28.9.18

Llechen i bawb o bobl y byd

Mae disgyblion o Ysgol y Moelwyn wedi cysylltu â gwleidyddion mwyaf blaenllaw y byd mewn ymgais i gefnogi cais ardaloedd llechi Gwynedd am Safle Treftadaeth y Byd. 

Derbyniodd Arlywyddion, Prif Weinidogion a theuluoedd brenhinol ar draws y byd lechen o ‘Stiniog gyda’r logo ‘Llechi Bro’ mewn ymgais i bwysleisio pwysigrwydd hanesyddol a gogoniant diwydiant chwareli Ffestiniog.


Cafodd y llechi eu hanfon hefyd at y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, i Antarctica ac i wladwriaethau nad ydynt hyd yma yn cael eu cydnabod gan y Cenhedloedd Unedig, fel Palesteina.


Gofynnodd y disgyblion i’r arweinwyr dynnu llun gyda'u llechen i ddangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch. Mae swyddfa Prif Weinidog Prydain, Theresa May hefyd wedi ymateb ond siom gafodd yr ysgol i dderbyn llythyr gan ei swyddfa yn adrodd nad oedd amser ganddi i gymryd rhan!

Llechi i’r Gambia a’r Gofod
Gareth Davies, athro Daearyddiaeth Ysgol y Moelwyn (*) sy'n cydlynu'r cynllun, ac mae’n hynod falch o ddatblygiad y prosiect.
"Mae'r myfyrwyr yn mwynhau'r profiad unigryw hwn, a thrwy eu brwdfrydedd a’u cariad at Ddaearyddiaeth, maent yn fodlon dangos eu balchder at y diwydiant llechi a balchder at eu bro a’u diwylliant i’r byd. Maent yn gweld ei fod yn hanfodol gwarchod eu gorffennol a’u dyfodol," 
meddai Mr Davies.
"Y llynedd, fe wnaethom am y tro cyntaf erioed, anfon darn o lechen Ffestiniog i’r gofod, felly mae'r disgyblion yn ehangu eu gorwelion! Mae'r antur hon yn creu ymdeimlad o falchder yn y bobl ifanc sydd wedi’u hysbrydoli gan yr ymgyrch. "
Mae cryn gost i’r fenter ac mae’r disgyblion wedi cynhyrchu crysau T arbennig i godi arian. Maen nhw ar gael yn yr ysgol ac yn Nhafarn y Pengwern.

Mae’n amlwg yn ôl eu hymateb, bod disgyblion blwyddyn 8 wedi elwa’n fawr yn barod o’r profiad unigryw yma:

 “Dwi’n hapus iawn cael cymryd rhan yn y prosiect yma a gweld yr arlywyddion yn ateb yn ôl”, meddai Sion Hughes; “dwi wedi modelu’r crysau T i helpu eu gwerthu, er mwyn codi arian tuag at gostau postio’r llechi”.

Mae Teleri Wyn Hughes wrth ei bodd fod y logo wnaeth hi gynllunio yn cael ei arddangos ar y crysau swyddogol i’r Wŷl Lechi:  “Gyda lwc bydd pobl yn dal i wisgo’r crysau yma am flynyddoedd i ddod a chofio’r wythnos yma fel digwyddiad hanesyddol”.

Dwi’n mwynhau’r prosiect yn fawr”, meddai Beca Williams, “am ein bod yn dysgu am wledydd y byd, ac ychydig o hanes a gwleidyddiaeth hefyd, heb orfod eistedd mewn gwersi!

 ---------------------
Addasiad ydi'r uchod o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2018.

Diweddariad o rifyn Medi:
Daeth ymatebion o bedwar ban y byd, a’r llythyrau yn dal i gyrraedd. Hyd yma, cafwyd ymateb ffafriol gan Leanne Wood a Carwyn Jones o’n Senedd ni’n hunain yng Nghymru, yn ogystal â llythyrau a lluniau o Samoa, Canada, Monaco, Brasil, Dominica, De Corea, Seland Newydd, Yr Almaen, Sri Lanka, Ffrainc, Malta, a Lwcsembwrg!

Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol y Moelwyn ar eu menter, a phob lwc i’w hathro daearyddiaeth, *Gareth Davies ar ei gyfnod yn dysgu yn Rwsia. Cofia atgoffa Putin am lechi Stiniog...

Dilynwch y datblygiadau ar gyfrif Trydar @LlechiBro


24.9.18

Stolpia -Nofio

Cyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au', gan Steffan ab Owain

Atgoffwyd fi yn ystod y tywydd poeth diweddar o’r dyddiau braf hynny a fwynhawyd gennym ar rai o’r gwyliau haf yn yr 1950au. Yr adeg honno nid oedd pwll nofio cyhoeddus yn y Blaenau, ac felly, mynd i ymdrochi i’r gwahanol lynnoedd a phyllau afonydd lleol a wneid gan amlaf. Byddai llawer o hogiau’r dref yn mynd i nofio i Lyn Fflags, a hogiau Tanygrisiau yn nofio yn Llyn Cŵn, sef un o byllau afon Cwm Orthin, neu yn un o byllau’r merddwr, neu Lyn Cwm Orthin weithiau.

Fel y soniais o’r blaen, roedd gennym bwll yn Afon Barlwyd pan yn blant, sef ‘Llyn Bach Hogiau’, y tu uchaf i Lwnc y Ddaear, sef y twnnel a wnaed ar gyfer gwyrdroi dŵr yr afon ac atal iddo fynd i agorydd y chwarel. Yn hwnnw y byddem yn ceisio dysgu nofio gan amlaf.

Llynnoedd Nyth y Gigfran heddiw. Llun -Steffan ab Owain
Llynnoedd eraill lle yr eid i drochi ynddynt oedd y rhai sydd ger Garreg Flaenllym a Nyth y Gigfran -y llyn mawr a’r llyn bach. Gan mai nofwyr digon sobr oedd y mwyafrif ohonom y pryd hynny, yn y llyn bach y byddem yn ymdrochi bron yn ddieithriad. Pa fodd bynnag, un tro pan gyrhaeddsom y llyn bach, nid oedd fawr o ddŵr ynddo - yn wir, dim ond digon i wlychu bodiau ein traed, ac felly, penderfynasom fentro i ymdrochi yn y llyn mawr, ac yn ymyl yr argae sy’n wynebu’r chwarel. Roedd y dŵr yn weddol gynnes yn fanno, ond ar ôl bod yn cerdded yn ôl a blaen ar gerrig isaf yr argae a oedd yn y dŵr, sylwodd un o’r hogiau -Ken Robs, o bosib- bod sianel ddofn yn y pen pellaf o’r argae a oedd wedi ei gwneud i drosglwyddo dŵr o’r llyn mawr i’r llyn bach.

Pe bai un ohonom wedi camu yn ddiarwybod i’r fan honno (a bu’r cyfan ohonom yn bur agos ati hi mwy nag unwaith heb sylweddoli ei bod yno) wel, byddai yn wedi bod yn amen arnom! Diolch i’r nefoedd na chafodd yr un ohonom anffawd.

Bum yno sawl tro wedyn, ond cadw’n glir o’r llyn mawr a wnai’r hogiau ar ôl y profiad brawychus hwnnw, a byddid yn rhybuddio rhai o’r hogiau iau na ni am y perygl. Cofio tro arall a’r llyn bach bron y wag o ddŵr a phenderfynu mynd i lawr i Lyn Bach Holland, ac er nad oedd hwnnw yn rhyw ddelfrydol i drochi ynddo, i mewn iddo yr aethsom, ac o fewn dim, roeddem wedi corddi’r llaid yn ei waleod nes yr oedd y dŵr fel coco.

Wedi bod ynddo am ryw ugain munud, dyma floedd o gongl y llyn: “Be goblyn ydach chi’n ei wneud yn fanna ?” A phwy oedd yno, ond Wil Williams (Wil Gloddfa Ganol), a oedd yn byw yn un o dai bach Gloddfa y pryd hynny. Eglurodd wrthym mai o’r llyn hwn y derbyniai ei ddŵr i ymolchi a choginio, a dywedodd pan agorodd y tap oddeutu deg munud ynghynt roedd wedi cael llond ei decell o ddŵr budr. Daethasom o’r llyn yn teimlo’n bur euog, ond chwarae teg i’r hen Wil, mi ddywedodd bod croeso inni drochi yn Llynnoedd Nyth Gigfran, ond nid yn ei gronfa ddŵr ef. Y mae hi’n bur debyg mai paned go fwdlyd a gafodd yr hen Wil y pnawn hwnnw !
-----------------------------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Os yn darllen ar ffôn rhaid dewis 'web view').

Llun o gasgliad yr awdur.


20.9.18

Calendr y Cymdeithasau

Bob blwyddyn, mae Llafar Bro yn cyhoeddi rhaglenni gaeaf y Cymdeithasau yn rhifyn Medi. Mae rhywun yn sylwi mor weithgar ydi gwirfoddolwyr Bro Ffestiniog. Oes unrhyw gymuned arall trwy'r byd efo cymaint o weithgareddau Cymraeg tybed? Go brin!

Dyma flas o be sy' mlaen rhwng Medi a Thachwedd: prynwch rifyn Medi i gael y calendr yn llawn; gallwch ei roi ar ddrws yr oergell neu ar wal eich swyddfa.

Cyfarfod Blynyddol Llafar Bro
Nos Iau yr 20fed o Fedi, am 7 o’r gloch yn Y Pengwern.
Dewch i ddangos cefnogaeth i’ch papur bro.

Amrywiol
26ain Medi. Gornest ddraffts yn y Tap. 8.00. Elw at yr Ŵyl Cerdd Dant.
12-13eg Hydref. Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith. Cell.
13eg Hydref. OktoberFfest yn Cell. Gwibdaith Hen Frân; cwrw Cymreig ac Almaenig.
15fed Hydref.  Diwrnod Shwmae Sumae
1af Tachwedd. Noson acwstig, Tacla. Cell.
10fed Tachwedd. GŴYL CERDD DANT Blaenau Ffestiniog a’r Fro
14eg Tachwedd. Sioe Ysgolion Arad Goch, Cerrig yn Slic. Cell.
15fed Tachwedd. Pwyllgor Llafar Bro. 7.00 yn y Ganolfan Gymdeithasol
17eg Tachwedd. A Oes Heddwch? Cofio Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Capel Bowydd 10-4.
17eg Tachwedd. Sioe bypedau Dygwyl y Meirw. Cell
21ain Tachwedd. Cyhoeddi Rhamant Bro 2018
2il Rhagfyr; nos Sul cynta’r Adfent. Plygain yng Nghapel Bowydd (i'w gadarnhau)
11eg Rhagfyr. Dydd Llywelyn Ein Llyw Olaf
Oriau agor Yr Ysgwrn (3 Tach-15 Rhag): Dyddiau Sadwrn 10.30-3.00
Gweler adran Chwaraeon y papur am ddyddiadau gemau cartref y timau lleol
Mae Clwb Cerdded Stiniog yn cyfarfod  wrth Tŷ Gorsaf am 9 y bore bob yn ail Sul. Croeso i aelodau hen a newydd ymuno â ni.

Y Fainc 'Sglodion
Cymdeithas Ddiwylliannol Bro Ffestiniog

Y Ganolfan Gymdeithasol am 7.30 y.h.
AELODAETH - £6. Darlith unigol -£2
Hydref 4ydd: Gruffydd Aled Williams, “Y Cymry yn Russell Gulch, Colorado.”
Tachwedd 1af: Dr Mari Wiliam, “Y Gymru Niwclear”

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
7.15yh ar y trydydd nos Fercher yn y mis, yn neuadd y WI.
Aelodaeth £4 yn unig!
Medi 19eg: Dafydd Jones a Bruce Griffiths, ‘Llyfrau Stiniog’
Hydref 17eg: Rhian Williams, ‘Gweithwyr o bob math’
Tachwedd 21ain: Dafydd Roberts, ‘Atgofion’. Hefyd, bydd rhifyn 2018 o’n cylchgrawn Rhamant Bro ar gael ar y noson.

Fforwm Plas Tan-y-bwlch
Hydref 2 - Cloddio yn ardal Cwm Pennant a Chwmystradllyn yn y 19 Ganrif - Thomas Jones
Hydref 16 – Trysorau’r  Manod – Gruff Rutigiliano
Hydref 30 – Dwy Chwarel Fach Ddiddorol – Steffan ab Owain
Tachwedd 13 – Tyllau Rhiwbach a Thwll Cwm Orthin -J.Peredur Hughes
Tachwedd 27 – Noson Un ac Oll

Merched y Wawr Blaenau
Medi 24ain – Rhisiart Arwel.
Hydref 22ain – Beryl Griffiths.
Tachwedd 26ain – Iola Edwards.  
 
Y Gymdeithas Undebol

Cychwyn am 7.30 Nos Lun, yn Festri Capel Morea, Trawsfynydd, oni nodir yn wahanol.
22ain Hydref.  Noson Agoriadol  yng nghwmni  Y Glas Lanciau, Tremadog  yn y Capel Bach. 
12fed Tachwedd. John Christopher Jones, Beddgelert.

Digwyddiadau Llyfrgell y Blaenau
Dyddiau Mercher 19eg a 26ain Medi. Lliwio i ymlacio 10.30-11.30; Cymorth Cyfrifiadur 10-12; Straeon i Blant dan 5 oed 1.30-2.30
Dyddiau Gwener 21ain a 28ain Medi. Gemau Bwrdd a Jigsôs 3.30-4.30

Cymdeithas Edward Llwyd
Teithiau cerdded natur a hanes lleol; cychwyn am 10.30. Lleoliadau cyfarfod ar wefan y Gymdeithas, neu gan yr arweinydd. Croeso i aelodau newydd.
13eg Hydref. Taith i’r Goedwig Law Geltaidd (Coed Felinrhyd a Llennyrch), dan arweiniad Rory Francis. (Cyfle i weld darn ysblennydd o goetir hynafol, a grybwyllwyd yn y Mabinogi)
27ain Hydref. Tanygrisiau- Tirwedd a Dyfeisgarwch. Rheilffordd, Dŵr a Sôs Coch, dan arweiniad Iona Price. (Taith 5 milltir; chwilota am gynhyrchion y dirwedd)

Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog
7.00 Nos Iau, Canolfan Ddydd, Blaenau.
18fed Hydref. Eira Jones. Plas Pren Mynydd Hiraethog.
13eg Rhagfyr. Keith O'Brien. Archaeoleg Bro Trawsfynydd.



16.9.18

Cyfres 'Dŵr' 2018

Colofn Olygyddol a chyflwyniad rhifyn Medi 2018

Pleser mawr ydi cael bod yn olygydd rhifyn Medi bob blwyddyn. Mae’r bwlch ym mis Awst yn rhoi ail wynt i mi bendroni, a mwydro pobol dda Bro Ffestiniog (a thu hwnt) am erthyglau ar gyfer Llafar Bro! Er, mi aeth yn ben sét go iawn arna’i y tro ‘ma ar ôl cynllunio gwael a mynd ar wyliau tra oeddwn i fod wrth y cyfrifiadur yn rhoi’r rhifyn yn ei wely! Ta waeth, mi ddois i ben a’r gwaith rhywsut.

I’R PANT Y RHED Y DŴR
Heb unrhyw amheuaeth, glaw ydi’r pwnc sy’n codi amlaf mewn sgwrs, neu wrth dynnu coes, pan mae rhywun yn sylwi eich bod yn dod o Stiniog.

Mae’r tywydd yn sicr yn ddylanwad mawr ar ein bywydau ni yma yn nalgylch Llafar Bro. Ond er dioddef glaw y mynydd a niwl y dyffryn yn rheolaidd gallwn gysuro’n hunain mae buan iawn mae’r dŵr yn llifo oddi ar y llethrau tua’r môr.

Ac, er gwaethaf sychder haf eleni, mae’n cymryd amodau dipyn mwy eithriadol na hynny i fygwth cyfyngu ar ein defnydd o bibelli i ddyfrio’r ardd yn ein milltir sgwâr ni!

Serch hynny, mi fu toriad yn y cyflenwad eleni, oherwydd smit rhew Chwefror, a nifer o gartrefi heb ddŵr glân Llyn Morwynion am ddyddiau.

Mae pwysigrwydd dŵr wedi bod yn amlwg iawn eleni, ac fel rhifynnau Medi y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhifyn yma hefyd yn dilyn thema benodol, sef dŵr y tro hwn.

Llwyddwyd i droi’r dŵr i felin Llafar Bro, trwy holi cymwynaswyr, cyfeillion a cholofnwyr selog ein papur bro am ddeunydd perthnasol, ac mae’r rhifyn yma’n gorlifo efo erthyglau difyr sy’n rhoi blas i ni o werth  dŵr i’n bro. Mae’n ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd!


Rheswm arall i ymfalchïo yn rhifyn Medi bob blwyddyn ydi Calendr y Cymdeithasau. Rhestr sy’n llawn i’r entrychion o weithgareddau amrywiol a diddorol dros y misoedd nesa, a’r rheiny yn weithgareddau Cymraeg. Oes unrhyw gymuned arall yn y byd efo cymaint o gymdeithasau, clybiau, a mentrau yn gweithredu yn Gymraeg dwad? Go brin.

Dwi’n caru Stiniog! Mae’n bwysig camu’n ôl weithiau i werthfawrogi be sydd gennym ni tydi.

Nid dim ond efo’u hamser a’u herthyglau mae ein darllenwyr yn hael. Mae Llafar Bro yn arbennig o ddiolchgar am eich cyfraniadau ariannol hefyd. Mae rhoddion caredig iawn y mis yma yn golygu medru cyhoeddi mwy o dudalennau, a gobeithiwn fedru argraffu tudalennau lliw o dro i dro yn y dyfodol. Diolch o galon am eich cymwynas.

Gobeithio y bydd rhywbeth at ddant pawb o fewn cloriau’r rhifyn. Gyrrwch air atom y naill ffordd neu’r llall!
-PW
-------------------------------

Cyfres DŴR

Erthygl fonws Mae'r Llechi'n Disgleirio



10.9.18

Mae'r Llechi'n Disgleirio

I gyd-fynd efo'r thema DŴR yn rhifyn Medi eleni, dyma erthygl fonws ar y wefan yn unig. Mi ddaliodd Llafar Bro i fyny efo'r ddarlunwraig leol, Lleucu Gwenllian, a'i holi hi dros banad.


Diolch yn fawr i chdi am gyfrannu celf unigryw eto eleni ar gyfer thema rhifyn Medi, DŴR. Oedd o’n destun hawdd i’w ddarlunio? Sut es di ati i ddewis y cynllun?
Dwi wrth fy modd yn cyfrannu at fy mhapur bro! Roedd o’n anodd i setlo ar ddyluniad terfynol gan fod y thema mor agored, ond unwaith roeddwn i’n gwybod beth oeddwn i eisiau gwneud, roedd y broses yn llifo’n lot gwell. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i gynrychioli dŵr ‘Stiniog heb droi at  clichés glaw! Daeth darlun o frithyll i’m meddwl i o’r cychwyn – roedd fy hen daid, Emrys Evans, yn bysgotwr o fri ac fe wnaeth o ein dysgu ni i gawio plu pan oedden ni’n blant. Ac er nad ydw i erioed ‘di bod yn llawer o bysgotwraig, mae o’n rhywbeth dwi’n cysylltu efo bod adra, ac efo bod o gwmpas llynnoedd ac afonydd y fro.

Mae’r ddelwedd digidol gorffenedig yn gain a manwl iawn; be ydi’r dull ddefnyddis di i greu’r darn gwreiddiol?
Dull papercut wnes i ddefnyddio ar gyfer y darn - Dwi’n defnyddio scalpel feddygol i dori patrwm mewn papur.


Mae’n edrych yn waith cywrain ac anodd; ydi’r dull yn rhywbeth ti’n ddefnyddio’n aml? Be arall wyt ti wedi gynhyrchu?
Mae o’n ddull dwi’n hoff o ddefnyddio – mae’n gallu bod yn ffordd reit gyfyngedig o weithio gan fod rhaid ffeindio y balans perffaith rhwng manylder a hanieithrwydd (yr elfen abstract), ond dwi’n hoff o hyn gan ei fod o’n gorfodi fi i fod yn greadigol o fewn parameters reit gul. Dwi’n cael trafferth bod yn greadigol weithiau os oes gen i ormod o ryddid.


Yr unig beth ydi darn papercut mewn gwirionedd ydi cyfres o dyllau yn gweithio efo’i gilydd i gynrychioli rhywbeth arall. Does dim posib defnyddio cysgod na lliw, felly mae’n rhaid meddwl am sut i gynrychioli gwahanol textures a phwysau a lliwiau efo’r tyllau bach ‘ma. O berspectif ymarferol hefyd, mae angen meddwl sut fydd y darn yn aros efo’i gilydd – un toriad anghywir sydd angen ac mae’r darn i gyd yn disgyn yn dipiau.

Dwi’n hoff o weithio efo paent ac inc, a dwi wedi bod yn gweithio lot mwy efo photoshop yn ystod y flwyddyn ddwythaf. Dwi wrth fy modd yn creu printiau leino a screenprint hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth dwi eisiau canolbwyntio mwy arno yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae un arall o dy luniau di ar dudalen Gweplyfr/Facebook Llafar Bro, yn dangos cwt weindio inclên toman fawr yr Oclis- paent dyfrlliw wnes di ddefnyddio i wneud hwnnw ia? Ydi dyfrlliw yn gyfrwng ti’n ddefnyddio’n rheolaidd hefyd?
Yndi – paent dyfrlliw ydi fy hoff gyfrwng i ers i mi fod yn blentyn. Mae’n gyfrwng reit amlbwrpas ac yn ffordd lot mwy rhydd o weithio. Mae’n gyfrwng da i gofnodi pethau yn sydyn os dwi allan yn braslunio mewn caffi neu wrth fynd am dro, ond mae’n bosib mynd i fanylder ar ddarn mwy gorffenedig  hefyd. Mae’n gallu bod yn anodd i reoli sut mae’r paent yn gwaedu a’n llifo weithiau ond dwi’n meddwl fod rhywbeth neis am beidio a chael rheolaeth lwyr dros gyfrwng – mae’n golygu fod dim posib gwybod sut fydd darn terfynnol yn edrych tan ei fod o yna, wedi gorffen!

Mae llawer yn cyhuddo Bro ‘Stiniog o fod yn le llwyd, gwlyb a diflas, ac mae goleuni a lliw yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn hanfodol mewn celf, am wn i. Sut mae dy filltir sgwâr wedi dylanwadu ar dy waith?
Dwi’n meddwl fod pobol sy’n cyhuddo Blaenau o fod yn llwyd a diflas heb dreulio digon o amser yma! Mae’n ddigon hawdd peidio a sylwi ar pa mor dlws ydi bro Ffestiniog, ond dwi’n meddwl na un o’r pethau gorau am fod yn berson creadigol ydi ein bod ni’n tueddu i wneud ymdrech i sylwi ar fanylion bach. Efallai fod y tomeni a’r tywydd yn gallu ymddangos braidd yn ddiliw weithiau, ond mae’r llechi’n disgleirio yn yr haul wedi’r glaw, a dail y coed yn wyrdd mwy llachar a ffresh. A does 'mond angen i rywun fynd am dro i lawr i Gwm Bowydd tra mae clychau’r gog yn eu blodau, neu i fyny’r mynyddoedd tra fod y grug allan i weld môr o biws a glas. A dwi’n meddwl mai fy hoff olygfa i yn y byd ydi machlud dros y Moelwynion yn yr hydref. Mae cyhuddo’r fro o fod yn ddiliw yn anheg.

Mi fyswn i’n gallu sgwennu traethawd hir am sut mae fy milltir sgwar yn dylanwadu ar fy ngwaith. Y themâu sy’n tueddu i droi fyny yn fy ngwaith dro ar ôl tro ydi natur; hud a lledrith; a phobol. Dwi wedi bod yn lwcus iawn, gan fod fy nheulu wedi meithrin diddordeb mewn natur ynddai, ac wedi dysgu enwau’r planhigion a’r adar a’r anifeiliaid ac enwau lleoedd i mi. Dwi’n lwcus iawn hefyd fy mod i wedi tyfu fyny mewn ardal lle mae chwedlau o’n cwmpas ni ym mhobman, ac mae cryfder y gymdeithas wedi gwneud i mi gymryd diddordeb ym mywydau pob dydd pobl.

Gan ein bod yn rhoi pwyslais ar ddŵr yn Llafar Bro y mis yma, pa mor bwysig ydi dŵr yn dy gelf?
Dwi’n meddwl ei fod o’n rhywbeth dwi’n ei gymryd yn ganiataol yn hytrach na’n rhywbeth dwi wedi meddwl yn ddwys amdano, gan fy mod i’n rhoi mwy o bwyslais ar grefft a manylder nag ar waith conceptual fel rheol.

Wedi meddwl am y peth, mae’n sicr yn cael effaith anuniongyrchol – pan dwi dan bwysau neu angen amser i feddwl, dwi’n tueddu i fynd i eistedd at afon neu lyn, neu at y môr pan dwi’n gallu. Mae ‘na rywbeth am sŵn bwrlwm afon neu donnau’n torri sy’n rhoi tawelwch meddwl i fi, ac o lonyddwch fel ‘na mae syniadau’n tueddu i ddod. 

Oes gen’ ti gomisiynau eraill ar y gweill, ‘ta wyt ti’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar be sydd o dy flaen yn y Brifysgol wrth i ti gychwyn ar dy flwyddyn olaf yng Nghaerdydd?
Mae gen i lond llaw o gomisiynau ar y gweill ar y funud, sy’n gyffrous ofnadwy! Dwi’n lwcus iawn fod pobl wedi cymryd diddordeb yn fy ngwaith i yn ddiweddar, ac mae’r cwrs yn y brifysgol yn fodlon bod yn hyblyg i adael i mi weithio ar y rhain fel rhan o’r drydedd flwyddyn. Mae gen i siop Etsy i werthu printiau, ond mae hwnnw wedi bod ar wyliau gen i ers pedwar mis gan fod bywyd wedi bod yn reit brysur yn ddiweddar! Dwi’n gobeithio ail-agor hwnnw’n fuan, a dwi’n gobeithio cyd-weithio efo artistiaid eraill ar gwpl o brosiectau, felly dwi’n edrych ymlaen at y flwyddyn sy’n dod!

Be wyt ti’n obeithio’i wneud ar ôl graddio?
Dwi’n ama ‘na gofyn hyn ‘di’r ffordd cyflyma’ o wneud i fyfyriwr grïo - dwi ddim yn hollol siwr eto! Mi fyswn i’n hoffi gweithio fel darlunwraig freelance, ond mae’n cymryd dipyn o amser ar ôl graddio i wneud enw i chi’ch hun, felly mae’n siwr y bydd hi’n chydig o flynyddoedd cyn fyddai’n gallu gwneud hynny’n llawn amser. Mi fyswn i wrth fy modd yn gweithio mewn stiwdio animeiddio ar y gwaith pre-production a visual development, yn datblygu'r straeon a’r cymeriadau, neu mi fyswn i wrth fy modd yn gweithio fel dylunydd ffasiwn neu decstiliau. Mi fyddai’n reit hapus beth bynnag wna’i mewn gwirionedd, os oes ‘na bensel yn fy llaw!

Diolch, a phob lwc efo dy astudiaethau ac i’r dyfodol.
Lleucu ydi deilydd ysgoloriaeth Rawson gan Gyngor Tref Ffestiniog eleni, a gobeithiwn fedru rhannu ychydig o’i hanes ar ôl iddi fod i Batagonia. Gallwch weld mwy o'i gwaith ar Instagram: @lleucu_illustration.


8.9.18

Beirdd y Banc Bwyd


Trwy gydol mis Mehefin eleni bu’r bardd a’r awdur Sian Northey yn Fardd Preswyl ym manc bwyd Blaenau Ffestiniog. Bu’n gwirfoddoli yno ac yn ysgrifennu am y profiad a bu hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda phlant mewn tair ysgol yn yr ardal – Ysgol y Moelwyn, Ysgol Manod ac Ysgol Bro Hedd Wyn. 

Roedd oedran y disgyblion yn amrywio o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 8. Byddant hefyd yn cydweithio gyda’r artist gweledol Mari Gwent o Lanuwchllyn i baratoi gwaith fydd yn ymgorffori rhai o’r cerddi, a bydd y gwaith hwnnw i’w weld yn y llyfrgell Blaenau Ffestiniog hyd at ganol Medi.

Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi ac i lawer o’r plant,” meddai Sian, “er wrth cwrs rhaid cofio hefyd bod llawer o blant yn dod o deuluoedd sy’n derbyn cymorth gan y banc bwyd. Mae trafod prinder bwyd a phwysigrwydd bwyd a’r hyn sydd y tu ôl i’r defnydd o’r banc bwyd wedi esgor ar waith difyr.”

Sian a disgyblion Ysgol y Moelwyn
Caiff y prosiect ei noddi gan Gorfforaeth Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion a’i drefnu gan Y Dref Werdd. Yn dilyn cau capel Calfaria yn y dre yn ddiweddar, cafwyd caniatâd i ddefnyddio cyfran o’r arian gwerthiant ar brosiect i godi ymwybyddiaeth o waith y banc bwyd lleol. 

Dywedodd Tecwyn Ifan ar ran y Bedyddwyr:

Mae hyn yn gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol a chreadigol o sefyllfa ddigon digalon. Mae hefyd yn weithgarwch sy’n dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist i ymateb mewn ysbryd o gariad tuag at bobl yn eu hangen a’u helbulon... Ry’ ni fel Bedyddwyr yn ddiolchgar am gydweithrediad cynllun Y Dref Werdd yn Blaenau i drefnu gweithdau creadigol yn yr ysgolion lleol dan arweiniad Sian Northey.”

Cynhelir y banc bwyd yn Neuadd yr Eglwys gyda aelodau o’r eglwys ac eraill yn gwirfoddoli yno. Mae ar agor dair gwaith yr wythnos a bellach mae yna dros 600 o bobl yn derbyn cymorth yn flynyddol. 

Er bod y banc ym Mlaenau Ffestiniog yn gwasanaethu ardal ddaeryddol eithaf mawr mae yna fwy a mwy o fanciau bwyd yn agor wrth i’r galw amdanynt gynyddu. Mae’r Trussel Trust yn amcangyfrif bod dros 98,000 o becynau bwyd ar gyfer tridiau wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru gan eu banciau bwyd hwy yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Os am fanylion pellach cysyllter â Non Roberts non@drefwerdd.cymru

Bydd yr arddangosfa yn Llyfrgell y Blaenau hyd at y 15fed o Fedi, ond fel tamaid i aros pryd, dyma un o gerddi Sian, a chipolwg o un o ddarnau celf ar y gweill yn Ysgol Manod:

Pwysau

Y ffeil las yw’r beibl.
Er mwyn i ni, y gwirfoddolwyr,
ddysgu o’i adnodau sawl gram o reis,
sawl gram o siwgr a choffi,
yw angen un person,
sawl gram o haelioni, sawl litr o gardod,
yw angen teulu.
Rwy’n pwyso’n ofalus i gyfeiliant swnllyd ei phlant,
ac yn rhoi llwyaid arall o goffi yn y bag,
gan gofio chwarter canrif yn ôl
pan mai’r ffin i minnau rhwng cadw ’mhwyll ac wylo
oedd un baned
a hwythau o’r diwedd yn cysgu.

-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018


4.9.18

Straeon Hanner Nos -Ysbryd yr Ysgubor

Un arall o straeon codi gwallt eich pen gan Dr Bruce Griffiths


Yn 1965 darlithydd oeddwn yn adran Ffrangeg Prifysgol y Frenhines, Belffast.  Y flwyddyn honno penodwyd pennaeth newydd i’r adran, sef yr Athro Harry Barnwell, a ddaeth o adran Ffrangeg Glasgow.  (Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth yn arholwr allanol i Fangor, y deallais mai o Langernyw yr hanai, a’i fod yn deall Cymraeg yn ddigon da i arholi sgriptiau Cymraeg).

Un diwrnod cyflwynwyd fi i Mrs Barnwell fel llanc o ‘Stiniog.  Fe wyddai hi am yr ardal: ni fuasai yno erioed ond buasai ffrindiau iddi yno ar wyliau.  “Gawson nhw fwynhad yno?” holais innau.  “Wel naddo”, atebodd hithau.  “Gormod o law Stiniog?”  “Nace ddim – y llety ei hun oedd yn annifyr.

Aeth ymlaen i ddweud sut y buasai pethau.  Mam a merch oeddynt, a fuasai’n aros yn yr un llety ond nid ar yr un pryd a’i gilydd.  Gartref yng Nglasgow holodd y naill y llall.  “Sut aeth y gwyliau?”  "Ddim yn rhy dda, a dweud y gwir, fyddwn i byth yn mynd yna eto!”  Aethpwyd ati i gymharu profiadau.  Aros y buaset mewn hen ysgubor a gawsai ei throi’n fflatiau i ymwelwyr, ac a oedd mor llawn fel y buasai’n rhaid i’r naill a’r llall gysgu mewn rhan o’r ysgubor nas defnyddid fel llofft fel arfer.  Cawsai’r ddwy yr un profiadau annifyr:  gweld ysbrydion gefn nos.  Ysbryd gŵr, neu ysbrydion gwyr, yn gwisgo cwcwll neu gwfl am y pen (fel y byddai mynachod erstalwm). Ond gwaeth na hynny: gweld gŵr ynghrog wrth un o’r distiau.  Wrth reswm, nid oeddynt wedi son wrth neb yn y llety ei hun am yr hyn a welasent.

Yn naturiol, ‘roeddwn i’n glustiau i gyd.  Ni chlywswn erioed hanes o’r fath am unman yn yr ardal.  Ni chofiai Mrs Barnwell enw’r llety, ond ‘roedd yn rhywle heb fod ymhell o’r lein bach.  Awgrymais nifer o enwau ac fe adnabu hi enw Maentwrog – wrth ymyl Maentwrog yr oedd y lle.

Gartref yn y Blaenau dros wyliau’r Nadolig, mi euthum ati i holi ymhellach ynghylch yr hanesyn rhyfedd hwn, ond heb gael unrhyw oleuni nes holi Trefor Davies, un o Faentwrog.  Ar y cychwyn ni soniais wrtho am yr hyn a glywswn, rhag plannu unrhyw syniad yn ei feddwl, ond o’r disgrifiad gallodd enwi’r llety ar unwaith:  ysgubor Ffarm y Plas (‘Home Farm’) wrth ochr y ffordd fawr ger yr Oakley Arms.

Ni soniais am ysbrydion, ond holais a ddigwyddasai unrhyw drychineb neu rywbeth nodedig yno erioed.  Meddyliodd: yna dywedodd sut y buasai i’r hen _ _ _ –(bellach ni chofiaf yr enw) ei grogi ei hun yn yr ysgubor.  A dyna chi: nid stori ffug (ar fy rhan i, o leiaf) yw hon, ac nid oes gennyf unrhyw le i amau geirwiredd gwraig barchus a oedd yn hollol ddieithr i mi ac i ardal ‘Stiniog.

Tybed, ymhlith darllenwyr Llafar Bro, a oes rhywun a allai daflu rhagor o oleuni ar y mater?
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2002
[Llun- Paul W]

1.9.18

Be ydi o am Gwmorthin?

Erthygl wadd gan Aled Hughes, cyflwynydd rhaglen foreol Radio Cymru. Mae’n garedig ei eiriau am Fro ‘Stiniog bob tro; diolch iddo am ei barodrwydd i roi pin ar bapur.
Yma mae’r creigiau’n cyfarfod,
Yma mae’r creigiau fel cyfrinach
Yn closio at ei gilydd, yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd;
Yma mae cwpan unigrwydd.
Llinellau agoriadol ‘Cwmorthin’, Y Weledigaeth Haearn (1965) Gwyn Thomas. Be ydi o am Gwmorthin? O le ddaw yr ymdeimlad yna o hud a lledrith? Pam bod rhywun wrth sefyll yno bron yn gallu arogli’r gorffennol? Dwn ‘im a dwi ddim am wybod. Mae’r teimlad yna; dyna’r unig beth sy’n bwysig. Dwi’n caru Cwmorthin.


Dwi’n caru’r ardal ‘cw i gyd. Cynfal. Rhaeadr Ddu. Rhaeadr Gynfal. Pulpud Huw Llwyd. Mynydd Manod. Llyn Stwlan. Y tomenni...

Chi. Y bobol. Wastad yn groesawgar. Y Gymraeg wastad yn gyntaf. Y syniad o gymuned a helpu’ch gilydd yn rhan anatod o’ch brethyn chi ers degawdau. Da ‘di Stiniog.

Oes yna un ardal wedi cyfrannu cymaint i ddiwylliant ein gwlad anhygoel? Dwi wedi meddwl am hyn, a dwi ddim yn siwr os oes yna. Ma’ Stiniog yn uchel iawn iawn ar y rhestr o leia’. Dwi ‘di enwi un o’r cewri’n barod, Yr Athro Gwyn Thomas. Merêd. Yws. Anweledig. Rhaid i mi stopio, neu mi fyddai wedi pechu trwy beidio ac enwi rhywun!

Y chwedlau, y lechen, y bobol, y beirdd, y cantorion a’r llenorion. Mae Cymru yn lwcus iawn o’r ardal. Crud Cymreig a Chymraeg naturiol y dylai pawb yn y wlad fod yn falch iawn ohoni. A dyma lle dwi’n poeni. Dyma lle dwi’n edrych ar ardal fel yr un acw a phryderu ynglŷn a be sydd o’n blaenau ni i gyd.

Mae yna newid wedi bod ac mae o yn digwydd. Mae yna fygythiad gwirioneddol i nifer o bethau ‘da ni yn eu cymryd yn ganiataol.

Cwmorthin>Spooky Valley. Cwm Cynfal>Devil Pulpit Cove. Stwlan>Dam Lake. Dychmygwch yr enwau yma yn cael eu defnyddio a’u rhannu a’u pasio o un i’r llall heb neb yn meddwl dwywaith! Wel, does dim rhaid dychymygu. Mae o yn digwydd mewn sawl ardal yn barod. Wrth i bobol ymgartrefu yma a rhannu hyfrytwch ein gwlad â’u gilydd, mae yna enwau yn cael eu creu sydd yn haws i gynulleidfa ehangach eu ‘deall’.

Mae yna nifer yn dod i Gymru, yn gwneud ymdrech, dysgu’r iaith a chyfrannu at ddiwylliant naturiol unrhyw ardal. Diolch o galon amdanyn nhw. Ond mae’r rheini sydd ddim â’r un gwerthfawrogiad yn gallu gwneud difrod. Nid yn fwriadol efallai, ond trwy anwybodaeth, ac mi all hynny fod yn beryclach.

Ar lafar, ar instagram, twitter a facebook. Os oes yna enwau sydd wedi eu creu yn cael eu rhoi ar leoliadau - cywirwch nhw! Mae’r cyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni, go brin y daw arweiniad o unlle arall. Dwi ddim yn gwybod a fydd hyn yn ddigon. Mae’n bosib’ fod rhai llefydd eisioes wedi colli’r enwau cynhenid am byth. Ond dwi ddim yn meddwl bod pwdu a digaloni am helpu chwaith. Ein lle ni ydi amddiffyn treftadaeth ein cyn-deidiau.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2018.

Dilynwch Aled ar Twitter a Facebook: @Alnodllawn
BBC Radio Cymru 8.30-10 bob bore (Llun-Gwener)

[Llun- Paul W]