O ddydd Gwener y 19eg hyd ddydd Sul yr 21ain o Fai, dan heulwen odidog ac awyr las, cynhaliwyd Gŵyl Hongian, sef gŵyl ddringo ac awyr agored Bro Ffestiniog.
Dechreuwyd yr ŵyl ar raddfa fach yn 2015 gan griw’r Gwallgofiaid er mwyn gweithio’n benodol gyda phobl ifanc y fro a dangos iddyn nhw’r gweithgareddau dringo byd-enwog y mae modd eu gwneud, a hynny yn eu cynefin. Ond dyma’r ail flwyddyn lle cynhaliwyd digwyddiad mwy sylweddol ei natur.
Mae’r ŵyl yn cynnwys nofio, teithiau cerdded hanesyddol, rhedeg llwybrau, dringo a bowldro – sef dringo heb raff a neidio i lawr ar glustog drwchus. Cafodd yr ŵyl le ar raglen ‘Heno’ hyd yn oed, lle soniwyd bod creigiau Stiniog gyda’r gorau yng Nghymru am yr antur a gynigiant. Ac ychwaneger at hyn natur anghysbell a diffaith ein hucheldiroedd, a gallwch weld yn hawdd atyniad ymgolli ym myd natur a theimlo mawredd gogoneddus y mynyddoedd o’n cwmpas. Mae tystiolaeth bendant bod gwneud y fath weithgareddau yn hynod lesol i’n hiechyd meddwl, ac mae yna ryw dynfa oesol ynom erioed i geisio’r unigeddau i’n henaid gael llonydd.
Trefnydd yr Ŵyl oedd Rhys Roberts, CellB – menter sydd wedi bod yn ehangu gorwelion pobl ifanc fyth ers ei sefydlu. Bu gweithdai a sgyrsiau gyda’r nos, a lle gwersylla ar Gae Peips hefyd, y bu criw o wirfoddolwyr ifanc yn gweithio’n galed i’w baratoi. Roedd y gweithgareddau eu hunain o dan arweiniad mentoriaid lleol, ac roedd cyfleoedd i bobl ifanc gysgodi’r mentoriaid hyn a chael blas ar y gwaith – a allai agor y drws at gyfleoedd gyrfa. Dyma waith pwysig iawn yn yr ymdrech sydd ei hangen i berchnogi’r diwydiant awyr agored gan bobl leol, a thrwy hynny, ei Gymreigio.
Un o’r mentoriaid bowldro oedd Mari, sy’n rhedeg Caffi’r Llyn, ac sydd hefyd wedi ennill enw iddi ei hun fel model. Bu Gerwyn Roberts, Cae Clyd, yn arwain sesiynau rhedeg llwybrau, a Connaire Cann o Danygrisiau yn cynnal sesiwn ddringo i bobl ifanc. Hefyd, gan fod yr holl sesiynau wedi eu noddi gan Cyngor Mynydda Prydain a’r DMM, roedd y gweithgareddau am ddim i’r rhai dan ddeunaw, a phrisiau gostyngol ar gael i oedolion. Gŵyl wirioneddol gynhwysol felly. Roedd yr holl weithgareddau yn gwbl ddwyieithog, ac roedd gan yr Urdd bresenoldeb amlwg.
Hyfrydwch gweld y fath ŵyl ar lethrau ein hen fynyddoedd annwyl. Ymlaen at y flwyddyn nesaf!
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon