25.7.21

Stolpia -Dŵr

Atgofion am Chwarel Llechwedd; pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Un o’r dyddiau tristaf i mi ei brofi tra’n gweithio fel ffitar yn Chwarel Llechwedd oedd yr adeg pan yr es i fyny un prynhawn i’r Bonc Uchaf (7) at y falf honno y cefais drafferth ei hagor y tro cyntaf. Fel yr esboniais yn rhifyn Ebrill, roedd y falf ar ochr math o danc, neu gist, a oedd wedi ei gosod yn y ddaear. Fel rheol, byddai’n llawn dŵr, a pheth arall amdani, roedd hi’n anodd iawn i chi weld bod tanc o ddŵr yno o gwbl nes yr oeddech yn ei hymyl.

Wedi cyrraedd y bonc y prynhawn hwnnw, sylwais wrth nesáu at y tanc bod rhywbeth gwyn yn y dŵr, a phan uwchlaw y lle, gwelais beth oedd ynddo, a dychrynais yn arw, gan mai dau oen bach wedi boddi a oedd yn y dŵr, a minnau yn rhy hwyr i wneud dim yn eu cylch. Roedd yr ochrau yn rhy serth i’r trueniaid bach ddod ohono eu hunain. Pan es i lawr yn ôl i’r ‘Cwt Letrig’, adroddais yr hanes wrth Emrys, fy mos, ac ar ôl iddo yntau drafod gydag eraill, penderfynwyd gosod rhwyll wifrog (wire mesh) dros y tanc fel na fyddai yr un peth yn digwydd yno byth eto.

Tra byddaf yn sôn am bethau yn ymwneud â dŵr, cofiaf y tŷ bach (lle chwech/toiled) a fyddai yng ngefn y felin ar Bonc yr Efail (5).

Fel un sy’n ddigon hen i gofio yr hen dai bach a fyddai yng ngwaelod yr ardd gan lawer ohonom yn yr 1950au, roedd hwn yn fwy cyntefig. Nid sedd bren gyda thwll crwn oedd yn y ‘geudy’ yma, ond ystyllen bren gul wedi ei gosod yn sownd ar bwt o wal, a ffos o ddŵr yn rhedeg oddi tano. Eid i’r tŷ bach o’r ochr gan fod wal ar bedair ochr iddo, ac felly, nid oedd modd gweld os oedd rhywun ynddo nes yr oeddech i mewn ynddo. Nid oedd drws arno o gwbl, a pheth arall yn ei gylch, roedd y wal y tu ôl i’ch cefn oddeutu llathen oddi wrth yr ‘ystyllen eistedd’, ac felly, roedd yn ofynnol peidio gwyro yn ôl, oherwydd roedd  peryg i chi syrthio i mewn i’r ffos, ac i beth bynnag oedd ynddi!

Llechwedd yn 1969 ...

Gyda llaw, ychydig yn uwch i fyny o’r tŷ bach ceid cist o ddŵr a math o lifddor (fflodiart) arni hi, ac ar ôl i chi wneud eich busnes, roedd yn ofynnol agor y llifddor er mwyn fflysio’r ffos – yn enwedig ar dywydd sych a phan oedd cryn ddrewdod ogylch y geudy. Yn ddiau, byddai llawer o’r oes bresennol wedi rhedeg adref cyn meddwl mynd i ffasiwn le. Yn yr 1970au, codwyd tŷ bach newydd y tu allan i’r felin gyda seddi pren a thwll crwn yn eu canol, a drws pren fel eu bod yn breifat, a gwelwn hynny yn welliant mawr ar yr hen. Onid yw’n fyd gwahanol heddiw?

--------------------------------

YMATEB I STOLPIA RHIFYN EBRILL
Gan D. Bryn Jones [Fron Dirion, Y Sgwâr]

Diolch … fel pob mis am ‘Stolpia’ - Steffan ab Owain. Llechwedd oedd yr unig chwarel y bu fy nhad, Hugh G. Jones (1921-1984) yn gweithio ynddi; hynny am tua 30 mlynedd rhwng 1936 a 1970 - gyda bwlch o 4 mlynedd tra’n yr Ail Ryfel Byd.  Bu hefyd yn gweithio i Gyngor Dosbarth Meirionydd am ychydig flynyddoedd.

Wedi pedair neu bum mlynedd yn Sinc y Mynydd ar Lawr B, bu am sbél yn Felin Bonc yr Efail (5) cyn mynd i’r Bonc Uchaf (7).  Y cwt sinc hir a elwid ‘Sing Sing’ ar ôl y carchar di-gysur (fel y dywed Steffan) … yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America.  Roedd muriau trwchus pennau llifiau, pennau cŵn y melinau eraill a chysgod cefnen o graig yn torri rhywfaint ar fin y gwynt, ond roedd y Felin Uchaf ar y grib ynghanol cors o fawn – yn boeth ar dyddiau heulog o haf, ond yn oer fel Siberia dan ryferthwy gwyntoedd a glaw pob tymor arall.  Dyna, yn ôl fy nhad, y rheswm am yr enw.

Ar hyd llwybr defaid y croesai nhad y gors honno, ac ar gerrig camu dros y siglen fawn islaw iddi – ‘Cors Anobaith’ (ar ôl ‘Taith y Pererin’ - John Bunyan) – dyna oedd ei enw ar y darn hwnnw, a chyrraedd y Cwt Drym ar ben Inclên Maenofferen, adre i 3, Teras Uncorn.  Dyna hefyd ran gyntaf ei daith i bysgota ei annwyl Lyn Barlwyd.

Fel Steffan, mi fum innau’n gweithio yn Llechwedd ac ar y Bonc Uchaf yn ystod y 1960au, ond dim ond am dri mis ambell haf i ennill pres poced pan oeddwn yn y 6ed dosbarth ac yn y coleg yn Abertawe.  ‘Doedd Steffan a minnau ddim yn adnabod ein gilydd bryd hynny, ond fe baentiais i gwt sinc hir melin ‘Sing Sing’ un haf.

Fel y digwydd pethau, yn haf 1978, er mwyn ennill pres poced cyn cychwyn yn y Coleg Ger y Lli yn Aberystwyth, bu fy mrawd, Gareth, oedd bymtheg mlynedd yn iau na mi, yn paentio Melin ‘No.7.’
Ergyd drom i fy rhieni, ac i fy chwaer a minnau oedd colli Gareth trwy ddamwain ar fotor beic ar Chwefror 6ed 1979.

Cofiaf innau O.J. a’r brecio sydyn ar ddrymiau’r inclên.
Dyna gofio ddoe.  Beth am heriau yfory?

Y Doethor Dafydd Gwynn o Ddyffryn Nantlle, ar anogaeth Dewi Lewis, Penrhyndeudraeth, a luniodd yr adroddiad ‘Llechi Cymru’ - Cymunedau Bethesda, Llanberis, Nantlle, Cwm Pennant, Ffestiniog, Corris ac Aberllefenni - i gefnogi cais Cyngor Gwynedd a Llywodraethau Cymru a San Steffan am statws Safle Treftadaeth Byd Eang - Sefydliad Addysgiadol, Cymdeithasol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig i’r ardaloedd hyn (UNESCO World Heritage Site). Mi gefais y fraint o gyfiethu ar y pryd i’r Dr Dafydd Gwynn, y tro cyntaf i Gymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog wahodd ei haelodau di-Gymraeg i wrando darlith yn Gymraeg.

Yr her roddodd Dr Gwynn y noson honno oedd y byddai gwell gobaith i’r cais lwyddo hefo UNESCO pe gellid adfer Melin Lechi Chwarel Maenofferen, yn uwch na’r Tŷ Pwdin a ‘Quarry Bank’, ychydig is na Llyn y Bowydd.  Beth amdani?

---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon