Tecwyn Vaughan Jones yn trafod gwobr eleni fel cadeirydd y beirniaid (efo Ceinwen Humphreys ac Anwen Jones)
Braint i ni fel beirniaid oedd cael bod yn rhan o’r broses oedd yn arwain at ddyfarnu Ysgoloriaeth Patagonia 2018. Pwrpas yr Ysgoloriaeth hon ydy cryfhau’r berthynas sy’n bodoli rhwng y dref hon a thref Rawson ym Mhatagonia a thrwy hynny gryfhau'r cysylltiad rhwng y dref a Phatagonia yn ei chyfanrwydd, a rhwng Patagonia a Chymru.
Mae’r Ysgoloriaeth yn ganlyniad, mewn gwirionedd, o’r trefeillio rhwng y Blaenau a Rawson a ddigwyddodd bedair blynedd yn ôl. Mae’r Ysgoloriaeth yn gyfyngedig i rai sy’n byw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog, neu sydd a’u cyfeiriad cartref yma, ac sydd rhwng 16 a 30 oed. Pobl ifanc yr ardal felly.
Dylid llongyfarch Cyngor y Dref am eu gweledigaeth a’i buddsoddiad yn nyfodol y berthynas hon rhwng y ddwy dref. A hefyd maent eleni wedi codi gwerth yr Ysgoloriaeth o £1500 i £2000 sydd yn swm anrhydeddus wrth gwrs ac sy’n galluogi’r enillydd i ymweld â Phatagonia a chyflawni gofynion yr Ysgoloriaeth…neu mae’n mynd yn bell i helpu i wneud hynny! Mae ysgoloriaeth fel hon yn rhywbeth ardderchog ac yn tystio fod gobaith mawr i’r berthynas sy’n dechrau blodeuo rhwng y ddwy dref. Yn ogystal mae’r Ysgoloriaeth yn gobeithio annog pobl ifanc i feithrin perthynas dros hir dymor gyda’r Wladfa ac i sicrhau fod ein cymuned ni yma yn elwa o’r berthynas hon…elwa’n ddiwylliannol os nad yn y pendraw ar lefel busnes…pwy a ŵyr be fydd posibiliadau'r dyfodol.
Cymerwyd y cam cyntaf gan y cyngor tref bedair blynedd yn ôl…enwi sgwâr yn enw Rawson; derbyn rhai o drigolion Patagonia yma yn Stiniog a pharhau i wneud hynny; cyhwfan baner yr Ariannin ar Sgwâr Diffwys gyda’r ddraig goch yn ei chanol - gweithred symbolaidd a hawdd ei gwneud siŵr o fod, ond gweithred oedd yn golygu llawer iawn i drigolion Y Wladfa. Diolch i’r rhai fu ynghlwm â’r gweithgareddau hyn, maent wedi braenaru’r tir yn rhagorol a phennod dau yw’r Ysgoloriaeth sy’n mynd i gryfhau ein perthynas gyda’r Wladfa. Braf yw deall wrth gwrs fod yr Ysgoloriaeth hon yn cael ei chynnig yn flynyddol.
Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i ysgrifennu traethawd byr ar pam y buasent yn hoffi ymweld â Phatagonia; be’ fyddai eu bwriad ar ôl cyrraedd yno a sut byddant yn rhannu'r profiad hwn gyda’r gymuned hon ar ôl dychwelyd.
Bydd raid i’r sawl sy’n ennill yr ysgoloriaeth fod yn barod i deithio yn ystod y flwyddyn nesaf.
Gai bwysleisio dau gymal sy’n disgrifio pwrpas yr Ysgoloriaeth ac sydd yn cael ei roi i bob ymgeisydd:
Rhaid i bob un sy’n derbyn yr Ysgoloriaeth gefnogi ac ymdrechu i gryfhau’r berthynas rhwng y ddwy dref…a sylwch mai'r ddwy dref sy’n dŵad gyntaf…nid y person unigol. Ac yn ail meithrin perthynas hirdymor gyda’r Wladfa a’i phobl a fydd yn arwain - a dw i am bwysleisio hyn - perthynas a fydd yn gweld y gymuned ehangach, maes o law, yn elwa. Hynny yw, mi fydd y sawl y dyfernir i’r Ysgoloriaeth iddo neu iddi yn bownd o elwa ar y fath brofiad ar lefel bersonol, ond rhaid iddo/iddi sicrhau fod y gymdeithas yma yn Stiniog yn elwa hefyd. Felly, dylai pob ymgeisydd fedru disgrifio neu nodi prosiect o ryw fath, a does dim diffiniad o sut brosiect fasa hwn, fyddai’n gweld y gymuned yma yn elwa a thebyg y gymuned ehangach yn Rawson hefyd. Mae hyn yn bwysig ac yn rhan o uchelgais yr Ysgoloriaeth hon fel yr ydym ni'r beirniad yn darllen am ei phwrpas. Gai obeithio hefyd y bydd deiliaid yr Ysgoloriaeth hon yn cyflwyno adroddiad yn disgrifio eu profiadau a sut yr oeddynt wedi dod i ben a chyflawni eu hagenda. Bydden ond yn rhy falch i gyhoeddi'r rhain yn Llafar Bro.
Cafwyd chwe ymgais eleni am yr Ysgoloriaeth a i bob un ohonynt ei gryfder ei hun. Braf gweld fod cymaint o dalent a brwdfrydedd yn perthyn i bobl ifanc y Fro hon. Dim ond un person sy’n medru ennill yr Ysgoloriaeth ac anodd iawn oedd penderfynu.
Enillydd yr Ysgoloriaeth eleni yw Lleucu Gwenllian Williams. Mae Lleucu, 20 oed, yn fyfyrwraig ar hyn o bryd ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd ac yn astudio darlunio (illustration) a hyn yn dilyn ennill diploma BTEC gyd rhagoriaeth yn yr un maes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd o fewn eu Hysgol Gelf a Dylunio. Yn enedigol o Stiniog a’i chartref yn Ffordd Wynne, mae hi’n gyn ddisgybl Ysgol y Moelwyn ac yn dilyn cael casgliad o raddau da yn ei arholiadau TGAU, mynychodd Goleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau.
Mae wedi derbyn sawl anrhydedd: Ei henwebu ar restr fer ysgoloriaeth gelf a chael arddangosfa yn y Lle Celf yn Eisteddfod yr Urdd yn Y Fflint 2016; Ennill gwobr 'awdur y flwyddyn' yn ei blwyddyn olaf yn Ysgol y Moelwyn, a chael sesiynau mentora sgwennu creadigol efo Bethan Gwanas. Mae’n rhugl mewn Ffrangeg, a bellach yn dysgu Sbaeneg, ac yn ei hamser sbâr mae’n hoffi mynydda, dringo a syrffio ynghyd â chanu’r piano, y delyn a’r gitâr.
Disgrifiodd Lleucu gynllun creadigol a gwreiddiol iawn yr hoffai ei weithredu ym Mhatagonia. Fel myfyrwraig ddarlunio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae wedi plethu nifer o syniadau i un cynllun. Mae ei phrosiect yn pwysleisio gweithio trwy gyfrwng celf ac mae hwn yn gyfrwng pwerus a chynhwysol sy’n medru croesi ffiniau iaith, oed a chefndir. Mae am geisio darlunio’r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia. Ei bwriad yw cynnal gweithdai yn Rawson wedi ei hanelu at bobl ifanc a’r rhain wedi eu selio ar chwedloniaeth Cymru, yn benodol y Mabinogi. Yn ei chynllun mae’n sôn am greu casgliad o weithiau celf yn seiliedig ar y berthynas rhwng y ddwy wlad. Byddai’r rhain wedyn yn cael eu harddangos mewn sawl lleoliad yn y dref wedi iddi ddychwelyd adref.
-----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018 (heb y lluniau uchod).
Llafar Bro yn holi Lleucu
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon