27.11.21

Stolpia- ymestyn llaw

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Un o’r pethau hynny a roddwyd ar brawf yn y chwarel yn ystod haf 1969 oedd ceisio gwella effeithiolrwydd y gwahanol orchwylion o fewn y gwaith. O ganlyniad, huriwyd swyddog dieithr i arolygu amser a symudiad y gweithwyr o un man i’r llall, sef dyn ‘time and motion’. Daeth heibio Ponc yr Efail (Llawr 5) un bore, yn cario oriawr nobl yn ei law ac yn edrych yn bwysig iawn. 

Beth bynnag, roeddwn i wrthi’n gosod creffyn ar beipen ychydig uwchlaw’r bonc i gyfeiriad y mynydd pan ddaeth sledeidiau o gerrig (darnau bras o lechfaen ar sledi) i fyny’r inclên o’r Bôn. Ychydig wedyn, roedd Dafydd ac Evie yn hwylio’r sledeidiau am y felin ond gan fod un o’r sledeidiau yn drwm ymlaen aeth oddi ar y bariau (rheiliau) mewn lle gydag ychydig o rediad fel bod ei phen blaen ar un o slipars pren y ffordd haearn. 

Yn dilyn hyn, a chofio bod y garreg yn un drom, roedd angen ‘band o hôp’ (term y chwarelwyr am griw i gynorthwyo gyda chodi, neu symud pethau trwm) i’w chael yn ôl ar y slêd. Yn y cyfamser aeth Evie i’r felin i nôl criw o ddynion a gwelwn bod y dyn a’i watj ‘time and motion’ yn dechrau mynd yn anniddig. Bu’r criw wrthi am dros ddeng munud yn cael y slediad yn ôl ar y bariau a gwelwn bod amser a symudiad yr hogiau wrth eu gwaith yn ormod o dreth i’r dyn a’r oriawr. Y peth nesaf a welwn oedd, y dyn yn rhoi’r watj o’r neilltu a ffwrdd a fo, a gwelson ni mohono yno byth wedyn!

Evie a Dafydd wrth eu gwaith yn Chwarel Llechwedd

 Ar adegau, byddai’n ofynnol imi wneud gwaith atgyweirio yn y pympiau neu’n un o’r agorydd tanddaearol. Un tro daeth galwad imi fynd i lawr i’r pympiau ar ôl imi orffen fy nghinio a chario rhyw ran efo mi i’w osod ar un o’r motors yno, ac os cofiaf yn iawn, Robin George (Robin Gof) a weithiai yno y prynhawn hwnnw. Gwyddwn hefyd bod Bleddyn Williams (Conglog) a Dafydd Roberts (Gwalia), tad David Emrys, yn gweithio yn un o’r agorydd yn Sinc y Mynydd. Pa fodd bynnag, nid oeddwn yn gwybod bod y ddau wedi bod i fyny ar Bonc yr Efail yn ystod yr hanner awr i ginio.


Bleddyn Conglog

 Wel, tra roeddwn yn ei throedio hi ym mherfeddion y ddaear a’m meddwl ar gyrraedd ‘stafell y pympiau mewn amser da roedd yn rhaid imi fynd heibio hen lefel fechan (twnnel bychan) yn y graig. 

 Yna, pan oeddwn gerllaw’r fan dyma law allan a chyffwrdd fy ysgwydd!


 Credwch chi fi, mi waeddais tros y lle yn fy nhychryn a’i gwadnu hi, ond yna clywn chwerthin - Bleddyn a Dafydd a oedd yn cuddio yno, ac wedi fy nglywed yn dod ar hyd y ffordd haearn, a Bleddyn oedd yr un a ymestynnodd ei law allan. 

 Roedd fy nghalon yn curo fel morthwyl meinar am sbelan, ond mi dderbyniais y cwbwl yn hwyl wedyn.


- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021



23.11.21

Cyfeillion Ysgol y Moelwyn

Dathlwyd canrif bodolaeth Ysgol y Moelwyn ym 1995, ac fel rhan o’r dathlu, gwahoddwyd criw o gyn-ddisgyblion i sefydlu Cymdeithas Cyn-ddisgyblion a Chyfeillion Ysgol y Moelwyn.  

Trefnwyd Aduniad yn Eisteddfod 1997 gan Rhiain a Iola Williams.   Trosglwyddwyd yr awenau i griw o’r Blaenau oedd yn byw yng nghyffiniau Llandegfan sef Beti Jones, Jennifer Thomas, Nia Wyn Williams, Sylvia Wynne Williams a Sian Arwel Davies ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanbedrgoch, Ynys Môn ym 1999.  Cafwyd Aduniad bob tro oedd yr eisteddfod yn y gogledd, hyd 2019.

Aelodau Trenfu’r Aduniad yn eu cyfarfod olaf yn nhŷ Sian.
O’r chwith i’r dde, Beti Jones, Jennifer Thomas, Sian Arwel Davies, Nia Wyn Williams a Sylvia Wynne Williams.
 

Yn 2009, sefydlwyd Gwobr Cyfeillion y Moelwyn er mwyn rhoi ffocws i’r cyfarfodydd.   Amcan y gwobrwyo oedd canfod disgybl neu ddisgyblion a ddyfernid yn gymwys i’w derbyn dan reolau a osodir gan y swyddogion ar ran y Gymdeithas.  Sail y wobr fyddai cyfraniad i’r gymuned leol sydd yn amlygu dinasyddiaeth gyfrifol.  Penodwyd Sian Arwel Davies yn Gadeirydd, y diweddar Robin Davies yn Drysorydd, Elwyn Davies yn Gyfreithiwr Mygedol, a Gareth Jones, Geraint Vaughan Jones, Meinir Humphries a’r diweddar Eifion Williams, yn aelodau pwyllgor ac ar ôl ymddeoliad Meinir Humphries cawsom gymorth parod gan Bini Jones a Ceinwen Lloyd Humphries i ddidoli’r ceisiadau.  

Fe ddylid fod wedi trosglwyddo’r wobr olaf gan Gymdeithas Cyfeillion y Moelwyn fis Tachwedd 2020 ond oherwydd cyfyngiadau Cofid 19 bu raid gohirio ac oherwydd hyn, mae cyfnod Gwobr y Cyfeillion Ysgol y Moelwyn wedi dod i ben.

Roedd criw o chwech yn cyfarfod yn flynyddol i bennu’r gwobrau a chawsom groeso cynnes yn yr ysgol i wneud y gwaith bob tro.  Byddem yn treulio diwrnod cyfan yn pwyso a mesur bob cais.
Cyflwynwyd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Wrecsam a’r Cylch 2011 pan oedd y gronfa wedi cyrraedd £5000.  Roedd hyn yn sicrhau gwobr am ddeng mlynedd.

Yr enillwyr cyntaf oedd Haydn Jenkins a Gwenlli Jones.  Hefyd, yn ystod y cyfnod enillwyd y wobr gan Elan Cain Davies, Dafydd Llŷr Ellis, Heledd Tudur Ellis, Kerry Ellis, Hanna Seirian Evans, Megan Lloyd Grey, Tomos Heddwyn Griffiths, Elain Rhys Iorwerth, Awel Haf Jones, Caryl Jones, Caitlin Roberts, Elin Roberts, Glain Eden Williams, Goronwy Williams, Gwion Rhys Williams, Meilir Williams a Swyn Prysor Williams (enwau yn nhrefn y wyddor). 

Derbyniwyd tua cant a hanner o ymgeiswyr yn ystod y cyfnod a rhannwyd dros £5000 o arian drwy haelioni rhoddion y cyfeillion yng nghyfarfodydd y Gymdeithas yn yr eisteddfodau.

Cawsom y fraint o groesawu Elin Roberts yn Eisteddfod Conwy 2019, a rhoddodd dipyn o’i hanes ers iddi adael yr ysgol.  Roedd yn hyfryd gwrando arni.  Roeddym wedi gobeithio gallu gwahodd rhagor o’r cyn-enillwyr ond nid oedd amgylchiadau yn caniatau.  Tybed fyddai un neu ddau ohonynt yn cysidro ysgrifennu pwt i Llafar Bro i roi dipyn o’u hanes erbyn hyn?

Yn ôl y Cyfansoddiad, “Os daw y gronfa i ben bydd y swyddogion yn sicrhau bod unrhyw arian yn weddill i’w drosglwyddo, er budd i’r ysgol, mewn ymgynghoriad â’r Gymdeithas a phennaeth yr Ysgol.”  

Trafodwyd hyn yn Eisteddfod Llanrwst Dyffryn Conwy 2019 a phenderfynwyd ar ddyfodol y wobr.  Datganodd Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn fod yr ysgol yn awyddus i barhau gyda’r wobr ac roedd yr aelodau oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn hynod falch o glywed hyn.  I’r perwyl yma, cyfarfu pwyllgor trefnu’r Aduniad bnawn Sul, Gorffennaf 4ydd er mwyn dirwyn y cyfan i ben.  Mae’r cyfri erbyn hyn wedi’i gau a’r ddau bwyllgor wedi’u diddymu.

Trosglwyddwyd £1147.70 i gyfri’r ysgol fydd yn sail i ariannu’r wobr.  Rwy'n siwr bydd modd cyfrannu at y gronfa yn y dyfodol.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn hynod ffyddlon i bob aduniad yn yr eisteddfod ac am eu haelioni i’r gronfa a chofiwn yn annwyl am y rhai a gollwyd o’n plith.  Hoffwn ddiweddu gyda nodyn personol o werthfawrogiad am y cyd-weithio hapus a chyson a’r gefnogaeth o du’r ysgol ac aelodau y ddau bwyllgor a holl aelodau Gymdeithas Cyn-ddisgyblion a Chyfeillion Ysgol y Moelwyn.  Fy ngobaith yw bydd rhywun yn barod i drefnu aduniad eto mewn ambell i steddfod yn y dyfodol.
Sian Arwel Davies
- - - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021



13.11.21

Tref Tatws 5 Munud

Prif erthygl rhifyn Medi 2021 gan Ceri Cunnington; gweledigaeth arbennig arall gan griw diwyd Cwmni Bro Ffestiniog

Mae Blaenau Ffestiniog a’i phobl yn enwog, ac yn wir yn cael eu clodfori, am eu gwytnwch a chymeriad unigryw. Ond sut mae troi’r gwytnwch a’r rhinweddau yma yn rhai economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gynaliadwy? 

Tref y Blaenau a'r Moelwynion o inclên y Graig ddu. Llun- Paul W

 Pam na’ allwn i fod fel Betws y Coed?  Sut mae denu twristiaid i lawr o Llechwedd? Be ddaw yn sgil pwerdy Trawsfynydd?  O le daw gwaith i’n pobl ifanc?  Pryd ma’r trên nesa’ yn cyrraedd?  Oes ‘na dal lechi yn y mynydd?  Pam bod pob man wedi cau ar Ddydd Sadwrn?  Lle dwi fod i bostio hwn?

Dyma ydi’r math o gwesitynau sydd wedi herio sawl cyngor plwyf a sir, asiantaeth ac ymgynhorydd, unigolyn ac undeb, llywodraeth a llyffant dros y degawdau diweddar, ac yn wir ers dirywiad cyson yn economi’r dref. Dirywiad, na ellir ei wadu, sydd wedi mynd law yn llaw â dirywiad y diwydiant llechi, ond hefyd, yn fwy dadleuol efallai, dirywiad sydd wedi mynd law yn llaw â chynllunio a datblygu anghynaladwy?

Er yr holl ymdrech i ail danio’r graig, o dwrstiaeth rhemp i gynhyrchu ynni sydd yn cael ei allforio fel y llechi, does neb i weld wedi gallu mynd i’r afael â’r her yma’n iawn, ac felly dal i chwilio am atebion, arweiniad ac achubiaeth o’r tu allan ydi’r tueddiad yn ein hanes diweddar ni.

Ond be os ydi’r atebion wedi’u gwreiddio yma’n barod? Yn ein hanes a’n treftadaeth ni, yma yn ein dwylo a’n diwylliant ni, ac yn enwedig yn uchelgais a gallu ein pobl ifanc ni: y genehedlaeth nesaf!

Mewn gwirionedd, efallai mai dim ond ychydig o ewyllys da gan y rhai sy’n dal grym, wrth bontio a chysylltu gweithgareddau, creadigrwydd, hyder, a ffydd yn ein gallu, sydd angen er mwyn gwyrdroi ein hanes ac ail ddiffinio’n dyfodol a dyfodol ein plant ni.

Wrth ddod i adnabod ein cryfderau fel tref a thrigolion, rydym yn credu bod yma rinweddau ac asedau amhrisiadwy ‘na all unrhyw gynllun datblygu neu strategaeth ddrudfawr o’r tu allan fesur neu  ddehongli. 

Be’ am gychwyn wrth ein traed?               

Y nod ydi dechrau trafod gweledigaeth ‘Tref Tatws 5 munud’ fydd yn adeiladu ar gryfderau mentrau a busnesau cymunedol yr ardal yn unig, gan llawn gydnabod bod gan unigolion, busnesau bach a chanolig lleol, asiantaethau a chymdeithasau, a llawer mwy, ran allweddol -os nad pwysicach- i’w chwarae, er mwyn gwireddu unrhyw weledigaeth hir-dymor.

Gobeithio mai man cychwyn a catalydd bydd yr ysgrif yma er mwyn sbarduno, sgwrsio, cyd-weithio a gweithredu o fewn y gymuned a’r economi leol. Economi sydd yn blaenoriaethu lles pobl yn hytrach na’u blingo.

Rhybudd cyn cychwyn: Dim ond canolbwyntio ar rai mentrau ac adnoddau cymunedol y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ymwneud yn uniogyrchol â nhw mae’r isod.

Dychmygwch fod y Stryd Fawr sydd yn rhedeg trwy dref y Blaenau yn un gwythïen o lechan las a’r cyd-weithio a chefnogaeth yn llifo drwyddi o un pen y stryd i’r llall gan gynnig llwybrau a gwasnaethau cefnogol, addysgol, cymdogaeth, creadigrwydd, masnachu lleol, a chyflogaeth. Y gwasanethau yma i gyd o fewn 5 munud. 

Dychmygwch: ‘Tref Tatws 5 munud’ – mae’r cynhwysion allweddol i gyd yna’n barod?

Yr Hen Coop: Gorwel, Gisda a Chyngor Gwynedd – gwasanethau craidd a statudol cefnogi pobl a pobl ifanc.
Cellb / Gwallgofiaid: Canolfan Gymunedol a Chreadigol i’r ifanc a mwy.
Tŷ Abermwaddach: Llety cefnogi pobl ifanc. 

Seren: Gainsborough, Cylch yr Efail a mwy.
Adeilad Yr Urdd: Canolfan Gymunedol aml-bwpras at ddenfydd gweithgareddau cymunedol drwy gyfrwng y Cymraeg.
Y Llyfrgell: Rhannu, gweld, gwrando, darllen a dysgu.
Youth Shedz: Cefnogi Pobl ifanc. Barnados: Cefnogi teuluoedd a plant.
Y Ganolfan Gymdeithasol: Cartref y Cyngor Tref a chanolfan aml-bwrpas.
Ysgol Y Moelwyn: Addysg y genhedlaeth nesaf.
Y Parc: Gofod gwyrdd yn llawn dychymyg.  

Neuadd Y Farchnad: Potensial anferth!
Y Siop Werdd: Siop bwyd a cynnyrch di-wastraff.  Eifion Stores: Siop DIY cymunedol a mwy.
Coop 1883 (sinema’r Emp/clwb sgwash gynt): Bync-hows a ‘llety argyfwng’ cymunedol.
Siop Ephraim: Gofod hyfforddi, gwneud, creu, trwsio a masnachu?
Caffi Bolton: Gofod cefnogi a masnachu cymunedol.
Safle’r Hen Dŷ Golchi: Gofod cymdeithasu gwyrdd, cymunedol a chreadigol.
BROcast: Newyddion cymunedol, ffilmiau creadigol.
 

Sgwâr Diffwys –

Antur Stiniog, Y Dref Werdd, Cwmni Bro a mwy: Mentrau a busnesau cymunedol yn hwylyso a chefnogi, profiadau gwirfoddoli, hyfforddiant, prentisiaethau, cyfleon gwaith a mwy.

Ac ychydig mwy na 5 munud i ffwrdd….
Y Pengwern: Tafarn, gwesty, bwyty, canolfan gymdeithasol.
Eglwys Llan: Gofod aml-bwrpas i’w ddatblygu i’r gymuned.
Gwesty Seren: Gwesty, bwyty, gwasanaeth arbennigol.

 

Sut mae dod ar cynhwysion uchod a mwy at ei gilydd? 

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cychwyn amryw o sgyrisau i’r perwyl yma efo’r nod o addasu dywediad enwog y sais; ‘Na, tydi gormod o cooks DDIM yn sbwylio’r broth’!


Ceri.C@cwmnibro.cymru / 01766 831 111




9.11.21

Gwreiddiau

Erthygl gan Gareth Jones

Cyfeiriaf at 'Henebion o Bwys' a 'Crwydro', dwy erthygl* yn rhifyn Gorffennaf/Awst oedd yn hynod o ddiddorol imi am nifer o resymau.

Mae ardaloedd llechi y gogledd wedi gweld twf aruthrol fel maes i astudiaethau archaeoleg diwydiannol dros y degawdau diwethaf. Fel Dirprwy Bennaeth Canolfan Astudiaethau Plas Tan y Bwlch ym 1975 un o'm cyfrifoldebau oedd trefnu ymweliadau gwaith maes i chwareli ardal Blaenau megis Cwmorthin; Y Rhosydd; a'r Diffwys. Prin oedd y llyfryddiaeth a'r wybodaeth am ddatblygiad y chwareli adeg hynny o'i gymharu â heddiw ond fe oedd campweithiau ar gael yn amrywio o lyfrau gwerthfawr hanes y plwyf gan G J Williams a Ffestinfab, i erthyglau J Gordon Jones (Tanygrisiau) yn y Trafodaethau a Cyril Parry (Rhiwbryfdir) ar dwf undebaeth chwarelwyr y diwydiant llechi. 

Cwt weindio inclên rhif 3, uwch ben chwarel Maenofferen, ar ben gorllewinol tramffordd Rhiwbach

Tua 1975 hefyd cyhoeddwyd gwaith Lewis a Denton ar Chwarel y Rhosydd ac i mi mewn llawer ystyr roedd y llyfryn yma yn gyfraniad chwyldroadol a arweiniodd at y diddordeb anhygoel yn yr ardal sy'n parhau hyd heddiw. Peidied anghofio chwaith pwysigrwydd 'Y Caban' cylchgrawn yr Oclis a Lord a'r cyfoeth hanesyddol a chymdeithasol sydd yn eu tudalennau. 

Mae'n dyled yn fawr i'r unigolion lleol hynny a sgrifennodd ac a gyhoeddodd erthyglau a llyfrau am chwareli a chymunedau ein bro dros y blynyddoedd. Diolch amdanynt a diolch am y rhai sy'n dal ati ac yn cyfrannu'n gyson i Llafar Bro a Rhamant Bro. Heb enwi neb - mawr yw ein dyled iddynt.

Fy olynydd fel dirprwy ym Mhlas Tan y Bwlch oedd y diweddar Merfyn Williams aeth ymlaen i ddatblygu rhaglen a darpariaeth astudiaethau maes y ganolfan yn hynod effeithiol a llwyddiannus. Colled drom i'n bro ac i faes astudiaethau hanes lleol oedd ei farwolaeth yn llawer rhy gyn amserol.

Dim rhyfedd felly bod Cadw yn deall, a phellach, yn cydnabod statws treftadaeth byd eang yr hyn sydd gennym ym mro chwarelyddiaeth Ffestiniog ac ardaloedd eraill y gogledd orllewin! Mae pobl Stiniog yn ymwybodol o hynny ers blynyddoedd maith. Ymddiheuraf imi grwydro chydig o'm testun ond dof yn ôl at yr erthyglau. 

Ddechrau Mehefin eleni cerddais heibio Fuches Wen i fyny hen lwybr y Diffwys at Llynnoedd Dubach ac oddi yno tros domennydd rhan uchaf y chwarel i gyfeiriad rheilffordd Rhiwbach. Es heibio yr hen Dŷ'r Mynydd, tros y gamfa wal y mynydd sy'n haeddu sylw a chofnod fel un o'n henebion dybiwn i, tuag at Tŷ'r Mynydd gyda Moelydd Barlwyd a Phenamnen yn y cefndir. Golygfa anhygoel a thu hwnt tuag at fawrion Eryri. 


Mae gennyf ddiddordeb hanesyddol teuluol yn y Tŷ'r Mynydd (a nodir fel 'sheepfold' ar fapiau OS) sy'n sefyll yn adfail heddiw ger ffordd haearn Rhiwbach. Yma y ganwyd a magwyd fy nhad Thomas tan ‘roedd yn dair oed cyn i'r teulu symud ac ailgartrefu yn y Blaenau tua 1905. Mae'n ddirgelwch imi o dan pa delerau neu denantiaeth yr oedd fy nhaid a'i deulu yn cael byw yn yr hen dŷ. Deallaf fod fy hen daid Thomas wedi ei gyflogi i oruchwylio defnydd a rheolaeth dŵr Llynnoedd Bowydd a'r afon Bowydd a ddefnyddiwyd i weithio'r peiriannau chwarel. 

Cyfeirir at Tŷ'r Mynydd yn Hanes Plwyf Ffestiniog, G J Williams (tud.86) lle mae o'n son am Chwarel Maenofferen a bod Morgan Jones wedi ei benodi i fyw yno i ehangu lefel oedd eisioes ar y ffin rhwng tiroedd Maenofferen a Gelli. 'Lefel Morgan' fel y gelwid hi. Dw i ddim yn credu bod Morgan yn perthyn i'n teulu ac os deallaf yn iawn, symud o Langollen i Dŷ'r Mynydd ddaru fy hen, hen daid Thomas a'i deulu gan gynnwys fy nhaid Wmffra, i oruchwylio ac i adeiladu a chynnal y cronfeydd a'r cafnau.

Treuliodd fy nhaid, Wmffra Jones, (Wmffra Tŷ'r Mynydd) flynyddoedd maith fel saer coed yn Chwarel y Llechwedd. Un tystiolaeth o’i waith a'i gyd seiri/chwarelwyr sydd wedi goroesi yw'r cafnau dŵr sy'n rhedeg o Lyn Newydd Bowydd i lawr at bwll nofio cyhoeddus cyntaf y Blaenau (wel dyna oedd o i hogia a genod Maenfferam) sef Llyn Fflags! Cyfeiriwyd dwy nant gan y chwarel i greu y gronfa: 'Ceg Afon' oedd y fan yma inni - man lle dysgodd dwsinau ohonom ar hyd y blynyddoedd i nofio -nid cystal a Tarzan Pictiwrs Parc; wel yn ei steil o beth bynnag!

Tystiolaeth arall o'u crefftwaith ond ysywaeth, sydd heb oroesi, oedd yr Erial. Gwn i Wmffra Jones fod yn flaenllaw yn y tîm o chwarelwyr (dan arweiniad arbenigwr peirianyddol o Dde Affrig -os deallais yn iawn)- a adeiladodd fecanwaith yr Erial fu yn dirnod mor amlwg yn yr ardal am flynyddoedd cyn ei dymchwel yn gymharol ddiweddar. Enghraifft arall o fedrusrwydd anhygoel ein chwarelwyr i addasu'r broses chwarelyddol ar gyfer strwythurau daearegol ein hardal. Credaf y dylai Cadw ryw ffordd neu'i gilydd, ystyried y gampwaith beirianyddol yma fel rhywbeth unigryw i Stiniog. Dyffryn Nantlle wrth gwrs yw canolfan y Blondins fel eu gelwid ond peidied anghofio cyfraniad ein Blondin ninnau i'r diwydiant!

Cyn iddo ymddeol pan oedd tua 80 oed ym 1959 cerddai fy nhaid y llwybr gweddol serth o'r A470 yn ddyddiol hyd at ei ddiwrnod olaf yn y gwaith.  Yr un llwybr yn y llun a welsom yn Stolpia a hanes y digwyddiad anffodus a gyfeiriwyd ato gan Steffan Ab Owain** yn rhifyn Gorffennaf/Awst.  'Pwyll bia'i' - dw i'n siwr bod Steffan wedi cael sawl cyngor fel yna gan ei gydweithwyr hŷn.

Rhyw ddeugan llath i'r gorllewin o Dŷ'r Mynydd saif adeilad a ddefnyddiwyd i weithio'r inclên fyddai'n cludo llechi chwarel Rhiwbach i lawr i gyfeiriad Chwarel Maenofferen. Adfail yw hwn erbyn heddiw ond mae'n sefyll yn urddasol fel tŵr hen gastell yn dysteb i aberth a chaledi miloedd o chwarelwyr y fro ac yn sicr mi fydd hwn yn un o'r henebion 'iconic' mae Cadw wedi ei gofnodi. Tynnais ei lun [uchod] a mawr obeithiaf ei fod yn gwneud cyfiawnder â'r hyn mae'r adeilad yn ei olygu yn hanesyddol, economaidd a chymdeithasol i'r ardal. Yn y llun mae cefndir y chwareli a Carreg Flaenllym yn tanlinellu y caledi a'r heriau hinsoddol a thirweddol bu rhaid eu goresgyn i ennill bywoliaeth a chreu cymunedau. 

Fel y nodwyd yn erthygl 'Henebion o bwys', roedd Tŷ’r Mynydd yn “lle anhygoel i fyw”. Ia wir, ar uchder o 1500 troedfedd - i fyny'r inclenau o Blaenau ym mhob tywydd; yn dibynnu ar gyswllt y lein fach i gludo nwyddau i gynnal y teulu a pha bynnag gynhaliaeth oedd bosib o'r tir a chadw anifeiliaid dros ganrif yn ol bellach.

Diolch i Llafar Bro a chymdogaeth Stiniog am gadw ein treftadaeth yn fyw ac o'i ddeall, yn sail i wynebu heriau'r dyfodol yn ieithyddol ac yn gymdeithasol.
Gareth Jones. Un o hogia Maen Fferam
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021. Lluniau gan yr awdur.

* Henebion o Bwys

* Crwydro

** Stolpia

1.11.21

Y Dref Werdd -Cynefin, Coed, a Chlonc

Cynefin a Chymuned i Blant
Braf iawn oedd gallu ail-danio cynllun Cynefin a Chymuned i Blant yn ddiweddar, gyda diolch i Mantell Gwynedd am y grant i’w ariannu am flwyddyn. 

Llywelyn Fawr efo criw Cynefin a Chymuned ar safle Castell Prysor.
 

Mae pymtheg o blant o chwe ysgol gynradd Bro Ffestiniog yn rhan ohono, gyda’r ysgolion wedi dewis y plant, ac mae pob un ohonyn nhw’n bleser i fod yn eu cwmni!

Dros yr haf, rydym wedi cynnal sesiwn wythnosol mewn coedlan leol ble mae’r plant wedi bod yn dysgu am fywyd gwyllt, dod i adnabod coed a phlanhigion gwyllt, gwneud gwaith celf naturiol, chwarae gemau a gwneud ffrindiau newydd. Bydd chwe sesiwn yr haf yn golygu y byddent yn derbyn Gwobr Darganfod John Muir.


Bydd sesiynau dan arweiniaeth amryw o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, gyda phrofiadau unigryw addysgol gwerth chweil. Cynhaliwyd sesiwn hanes drwy law Elfed Wyn ap Elwyn ym mis Awst a sesiwn rhyfeddod pryfaid a chynefinoedd ym mis Medi – profiadau unigryw, cyffrous, llawn hwyl i’r plantos. Bydd mwy i ddod dros y flwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr!

Hoffem ddiolch i’r arweinwyr am wirfoddoli eu hamser er mwyn rhannu eu sgiliau gyda’r plant – dyma wir ysbryd hael pobl Bro Ffestiniog. Diolch o galon i bob un ohonoch.

 

Dod yn ôl at dy Goed
Mae’r cynllun presgripsiynu gwyrdd yn mynd yn dda gyda llawer un yn mwynhau gweithgareddau amrywiol yn ein sesiynau. Rydym wedi cynnal ambell i sesiwn ‘Panad yn y Coed’, wedi gwneud cawl danadl poethion blasus, dod i adnabod coed a phlanhigion ar y safle, gwaith celf clai naturiol a Hapa Zome, Tai Chi, Pilates, wedi ymweld â Fferm Pen y Bryn ambell waith, codi sbwriel, garddio ac wedi cael taith gerdded fach o amgylch Llyn Mair. Mae croeso i unrhyw un ymuno – cysylltwch am wybodaeth pellach.

 

Sgwrs
Rydym yn brin o wirfoddolwyr ar gyfer ein cynllun cyfeillio, Sgwrs, a Ffrindiau yn aros am rhywun clên i gael sgwrsio. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gyfeilliwr sy’n sgwrsio unwaith yr wythnos gyda Ffrind, cysylltwch â ni.
Manylion cyswllt - 07385 783340 neu hwb@drefwerdd.cymru.

Prosiectau Amgylcheddol
Gan fanteisio ar y tywydd poeth diweddar, aeth gwirfoddolwyr Gwelliannau Llan ati i dorri'r ddôl blodau gwyllt yng Nghae Bryn Coed, ac yna gwasgaru'r hadau blodau gwyllt i sicrhau ddôl hardd eto'r flwyddyn nesaf.   

Unwaith eto, mae Gardd Gymunedol Hafan Deg wedi derbyn Gwobr Baner Werdd am fannau gwyrdd cymunedol gan Cadwch Gymru’n Daclus. Diolch enfawr i'r holl wirfoddolwyr gweithgar sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am ein lleoedd gwyrdd cymunedol.

Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ysgolion lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf; dysgu am goed, paratoi gerddi i'w plannu, adeiladu gwestai trychfilod gyda'r plant a'u helpu i ddysgu am bwysigrwydd garddio ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer bwyd!   Yr hydref hwn byddwn yn cychwyn ar brosiect peillwyr cyffrous newydd gydag ysgolion y fro, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr ato.
Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o'r prosiectau amgylcheddol gymunedol, cysylltwch â ni ar 07775723767 neu meg@drefwerdd.cymru
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021