29.7.21

Antur Stiniog -agored eto!

Newyddion am furluniau a Chlwb Beicio newydd, gan Leah Buckley

Ar ôl i’r cyfarwyddwyr a’r staff weithio’n galed iawn dros y cyfnod clo diwethaf i wneud yn siŵr fod pethau mewn trefn ar gyfer agor yn ddiogel unwaith eto, roedd hi mor braf gallu croesawu’r beiciwyr yn ôl i’r traciau lawr-allt, yn ogystal â phobl yn ôl i’r ddau gaffi ar ôl cyfnod hir iawn o fod ar gau.

Mae’r llwybrau lawr-mynydd ar y Cribau yn brysur, a braf ydi gweld y reidwyr yn dod i lawr y llethrau ar wib unwaith eto. Mae Sian, Val a’r staff wedi ail-agor yr caffi -  sydd wedi gweddnewid ers yr cyfnod clo, gyda theras braf newydd i eistedd tu allan, yn ogystal â’r teras to. Ewch fyny am sbec a phaned, mae o’n lle braf iawn, ac mae croeso cynnes bob amser a golygfeydd hyfryd (pan mae’r tywydd yn braf)!

Yn ogystal â hyn, mae staff gweithgar y Dref Werdd wedi bod yn brysur iawn yn datblygu man bywyd gwyllt ger y safle beicio. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn fuan. Mae ‘Trac Pymp’ newydd wedi ei ddatblygu hefyd, ar safle’r Parc Beicio, ac mae llawer o ganmol arno … Cofiwch am am eich helmed! Oriau agor Parc Beicio Antur Stiniog … Dydd Iau- Dydd Llun, 8.30yb - 5.00yh. Cysylltwch â’r safle ar 01766 238 007 am unrhyw wybodaeth bellach.


Sôn am feicio, mae gennym ddarn o newyddion cyffrous iawn arall i’w gyhoeddi … mae Clwb Beicio Antur Stiniog i blant a phobl ifanc wedi dechrau o’r diwedd ar ôl blwyddyn a hanner o geisio ei sefydlu. Fel rhan o fod yn aelod o Glwb Beicio Antur, mae yna feics ac offer diogelwch ar gael i blant a phobl ifanc eu benthyg ar gyfer sesiynau’r Clwb; mae’r traciau’n dechnegol iawn, a’r beiciau a’r offer diogelwch yn addas. Cewch ragor o wybodaeth am Glwb Beics Antur Stiniog ar dudalen Facebook Antur Stiniog/Clwb Beics Antur.

Lawr yn yr dref, mae Helen a Ronwen yn hynod o hapus i’ch croesawu’n ôl am baned a chacen. Mae Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog ar agor unwaith eto!

 

Mae llawer iawn o ddatblygiadau eraill hefyd. Yr atyniad pennaf ydi’r Murluniau anhygoel a ddylunwyd ac a beintwyd gan yr artist ifanc lleol talentog  - Lleucu Gwenllian. Mae’r Murlun arbennig hwn yn rhan o brosiect ehangach Cais Safle Treftadaeth y Byd [UNESCO] gan Gyngor Gwynedd ar gyfer ardaloedd Llechi Gogledd Cymru. 

Mae murluniau Lleucu yn dathlu cyfoeth diwylliannol, diwydiannol a chwedlonol yr ardal, drwy ddefnyddio delweddau a symbolau sy’n adlewyrchu chwedlau’r Mabinogi … a hynny yn lliwiau’r enfys, sy’n cyfleu teimladau o obaith ac hapusrwydd ar gyfer yr dyfodol. Hoffai Staff Antur Stiniog ddymuno pob lwc i Lleucu ar gyfer y dyfodol, a diolch o galon iddi am ei gwaith caled, ac am gwbwlhau’r murlun er gwaetha’r tywydd difrifol yn y gwanwyn.

Yn ogystal â hyn, mae'r Dref Werdd wedi gosod a phlannu ‘Wal Werdd’ - tu allan i Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog, ac mae’r cynllun ‘Maker Space’ gan Ffiws yn dod i’r gofod i fyny’r grisiau yn y Caffi. Dyma brosiect creadigol fydd ar gael i’r gymuned gyfan i’w ddefnyddio. Am ragor o fanylion, cadwch lygad ar dudalennau ein cyfryngau cymdeithasol, neu, holi Helen yn y Siop. 

Oriau agor Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog, Stryd Fawr - dydd Llun – dydd Sadwrn 9.00yb-3.30yp. Mae yno groeso cynnes bob amser!

------------------------------

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2021

Lluniau-

1,3: Helen McAteer. 

2: Antur Stiniog. 

4: Beca Williams


25.7.21

Stolpia -Dŵr

Atgofion am Chwarel Llechwedd; pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Un o’r dyddiau tristaf i mi ei brofi tra’n gweithio fel ffitar yn Chwarel Llechwedd oedd yr adeg pan yr es i fyny un prynhawn i’r Bonc Uchaf (7) at y falf honno y cefais drafferth ei hagor y tro cyntaf. Fel yr esboniais yn rhifyn Ebrill, roedd y falf ar ochr math o danc, neu gist, a oedd wedi ei gosod yn y ddaear. Fel rheol, byddai’n llawn dŵr, a pheth arall amdani, roedd hi’n anodd iawn i chi weld bod tanc o ddŵr yno o gwbl nes yr oeddech yn ei hymyl.

Wedi cyrraedd y bonc y prynhawn hwnnw, sylwais wrth nesáu at y tanc bod rhywbeth gwyn yn y dŵr, a phan uwchlaw y lle, gwelais beth oedd ynddo, a dychrynais yn arw, gan mai dau oen bach wedi boddi a oedd yn y dŵr, a minnau yn rhy hwyr i wneud dim yn eu cylch. Roedd yr ochrau yn rhy serth i’r trueniaid bach ddod ohono eu hunain. Pan es i lawr yn ôl i’r ‘Cwt Letrig’, adroddais yr hanes wrth Emrys, fy mos, ac ar ôl iddo yntau drafod gydag eraill, penderfynwyd gosod rhwyll wifrog (wire mesh) dros y tanc fel na fyddai yr un peth yn digwydd yno byth eto.

Tra byddaf yn sôn am bethau yn ymwneud â dŵr, cofiaf y tŷ bach (lle chwech/toiled) a fyddai yng ngefn y felin ar Bonc yr Efail (5).

Fel un sy’n ddigon hen i gofio yr hen dai bach a fyddai yng ngwaelod yr ardd gan lawer ohonom yn yr 1950au, roedd hwn yn fwy cyntefig. Nid sedd bren gyda thwll crwn oedd yn y ‘geudy’ yma, ond ystyllen bren gul wedi ei gosod yn sownd ar bwt o wal, a ffos o ddŵr yn rhedeg oddi tano. Eid i’r tŷ bach o’r ochr gan fod wal ar bedair ochr iddo, ac felly, nid oedd modd gweld os oedd rhywun ynddo nes yr oeddech i mewn ynddo. Nid oedd drws arno o gwbl, a pheth arall yn ei gylch, roedd y wal y tu ôl i’ch cefn oddeutu llathen oddi wrth yr ‘ystyllen eistedd’, ac felly, roedd yn ofynnol peidio gwyro yn ôl, oherwydd roedd  peryg i chi syrthio i mewn i’r ffos, ac i beth bynnag oedd ynddi!

Llechwedd yn 1969 ...

Gyda llaw, ychydig yn uwch i fyny o’r tŷ bach ceid cist o ddŵr a math o lifddor (fflodiart) arni hi, ac ar ôl i chi wneud eich busnes, roedd yn ofynnol agor y llifddor er mwyn fflysio’r ffos – yn enwedig ar dywydd sych a phan oedd cryn ddrewdod ogylch y geudy. Yn ddiau, byddai llawer o’r oes bresennol wedi rhedeg adref cyn meddwl mynd i ffasiwn le. Yn yr 1970au, codwyd tŷ bach newydd y tu allan i’r felin gyda seddi pren a thwll crwn yn eu canol, a drws pren fel eu bod yn breifat, a gwelwn hynny yn welliant mawr ar yr hen. Onid yw’n fyd gwahanol heddiw?

--------------------------------

YMATEB I STOLPIA RHIFYN EBRILL
Gan D. Bryn Jones [Fron Dirion, Y Sgwâr]

Diolch … fel pob mis am ‘Stolpia’ - Steffan ab Owain. Llechwedd oedd yr unig chwarel y bu fy nhad, Hugh G. Jones (1921-1984) yn gweithio ynddi; hynny am tua 30 mlynedd rhwng 1936 a 1970 - gyda bwlch o 4 mlynedd tra’n yr Ail Ryfel Byd.  Bu hefyd yn gweithio i Gyngor Dosbarth Meirionydd am ychydig flynyddoedd.

Wedi pedair neu bum mlynedd yn Sinc y Mynydd ar Lawr B, bu am sbél yn Felin Bonc yr Efail (5) cyn mynd i’r Bonc Uchaf (7).  Y cwt sinc hir a elwid ‘Sing Sing’ ar ôl y carchar di-gysur (fel y dywed Steffan) … yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America.  Roedd muriau trwchus pennau llifiau, pennau cŵn y melinau eraill a chysgod cefnen o graig yn torri rhywfaint ar fin y gwynt, ond roedd y Felin Uchaf ar y grib ynghanol cors o fawn – yn boeth ar dyddiau heulog o haf, ond yn oer fel Siberia dan ryferthwy gwyntoedd a glaw pob tymor arall.  Dyna, yn ôl fy nhad, y rheswm am yr enw.

Ar hyd llwybr defaid y croesai nhad y gors honno, ac ar gerrig camu dros y siglen fawn islaw iddi – ‘Cors Anobaith’ (ar ôl ‘Taith y Pererin’ - John Bunyan) – dyna oedd ei enw ar y darn hwnnw, a chyrraedd y Cwt Drym ar ben Inclên Maenofferen, adre i 3, Teras Uncorn.  Dyna hefyd ran gyntaf ei daith i bysgota ei annwyl Lyn Barlwyd.

Fel Steffan, mi fum innau’n gweithio yn Llechwedd ac ar y Bonc Uchaf yn ystod y 1960au, ond dim ond am dri mis ambell haf i ennill pres poced pan oeddwn yn y 6ed dosbarth ac yn y coleg yn Abertawe.  ‘Doedd Steffan a minnau ddim yn adnabod ein gilydd bryd hynny, ond fe baentiais i gwt sinc hir melin ‘Sing Sing’ un haf.

Fel y digwydd pethau, yn haf 1978, er mwyn ennill pres poced cyn cychwyn yn y Coleg Ger y Lli yn Aberystwyth, bu fy mrawd, Gareth, oedd bymtheg mlynedd yn iau na mi, yn paentio Melin ‘No.7.’
Ergyd drom i fy rhieni, ac i fy chwaer a minnau oedd colli Gareth trwy ddamwain ar fotor beic ar Chwefror 6ed 1979.

Cofiaf innau O.J. a’r brecio sydyn ar ddrymiau’r inclên.
Dyna gofio ddoe.  Beth am heriau yfory?

Y Doethor Dafydd Gwynn o Ddyffryn Nantlle, ar anogaeth Dewi Lewis, Penrhyndeudraeth, a luniodd yr adroddiad ‘Llechi Cymru’ - Cymunedau Bethesda, Llanberis, Nantlle, Cwm Pennant, Ffestiniog, Corris ac Aberllefenni - i gefnogi cais Cyngor Gwynedd a Llywodraethau Cymru a San Steffan am statws Safle Treftadaeth Byd Eang - Sefydliad Addysgiadol, Cymdeithasol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig i’r ardaloedd hyn (UNESCO World Heritage Site). Mi gefais y fraint o gyfiethu ar y pryd i’r Dr Dafydd Gwynn, y tro cyntaf i Gymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog wahodd ei haelodau di-Gymraeg i wrando darlith yn Gymraeg.

Yr her roddodd Dr Gwynn y noson honno oedd y byddai gwell gobaith i’r cais lwyddo hefo UNESCO pe gellid adfer Melin Lechi Chwarel Maenofferen, yn uwch na’r Tŷ Pwdin a ‘Quarry Bank’, ychydig is na Llyn y Bowydd.  Beth amdani?

---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021

16.7.21

Capel Utica ar Werth

Ar brynhawn Sul, 28ain Chwefror, diweddodd pennod yn hanes ardal Gellilydan wrth i’r achos yng Nghapel Utica ddirwyn i ben. Fel sydd eisoes wedi ei gofnodi yn y papur bro yn y gorffennol (e.e. rhifyn Gorffennaf 1994*), mae i Gapel Utica hanes cyfoethog iawn ers dyddiau William Jones, Pandy’r Ddwyryd, yn dilyn ei ddychweliad o Utica, Efrog Newydd i’w fro enedigol, yn sefydlu’r achos, ac yn adeiladu’r capel ar ei dir, a hynny yn y flwyddyn 1824. 

Ar hyd y blynyddoedd ers hynny, profwyd bendith wrth dystio i Grist yn y fro, a hynny am nifer fawr o’r blynyddoedd dan arweiniad grymus nifer o Weinidogion. 

Yn gynharach eleni, penderfynodd yr aelodau nad oedd hi’n bosibl bellach i barhau â’r Achos, a hynny am sawl rheswm. Yn dilyn cymorth Cyfundeb Meirion, trefnwyd yr Oedfa Ddatgorffori yn y capel ar y dyddiad a nodwyd dan arweiniad y Parchedig Iwan Llewelyn Jones, Llywydd Cyfundeb Meirion, a’r Parchedig Carwyn Siddall, Cadeirydd Pwyllgor Bugeiliol y Cyfundeb. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, ac er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau, yr aelodau cyfredol yn unig oedd yn bresenol yn yr Oedfa. 

Llun- KO'Brien
 

Agorwyd y cyfarfod drwy air o groeso a gweddi gan y Parchedig Carwyn Siddall, ac yna, cyn mynd ymlaen â darllen Salm 84, diolchodd i’r aelodau am eu gwaith a’u dyfalbarhad dros yr Achos, am eu doethineb a’u hurddas wrth wynebu’r penderfyniad anodd o ddirwyn yr achos i ben. Yna, wedi gair o weddi, cyflwynodd y Parchedig Iwan Llewelyn Jones anerchiad yn seiliedig ar y Salm, gan dynnu sylw at hanes a thystiolaeth gyfoethog yr Eglwys, y Weinodogaeth arbennig gafwyd ar hyd y blynyddoedd, a’n hatgoffa, er i’r achos ddirwyn i ben, fod Efengyl Iesu Grist yn dal yn fyw ac ar waith, a’n braint yw parhau i dystio i’w enw Ef. Cyn gwrando ar emyn Ann Griffiths, ‘O am fywyd o Sancteiddio…’ a’r Datganiad Datgorffori, diolchodd Mrs Mennai Jones, diacon yn Utica, i bawb am fynychu, am arweiniad y ddau weinidog ar ran y Cyfundeb, a chofio’n annwyl am yr aelodau hynny nad oedd yn gallu bod yn bresennol am wahanol resymau.

Er mor anodd yw gweld y Capel ar y farchnad, rydym yn diolch am yr hyn a gafwyd, a’r tymor da o waith a gyflawnwyd yn Utica dros achos Crist, a dymunwn fendith Duw ar yr aelodau wrth iddynt ymgartrefu mewn eglwysi eraill yn fro.

-------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021.

-------

Ganol mis Mai aeth Elfed Wyn ap Elwyn ati i geisio codi arian i geisio prynu'r hen gapel, gan weld potensial i greu menter gymunedol a chreu gwaith, ac ar yr un pryd rwystro un adeilad eiconig rhag cael ei droi yn dŷ haf. 

Llwyddodd i hel £14,000 at ei gilydd mewn byr o dro, a dyma grynodeb o'r llythyr yrrodd o at y gwerthwyr (Yr Annibynwyr) efo'i gynnig:

"Dyw’r swm rydw i yn ei gynnig ddim yn enfawr, ac yn sicr fydd na gynigion mwy na’r hyn gynigaf i, ond mae’r arian yn dod yn rhannol o fenthyciad rydw i wedi cael, arian oedd yn fy nghoffrau i, ac arian sydd wedi cael ei gasglu gan y gymuned.

Mae'n anffodus fod y capel yma ddim yn dal yn cael ei ddefnyddio i addoli, ond gobeithiaf fedrwn ni gadw ysbyrd y lle a gweledigaeth o'r defnydd cymunedol i’r adeilad hanesyddol yma. Bysa’n gyfle i greu gwaith a meithrin diwydiant ymysg ein diwylliant yn wych yma. Rwy’n gobeithio gwneud y capel yn le i bobl ddod at ei gilydd i drafod, ac yn le i egino syniadau a busnesau cynhenid.

Mae’n llawer iawn gwell i’r gymuned berchnogi’r adeilad yma er mwyn cael ei ddefnyddio fel adnodd er mwyn i’r gymdethas dyfu, yn hytrach na dod yn ail-dŷ di enaid."

Yn anffodus, gwrthod ei gynnig wnaeth y gwerthwyr, ac mae'r capel rwan ar y farchnad agored...

Awgrymodd un o'r rhai yrrodd neges at Elfed o glywed y newyddion: 

"Os ydynt yn dymuno gwneud hynny, oni all ymddiriedolwyr Capel Utica gyfrannu rhywfaint o arian y gwerthiant i brosiect lleol fyddai'n gydnaws â bwriadau a gweledigaeth gwreiddiol Elfed er budd y gymuned?"

Fel dywed Dafydd Iwan yn rali 'Nid yw Cymru ar Werth' ar argae Tryweryn ar y 10fed o Orffennaf, onid oes gan yr enwadau ddyletswydd i gynnig rhywbeth i'n cymunedau yn hytrach na gwerthu i'r cynnig mwyaf bob tro..?

--------

* Trem yn ôl- Utica


12.7.21

Wedi Cael Digon!

Darn barn gan DR

Faint ohonoch chi sydd wedi cael llond bol yn gyrru cerbyd o’r Manod i’r Blaenau ac yn ôl yn ddiweddar? Mae’r sefyllfa yn echrydus ac yn beryglus a deud y lleia. Mae degau ar ddegau o geir a fania wedi parcio ar hyd y ffordd fawr sydd yn gwneud y daith yn hynod ddiflas. Ond mae’r sefyllfa wedi gwella ychydig yn y Manod – hanner ffordd rhwng y Wynnes a’r eglwys yn ddiweddar - am fod y Cyngor Tref wedi llwyddo i gael yr Adran Ffyrdd i osod llinellau dwbl melyn i wneud lle i gerbydau basio eu gilydd yn ddiogel. Ond dal i barcio mae ceir ar y safle sydd yn creu trafferth i’r gyrrwyr sydd yn mynd a dwad o’r dref. Mae’n hen bryd i roi ychydig o hawl i’r heddlu i rybuddio y rheini sydd yn mynnu parcio ar linellau dwbl melyn heb reswm ddigonol, a’u rhybuddio os cael ei dal eto, yn cael eu cosbi. Mae gyrrwyr lleol a diarth sydd yn teithio i gyfeiriad y dref ddim wedi sylweddoli fod yna le ddiogel i dynnu mewn er mwyn i geir gael pasio. Felly mae angen rhyw fath o arwyddion mawr ddigon plaen yw gosod, a hefyd DIM PARCIO mewn llythrennau coch ar y ffordd.

CWESTIWN! Be yn union mae llinellau dwbl melyn yn olygu i chi bobl?

I mi mae’r ateb yn syml – DIM PARCIO ffwl stop! Enghraifft arall o hyn yw'r safle ger yr archfarchnad ar ben Stryd yr Eglwys. Er bod digon o le i barcio ym maes parcio'r siop, mynnu mae ambell i yrrwr i barcio hanner ar y pafin ac hanner ar y ffordd, sydd yn gwneud hi yn beryglus i gerddwyr. Diogi yw hyn a dim byd arall. Angen gair bach gan yr heddlu i atgoffa gyrrwyr bod llinell dwbl melyn yn bodoli ar y ffordd.



Safle arall sydd yn hynod beryglus yw y safle bysiau ger y mynediad i stad Penygwndwn dros y ffordd i Disgwylfa. Mae'r rhan fwyaf o yrrwyr sydd yn mynd i gyfeiriad y dref ddim yn gweld os oes cerbydau yn dod i'w cwfwr. Mae hyn wedi digwydd i mi yn bersonol sawl gwaith wrth ddod yn ôl o’r dref i gyfeiriad Manod, yn dod wyneb i wyneb â gyrrwr sydd ddim wedi arafu, ac yn creu dipyn o ddrwg deimlad a gweiddi a rhegi. Mae’r ateb yn syml – gosod llinell ddwbl melyn o ddiwedd safle’r bysiau hyd at ddau gerbyd o hyd ar y ffordd. Felly os gwelwch yn dda, Gyngor Tref, a fedrwch chi ddatrys y broblem. Lle arall sydd yn creu trafferth yw'r Stryd Fawr o Garej Cambrian i’r groesffordd wrth yr hen Co-op. Tydi Stryd Fawr y Blaenau ddim yn ddigon llydan i dri car! Wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen gwaethygu wneith y broblem.

CWESTIWN arall! Am ba mor hir geith perchennog cerbyd barcio ar y ffordd fawr? Enghraifft o hyn sydd wedi dod yn amlwg yn ddiweddar yw y safle sydd wedi cael sylw yn gynharach. Mi roedd y cerbyd yma wedi ei barcio am wythnosau lawer nes bod mwsog wedi tyfu odano. Mi roedd rhaid symud y cerbyd er mwyn llnau y mwsog. Erbyn hyn mae’r cerbyd yn ôl yn yr un lle. Yn wir, mae angen tynnu sylw y sefyllfa i’r Cyngor Sir a’r Heddlu i drin y mater. 

Hefyd!! Oes na rhywun heblaw fi yn bersonol wedi sylweddoli does dim arwydd o gwbl ar y ffordd fawr o waelod y Creimeia i ben draw Congl y Wal yn atgoffa gyrrwyr bod 30 milltir yr awr yn bodoli. Mae llawer o yrrwyr yn bendant yn mynd yn gynt na 30 m.y.a. Hefyd does dim arwyddion o gwbl ar y ffordd i arafu mewn llefydd peryglus, e.e. Ffourcrosses, tro Tabernacl, tro Peniel, Tanygraig, Bethania, Manod, Stryd yr Eglwys a’r Stryd Fawr. Yn wir mae’n wyrth nad oes damweinia wedi digwydd, a gobeithio yn wir fydd dim damwain yn y dyfodol.
-------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2021.

Mae'r panel golygyddion yn gwybod pwy ydi DR ond gofynodd inni beidio rhoi'r enw'n llawn efo'r erthygl.

Ydych chi'n cytuno efo barn DR? Gadewch i ni wybod!

[Llun- Paul W]

8.7.21

'Stiniog o'r Wasg Ers Talwm -Eglwysi

Wedi egwyl o rai misoedd, dyma geisio ail-gydio yn y gyfres am hanes newyddiaduriaeth sy’n cyfeirio’n benodol at ardal ’Stiniog. 

Vivian Parry Williams

Os cofiwch, roeddem wedi cyrraedd newyddion Awst 1840, a hanes gosod carreg gyntaf yn adeilad Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau. Felly, ymlaen â ni.

Ymhen dwy flynedd, cyhoeddodd y North Wales Chronicle erthygl ar 11 Hydref 1842 ar achlysur cysegru Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau ar y 29 o Fedi, gan gynnwys disgrifiad o'r safle, a roddwyd yn hael gan yr Arglwydd Newborough ... ‘one of the most striking that can be imagined, from the wilderness of the scenery surrounding it’ …  gan ychwanegu ei fod dros fil o droedfeddi uwch y môr, ac yn noeth o unrhyw dyfiant, oherwydd y creigiau a'r tomennydd.  Yn dilyn ei fanylder am ddaearyddiaeth yr ardal, disgrifiodd sut roedd y chwareli wedi tynnu poblogaeth sylweddol i'r ‘this otherwise barren and dreary region’ ...

Cafwyd mwy o hanes cysegru'r eglwys yn y NWC, ymysg papurau newyddion eraill, a bu adroddiad ar yr achlysur pwysig yn hanes bro Ffestiniog yn y papur ceidwadol hwnnw ar 18 Hydref 1842. 

Cyfansoddwyd cerdd arall, y tro hwn ‘supposed to be written by one of Mrs Oakeley’s School Children...’, oedd yn llawn moliant i noddwraig y fenter.

‘O Lady blessed, of undying fame,
Our tears will flow at mention of thy name;
May our dear children’s children join in praise
To HIM, who fill’d thy heart with wisdom ways,
And honor’d thee with wealth; gave thee the will
To raise this Structure; thus His work fullfil;
For when they worship in this House of Prayer,
They’ll think of thee in Heaven, and bless thee there,
Hoping to meet thee, when beneath the sod
Their bodies rest – their souls return to God.’             

Yn ddiweddarach, eto yn y NWC, ar 31 Ionawr 1843 gwelir hanes y cynlluniau i godi eglwys Anglicanaidd yn Llan ‘Stiniog. Fel yn hanes codi Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau, yr Arglwydd Newborough roddodd y tir i ar gyfer yr adeilad, a darn helaeth arall i ehangu’r fynwent, oedd yn eitha’ llawn ar y pryd. Noddwraig yr eglwys yn y Blaenau, Mrs Oakeley, Plas Tan-y-bwlch, a arweiniodd y gad ariannol eto, gyda rhodd gychwynnol tuag at yr achos o £200. Er i’r gwaith o godi eglwys y Llan gael ei arafu gan brinder cyfalaf, roedd y gobaith o gael cychwyn ar yr adeiladu yn cryfhau, gyda’r canlynol wedi ei gyflwyno i’r coffrau: Mrs Oakeley £200; Esgob Bangor £50; Arglwydd Newborough £50; Mr Banks £50; teulu Blaen-y-ddôl £60, ynghyd â nifer o roddion ariannol eraill dan £25. Ond roedd un wraig ddylanwadol arall wedi cyfrannu hefyd, sef gweddw’r cyn-frenin, William y 4ydd, neu’r Queen Dowager, yn ôl gohebydd yr Hull Packet and East Riding Times ar 2 Mehefin 1843. Er na wyddys beth oedd ei chysylltiad â Stiniog, fe gyfrannodd hithau ugain punt tuag at yr achos.

I aros ar bwnc crefydd yr ardal, cafwyd adroddiad yng ngholofn newyddion Ffestiniog yn y NWC ar 11 Gorffennaf 1843 yn profi i'r Pabyddion gael lle i addoli yn y plwyf. Gwahoddwyd rhai o'r ffydd honno, a fyddent yn digwydd mynd drwy'r fro ar y pryd, i alw i mewn yn y lle oedd, yn ôl y gohebydd, ‘a room fitted up for Divine Worship, in the house of a respectable Catholic family’ ... Rhywbeth dieithr iawn y cyfnod hwnnw oedd gweld teulu o Gatholigion o fewn terfynnau'r plwy'; tybed ym mha le yma oedd y teulu hwnnw'n byw? 

-----------------------------------------
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021


4.7.21

Hwb y Dref Werdd

Dod yn ôl at dy Goed


Mae’n braf gweld yr haul yn tywynnu unwaith eto a’r adar bach yn canu’n tydi? Codi calon rhywun ar ôl y flwyddyn ddiwethaf.

Gyda hynny, peth da yw cael cyhoeddi ein bod bellach wedi cychwyn gweithredu ar ein prosiect presgripsiwn gwyrdd newydd – Dod yn ôl at dy Goed – rhywbeth rydym ni’n teimlo sydd wir ei angen ar bawb yn dilyn y cyfnod clo diwethaf ‘ma. 

Mae cymaint o fudd i’w gael wrth dreulio amser y tu allan, ac mae popeth am y cynllun yn ymwneud â iechyd a lles. Cofiwch fod PAWB yn gymwys i fod yn rhan. Meddyliwch beth yr hoffech ei wneud yn yr awyr agored … ychydig o arddio a sgwrsio, plannu coed, sesiynau pilates, tyfu bwyd, mynd am dro, gweithgareddau celf, coginio neu unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl am! Mae’n brosiect sy’n cael ei deilwra i anghenion pob unigolyn gyda phwyslais ar ddysgu, rhoi, cysylltu, cymryd sylw a rhannu.

Mae’r nod yn syml … gwella cysylltiadau pobl â natur fydd mewn tro yn gwella iechyd corfforol a meddyliol, yn gyfle i gymdeithasu ac i rannu sgiliau. Does dim rheswm i beidio cymryd rhan! 

Diolch arbennig i Lleucu Gwenllian am lunio’r logo hyfryd ar gyfer y prosiect.
Cysylltwch i fod yn rhan ar 07385 783340 neu e-bostiwch hwb@drefwerdd.cymru 


Sgwrs

Mae cynllun cyfeillio Sgwrs yn parhau gyda dros 200 awr o sgwrsio wedi eu cofnodi ers diwedd mis Hydref. Mae llawer o bobl ar hyd Meirionnydd wedi elwa gyda gwirfoddolwyr o dros ogledd Cymru yn cymryd yr amser i’w ffonio unwaith yr wythnos am sgwrs fach glên. Ein gobaith wrth symud ymlaen fydd gallu datblygu Sgwrs i fod yn gynllun cyfeillio wyneb i wyneb. Os hoffech fod yn rhan, cysylltwch ar 07385 783340 neu e-bostiwch hwb@drefwerdd.cymru

Cynllun Digidol

Un o’r pethau mwyaf yr ydym wedi ei ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf ydi’r pwysigrwydd o gael pobl i gysylltu’n ddigidol. Roedd yn anodd iawn ar lawer un i allu cadw mewn cysylltiad, gallu gwneud eu siopa ei hunain neu i allu dysgu drwy beidio â bod â dyfais neu fynediad i’r we dros y cyfnod clo. Bu i sawl un dderbyn dyfais a chymorth i gael mynediad i’r we gan yr HWB, a’u galluogodd i fod yn fwy annibynnol, i gadw mewn cyswllt â theulu a ffrindiau drwy wneud galwadau fideo a chymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein.  

Mae gennym ddyfeisiau ar gael i’w benthyg i unrhyw un sydd angen, ynghyd â derbyn cefnogaeth gan wirfoddolwyr digidol arbennig. Cysylltwch os hoffech fod yn rhan o’r cynllun.

Eda’ Eco

Mae Eda’ Eco yn gynllun newydd ar y cyd efo’r Siop Werdd i gynnig gofod creu i unigolion yn y
gymuned i ddod i ddefnyddio offer a deunyddiau gwnïo - boed hynny’n gwneud mygydau ail-ddefnyddiadwy ar gyfer pobl y gymuned, trwsio/creu/gwneud dillad neu unrhyw brosiect gwnïo arall yr hoffech ei wneud. Cysylltwch neu galwch heibio’r Siop Werdd.
 

Arolwg Gweithrediad Amgylcheddol

Rydym yn creu arolwg ar gyfer Bro Ffestiniog. Ein gobaith yw y bydd miloedd o bobl yn ei wneud er mwyn cael sampl mor gynrychiadol a phosib. Rydym angen gwybod sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau, y dyfodol ac am lesiant pobl, eu diwylliant a’r amgylchedd, a beth mae pobl eisiau ei weld yn digwydd wrth symud ymlaen. Nid yn unig bydd hyn yn helpu cyfeirio gwaith y Dref Werdd i’r dyfodol ond yn ein helpu i daclo unrhyw anawsterau dros ein cymunedau ar gyfer newidiadau mwy sydyn, mwy parhaus a mwy effeithiol.
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021