29.2.16

Noson Wobrwyo Ysgol y Moelwyn

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo flynyddol Ysgol y Moelwyn yn ddiweddar i ddathlu llwyddiannau’r disgyblion. Roedd y noson yn gyfle i rieni, athrawon ac aelodau o’r gymuned ymfalchïo yn llwyddiannau y bobl ifanc sydd yn ddyfodol i`r  gymuned a’r ardal.


Roedd y neuadd dan ei sang ar y noson a phawb yn hynod gyffrous i gael gweld pwy fyddai’n cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled. Agorwyd y noson gan gôr yr ysgol yn canu ‘Yn dy freichiau’ gydag Efa James o flwyddyn 9 yn cyfeilio a Wendy Jenkins, Pennaeth yr Adran Gerdd, yn arwain.

Roedd pob math o feysydd yn cael eu gwobrwyo ar y noson; presenoldeb, ymdrech, cynnydd, sgiliau, cyrhaeddiad a chyfraniad cymunedol o’r radd flaenaf. Y disgyblion a dderbyniodd dystysgrifau am bresenoldeb 100% oedd Mollie Davies, Osian H Edwards, Bronwen Evans, Beca Jones, Gwenllian Jones, Llinos Roberts, Steffan Rowlands a Cian Williams (Bl. 8), Cemlyn Jones (Bl. 9) a Tesni Jones a Caryl Jones (Bl.10).

Safonau academaidd a sgiliau unigolion: Elliw Lewis, Glain Williams ac Ynyr Jones (Bl. 8), Gwion Evans a Kerry Ellis (Bl. 9), Sam Bridges a Lowri Roberts (Bl.10) a Llŷr Ellis ac Elin Roberts (Bl. 11).

Canlyniadau TGAU: Braf gweld rhai cyn-disgyblion yn bresennol  ar gyfer y noson wobrwyo i dderbyn tystysgrifau am eu llwyddiant yn eu cyrsiau TGAU. Ar ôl gadael yr ysgol mae’r mwyafrif o’r disgyblion yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau safon A i Goleg Dolgellau, chweched dosbarth Dyffryn Conwy neu’r Berwyn tra bod rhai yn cael prentisiaethau neu’n ymuno â’r byd gwaith. Derbyniodd Gruff Dafydd, Hedd Jones a Lowri Jones dystysgrifau am y canlyniadau TGAU gorau a Dyfed Williams a Shauna Docherty dystysgrifau am yr ymdrech orau yn ystod eu cwrs TGAU.
 Cydnabyddwyd Dyfed Parry a Careena Williams am y cynnydd gorau yn ystod eu cyrsiau TGAU. Dymunwn bob lwc iddyn nhw gyda’u gyrfaoedd a’u haddysg yn y dyfodol, gan obeithio bod ganddynt atgofion melys am eu cyfnod yn y Moelwyn!

Pencampwyr y gwobrau am Gyfraniad Gwirfoddol eleni (Gwobr y Cynddisgyblion) oedd 1. Elin Roberts 2. Glain Eden Williams a 3. Heledd Ellis). Cyflwynwyd mwy o geisiadau nag erioed o`r blaen am y wobr arbennig hon.

Cyflwynwyd chwe gwobr goffa fel a ganlyn :- Gwobr Miss Brymer , Dyfed Williams. Gwobr goffa Glyn Price i gydnabod blaengaredd mewn Technoleg, Ifan Williams (Bl. 11) Gwobr Goffa Ian Jones i bencampwr rygbi’r flwyddyn, Sion Davies (Bl. 11)

Gwobr Goffa Mrs Rhian Jones, cyn Bennaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, i gydnabod cynnydd ac ymroddiad: Sophie Evans. Diolchwyd i Mr Alfyn Jones am gyfrannu’r wobr arbennig hon.   Enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn oedd Kajus Narunas (yn wreiddiol o Lithuania).

Awdur Ifanc y Flwyddyn (Gwobr Miss Eds, cyn-bennaeth Adran y Gymraeg) y tro hwn oedd Caryl Jones, Bl.10.

Dychwelodd Branwen Williams, Awdur y Flwyddyn 2014-15, er mwyn cyflwyno'r wobr i Caryl.

Fel rhan o'i gwobr hi, bu Branwen yn cwrdd â'i hoff awdur Cymraeg, sef Bethan Gwanas.

Roedd Bethan wedyn yn gosod tasgau sgwennu creadigol i Branwen, ac yn cynnig sylwadau ar y gwaith, a chyngor at y dyfodol.

Gobeithio gwelwn waith gan Branwen a Caryl yn Llafar Bro yn y dyfodol yn'te!

Gwobr Cefnogwr Cymunedol Ysgol y Moelwyn: Mr Dafydd Jarrett, Trawsfynydd, am i ei gefnogaeth a`i ymroddiad i`w gymuned ac i`r ysgol dros gyfnod maith.                                

Estynnir diolchiadau i’r canlynol: Mrs Sharon Jones am drefnu’r noson; Mrs Bini Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr, am gyflwyno llawer o’r gwobrau: Miss Carys Roberts, Miss Marion Hughes a Ms Gwenith Roberts am baratoi’r lluniaeth ysgafn. Bu’n noson lwyddiannus a hwyliog unwaith eto eleni! 

[Lluniau Alwyn Jones]
------------------------------------------



Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2016.

27.2.16

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -'ynghanol y frwydr fawr'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
 
Daeth rhifyn cyntaf o'r Rhedegydd am 1916 â'r newyddion fod Morris Vaughan Roberts, mab ieuengaf y meddyg Vaughan Roberts, wedi ei ddyrchafu'n Lefftenant gyda chwmni 14eg y Ffiwsilwyr Cymreig. Dyrchafwyd Dafydd Owen Evans, (Deio), mab y Dr R.D.Evans i swydd o Lefftenant hefyd, gyda'r 17eg gwmni'r Ffiwsilwyr, tua'r un adeg.

Er i nifer o weithgareddau lleol gael eu gohirio oherwydd y rhyfel, roedd Eisteddfod Capel Gwylfa (M.C.), oedd i'w chynnal ar 18-19 o Chwefror, yn parhau i gael ei hysbysebu yn y wasg. Felly hefyd amryw o ddigwyddiadau eraill, megis cyngherddau, ac Eisteddfod Nadolig Ffestiniog, oedd i'w chynnal yn y Neuadd Gyhoeddus. Croesawyd nifer o filwyr o'r ardal, oedd adref am seibiant o'r ffosydd, ac yn eu mysg, y Lefftenant Evan Jones, gynt o'r Rhosydd, oedd yn gwasanaethu gyda charfan y twnelwyr gyda'r Royal Engineers yn Ffrainc.


Roedd llythyrau a anfonwyd gan filwyr o 'Stiniog yn llifo i dudalennau'r Rhedegydd; cymaint felly fel y bu'n orfod ar olygydd y papur gydnabod, oherwydd diffyg gofod, ei fod yn gorfod eu cwtogi, er mor ddiddorol oedd cynnwys sawl un. Un o'r rhai mwyaf trawiadol i'w ddarllen oedd llythyr y Sgowt David Lloyd, gynt o Frondeg, ond ar y pryd 'rhywle yn Ffrainc'. Disgrifiodd gohebydd y papur lleol fod 'rhai fel ef ac eraill yn enbydrwydd y ffosydd, ac yn haeddu i ni eu cofio a’u cysuro. Efallai nad anyddorol fyddai ychydig o'u hanes yma, i chwi yn Ffestiniog.'

Rhoddwyd gweddill y golofn yn rhydd i David Lloyd adrodd hanes yr erchyllterau. Y syndod mawr ynglŷn â'r llythyr hwn yw, gan ei fod yn disgrifio'r amgylchiadau mor eglur, ei fod wedi mynd heibio’r sensoriaid o gwbl. Fel arfer, ni chaniateid i'r milwyr, yn enwedig yng nghyfnod cynnar y rhyfel, ddatgelu gwybodaeth am golledigion o'u mysg. Syndod arall yw ei fod wedi ei ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, sy'n awgrymu fod Cymry Cymraeg ymysg y sensoriaid. Beth bynnag am hynny, roedd disgrifiadau David yn rhoi darlun clir iawn i'r darllenwyr o'r sefyllfa druenus a wynebai'r milwyr yn y ffosydd, ond eto, heb enwi’r lleoliad:
Yr ydym ar hyn o bryd ynghanol y frwydr fawr. (Ni chaf enwi y lle) Ac yr ydym yn cael colledion mawr. Yr wythnos ddiweddaf chwythodd y Germans un o'u mines, a chladdwyd ugain o'n dynion, a niweidiwyd eraill yn ddifrifol iawn. Yr ydym yn ymladd yma dan lawer iawn o anfanteision, ac yr ydym at ein hanner mewn dwfr yn y trenches, ac yr ydym o fewn 25 llath i'r gelyn, pa rai sydd yn gyrru eu mwg marwol drosodd atom yn barhaus, ond mae gennym ar hyn o bryd respirators rhagorol, fel nad yw y nwy yn cael effaith arnom. Treuliasom ein Nadolig yn y trenches, ac yr oeddwn yn teimlo yn rhyfedd. Ni gawsom dipyn bach o 'pork' a plum pudding, ac felly nid oedd yn ddrwg iawn arnom. Yr ydym yn byw yma, fodd bynnag, mewn gobaith y cawn dreulio y Nadolig nesaf yn ein cartrefi, os gwêl Duw yn dda ein harbed. Dydd Sul diweddaf, gwnaethom ruthr am eu trenches. Fe laddwyd 57 o honynt, a daliwyd 31 yn garcharorion, ac yr oedd ein colledion ni yn 13, a chlwyfwyd 7, fel nad oedd ein colledion ond bychan o'i gyferbynnu a hwy. Dymuniad pawb yma ydyw ar i'r rhyfel ofnadwy hon ddod i derfyn buan a buddugoliaethus, er mwyn Duw, Brenin a gwlad. Terfynaf yn awr gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Fe gewch lythyr eto yr wythnos nesaf.
Wele isod enwau ychwanegol at restr fis Rhagfyr y rhai o’r ardal fu’n gwasanaethu fel twnelwyr gyda charfan Evan Jones, Rhosydd:
Capten Evan Prichard, Brynawel;
Thomas Huges, 4 London Terrace;
H. London Green, 27 Stryd Glynllifon;
William R. Jones, 15 Stryd Fawr;
Pierce Evans, Llwyn Eifion, Maentwrog; a
David Jones, Bodfaen.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

25.2.16

Colofn yr Ysgwrn- gadael argraff

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths.
 
Symud y Gadair Ddu a Chloc Tywydd yn gadael argraff ddofn

Yn ddiweddar cludwyd y Gadair Ddu o’r Ysgwrn am y tro cyntaf ers degawdau er mwyn ei thrwsio a’i gwarchod i’r dyfodol.

Nid mater hawdd oedd symud cadair sydd bron yn gant oed, sy’n fregus ac yn hynod o drom, trwy ddrws cul parlwr yr Ysgwrn, ond gyda chryn nerfusrwydd a gofal llwyddwyd i osod blanced odditani a’i llusgo i’r cerbyd tu allan.

Ond nid y gadair oedd yr unig beth i adael y tŷ. Gan fod y gwaith o atgyweirio’r ffermdy ei hun eisoes ar y gweill, roedd angen storio’r holl gelfi a’r creiriau er mwyn eu diogelu a’u trwsio. Rhyw deimlad rhyfedd oedd gweld yr hen ddodrefn yn gadael y gegin. Er mai cychwyn ar daith i gael eu trwsio oedden nhw mewn gwirionedd cyn eu cludo’n ôl i’w cartref, chwithig iawn oedd gweld y tŷ’n wag a’r celfi wedi eu llwytho’n daclus i’r fan.

Roedd sylw craff Gerald yn taro’r hoelen ar ei phen: ‘Mae fel tasa perfedd y tŷ wedi’i dynnu allan ohono!

Felly cawsom gyfnod prysur iawn wrth glirio a phacio bocsys, a daeth ambell i drysor i’r fei wrth chwilota yn y droriau a’r cypyrddau! Ymysg y darganfyddiadau roedd hanner isaf pâr o ddannedd gosod o ryw oes neu’i gilydd, sbectols, llythyrau a chardiau, poteli ffisig gwydr a hen badell ffrio haearn oedd mor ddu â’r fagddu wedi oes o ffrio bacwn ar yr hen aelwyd.

Ond un o’r pethau mwyaf trawiadol oedd gweld olion y ‘glass’ tywydd ar y wal. Mae’n debyg bod y teulu wedi papuro o'i amgylch yn ofalus dros y blynyddoedd a phan dynnwyd y teclyn oddi ar y wal, roedd wedi gadael ei ôl yn dwt fel ffosil yn y papur!

A chyda blwyddyn newydd daw cyfnod newydd i’r Ysgwrn gyda’r ymweliadau wedi dod i ben dros dro, y celfi wedi eu storio ar gyfer eu trwsio, a’r cadeiriau wedi ei storio’n lleol.

Y bwriad yw gwarchod cymaint ag a allwn o’r tŷ traddodiadol a chadw gwead hynod y cartref yn ei le, ond mae hefyd yn gyfle i ni agor y llofftydd i’r cyhoedd a rhoi blas ar fywyd yng nghyfnod Hedd Wyn.

Ond er y bydd yr Ysgwrn ei hun ar gau i’r cyhoedd mae gennym wledd o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf, yn cynnwys sgyrsiau a theithiau, a diwrnodau agored i weld y safle a’r cadeiriau’n cael eu trwsio.

Bydd y gwaith o rannu hanes yr Ysgwrn a Hedd Wyn yn parhau trwy gyfrwng yr arddangosfa ym Mhlas Tan y Bwlch, a gall grwpiau, cymdeithasau ac ysgolion gysylltu â ni i drefnu ymweliad.

(Gellwch gysylltu â Sian neu Jess ar  01766 770274/ e-bost:  yrysgwrn[at]eryri-npa.gov.uk)



-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

23.2.16

Llais Betsi a neb arall...

Y diweddaraf o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Goffa.
(O rifyn Chwefror 2016)


Newyddion go gythryblus ddaeth o’r Bwrdd Iechyd ar Ionawr 25ain ond nid annisgwyl, serch hynny. Datganiad y Betsi i’r Wasg y diwrnod hwnnw oedd y bydd y gwaith o addasu adeilad yr Ysbyty Coffa yn dechrau ar Chwefror 7fed (er bod amryw ohonoch yn gwybod o’r gorau bod y gwaith hwnnw ar droed yn ddistaw bach ers peth amser).

Dyma’r camau cyntaf tuag at roi cartref newydd i’r Ganolfan Iechyd bresennol - a dim byd mwy na hynny, ac eithrio 'chydig o swyddfeydd crand!

Yn y cyfamser, mae gofal iechyd yn yr ardal yn wynebu o leiaf flwyddyn arall o lanast llwyr wrth i’r gwaith fynd rhagddo ac i’r gwasanaethau gael eu symud hwnt ac yma. Fel tae pethau ddim digon drwg fel roedden nhw! (Mae adroddiad  Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru (Health Inspectorate Wales), a gyhoeddwyd lai na mis un ôl, yn bur feirniadol o’r modd y mae ein Practis Meddygon ni yn cael ei redeg, ers i’r Betsi gymryd cyfrifoldeb amdano.)

Fe gofiwch am addewidion gwreiddiol  y Gweinidog Iechyd yn 2013 - £4miliwn yr un i addasu Ysbytai Coffa Stiniog a Tywyn. A byddwch yn cofio hefyd fel yr aeth y Bwrdd Prosiect Iechyd a Gofal Integredig – y PIGCI bondigrybwyll - o dan eu cadeirydd Dr Bill Whitehead, ati i addo môr a mynydd inni yma. Fe fydden ni, medden nhw, yn derbyn gwasanaeth cyn wyched ag unrhyw ardal arall yng Nghymru. Felly, be wnewch chi rŵan o’r newyddion diweddaraf yn y wasg mai dim ond oddeutu £2.5m fydd yn cael ei wario arnon ni ac y bydd rhan helaeth o’r gweddill yn cael ei lyncu gan y Dreth ar Werth (VAT)!

Ond ddylen ni ddim cwyno, mae’n debyg, oherwydd ym marn un o’n cynghorwyr sir ni yn y Daily Post yn ddiweddar, mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol (‘substantial investment’) ac mae Dafydd Elis Thomas hefyd, yn ôl y Cambrian News  ‘yn llwyr gefnogi safbwynt y Gweinidog Iechyd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol’.

Ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol?
Bobol bach! Llais y Betsi, a neb arall, sydd i’w glywed mewn geiriau fel’na! Ac mae’r ffaith bod yr Aelod yn gallu gneud y fath osodiad yn profi cyn lleied o ddiddordeb mae o wedi’i ddangos ym mrwydyr ei etholwyr yn yr ardal hon. Mae o’n honni hefyd bod ‘y rhan fwyaf o’r cynghorwyr tref a sir’ yn cefnogi’r camau sy’n cael eu cymryd. Pa mor wir ydi hynny, tybed? Dichon y bydd y cynghorwyr yn awyddus i ateb drostynt eu hunain. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae Ysbyty Coffa Tywyn, trwy ddycnwch y rhai fu’n ymladd yn ddiflino yn fan’no, yn gweld datblygiadau gwerth £5½m!

Er iddyn nhw wadu’r ffaith dro ar ôl tro, mae’r Betsi yn sicir yn dangos ffafriaeth i’r ardaloedd glannau môr, a hynny ar draul ardal wledig a Chymraeg-ei-hiaith fel hon. Ac yn cael cefnogaeth lwyr y Gweinidog iechyd (ac ambell wleidydd arall) i neud hynny! Ydi, mae hon yn hen bregath gynnon ni ond mae’r cyhuddiad mor wir heddiw ag erioed.
*  *  *

Bu sôn yn y rhifyn diwethaf am drefnu cyfle ar Ionawr 18fed i rai ohonoch chi, bobol yr ardal, gael cofnodi eich cwynion ar ffurflenni arbennig ond fe aeth y trefniadau o chwith braidd, a rhaid ymddiheuro am hynny. Fodd bynnag, mae’r ffurflenni ar gael i’r rhai sy’n awyddus i’w llenwi. Felly, os oes gennych chi gŵyn o unrhyw fath – bach neu fawr - yna ewch ati i holi am ffurflen.
Erbyn i hwn ymddangos, bydd y Mid Wales Collaborative wedi cynnal eu sesiynau ymgynghorol yn y drefac ni allwn ond gobeithio bod llawer ohonoch wedi manteisio ar eich cyfle i ddeud eich deud yn fan’no.
*  *  *

Felly, be rŵan cyn belled ag y mae’r Pwyllgor Amddiffyn yn y cwestiwn? 
Mae hi wedi bod yn frwydyr hir a rhwystredig i drio achub ac yna i geisio adfer yr Ysbyty Coffa. Ionawr 2005 i Ionawr 2016 ! Un mlynedd-ar-ddeg! Ydi hi rŵan, felly, yn amser inni roi’r ffidil yn y to a rhoi’r gorau i herio penderfyniadau’r Betsi?

Mi fyddai hynny’n plesio rhai pobol yn reit siŵr ond bradychu aberth ein cyndadau a dyfodol ein plant fyddai inni gefnu’n rhy barod ar y frwydyr. Felly, tra byddwch chi, bobol yr ardal, yn dymuno inni neud hynny, mi barhawn ni i ymgyrchu ar eich rhan, am ryw hyd eto, beth bynnag.

Wedi’r cyfan, mae etholiadau mis Mai ar y gorwel, a phwy ŵyr na fydd wynebau newydd wrth y llyw ar ôl hynny!  
GVJ
------------------------------



Gallwch ddilyn yr hanes efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


21.2.16

Rhod y Rhigymwr- Blodau'r Ffair

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ionawr 2015.

Mae fy llyfrau’n y stydi’n parhau i fod dan haenau o lwch yn dilyn y gwaith y bu i ni ymgymryd ag o yn ystod y misoedd dwytha. Joban fach at ddechrau’r flwyddyn fydd tynnu’r cyfan i lawr a dechrau meddwl eto be ydw i am eu cadw.

Wrth fwrw golwg ar y silff uchaf, deuthum ar draws pentwr o gyfrolau a roes fwynhâd mawr i mi pan oeddwn yn blentyn, ac yn wir, yn ystod fy arddegau. Rhifynnau ‘Blodau’r Ffair’ oedden nhw – cylchgrawn ysgafn Urdd Gobaith Cymru, a’r golygydd oedd R.E.Griffith. Mae ynddyn nhw beth wmbredd o storïau a cherddi gogleisiol, cartwnau gan Hywel Harries a chasgliad gwych o englynion digri’.

Ymddangosai’r gyfrol ddwywaith y flwyddyn – ym Mehefin a Rhagfyr o tua 1953/4 hyd ddechrau’r 1970au, os cofiaf yn iawn. Does dim dwywaith i’r cylchgronau yma gael dylanwad arnaf yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dyma ambell englyn i’ch difyrru wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch:-

Y PEN MOEL ... Gwilym Rhys, Llangurig:
Am y pen pam y poeni? – yn wir, gwell
Na’r gwallt ydyw’r moelni.
Nid â arian i dorri
Copa wen heb ’r un Q.P.

Gwisg grafat a’th hat, da thi –
‘n gyhoeddus
I guddio dy noethni;
Mae dy ben, mi dybia’ i,
Fel ŵy, Bob, neu fol babi.

Buddiol ar gerrig Beddau’ – pedwar englyn beddargraff ysgafn ... Iorwerth H. Lloyd, Dolgellau:

BWTSIAR
Wat annwyl, cefaist hunell – yn y bedd
O sŵn buwch a phorchell;
Unig heb gig yw dy gell
Wedi gollwng dy gyllell.

BOCSIWR
Ha, ddyrnwr, rhoed pridd arno, - yn y ring
Gwae yr hwn ddôi ato;
O’i wael fan ni wêl efo
Un bowt gyffelyb eto.

TAFARNWR
O ganol Stout a Guinness, - oer ei gell,
Heb sawr gwin na ‘whiskies’;
O’i fedd dudew di-ddewis
Tom y ‘Plough’ ni ddwed ‘Time please’.
[Rhifyn Haf 1959]

TYNNU DANT ... Tydfor Jones, Blaencelyn, Ceredigion
Y pinsiwrn cam ni roi damaid – o dwc
I’r diawl dianghenrhaid!
Cyn treio eto bu raid
Insiwrio rhag bwtsieriaid.
[Rhifyn Nadolig 1958]

YR OCSIWNIAR ... Siôn Ifan, Llanegryn
Hen labwst gwych ei glebar, - â’i forthwyl
Fe werthai dwrch daear;
O’i wedd goch, pobloedd a gâr
Arabedd india rybar.
[Rhifyn 1955]

Daw’r rhain o rifynnau diweddarach:-
Y RASEL DRYDAN ... W. Rhys Nicholas, Porthcawl
Heb na hobl na woblo, - na rhegi
Fyth ragor, rwy’n siafio,
Dan y trwyn dim ond un tro,
Dyna hawdd, trydaneiddio!

BEIL ... Dafydd Evans, Llangwm
Roedd Meg yn teimlo’n llegach – dan y beil,
Dyna boen un afiach,
Cyfogai, saethai sothach,
A rasio bu i’r hows bach.

Y DYN DI-BRIOD ... Ithel Davies, Penarth, Bro Morgannwg
Nid da bod dyn ei hunan – yn y byd,
A byw yn ddiamcan
Heb serch na merch yn un man,
Na gobaith llenw’i gaban.

ER COF AM WRAIG SIARADUS ... Berllanydd, Hen Golwyn
Mae hon a fu’n merwino – ein clustiau
Yn y clwysty heno,
A’i gŵr fel hogyn o’i go
Yn chwyddo’r ‘Diolch Iddo’.

CATH DRWS NESA ... Geraint Percy Jones, Talybont, Meirion
Beunos fe ddaw i boeni; - hen gwrcath
Sy’n garcus am Doli;
Hwn ydyw y pen dadi
A thad naw o’n cathod ni.
[Rhifyn Nadolig 1970]

A dyma ambell berl i gloi:-

FFAWD-HEGLYDD
... Ronald Griffith, Corwen [o Rifyn Haf 1955]
Yn y glaw â’i noeth benglîn – mae’n llusgo
Mewn llesgedd ers meitin;
Dyma’i bader, bererin –
“O! Am sedd mewn limosîn!”

Mae hwn ar fy nghof, a gwn mai yn un o rifynnau ‘Blodau’r Ffair’ y deuthum ar ei draws – rywdro yn y chwedegau. Dydw i ddim yn siŵr pwy oedd ei awdur, ond cofiaf, pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, yn nechrau’r 1970au ei ysgrifennu ar gardfwrdd, ei lamineiddio a’i osod yn dwt ar ddrws tŷ bach y merched. Roedd hynny, wrth gwrs, yn y cyfnod pan oedd yn rhaid rhoi ceiniog yn y slot er mwyn cael ei ddefnyddio. Mae’r 20 ceiniog a ofynnir amdano heddiw’n brawf o fel mae costau byw wedi codi wedi dyfodiad yr arian degol yn Chwefror 1971!

Tunnell o ferched tinog – a welais
Yn hwylio’n bur frysiog
Ar ras boeth at ddrws y bog
I ogoniant am geiniog.

Pob hwyl!
IM

------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Celf gan Lleucu Gwenllian)

19.2.16

O Lech i Lwyn- llygedyn o haul

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog.
Y tro hwn, erthygl gan Vivian Parry Williams, o rifyn Chwefror 1999.

Tydw' i heb benderfynu yn iawn p'run ai hanesydd/archaeolegwr gyda diddordeb mewn byd natur ydw'i, ynteu ryw gyw o naturiaethwr sy'n ymddiddori yn hanes ac archaeoleg y fro. Beth bynnag, byddaf yn crwydro'r llechweddau a'r mynyddoedd 'ma gydag un lygad ar y llawr rhag colli ryw olion hanesyddol o bwys, neu i geisio darganfod hen greiriau o ddyddiau gynt, a'r llygad arall tua'r wybren i geisio sylwi ar ambell aderyn prin a'i ryw.

Felly y bu ryw dro yn Ionawr; y ddaear yn galed dan draed a barrug y nos wedi gadael ei ôl ar y tir fel cynfas wen- sefyllfa ddelfrydol i olrhain y safle gyn-hanes ym Mron Manod ar y ffordd i fyny o Gae Clyd. Roedd olion gweddillion y muriau a amgylchynai'r safle yn sefyll allan yn glir gyda'r llwydrew arnynt. Wedi aros ennyd i synfyfyrio a rhyfeddu at ddewis gwych ein cyndadau o safle i fyw ynddo, a synnu'r un pryd na fu, hyd y gwn, unrhyw archwiliad archaeolegol i'r safle hynafol hon, rhaid oedd symud ymlaen.

Cwm Teigl. Llun- Paul W.
Prif bwrpas y daith oedd i geisio darganfod a oedd y sogiar (socan eira, neu gaseg y ddrycin yn enwau eraill arni; fieldfare yn Saesneg) wedi cyrraedd godre'r Manod Mawr fel arfer i dreulio'r gaeaf yn ein cwmni. Dros y blynyddoedd fe welid heidiau ohonynt yn hedfan o lwyn i goeden, yn eu dull brysur hwy i fwydo ar aeron y fro.

Wedi pasio heibio adfail Bryn Eithin a Chae Canol, heb glywed cân 'run aderyn, na gweld dim ond ambell wylan neu bâr o frain tyddyn yn dadlau â bwncath, roeddwn yn dechrau digalonni, ac yn credu pob gair a ddywedodd yr adarwr Iolo Williams ar raglen deledu'r noson gynt am leihad enbyd mewn rhifau adar. Ond wrth ddringo'r gamfa o ffordd Cwm Teigl i gyfeiriad Hafod Ysbyty cododd f’ysbryd wrth weld haid o sogieir yn pigo'r ddaear yn y pellter, ac wrth i mi nesau, yn codi yn eu dwsinau gyda'i gilydd, gan lanio o goeden i goeden.

Ychydig ymhellach, cael y wefr o wylio pedwar nico yn pigo'r hynny oedd yn weddill o hadau o goesyn asgell truenus yr olwg. Wedi croesi afon Gamallt tu ôl i Hafod Ysbyty, troediais drwy drwch o eira caled cyn belled â Sarn Helen, ac wedi olrhain yr hen ffordd am ychydig, troi yn ôl tuag adre' yn hamddenol.

Gweld fod y piod yn niferus yng nghoed Hafod Ysbyty fel arfer. Gwrandewais ar gri wylofus bwncath uwch Gae Canol, gan dybio fod llawer mwy o'r adar ysglyfaethus hyn o gwrnpas rwan nag oedd pan oeddwn yn fachgen? Cefais gip sydyn ar ddryw bach yn sboncio i dwll yn y c1awdd gerllaw, a sylwi ar ambell fwyalchen yng nghanol drysni'r drain wrth i mi anelu tuag at Fryn Eithin yn ôl. Daeth haid arall o sogieir i chwilio am aeron ar y coed drain uwch Fron Manod i godi 'nghalon eto.

Roeddwn wedi f'argyhoeddi fod bywyd gwyllt y fro yn dal mor fyw ag erioed. Wrth edrych tua'r machlud fflamgoch dros aber y Ddwyryd ar derfyn p'nawn hyfryd, teimlais yn ddigon bodlon fy myd wrth droedio'n ôl am Gae Clyd. Wrth i'r dydd ymestyn wedi troad y rhod, rhyfedd pa effaith gaiff ryw lygedyn o haul ar ddyn a natur ynte?
-------------------------------------------


Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

17.2.16

Mil Harddach Wyt- aros mae...

Yn yr Ardd efo Eurwyn.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1999.
 
Yn yr Ardd Lysiau

Ar hyn o bryd, mae’n anobeithiol yn yr ardd gan fod y pridd mor wlyb; ond y munud y cawn ychydig o ddyddiau sychion rhaid trin y pridd ar gyfer ei hau, ac er mwyn plannu llysiau nes ymlaen.

Hau yn y tŷ gwydr. Llun Paul W.
Os oes gennych dŷ gwydr, yna mae’n bosib hau hadau llysiau rwan, megis pys, ffa a letys, er mwyn eu cael yn gynnar at ddefnydd y gegin!

Yr yr Ardd Flodau
Tociwch blanhigion barf yr hen ŵr (Clematis) – y math sy’n blodeuo yn yr haf megis  jackmanii a viticella yn unig. Peidiwch a thocio y mathau sy’n blodeuo yn y gwanwyn.

Clematis viticella 'Madame Jules Correvon'. Llun- Paul W.
Os ydych wedi cadw gwreiddiau blodau Mihangel – Chrysanthemums – mae angen rhoi tipyn o wres iddynt yn awr, er mwyn annog tyfiant ar gyfer cymeryd toriadau. Neu fe allwch eu plannu yn yr ardd ddiwedd Ebrill a dechrau Mai os nad ydych yn cymeryd toriadau.

Rhowch blanhigion mwynawyd y bugail (Geranium/Pelargonium) – sydd wedi cael eu cadw’n sych, mewn potiau o bridd ffres a rhoi ychydig o ddŵr iddynt i ddechrau’r twf.

Os ydych am blannu llwyni neu brysgwydd, y mis yma yw y cyfle olaf i’w plannu, neu bydd rhaid aros tan yr hydref nesaf. Gallwch wrth gwrs brynu rhai sydd eisioes mewn twbiau.

Gallwch hau hadau blodau blynyddol fel Aster a Salvia rwan, ond rhaid cofio y bydd angen gwres arnynt.
-----------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.
Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.




15.2.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Eglwys

Pennod pedwar yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Wrth gyfeirio at yr Eglwys Bach yn Nhanygrisiau mae yn werth rhoi y sylw canlynol gan fod yr eglwys wedi ei hen chwalu (ers y pumdegau) – collwyd yr adeilad a’r gloch a’r gatiau bychain haearn (prydferth braidd) a’r grisiau o lechen las trwchus a’r llwybr at y drws.

Y gloch oedd yn fy swyno i fel plentyn, ble mae heddiw tybed?

Roedd yr eglwys yma, er yn gyffredin, eto i gyd yn cyfrannu ymhob ystyr yn yr oes honno at wneud yr ardal yn gyflawn – yn cyfrannu yn grefyddol ac yn gynhaliol at ein bywyd beunyddiol.

Diolch bod atgofion fy mhlentyndod yn dal yn fwynhad ac mae cofio am yr eglwys ar Nos Calan yn dod a hen, hen hiraeth yn ôl i’r cof am y gwasanaeth noson olaf y flwyddyn yn yr eglwys – yn gwrando ar y gloch yn canu – a’r Ficer neu y ciwrad o Eglwys y Plwy’ – Dewi Sant, Blaenau, yn darllen a gweddio yno.  Yn hynod iawn, roedd clochydd yno hefyd.  John Jones (H.S) oedd yn gofalu am ganu y gloch a gan ei fod yn dipyn o ffefryn yn yr ardal cafodd y ffugenw ‘Rhen Sant.

Roedd ein tŷ ni o fewn rhyw ddeg llath a lled clawdd i’r eglwys yn Tyn Llwyn – gwaelod y rhiw i Pantcelyn a Phenllwyd a’r lein bach.

Byddai Gwasanaeth y Plygain yn cael ei gynnal yn yr eglwys bach ac yn dechrau am naw o’r gloch.  Byddai’r gloch yn dechrau canu tua hanner awr cyn hanner nos.  Byddai yr adeilad yn llawn, gyda’r rhan fwyaf o’r trigolion yn mynychu Y Plygain.  Doedd dim lle i bawb eistedd – y seddau bob tro yn llawn – a’r cymdogion yn cyrchu cadeiriau dros y clawdd i’r eglwys. 

Byddai’r clochydd, yn dechrau canu y gloch yn araf iawn – yn lleddf fel bydd y cantorion yn dweud – tua deg o’r gloch: ding-dong araf-araf, tra roedd yr addoliad yn mynd yn ei flaen.  Byddem ni’r plant yn canu cân yr un pryd yn araf iawn:

‘Mae’r flwyddyn yn marw
Ei hamser a ddaeth ....’

Ond, pan fyddai’r cloc yn taro hanner nos byddai John Jones yn ein hysbrydoli trwy godi’r tempo yn syth a ding-dong sydyn-sydyn – ding-dong-ding.  Safai pawb ar eu traed yn canu yn gyflym, gyflym ar dinc hapus:

‘Ond dyma flwydd newydd yn dyfod yn llon,
A pawb fel ei gilydd yn ysgafn ei bron.’

Mi glywais gloch eglwys Dyffryn Ardudwy yn canu ar noson olaf 1997 – a hyn ddaeth yr atgofion i gyd yn ôl i mi.  ‘Rwyf yn falch fy mod wedi aros i fyny i glywed cloch Dyffryn – fe aeth a fi yn ôl dros 75 o flynyddoedd, gyda chofion cynnes am y cymdogion a’r ffrindiau yn Rhes Tyn Llwyn, Cambrian Teras, Bronbarlwyd, Cromlech, Fronhaul, Pengarreg a’r teulu yn Nhynddôl.

Roedd gwasanaethau arbennig hefyd ar Sul y Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig.  Trueni i’r chwalfa ddigwydd ynghŷd â’r golled o’r chwalfa a diflaniad yr adeiladau oedd yn creu ein cymuned -ein ‘Hardal Ni’.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


13.2.16

Pobl y Cwm

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.

Rwyf am geisio yn awr alw i'm cof yr arweinyddion a ddaeth o'r Hen Babell i'r Babell newydd. Cof plentyn yw cofiwch hynny. Mae'n sicr y gwnaf rai camgymeriadau, ond nid yn fwriadol.

Rhaeadr y Cwm. Llun- Paul W.

Gofalwyr y Sêt fawr- John Jones, Tyddyn Bach. Lewis Richard, Cefn Panwl. William Lloyd Owen, Cae Iago. Robert Humphreys, Fferm Cwm.  Arweinydd y Canu: Edward Owen, Hafod Fawr Isa, yr organydd.

Aeth dau frawd i'r Weinidogaeth o'r Babell; Parch Owen Lloyd Owen, Cae Iago. Bu yn weinidog yn Bontddu am flynyddoedd, a Parch David Owen Jones, Bronerw. Mi drodd David Owen Jones oddiwrth y Methodistiaid ac aeth yn Berson, ac mi ddringodd i fyny yn uchel yn y swydd hono, yn Canon.

Arolygwr yr Ysgol Sul, Ellis Jones, Tyddyn bach:  Ysgrifenydd, Pierce Jones, Cynfal fawr.

Roedd yno saith dosbarth, pum yn y Capel, a dau ddosbarth y plant lleiaf yn y Festri.
Yr Athrawon, -y plant y Festri oedd Thomas Williams, Bryn Saeth a Lizzie Jones, Garth.
Athrawon yn y Capel,- Edward Jones, Brynllech; James Richard, Cefn Panwl; Gruffudd Jones, Garth; William Ll.Owen, Cae Iago; Evan Jones, Bryn Rodyn.

Roedd Evan Jones wedi dod i'w wlad enedigol o Patagonia ac newydd ddod i Brynrodyn i amaethu. Buaswn yn hoffi rhoi enw llawer un arall a fu ynghwrs y blynyddoedd yn llafurio yn galed a diflino gyda'r plant a'r bobl ifanc, ond rhag ofn anghofio rywun gwell peidio.

Byddai deg safon i'r plant ddysgu yr adeg hono cyn bod yn 14eg oed. Dysgu Emynau ac adnodau, Rhodd Mam, Holwyddoreg a Hyfforddwr ar y cof. Bob dosbarth i ddysgu ei ran ar y cof fel y byddo raid. Arholiad Llafur y gelwir hwnw. Byddai dau neu dri o Arolygwyr o eglwysi eraill yn dod mhen y flwyddyn i roi prawf ar y plant. Mis Mawrth fydda'r adeg. Roedd dwy arholiad arall yn cael ei gynal yn y flwyddyn, arholiad cudd, a'r arholiad sirol, rhai ysgrifenedig oedd y rhai hyn. Ateb rhyw naw neu ddeg o gwestiynau oddiar maes llafur y flwyddyn. Dwy awr a ganiatai i'r plant i gael gwneyd y gwaith. Diben yr arholiad cudd oedd paratoi y plant a rhoi prawf arnynt erbyn dydd yr arholiad sirol.

Roedd hwnw yn bwysig iawn gan fod Ysgolion Sul Sir Feirionnydd i gyd yn cystadlu a'i gilydd, a braint oedd cael cyraedd y dosbarth cynta yn yr arholiad hwnw. Roedd y Babell yn enwog am ei phlant y pryd hyny, byddai ryw pymtheg i ugain yn ymgeisio ar wahanol wersi, ac ni fyddant yn ôl o ennill gwobrau, a rhai ohonynt gyda anrhydedd. Byddai yr athrawon wrthi'n ddyfal ac yn egniol yn paratoi y plant a'r bobl ifanc am rai wythnosau cyn yr amserau hyn. Byddent yn trefnu o'i hamser prin i gydgyfarfod a'r plant ryw hanner awr o flaen y cyfarfodydd wythnosol.

Byddem ni y plant wrth ein bodd yn hel at ein gilydd yn fawr ein trwst a'n twrw, ac yn ddigon afreolus yn aml, fel plant bob oes. Pan fyddai pawb wedi cyrraedd a chymeryd eu lle, ac i'r athraw waeddi 'Gosteg', byddai tawelwch hollol, a pawb yn edrych ar ei lyfr, ac am y cynta i ateb. Byddai ateb gwreiddiol a doniol i'w gael ambell i waith. Roedd ryw gydgord hapus gydrwng yr athrawon a'r plant yn wastad. Cyfeillion o eglwysi eraill oedd yn dod i roi prawf ar y plant. Byddai tystysgrifiadau yn dod ymhen ryw ddau Sul dilynol i ddweyd pwy oedd wedi pasio, a mawr fyddai y disgwyl am y Sul hwnw. Eithriad fyddai i un neu ddau golli, rhan fwya yn y dosbarth cynta, a rhai o honynt gyda anrhydedd.

Ar ôl ir arholiadau basio, a tymor y Gobeithlu ddarfod, byddai yn rhaid dechreu paratoi at y Cyfarfod Llenyddol oedd yn cael ei gynal yn mis Ebrill, roedd hwnw yn bod ers blynyddoedd yn yr hen Babell. Pwrpas y cyfarfod hwn oedd gwobrwyo am pasio safonau a gwaith y Gobeithlu, a chael cystadlu a'i gilydd mewn gwahanol adranau. Cyfyngedig i Gwm Cynfal yn unig y pryd hyny. Yn gynta peth oedd raid gael oedd Pwyllgor i drefnu rhaglen at yr amgylchiad. Mawr fydda hwyl a'r  miri wrth osod pethau ar y gweill, pawb a'i holl egni yn gwneyd eu rhan, i chwilio am bethau addas i wahanol oed, i bob un gael cyfle mewn canu, adrodd, dysgu ar y cof o'r Beibl. Hefyd byddai ysgrifenu 'penau pregethau' am y tri mis cynta o'r flwyddyn yn gystadleuaeth bwysig iawn, a barddoni ac ysgrifenu ar wahanol destunau.

Yn 1905 y cynhaliwyd y Cyfarfod Llenyddol gynta yn y Babell newydd. Bu'r Pwyllgor a llawer un arall yn gweithio yn ddiwyd gyda sel a brwdfrydedd diflino yn eu gwaithgarwch i wneyd y Cyfarfod yn llwyddianus a diddorol, ac i dynu allan awydd a doniau y plant a'r ifanc at bethau goreu bywyd, a chafwyd llwyddiant rhagorol ar eu gwith am y flwyddyn. Aeth yn mlaen o nerth i nerth am rai blynyddoedd gan lwyddo gyda graen a llewyrch nes tynu bobl o bob man, er lles hyny eangwyd ei gorwelion gan ddechreu rhoi gwobrwyon yn agored i bawb ar y rhan fwyaf o'r cystadleuthau, a galwyd hi yn 'Eisteddfod y Babell'.

Roedd hyny yn gwneyd lles mawr i dynnu fwy o gyfeillion i'r lle. Roedd hi yn cynyddu yn fwy lluosog bob blwyddyn, ac yn llwyddo yn eithriadol. Byddai bobl yn edrych yn mlaen at ddyddiad Eisteddfod y Babell gan laweroedd o bell ac agos, ac ni siomwyd neb yn eu cynyrchion, ei thestynau a'i difyrwch, rwyn sicr.

Gan faint y gynulleidfa oedd yn cyrchu yno o flwyddyn i flwyddyn aeth adeilad y Babell yn rhy fach i gynal yr eisteddfod, a phenderfynwyd chwilio am adeilad mwy a phwrpasol iddi yn rywle arall. Cafwyd lle iddi mewn adeilad yn Tynyfedwen, a bu cyfeillion y Cwm yn brysur yn gwneyd y lle yn addas ac yn gyfleus i gynal yr eisteddfod. Roedd yn cynyddu ac yn llwyddo o flwyddyn i flwyddyn. Cafodd llawer i un gyfle i ymarfer ei ddawn a'i allu yno. Bu yno am rai blynyddoedd nes symudwyd hi i Neuadd pentra Ffestiniog am ychydig, a dyna ddiwedd iddi.

11.2.16

Llyfr Taith Nem- 'gwlad chwe mis'

Hedfan i Ganada
Er i mi deithio gymaint ar hyd fy oes, ychydig iawn deithiais mewn awyrenau.  Mae’n debyg fy mod yn perthyn i’r dosbarth hwnnw sydd yn credu buasai’r Bod Mawr wedi rhoi adain i ddyn pe tae wedi bwriadu iddo hedfan.  Daw hyn a hen stori o ‘Stiniog i fy nghof.

Yr oedd hen gymeriad doniol yn labro yn y chwarel, a’i waith oedd cynorthwyo i dynnu y wageni yn y lefel dan y ddaear.   Un dydd yr oedd yr hen frawd yn ysmygu pan ddaeth y stiward heibio, ac meddai’r stiward, “John, pe tae’r Bod Mawr wedi bwriadu i ddyn ysmygu, fe fuasai wedi rhoddi corn simdde ar ei ben.”  Edrychodd John yn graff arno, ac meddai, “Ddigon posib wir, ond pe tae o wedi bwriadu i minnau dynnu wagen, mi fuasai wedi rhoddi bachyn ar fy nhîn hefyd!

Unwaith, fodd bynnag, bu i mi deithio mewn awyren o Detroit, Michigan i Calgarry, Alberta trwy Montreal a Winnipeg.  Rhyw syniad rhyfedd oedd edrych i lawr o’r uchelder a gweled yr holl fyd megis yn mynd heibio.  Daeth yr adnod honno i’m meddwl “Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.”  Yn wir teimlais y gallwn ddweud, “Y fi sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.

Yr oeddwn yn gweled natur yn ei holl ogoniant, yr afonydd yn gwau drwy’i gilydd, a’r mynyddoedd yn esgyn y naill wrth ben y llall, a miloedd o aceri o geirch a chorn.  Rhyfedd ydyw sylweddoli er mor fychan yw maint dyn yn ochor y pethau yma, mai dyn wedi’r cwbwl ydyw creadigaeth fwyaf Duw.  Ambell waith yn hedfan yn uwch na’r cymylau, ac fel pe taswn wedi ffarwelio oddi wrth y byd yn gyfangwbl.  Hoffwn pe tawn wedi cael y profiad heb swn y moduron, a chael teithio yng nghanol distawrwydd yr eangder mawr.

Cymerodd y daith ddeuddeng awr gan gyrraedd Calgarry hanner awr wedi saith y nos.  Cymerais fodur o’r porth awyr i’r ddinas a’r peth cyntaf welais oedd adeilad yn dwyn yr enw ‘Wales Hotel’.  Cofier mai’r gair ‘Wales’ dynodd fy sylw ac nid ‘Hotel’.  Sylwodd gyrrwr y modur fy mod yn craffu ac yr enw a gofynodd i mi ai Cymro oeddwn.  Ymddengys mai Cymro oedd yntau o Forgannwg.  Wedi cerdded dipyn o amgylch y ddinas, cyfeiriais tua’r orsaf i gymeryd trên am Ponaka, a chyrhaeddais yno tua phump o’r gloch y bore.  Nid oedd yr un creadur dau – na phedwar – troed o gwmpas, ond wedi ychydig amser gwelais heddwas, a chyfeiriodd hwnnw fi at gartref fy nghyfneither, gynt o Benrhyndeudaeth.  Cerddais tua wyth milltir drwy gaeau o yd, ceirch a haidd.

Rhyw 200 milltir ymhellach nae Edmonton, ar derfynnau Alaska, ond oherwydd yr hin ofer meddwl am fyned yno ond rhwng Ebrill a Medi.  Yn ystod y misoedd eraill mae’r tywydd oer yn rhy eithafol, a rhewir y ddaear dros ddeg troedfedd i lawr.  Dywedodd ffermwr o Winnipeg wrthyf mai gwlad chwe mis ydyw Canada.  Mae llawer o hysbysebu am ffermwyr o Brydain, ac addaw cyflogau da, ond fy nghyngor i i unrhyw un yn y cyswllt yma ydyw gwneud yn siwr ym mha ran o’r wlad mae y fferm, a sicrhau gwybodaeth gyflawn am y tywydd.

Peth arall i’w gofio ydyw fod llawer o’r ffermydd yma mewn lleoedd anial iawn, heb fywyd cymdeithasol o gwbwl, fuasai hynny yn dipyn o newid i unrhyw un o Gymru, oherwydd bywyd unig ydyw’r bywyd di gymdeithas.  Ar un adeg arferid rhoi 60 o aceri o dir i unrhyw un ddeuai i’r wlad i ffermio o Brydain.  Neidiodd llawer i’w derbyn, ond wedi cyrraedd yno, sylweddasant fod yr aceri hynny yn goed a mieri.  Rhaid oedd tynnu’r coed o’r gwraidd gydag ychain, a hwythau yn tyfu yn agos at eu gilydd.  Gwaith torcalonus oedd dechrau ar waith felly, a thorodd llawer un ei galon cyn gorffen y gwaith.  Os nad oedd y gwaith yn cael ei gwblhau, cymerai’r llywodraeth y tir yn ôl.

Er hyn i gyd, mae Canada yn wlad eithriadol o gyfoethog.  “Ei thorrog wythien arian, a’i phlwm a’i dur yn fflam dân.”  Oherwydd hynny mae amryw o gyfleusterau i’r gŵr nerthol a diwid, ond i lwyddo yno rhaid wrth iechyd a phenderfyniad eithriadol.  Fel y dywedodd hen Gymro rhyw dro, “Nid lle i deiliwr o ddyn.”
---------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.


9.2.16

Peldroed. 1960 - 1964

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)
 
1960-61 a 1961-62

Rhodiodd Stiniog yr uchelfannau yn 1960-61, gan ennill yr ail safle yn y Gynghrair.  Yn Rhagfyr a diwedd y tymor y llithrodd y tîm a cholli'r bencampwriaeth.  Buont am chwe' gêm yn Ionawr a Chwefror heb i neb sgorio yn eu herbyn.

Ym Medi a Hydref buont heb golli gêm gynghrair am dair ar ddeg o gemau, ac, yn Ionawr, Chwefror,  Mawrth ag Ebrill enillodd y Blaenau bymtheg gêm yn olynol.

Enillasant Gwpan Cookson gyda gwefr arbennig yn y ffeinal drwy guro Porthmadog 6-1 ym Mangor.  Yr oedd y tîm hwn oedd gan Stiniog yn haeddu cael eu roi ar gof a chadw -
Alan Button, Arwel Jones (a ddaeth yn brifathro Ysgol y Moelwyn ymhen blynyddoedd wedyn), Bob Hunter, Richard Alwyn Thomas, Geoff Waterson, Tom Williams, David Todd, Norman Birch, Drek Turner, Joe Bebb, Keith Mathews.  
Sgoriwyd 127 gôl, yn bennaf gan Turner (35), Mathews (19), Bebb (16), Todd (11).  Bu George Makin, un â phrofiad ganddo o chwarae yng Nghynghrair pennaf Lloegr, yn nhîm y Blaenau am wyth gêm.  Hwn oedd tymor cyntaf Dolgellau yng Nghynghrair y Glannau.

Enillodd Stiniog y bencampwriaeth yn 1961-62 ac yr oedd canlyniadau eu gemau yn union yr un fath â'r tymor blaenorol pan oedd yn ail yn y tabl terfynol.  Nid oedd Arwel Jones ar gael y tro hwn, ac fe gafwyd Ken Fletcher yn ei le.  Collwyd Bebb a Waterson trwy anafiadau tua'r Pasg, a bu'n ofynnol cael Derek Owen ac Owen Davies ar fenthyg tua diwedd y tymor.

Rhwng Tachwedd 18 ac Ebrill 7 enillodd y Blaenau 19 o'r ugain gêm a chwaraewyd.  Sgoriodd Derek Turner ei ganfed a hanner gôl i'r Blaenau.  Enillwyd 13 o gemau Cynghrair gartref, dod yn gyfartal deirgwaith a cholli unwaith.

Y Colts -llun o wefan Stiniog dot com
Cyrhaeddwyd ffeinal yr Her Gwpan. Yr unig fachgen lleol a alwyd oedd Llew Roberts, a diau iddo gael profiad cyffrous o fod yn y tîm a enillodd 7-0 yn erbyn Bae Colwyn a gweld Derek Turner yn sgorio pedair gôl.

1962-63 a 1963-64

Un a chwaraeodd 24 gêm i'r Blaenau yn 1962-63 oedd Ken Snelgrove, a oedd yn gricedwr medrus iawn ar lyfrau Sir Gaerhirfryn.  Chwaraeodd Alan Button ei ganfed gêm yn olynol i'r Blaenau, ac fe sgoriodd gic gosb a'r smotyn er mai yn y gôl y chwaraeai.

Hwn oedd tymor olaf Derek Turner efo'r Blaenau.  Chwaraeodd 169 o gemau a chael 174 gôl mewn pum tymor.  Enillwyd Cwpan Alves ym 1962-63 a gorffen mewn safle barchus yn y Gynghrair.  Nid oedd y Fflint yn y Gynhrair y tymor hwn a ni ddaeth neb yn eu lle.  Digwyddiad anghyffredin iawn ar ôl cael gêm gyfartal yng Nghwpan Gogledd Cymru oedd i roi y gêm i Fangor am y rheswm na ellid fforddio ail-chwarae.  Bu David W.Thomas gyda'r tîm drwy'r tymor, a diddorol yw nodi iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf mor bell yn ôl â thymor 1950-51.

Tymor tlawd oedd 1963-64 i'r Blaenau.  Am y tro cyntaf ers blynyddoedd methwyd â chyrraedd rownd gyn-derfynol yn y cwpannau.  Yr oedd yn dlawd o safbwynt cyllid hefyd, ac yn y cyfarfod blynyddol cyn cychwyn ar y tymor bu cynigiad a chefnogiad bod y Blaenau yn ymddiswyddo o'r Gynghrair, ond fel arall y penderfynwyd.  Pasiwyd i gwtogi costau y clwb ac i ymddiried fwy-fwy mewn talentau lleol o'r enw 'Blaenau Colts'.

Bu gaeaf 1963 yn un garw iawn ac ni bu ond un gêm yn Ionawr a dim un yn Chwefror.  Anghofiwyd y bêl-droed am chwe wythnos - gartref ac oddi cartref.  Ar wahan i'w ddawn fel ceidwad gôl, cysondeb oedd nodwedd amlycaf Alan Button.  Chwaraeodd 39 gêm gan golli un i fynd i briodas.  Oni bai am y briodas byddai wedi chwarae 126 gêm yn olynol i'r Blaenau.

Un o gysuron tymor symol 1963-64 oedd dyfodiad Glyn M.Owen i dîm y Blaenau yn Chwefror 1964.  Chwaraewr amlwg arall a ymunodd oedd Robin Keith Thomas.  Yr oedd David W.Thomas yn chwarae ei ddau-ganfed gêm i'r Blaenau.  Cafwyd dau o sêr Dolwyddelan, John Lloyd Price ac Ellis Roberts, a hefyd Gwyn Roberts a oedd dipyn yn iau.  Bachgen lleol talentog a ymddangosodd oedd Kenneth J.Roberts, ac ef oedd y prif sgoriwr mewn tymor go wan am ymosodwyr.  Hen wynebau oedd Button a Hunter.

Yn hanner isaf y tabl y gorffenwyd y tymor, ac ni chafwyd fawr o hwyl yn y cwpannau 'chwaith.  Dau fachgen lleol arall a ymunodd oedd Gwynn Roberts a John Gwyn Jones, y ddau o'r Blaenau.  Yr oedd y tymor drosodd ar Ebrill 11, 1964.  Yr oedd y pwyllgorddyn Oswyn Williams wedi ei alw i chwarae yn Nhachwedd 1953.  Yr oedd 43 o chwaraewyr wedi ymddangos dros y tymor.
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

7.2.16

Stolpia -Rhai o Siopau'r Rhiw

Pigion o golofn fisol Steffan ab Owain.


 Hen Siop Rhiwbryfdir (Belmont yn ddiweddarach)
Byddai siop yn Belmont ar un adeg ac roedd ffenestr siop yno hyd at y chwedegau, os cofiaf  yn iawn. Bu swyddfa bost yno am rai blynyddoedd cyn ei symud tros y ffordd i Glanydon a byddid yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau a dilladau yno.

Byddai polyn lamp ar gornel y groesffordd ac yno yng ngolau trydan gwan y byddem yn chwarae ar nosweithiau sych yn y gaeaf. Chwarae cuddiad, neu chwarae tic neu bêl droed o fath. Yn ddiau, roeddem yn cael dipyn mwy o ryddid na phlant heddiw. (I’w barhau)

Efallai bod rhai ohonoch yn methu a deall pam y gelwir y tai hyn wrth yr enw Glanydon. Wel, y rheswm yw, ar un adeg, byddai afon fechan yn llifo heibio cefn y tai ac i lawr i afon Barlwyd ger  Dinas. Pa fodd bynnag, penderfynwyd ei chau â slabiau rhyw dro yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ei bod yn ddigon peryglus ar dywydd o law mawr.

Syrthiodd un hogyn bach iddi un tro. Credaf mai Tommy Morton oedd ei enw a chludwyd ef i lawr am y Dinas gan y llifeiriant ond trwy rhyw drugaredd achubwyd ef gan chwarelwr dewr.

Dyma ni rwan yn yr hen bost y drws nesaf i Glasgow House. Hyd y gwn i, roedd swyddfa bost yn y lle hyd at yr 1940au gan i mi weld copi o drwydded gwn wedi cael ei stampio a’i arwyddo yno yn 1941, i Mr Robert Hughes, Bryn Hyfryd.

Roedd siop yma yn y blynyddoedd cynt gan David Jones, neu ‘Dafydd Jôs y Blawd’, fel y’i gelwid.  Credaf mai ef oedd perchennog y tŷ popty neu’r becws a fyddai ymhen pellaf y rhes . Cofiaf y lle yn wag ac wedi gweld dyddiau gwell. Pwy a rydd ychydig o’i hanes inni?

Y Rhiw a Thomen Glanydon,Ysbyty Oakeley ayyb (c1920)

Edrych i lawr ar Rhiw a Heol Dinas (1960au)
Crwydro rwan i ardal y Dinas, sef y rhan sydd i gyfeiriad hen Chwarel Oakeley o’r groesffordd ger Penygroes.

Er nad oes siop wedi bod yn y rhan hon o Riwbryfdir, clywais fy niweddar fodryb Megan ac ambell un arall yn dweud y byddai nain Dr. Eddie John Davies (Afon Ro), Cerrigydrudion yn gwneud pennog picl blasus yn ei chartref ac yn eu gwerthu i bobl leol.

Tybed pa bryd y cawsoch chi bennog picl blasus ddiwethaf ? Nid oes neb yn sȏn dim amdanynt heddiw. Mwy o fynd ar kibab, neu’n fwyd Chineaidd neu rywbeth arall bellach ynte?

Yn Heol Dinas, byddai Owen Jones yn gwneud gwaith crydd, ac os byddai’r esgidiau hoelion angen ambell hoelen ynddynt neu’r esgidiau gorau angen gwadnau neu sodlau, eid a nhw ato ef weithiau i’w trwsio a thro arall i fyny at grydd top Rhiw. Tybed faint o blant heddiw a ŵyr beth yw crydd?

Dros y ffordd i Benygroes, saif tai Gwyndy. Byddai siop bren fawr rhwng Siop Evan Owen a rhif 1 Gwyndy, ac ar un adeg, byddent yn gwerthu pennog picl, nionod wedi piclo, ‘penny ducks’ ac amryw o bethau eraill yno ar gyfer y trigolion a’r gweithwyr.

Y tu ȏl iddi hi, yn ymylu ar Gae Joni (Cae Dolawel), ceid tŷ popty (becws) yn perthyn i Evan Owen, ac yno byddai’r bara gorau yn y wlad yn ȏl rhai.

Wal Penygroes ar y dde, a Tai Gwyndy, y Siop Bren, Siop Evan Owen, ayyb ar y chwith, a’r plant yn chwarae ar y ffordd.

Yn Glasgow House, preswyliai Mr a Mrs Robert Williams. Bu Mr a Mrs Willams yn cadw busnes cigydd yno am rai blynyddoedd, ond credaf bod hynny cyn canol yr 1950au. Efallai y gall rhywun ein hatgoffa.

Y rhai a gofiaf i yn byw yn nhŷ’r siop y drws nesaf i Glasgow House oedd Mr a Mrs D. Jones, a byddent yn trwsio olwynion beics a coitjis yno. 

Yn y llun ar y chwith mae teulu Glasgow House tu allan i hen bost y Rhiw.
------------------------

Wedi'i addasu o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Mehefin, Gorffennaf, Tachwedd, a Rhagfyr 2015, ac Ionawr 2016.

Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



5.2.16

Y Golofn Werdd -datblygu mannau gwyrdd

Newyddion cynllun Y Dref Werdd

Y mis yma hoffwn dynnu eich sylw at brosiect arall mae’r staff yn gweithio arno, sef datblygu mannau gwyrdd yn y gymuned.

Wrth fynd ati i dacluso afon Barlwyd ac ardal Tanygrisiau ychydig wythnosau yn ôl, daeth darn o dir yn stâd tai Hafan Deg i'n sylw. Tir efo sbwriel lle'r oedd cŵn yn mynd i wneud eu busnes. Wrth drafod gyda rhai o’r trigolion, daeth yn glir nad oedd y safle yn cael ei ddefnyddio i fawr o ddim ac roedd y rhan fwyaf yn teimlo ei fod yn wastraff gofod o fewn y gymuned.


Fel rhan o’r prosiect Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar gyda’r Dref Werdd, sydd wedi’i ariannu gan y Loteri Fawr, rydym yn edrych ar ddatblygu mannau gwyrdd cymunedol mewn gwahanol safleoedd ym Mro Ffestiniog, felly yn dilyn y diwrnod yn Hafan Deg, penderfynwyd gwneud rhywbeth ynghylch â’r safle.

Unwaith roedd perchennog cywir y tir wedi’i ffeindio, roedd hyn yn gyfle i ddatblygu cynllun er mwyn ei ddatblygu a cheisio edrych am ffynonellau ariannol addas i wneud ceisiadau i wireddu’r gwaith, ond, cyn hynny, roedd angen arnom i fynd ati i siarad gyda’r bobl sydd yn byw yno i weld beth oedd eu teimladau nhw am droi'r safle yn fan gwyrdd i’r gymuned.

Ar brynhawn digon gwlyb, aethom i sgwrsio gyda’r holl denantiaid a oedd yn digwydd bod adref ar y pryd, ac wrth i ni fynd o dŷ i dŷ yn amlinellu ein syniadau, roedd yn amlwg iawn bod cefnogaeth yn y gymuned.

Rydym bellach yn brysur yn mynd ati i lunio cynllun mwy manwl i’w ddatblygu. Mae’r ffens sydd yno ar hyn o bryd angen ei thynnu gan ei bod yn llawn tyllau ac yn denu cŵn yno i faeddu, ac rydym yn trafod gyda chwmnïau lleol am brisiau i dynnu’r hen ffens hyll, lefelu’r tir a gosod ffens fwy deniadol yno fel man cychwyn.

Rhai o’r dymuniadau a syniadau eraill daeth allan o’r ymgynghori oedd i osod ‘raised beds’ yn y safle i dyfu llysiau a pherlysiau, plannu perllan o goed ffrwythau, gosod meinciau ac ambell beth i blant allu chwarae.

Y bwriad yw gwneud y safle yn ddigon syml fel nad oes gormod o waith cynnal a chadw, a hefyd fod grŵp bychan o drigolion yn cadw ar ben y gwaith o’i gadw yn lân a thaclus, sydd wedyn yn dod a balchder am eu cymuned.

Mae grwpiau, ysgolion a mudiadau eraill wedi cysylltu gyda ni yn y misoedd diweddar i ddatblygu safleoedd gwahanol. Gobeithiwn roi cymorth i ddatblygu mannau gwyrdd eraill yn y Fro, felly gwyliwch y gofod am newyddion.

Os ydych yn meddwl bod yna safle yn eich cymuned chi all fod yn fan gwyrdd i bawb fwynhau, ac eisiau ychydig o gymorth, neu os hoffech fod yn rhan o’r datblygiadau yn Hafan Deg, cysylltwch â’r Dref Werdd ar 01766 830 082 neu ymholiadau[AT]drefwerdd.cymru
------------------------


Wedi'i addasu o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2015.
Dilynwch gyfres Y Golofn Werdd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

3.2.16

John Ellis Williams a ffilm Y Chwarelwr

Sgwrs Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, ac ychydig o hanes cwblhau darnau coll ffilm Y Chwarelwr.

Un o siaradwyr gwâdd y Gymdeithas yn 2015 oedd Geraint Lloyd Jones o Benrhyndeudraeth. Testun Geraint oedd John Ellis Williams, yr athro, awdur a dramodydd, ac yr oedd nifer o’r gynulleidfa yn ei gofio’n athro a phrifathro yn y Blaenau.

Ganwyd ym Mhenmachno yn 1901, a chafodd ei addysg gynnar yno cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Sir Llanrwst. Mynychodd Goleg Normal, Bangor cyn dod yn athro i Lanfrothen a’r Blaenau. Ei gamp fawr fel athro ac fel prifathro yng Nglanypwll oedd cael y plant i fynegi eu hunain drwy ddefnyddio eu dychymyg.

Ei uchelgais oedd bod yn ddyn papur newydd neu fargyfreithiwr. Bu’n golofnydd yn yr Herald Cymraeg, y Daily Post, y Mail a’r Express ac yn olygydd Y Rhedegydd. Mynodd mai crefftwr yn trin geiriau oedd, ac yn y cyswllt hwn, rhaid oedd astudio gwaith y meistri a bod yn hunan feirniadol cyn cyrraedd y nôd.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant fel “Haf a’i Ffrindiau”, “Y Wningen Fach” a “Stori Mops” a chyhoeddodd ei hunan gofiant “Inc yn fy Ngwaed” yn 1963. Ymhlith y niferoedd o lyfrau ditectif a ysgrifennodd mae “Y Gwenith Gwyn” a’r “Trydydd Tro” -un yn y gyfres Ditectif Inspector Hopkyn a’r llall yng nghyfres Parry.

Ond mwyaf tebyg mai fel dramodydd neu ysgrifennydd dramâu a wnaeth ei enw oherwydd ysgrifennodd nifer fawr ohonynt, a throsi nifer o’r Saesneg hefyd.

Ffurfiodd gwmni drama yn y Blaenau ac un o’r dramâu a berfformiwyd yn 1934 oedd “Taith y Pererin”. Drama arall boblogaidd ganddo oedd “Y Pwyllgorddyn”. Bu hefyd yn ysgrifennu dramâu ar gyfer darllediadau radio, a fo ysgrifenodd a chyfarwyddodd “Y Chwarelwr” yn 1935, sef y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg, gydag Ifan ab Owen Edwards.

Bu llawer o sylwadau ar y diwedd am ddarlith mor ddiddorol. Dywedodd  Elen Evans ei fod yn athro penigamp tra roedd hi yn ddisgybl yng Nglanypwll. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan Pegi Lloyd -Williams oedd yn cofio’r teulu’n dda.

[Addaswyd yr uchod o adroddiad gan Robin Davies, gohebydd Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2015]
- - - - - - - - - - - - - - - -

Y Chwarelwr
Yn nechrau 2006, roedd Cwmni Da, wedi holi darllenwyr Llafar Bro am ddarnau coll y ffilm unigryw yma o 1935, y ffilm lafar gynta' yn Gymraeg. Cysylltodd golygydd rhifyn Gorffennaf 2006 â'r cwmni yn ddiweddarach i holi sut ymateb gafodd o, a sut oedd y trefniadau’n mynd. Dyma ddywedodd o:

'Da ni’n dechrau arni o ddifri dros yr wythnosau nesaf.  Byddwn yn ffilmio'r ail-greu yn ystod wythnos cyntaf mis Awst.  Cyn hynny, rhaid inni ganfod pobol o'r Blaenau (neu'r cyffiniau) sydd mor debyg i'r actorion gwreiddiol â phosib.  Mae hyn yn dipyn o her!

Mae hefyd angen 4 prif leoliad - sef Ysgol y Moelwyn, llwybr am y chwarel, yr ardd gefn, a chegin y tŷ.  Byddwn yn chwilio am leoliadau yn y Llechwedd, Heol Jones a Ffordd Wynne (sef y lleoliadau gwreiddiol yn y ffilm). Os na fydd lleoliadau addas yn y Blaenau, yna falle bydd yn rhaid edrych am lefydd addas fel y tai yn yr amgueddfa lechi yn Llanberis (tai a ddaeth o Danygrisiau prun bynnag!)

Gellid honni fod modd olrhain S4C a'n holl ddiwydiant teledu Cymraeg heddiw nôl i'r cynhyrchiad arloesol hwn. Mae'n briodol felly fod S4C yn dathlu'r ffilm gyntaf hon ym mis Rhagfyr 2006, gydag wythnos o raglenni arbennig gan Cwmni Da, mewn cydweithrediad ag Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru.

Mae John Reed wedi bod yn brysur ers misoedd yn yr Archif, yn adfer y ffilm hon er mwyn creu print newydd ohoni, ond wrth gwrs mae rîl olaf y ffilm ar goll ers blynyddoedd. Yng nghyfres S4C gwelwn Ifor ap Glyn, yn mynd ar drywydd y rîl goll, ac yna'n ceisio ei ailgreu - gan ddefnyddio'r un technoleg a’r gwneuthurwyr gwreiddiol, Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a John Ellis Williams, dramodydd o Flaenau Ffestiniog.

Bydd y gyfres yn dogfennu eu camp nhw nôl yn y tridegau, yn  ogystal â dilyn troeon trwstan Ifor heddiw. Pa mor hawdd fydd castio pobl sy'n debyg o ran pryd a gwedd i'r actorion gwreiddiol? Be fydd pobl y Blaenau yn meddwl o'i greadigaeth hybrid, wrth iddo ddangos y ffilm gyflawn?!

I gloi'r wythnos o raglenni, bydd cyfle i gynulleidfa S4C weld y ffilm gyfan dros eu hunain, a hynny am y tro cynta ers degawdau!'
- - - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd y gyfres fer 'Y Chwarelwr- y rôl goll' ar S4C ar ddechrau Rhagfyr 2006, a'r ffilm gyfan ar y 10fed.
Ers hynny, cyhoeddwyd y ffilm -yn ogystal â'r gyfres- ar DVD felly mae ar gael i bawb wylio ar unrhyw adeg! Holwch yn Siop yr Hen Bost am gopi.
Cafodd y ffilm ei dangos yn lleol nifer o weithiau, gan gynnwys un achlysur yn Ionawr 2012 lle dangoswyd hi dan ddaear yn Llechwedd, dan ofal Prosiect Cytser y Cyngor Celfyddydau.


1.2.16

Antur Stiniog


Cyn y Dolig cynhaliwyd trydydd diwrnod codi arian blynyddol gan Antur Stiniog ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
Llun- Dan Struthers

Daeth nifer o feicwyr –llawer ohonynt mewn gwisg ffansi- i gymryd rhan a chodi arian at achos mor wych.

Roedd tri o bencampwyr beicio mynydd y byd wedi dod draw hefyd, sef Rachael a Gee Atherton, a Danny Hart, a rhoddodd pob un grysau wedi’u llofnodi ar gyfer y raffl.

Ar ôl codi £6000 yn y 2 flynedd ddiwethaf, roedd pawb yn awyddus i ychwanegu at y cyfanswm arbennig yma. Rhwng y raffl ac un cwsmer rheolaidd yn shafio’i ben, codwyd £1000, a rhwng pob peth codwyd £2300 ar y diwrnod.

Hoffai Antur Stiniog ddiolch i’r beicwyr a gymrodd ran, a’r holl gefnogwyr a chwmnïau a gyfranodd wobrau ar gyfer raffl mor lwyddianus, i godi swm mawr o arian at elusen sy’n bwysig nid yn unig i feicwyr mynydd, ond i bawb yng Nghymru.

Mi fuodd criw o Antur Stiniog i lawr i faes awyr Caernarfon ddiwedd Ionawr, er mwyn cyflwyno siec i'r gwasanaeth, a chael croeso mawr yno.


Roedd 2015 yn flwyddyn dda iawn i dîm rasio Antur Stiniog hefyd efo 29 lle ar y podiwm trwy'r flwyddyn.

Mae 2016 -sydd wedi'i dynodi yn Flwyddyn Antur Cymru gan y bwrdd croeso- yn argoeli i fod yn flwyddyn dda arall, efo nifer o rasus ar y gweill.

Mae Antur Stiniog yn cydweithio efo'u cyfeillion yn BikePark Wales er mwyn gosod her ar benwythnos cyntaf Ebrill 2016. Bydd y newyddion i gyd yn Llafar Bro, felly ewch ati i ymarfer!

#AnturCymru