gwyn, Plu Llwyd

Pennod o gyfres Emrys Evans o'r archif:

Mi fum am dro o gwmpas y ddau Lyn Gamallt, ac yna ei chodi hi i fyny at Lyn Ceffyl Gwyn.  Dyna’i enw ar lafar, ond Llyn Bryn Du ydi’o ar y map.  Gofynnais innau pam, tybed, yr oedd o’n cael ei alw’n Llyn Ceffyl Gwyn?

Trawodd Tecwyn Fron Dirion, arnaf ychydig yn ôl a dweud iddo glywed mai y rheswm am hynny ydoedd i ryw bregethwr fod ar daith rhwng Ysbyty Ifan a Llan Ffestiniog ac yn marchogaeth ar geffyl gwyn ac iddo drwy ryw anffawd, beth bynnag a achosodd hynny, fynd i drafferthion wrth y llyn ac i’r ceffyl foddi ynddo.  Ers hynny cyfeiriwyd at y llyn ar lafar fel ‘Llyn Ceffyl Gwyn’.

Llawer o ddiolch Tecwyn.  Oes yna rywun arall a fedr roi rhywfaint mwy o fanylion ynglyn â’r digwyddiad tybed?

*********

Dro yn ôl bum yn holi am batrwm pluen, sef ‘Llwyd Corff Main’.  Gweld cyfeiriad ati hi a wneuthum
yn llyfr y diweddar Barch Griffith Parry. Ymhen ychydig derbyniais lythyr oddi wrth Eurwyn Roberts, y cawiwr plu o Ddolwyddelan, yn rhoi imi y patrwm, ac ar ben hynny yn amgau y bluen ei hun.

Dyma y mae Eurwyn yn ei ddweud yn ei lythyr am y bluen ‘Llwyd Corff Main’:
“Yr wyf wedi bod yn gwneud llawer o’r patrwm yma i gyfaill a fydd yn pysgota Llynau Mymbyr yng Nghapel Curig.  Yr wyf yn credu ei fod yn pysgota’r Afon Llugwy efo’r bluen yma hefyd.  Nid wyf yn siwr o lle daeth y patrwm, ond mae patrwm yr un fath yn y llyfrau Saesneg – ‘Blue Upright’.  Efallai fod y patrwm yma’n cael ei defnyddio ym Methesda ..”
Mi fydd hi’n rhaid imi holi rhai o ‘Hogia Bethesda’ pan ddaw cyfle gan y bu’r Parch Griffith Parry yn Weinidog yno am gyfnod yn y pumdegau. Rwy’n ddiolchgar iawn ichi am anfon ataf Eurwyn, ac hefyd yn falch o gael enghraifft o’ch gwaith yn cawio.

Dyma batrwm y bluen ‘Llwyd Corff Main’:
Bach         12
Cynffon    Fel y traed
Corff         Cwil o gynffon paun.  Dim cylchau
Traed        Llwyd-las, neu liw mwg fel y mae ambell i un yn ei ddweud am y lliw yma.
Cawio’r corff yn fain iawn, a gwneud y bluen i gyd yn ysgafn.

Crybwyllodd y Parch Griffith Parry bluen arall yn ei lyfr, sef ‘Llwyd Mawrth’.  A oes rhywun yn gwybod beth ydi patrwm honno?
--------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1988

9.8.19

Enwau lleoedd yn Chwarel Llechwedd (2)

Ail bennod cyfres Steffan ab Owain, o'r archif

Y tro diwethaf cawsoch ychydig o hanes yr hen Dŷ Crwn a Phlas Waenydd gennyf.  Wel, y tro yma rwyf am son ychydig am leoedd gerllaw’r plas a rhan islaw’r chwarel.

Yn gyntaf oll, os edrychwch i fyny tuag at y plas mi welwch Geunant y Llechwedd ar y dde iddo.  Mae’r ceunant yn werth i’w weld ar ôl glaw trwm a phan mae’r dŵr yn bwrlymu ac yn trochioni ar ei ffordd i lawr i’w waelod. 

A gyda llaw, nid ceunant naturiol mohono o gwbwl, ond un wedi ei wneud gan ddyn!  Ie, torrwyd a
rhychwyd y ddaear nes gwneud ceunant gweddol ddwfn yno, a gosodwyd cerrig fflags ynddo wedyn a walio’r ochrau’n daclus.  Yn ei ran uchaf tyllwyd twnel neu lefel drwy fynydd Y Cribau er mwyn gwyrdroi’r Afon Barlwyd ryw hanner milltir i fyny, ac felly ei rhwystro i fynd i gyfeiriad y gwaith a chreu difrod ar adegau o lifogydd.  Yn ddiau, golygodd hynny gryn dipyn o gynllunio a llafur, onid do?  Pa bryd y gwnaed y gwaith hwn, tybed?

Y Cribau o Blas Waenydd. Llun- Paul W

Rwan, ceir cyfeiriad at un o’r hen lefelydd uwchlaw’r plas, a llawer peth arall ynglyn a Chwarel Llechwedd o ran hynny, yn hen ddyddiaduron y diweddar Mr Daniel Williams.  Gŵr o Ddolwyddelan ydoedd a bu’n gweithio yn y chwarel am lawer blwyddyn ac yn cadw dyddiaduron diddorol tra bu yno.  Mae’n bosib bod rhai ohonoch yn cofio rhannau o’i ddyddiaduron yn ymddangos o dro i dro yng ngholofn Y Fainc Sglodion gan J.W. Jones erstalwm o dan yr enw ‘Dyddiadur Hen Chwarelwr’.  Wel, yn ei ddyddiadur am Chwefror 4, 1897 dywed hyn:
"Clywed bod cerrig yn dyfod i’r golwg yn Lefel Tai Frest".  
Wrth gwrs, enw ar yr hen dai sy’n adfeilion uwchlaw Plas Waenydd yw Tai’r Frest, ynte?  Ynddynt y preswylia nifer o drigolion Talwaenydd yn y dyddiau gynt.

A throi ein golygon ar y ceunant unwaith yn rhagor, daw i’m cof y pwll a fyddai yn ei waelod erstalwm ac a elwid yn Llyn Gro.  Weithiau, ar ôl llif mawr ceid clamp o firthyll ynddo, hwnnw wedi ei gario i lawr yr afon a’r ceunant, wrth gwrs.  Drwy ddilyn yr afon o’r pwll gwelir hi’n diflannu o dan dwnel bach am ysbaid ac yna yn ailymddangos uwchlaw lle o’r enw Pant yr Afon.  Disgrifir y rhan yma o’r fro gan Dr. Robert Roberts (Isallt) yn ei gerdd ‘Chwarelau Blaenau Ffestiniog Ddoe a Heddiw’ fel hyn:
‘Cae Drain a Bryn Tirion, Tai’r Frest, Pant yr Afon,
A’r Cribau’n adfeilion (i’n dynion fu’n do).
Tŷ Crwn a’i un simdda, sydd hefyd yn chwalfa,
A’r Plas ar ei seiliau’n preswylio’...  
-----



Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 1988, mewn cyfres o'r enw 'Llên Gwerin'.



7.8.19

Y Goron yn y Chwarel

Adolygiad un o lyfrau diweddar Myrddin ap Dafydd 
 
Daw nofel ddiweddara’ Myrddin â chyfnod cyffrous yn hanes Stiniog yn ôl yn fyw. Nofel sy’n
ymwneud â digwyddiadau wedi cyrhaeddiad ifaciwi o dras Indiaid o Lerpwl i’r Blaenau yw hon.

Daw’r bachgen ifanc yn rhan ganolog o stori afaelgar sy’n cyfeirio at nifer o bynciau oedd mor, ac sydd yn dal yn gyfarwydd i drigolion yr ardal yn ystod yr ail ryfel byd. Mae Sardar, yr ifaciwi yn dod yn rhan o’r gymdeithas hollol Gymraeg, gan ddysgu’r iaith ymhen dim, ac yn gwneud llawer o ffrindiau yma.

Daw enwau sawl lleoliad adnabyddus y fro i’r wyneb gan yr awdur, wrth i’r cymeriadau ein harwain hyd strydoedd Bowydd a Wynne a Thanyclogwyn a nifer eraill. Cawn ein tywys ganddynt hefyd dros leoliadau gydag enwau sydd mor gyfarwydd i ni, megis Cwt y bugail, Bwlch Carreg y Frân a Thramffordd Rhiwbach.  Mae’r disgrifiadau o’u teithiau i bentref Rhiwbach, a chyfarfod un cymeriad oedd yn dal i fyw yno yn arbennig o ddiddorol i un fel fi, sydd â chysylltiadau gyda’r chwarel honno uwchben Cwm Penmachno.

Mae hynny’n ein harwain at yr hyn ysbrydolodd y nofel, sef hanes cuddio casgliadau o gelf a thrysorau’r Oriel Genedlaethol, Llundain, a thrysorau’r teulu brenhinol a chasgliadau eraill ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel. A chawn gwmni difyr prif gymeriadau’r nofel wrth iddynt greu awyrgylch gyffrous o amgylch digwyddiad yn ymwneud â’r trysorau rheiny. Mae’r elfen hon yn y nofel yn dod â blas o’r cyfnod hanesyddol yn ôl i’r darllenwyr, ac yn cyfleu’r teimladau oedd yn bodoli dros gyfnod yr ail ryfel byd yma yn ardal y chwareli. Mi fydd y gyfrol yn sicr o fod o ddiddordeb mawr i ddarllenwyr Llafar Bro.

Diolch i’r awdur am ein hatgoffa o’r hanes, ac am gyflwyno cymaint o gymeriadau amrywiol i’n tywys dros ein hardal annwyl y dyddiau fu.
V.P.W.

Y Goron yn y Chwarel. Gwasg Carreg Gwalch £6.99
---------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2019