28.7.23

Cymwynaswyr

Eillio dros Elusen 

A welsoch chi’r Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn yn ddiweddar? 

Y mae’n anodd iawn ei adnabod y dyddiau hyn wedi iddo eillio ei farf drwchus adnabyddus er budd elusen. Codwyd £1,203 i ofal cancr Macmillan – elusen sydd wedi bod yn gefn mawr i lawer o drigolion y fro, gan chwalu’r nod gwreiddiol o fil o bunnoedd. 

Cyflawnwyd y cneifio yn nhafarn y Tap ddiwedd Ebrill. Ymddengys hefyd y bu’n rhaid i Elfed druan fynd ar ei liniau wedyn efo brwsh a phadell i hel y cnwd!

Coban Las i Linda

Yn hwyrach nag arfer eleni, cyhoeddwyd rhestr o’r rhai sy’n mynd i dderbyn anrhydeddau’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddechrau Awst. Ceir hanner cant ar y rhestr, a rheiny’n cynnwys enwau amrywiol. I ni yma’n dalgylch Llafar Bro, mae ‘na un enw sy’n rhaid cyfeirio ato.

Fel yma y crynhoir hynny’n y rhestr:


“Bu LINDA JONES yn weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sefydlwyr Cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru. Y prif nod yw cynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu. Sefydlodd westy tair seren yn Llan Ffestiniog - Gwesty Seren - i ddarparu llety ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a dysgu, prosiect arloesol a'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru. Mae LINDA hefyd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog sy'n hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau a mentrau cymunedol, ac sy'n cyflogi tua 150 o bobl leol.”

Mae’n fraint gan holl ddarllenwyr Llafar Bro estyn eu llongyfarchiadau gwresog i’n ‘LINDA PENGWERN’ ni, fu hefyd yn gwasanaethu Ward Teigl fel aelod Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ers sawl blwyddyn bellach. 

Dyma anrhydedd rwyt ti’n ei llawn haeddu, Linda ... dymunwn yn dda i ti’n dy goban las ar faes Boduan ar fore Gwener, 11 Awst!
- - - - - - - - -

Addaswyd o ddarnau a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2023



24.7.23

Croeso i rifyn yr haf!

Nodiadau golygyddol o rifyn Gorffennaf-Awst 2023. Oes gennych chi awydd helpu Llafar Bro?

Braf ar un llaw ydi cael adrodd bod llwyth o ddeunydd wedi dod i mewn tro yma! Ar y llaw arall, mae hynny’n golygu nad oes lle i bob dim yn anffodus. 

Bu’n rhaid gohirio ambell syniad a dal rhai erthyglau yn ôl tan rhifyn Medi, a rhaid oedd dewis yn ofalus pa rai o’r lluniau niferus fedrwn eu cadw. Gobeithio bod digon o amrywiaeth yn y rhifyn i osgoi siom gormodol.

Un stori y dylia’n bod ni’n adrodd yn fwy manwl -union 30 mlynedd* ar ôl y cyhoeddiad fod Atomfa Trawsfynydd yn cau- ydi bod cwmni Magnox o’r diwedd wedi cychwyn ar y broses i ostwng uchder adeiladau’r ddau adweithydd; yr adeiladau concrid mawr sydd wedi bod mor amlwg ar ein tirlun ers y chwedegau. Yn ôl cofnodion cyfarfod o’r grŵp rhanddeiliaid, dylid fod gwahoddiad i dendro wedi mynd allan erbyn hyn i gwmnïau dymchwel arbenigol, a’r nod ydi cychwyn y gwaith yn 2024, a’i gwblhau erbyn diwedd 2027. Roedd cwmni Egino yn dal i weithio ar gynllun busnes ar gyfer datblygu’r safle i gynnwys adweithyddion bach a ‘chanolfan ragoriaeth egni carbon isel’. Manylwyd hefyd ar y grantiau cymunedol a rannwyd (dros filiwn o bunnau mewn 10 mlynedd) gan gynnwys Seren a thîm rygbi dan 10 Bro Ffestiniog eleni.

O aros efo’r diwydiant cynhyrchu trydan, mae Engie, Pwerdy Ffestiniog, yn parhau i ddrysu pobol leol, trwy ddatgan yn gyntaf na fyddai gan neb hawl i gerdded dros argae Llyn Tanygrisiau, a gwneud tro pedol wedyn a chaniatâu i’r mynediad cyhoeddus barhau. Mae’r gwaith o baentio argae Stwlan yn dal i rygnu ymlaen yn boenus o araf a rhai’n holi os bydd diwedd i’r gwaith fyth? Gwahoddwyd Engie dair gwaith eleni i gefnogi ein papur bro a gwella eu cyswllt efo’r gymuned yr un pryd trwy dalu am hysbyseb neu noddi rhifyn. Efallai cawn wybod yr atebion erbyn rhifyn Medi.

Dewis anwybyddu’r newyddion am y datblygiad ‘glampio’ dan ddaear yn Chwarel Cwmorthin ydw i. Dyma chwarel lle collwyd llawer iawn o fywydau (yn wir galwyd hi’n ‘ladd-dy’ ar un adeg) ac mae’r syniad o drin y lle fel maes chwarae i bobol ddiarth yn un na fedraf ddod i’w dderbyn yn hawdd iawn. Ydw i’n afresymol? Gyrrwch air!

Felly hefyd y ‘carafanau bugail’ sydd wedi ymddangos yng nghyffiniau Llynnau Barlwyd eleni; yn gwbl amlwg ar y gorwel wrth gerdded i fyny at y llyn mawr. Debyg fod y rhain hefyd ar gyfer ymwelwyr sy’n fodlon talu trwy eu trwynau i gysgu mewn cwt sinc ar olwynion, ond sut ar y ddaear gafodd y fath bethau ganiatâd cynllunio mewn lle felly dwad?

Ar y llaw arall mae’n dda gweld mae tai rhent cymdeithasol sy’n cael eu hadeiladu (gan gwmni lleol) ar safle’r hen ganolfan iechyd yn y Blaenau, yng ngofal Adra a Chyngor Gwynedd. Yn ôl eu harwydd bydd yno dau dŷ dwy lofft; dau dŷ tair llofft; ac un ‘uned arbennigol’. Mae digon o angen tai rhent yn sgil yr argyfwng prisiau tai.

Tydw i ddim yn twyllo fy hun bod llawer o ‘newyddiaduraeth’ yn digwydd yn y papurau bro -mae’n amhosib i ni gystadlu efo papurau dyddiol neu wythnosol am newyddion- ond mae’n chwithig a rhwystredig na fedrwn adrodd ar bethau pwysig lleol yn fwy manwl. 

Be amdani... oes gennych chi awydd cyfrannu awr neu ddwy i greu cynnwys perthnasol i Llafar Bro?
Mae yna ddigon o amser cyn dyddiad cau rhifyn Medi! Ewch amdani, mae ein papur bro yn dibynnu’n llwyr ar griw bach o wirfoddolwyr i’w gadw’n fyw ac yn ddifyr o fis i fis, byddai’n braf cael croesawu mwy ohonoch i’r gorlan. Diolch bawb, mwynhewch yr haf, a daliwch i gredu!        

PW
- - - - - - - - - - - - 

Lluniau gan Paul W

* Erthygl o ddegawd yn ôl: 'Ugain mlynedd ers cau yr atomfa'

Cysylltwch os ydych chi awydd gyrru rhywbeth i mewn ond angen mwy o wybodaeth

20.7.23

Rhod y Rhigymwr- y ganfed golofn!

Rhan o gyfres Iwan Morgan

Ysgrifennydd Llafar Bro ar y pryd, Vivian Parry Williams ddaeth ar fy ngofyn ym mis Mai 2014, i holi fyddai gen i ddiddordeb mewn cyfrannu colofn farddol fisol i’r papur. Er mod i’n golygu dau fis y flwyddyn, anodd oedd gwrthod.

Euthum ati i roi cynnig arni am ryw hanner blwyddyn, ac yn Ionawr 2015, penderfynu cynnwys y sylwadau canlynol:

“Amrywiol fydd y cynnwys o fis i fis, a hynny’n dibynnu ar yr hyn a dderbyniaf neu y tynnir fy sylw ato. Fel arfer, byddaf yn rhannu â chi bytiau o’r ‘wybodaeth wasgaredig a di-fudd’ yr ymddiddorais ynddi dros y blynyddoedd. Byddaf o dro i dro hefyd yn cynnwys ambell dasg. Ni chynigir beirniadaeth fanwl ar unrhyw ymgais, nac ychwaith wobrau ariannol hael, ond cydnabyddir pawb yng ngholofn y mis fydd yn dilyn.”
Ar y dechrau, cefais gefnogaeth ambell brydydd lleol, ond prinhau wnaeth y gefnogaeth honno dros y blynyddoedd. O bryd i’w gilydd, tynnodd ambell un fy sylw at feirdd o’r fro a’u cerddi, a chefais foddhad o fynd i chwilota i’w hanes a chynnwys eu cerddi’n y golofn.

Cefais gefnogaeth arbennig iawn gan ychydig ffyddloniaid a ymatebodd yn fisol i dasgau a osodais, megis cwblhau limrig neu ychwanegu cwpled i gloi pennill. Gwerthfawrogaf hefyd yr englynion a’r cerddi a dderbyniais gan amrywiol feirdd.

Derbyniais lythyrau a negeseuon oddi wrth sawl un yn nodi eu bod yn cael pleser a mwynhad o ddarllen cynnwys yr erthyglau. Mae’n debyg felly fod eraill, heblaw fi, yn ymddiddori’n yr agweddau yma o’n diwylliant.

Rydw i wedi cadw pob ysgrif a luniais ar fy nghyfrifiadur. Mae’r rhifyn arbennig hwn ... Mehefin 2023 ... yn garreg filltir yn hanes ‘Rhod y Rhigymwr.’
 
Dyma’r ganfed golofn i mi ei dwyn at ei gilydd.


Yn ogystal â chadw’r colofnau, es ati hefyd i gasglu detholiad o’r ysgrifau a gyflwynais i Lafar Bro, a galw’r gyfrol honno yn ‘Hwnt ac Yma.’  Ym mol y cyfrifiadur mae ei chartref hithau.

Mae’n mynd yn anoddach dod o hyd i rywbeth diddorol i ysgrifennu amdano’n fisol. Ond i ddathlu’r cant, rydw i wedi penderfynu dewis rhagor o englynion a wnaeth argraff arnaf dros y blynyddoedd, gan osgoi rhai y cyfeiriais atyn nhw eisoes.

Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â thre’r Bala ym 1967, gosodwyd ‘Draenen’ yn destun i’r englyn, a gwahoddwyd y Parchedig J. Eirian Davies, Yr Wyddgrug i fod yn feirniad. 

Yn ôl y dystiolaeth yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau, dyfynnwyd sawl englyn gwirioneddol dda. Ond penderfynu atal y wobr wnaeth y beirniad, gan lwyddo o’r herwydd i dynnu blewyn o drwyn sawl englynwr profiadol.

Dau a ddaeth yn agos ati oedd rhai o eiddo John Lloyd Jones, Llwyndafydd, Ceredigion [1905-90] a’r Parchedig Roger Jones [1903-82], brodor o Ben Llŷn, oedd ar y pryd yn weinidog gydag enwad y Bedyddwyr yn Nhal-y-bont, Aberystwyth. O weld y drain yn eu gogoniant eleni, daeth y rhain i gof.

Dyma englyn John Lloyd Jones:

Lleian addfwyn y llwyni – a hafwisg
     Mehefin amdani;
Ond yn heth y dinoethi
Ar y gwrych oer, gwrach yw hi.
Dyfynnais englyn Roger Jones ym Mehefin 2021. Campwaith o englyn arall ganddo, a enillodd wobr yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ar y Sulgwyn 1966 ydy hwnnw i’r ‘Nyth’:  
Ni fu saer na’i fesuriad – yn rhoi graen
     Ar ei grefft a’i drwsiad,
Dim ond adar mewn cariad
Yn gwneud tŷ heb ganiatâd.
Mae’n debyg mai’r englyn a ddysgais gynta’ erioed oedd un W. D. Williams [1900-85] - ‘Gras o Flaen Bwyd.’ Fe fydden ni, blant Ysgol Gynradd Corris y 50au a’r 60au cynnar yn cyd-adrodd hwn yn feunyddiol yn y ffreutur:
O! Dad, yn deulu dedwydd – y deuwn
     Â diolch o newydd,
Cans o’th law y daw bob dydd     
Ein lluniaeth a’n llawenydd.
Ymddengys mai englyn buddugol yng nghyfarfod bach y Sarnau, Penllyn, tua’r flwyddyn 1942 oedd hwn.

Dechreuais ar fy ngyrfa fel athro yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ym 1972. Un o’m cyd-athrawesau yno oedd y ddiweddar Anita Griffith - gwraig a fu’n yr ysgol yn ddisgybl, yna’n athrawes gydwybodol am gyfnod hir. Roedd hi’n chwaer i’r Parchedig Ronald Griffith, gweinidog gydag enwad y Wesleyaid ac englynwr tan gamp. Gan ei bod yn ddaucanmlwyddiant geni’r emynyddes Ann Griffiths ym 1976, y dasg a osodwyd i’r timau yn Ymryson y Babell Lên ym Mhrifwyl Aberteifi oedd ‘Ruth.’ Hi oedd morwyn ‘y danbaid, fendigaid Ann’ - a’r un a ddiogelodd ei hemynau i’r genedl. Cofiaf fod yn y Babell ar y diwrnod y cyflwynodd Ronald Griffith ei englyn iddi:
Enw Ruth fo mewn aur weithian – yn hanes
      Ffyddloniaid y Winllan
Am roi y ddigymar Ann
Ar gof i Gymru gyfan.
Cyfeiriwyd at Brifwyl Aberteifi fel ‘Eisteddfod y Llwch.’ Mae’n siŵr fod nifer ohonoch chi’r darllenwyr yn cofio ha’ poeth ’76. Ddegawd yn ddiweddarach, yn Abergwaun, cafwyd ‘Eisteddfod y Mwd.’ Cofiaf fod yn y Babell Lên pan gyflwynodd y cynganeddwr sydyn a slic o Fôn, y diweddar annwyl ‘Machraeth’ ei englyn anfarwol i’r ‘Hwch’:
O dan draed mae’r mwd yn drwch, – yn sicli
     Fel siocled neu bibwch.
I hwn ni cherddai’r un hwch
Ella, ond mewn tywyllwch.

- - - - - - - - - - -

Llongyfarchiadau mawr Iwan, a diolch am y golofn.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023

 
 


16.7.23

Gwŷl Ddringo Hongian

O ddydd Gwener y 19eg hyd ddydd Sul yr 21ain o Fai, dan heulwen odidog ac awyr las, cynhaliwyd Gŵyl Hongian, sef gŵyl ddringo ac awyr agored Bro Ffestiniog. 

Dechreuwyd yr ŵyl ar raddfa fach yn 2015 gan griw’r Gwallgofiaid er mwyn gweithio’n benodol gyda phobl ifanc y fro a dangos iddyn nhw’r gweithgareddau dringo byd-enwog y mae modd eu gwneud, a hynny yn eu cynefin. Ond dyma’r ail flwyddyn lle cynhaliwyd digwyddiad mwy sylweddol ei natur. 

Mae’r ŵyl yn cynnwys nofio, teithiau cerdded hanesyddol, rhedeg llwybrau, dringo a bowldro – sef dringo heb raff a neidio i lawr ar glustog drwchus. Cafodd yr ŵyl le ar raglen ‘Heno’ hyd yn oed, lle soniwyd bod creigiau Stiniog gyda’r gorau yng Nghymru am yr antur a gynigiant. Ac ychwaneger at hyn natur anghysbell a diffaith ein hucheldiroedd, a gallwch weld yn hawdd atyniad ymgolli ym myd natur a theimlo mawredd gogoneddus y mynyddoedd o’n cwmpas. Mae tystiolaeth bendant bod gwneud y fath weithgareddau yn hynod lesol i’n hiechyd meddwl, ac mae yna ryw dynfa oesol ynom erioed i geisio’r unigeddau i’n henaid gael llonydd. 


Trefnydd yr Ŵyl oedd Rhys Roberts, CellB – menter sydd wedi bod yn ehangu gorwelion pobl ifanc fyth ers ei sefydlu. Bu gweithdai a sgyrsiau gyda’r nos, a lle gwersylla ar Gae Peips hefyd, y bu criw o wirfoddolwyr ifanc yn gweithio’n galed i’w baratoi. Roedd y gweithgareddau eu hunain o dan arweiniad mentoriaid lleol, ac roedd cyfleoedd i bobl ifanc gysgodi’r mentoriaid hyn a chael blas ar y gwaith – a allai agor y drws at gyfleoedd gyrfa. Dyma waith pwysig iawn yn yr ymdrech sydd ei hangen i berchnogi’r diwydiant awyr agored gan bobl leol, a thrwy hynny, ei Gymreigio. 

Un o’r mentoriaid bowldro oedd Mari, sy’n rhedeg Caffi’r Llyn, ac sydd hefyd wedi ennill enw iddi ei hun fel model. Bu Gerwyn Roberts, Cae Clyd, yn arwain sesiynau rhedeg llwybrau, a Connaire Cann o Danygrisiau yn cynnal sesiwn ddringo i bobl ifanc. Hefyd, gan fod yr holl sesiynau wedi eu noddi gan Cyngor Mynydda Prydain a’r DMM, roedd y gweithgareddau am ddim i’r rhai dan ddeunaw, a phrisiau gostyngol ar gael i oedolion. Gŵyl wirioneddol gynhwysol felly. Roedd yr holl weithgareddau yn gwbl ddwyieithog, ac roedd gan yr Urdd bresenoldeb amlwg. 

Hyfrydwch gweld y fath ŵyl ar lethrau ein hen fynyddoedd annwyl. Ymlaen at y flwyddyn nesaf!
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023

 

12.7.23

Cwpan Arall

Yn rhifyn Mai mi gawsom hanes cwpan y gystadleuaeth ddrilio (Trysor Siop Elusen).

Y mis yma, daeth cwpan unigryw arall i’r golwg, diolch i Bet Roberts, Ffordd Wynne.

 

Ar y gwpan, ceir y geiriau:

The Championship
North Wales 3 Mile Cycle Race
Blaenau Ffestiniog
Athletic Sports
Oct.5th, 1901
Presented by M. Rowland Jones, Maenofferen Hotel

Diolch i Steffan ab Owain unwaith eto am dyrchio’n archifau “The Cambrian News & Merioneth Standard”, 20 Medi, 1901. 

Yn y golofn chwaraeon, gwelir fod rasus beicio amrywiol wedi eu cynnal yma’n y Blaenau. 

 

Dyma’r buddugwyr: 

Râs filltir i ddechreuwyr: Iaf - William Davies, Lord Street, 2il - Robert Ellis, Glasfryn.
Râs ymlid ar feic: 1af - William Davies, Lord Street. 2il - Hugh Jones, Devon Terrace.
Yna y râs 3 milltir am y gwpan: 1af - Hugh Jones, Devon Terrace. 2il - William Davies, Lord Street. 

Dafydd Roberts
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


3.7.23

Stolpia- mwy o garpedi

Pennod arall gan Steffan ab Owain am hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll, o rifyn Mai 2023

Dyma ragor o wybodaeth am ffatri Fatima Industries a sefydlwyd yn hen addoldy’r Wesleyaid yng Nghae Baltic, Rhiwbryfdir, sef Capel Soar gynt. Diolch i Aled Ellis, Minffordd am ei ddiddordeb ac am anfon y pytiau canlynol imi sydd yn dadlennu mwy o gefndir y stori.

Yn un rhan o’i hysbyseb disgrifid rygiau trwchus (deep pile) y ffatri gan un prynwr amlwg o Lundain fel y rhai mwyaf cain a wneid ym Mhrydain y pryd hwnnw, sef yn yr 1950au. Yn ogystal, cyfeirid at y gwehyddiad ‘W’ fel un unigryw, ac heb ei ddefnyddio yn flaenorol mewn gwneuthuriad carped a rygiau yn y wlad hon nag unman arall chwaith. 

Gyda’r dull newydd hwn, roedd modd cloi pen y carpedi a’r rygiau yn dynn, ac anodd a fyddai iddo ddatod neu ddadblethu, a phe tynnid arno, tueddai i gloi mwyfwy. Cyn iddynt ganfod y dull hwn o’u cloi, yr unig ffordd effeithiol oedd clymu pob edefyn ar wahan gyda’r llaw, sef techneg a ddefnyddid yn fyd-eang o Kashmir i Kidderminster mewn gwneuthuriad carpedi a rygiau a wneid gyda llaw.

Dyma restr o brisiau’r carpedi a rygiau’r cwmni yn nechrau’r 1950au :

Mesul llathen - £3 17s 3d (tua £3.86 yn arian heddiw)                  
Mesul llathen sgwâr - £5 3s 0d   (£5.15)                                                     
Ryg 4 troedfedd 6 modfedd x 27 modfedd - £5 15s 11d (£5.76)      
Ryg 6 troedfedd x 36 modfedd -  £10 6s 0d (£10.30)

Roedd  modd cael pris am garped gosod (fitted carpet) gan y cwmni hefyd gyda’r un math o wead ac ansawdd â’r rygiau. Byddai’n dda cael gwybod beth a fyddai’r gost o osod carped o wal i wal mewn tŷ sylweddol, oni byddai? 

Tybed hefyd a oes un o’r carpedi neu’r rygiau hyn wedi goroesi ac ar gael yn rhywle yn un o gartrefi’r Blaenau neu’r Llan?

 

O.N. 

Trwy ryw amryfusedd, diflannodd gweddill y frawddeg yn hanes yr adeilad yn rhan olaf fy strytyn yn rhifyn Ebrill.
Fel hyn y dylai fod ... ‘Bellach, y mae’r adeilad (sef yr hen gapel) wedi ei addasu yn gartref cysurus’.

Dolen i ran un yr hanes