25.6.20

CYNEFIN


Nid yw ond rhan o dirlun,
rhyw gilcyn bach di-nod,
ac er ei holl wendidau,
'fan hyn 'rwy'n mynnu bod;
y lle â'r ddawn i swyno dyn,
nid unrhyw fro; fy mro fy hun.




Mae'n agos at fy nghalon,
yn wir, mae'n werth y byd;
a chanmol yr hen ardal
ag angerdd wnaf o hyd;
hen ffordd o fyw, a'i phobl wâr
a fowldiodd gwrs fy milltir sgwâr.


Fel clwy' dros bob cynefin,
daeth newidiadau, do,
ond er wynebu creithiau,
yr un yw'r annwyl fro:
ac wedi pryder ambell waith,
mae'n dal i arddel yr hen iaith.


'Does obaith imi symud
ymhell o ffiniau’r dre,
can's yma mae fy nghalon,
can’s yma mae fy lle;
y lle nad oes ei well i mi,
a'r lle sy'n rhan ohonof i.


Vivian Parry Williams.



Mae BroCast wedi cyhoeddi cyfres o gerddi ar eu sianel YouTube, dan y pennawd Awen Bro. Mae Cynefin yn un o’r cerddi hynny, a Meredydd Rhisiart yn ei hadrodd.


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Ebrill 2020.

Llun 1- Paul W. Blaenau o Gwmbowydd
Llun 2- VPW. Moelydd Barlwyd, Siabod, a Phenamnen


20.6.20

Craig Nyth y Gigfran

Yn rhifyn Ebrill Llafar Bro, mi rois gais am ddarn coll y darlun mynyddoedd sy'n atodiad i lyfr 'Hanes Plwyf Ffestiniog'. Diolch i Philip Lloyd, Yr Wyddgrug -a nifer o garedigion eraill y papur- mae fy nghopi yn gyflawn eto. Roeddwn yn falch o fedru talu'r gymwynas yn ôl trwy sganio a gyrru rhan o'r map oedd ar goll ganddo fo, felly’n cwblhau dau gasgliad o’r dogfennau!




Yr hyn sy'n syndod –ac yn dipyn o siom i mi- ydi sylwi nad yw'r darn oedd ar goll yn enwi Craig Nyth y Gigfran, a hitha mor amlwg i drigolion y Blaenau.

Parhewch i ddarllen


-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020.

Mis Mai ar Odrau'r Mynydd


17.6.20

#CodiLlais am Covid

Erthygl gan Elin Hywel

Yn llofft y plant ydw i heddiw, yn yr atig, wrth y ddesg yn ceisio dal i fyny hefo ychydig o waith ‘go iawn’ neu ‘normal’ yn hytrach na’r paratoi ac ymateb teuluol a chymunedol, calonogol yma sydd wedi llenwi ein hamser ers rhai dyddiau erbyn hyn. Heddiw does dim posib dianc effaith y firws corona – neu covid-19. Mae ein teulu bach yn hunain ynysu ers ddoe hefo symptomau o dagu ysgafn a dolur gwddw. Yn arferol byswn i wedi mynd i’r gwaith, a’r plant i’r ysgol heb feddwl dwywaith. Mae’n rhaid cyfaddef dwi yn teimlo ychydig yn hurt yn cymryd y fath ragofalon hefo mymryn o dagu ond nid amseroedd arferol ydi’r rhain, a gall neb fod yn or-ofalus.

Mae’n gwestiwn gen i beth fydd hoel y cyfnod sydd i ddod arnom ni oll? Beth fydd ffurf y cof fydd yn cael ei drosglwyddo ymlaen i’r genhedlaeth nesaf? A’i blin a chasineb gwyllt y cyfryngau cymdeithasol fydd eu hetifeddiaeth neu oes modd i ni sicrhau fod straen ein profiadau ar gael i greu darlun gwir o bwy oedd yn troedio’r tir yma pan fu i covid-19 newid ein cymdeithas am byth?

Wrth gwrs ‘oes’ ydi’r ateb. Oes, os oes isio gallwn gymryd rheolaeth. Gallwn gyfyngu ar allu pobl i fod yn filain, i ledaenu casineb cul a ffiaidd. Gallwn gau lawr pob ffrwd, pob hanes, pob naratif niweidiol. Fydd dim modd i ni glywed y lleisiau ffrwydrol wedyn – ond mi fyddent yn dal i fod yn bydd? Mae profiadau personol yn bethau lliwgar, pan fo pobl yn teimlo dan fygythiad maent yn ymateb yn lliwgar. Dw’n i ddim os mai iach ydi atal mynegiant o boen, rhwystredigaeth, ofn a galar. Felly beth i’w wneud?

Mae’n boen meddwl i mi hefyd fod dim digon o brofion ar led ar gyfer y firws. Er fod pob un o’r teulu yn hunain ynysu am 14 diwrnod (14 diwrnod hir iawn debyg hefo 3 o rai bach yn ysu i ddenig), fydd dim modd gwybod os mai anwyd neu covid-19 sydd wedi ymgartrefu yma. Ella awn allan i’r byd dim ond i ail ddechrau’r broses o ddal ‘salwch’, hunain ynysu heb sicrwydd ein bod wedi atal ‘rhen covid neu dim ond ei ohirio am fymryn yn hwy.  A pwy fydd i ddweud beth oedd y baich ar ein cymunedau heb ddata swyddogol ar gael i gefnogi cof a hanes pobl dan eu sang?

Os allwn hel hanesion, cofnodi profiadau gallwn rymuso ein dyfodol - ‘Dyma ddigwyddodd i ni a does dim modd i neb wrth-ddweud hynny’. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn helpu ni yma. Rydym wedi mabwysiadu hashnod #CodiLlais_VoiceUp. Boed yn fideo, yn flog, yn lythyr, yn record o lais yn adrodd hanes heddiw neu ddoe, bydd ei rannu gyda’r hashnod uchod yn galluogi ni i’w hel i gyd a’u diogelu ar gyfer ein dyfodol. Helpwch ni drwy wneud hyn hefyd. Cofiwch nodi enw, ardal a dyddiad. Byddwch yn ofalus o hawliau eraill bob tro.

Cawn gymryd rheolaeth o’r naratif drwy fwydo’r naratif. Dim ond ni all ddweud ein hanes ein hunain, efallai na fydd yn hanes hapus bob tro, efallai na fydd yn enghraifft bositif wastad, ond mi fydd bob tro yn bwysig.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020.
Mae'r rhifyn cyfan dal ar gael i'w lawr-lwytho am ddim, yn ogystal â rhifynnau Mai a Mehefin.

12.6.20

'Stiniog o'r wasg ers talwm

Y blynyddoedd cynharaf
Erthygl gan Vivian Parry Williams


Fel darllenwyr papur bro ‘Stiniog a’r cylch, tybed a fyddai gennych unrhyw syniad o pryd y gwelwyd cyfeiriad at y plwy’ yn y wasg am y tro cyntaf? Dyma geisio rhoi ychydig oleuni ar y mater ichi, gan obeithio y byddwch yn mwyhau’r rhifyn digidol hwn o Lafar Bro. Dim ond cip o’r cyfnod cynhara’ sydd yma, cofiwch!


Er bod sôn am Ffestiniog, neu -yn ôl y drefn Seisnig ddyddiau fu- Festiniog, mewn ysgrifen ar sawl dogfen mewn archifdai a’r Llyfrgell Genedlaethol, yn mynd yn ôl ganrifoedd, tybed pa mor gynnar y gellir gweld yr enw mewn print newyddiadurol?

Er mawr syndod, roedd cyfeiriad at y lle mewn papurau newyddion hynafol Lloegr yn bod yn y 18fed ganrif, a'r cyntaf i mi ei weld yw'r un o'r London Gazette 13 Rhagfyr 1785, pryd y cyhoeddwyd y cyntaf o dair hysbyseb am werthiant tiroedd yn y plwyf. Rhan o stâd William Wynne, y Wern, oedd y rhain, un ym meddiant y tenant, Pierce Owen, Ellin Roberts ac Owen Jones. Roedd rhan arall ar werth hefyd, yn nhenantiaeth William Jones ac Owen Pritchard a'i bartneriaid. Ymddangosodd yr hysbyseb ddwywaith wedyn yn y Gazette, yn Chwefror a Mai y flwyddyn ddilynol.

Ond roedd y cyfeiriad nesaf am Ffestiniog yn llawer mwy diddorol, wrth weld yn rhifyn 22 Ionawr 1814 o'r papur restrau o enwau carcharorion yng ngharchardai Prydain yn cael eu harddangos i'r darllenwyr. Yn eu mysg cyfeiriwyd at ddau ddyn o 'Stiniog a oedd yn garcharorion yng ngharchar Dolgellau. William Price, porthmon, o'r Pengwern, a chynt o Garthgwyn, Maentwrog, oedd un ohonynt. Yr ail yn y jêl gyda chysylltiad â'n plwyf oedd y ffermwr Edmund Lloyd, a hwnnw gynt o'r Pengwern hefyd. Ni ddatgelir beth oedd troseddau'r ddau, na gair am hyd eu sentans. Cafwyd nifer fawr o adroddiadau tebyg gyda chyfeiriadau at 'Stiniog ar dudalennau'r Gazette dros y blynyddoedd, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â methdaliadau ymysg y brodorion.

Cyfeiriad cynnar arall a welir o enw ein plwyf mewn papur newyddion o'r 19 ganrif yw’r un Saesneg yn y Bristol Mercury, ar 15 Mawrth 1819, oedd yn sôn am ffordd newydd oedd yn cael ei hagor rhwng Dolgellau a Than-y-bwlch. A’r cyfeiriad at Festiniog? Ni fyddai’n rhaid i’r teithiwr ddilyn y ffordd ddrwg, serth o’r Bala yma, (sef dros y Migneint) wedi agor y ffordd newydd meddai’r gohebydd! Hyd nes dyfodiad y newyddiaduron Cymraeg, fel Baner Cymru yn yr 1850au, yn Saesneg y byddai’r cyfeiriadau at ‘Stiniog i gyd.

Cafwyd rhestr o’r crachach oedd â hawl i gael eu henwau ar y Game List, i saethu grugieir a ffesantod, am wn i, yn y North Wales Chronicle ar 18 Medi 1828, ac yn eu mysg un William Simpson, esq, Ffestinog, yn y sillafiad Cymraeg, er syndod. Yn yr un papur, ychydig wythnosau’n ddiweddarach, ar 6 Tachwedd 1828, gwelir y cofnod newyddiadurol cyntaf o lwyth o lechi’n cael eu cario ar long o Gaernarfon i Lerpwl, neu fel dywed yr adroddiad “Festiniog, Jones, for Liverpool”.

Roedd colofnau Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau yn bodoli ar ddechrau’r 19 ganrif, a diddorol oedd ceisio olrhain cofnodion o’r colofnau hynny yn ymwneud â ‘Stiniog. Wrth reswm, dim ond enwau cysylltiadau’r rhai a fedrai fforddio talu am yr wybodaeth yng ngholofnau’r BMD (Births, Marriages & Deaths) a geir yn y dyddiau cynnar hynny. Y briodas gynharaf a welir o’r fro hon yw’r un yn y Liverpool Mercury ar y 5 o Fehefin 1829, am briodas Elizabeth, merch T.Casson, Blaen-y-ddôl, gyda Benjamin Smith o Stafford. Pedair blynedd yn ddiweddarach cawn hanes cyntaf am farwolaeth yn BMD y North Wales Chronicle (NWC) 15 Ionawr 1833. Mae hefyd yn gofnod o haint oedd mor farwol yn y plwyf yr adeg honno, y frech wen. Dyma ddywed y pwt hynod drist hwnnw.
On the 2nd inst, John Pierce, Ffestiniog, and on the 3rd, his son Morris Jones, both of the smallpox, one aged 53, and the other 24.
Cofnodir hefyd hanes nifer o farwolaethau eraill, trwy amrywiol ddamweiniau, ac ambell un yn ysgytwol ei naws. “Fatal Mistake” oedd pennawd adroddiad am hanes marwolaeth Eleanor Jones, oedd yn byw yn y Pengwern Arms, yr hon a fu farw trwy gamgymeryd tabledi oedd yn cynnwys arsenic i ladd llygod mawr, yn lle ei thabledi meddygol arferol. Cofnodwyd hynny yn y NWC ar 3 Gorffennaf 1832.
----------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020


8.6.20

Cwrdd

Mae’r lle ‘ma’n rhy llwyd,
medda nhw.
Rhy wlyb, rhy lawiog,
rhy ddiflas o lwyd o hyd.
Does dim yma i’w wneud,
medda nhw.
Mor llaith, mor lleidiog,
does unman mwy llwm yn y byd.
Cwrdd â fi ar y copa,
meddaist ti,
ar y darn o dir uwchben y cwmwl,
a gwyliwn y gola’n
chwarae mig efo’r niwl.

Cawn gadw oedfa,
meddaist ti,
gyda’r gwynt yn codi canu
hen emyn o’n cwmpas
wrth i ni gusanu.
Ac yma ar ben ein mynydd
mae’r llwyd yn troi’n lliwgar,
ond dim i ni.
Ac yma yng nharddiad ein hafonydd
mae’r llwm yn troi’n llachar,
ond dim i ni.







Fe sgwennais i’r gerdd hon yn wreiddiol ar gyfer oriel gelf Lisa Eurgain Taylor yn Oriel Môn mis Mawrth. Mae gwaith celf Lisa yn hynod o hardd, ac yn darlunio mynyddoedd Eryri mewn ffordd lliwgar a thrawiadol, ac mae hi’n gwneud i’r tirwedd edrych bron yn arallfydol o dlws. Cyrhaeddodd cais Lisa am gerdd ata i ar yr un pryd a darllenais nifer o sylwadau am Blaenau ar TripAdvisor oedd yn galw’r dref yn llwyd, yn llwm ac yn ddiflas.

Wel, dwi’n gwybod yn iawn bod y llechi yn llwyd wrth gwrs, ond dwi erioed wedi meddwl am ardal Stiniog fel lle llwyd, llwm na diflas yn wir! Pan edrycha i ar y mynyddoedd o gerrig o’n cwmpas, dwi’n eu gweld nhw fel tomenni hudol, sy’n newid bob dydd yn dibynnu ar y tywydd a’r golau.

Erin a Llio a’u partneriaid, Rich a Sam, ar gopa’r Moelwyn Mawr
Dyma fynd ati felly i gyfansoddi cerdd oedd yn gwrthgyferbynnu beth mae rhai twristiaid yn ei weld, a be dwi’n ei weld wrth edrych ar ein llechi.

Dwi’n gweld ein hanes a'n dyfodol. Dwi’n gweld dyddiau braf o haf fy mhlentyndod a nosweithiau hwyr yn y Tap. Dwi’n gweld hen straeon y Mabinogi a gossip am bobl drws nesaf. Dwi'n gweld cerddi Gwyn Thomas a lyrics Anweledig. Dwi’n gweld fy nheulu, fy ffrindiau, a rhai gelynion! Yn fras, dwi’n gweld lot mwy na llechi.

Felly tro nesa mae rhywun yn dweud wrthych chi fod Stiniog yn le llwyd, dywedwch wrthyn nhw mae nhw sy’n llwyd wir, am beidio gallu gweld yr hyd a’r lledrith sy’n bodoli ym mhob cornel o’n ardal ni!

Llio Elain Maddocks

--------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Ebrill 2020.
 
(Mae Llio yn postio cerddi’n rheolaidd ar ei chyfri’ Instagram @llioelain gan gynnwys cyfres am hunan-ynysu. Ewch am sbec i weld ei gwaith.)

4.6.20

Llygad Newydd

Ar ôl paldaruo am flynyddoedd am ddianc i Enlli ar fy mhen fy hun, efo dim byd ond llyfrau a hen sét radio, er mwyn cael llonydd i ddarllen a gwrando, mae’r cyfyngu ar symudiadau pawb rwan yn rhoi rhyw fath o gyfle i wneud hynny adra.

Roedd “darllen mwy” ar y rhestr o addunedau gen i eto eleni. Dyma’r tro cynta’ -dwi’n meddwl- imi fedru gwireddu addewid dydd calan. Er, mae’n ddigon buan i mi fethu eto...


Yn ystod Mawrth, mi fues i’n darllen llyfrau hen a newydd, a gwrando mwy ar y radio er mwyn osgoi newyddion drwg y teledu. Dwi ddim yn adolygydd o bell ffordd, ond dyma wib-drafod ambell beth oedd o ddiddordeb.


Parhewch i ddarllen

------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020
Y rhifyn cyfa' ar gael i'w lawr-lwytho am ddim yn fan hyn