11.9.21

Henebion o Bwys

Cyn clywed am benderfyniad UNESCO ar ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, bu llawer iawn o weithgaredd ym myd llechi Bro Ffestiniog.

Mae CADW, corff henebion llywodraeth Cymru, wedi bod yn brysur iawn yn dynodi llawer o olion diwydiant llechi Stiniog fel henebion o bwys cenedlaethol yn ddiweddar. Dyma’r statws -a’r gwarchodaeth- a roir i’r cestyll a safleoedd archeolegol hynafol Cymru hefyd.

Efallai fod hyn yn hysbys i rai o’n darllenwyr, ond roedd yn newyddion newydd sbon danlli i Llafar Bro nes mynd ati i chwilio am wybodaeth mewn ymateb i erthygl fach hyfryd ddaeth i mewn gan un o’n dosbarthwyr lleol ni am grwydro chwarel Rhiwbach.

Dynodwyd inclêns Trefeini a Maenofferen; ffordd haearn Rhiwbach; argaeau Llyn Newydd a Llyn Bowydd; inclên Blaen y Cwm; ac inclên a chwarel Rhiwbach a’i hadeiladau amrywiol, yn heneb swyddogol a warchodir o hyn allan gan y gyfraith. Enw'r heneb ar y gofrestr o henebion o bwys cenedlaethol ydi Chwarel Rhiwbach, y Dramffordd a’r System Inclein (CN414), ac fe hysbyswyd y perchnogion tir o'r dynodiad swyddogol yn gynharach eleni, ar ôl cyfnod o ymgynghori.


Ffordd Haearn Rhiwbach ar lan Llyn Bowydd. Llun PW.

 

Bu’n ddigon anodd canfod manylion am hyn ar y we, ond o edrych yn fanylach (Archwilio -adnodd gwych ar gyfer nodweddion hanesyddol Cymru) mae’n ymddangos fod Cadw wedi dynodi’r canlynol hefyd: 

Dynodwyd Chwarel Diffwys yn heneb ym mis Gorffennaf y llynedd (CN413); Tomen Fawr yr Oclis ac olion Chwarel Nyth y Gigfran (CN422) ym mis Chwefror eleni; Chwarel y Wrysgan a’i hinclên drawiadol (CN423) fis Mai, a Chwarel Cwmorthin (CN425) fis Mehefin eleni! 

Mae Llafar Bro yn deall na fu ymgynghori efo Cyngor Tref Ffestiniog nac efo Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, ac yn siomedig, nid yw Cadw wedi rhannu unrhyw wybodaeth efo papur bro y cylch! Nid yw’n amlwg i mi fel rhywun sydd wedi crwydro pob un o’r chwareli yma llynedd ac eleni, fod arwyddion na hysbysiadau cyhoeddus wedi eu rhoi allan ar y safleoedd i annog y gymuned i ymateb i’r ymgynghoriad ychwaith. 

Serch hynny, testun balchder dwi’n siwr ydi’r cydnabyddiaeth o bwysicrwydd chwareli Stiniog i dreftadaeth Cymru.

Efallai y cawn fanylu mewn rhifyn arall o Llafar Bro. Be mae ein darllenwyr yn feddwl? Gyrrwch air atom.

Melin Maenofferen
Mae un o is-gwmniau Llechwedd, 'slate heritage international ltd' wedi cael £7,500 gan y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol, er mwyn archwilio'r posibilrwydd o droi melin eiconig Maenofferen yn 'residential and activity centre for youth groups from across the UK'...

Mewn ymateb i ymholiad gan Llafar Bro, dywedodd llefarydd ar ran y gronfa “Bydd cyfleoedd i’r gymuned fod yn rhan o siapo’r cynlluniau am ddyfodol cynaliadwy.” 

Mae Cwmni Bro Ffestiniog wedi cysylltu â Llechwedd i gynnig hwyluso’r ymgynghoriad cymunedol hefyd, ac mi fyddwn yn rhannu unrhyw drefniadau efo chi yn y rhifyn nesa* ac ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

Ai dyma'r defnydd gorau i safle mor bwysig? Onid oes digon o ganolfannau awyr agored yn Eryri eisoes, o Blas Dolymoch i Blas Gwynant a Bwlch Nant yr Haearn a llawer un arall? Be ydi'ch barn chi? Edrychwn ymlaen i gael cyfrannu at y drafodaeth.

Nôl yn y gwanwyn fe gyhoeddodd Clwb Clinc ieuenctid Cell -fel rhan o brosiect LleChi- ffilm fer am hogyn lleol -Owain Jones- yn apelio’n angerddol ac aeddfed iawn am warchod y felin ar gyfer y gymuned; gwarchod treftadaeth a hanes diwydiannol ein hardal i genedlaethau’r dyfodol. 


 Mae angen cryn waith i atgyweirio’r felin, a hoffai Owain weld amgueddfa yno neu rywbeth fel bod pobl leol yn cael gweld rhan bwysig o’u hanes. 


Melin Maenofferen; mae cyflwr y to yn dirywio o ddydd i ddydd. Llun PW.

--------------------------------------

* Yn anffodus wnaeth Llechwedd ddim ymateb o gwbwl i gais Cwmni Bro, ond gobeithir y bydden nhw'n gweld bod gan y gymuned hawl i'w llais ar ddyfodol yr adeilad.

 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn  rhifyn Gorffennaf/Awst 2021

Diweddariad -o ryw fath- o Ragfyr 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon