25.3.24

Clwb Camera Blaenau Ffestiniog

Sefydlwyd y clwb yn 1961, ac ymhlith yr aelodau cyntaf oedd Ted Breeze Jones a Gwilym Livingstone Evans. Cynhaliwyd y cyfarfodydd cynnar yn adeilad yr Urdd cyn symud i'r Caban ar Y Sgwâr.

Aelodau tua diwedd y 90au

Dros y blynyddoedd mae'r clwb wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau yn erbyn clybiau eraill, a sawl aelod wedi ennill anrhydedd gan y Gymdeithas Ffotograffiaeth Brenhinol am eu gwaith. Mae'r clwb yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Ffotograffiaeth Gogledd Cymru, ac mae lluniau aelodau yn ymddangos yn gyson mewn arddangosfeydd a chystadlaethau gan y Gymdeithas.

Mae tymor y clwb yn rhedeg o fis Medi i Ebrill gyda theithiau yn cael eu trefnu yn yr haf. Un o anturiaethau cynnar y clwb oedd i Ynys Enlli. Yn yr 80au aeth y clwb ar ymweliad i Ynys Llanddwyn, ond ni wnaeth dau aelod blaenllaw (Selwyn ac Arthur) ystyried y llanw a bu rhaid tynnu esgidiau, sana a throwsus i gyrraedd yn ôl ar dir sych. Ar achlysur arall cyrhaeddodd aelod lleoliad y daith a darganfod nad oedd ei chamera yn y bag!

Penmon gan Gareth Williams

Mae rhaglen y clwb yn amrywio o nosweithiau ymarferol ble byddem yn dysgu am feddalwedd ffotograffeg cyfrifiadurol; i nosweithiau gwerthuso lluniau ein gilydd, gyda chystadlaethau mewnol ar themâu penodol. Hefyd yn rhan o'r rhaglen bydd y clwb yn estyn gwahoddiad i ffotograffwyr o glybiau eraill i son am eu gwaith hwythau. 

Llyn Traws gan Helen Kelly

Un o uchafbwyntiau'r tymor presennol oedd noson yng nghwmni y Parchedig Richard Hainsworth o glwb yr Wyddgrug. Mae Richard yn arbenigo mewn ffotograffiaeth 'astro' a dangosodd luniau gwych o'r Llwybr Llaethog (Milky Way), y sêr a galaethau eraill.

Mae'r pandemig a'r cyfnod clo wedi newid y ffordd mae clybiau yn gweithredu; mae ymweliadau â chlybiau eraill wedi darfod (ar hyn o bryd), ac mae rhai clybiau wedi gorfod cau. Erbyn heddiw dim ond deuddeg aelod sydd yng nghlwb y Blaenau, a rydym yn awyddus i groesawu aelodau newydd o bob oedran, gallu a phrofiad. Does dim rhaid cael camera mawr heddiw, mae ffôn symudol a chamera compact yn cynhyrchu lluniau o ansawdd gwych.

Mae'r clwb yn cyfarfod yn y Ganolfan Gymdeithasol am 7:30yh (am tua 2 awr) ar nos Fercher, Medi i Ebrill. Am fwy o fanylion ewch i wefan y clwb neu cysylltwch â Dewi Moelwyn Williams ar 07855 988260.
- - - - - - - - - -

Darn o rifyn Chwefror 2024


22.3.24

Hen Furddunod a Phwerdy

Y siaradwr yng nghyfarfod Ionawr Cymdeithas Hanes Bro Ffestinog oedd Steffan ab Owain. Daeth criw da ynghyd i'w glywed yn traddodi ei drydedd darlith ar hen furddunnod y plwyf. 

Y tro hwn cychwynnodd gyda hanes Llennyrch y Moch a Thŷ Coch yn y Manod, cyn symud i dai a safai ger Llyn Dubach yn Chwarel Dŵr Oer. 

Oddi yno aeth â ni at Lyn Bowydd a Llyn Newydd ble yr oedd Hen Dŷ'r Mynydd a Thŷ'r Mynydd gan adrodd hanesion am drigolion yr annedd-dai hynafol hynny. 

Gorffennodd ei sgwrs gyda hanes y tai a oedd yn chwareli Maenofferen a Lord, sef Tyddynnod Maenofferen, Quarry Bank, Tŷ Pwdin, Tai Defn a'r Tŷ Uncorn Uchaf.

Cafwyd trafodaeth ddifyr ar y diwedd a rhannwyd straeon am gymeriadau a oedd yn byw yn rhai o'r hen gartrefi. Diolchwyd i Steffan gan Gwyn Lloyd Jones o'r Bala, sy'n aelod ffyddlon o'r gymdeithas.

Eifion Lewis oedd yn rhoi darlith cyfarfod Chwefror, a'i destun oedd Pwerdy Maentwrog. Cawsom hanes creu Llyn Trawsfynydd ganddo ac adeiladu'r argaeau gwreiddiol yn y 1920au; helaethu'r llyn yn y pumdegau efo camlesi, a'r argae newydd yn y 1990au.

14.3.24

Pwy a Saif Gyda Ni?

Cafwyd noson arbennig arall o adloniant; diwylliant; chwyldro ar nos Wener olaf Ionawr, yng nghaffi Antur Stiniog. Hon oedd y cyntaf o dair noson ym misoedd cyntaf 2024, dan ofal cangen Bro Ffestiniog o’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. Efallai y cofiwch bod 5 noson wedi eu cynnal yng nghyfres Caban y llynedd.

Llun gan Hefin Jones

Y bytholwyrdd Tecwyn Ifan oedd yn canu y tro hwn, gydag ambell i gân llai cyfarwydd a nifer o’r clasuron. Denodd yr hen ffefryn ‘Y Dref Werdd’ gyd-ganu gan y gynulleidfa, a’r gytgan:

‘Awn i ail-adfer bro
awn i ail-godi’r to
ail-oleuwn y tŷ.
Pwy a saif gyda ni?’ 

Llun gan Cadi Dafydd
yn arbennig o deimladwy ac yn berthnasol iawn hyd heddiw. 

Y prifardd Ifor ap Glyn oedd y gwestai arall, yn adrodd rhai o’i gerddi, gan gynnwys ‘Mainc’ sy’n cyfeirio at fainc sglodion y chwarel. 

 

Roedd hynny’n taro nodyn am mae diwedd Cymdeithas Y Fainc Sglodion yn lleol ysbrydolodd ni i gychwyn y nosweithiau yma. 

 

Gwych oedd gweld y caffi yn llawn eto, a’r artistiaid yn cael gwrandawiad arbennig gan bawb oedd yno. 


Eto i ddod: hanes Gareth Bonello a Meleri Davies yn noson Caban Chwefror.

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2024

Cofiwch am noson ola'r gyfres (tan yr hydref) ar Ebrill y 5ed, efo Gwyneth Glyn a Twm Morys yn canu, a sgwrs gan yr awdur Mike Parker.


8.3.24

Tad a Mab Disglair

Roedd G.J. Williams yn brifathro Ysgol Gynradd Glanypwll yn 1862, pan gyhoeddodd ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf. Ond cyn dilyn cwrs yng Ngholeg Normal Bangor bu’n gweithio yn chwarel Llechwedd, ac roedd ganddo enw am fod yn ddaearegwr galluog. Yn 1891 derbyniodd gymhorthdal gan y Gymdeithas Ddaearegol at gyhoeddi ysgrifau ar fynyddoedd Manod a Moelwyn. 

Camwaith y tad
Doedd dim syndod felly iddo gael ei benodi’n ddirprwy i’r archwiliwr mwyngloddiau le Neve Foster, fel y dywed John William Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig. Ond rhoddir 1895 fel blwyddyn y penodiad, ac erbyn hynny roedd le Neve Foster wedi gadael ei swydd. A oes camgymeriad yn y dyddiad, neu a fu iddo gael ei benodi gan olynydd le Neve Foster? 

Ganwyd Daniel, mab G.J. Williams, yn Ffestiniog yn 1894. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Cymru yn y ddinas, lle enillodd sawl ysgoloriaeth a graddio mewn mathemateg yn 1917 (cafodd aros yn y coleg yn ystod rhyfel 1914-18 oherwydd cyflwr bregus ei iechyd). Am ychydig bu’n astudio sefydlogrwydd awyrennau dan arweiniad ei gyn-bennaeth coleg ac arbenigwr arall yn y maes. Yna ymunodd ag Adran Aerodynameg y Labordy Ffisegol Gwladol yn Teddington, a dyna lle y bu am weddill ei yrfa. Ymgymerodd â gwaith damcaniaethol a thwnel-gwynt ar awyrlongau i ddechrau. Yna trodd at astudiaethau twnel-gwynt ar awyrennau.

Ond yn 1930 galwyd arno i newid ei ddyletswyddau. Yn y flwyddyn flaenorol adeiladwyd yr awyrlong R 101 dan nawdd y Weinyddiaeth Awyr i fod yr un gyntaf o ddwy a fyddai’n cynnal gwasanaeth teithio rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig. 

R 101, gwrthrych astudiaeth y mab (llun: yr Archifau Gwladol a Wikimedia Commons)
Hon oedd yr awyrlong fwyaf yn y byd ar y pryd – 731 troedfedd o hyd. Ar ôl ehediadau arbrofol ac addasiadau (gan gynnwys ymestyn ei hyd ac ychwanegu un bag hydrogen at y rhai oedd arni eisoes er mwyn cynyddu ei hysgafnder) aeth ar ei thaith dramor gyntaf ym mis Hydref 1930. Ond syrthiodd i’r ddaear yn Ffrainc gan ladd 48 o’r 54 ar ei bwrdd. Dyna un o drychinebau gwaethaf y degawd yn hanes awyrlongau, a rhoddwyd terfyn ar ddatblygiadau Prydain yn y maes. Ar gais cadeirydd y llys a sefydlwyd i ymchwilio i’r digwyddiad gofynnwyd i Williams gydweithio ar gyfrifiadau ar ehediad terfynol R 101. Derbyniodd ddiolchiadau gan y cadeirydd am ei waith.

Roedd yn aelod ffyddlon yng Nghapel Cynulleidfaol Kingston-on-Thames ac yn arbennig o weithgar gyda’r Ysgol Sul. Fe’i disgrifir fel aerodynamegydd yn y Bywgraffiadur Cymreig gan W. Dennis Wright, sy’n dweud i’w dad G.J. Williams fod yn archwiliwr mwyngloddiau yng ngogledd Cymru. 

Philip Lloyd

- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


4.3.24

Hanes Rygbi Bro- Tymor 1989-90

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur rygbi Gwynne Williams

Mehefin 1989
Pwyllgor: Cae – Cyflwr da, Jon wedi ei dorri; Pyst – wedi’u paentio gan Malcolm, Marc, A, Tony a Gwynne

Gorffennaf
Cyfarfod swyddogion Clwb a Bwrdd Datblygu – yn gefnogol
Pwyllgor  Cae – Wedi codi pyst a pyst lampau – cymorth John Harries/Merched yn glanhau/pres y bar i Post Tanygrisiau (Fred)/Rhodd –i hogia Traws am olchi crysau 

Awst
Ennill Plat 7 bob Ochr, Harlech. Gŵyl Drafnidiaeth ac Ynni (£1K i’r clwb). Pwyllgor Merched –Cad Rosemary Humphries/Ysg Margret Roberts/Trys Ann Jones. Ian Blackwell (Dolwyddelan) fel hyfforddwr /Deiseb gan rdigolion am y coed.

Medi
Cyfarfod Arbennig (Presennol: 20) Derbyn y Fantolen Ariannol – Colled o £800 taith Hwngari/ Newid Flwyddyn Ariannol  i 1 Chwefror hyd 31 Ionawr /Noson Ffarwelio â Mike Smith.     Pwyllgor y Clwb Criced yn ail ffurfio a defnyddio’r clwb. Traws 21: 8 tîm i gystadlu / Raffl -Gwneud Grand National

Hydref
Glyn Jarrett, Rob a Malcolm, Bryan, Eric, a Kevin Jones Ardal Rhondda v Ardal Gwynedd (Merthyr). Pwyllgor   Clwb – Tenders mynd allan 4 neu 5 Cwmni /Bil o £2.3K peirianydd adeiladol. Bryn, capt ail dîm ddim yn medru cario ymlaen – Arwyn Humphries yn Gapten. Clwb 300 – Arwyn wedi cymryd drosodd yn absenoldeb Morgan

Tachwedd
Dylan Thomas a Hayden Griffiths (Ymarfer efo tîm dan 18 gogledd). Gary Hughes Rob a Marc Atherton Meirionnydd Dan 23. Gwilym James Cwpan Howells 1988/1989. Noson Tân Gwyllt  a “Naughty Nightie Night”. Pwyllgor: Cyfethol Dafydd Williams. Rhodd o £70 i Mike Smith (Noson Ffarwelio) /Rhodd o £50 gan Deilwyn. Gofynodd Ian Blackwell os caiff C P Dolwyddelan ymarfer yn y  clwb. 

Ionawr 1990
TRAWS 21-  Gêm Derfynol Bro 3 v Harlech 24. Bryan Davies- Gwynedd. Pwyllgor: 2 ail dîm– Arwyn wedi brifo– Bryan yn cymryd y gapteiniaeth. Dan 13- colli’r gêm gyntaf Nant Conwy 18 – 0. Bar – Prynu peiriant hap chwarae £750. Llywydd – rhodd gan Gwilym Price o £50. Marwolaeth Des Treen Cadeirydd Undeb Rygbi Ardaloedd Cymru.

Chwefror
Pwyllgor: Cais i stiwardio Gŵyl Drafnidiaeth ac Ynni.

Mawrth
Cynhalwyd Noson y Merched yn y Clwb.

Ebrill
Cae –Tlws Regina (7 bob ochr) Curo Harlech. Pwyllgor Tŷ: Trafferthion twrch daer; gofyn i Glyn J a Tei Ellis am gyngor. Bore Sul trefnu gwaith ar y cae ar gyfer Cwpan Gwynedd (Nant Conwy  v  Harlech). Hunter Electrics archwilio sustem larwm a thrwsio’r cynhesydd dwr. Hafan Deg– Trigolion yn dal i gwyno am y coed.

Mai
Traws 9 v Bro 7. Kevin Griffiths, gwahardd am 5 wythnos gêm Bae Colwyn. Pwyllgor: Tymor nesa Cynghrair Gwynedd i’w gynnal ar sail gemau adref a ffwrdd. Coed– Llythyr wedi ei anfon at Gymdeithas Tanygrisiau (Hafan Deg). URC- gwrthod cais am aelodaeth lawn. Cinio Blynyddol/Cyfarfod Blynyddol:
Tîm 1af:   Chwarae 33  Colli 18  Ennill 14
2ail Dîm:  Ch18  C13  E4  Cyfartal 1
Ieuenctid  Ch4    C3    E1
Trysorydd- Derbyniadau yn fwy na thaliadau o £3,920. Aelodaeth- £598.
Ethol: Llyw (am 3 bl) Gwilym Price; Cad Dr Boyns; Trys Robin; Ysg RO; Gemau Michael; Tŷ Glyn; Aelodaeth Gwynne; Cae Mike Osman; Capt 1af a Hyff Glyn Jarrett; Capt 2ail Arwyn Humphries (Rheolwr); Eraill Dafydd Williams, Morgan Price, Jon, Derwyn Williams.  
Chwaraewr y Flwyddyn- Robert Atherton;    Chwaraewr Mwyaf Addawol- Kevin Griffiths; Chwaraewr y Flwyddyn II- Alan Thomas; Clwbddyn- Michael Jones.
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024