30.8.23

Dyddiadur Chwarelwr. Cwest

Parhad o ddetholiad o gofnodion Dyddlyfr William Parry, Chwarel yr Oakeley, 1922-25

Y tro diwethaf cafwyd disgrifiad manwl William Parry o ddamwain erchyll ar Orffennaf  21ain 1925. Y tro hwn gwelir y cofnod am y dydd canlynol, wrth i'r archwiliad i'r ddamwain ddechrau:

"Aethum i archwilio lle y bu y ddamwain sef John Wms a minnau, a John R Jones i top yr agor a John Davies a John Ll Hughes ir gwaelod sef ir G.Fl. a gwelsom sut digwyddodd y ddamwain. Yn y prydnawn daeth dau or police, sef Inspector Evans ai gyfaill a rhoddwyd y report or ddamwain iddynt genyf fi a John R Jones. A daeth dau o inspectors y government a dangoswyd y lle iddynt a rhoddwyd y report or lle. Ac aethum lawr ir hospital gyda hwynt ir cwest a rhoddasom y tystiolaethau angenrheidiol.

Gwnaeth John R Jones dipin o gamgymeriad drwy ddweud nad oedd yn gwybod fod effaith saethu twll wedi rhyddhau y tir ddaeth i lawr. A bu raid i mi egluro mai saethu y twll fu yn foddion i dynu oddi tan y tir ddaeth i lawr ac i JRJ gadarnhau hyny yn y diwedd a gwnaed pob peth yn eglur ac yn foddhaol ir coroner ar jurys a rhoddwyd tystiolaeth gan Dr Morris. A pasiwyd mai damwain angeuol ydoedd."

Cafwyd yr wybodaeth am gyflogau dynion ieuainc y cyfnod ymysg y cofnodion. Dyma ddywed William Parry eto:

"Mewn grym July 24/22: Cyflogau y bechgyn.

Oed 14-15: 11s 6d yr wythnos

15-16: 14s 6d yr wythnos

16-17: 3s 9d y dydd

17-18: 4s 7d y dydd

18-19 Isrif o 5/6  6s y dydd

19-20 Isrif o 7/3  8s y dydd

Yr isrif i gymhwyso piece workers yn unig."

Llun. William Parry gyda'i ferch ieuengaf Jenny, a'i hanner brawd Thomas Rowlands.

 

Wrth symud ymlaen drwy'r tudalennau awn heibio sawl sawl cofnod am orchwylion William Parry, ac am fân ddamweiniau a ddigwyddodd yn yr Ocli. Enghraifft o'r damweiniau oedd honno i un ag enw cyfarwydd i'r fro, ar yr 8fed o Hydref 1925:

"Fl.L. Darfu twll danio ar Hugh Chart pan yn gweithio'r nos 8 or gloch, ond gallodd gerdded adre, er yr oedd wedi niweidio yn ei wyneb. Tyst Howell Jones."

 

Sylweddolwn bwysigrwydd gwaith 'dyn tynnu petha peryg' fel William Parry wrth ddarllen llawer o'r cofnodion. Meddai ar 23ain o Hydref 1925:

"Daeth Hugh Thos. Owen allan heddiw 8am i ddeyd fod yna ddarn wedi dod i lawr or top or gwenithfaen. Aethum i lawr gydag ef a rhoddais Wm Andrews a J Parry yno i godi yr ysdol. Tros y Sul daeth ar draws top yr agor tua 5 llath o hyd i lawr, buont yno dan y dydd ar nos yn ei ddiogelu am wythnos."

Dyna flas o ddyddlyfr William Parry. Cofiwch ei fod ar gael yn Archidfy Meirionnydd os hoffech archwilio ymhellach.

Vivian Parry Williams

- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2003



23.8.23

Hen lwybrau a ffyrdd ein bro

Rhan o gyfres Stolpia, Steffan ab Owain, o ugain mlynedd yn ôl.

Mi wn fod llawer ohonoch yn mwynhau mynd am dro ar rai o lwybrau'r fro pan fydd y tywydd yn caniatâu. Ers talwm a chyn dyddiau'r car a gwyliau tramor, nid peth dieithr oedd gweld lliaws o bobol y cylch yn rhodianna ar 'Lwybr Cwm Bywydd', a sawl llwybr arall ar ddyddiau braf yn yr haf.

Yn y dyddiau gynt ceid enw ar bob llwybr troed yn ein hardal, ond daeth tro ar fyd, a bellach adnabyddir y rhan fwyaf ohonynt wrth rif swyddogol. Efallai nad anniddorol a fyddai crybwyll rhai o hen lwybrau'r fro cyn iddynt fynd i ebargofiant a'u colli am byth.

FFORDD Y MEIRW

Dyma enw a glywais lawer blwyddyn yn ôl am yr hen ffordd a red heibio Plas Pengwern tuag at hen bont yr Ysgol Newydd a chodi i fyny gynt heibio Cae'r Blaidd a draw am Blas Blaen-y-ddôl. Y tebyglorwydd yw iddi gael yr hen enw hwn oherwydd mai ar hyd y ffordd hon y byddid yn cludo'r meirw o gyffiniau Tanygrisiau, Glan-y-pwll, a Rhiwbryfdir i fynwent eglwys y Llan yn y blynyddoedd maith a fu cyn datblygiad ein chwareli, y ffyrdd trol a'r ffyrdd tyrpeg diweddarach.

Ffordd y Meirw ger safle'r hen bont (tu ôl i'r ffotograffydd, Paul W)

Yn ôl cofnodion festri Ffestiniog am y flwyddyn 1879 methodd y bwrdd lleol a chau yr hen ffordd hon yn gyfangwbl er fod tirfeddianwr stad Pengwern, Fletcher-Wynne wedi mynd ati i agor ffordd newydd heibio fferm Brunrhug ar gyfer y drafnidiaeth gynyddol. Credaf mai un o'r rhesymau, os nad y rheswm pennaf y tu ôl i hyn, oedd am fod yr hen ffordd wedi bod yn 'llwybr elor' ac yn ôl coel gwlad, os cludid corff mewn arch ar hyd unrhyw ffordd, neu hyd yn oed trwy gae agored, roedd 'hawl' wedyn gan y werin ei dramwyo hyd ddydd y farn. 

Cofier, methais a gweld dim byd, hyd yn hyn beth bynnag, yng nghofnodion y festri na'r Bwrdd Lleol i gadarnhau'r gosodiad uchod. Eto'i gyd, y mae'r enw a roddwyd ar ran o'r hen ffordd hon, sef 'Ffordd y Meirw' yn awgrymu'n gryf fod rhyw sail iddo, onid yw?

Mi fyddai'n braf cael clywed un o ddarllenwyr Llafar Bro yn ategu hyn. Gyda llaw, diwedd y stori yn ôl y son oedd i ryw walch neu genau chwalu'r bont a groesai afon Teigl islaw'r Pandy yn chwilfriw. Saethwyd hi'n fwriadol gyda ffrwydron a rhoi atalfa ar rodio gweddill y ffordd am byth. Ai Pont yr Ysgol Newydd oedd enw hon? Byddai'n dda cael cadarnhad.

 

SARN HELEN neu FFORDD ELEN

Yn ddiau mae hi'n anodd credu heddiw fod rhai o'n llwybrau yn drybeilig o hen a bod ambell un yn dyddio mor bell yn ôl a'r cyfnod neolithig. Wrth gwrs, un o hen ffyrdd enwocaf dalgylch Llafar Bro yw'r ffordd Rufeinig a elwir Sarn Helen gan amlaf, neu Ffordd Elen gan rai haneswyr lleol. Cofier y mae 'sarn' yn gallu golygu hen ffordd neu le i groesi afon, megis cerrig llam neu math o gob.

Mae'n bur debyg fod Sarn Helen hyd yn oed wedi ei phalmantu ar hen 'ffordd' gyntefig a ddefnyddid yn flaenorol gan bobol yr Oes Efydd a'r Oes Haearn.

Rwan, ag ystyried am funud olion yr hen gladdfeydd cynhanesyddol a geir ar ochr yr hen ffordd hon, onid ydynt yn awgrymu'n gryf fod canrifoedd o dramwyo wedi digwydd arni cyn i'r un o filwyr Cesar droedio daear ein gwlad? 

Gyda llaw, weithiau byddaf yn rhyw feddwl mai llygriad yw Helen yn enw'r ffordd, ac mai 'Sarn Halen' oedd yr enw gwreiddiol arni... a gyda llaw, nid y fi yw'r cyntaf i awgrymu hyn chwaith. Yn wir, ceir sawl cyfeiriad at 'salt roads' yn hanes Lloegr hefyd. [Mae gennym 'Rhyd yr Halen' ar lwybr y sarn yn ardal Afon Gamallt onid oes? Gol. 2023]

Dywedir mai ar ôl i chwedl Helen Luyddog a Macsen Wledig gael ei phoblogeiddio y llygrwyd peth mwdral o enwau lleoedd er mwyn cynnwys enw Elen neu Helen ynddynt, e.e Dolyddelen am Dolwyddelan, ac mae sawl lle yn dal i ddioddef yr effaith hyd heddiw!

 

FFORDD LAS

Anodd iawn yw dweud pa mor hen yw'r llwybr glaswelltog hwn sy'n cychwyn wrth Benycefn ac yn rhedeg i lawr de-orllewin Cefn Trwsgwl am Dynycefn. Credaf fod yr hen lwybr, neu'r 'ffordd las' hon yn uno â sawl llwybr arall ar un adeg -Llwybr Cwmbowydd yn un ohonynt wrth gwrs. Yn ddiau, ceid llwybr arall yn mynd am ffermdy Dolwen ar un cyfnod; un arall yn codi tua Henblas a throsto i gyfeiriad Plas Pengwern... yn un arall yn cyfeirio at y Cymerau Uchaf ayyb.

Heb os nac onibai, y llwybr hwn oedd priffordd pobl Tanygrisiau pan aent i'r eglwys, y pandy a'r felin flawd, ac i'r ffeiriau yn Llan Ffestiniog erstalwm.

Ceir sawl lle o'r enw 'Ffordd Las' yng Nghymru a cheir nifer o leoedd a elwir 'Green Road' yn Lloegr hefyd.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2003

Rhan 2

Erthygl Llwybrau Sgotwrs


16.8.23

Dyddiadur Chwarelwr. Damwain

Dyddlyfr William Parry, Chwarel yr Oakeley, 1922-1925

Cyfres o erthyglau o 2003, gan Vivian Parry Williams.

Daeth galwad ffôn acw gan Dewi Roberts o Beaston, ger Derby, yn gofyn a fyddai gennyf ddiddordeb cael golwg dros y dyddlyfr uchod. Roedd y llyfryn ymysg gwaddol y ddiweddar Mrs Ceridwen Manley Davies, Heol Wynne gynt meddai. 

William Parry oedd tad Mrs Davies. Ganwyd o yn Llanfairpwll yn1874. Wedi priodi, bu iddo symud i 'Stiniog i fyw, a chartrefodd yn 25 Heol Jones yn nechrau'r 20fed ganrif.

Bu'n gweithio ym melin llechi ysgrifennu uwch Gwmbowydd hyd nes y llosgwyd honno mewn tân mawr yn gynnar yn y 1920au. Mae'n amlwg yn ôl y dyddlyfr, i William Parry fod mewn swydd gyfrifol yn yr Oakeley wedi hynny, efallai fel stiward yno.

Dywed Emrys Evans mae 'dyn tynnu pethau peryg' oedd o, un o hogia'r 'ysgolion mawr' -y rhai a gyflogwyd i sicrhau fod nenfwd yr agorydd yn saff rhag i ddarnau o gerrig rhydd syrthio ar y gweithwyr islaw. 

 

Dyma'r cyntaf mewn cyfres yn cynnwys crynodeb o'r dyddlyfr, sydd yn hynod ddiddorol ac sy'n rhoi darlun byw o weithgareddau a digwyddiadau yn chwarel fwyaf yr ardal yn ystod y 1920au. Llawer o ddiolch i Dewi, ac hefyd i Mrs Elinor Imhoff, Llanfairpwll am ganiatâd i gynnwys pytiau yn Llafar Bro, ac am ganiatâ i roi'r dyddlyfr ar adnau i archifdy Meirionnydd wedi cwblhau'r gwaith o grynhoi.

Tu mewn i glawr blaen y dyddlyfr ceir y canlynol, yn yr ychydig eiriau prin mewn Saesneg, sydd yn rhoi syniad o'r oriau gwaith yn y chwarel:

William Parry. Pay 554. 

Working hours... Nov 1 7.30 to 4pm. Dec 1 8 to 4pm. Feb 1 7.30 to 4pm

Y cofnod cyntaf yn y dyddlyfr, 28 o Ionawr 1925 yw:

"Darfu Robert O Williams, Oakeley Square frifo yn KB10 trwy gael toriad ar ei arddwrn, yng ngwaelod yr ochr rydd. Oed 31."

Mae'r llyfryn yn frith o gofnodion am fân ddamweiniau yn y chwarel, ond ambell waith cafwyd disgrifiad manwl William, fel llygad-dyst i ddamweiniau angeuol yno, megis yr un ar gyfer 21ain Gorffennaf 1925:

"Yr oeddwn yn dod i fyny or rhan isaf or gwaith... y DE floor, chwarter i dri yn prydnawn, gwelais y dynion yn dod or agorydd DE sef Ed Thomas, RW Roberts ar frys, a John R Jones yn calw am help, ac euthum yno ar unwaith sef ir top yr agor CF1 a diallwyd fod Lewis Andrew wedi cyfarfod ai ddiwedd ac eis ato i lawr ir graig tua 111 o droedfeddi a gwelais ei fod wedi ei anafu mewn modd erchyll, a thynais bilar tua cant a hanner oddi arno, ac yr oedd yr hyn ai darawodd wedi mynd i lawr a gwnawd y gorau ohono, sef ei roi mewn sach, a thrwy anhawster cyfodwyd ef i fyny ir top, wedi bod yn ymdrechu am awr o amser. Ac awd ac ef ir hospital yng nghwmni cannoedd or gweithwyr"

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2003

Rhan 2: Cwest


9.8.23

Stolpia- melin goed Glan-y-pwll

Hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll, gan Steffan ab Owain

Gellir dweud bod amrywiaeth o ddiwydiannau wedi bod yn y ddwy ardal hon tros y blynyddoedd. Yn ddiau, y mae nifer o’r to hŷn yn cofio’r Felin Goed yn gweithio yng Nglan-y-pwll yn ystod y ‘40au a’r ‘50au. Sefydlwyd y felin goed gan gwmni Evan Tudor a’i fab, Trawsfynydd yn y flwyddyn 1939, ond ni chredaf iddi weithio rhyw lawer yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 

Pa fodd bynnag, cyfrifoldeb Dafydd Tudor, y mab, oedd y felin goed o ddiwedd y 40au, a byddid yn cario coed yno o gyffiniau Dolgellau a’r Ganllwyd. Yna, ar ôl i’r cwmni brynu Stâd Glynllifon yn sir Gaernarfon yn 1948 ceid dewis o goed da o’r goedlan yno ar gyfer eu llifio yn blanciau a phlociau. 

Gyda llaw, yn ôl y ddiweddar Pegi Lloyd Williams, a fu’n ysgrifenyddes iddo, ymadawodd Dafydd Tudor o’r ysgol pan oedd yn naw neu ddeng mlwydd oed a gweithiodd yn galed ar hyd ei oes. Daeth yn gryn entrepreneur a gŵr busnes llwyddiannus gyda melin goed arall yng Nghonwy, yn ogystal â rhedeg Chwarel Bwlch Slatas ar ochr y Manod Mawr. Bu hefyd yn Gynghorydd Sir a phenodwyd ef yn Uchel Siryf Sir Feirionnydd yn 1951.

Roedd llawer o’r coed yn cael eu gwneud yn byst ar gyfer y pyllau glo, ac anfonid cannoedd o blanciau i sawl rhan o’r wlad ar y trên nwyddau. Ymhlith y rhai a gludai’r coed o’r felin i Gei London a’u llwytho ar y wageni yno ceid  Richard Parry, Creigle a’i fab, Tom (Regina Coaches yn ddiweddarach).

Cofier, roedd galwad lleol hefyd am rai o’r llifwydd, megis ais ar gyfer y chwareli a bocsus ar gyfer Ffatri Metcalfe - dafliad carreg o’r lle.  
(i’w barhau).

Llyn Barlwyd- Holwyd yn ddiweddar pa bryd y torrodd argae yr hen Lyn Barlwyd ac achosi cryn ddifrod yng nghyffiniau Rhiwbryfdir a Glan-y-pwll. Digwyddodd y llyn-doriad hwn ar fore dydd Iau, 11 Gorffennaf 1861, yn dilyn glaw trwm. Llifodd y dyfroedd yn un cerrynt anferth a drylliodd y ffordd fawr rhwng Talyweunydd ac Adwy Goch, yn ogystal â gwaelod Inclên Isaf Chwarel Llechwedd. Taflodd nifer o wageni i bob cyfeiriad a chariodd goed a cherrig mawr o’i flaen nes llenwi’r ffordd. Trwy ryw drugaredd, ni anafwyd neb gan i nifer o bobl ddianc drwy eu ffenestri a dringo i ben y tai. Drylliwyd un hen dŷ ger Pont Fawr y Rhiw a chollodd llawer eu dilladau, dodrefn a bwydydd yn y cenllif.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


5.8.23

Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad

Mae taith lwyddiannus arall Cwmni Opra Cymru -sydd â’i wreiddiau’n ein hardal ni- newydd ddod i ben. Trosiad cyfarwyddwr cerddorol y Cwmni, Iwan Teifion Davies o opera Mozart -‘Cosi Fan Tutte’ a gyflwynwyd y tro hwn. Rhoddodd Iwan Teifion y teitl Cymraeg ‘Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad’ iddi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am gyfieithu’r gwaith, ef hefyd oedd arweinydd y gerddorfa.

Canolbwyntiwyd ar leoli’r perfformiadau mewn theatrau ar draws Cymru, gan agor yn Pontio, Bangor ar 12 Mai. Dilynwyd hynny mewn saith canolfan arall - Taliesin, Abertawe, Y Lyric, Caerfyrddin, Hafren, Y Drenewydd, Brycheiniog, Aberhonddu, Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Y Stiwt, Rhollannerchrugog, gan orffen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Hwyrach nad ydy cerddoriaeth yr opera yn cyrraedd y tir uchel sydd i’w glywed yn arias cofiadwy operau Verdi a Donizetti yn fy marn fach i, ond llwyddodd Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Patrick Young, i ddenu cast tu hwnt o ddawnus i gyflwyno’r gwaith. Y tenor o Rydymain, Huw Ynyr chwaraeodd ran Ferrando, a’r bariton ifanc, John Ieuan Jones ganodd ran Gugliemino. Dwy ‘Erin’ swynol dros ben ganodd rannau’r ddwy chwaer a chariadon y gwŷr ifanc, Fiodiligi a Dorabella, sef Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanfair Talhaearn ac Erin Fflur, sy’n wreiddiol o’r Felinheli. Cafwyd canu cyfoethog gan Rhys Jenkins yn rhan Don Alfonso a chanu ac actio gwych gan Leah-Marian Jones fel y forwyn, Despina. 

Yn sicr, roedd y cynhyrchiad yn un bywiog ac yn llawn dychymyg a hiwmor. Roedd y gerddorfa ifanc o tua phymtheg o aelodau hefyd yn cyfeilio’n grefftus, a hynny, heb dynnu sylw’r gynulleidfa oddi ar y libretto. Rhaid dweud ei bod hi’n braf clywed geirio croyw. Cymry Cymraeg iaith gyntaf oedd y cast cyfan, ar wahân i Robert Jenkins. Mae’n amlwg fod eu profiadau eisteddfodol a’r llwyddiant a gawson nhw’n y maes hwnnw wedi profi’n fuddiol. Fel cerdd-dantiwr, gallwch ddychmygu pa mor bwysig ydy cyflwyno geiriau’n glir i mi.

Yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin y cefais y fraint o wrando ar y perfformiad, a chael mwynhau diwrnod neu ddau’r un pryd yn nhre’r ‘hen dderwen’, lle treuliais dair blynedd hapus dros hanner canrif yn ôl. 

Dymunaf longyfarch fy nghymydog, Patrick Young a’i dîm ar gyrraedd uchafbwynt unwaith eto yn hanes Opra Cymru. Mawr fydd yr edrych ymlaen rwan at y prosiectau eraill sydd ar y gweill.

IM
- - - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


1.8.23

Eiddo Cymunedol

Pwy sy’n cofio mynd draw am banad a ŵy a chips i’r cefn yn Caffi Bolton? Neu prynu’ch Walkman cyntaf a mynd i dalu am fenthyg teledu yn siop Ephraim? 

Blwyddyn diwethaf prynwyd y ddau adeilad eiconig yma gan Antur Stiniog ac maent yn credu bod hyn yn gam pwysig ymlaen i’r menter, Stryd yr Eglwys, a’r stryd fawr yn ei gyfanrwydd.

“Antur Stiniog..?”
“Dim y peth beics ‘na di nhw?”

Wel ia a na!

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Antur Stiniog wedi profi llwyddiant cymdeithasol ac economaidd sylweddol, gan fuddsoddi elw a gynhyrchir gan ei Ganolfan Feiciau i ysgogi effaith gymdeithasol gadarnhaol gan brofi’r dywediad ‘Llawer mwy ‘na llwybrau beics’. 

Mae’n codi’r cwestiwn cyffrous: beth ydi dyfodol yr adeiladau hyn? A sut gallent chwarae rôl pwysig wrth ysbrydoli a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r stryd fawr yn amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol?

Credai Antur Stiniog bod yr adeiladau yn llawer mwy ‘na ‘brics a mortar’ ac wrth sicrhau dyfodol i’r adeiladau hanesyddol yma rydym am dod a bywyd newydd i rhan yma o’r dref fel rhan o weledigaeth ehangach ‘Tref Tatws 5 Munud

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Antur Stiniog wedi profi llwyddiant cymdeithasol ac economaidd sylweddol, gan fuddsoddi elw, a gynhyrchir gan dwristiaeth, yn ôl i fewn i gyflogi pobl leol a datblygu prosiectau er lles y gymuned a’r economi leol.  

Gan adeiladu ar ei lwyddiant cychwynnol, mae Antur wedi perchnogi a datblygu nifer o asedau cymunedol yn y dref, gan gynnwys datblygu eiddo sydd bellach yn cael eu defnyddio gan fusnesau preifat, mentrau cymunedol, a chartrefi i deuluoedd. 

Mae Antur Stiniog yn credu gryf y gallwn fel cymuned lwyddo i brofi’n groes i'r rhai sydd yn rhagweld dirywiad ein stryd fawr, trwy ddatblygiadau cyffrous fel Stryd yr Eglwys, Tŷ Coffi Antur,  Siop Eifion Stores, Aelwyd yr Urdd a mwy.

Credwn bod Stryd Fawr y Blaenau yn cynnig cyfleon anhygoel ar gyfer hamddena, cymdeithasu, siopa a chyfleon creadigol a bod angen ail-ddiffinio be mae’r Stryd Fawr yn olygu i ni!

Ym Mehefin 1daeth llawer draw i ardd Encil i gael clywed am y datblygiadau ac i rannu syniadau efo ni.

Mwy o'r hanes yn rhifyn Gorffennaf-Awst sydd yn y siopau rwan!

- - - - - - - - 

O rifyn Mehefin 2023