24.7.14

Dal dy ddwr

Rhan o erthygl o rifyn Gorffennaf 2014:

Mae cryn brysurdeb a gweithgaredd ar safle trin dŵr Garreglwyd ar hyn o bryd. Llanast ofnadwy medd rhai; ac eraill yn holi be’ ar y ddaear sy’n digwydd yno? O chwilio a holi rhyw ‘chydig, daw’n amlwg bod Dŵr Cymru yn ymestyn eu safle yno. O archwilio’r cais cynllunio, deallwn bod cronfa ddŵr newydd (tanc mawr, mewn geiriau eraill) yn cael ei hadeiladu tu cefn i’r gwaith trin, yn ogystal ag ychwanegu cabanau offer a manion eraill.

Y tu hwnt i’r datganiad cyffredinol ‘Pwrpas y datblygiad yw sicrhau bod y dŵr yfed yn cyrraedd y safonau priodol’, dwi wedi methu a chanfod pam bod angen hynny rwan, a be’ oedd yn bod ar ansawdd y dŵr gynt? Ta waeth, mi ddyliwn ymfalchïo, debyg iawn, eu bod yn buddsoddi yn ein cyflenwad.


Ond dal dy ddŵr, meddech chi!
Mae gwaith Garreglwyd ynghanol tirlun hynod o bwysig a chyfoethog yn nhermau hanes a chwedloniaeth ein milltir sgwâr. Gerllaw mae bryngaer ryfeddol Bryn Castell, lle bu’n cyndadau ni’n cynhyrchu haearn cyn -ac ar ôl- cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Saif y gwaith trin ar ffordd Rufeinig Sarn Helen, a ger safle tybiedig Beddau Gwŷr Ardudwy, a lleoliad darganfod carreg Cantiorix, sydd bellach yn eglwys Penmachno. Rhoddodd Parc Cenedlaethol Eryri replica ohoni a llechen i’w dehongli ar wal derfyn y gwaith dŵr yn 2006.

Llun-PW. (Gwynedd ydi ystyr Venedos)
Fel y gallwch ddisgwyl gyda datblygiad fel hyn, roedd yn destun cais cynllunio, ac er ei bod yn rhy hwyr i yrru sylwadau, gallwch weld y cynlluniau manwl ar wefan y Parc Cenedlaethol, o dan y cyfeirnod NP5/59/397C. Mae’r Parc wrth gwrs yn gwerthfawrogi gwerth hanesyddol a diwyllianol y safle, ac un o’r amodau a roddwyd ar Ddŵr Cymru oedd bod yn rhaid cynnal asesiad archaeolegol manwl cyn dechrau’r gwaith.


Mae’r llun yma gan VPW yn dangos hyd a lled y gwaith adeiladu, ac mae’r ardal reoli a storio ar y chwith yn ymddangos yn ddychrynllyd, ond ardal dros dro yw hi, gyda’r bwriad o adfer yn llwyr.

Mi holais John Roberts, archaeolegydd y Parc am ychydig o fanylion ac roedd yn barod iawn i rannu adroddiad yr asesiad, a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.  Meddai John, am ganlyniadau’r asesiad a’r ffosydd archwilio a wnaed ar y safle:
“Ni ddarganfuwyd olion archaeolegol arwyddocaol iawn ond mi deimlwyd bod dal posibilrwydd o ddiddordeb archaeolegol, ac felly awgrymais amod i gyflawni gorchwyl gwylio/watching brief , yn ystod yr adeiladu”.
Ychwanegodd: “Mae’r gorchwyl gwylio wedi cael ei wneud yn ddiweddar… Mae’n bosib bod ffos a gloddiwyd ar hyd y trac, sef llwybr Sarn Helen, yn [dangos olion] Rhufeinig ond doedd dim darganfyddiadau eraill o arwyddocâd”.

Ffosydd archwilio

Yn rhai o’r ffosydd archwilio, canfyddwyd nifer o grawiau gwastad, ac mae’r Ymddiriedolaeth Archaeolegol yn awgrymu efallai eu bod wedi eu gosod ar lawr gan y rhai fu’n cloddio am lechi yn y cyffiniau, er mwyn cludo deunydd dros ardal gorsiog. Maen nhw’n mynd ymlaen i awgrymu, oherwydd ffurf a maint y crawiau, y gallen nhw fod wedi dod o nodweddion archaeolegol fel cistiau claddu ac ati.

Os daw rhywbeth arall i’r amlwg cyn diwedd yr adeiladu, cewch ddarllen y manylion yn Llafar Bro yn y dyfodol. Yn y cyfamser, gallwch weld copïau o’r adroddiadau archaeolegol dros yr haf yn arddangosfa’r Gymdeithas Hanes.   
-PW

18.7.14

Llyfr Newydd -Elis o'r Nant

Mae ysgrifennydd Llafar Bro wedi bod yn brysur eto, ac ar Nos Lun, 21ain Gorffennaf, am 6.30 o’r gloch, bydd Vivian Parry Williams, a Gwasg Carreg Gwalch yn lansio’i gyfrol ddiweddaraf ‘Elis o’r Nant –Cynrychiolydd y Werin’, yn neuadd Sefydliad y Merched, Blaenau.


Bydd y siaradwyr gwadd Gwyn Thomas, Bruce Griffiths, a Rheinallt Llwyd yn darllen pytiau o’r gyfrol ar y noson, dan lywyddiaeth Geraint Vaughan Jones. Mae croeso i bawb ddod draw, a bydd y gyfrol ar werth yn y neuadd am £7.50.

14.7.14

Stolpia- cadw ieir yn y Rhiw!

Rhan o erthygl Steffan ab Owain, o rifyn Gorffennaf 2014, o'i gyfres am Rhiwbryfdir yn y 1950au:


Fel llawer un arall yn y Rhiw, bu fy nhad yn cadw ieir yn rhan isaf yr ardd gefn ac un o’r pethau sydd wedi aros yn fy nghof amdanynt  yw’r noson pan ymwelodd yr hen Sion Blewyn Coch a chwt y da pluog.
 
Roedd fy nhad druan yn yr ysbyty yn Llangwyfan ar y pryd yn dioddef o diciau ar ei sbein, ac felly, mam a ofalai am yr ieir. Beth bynnag i chi, anghofiodd a chau drws y cwt y noson honno a rhyw dro yn ystod tywyllwch y nos daeth yr hen gadno heibio a chynhyrfu yr holl drigolion ynddo.

Celf gan Lleucu Gwenllian Willliams

Clywodd mam eu sŵn a rhedodd nerth ei thraed i lawr at y cwt gyda ffon yn ei llaw a phwy oedd yn dod ohono â’r ceiliog coch yn ei safn, ond y llwynog.
 
Rhedodd ar ei ôl i fyny at Benycei wrth y lein fawr ac yno penderfynodd yr hen gochyn ei ollwng neu gael curfa â’r ffon, ond roedd gwddw’r ceiliog wedi ei hambygio ganddo ac nid oedd fawr o fywyd ar ôl ynddo.

Os cofiaf yn iawn,bu’n rhaid i Mr Ellis Evans, a breswyliai tros y ffordd inni, sef tad Kathleen ac Ieuan, a thaid David Clack, un o’m ffrindiau bore oes, roi tro yn ei wddw.

Bu clo ar y cwt pob nos ar ôl hyn !



Hysbysebion Coll

Yn anffodus, diflanodd tair hysbyseb o rifyn Gorffennaf, wrth fynd trwy'r wasg. Dyma nhw:







CYMDEITHAS GYN-DDISGYBLION A CHYFEILLION YSGOL Y MOELWYN

PRYD:     Bore Mawrth, 5ed Awst  2014

BLE:        Pabell y Cymdeithasau 1 ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli

PAM:     Cyfarfod anffurfiol pryd y datgelir enillwyr Gwobr 2014

AMSER: 11 – 12 o.g.

SIARADWYR: Dewi Lake, Sian Arwel Davies

COST:    Isafswm £2 y pen

DYMA’R TRO CYNTAF INNI GYFARFOD YN Y STEDDFOD PAN MAE YN Y DE!! 

DEWCH YN LLU

Croeso i bawb sydd â chysylltiad â’r ysgol beth bynnag eich oedran!


12.7.14

DOD YN ÔL

Rhan o dudalen flaen rhifyn Gorffennaf, gan Nesta Evans, Llan:

Stori anhygoel jwg fedyddio!
Bu dathlu yn Eglwys Sant Mihangel.  Ddeng mlynedd yn ôl, bydd llawer ohonoch y cofio y torri i mewn a dwyn creiriau gwerthfawr a hanesyddol o’r eglwys ac ni welwyd mohonynt wedyn.  Ychydig amser yn ôl derbyniodd David Taylor e-bost gan ddyn o New Jersey, America, o’r enw Anthony Bozzuto. 


Ei neges oedd ei fod wedi prynu jwg  pres (‘ewer’ yn Saesneg) mewn ‘goodwill store’ am wyth dolar.  Sylwodd fod arysgrif ar waelod y jwg oedd yn dweud enw Eglwys Sant Mihangel, gyda’r dyddiad 1913, wedi ei gyflwyno gan Mrs Malek.  Defnyddiwyd hon yn ystod bedydd i godi dŵr o’r fedyddfaen. 

Anfonwyd yr wybodaeth i Joan Yates, warden yr eglwys, a bu hithau’n cysylltu â Mr. Bozzuto oedd am i’r jwg gael ei ddychwelyd i’r eglwys. 

Cyrhaeddodd yn ddiogel, wedi ei bostio yn ei ôl i’w gynefin a dyna pam y bu dathlu ar fore Sul, Mehefin 22ain.  Stori anhygoel ynte, a tybed a oes gobaith y daw cadair Edmwnd Prys i’r golwg rhyw ddiwrnod?