Dyddiadau/Cyflwyno Deunydd

Mae croeso i chi yrru e-bost at ein swyddogion, neu gysylltu trwy facebook a twitter, ond cofiwch mai gwirfoddolwyr ydi pob un; byddwch yn amyneddgar os na chewch ateb ar unwaith.
Diolch.

Y Dref Werdd sydd yn gyfrifol am ddosbarthu, ac maen nhw o dro i dro yn gwneud hynny ddiwrnod yn gynharach na welir yn y tabl isod.



---------------------------------------------

Gyrru deunydd at Llafar Bro:

Gallwch yrru atom trwy e-bost i olygydd y mis (gweler y tab CYSYLLTU); at yr e-bost cyffredinol llafarbro@btinternet.com  neu drwy neges facebook os hoffech. Gallwch hefyd gyflwyno eitemau byrrach ar bapur a'u rhoi i'ch gohebydd ardal, neu yn ffeil Llafar Bro yn Siop yr Hen Bost (y siop lyfrau), yn Stryd Fawr y Blaenau.

Peidiwch a bod yn swil! Mae eich Cymraeg yn tsiampion. Peidiwch a phoeni am sillafu na gramadeg. Bydd y golygydd yn medru twtio lle bo angen.


DYDDIAD CAU

Mae cadw at y dyddiad cau ar gyfer bob mis yn hanfodol ar gyfer deunydd sydd angen ei deipio. Yn achos deunydd digidol, mae modd -weithiau- ei dderbyn ddiwrnod neu ddau ar ôl hynny, ond cysylltwch â'r golygydd cyn gyrru os gwelwch yn dda.

CYFARCHION

Mae'n hyfryd cael cynnwys cyfarchion penblwydd, a brysiwch wella, a llongyfarchiadau, priodasau, arholiadau, ac ati yn ein colofnau cymunedol. Yn yr un modd, rydym yn falch i rannu eich negeseuon yn cydymdeimlo, neu yn cofio am anwyliaid sydd wedi'n gadael. Nid oes unrhyw gost am eu cynnwys, ond byddwn yn croesawu rhodd fechan, os medrwch, tuag at gostau cynnal y papur.

TEYRNGEDAU

Pethau personol a sensitif iawn i deuluoedd ydi teyrngedau am eu hanwyliaid. Anodd iawn felly, ydi i olygydd ddethol darnau allan o deyrnged sy'n rhy hir, ac mae'n hawdd iawn pechu wrth adael rhywbeth allan. Gofynwn felly i deyrngedau fod dim hwy na 600 o eiriau; neu 500 os oes llun efo'r ysgrif. Diolch am eich cydweithrediad.

ERTHYGLAU ac ati

Fedr papur bro ddim goroesi heb erthyglau, newyddion a lluniau, felly rydym wrth ein boddau yn derbyn pob math o ddeunydd gan ein darllenwyr.

Yn gyffredinol, mi ddylai testun pob ysgrif fod yn berthnasol i Fro Ffestiniog. Gofynwn i erthygl fod dim hirach na 900 - 1000 o eiriau os gwelwch yn dda, yn sicr os oes llun/lluniau efo hi. Os yw eich erthygl yn hirach na hynny, cysylltwch efo'r golygydd yn gyntaf os gwelwch yn dda, er mwyn trafod os oes modd ei throi yn gyfres.

Fedrwn ni ddim gaddo cynnwys eich deunydd yn y rhifyn nesa fydd yn ymddangos, a chadwn yr hawl i beidio a chynnwys unrhyw ddeunydd sy'n amherthnasol, amhriodol, yn enllibus, neu yn debyg o dramgwyddo neu bechu ein darllenwyr.

Mae datganiadau generig i'r wasg yn llai tebygol o gael gofod gennym, gan nad yw ein darllenwyr eisiau ail-ddarllen deunydd sydd eisoes wedi bod mewn wythnosolion fel y Cambrian News, Yr Herald, neu Golwg, er enghraifft. Rhaid i ni gadw mewn cof bod costau argraffu pob tudalen yn uchel iawn i Llafar Bro, a rhaid blaenoriaethu erthyglau newydd ac unigryw.

Wrth yrru deunydd atom rydych yn rhoi sicrwydd mae chi yw'r awdur, a/neu fod yr hawl gennych i ganiatâu i Llafar Bro ei gyhoeddi yn ddi-dâl, yn y papur, ac ar ein gwefan, os yn briodol.

Cymraeg yw iaith Llafar Bro. Gwirfoddolwyr ydi pawb sy'n cyd-weithio i gynhyrchu'r papur; nid ydym yn medru cyfieithu deunydd o unrhyw iaith arall ar eich rhan.

LLUNIAU
Mae Llafar Bro yn falch o dderbyn eich lluniau -hen a newydd- ond efallai bydd angen dal rhai yn ôl ar gyfer rhifyn arall os nad oes lle.
Hoffwn ail-adrodd ambell beth pwysig hefyd er mwyn osgoi siom:
Mae lluniau sydd wedi eu torri allan o bapur newydd, neu wedi eu ffotogopio yn anhebygol o atgynhyrchu'n dda, ac ni allwn eu cynnwys.
Er mwyn sicrhau'r ansawdd gorau, gyrrwch luniau digidol -ar ffurf jpeg- atom yn hytrach na'u hargraffu ar bapur plaen.
Wrth yrru hen lun atom rydych yn rhoi sicrwydd i Llafar Bro eich bod wedi derbyn caniatad ar unrhyw hawlfraint all fodoli, os yw hynny'n berthnasol.
Yn olaf, ni allwn bostio'r lluniau yn ôl i bawb yn anffodus. Cysylltwch â'r ysgrifennydd i drefnu i'w nôl nhw, neu gyrrwch amlen â stamp os gwelwch yn dda.
Byddwn yn dal bob llun am gyfnod o dri mis cyn eu trosglwyddo i arddangosfa'r Gymdeithas Hanes neu'r Archidfy Sirol.
Diolch am eich cydweithrediad.


RHYBUDD GDPR
Oherwydd rheolau newydd ynglyn â phreifatrwydd data personol, rydym yn gorfod gwneud newidiadau i'r ffordd mae Llafar Bro yn casglu a chadw gwybodaeth bersonol.

Rwan fod y rheoliadau wedi dod i rym, fedrwn ni ddim cyhoeddi manylion neu luniau am bobl heb eu caniatâd nhw, neu -os ydynt yn iau na 13 oed- heb ganiatâd eu rhieni/gwarcheidwad.

Gofynnwn felly i ohebwyr, cyfrannwyr, clybiau, cymdeithasau ac ysgolion sicrhau hyn cyn gyrru deunydd at Llafar Bro.

Yr unig wybodaeth bersonol mae Llafar Bro yn gadw o fis i fis yw enw a chyfeiriad ein tanysgrifwyr, er mwyn medru postio pob rhifyn atynt, neu gyfeiriad e-bost y tanysgrifwyr digidol.