29.5.18

Adolygiad -Yn Fflach y Fellten

Nofel ddiweddaraf Geraint V. Jones.

Da yw gweld cyhoeddi nofel gynta’ cadeirydd Llafar Bro ers deng mlynedd, a honno yn trafod pwnc na ddaeth o ysgrifbin Geraint o’r blaen.

Nofel gyffrous sy’n mynd â’r darllenydd i fyd arswydus y goruwchnaturiol yw Yn Fflach y Fellten.

Roedd y syniad o lunio stori ysbryd wedi bod yn cronni yn fy mhen ers tro,’ meddai, gan gyflwyno’r nofel fydd yn sicr o gyffroi meddyliau’r darllenwyr. A dweud y gwir, ychydig iawn o nofelau a gafwyd dros y blynyddoedd yn rhoi sylw i ysbrydion a materion yn ymwneud â’r goruwchnaturiol. 

Stori sy’n gafael go iawn sydd yma, a’r awdur yn ein tywys hyd y llwybrau tywyll, a’r dirgelion oedd yn cuddio y tu mewn i furiau Plas Dolgoed. Cawn ein hudo yma i fyd llawn ysbrydion, a’r golygfeydd arswydus a wynebai Maldwyn Davies, perchennog y Plas.

Rhag datgelu gormod o gyfrinachau, ddywedai ddim mwy. Dim ond eich gwahodd i ymweld â’ch siop lyfrau leol i brynu nofel fechan nad yw’n hawdd ei rhoi i lawr nes cael atebion i rai o’r dirgelion hynny.

Yn Fflach y Fellten: Geraint V. Jones, Y Lolfa, £5.99
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018


25.5.18

Sgotwrs Stiniog -tymor y cogyn


Erthygl o'r archif, gan y diweddar Emrys Evans.

A ninnau yn nhymor y 'cogyn' unwaith eto, hwyrach y byddai rhyw sylw neu ddau arno o ddiddordeb.

Mewn pwt o sgwrs a gefais â chyfaill yn nyddiau olaf mis Ebrill*, dywedodd wrthyf ei fod wedi bod yn pysgota yn Llyn y Morwynion yn gynharach yn y mis, a'i fod yn credu iddo weld un neu ddau o'r cogyn ar y dŵr.

Gan na fedrodd gael yr un i'w law er mwyn bod yn sicr mai dyna a welodd, ei gwestiwn ydoedd, Ydi'r cogyn i'w weld mor gynnar â chanol mis Ebrill? Yr ateb yn syml yw, ydi.

Mae dau fath gwahanol o gogyn i'w gweld ar ein llynnoedd ni yn ystod misoedd Ebrill a Mai, neu ar rai ohonynt, beth bynnag, a'r rheini yw y cogyn coch a'r cogyn brown (fe'i gelwir hefyd yn gogyn gwineu). Y cogyn coch yw y mwyaf niferus a chyffredin o'r ddau, ac mae hi'n mynd yn fis Mai arno ef yn dod i'r golwg.

Pryfaid cogyn wedi deor o Lyn Gamallt -llun gan Pierino Algieri, o dudalen Facebook Cymuned Llên Natur.

Tydi'r cogyn brown ddim mor niferus, a gellir ei weld ef yn eithaf cynnar ym mis Ebrill.Gwn ei fod i'w weld yn Llyn y Morwynion, ac hefyd yn Llyn Conwy a Llyn y Manod. Fe'i gwelais yn Llyn y Manod mor gynnar a'r 6ed o Ebrill yn y flwyddyn 1946.Mae y ddau fath yma o gogyn yn bur debyg i'w gilydd o ran maint a lliw, y cogyn brown ryw ychydig yn fwy.

Y ffordd orau i wahaniaethu rhwng y ddau yw edrych ar y ddwy adain fach sydd ym môn y ddwy adain fawr. Mae adain fach y cogyn coch yn olau eu lliw ac i'w gweld yn o eglur yn erbyn y ddwy adain fawr, sy'n dywyllach eu lliw, tra bo adain fach y cogyn brown yr un lliw â'i adain fawr, ac felly nid yw'n hawdd eu gweld.

Yn ôl fel rwy'n deall dim ond yn gymharol ddiweddar y mae'r cogyn brown wedi cael enw cyffredin**, sef yn niwedd y 1960au pan ddaeth llyfr John Goddard, 'Trout Flies of Still Waters' o'r wasg. Cyn hynny wrth ei enw gwyddonol yn unig yr oedd yn cael ei adnabod. Mae hwnnw yn un a thipyn o waith cael y tafod o'i gwmpas, ac o waith cofio arno - 'Leptophlebia marginata'.

I wneud corff y cogyn brown neu gorff ei nimff, fe dybiwn i y byddai blewyn cochddu cystal, os nad gwell, na'r un arall. Dyma batrwm pluen pan ddaw'r cogyn brown ar y dŵr:
Bach - Maint 12.
Cynffon - 3-4 corn oddi ar war-coch-ceiliog tywyll.
Corff - Gwlan cochddu, a chylchau o weiar aur fain amdano. Peidio a gwneud y corff yn drwchus.
Traed - Gwar-coch-ceiliog tywyll.
Adain - Ceiliog Hwyad.
Beth am rai o lynnoedd eraill yr ardal - Barlwyd, Bowydd, Dubach a Chwmorthin, er enghraifft? Pa mor gynnar yn y tymor pysgota y gwelwyd y cogyn arnynt hwy neu o gwmpas eu glannau?

--------------------------


*Ymddangosodd yn wreiddiol fel rhan o erthygl hirach yn rhifyn Mehefin 2003.

** sepia dun ydi'r enw cyffredin Saesneg.

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde 
(defnyddiwch web view ar ffôn)

21.5.18

Lloffion o’r Fro

Pytiau diddorol gan W. Arvon Roberts
 
Storm o fellt a tharanau

Teimlodd gymdogaeth Ffestiniog effeithiau y storm ddiweddar. Tarwyd dafad gan fellten, gan dynnu y gwlân oddi ar ei chefn a’i hochor; yna aeth i’r stabl, a lladdodd geffyl gwerthfawr, oddi yno aeth trwy dai Richard Jones a William Pearce: yn y tŷ olaf doluriwyd y fam ychydig ar ei throed, a niweidiwyd y dodrefn yn ddrwg. Ond, dihangodd y preswylwyr heb ragor o niwed. (1840)

Y llifeiriant diweddar
Yn Maentwrog, roedd llanc ifanc, tua deunaw oed, yn gyrru gwartheg ei feistr tuag adref drwy nant gyfagos, a thra roedd yn ymdrechu i’w gyrru trwodd, llithrodd i’r dŵr a chafodd ei gipio i ffwrdd gyda’r lli. (1841)


Pryddest fuddugol
Y Nos” oedd pryddest fuddugol Eisteddfod Cwmorthin Ebrill 1885, gan John G Hughes (Ioan Moelwyn). Gwerthwyd hi am dair ceiniog, ac yr oedd ar werth gan yr awdur yn Ffestiniog. Meddai yr awdur yn ei golofn ‘At y Darllenydd’:
“Wele fi am y tro cyntaf yn cyflwyno pryddest o’m heiddo i sylw. Os y darllenir mewn ysbryd beirniadol, hyderaf y cedwir mewn cof nad yw yr awdur eto ond pedair ar bymtheg oed”
Yn yr ymgais hon o eiddo y cyfaill ieuanc, tybiwn y gwelwn brawf o un a ddaw yn sicr os y pery yn fardd. Y beirniaid oedd Gwilym Eryri. (1885)

O gylch Ffestiniog
Llwyddodd Richard Jones, Ffestiniog, yn ei arholiadau fel meddyg, yng Ngholeg Caeredin. Ysgrifennodd draethawd ar ‘Re-current Typhoid Pneumonia'

Yng nghyfarfod cystadleuol Bethel, dyfarnwyd fod Côr Bryn Bowydd dan arweiniad W. Davies, wedi curo Côr Ffestiniog ar ganu, am wobr o £1.10 swllt. Côr Meibion Trawsfynydd enillodd y wobr o £2.8 swllt.

Dihangfa gyfyng gafodd merch saith mlwydd oed i Owen Hughes, Walter Terrace, rhag boddi. Syrthiodd y fechan i’r gronfa ddŵr oedd yn cychwyn tua Melinau Coed Bowydd, a thynnwyd hi i lawr i’r bibell; aeth trwy bibellau am rai llathenni a nofiai yn y cafn i gyfeiriad y felin lifio pan y gwelwyd hi gan Mrs Humphreys, Park Square, yr hon a’i thynnodd allan o’r dŵr. Cludwyd hi adref gan gymdogion, a gweinyddwyd arni gan Dr. Evans. Yr oedd wedi derbyn niweidiau ar ei chorryn a’i gwegil, ac amryw friwiau eraill. (1891)
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2018

(llun Paul W)


17.5.18

Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog 2018

Tecwyn Vaughan Jones yn trafod gwobr eleni fel cadeirydd y beirniaid (efo Ceinwen Humphreys ac Anwen Jones)


Braint i ni fel beirniaid oedd cael bod yn rhan o’r broses oedd yn arwain at ddyfarnu Ysgoloriaeth Patagonia 2018. Pwrpas yr Ysgoloriaeth hon ydy cryfhau’r berthynas sy’n bodoli rhwng y dref hon a thref Rawson ym Mhatagonia a thrwy hynny gryfhau'r cysylltiad rhwng y dref a Phatagonia yn ei chyfanrwydd, a rhwng Patagonia a Chymru.

Mae’r Ysgoloriaeth yn ganlyniad, mewn gwirionedd, o’r trefeillio rhwng y Blaenau a Rawson a ddigwyddodd bedair blynedd yn ôl. Mae’r Ysgoloriaeth yn gyfyngedig i rai sy’n byw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog, neu sydd a’u cyfeiriad cartref yma, ac sydd  rhwng 16 a 30 oed. Pobl ifanc yr ardal felly.

Dylid llongyfarch Cyngor y Dref am eu gweledigaeth a’i buddsoddiad yn nyfodol y berthynas hon rhwng y ddwy dref. A hefyd maent eleni wedi codi gwerth yr Ysgoloriaeth o £1500 i £2000 sydd yn swm anrhydeddus wrth gwrs ac sy’n galluogi’r enillydd i ymweld â Phatagonia a chyflawni gofynion yr Ysgoloriaeth…neu mae’n mynd yn bell i helpu i wneud hynny! Mae ysgoloriaeth fel hon yn rhywbeth ardderchog ac yn tystio fod gobaith mawr i’r berthynas sy’n dechrau blodeuo rhwng y ddwy dref. Yn ogystal mae’r Ysgoloriaeth yn gobeithio annog pobl ifanc i feithrin perthynas dros hir dymor gyda’r Wladfa ac i sicrhau fod ein cymuned ni yma yn elwa o’r berthynas hon…elwa’n ddiwylliannol os nad yn y pendraw ar lefel busnes…pwy a ŵyr be fydd posibiliadau'r dyfodol.


Cymerwyd y cam cyntaf gan y cyngor tref bedair blynedd yn ôl…enwi sgwâr yn enw Rawson; derbyn rhai o drigolion Patagonia yma yn Stiniog a pharhau i wneud hynny; cyhwfan baner yr Ariannin ar Sgwâr Diffwys gyda’r ddraig goch yn ei chanol - gweithred symbolaidd a hawdd ei gwneud siŵr o fod, ond gweithred oedd yn golygu llawer iawn i drigolion Y Wladfa. Diolch i’r rhai fu ynghlwm â’r gweithgareddau hyn, maent wedi braenaru’r tir yn rhagorol a phennod dau yw’r Ysgoloriaeth sy’n mynd i gryfhau ein perthynas gyda’r Wladfa. Braf yw deall wrth gwrs fod yr Ysgoloriaeth hon yn cael ei chynnig yn flynyddol.

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i ysgrifennu traethawd byr ar pam y buasent yn hoffi ymweld â Phatagonia; be’ fyddai eu bwriad ar ôl cyrraedd yno a sut byddant yn rhannu'r profiad hwn gyda’r gymuned hon ar ôl dychwelyd.

Bydd raid i’r sawl sy’n ennill yr ysgoloriaeth fod yn barod i deithio yn ystod y flwyddyn nesaf.
Gai bwysleisio dau gymal sy’n disgrifio pwrpas yr Ysgoloriaeth ac sydd yn cael ei roi i bob ymgeisydd:

Rhaid i bob un sy’n derbyn yr Ysgoloriaeth gefnogi ac ymdrechu i gryfhau’r berthynas rhwng y ddwy dref…a sylwch mai'r ddwy dref sy’n dŵad gyntaf…nid y person unigol. Ac yn ail meithrin perthynas hirdymor gyda’r Wladfa a’i phobl a fydd yn arwain - a dw i am bwysleisio hyn - perthynas a fydd yn gweld y gymuned ehangach, maes o law, yn elwa. Hynny yw, mi fydd y sawl y dyfernir i’r Ysgoloriaeth iddo neu iddi yn bownd o elwa ar y fath brofiad ar lefel bersonol, ond rhaid iddo/iddi sicrhau fod y gymdeithas yma yn Stiniog yn elwa hefyd. Felly, dylai pob ymgeisydd fedru disgrifio neu nodi prosiect o ryw fath, a does dim diffiniad o sut brosiect fasa hwn, fyddai’n gweld y gymuned yma yn elwa a thebyg y gymuned ehangach yn Rawson hefyd. Mae hyn yn bwysig ac yn rhan o uchelgais yr Ysgoloriaeth hon fel yr ydym ni'r beirniad yn darllen am ei phwrpas. Gai obeithio hefyd y bydd deiliaid yr Ysgoloriaeth hon yn cyflwyno adroddiad yn disgrifio eu profiadau a sut yr oeddynt wedi dod i ben a chyflawni eu hagenda. Bydden ond yn rhy falch i gyhoeddi'r rhain yn Llafar Bro.

Cafwyd chwe ymgais eleni am yr Ysgoloriaeth a i bob un ohonynt ei gryfder ei hun. Braf gweld fod cymaint o dalent a brwdfrydedd yn perthyn i bobl ifanc y Fro hon. Dim ond un person sy’n medru ennill yr Ysgoloriaeth ac anodd iawn oedd penderfynu.

Enillydd yr Ysgoloriaeth eleni yw Lleucu Gwenllian Williams. Mae Lleucu, 20 oed, yn fyfyrwraig ar hyn o bryd ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd ac yn astudio darlunio (illustration) a hyn yn dilyn ennill diploma BTEC gyd rhagoriaeth yn yr un maes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd o fewn eu Hysgol Gelf a Dylunio. Yn enedigol o Stiniog a’i chartref yn Ffordd Wynne, mae hi’n gyn ddisgybl Ysgol y Moelwyn ac yn dilyn cael casgliad o raddau da yn ei arholiadau TGAU, mynychodd Goleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau.

Mae wedi derbyn sawl anrhydedd: Ei henwebu ar restr fer ysgoloriaeth gelf a chael arddangosfa yn y Lle Celf yn Eisteddfod yr Urdd yn Y Fflint 2016; Ennill gwobr 'awdur y flwyddyn' yn ei blwyddyn olaf yn Ysgol y Moelwyn, a chael sesiynau mentora sgwennu creadigol efo Bethan Gwanas. Mae’n rhugl mewn Ffrangeg, a bellach yn dysgu Sbaeneg, ac yn ei hamser sbâr mae’n hoffi mynydda, dringo a syrffio ynghyd â chanu’r piano, y delyn a’r gitâr.

Disgrifiodd Lleucu gynllun creadigol a gwreiddiol iawn yr hoffai ei weithredu ym Mhatagonia. Fel myfyrwraig ddarlunio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae wedi plethu nifer o syniadau i un cynllun. Mae ei phrosiect yn pwysleisio gweithio trwy gyfrwng celf ac mae hwn yn gyfrwng pwerus a chynhwysol sy’n medru croesi ffiniau iaith, oed a chefndir. Mae am geisio darlunio’r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia. Ei bwriad yw cynnal gweithdai yn Rawson wedi ei hanelu at bobl ifanc a’r rhain wedi eu selio ar chwedloniaeth Cymru, yn benodol y Mabinogi. Yn ei chynllun mae’n sôn am greu casgliad o weithiau celf yn seiliedig ar y berthynas rhwng y ddwy wlad. Byddai’r rhain wedyn yn cael eu harddangos mewn sawl lleoliad yn y dref wedi iddi ddychwelyd adref.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018 (heb y lluniau uchod).

Llafar Bro yn holi Lleucu


13.5.18

Dathlu Dau Ddiwylliant


Wrth fynd i Batagonia, fe ddysgodd Elin Roberts -enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2017- lawer: o’r wleidyddiaeth i’r ieithoedd ac o’r hanes i’r ffordd o fyw. Yma cawn ychydig o'i hanes.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy, yn enwedig fy mod wedi teithio yno ar fy mhen fy hun: o Landudno i Lundain; o Lundain i Rufain; o Rufain i Buenos Aires ac o Buenos Aires i Drelew. Roedd hefyd yn gyfle i gwrdd ac eraill a chreu ffrindiau oes. Drwy aros gyda theulu Billy a Gladys yn y Gaiman, cefais y cyfle i integreiddio fy hun yn y gymuned Gymreig a’r gymuned Castillano (Sbaeneg) hefyd.



Cefais gyfle i ymweld â Choleg Camwy yn y Gaiman, ysgol ar gyfer myfyrwyr 11-18 mlwydd oed. Dyma’r unig ysgol uwchradd yn y Wladfa ble mae yno gyfle i ddysgu’r Gymraeg. Yn ystod fy ymweliad yno cefais roi cyflwyniad yn ystod gwers Gymraeg i flwyddyn 9. Roedd yn gyfle i mi rannu gwybodaeth am y Blaenau a’i diwylliant yn ogystal â’r diwylliant Gymraeg. Roedd y plant yma yn dysgu Cymraeg, felly roedd hanner y cyflwyniad yn y Gymraeg a’r hanner arall yn Castillano. Wrth drafod gyda’r plant yn y dosbarth hwn a’r plant ym mlwyddyn 12, fe ddysgais cymaint am y gyfundrefn addysg yno. Yno mae’r flwyddyn ysgol yn dechrau yn mis Chwefror hyd mis Rhagfyr. Hefyd yn wahanol i Gymru, mae 2 dewis ar gyfer eu hastudiaethau lefel A: y Dyniaethau neu’r Gwyddorau.

Roedd fy mhrofiad o ymweld â Choleg Camwy yn wahanol i fy mhrofiad o ymweld ag Escuela 28 de Julio yn Nhir Halen oherwydd roedd yr ysgol yn Nhir Halen yn hollol Sbaeneg.  Nid oedd y myfyrwyr yn medru’r Gymraeg, ond roedd ganddynt y balchder mwyaf am fod ganddynt gyfenw Cymraeg a’u bod yn ddisgynyddion Cymreig. Daeth hyn drosodd yn glir wrth gael sesiwn trafod gyda’r myfyrwyr.

Elin efo aelodau Comisión de Amigos de la Cultura Galesa, y tu allan i Gapel Berwyn, Rawson.
Teimlaf bod y syniad o falchder i’w weld yn gryf yn y Wladfa; roedd i’w weld yn glir yn yr Eisteddfod. Roedd yr Eisteddfod yn ddathliad o’r diwylliant Cymraeg yn ogystal â’r diwylliant Sbaeneg; fe agorwyd yr Eisteddfod gydag anthem genedlaethol yr Ariannin a'i chloi gydag anthem Cymru. Wrth ddathlu’r ddau ddiwylliant gyda’i gilydd, roedd y ddau yn cael eu parchu’n gyfartal.

Wrth fynd draw i Rawson, roedd yr ymdeimlad o falchder a pharch i’w weld eto. Cefais y cyfle i gwrdd â Chyfeillion Diwylliant Cymreig, Rawson (Comisión de Amigos de la Cultura Galesa - Rawson) ac ymweld a’r Museo Salesiano sef amgueddfa am hanes y Cymry cynharaf yn y Wladfa. Yno roedd gwahanol arteffactau o’r Cymry cyntaf: esgidiau, llyfrau a dillad. Roedd yn ddiddorol cael mynychu Capel Berwyn yn Rawson oherwydd fe ddysgais am bwysigrwydd crefydd o fewn yr iaith Gymraeg yno. Roedd hyn hefyd yn amlwg wrth i mi fynychu Oedfa yng Nghapel Bethel yn y Gaiman.

Wrth ddysgu am hanes y Wladfa, roeddwn yn ysu i gael dysgu mwy am wleidyddiaeth yr Ariannin. Cefais y cyfle i gymharu cyfundrefn wleidyddol Cymru â chyfundrefn wleidyddol yr Ariannin wrth gwrdd â Mariano García, El Intendente de Gaiman (Maer y Gaiman). Roedd yn ddiddorol cymharu gweithredoedd eu cyngor tref nhw gyda chynghorau tref yng Nghymru. Yno, mae’r cynghorau tref yn debycach i’n cynghorau sir ni gan fod ganddynt gyfrifoldebau megis addysg, priffyrdd a’r amgylchedd. Roedd hefyd yn ddiddorol bod bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn gallu pleidleisio yno a’i fod yn orfodol i unigolion 18 mlwydd oed a throsodd i bleidleisio. Mae hyn yn wahanol i’r drefn yma.

Roedd parch tuag at y ddau ddiwylliant i’w weld o fewn yr agwedd tuag at ddysgwyr Cymraeg a Sbaeneg.  Roedd trigolion y Wladfa yn rhoi cymaint o amser iddynt; yn rhoi amser i wrando ac amser i sgwrsio. Roeddwn yn gweld hyn gyda’r dysgwyr Cymraeg o brifysgolion o America ac o’r Almaen. Cefais y profiad o hyn wrth ymarfer fy Sbaeneg; roedd y bobl yn barod i roi amser i mi ac yn barod i fy nghynorthwyo i gael hyder yn yr iaith. Teimlaf bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni fel Cymy ymarfer a gwella arno, sef, rhoi amser i ddygwyr y Gymraeg. Rhoi amser i wrando. Rhoi amser i sgwrsio. Rhoi hyder i bobl yn eu Cymraeg.

Hoffwn i ddiolch i’r Cyngor Tref am eu hysgoloriaeth hael. Hoffwn i hefyd ddiolch i Billy a Gladys am eu parodrwydd i fy nghroesawu fel aelod o’u teulu. Hoffwn hefyd ddiolch i Patricia Alejandra Lorenzo Harris a Nanci Jones (Comisión de Amigos de la Cultura Galesa), Mariano García (Maer Gaiman), Patricia Ramos (Escuela 28 de Julio) a Gabriel Restucha (Coleg Camwy).
---------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018

9.5.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -3

Cyfres Les Derbyshire.

Ar ol crwydro o Dalywaenydd i Danybwlch ac yn ol i Dyddyn Gwyn, symudwn ymlaen i gyfeiriad Plas Tanymanod, ac wedyn Ty’n Drain, Pen y Bryn, Pen Cae a'r Fuches Wen, tyddynnod i bob pwrpas.

Yn gyfagos, ac i lawr y dyffryn, mae fferm Cwm Bowydd: hon mae'n debyg yw ffarm fwyaf y cylch.  Ffarm ddefaid a gwartheg, â digon o dir pori ynddi, mae yn debyg iddi hefyd fod y ffarm hynaf y cylch a dywedir i'r tŷ gael ei adeiladu yn y 15fed ganrif.

Yn ôl i'r Manod ac fyny'r ffordd i Gae Clyd, cawn Tanybwlch a oedd yn cynnwys dau dŷ; nid oedd y rhain yn ffermydd ond ʼroedd stablau tu cefn iddynt.  Morris Jones, ei wraig  a'i ddau blentyn, Stanley a Ted oedd yn byw yn rhif dau.  ʼRoedd ‘Moi Tanybwlch’, fel ei adnabyddir,  yn arbenigwr ar geffylau a chredaf ar un cyfnod yr oedd yn gweithio yn y chwarel gyda'r ceffylau.  Ceffylau oedd ei fyd, hardd oedd gweld  ei waith adeg y cymanfaoedd  pan oedd y ceffylau'n cael eu haddurno, a'r plant yn eistedd yn y lori - golygfa gwerth ei weld.  Mae’n hawdd deall pam fod ei fab, Ted Breeze Jones, yn naturiaethwr.  

Nepell o Danybwlch, ac ar y brif ffordd, mae Tŷ Gwyn, lle oedd y stablau tu cefn i'r adeilad. Tebygrwydd eto mai ceffylau at wasanaeth y chwareli a oedd yno, lle’u defnyddwyd i dynnu wageni o'r twll i'r felin.

Wedyn dilyn y ffordd i ben draw Cae Clyd, mae Bron Manod, fferm ddefaid eto gyda 'chydig o wartheg ac un ceffyl.  John Davies oedd y perchennog - dyn cyfiawn a gonest, 'roedd effaith y Rhyfel Fawr arno a bu'n dioddef o be elwid yn ‘Trench Foot’, clwyf a oedd yn boen i lawer o hen soldiwrs wedi gorfod sefyll mewn dŵr yn y ffosydd am gyfnodau hir.  

Ymlaen i Fryn Eithin: y teulu Thomas oedd yn byw yno, tyddyn arall.  Y gŵr yn y chwarel,  'roedd mab y ffarm, Ceredig, yn cyd oesi a fi yn ysgol y Manod.  Ffordd drol annifyr oedd yn cysylltu'r ffarm, a hefyd i'r ffarm fechan gyfagos sef Cae Canol; sut yr oeddynt yn cael bywoliaeth ynddi nis gwn.  Yn anffodus ʼroedd gan Bob nam ar ei leferydd, a byddan ni, y plant, yn mynd ato yn yr haf i chwarae a helpu efo'r cynhaeaf gwair.  Cyfagos i'r ffarm oedd ffarm y Tryfal yng ngylch Llan Ffestiniog.

I’r dde o Bron Manod mae dwy ffarm, sef Cae Du a Frondirion, ffermydd bach a'r gwŷr yn y chwarel.  Ffordd drol oedd yn eu cysylltu nhw a'r brif ffordd ger Rhiwlas, ac yr oedd rhaid croesi'r rheilffordd a honno heb arwyddion, a gorfod fod yn ofalus pan yn croesi gyda throl a cheffyl. ----------------------------------------


Dyma ail hanner y bennod a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Ffermydd Bro Ffestiniog'.

Llun -Paul W


5.5.18

Rhod y Rhigymwr -Blas ar gerdded


Er mod i wedi byw’n yr ardal ers dros ddeng mlynedd ar hugain, fum i ‘rioed yr ochr draw i Lyn Trawsfynydd tan yn ddiweddar iawn. Y ‘fitbit’ a gefais yn anrheg gan Alwena’r wraig ddechreuodd pethau. Ers tro bellach, rydw i’n cerdded o’r Caffi ger yr Atomfa i fyny at Argae Maentwrog (neu’r ‘Main Dam’ fel y cyfeiria llawer ati) - taith hynod bleserus a gymer ryw 35 munud i gerdded i fyny a’r un amser i ddychwelyd.

Ardal Pandy'r Ddwyryd, Llyn Traws. Llun -Paul W.

Rhaid fu manteisio ar y tywydd braf a sych a gafwyd a mentro ymhellach, gan ddilyn y llwybr beicio drosodd am Moelfryn Isaf a Choed Rhygen, a’r ffordd dar am Dŷ’n Twll, Cae Adda a Thŷ’n Drain, cyn croesi’r bont bren hir ar draws y llyn tua Bryn ‘Sguboriau a phentre’r Traws. Yna dilyn y llwybr beicio sy’n cydredeg â’r briffordd a throi i lawr eto tua’r llyn gan ddilyn Nant Islyn.

Gweld meinciau a byrddau picnic yn cofnodi enwau’r hen ffermydd a ddiflannodd dan ddŵr y llyn pan foddwyd y Gors Goch ynghanol y 1920au -  Brynrwy, Ty’n Ddôl a Phandy’r Ddwyryd - lle trigai Lowri William (1704-78), a fu’n gyfrifol ‘am blannu hadau gwir grefydd yn y parthau hyn gyntaf’.

Pan ddaeth yr Ŵyl Cerdd Dant i Ysgol Ardudwy, Harlech ym 1974, un o’r darnau a ddewiswyd ar gyfer yr unawd i rai dros 21 oed oedd cywydd J. H. Roberts (Monallt)- ‘Trawsfynydd’.  Un o Fôn ydoedd yn enedigol, ond a fu’n gweithio ar y ffordd i Gyngor Sir Meirionnydd am nifer o flynyddoedd. Roedd Monallt yn gynganeddwr cywrain, yn Gymro pybyr, yn Gristion digymrodedd ac roedd ei gariad tuag at ‘y pethe’ yn angerddol. Ef oedd tad y diweddar Brifardd ac Archdderwydd Emrys Deudraeth (1929-2012).

Wrth edrych ar y llyn yn disgleirio dan heulwen Chwefror ac ar goncrid yr Atomfa’n y pellter, dychwelodd rhai o gwpledi o gywydd Monallt i’r cof:

‘O fewn i blwy’ Trawsfynydd
Glân deios yn swatio sydd,
A’r gwynt o’i oriog antur
Yn rhoi marc ar lawer mur;
Ond y ddyfal ardal hon
Ddyry fawredd ar Feirion ...


A’r un brys, yr hen Brysor
A lif o hyd i’r gloyw fôr –
Bydd hon dan wres plwtoniwm
Yn mynnu canu’n y cwm’.


Cefais gryn flas ar y cerdded, a dyma benderfynu mentro ar daith arall – o’r caffi at yr argae a throsodd i Landecwyn - gan ddilyn y ‘gamlas’ i’w phen a thros y crawcwellt i gyfeiriad Panwr a Nantpasgan, yna i lawr i gyfeiriad Caerwych a Llyn Tecwyn Isaf tua Bryn Bwbach. Roedd y golygfeydd yn odidog a gwelwn olion sawl hen furddun oedd yn dyst bod rhai wedi bod yn preswylio’n yr unigeddau yma mewn oes a fu.

Daeth englyn arall o waith Monallt i’r co’ wrth droedio glannau nant fechan a lifai i lawr o gyfeiriad Bryn Cader Faner – a honno mewn mannau wedi rhewi’n gorn:

‘Hi a wasgwyd i gysgu, - am ei dŵr
Mae dôl yn sychedu;
Stôr o ddawn dan ffenestr ddu
A’i pharabl wedi fferru.’


Wrth gerdded i lawr drwy Goed Caerwych, sylwais ar lwybr oedd yn arwain tuag Aberdeunant Uchaf. Cofiais mai yno’r oedd cartre’r pregethwr enwog gydag enwad y Wesleaid – David ‘Tecwyn’ Evans (1876-1957). Adroddais linellau ei emyn wrth brofi’r heddwch tangnefeddus o’m cwmpas:

‘Duw a Thad yr holl genhedloedd,
O! sancteiddier d’enw mawr;
Dy ewyllys Di a wneler
Gan dylwythau daear lawr;
Doed dy deyrnas
Mewn cyfiawnder ac mewn hedd’.


A’r pennill olaf:

‘Rhodded pobloedd byd ogoniant
Fyth i’th enw, Arglwydd Iôr;
Llifed heddwch fel yr afon,
A chyfiawnder fel y môr;
Doed dy deyrnas
Mewn tangnefedd byth heb drai’.


Clywn furmur y nant fechan islaw, ac wedi dod allan o’r coed ar gyrion Caerwych, gwelwn Afon Dwyryd, y Traeth Bach ac Aber Iâ’n banorama o’m blaen ynghyd â Chastell Harlech a Bae Aberteifi i gyfeiriad y de orllewin.
------------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
 

1.5.18

Briwsion -deintydd Glanypwll

Cyfres Nia Williams


Lle mae 'Garmon House, Glanpwll heddiw, roedd yn arfer bod yna le deintydd.

Gŵr gydag atal dweud, mwstash bach, a thei bo oedd bob amser yn dwt, oedd Mr Williams. Car bach du (standard dwi’n meddwl?); yn aelod yng nghapel Annibynnwyr Bryn Bowydd.

Mi fyddai Mrs Williams wastad yn eistedd yn y 'bay-window' tu ol i leni net. Lle da i weld pawb yn pasio – rhai i Rhiw a rhai i Danygrisiau – pawb yn cerdded bryd hynny.

Mr Williams oedd y deintydd cyntaf i drin fy nannedd: hyn oherwydd fy mod wedi cael y ddannodd. Mi fyddai hyn cyn 1948 a dyfodiad yr NHS. Cofiaf na fynwn siarad drwy’r fin nos er mwyn cael cydymdeimlad, a byddwn yn cyfathrebu drwy sgwennu!

Mi roedd gan Mr Williams weithdy yn y cae tu cefn i’r ty- 'Cae Dentist'. Yma byddai yn creu dannedd gosod, ac mae’n rhaid bod ganddo lawer o gwsmeriaid, oherwydd mi fyddem ni yn cael digon o sialc (plaster paris) i ni chwarae 'London (hop scotch).

Mi oedd gan Mrs Williams deulu yn y Penrhyn, cysylltiedig a Phont Briwat. Y peth oedd yn nodedig oedd eu bod yn byw mewn bynglo - doedd yna ddim bynglos yn y Blaenau – tai unllawr, ond dim bynglos.
---------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Briwsion'.

Llun -Paul W