30.12.14

Refferendwm yr Ysbyty!

Y Diweddaraf o’r Pwyllgor Amddiffyn, o rifyn Rhagfyr 2014, gan Geraint Vaughan Jones.

Mae’n braf cael adrodd bod y Pwyllgor Amddiffyn a’r Cyngor Tref bellach yn cydweithio ar y ffordd ymlaen yn y frwydr i adfer y gwasanaethau a gollwyd o’r Ysbyty Coffa:

 - gwlâu i gleifion,
 - uned mân anafiadau,
 - clinig Pelydr-X a.y.y.b.

Mae’r cynghorwyr a ninnau yn gytûn, erbyn hyn, y dylai’r gwariant o £4m, a addawyd o Gaerdydd, gynnwys y gwasanaethau yma hefyd (fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Coffa Tywyn) ac y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ail-fuddsoddi’r £¾m-y-flwyddyn y maen nhw’n ei arbed rŵan o dan yr esgus o fod yn gwella’r ddarpariaeth iechyd yn y cylch.

Bwriad y Cyngor a’r Pwyllgor Amddiffyn ydi galw am Refferendwm (‘Pleidlais Gymunedol’) ddiwedd fis Ionawr, i roi cyfle i chi, yr etholwyr, ddangos eto beth yw eich dymuniad ynglŷn â dyfodol yr Ysbyty Coffa (Fe gofiwch fod pleidlais debyg wedi derbyn cefnogaeth gref yn Fflint yn ddiweddar a’u bod hwythau hefyd yn gwrthod cymryd eu sathru gan ddieithriaid y Bwrdd Iechyd.)

Cyn y gellir cynnal Pleidlais Gymunedol, fodd bynnag, rhaid cael o leiaf 150 o bobol Blaenau a Llan, sydd â phleidlais etholiadol, i ddod i gyfarfod cyhoeddus i gefnogi’r galw am refferendwm. A barnu oddi wrth eich cefnogaeth yn y gorffennol, yna rydym yn ffyddiog y cawn weld dwywaith os nad teirgwaith cymaint â hynny ohonoch yn mynychu’r cyfarfod yn Neuadd Ysgol y Moelwyn ar Ionawr 13eg. O gael eich cefnogaeth yn y cyfarfod, yna bydd hawl gan y Cyngor Tref i drefnu refferendwm wedyn, o fewn tair wythnos i’r dyddiad hwnnw. Felly, dowch yno’n llu!







20.12.14

Archif Gwefannau

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi gwahodd Llafar Bro i gymryd rhan yn Archif
We y deyrnas gyfunol, drwy gadw copi rheolaidd o'n gwefan. Rydym wedi derbyn y cynnig wrth gwrs, felly waeth pa newidiadau ddaw yn y dechnoleg yn y dyfodol, bydd cynnwys y wefan hon yn cael ei gadw am byth, ac ar gael i bawb hyd dragwyddoldeb!

Mae'r Archif yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Brydeinig, JISC, a Llyfrgell Wellcome i ddiogelu gwefannau ar gyfer defnyddwyr y dyfodol.


Meddai'r Llyfrgell Genedlaethol wrth gysylltu â ni:
"Rydyn ni wedi nodi’r wefan hon fel rhan bwysig o etifeddiaeth ddogfennol Cymru a hoffen iddi barhau i fod ar gael i ymchwilwyr yn y dyfodol. Bydd y copi o’ch gwefan a archifir yn
dod yn rhan o’n casgliadau parhaol.

"Bydd rhai manteision yn deillio i chi o gael eich gwefan wedi ei harchifo gan y Llyfrgell:  Byddwn nid yn unig yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod eich cyhoeddiad ar gael fel y mae caledwedd a meddalwedd yn newid dros amser, ond byddwn hefyd yn catalogio eich cyhoeddiad drwy wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Gwefannau y DG, a thrwy hynny yn cynyddu ymwybyddiaeth o’ch cyhoeddiad ymhlith ymchwilwyr."

Yn ôl Archif Gwefannau'r DG:
"Casglwyd miloedd o wefannau ers 2004 ac mae'r Archif yn tyfu'n gyflym.
Yma gallwch weld sut mae gwefannau wedi newid dros amser, dod o hyd i wybodaeth nad yw bellach ar gael yn fyw ar y We ac olrhain hanes amrywiaeth o weithgareddau a gynrychiolir ar y we.

"Mae'r Archif yn cynnwys gwefannau nad ydynt bellach yn bodoli mewn mannau eraill, a gellir enwebu gwefannau sydd heb gael eu harchifo er mwyn eu cadw at y dyfodol.
Gellir chwilio yn ôl Teitl y Wefan, Testun Llawn neu gyfeiriad y wefan, neu bori yn ôl testun, Casgliad Arbennig neu Restr yn Nhrefn yr Wyddor.

"Mae'r Archif yn cynnwys gwefannau sy'n cyhoeddi ymchwil, sy.n adlewyrchu amrywedd bywydau, diddordebau a gweithgaroedd ledled y D.G."

-Cyffrous 'de!




17.12.14

Prisiau Llafar Bro o Ionawr 2015

Penderfynwyd codi pris Llafar Bro o 40c i 50c o fis Ionawr 2015 ymlaen. Roedd y pwyllgor yn gyndyn i godi’r pris ond gorfodwyd hyn arnom oherwydd y cynnydd mewn costau argraffu.

Wedi dweud hyn mae Llafar Bro yn dal i fod yn fargen dda ac yn dal i fod ymysg y papurau bro rhataf yng Nghymru. A hefyd ymysg y mwyaf diddorol!

Aeth pum mlynedd heibio ers i ni godi pris y papur o’r blaen. Oni bai fod trigolion Stiniog wedi bod mor driw i’r papur a’i brynu yn rheolaidd  yn eu cannoedd a hysbysebu yn ei dudalennau byddwn wedi gorfod ail ystyried codi’r pris ynghynt. Mae chwyddiant yn effeithio ar brisiau popeth ac yn anffodus tydi Llafar ddim yn eithriad.

Diolch i chi am barhau i’n cefnogi a mwynhewch y papur.


llun- PW
Tanysgrifio
Fel gyda chost argraffu mae costau postio wedi cynyddu’n enbyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae cynnydd yn y prisiau yn golygu bod rhaid i ni gynyddu'r prisiau tanysgrifio.

Er mai 50 ceiniog y mis (£5.50 y flwyddyn) fydd cost y papur ei hun, mae’n costio 73c i bostio pob rhifyn o fewn y Deyrnas Gyfunol, ac mae hyn yn cynyddu i £3.30 yr un o fewn Ewrop, a £3.80 y rhifyn i weddill y byd. Mae’r prisiau tanysgrifio newydd yn adlewyrchu'r costau postio hyn.

Gwelir isod y prisiau perthnasol. 
Gwledydd Prydain:        £16
Gweddill Ewrop:           £43      
Gweddill y byd:               £50 

PWYSIG - Gofynnir i bawb sydd am barhau i dderbyn Llafar Bro bob mis i anfon eich manylion at y Trysorydd, Sandra Lewis, Bryn Bela, Ffordd Barwn, Blaenau Ffestiniog, LL41 3UG, gyda’r tâl perthnasol, cyn 31 Rhagfyr 2014. Nodwch – sieciau yn daladwy i ‘Llafar Bro’. Mae’r tanysgrifiadau blynyddol yn dilyn y flwyddyn galendr, sef o Ionawr i Ragfyr. 



Diolch am barhau i'n cefnogi, a mwynhewch y papur.


15.12.14

Y Rhyfel Mawr a Bro Ffestiniog

Rhan o gyfres o erthyglau gan Vivian Parry Williams yn cofnodi canmlwyddiant dechrau'r rhyfel mawr. Ymddangosodd y darn yma'n wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2014.

Er na chofnodwyd dim yn y papur lleol, Y Rhedegydd  am y digwyddiad, cafwyd hanes gwraig un o weinidogion yr ardal yng ngholofn newyddion Ffestiniog yn Y Genedl Gymreig ar 18 Awst 1914. Meddai'r erthygl: 'O Wlad y Gelyn: Bu Mrs Silyn Roberts, gynt o'r fro hon, ar ei hymweliad blynyddol a Germani, ond oherwydd y rhyfel, bu raid iddi ddychwel ar unwaith neu newynu a chael ei charcharu.'

Ychydig dros bythefnos wedi i Brydain ymuno â’r rhyfel, ar 22 Awst 1914 cynhwysid hysbyseb gan Ddirprwywyr Yswiriant Cymreig yn Y Rhedegydd oedd yn datgan na fyddai raid i rai oedd wedi cael eu galw i’r fyddin dalu ôl-ddyledion eu cyfraniadau. Petai gorchymyn i dalu yn cyrraedd y milwyr, neu’r teulu, fe’i cynghorwyd i anfon y llythyr yn ôl, gyda’r geiriau "Called-up" ynddo.

O’r cyfnod hwn ymlaen, fe ymddangosodd rhybudd arall yn rheolaidd, i'r holl ddynion o Feirionnydd a Threfaldwyn oedd wedi gwasanaethu yn unrhyw un o 'His Majesty’s Forces, Regular and Auxilliary', fynd i gofrestru ar gyfer y Fyddin Wrth-Gefn, (National Reserve). Gofynnwyd iddynt gysylltu â’u district commandant yn y gwahanol drefi yn y siroedd. I’r perwyl hwnnw, pen capten ‘Stiniog oedd y Dr Richard Jones, Isallt, a gydag ef, neu yn y Drill Hall yn y Blaenau y byddai’r dynion hynny yn ymrestru.

Roedd yr argyfwng yn achosi trafferthion mawr i’r chwareli, a’r oriau gweithio’n cael eu cwtogi ym mhob un ohonynt. Erbyn diwedd Awst, yr oedd wythnos waith Chwarel yr Oakeley i lawr i dridiau. Oherwydd hyn, roedd rheolwyr y chwarel yn annog y gweithwyr ifainc i chwilio am waith arall, neu i ymuno â’r fyddin neu Frigâd yr Ambiwlans. Fel y dywedodd gohebydd y Rhedegydd ar y pryd yn ei adroddiad ‘Effeithiau’r Rhyfel’, yn ieithwedd y dydd:
"...Parodd hynny don o brudd-der mawr trwy'r ardal a’r cylch, gan fod hon yn un o brif chwarelau lle y gweithia o 700 i 800, ac ofnir mai dyna fydd hanes rhai eraill o’r chwarelau, a hynny yn fuan."

(I'w Barhau)

Gwaith celf gan Lleucu Gwenllian.

7.12.14

O'r archif- Trem yn ôl

Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif
Nid Llafar Bro y tro hwn ond PLYGAIN, Cylchgrawn Plant yr Ysgol Ganol, Blaenau Ffestiniog.
Daw’r eitem isod o Rifyn Haf 1927 (Cyfrol I, Rhif 3)
M.E.Philips oedd y Prifathro a John Ellis Williams oedd y golygydd

Gofynnwyd i’r plant beth fuasent yn hoffi bod ar ôl tyfu i fyny a dyma atebion rhai o’r disgyblion bryd hynny sy’n swnio’n ddiniwed a doniol weithiau i ni heddiw.
(Ymddangosodd yr erthygl gyntaf yn rhifyn Tachwedd 2014 Llafar Bro)


Pan fyddaf fawr:


JOHN PENRI JONES – Engine Driver  a fyddaf i, ar yr LMS.  Cawn felly weld llawer o lefydd, ac ar ddyddiau oer cawn dân yn fy ymyl i’m cadw yn gynnes.

ARTHUR ROWLANDS – Pan fyddaf yn 20 oed, yr wyf am fynd i Ganada, i gael dysgu bod yn cowboy.  Fe wnawn achub bywyd llawer o bobl, a chawn arian gan y Sheriff am wneud.  Fe ddaliwn ladron hefyd, ond bydd yn rhaid imi gael gwn ac handcuffs i hynny.

RICHIE THOMAS – Am fod yn llongwr yr wyf fi.  Mi wn ei fod yn waith caled iawn, achos y ni sydd yn gorfod tynnu yn y rhaffau a chadw’r llong yn lân.  Ond dyma’r ffordd oreu i gael gweld y byd.

BOBBIE JONES – Fy ngwaith i fydd ffarmio.  Ffermwr ydyw fy nhad hefyd, ac ar ffarm y cefais fy magu.  Yr wyf yn hoffi gwaith ffarm yn well na dim, yn enwedig bugeilio defaid.  Cŵn a cheffylau yw fy ffrindiau mwyaf i.

NORMAN HUGHES – Meddwl myned yn engineer wyf i.  Mae fy nhad wedi pasio pob ecsam i fod yn un, ond ei fod yn awr yn y chwarel.  Mae llawer o’i bethau gennyf i yn y tŷ mewn cornel fechan yn barod imi dyfu yn fawr.

OWEN W. JONES – Mi fuaswn i yn hoffi bod yn saer, gan eu bod yn brin iawn yn awr.  Nid yw’r gwaith yn galed iawn, ac mae fy ewythr yn dweyd y caf ddysgu gydag ef.  Mae’r tools yn ddrud iawn, ond mi fedraf ennill pres wrth wneud cypyrddau i brynu digon.

HUMPHREY DAVIES - Pan fyddaf yn 20 oed, yr wyf am fynd yn soldiwr.  Yr wyf yn siŵr y bydd rhyfel yn torri allan rywbryd tua’r adeg honno, ac mi af dros y môr mewn llong ryfel i gwffio dros fy ngwlad.

ROBERT J. JONES - Heddgeidwad a fyddaf i, imi gael cot las a botymau arian arni.  Mi fedrwn redeg fel y gwynt ar ôl plant drwg.

JOHN ERNEST HUMPHREYS - Ar ôl imi dyfu yn fawr yr wyf am fyned yn bregethwr.  Mae’n rhaid i bregethwr weithio yn galed efo’i feddwl, a bod yn ofalus iawn beth i’w ddweyd, ond mae yn cael cyflog da, ac nid yw y gwaith yn drwm iawn.

GEORGIE EDWARDS - I’r chwarel yr af i, i ennill pres i gedru talu i mam am fy magu fi.  Mi rof y cyflog i gyd iddi hi, ac mae hi’n siŵr o roi dau swllt yn ôl yn bres poced imi.

ELINOR HUGHES - Ar ôl myned yn fawr, yr wyf am fod yn forwyn.  Yr wyf eisiau myned i ffwrdd, ac am fod yn gynnil iawn.  Wêl neb fi yn gwastraffu fy mhres yn ceisio bod yn lady.  Nid af i’r pictiwrs chwaith, na phrynu hen nofelau gwirion, dim ond llyfrau da gwerth eu darllen.

NELLIE WILLIAMS – Cook mewn plas mawr yr hoffwn i fod, yn gwneud cinio i lawer o bobl.  Yr wyf yn hoffi cwcio yn awr, sut bynnag y bydd hi yr adeg honno.  Os bydd y gwaith yn rhy galed, mi chwiliaf am le arall.

GRACIE EVANS – Mi hoffwn i fod yn wniadwraig, yn gwneud dillad i bobol eraill ac mi fy hun.  Nid yw pawb yn hoffi gwnïo, ond mae yn waith braf iawn gennyf i.

Isod mae’r golygydd yn ychwanegu jôc a glywodd gan un o’r bechgyn ac mae hi’n un dda hefyd!






GWLAD BOETH IAWN
‘Roedd yna un dyn yn dweyd unwaith fod y wlad y buodd o fyw ynddi mor boeth nes ‘roedd yn rhaid i ffarmwr osod ymbarél ar ben pob mochyn rhag ofn iddo fo droi yn borc.  Ac ebe dyn arall oedd yn gwrando, “Yn y wlad y bum i ynddi y mis diwethaf, yr oedd y ffermwyr yn rhoddi ice-cream i’r ieir rhag ofn iddynt ddodwy wyau wedi eu berwi.”  Simeon Jones

Yn ei golofn olygyddol mae John Ellis Williams yn son eu bod wedi gwneud £2 o elw ar y rhifyn cyntaf ... “yr ydych wrth brynu Plygain nid yn unig yn cefnogi gwaith yr ysgolorion, ond hefyd yn pwrcasu llyfrau iddynt. A lleufer dyn yw llyfr da.”
---------------------------------------------------------------



Diolch i Pegi Lloyd Williams am ddod a’r cylchgrawn hwn i’n sylw ... tybed faint o gopïau eraill sydd i’w cael yn y fro erbyn hyn. Roedd y rhifyn hwn yn perthyn i’r diweddar William Lloyd Williams (Wil) ei gŵr a daliodd ei afael ynddo ar hyd y blynyddoedd. (TVJ)
-----------------------------------------------------------------

Ôl-nodyn:
Ai dim ond ym Mro Ffestiniog mae'r gair GEDRU yn cael ei ddefnyddio? Hynny ydi, 'medru'/'gallu'.
Tydi o ddim yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, sef y casgliad safonol o eiriau Cymraeg, i fod...
Mae'r gair gedru yn ymddangos uchod gan Georgie Edwards. Ai dyma'r enghraifft gynharaf o'r gair ar ddu a gwyn tybed? (PW)

Daeth hyn gan Andrew Hawke, golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru, ddydd Llun 8fed Rhagfyr:
"Diolch yn fawr am y cyfeiriad. Rwy'n gyfarwydd â'r gair, ac roeddwn i'n disgwyl ei weld yn GPC. Mae'n braf cael enghraifft mewn print o 1927 - ac rwy i wedi'i ychwanegu at ein casgliad."